languages

ciltcymru.org.uk
  • No tags were found...

yma - CILT Cymru

Pam mae llythrennedd yn y famiaith mor bwysig?

Er mwyn i ddisgyblion fod yn hollol gymwys yn llythrennedd y Gymraeg neu’r

Saesneg, dengys ymchwil ei bod yn bwysig cefnogi rhuglder ar lafar yn eu mamiaith yn

ogystal â’u sgiliau darllen ac ysgrifennu.

• Mae disgyblion 11 oed sy’n siarad tair iaith o

fwrdeistref Hackney yn Llundain yn perfformio’n

well na’u cyfoedion uniaith mewn profion darllen, ac

mae ganddynt hefyd y gallu i adrodd straeon mwy

cymhleth. (Dr Raymonde Sneddon, Cymrawd

Ymchwil yn UEL, rhwng 1996 a 2000)

• Gwelir tystiolaeth amlwg o gyrhaeddiad academaidd

uwch gan fyfyrwyr sy’n mynychu dosbarthiadau yn

eu hiaith gyntaf. Mewn astudiaeth o ganlyniadau

TGAU 48 o fyfyrwyr Cyfnod Allweddol 4 o Lundain,

enillodd y 41% oedd yn mynychu dosbarthiadau

mamiaith Portiwgaleg 5 neu fwy o raddau A*- C ;

dim ond 8% o ddisgyblion sy’n siarad Portiwgaleg

nad oeddent yn mynychu dosbarthiadau yn eu

mamiaith a enillodd gymwysterau o fewn yr ystod

hon. Mae’r data a gasglwyd mewn perthynas â

disgyblion iau hefyd wedi arwain at ganlyniadau

tebyg. (Traethawd PhD Barradas 2004)

Beth ddywedodd ysgolion yng Nghymru?

O’r ysgolion hynny yng Nghymru a arolygwyd sy’n cynnig

cyfleoedd i ennill cymhwyster mewn ieithoedd cymunedol:

• soniodd dros hanner ohonynt y gwelwyd gwelliannau

yn hyder, hunan-barch, ymrwymiad a chyrhaeddiad

disgyblion;

• soniodd dros hanner fod ennill achrediad yn gwella

cymhelliant disgyblion i ddysgu ITM a’u cymhelliant

i ddysgu yn gyffredinol, ac yn gwella eu sgiliau

llythrennedd a darllen;

• gwelwyd gwelliant yn sgiliau rhifedd a gwyddoniaeth

disgyblion mewn rhai ysgolion.

Hefyd:

• Mae mwy na hanner yr ysgolion yn credu bod

ennill cymhwyster mewn ieithoedd cymunedol yn

gwella proffil cymdeithasol disgyblion ac yn arwain

at dderbyn amrywiaeth yn well. Mae disgyblion

yn cyflawni’n uchel ar draws y cwricwlwm ac yn

chwarae rhan bwysig ym mywyd yr ysgol, ac yn

cymell eraill; fel y dywedodd un ysgol, ‘maent yn

dylanwadu ar bobl’.

• Mae ychydig o dan hanner yr ysgolion o’r farn

bod cynnig cymwysterau ieithoedd cymunedol yn

cynorthwyo i gadw cysylltiad â rhieni ac, mewn rhai

achosion, mae wedi llwyddo i newid canfyddiadau

Mewn astudiaeth ymchwil gan CILT Cymru, dywedodd

rhai ysgolion nad oeddent wedi cael unrhyw geisiadau

am ddarpariaeth ieithoedd cymunedol, a bod yr holl

ddisgyblion yn hyfedr iawn mewn Saesneg ac felly’n

gallu cael at y cwricwlwm sy’n cael ei gynnig. Mae

hyn yn awgrymu nad yw llawer o ysgolion yn ystyried

cynnig cymorth ar gyfer ieithoedd cymunedol heblaw

bod angen cymorth sylweddol ar ddisgyblion gyda’r

iaith Saesneg. Mae cynnig ieithoedd cymunedol yn

amlwg yn ffordd werthfawr i ysgolion greu cyfleoedd i

ddisgyblion ennill rhagor o gymwysterau. Fodd bynnag,

mae’n ymddangos nad oes digon o werthfawrogiad am

yr ystod lawn o fuddion addysgol a gwybyddol pwysig

eraill sy’n dod i’r amlwg drwy gyflwyno

ieithoedd cymunedol.

negyddol rhieni ynghylch

statws ieithoedd cymunedol.

• Mae ambell ysgol yn credu bod

ennill achrediad mewn ieithoedd

cymunedol yn hwyluso cynnydd mewn Cymraeg/

Saesneg ar gyfer disgyblion Cymraeg fel Iaith

Ychwanegol/Saesneg fel Iaith Ychwanegol (CIY/SIY).

Dywedodd un ysgol fod disgyblion sy’n gweithio

i geisio ennill cymwysterau mewn ieithoedd

cymunedol wedi datblygu’n rhyfeddol o ran dysgu

Cymraeg a Saesneg, a rhagwelir y bydd y disgyblion

hyn yn ennill graddau TGAU uwch yn y ddwy iaith.

• Ysgrifennodd un ysgol fod ennill achrediad mewn

ieithoedd cymunedol yn ffordd ddefnyddiol o

gynorthwyo disgyblion sy’n newydd i system addysg

y DU i ymgartrefu ac ennill ymdeimlad o gyflawni.

• Pwysleisiodd yr ysgolion fod y graddau TGAU uchel

a gyflawnwyd gan ddisgyblion yn eu hieithoedd

cymunedol wedi cyfrannu at wella proffil cyffredinol

ysgolion; mae’r cyfraniad hwn yn gallu bod yn

sylweddol mewn achosion lle mae perfformiad

TGAU yn mesur gwelliant cyffredinol yr ysgolion.

Felly beth allwn ni ei wneud yn yr ysgol i gefnogi ein

disgyblion?

Pob ysgol:

• Cysylltu â’ch Gwasanaeth Cyrhaeddiad

Lleiafrifoedd Ethnig (EMAS), sy’n gallu rhoi cyngor

a chyfarwyddyd ynghylch pob agwedd ar gefnogi

mamiaith.

• Cysylltu â’ch ALl i gael gwybodaeth am ffynonellau

lleol o gefnogaeth i bobl sy’n siarad ieithoedd

cymunedol.

• Cynnwys rhieni;

• (Mewn ysgolion cynradd yn enwedig) cynnig

cyfarwyddyd i rieni ynghylch sut i ddarparu

cefnogaeth i ddatblygu llythrennedd - addysgu

gweithdai darllen ac ysgrifennu neu awgrymiadau

• Gwahodd rhieni sy’n siarad ieithoedd cymunedol

i’r ysgol i roi gwersi blasu yn eu hiaith (gweler

enghraifft o arfer da yma: www.cilt.org.uk/

home/valuing_languages/european_

language_label/2010_winners/community_

languages_tasters.aspx )

• Os ydynt ar gael, defnyddio cynorthwywyr

dwyieithog yn yr ystafell ddosbarth i gefnogi sgiliau

darllen ac ysgrifennu disgyblion yn eu mamiaith.

• Cynnal clybiau iaith yn ystod amser cinio neu ar ôl

ysgol.

• Sicrhau bod llyfrau darllen dwyieithog yn yr ysgol.

Cysylltwch â’ch llyfrgell/ gwasanaeth EMAS lleol i

drafod sut y gellir rhannu’r adnoddau hyn.

• Adeiladu cysylltiadau ag ysgolion cymunedol a

grwpiau lleol i gael rhagor o gefnogaeth i bobl sy’n

siarad ieithoedd cymunedol.

• Adeiladu cysylltiadau rhwng ysgolion cynradd ac

ysgolion uwchradd a cholegau lleol i ddod o hyd i

bobl eraill sy’n siarad mamiaith y disgyblion.

• Gwahodd staff CILT Cymru i’r ysgol i siarad

ynghylch sut i gefnogi pobl sy’n siarad ieithoedd

cymunedol.

Ysgolion uwchradd:

• Darparu cyfleoedd i ennill achrediad ym mamiaith

disgyblion. Ewch i wefan CILT Cymru

www.cymraeg.ciltcymru.org.uk/ i weld rhestr o’r

holl gymwysterau sydd ar gael.

• Cynnwys eich adran ITM/SIY i gefnogi’r broses

o gyflwyno addysgu – byddant yn gallu darparu

cefnogaeth ar fethodoleg, defnyddio hen bapurau ac

ati.

• Defnyddio gwirfoddolwyr o’r chweched dosbarth

(neu ddisgyblion hŷn) fel cyfeillion iaith i gefnogi

dysgwyr ifanc.

Ewch i wefan CILT Cymru

www.cymraeg.ciltcymru.org.uk/ieithoedd-cymunedol/

i weld astudiaethau achos o arfer da i gefnogi disgyblion gydag ieithoedd cymunedol.

Dyluniwyd yn Design Stage www.designstage.co.uk

Raising standards in literacy:

supporting your speakers

of community languages

languages

Wales in the 21st century is a multi-cultural and multi-lingual nation. According to a

2005 survey of community languages conducted by CILT, the National Centre for

Languages, in Wales, at least 98 languages are spoken amongst some 8,000 children,

in addition to English and Welsh.

In response to the Welsh Government’s action plan for languages Making

Languages Count (July 2010), CILT Cymru produced a research report, the

provision of support for community languages in secondary schools in Wales

in August 2010.

The report found that despite some pockets of good practice across Wales, many

schools remain unaware that supporting their first language can offer linguistic,

educational and cognitive benefits for pupils. Speaking, using and learning in the first

language is a valuable cultural resource with benefits for the individual, the family, the

community, the economy and for society in general. However, the overall provision

of community languages support is inconsistent and tends to occur outside the

mainstream curriculum.


Why is mother tongue literacy so important?

Research shows us that in order for pupils to develop full competency in literacy in

English or Welsh, it is vital to support not only oral fluency in their mother tongue but

their reading and writing skills.

• Trilingual 11 year olds in the London borough

of Hackney outperform their monolingual peers

in reading tests and also have the ability to tell

more elaborate stories. (Dr Raymonde Sneddon,

Research Fellow at UEL, between 1996 and 2000).

• There is clear evidence of higher academic

attainment for students attending first language

classes. In a study of the Key Stage 4 GCSE

results of 48 London students, the 41% attending

Portuguese first languages classes obtained 5 or

more A*- C grades whilst only 8% of Portuguesespeaking

pupils not attending first language classes

achieved within this range. The data collected

in respect of younger pupils also yielded similar

results. (Barradas’ PhD thesis 2004).

What did schools in Wales say?

Of those schools in Wales surveyed that offer opportunities

to gain a qualification in community languages:

• over half reported improvements in pupils’

confidence, self-esteem, engagement and attainment;

• nearly half reported that accreditation improves

pupils’ motivation to learn MFL, their motivation

to learn in general and improves their literacy and

reading skills;

• a few schools reported pupils’ improved numeracy

and science skills.

Moreover:

• More than half of schools believe that achievement

in community languages improves the social

profile of pupils and leads to a greater acceptance

of diversity. Pupils achieve highly across the

curriculum and play a prominent part in school life,

motivating others; as one school reported, ‘they

take people along with them’.

• Just under half of schools believe that offering

community languages qualifications helps maintain

contact with parents and in some cases has

successfully changed parents’ negative perceptions

of the status of community languages.

In the CILT Cymru research study, some schools

said they had received no requests for community

languages provision and that all pupils were highly

proficient in English and therefore able to access

the curriculum on offer. This suggests that many

schools only consider offering support for community

languages when pupils need significant language

support for English. Offering community languages

is clearly a valuable way for schools to create

opportunities for pupils to gain further qualifications.

However, it appears that there is a lack of appreciation

for the full range of other significant educational and

cognitive benefits that teaching

community languages can bring.

• A few schools believe

that accreditation in

community languages

facilitates progress in

English/Welsh for EAL/WAL

pupils. One school reported that

pupils working for qualifications in community

languages have made remarkable progress in

learning Welsh as well as English and that these

pupils are predicted to gain higher GCSE grades in

both languages.

• One school wrote that community languages

accreditation is a useful way to help pupils new

to schooling in the UK settle and gain a sense of

achievement.

• Schools emphasised the contribution of the

high GCSE grades achieved by pupils in their

community languages to enhancing the overall

school profile; where GCSE performance is a

measure for overall school improvement, this

contribution can be significant.

So what can we do in school to support our pupils?

All schools:

• Contact your local Ethnic-Minority Achievement

Service who can provide you with advice and

guidance regarding all aspects of first language

support.

• Contact your LA about sources of local support for

community language speakers.

• Involve parents;

• (In primary schools particularly) offer guidance for

parents on how to support literacy development

– teaching reading and writing workshops or tips.

• Invite parents who speak community languages

into school to give taster lessons in their language

(see an example of best practice here:

www.cilt.org.uk/home/valuing_languages/

european_language_label/2010_winners/

community_languages_tasters.aspx).

• Where available, use bilingual classroom assistants

to support pupils’ reading and writing in their

mother tongue.

• Run language clubs in lunchtimes or after school.

• Have dual-language reading books available in

school. Contact your local library/EMAS service to

discuss sharing these resources.

• Build links with local community schools and

groups to access wider support for community

language speakers.

• Build links between primary schools and local

secondary schools and colleges to find other

speakers of pupils’ home languages.

• Invite CILT Cymru staff into school to talk about

how your community language speakers can be

supported.

Secondary schools:

• Provide opportunities for accreditation in pupils’

mother tongue. See the CILT Cymru website

www.ciltcymru.org.uk for a list of all available

qualifications.

• Involve your MFL/EAL department to support

the introduction of teaching – they will be able

to provide support on methodology, use of past

papers etc.

• Use sixth form (or older pupil) volunteers as

language buddies to support younger learners.

See the CILT Cymru website

www.ciltcymru.org.uk/community-languages/

for case studies of good practice in supporting pupils with community languages.

Designed at Design Stage www.designstage.co.uk

Codi safonau llythrennedd:

cefnogi eich siaradwyr

ieithoedd cymunedol

ieithoedd

Cenedl amlddiwylliannol ac amlieithog yw Cymru yn yr 21ain ganrif. Yn ôl arolwg

ieithoedd cymunedol a gynhaliwyd gan CILT, y ganolfan genedlaethol ar gyfer ieithoedd,

yn 2005, mae o leiaf 98 o ieithoedd yn cael eu siarad o blith rhyw 8,000 o blant yng

Nghymru, yn ychwanegol at y Gymraeg a’r Saesneg.

Mewn ymateb i gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer ieithoedd, Sicrhau

Bod Ieithoedd yn Cyfrif (Gorffennaf 2010), lluniodd CILT Cymru adroddiad

ymchwil o’r enw darparu cefnogaeth i ieithoedd cymunedol yn ysgolion

uwchradd Cymru ym mis Awst 2010.

Er gwaethaf y ffaith y gwelir rhywfaint o esiamplau o arfer da ledled Cymru, canfu’r

adroddiad nad yw llawer o ysgolion yn sylweddoli o hyd y gall cefnogi eu mamiaith

gynnig budd ieithyddol, addysgol a gwybyddol i ddisgyblion. Mae siarad mamiaith, ei

defnyddio a dysgu ynddi yn adnodd diwylliannol gwerthfawr sydd o fudd i’r unigolyn,

y teulu, y gymuned, yr economi a’r gymdeithas yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae

darpariaeth gyffredinol y cymorth ar gyfer ieithoedd cymunedol yn anghyson, ac yn

tueddu i ddigwydd y tu allan i’r cwricwlwm prif ffrwd.

More magazines by this user
Similar magazines