FmEV308ZtCy
Mae’n rhaid bod y sefydliad wedi’i gynnwys yn y gofrestr o sefydliadau addysg annibynnol yn Lloegr. Mae’n rhaid bod yr awdurdod lleol wedi’i fodloni y gall y sefydliad gyflwyno’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a nodir yn CDU y plentyn neu’r person ifanc. 13.26 Os yw rhiant neu blentyn eisiau dewis ysgol annibynnol ond bod yr awdurdod lleol wedi’i fodloni bod modd diwallu anghenion y plentyn mewn lleoliad addysg a gynhelir, nid yw’n ofynnol i’r awdurdod lleol ariannu lle’r dysgwr yn yr ysgol annibynnol. Fodd bynnag, mewn sefyllfa o’r fath, dylai’r awdurdod lleol sicrhau ei fod yn egluro’n llawn i’r rhiant a’r plentyn sut y gellir diwallu anghenion y dysgwr heb osod y plentyn mewn ysgol annibynnol, er enghraifft, drwy dalu am gludiant yn ôl ac ymlaen o’r lleoliad addysg a gynhelir. 13.27 Os yw awdurdod lleol yn ystyried a ddylai osod y plentyn neu’r person ifanc mewn ysgol annibynnol, dylai ystyried y canlynol: a yw’r dystiolaeth yn dangos bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ei hangen i ddiwallu ADY y plentyn neu’r person ifanc ar gael yn yr ysgol annibynnol honno yn unig; a yw’r dystiolaeth yn dangos bod modd darparu elfen hanfodol o addysg a hyfforddiant plentyn neu berson ifanc mewn lleoliad preswyl yn unig; a yw’r plentyn neu’r person ifanc angen lleoliad addysgol sydd â chwricwlwm estynedig na ellir ei ddarparu yn rhywle nad yw’n lleoliad preswyl; a oes gan y plentyn neu’r person ifanc anghenion meddygol a/neu anghenion gofal cymdeithasol na ellir eu diwallu gan, neu ar y cyd â, darparwyr lleol mewn lleoliad addysg prif ffrwd, ac a fyddai’n atal yr unigolyn rhag derbyn addysg neu hyfforddiant addas i ddiwallu ei anghenion penodol; a fyddai sicrhau’r ddarpariaeth yn gydnaws ag osgoi gwariant cyhoeddus afresymol. Lleoliadau mewn Sefydliadau Ôl-16 Arbenigol Annibynnol 13.28 Er y bydd SAB prif ffrwd yn gallu cyflwyno’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ei hangen i ddiwallu anghenion rhesymol addysg a hyfforddiant y rhan fwyaf o bobl ifanc ag ADY, bydd rhai pobl ifanc angen lle mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol i sicrhau bod eu hanghenion rhesymol yn cael eu diwallu. Bydd dysgwr ag angen rhesymol am addysg neu Tudalen | 136
hyfforddiant pellach os yw darpariaeth addysgol neu hyfforddiant sy’n gysylltiedig â’i angen dysgu ychwanegol yn sicrhau bod ei gynnydd yn parhau tuag at wireddu ei botensial llawn, neu os yw’r un ddarpariaeth addysgol neu hyfforddiant ar gael i rywun o’r un oed mewn SAB. 13.29 Wrth benderfynu a oes angen lleoli person ifanc mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol, dylai’r awdurdod lleol weithio gyda SAB ac ysgolion. 13.30 Mae sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol yn sefydliadau sy’n darparu addysg neu hyfforddiant ar gyfer personau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol, ac sydd wedi’u trefnu’n arbennig i ddarparu addysg a/neu hyfforddiant ar gyfer unigolion ag ADY. 194 13.31 Nid yw’r canlynol yn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol: sefydliad yn y sector AB; ysgol annibynnol sydd wedi’i chynnwys yn y gofrestr o ysgolion annibynnol yng Nghymru; sefydliad addysgol annibynnol sydd wedi’i gynnwys yn y gofrestr o sefydliadau addysgol annibynnol yn Lloegr; neu Academi 16 i 19. 13.32 Ni all awdurdodau lleol sicrhau addysg neu hyfforddiant ar gyfer person ifanc mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru neu yn Lloegr oni bai bod y sefydliad wedi’i gynnwys yn y rhestr o’r cyfryw sefydliadau a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru 195 . 13.33 Os yw awdurdod lleol yn penderfynu bod lleoliad mewn sefydliad ôl-16 annibynnol yn briodol, bydd manylion y lleoliad yn ffurfio rhan o’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sy’n cael ei disgrifio yn y CDU. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sy’n cael ei disgrifio yn y CDU, ynghyd ag unrhyw fwyd a llety cysylltiedig 196 (os oes angen) ac ni ddylai godi tâl ar yr unigolyn neu ei rieni am hyn 197 . Gall y cyfryw leoliadau fod o fudd penodol i bobl ifanc sydd ag anghenion mwy dwys a chymhleth. 13.34 Cyn penderfynu a yw’n ofynnol darparu lle mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol, bydd rhaid i awdurdodau lleol ddeall y ddarpariaeth arbenigol sydd ei hangen i ddiwallu anghenion y person ifanc. Os nad yw SAB prif ffrwd yn gallu diwallu anghenion y person ifanc, dylid ystyried sicrhau lle iddo mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol. 13.35 Bydd angen i’r awdurdod lleol ystyried addasrwydd a chynaliadwyedd lleoliad a ariennir mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol dros holl gyfnod y rhaglen astudio cyn iddi gychwyn. Dylid ystyried manteision addysgol y rhaglen astudio ar gyfer y person ifanc. Ar ôl i raglen ddysgu gychwyn, dylai’r 194 Mae adran 50(6) o’r Ddeddf yn diffinio ‘sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol’ 195 Adran 50(3) o’r Ddeddf. 196 Adran 12(6) o’r Ddeddf. 197 Adran 43 o’r Ddeddf. Tudalen | 137
Fersiwn Ddrafft o’r Cod Anghenion
Pennod 7.1: Nodi ADY unigolion sy
Pennod 12: Llunio CDU - Gwaith Amla
Atodiad Geirfa Cludiant Asiantaetha
(ii) Mae’r Cod hwn yn gosod gofyn
1.18 Mae Llywodraeth Cymru yn cyfla
Pennod 2: Egwyddorion y Cod Crynode
2.13 Dylai trefniadau trosglwyddo g
wireddu eu potensial. Fodd bynnag,
Pennod 3: Cynnwys a chefnogi plant,
mentora staff; goruchwylio staff; r
addysg ei blentyn, ac mae’n rhaid
Pennod 4: Cyngor a Gwybodaeth Cryno
gwybodaeth a chyngor drwy ddulliau
Pennod 5 - Rôl y Cydlynydd ADY Cry
cydlynu darpariaeth ledled y lleoli
ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru dr
Modelau arfer da ar gyfer Cydlynwyr
SAB mawr Mae'r Cydlynydd ADY yn gyf
2. A oes gan y person anabledd sy
ddarpariaeth ddysgu ychwanegol flae
Ystyriaethau Cychwynnol -Y Gymraeg
gofal iechyd parhaus a CDU: dylid a
A OES GAN BLENTYN SYDD O DAN OEDRAN
Pennod 7.1: Nodi ADY unigolion sy
anallu amlwg a pharhaus i ganolbwyn
ymddangos iddo fel arall, y gall fo
7.1.33 Yn ddiweddarach yn y broses,
7.2.4 Mae manteision nodi ADY yn gy
cwricwlwm, gan gynnwys y canlynol:
7.2.21 Bydd system ysgol ar gyfer a
mewn lleoliadau gwahanol. Os oes gw
Pennod 7.3: Nodi ADY - SAB Crynodeb
7.3.10 Mae’n bosibl na fydd rhai
sy’n sylweddol is na chynnydd eu
7.3.28 Fodd bynnag, os oes disgwyl
Pennod 8: Penderfyniad nad oes gan
Enghraifft - llythyr at riant plent
Penderfyniadau Awdurdodau Lleol 8.1
Penderfyniadau SAB 8.21 Mae Pennod
PENDERFYNIAD GAN YSGOL A GYNHELIR N
Pennod 9.1: Dyletswyddau awdurdodau
a’r rhesymau dros y penderfyniad
nad yw’n gallu pennu’r ddarpari
Dyletswydd Awdurdodau Lleol i bende
cofrestru mewn dau sefydliad 86 ac
Bydd y cynrychiolwyr a ddewisir o'r
Pennod 19: Apelau a Cheisiadau i’
grŵp o aelodau’r Tribiwnlys, sy
APELIO YN ERBYN PENDERFYNIAD I DRIB
20.6 Y prif wahaniaeth yn y Ddeddf
ddeddfwriaeth berthnasol. Er efalla
adolygu, gael ei gynnal yn y lleoli
Symud oherwydd gwasanaeth - Efallai
Helpu a Rhannu Gwybodaeth 20.53 Rha
cael ei gadw’n gaeth pan gaiff ei
20.75 Tra bod y person yn cael ei g
Atodiad A - Geirfa Yn yr eirfa hon
ystyr “panel cadeirydd cyfreithio
Atodiad B - Cludiant Crynodeb Mae
gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a
Gwasanaethau eraill awdurdodau lleo
ATODIAD D - CYNLLUNIAU DATBLYGU UNI
Rhesymau dros y penderfyniadau a wn
Safbwyntiau, dymuniadau a theimlada
Beth sy’n bwysig i Josie ar hyn o
Bwydo Bwyta yn yr ysgol Siapiau, pw
Disgrifiad o ddarpariaeth ddysgu yc
addasiadau 01267 238603 adolygiad t
Manylion unrhyw ddatgymhwyso o’r
Crynodeb o ddigwyddiadau allweddol:
Byddai pob adroddiad gan asiantaeth