FmEV308ZtCy
Rhoi cymorth i blant a phobl ifanc mewn perthynas ag unrhyw heriau emosiynol sy’n codi o’r broses, megis mynegi gwahanol farn i’w rhieni. 18.46 Mae’r awdurdod lleol yn gyfrifol am sicrhau bod y gwasanaethau eirioli’n briodol ac o safon addas. Er enghraifft, wrth ddarparu’r trefniadau hyn, dylai’r awdurdod lleol: Sicrhau bod yr eiriolwr wedi derbyn hyfforddiant mewn cyfathrebu â phlant a phobl ifanc, gan gynnwys y rhai ag anawsterau cyfathrebu; Sicrhau bod yr eiriolwr yn addas i blentyn a pherson ifanc, yn hyblyg er mwyn diwallu ei anghenion ac yn gallu addasu i weithio gyda phlant a phobl ifanc, gan gynnwys y rhai ag anghenion mynediad; Sicrhau bod yr eiriolaeth yn cael ei harwain gan farn a dymuniadau’r plentyn neu’r person ifanc, hyrwyddo ei anghenion a’i hawliau a darparu cymorth gan ystyried anghenion y plentyn neu’r person ifanc; Sicrhau bod eiriolwyr yn cael cyhoeddusrwydd, yn hawdd cael gafael arnynt a chysylltu â nhw mewn gwahanol ffyrdd, a bod eu gwasanaeth yn hawdd ei ddefnyddio; Sicrhau bod yr eiriolwr yn deall anghenion y plentyn neu’r person ifanc a bod ganddo wybodaeth berthnasol am yr anghenion hynny, gan gynnwys unrhyw anabledd sydd ganddo; Sicrhau bod yr eiriolaeth yn ymateb i’r sefyllfa ac yn darparu help a chyngor yn gyflym ar gais; Sicrhau bod gan y gwasanaeth gynlluniau ariannu a chyllidebu clir ac adnoddau digonol a sicrhau ei fod yn cael ei reoli’n dda ac yn darparu gwerth am arian; Sicrhau bod eiriolwyr wedi derbyn hyfforddiant addas a’u bod yn parhau i dderbyn hyfforddiant a datblygiad priodol i gyflawni eu rôl yn effeithiol a gwella safonau; Sicrhau bod eiriolwyr yn deall y system ADY; Sicrhau bod gan y gwasanaeth weithdrefn gwyno glir, hawdd ei defnyddio sy’n annog adborth ac yn defnyddio adborth i sbarduno gwelliant; Gofalu bod y gwasanaeth yn cynnal cyfrinachedd i sicrhau ymddiriedaeth y plentyn neu’r person ifanc, cadw cofnodion cyfrinachol a sicrhau bod unigolion ac asiantaethau partner yn ymwybodol o’i bolisïau cyfrinachedd. 18.47 Os yw plentyn neu berson ifanc yn ystyried defnyddio’r gwasanaeth eirioli annibynnol, rhaid i’r wybodaeth a ddarperir gan y gwasanaeth fod yn ffeithiol a diduedd. Rhaid iddi nodi’n glir bod ymgysylltu â’r gwasanaeth yn broses wirfoddol. 18.48 Er y gall plant a phobl ifanc ddewis gofyn am eiriolaeth, dylai awdurdodau lleol gynnig y cyfle i ddefnyddio eiriolwr yn ôl yr angen. Dylai staff Tudalen | 182
fod yn ddigon medrus i nodi’r plant a’r bobl ifanc hynny a fyddai’n elwa ar eiriolwr. Annibyniaeth eiriolwr 18.49 Rhaid i‘r awdurdod lleol roi sylw i’r egwyddor bod rhaid i unrhyw wasanaethau a ddarperir o dan y trefniadau fod yn annibynnol ar unrhyw berson sydd: yn destun apêl i’r Tribiwnlys; neu yn ymwneud ag ymchwilio i apêl o’r fath neu ddyfarnu arni. 263 18.50 Mae annibyniaeth yr eiriolwr yn hanfodol fel y gall weithredu ar ran yr unigolyn. I’r graddau y bo hynny’n bosib, dylai gwasanaethau sy’n darparu eiriolaeth gael eu hariannu a’u rheoli mewn ffordd sy’n sicrhau annibyniaeth ar y sefydliad comisiynu. 18.51 Yr arfer presennol yng Nghymru yw sicrhau annibyniaeth trwy gomisiynu gwasanaethau eirioli gan ddarparwr allanol sy’n atgyfnerthu’r canfyddiad a’r profiad bod y gwasanaeth yn annibynnol. Er mwyn cynnal annibyniaeth trefniadau eirioli, dylai comisiynwyr a darparwyr sicrhau bod unrhyw faterion her a gwrthdaro yn dryloyw a chadarn ac yn cael eu nodi a’u trafod yn y cytundeb lefel gwasanaeth rhwng y comisiynydd a’r darparwr gwasanaethau. Awdurdod lleol yn gweithio gydag eiriolwr annibynnol 18.52 Os oes gan y plentyn neu’r person ifanc eiriolwr, dylai cyrff perthnasol gydnabod mai rôl eiriolwr yw cefnogi a chynrychioli’r plentyn neu’r person ifanc, felly dylent ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan eiriolwr. 18.53 Dylai’r awdurdod lleol sicrhau bod pobl berthnasol, megis staff ysgol/SAB, yn ymwybodol o wasanaethau eirioli, dewis plentyn neu berson ifanc i gael eiriolwr a dyletswydd yr awdurdod lleol i sicrhau bod eiriolaeth annibynnol ar gael. 18.54 Dylai’r awdurdod lleol, yr ysgol a’r SAB gymryd camau rhesymol i helpu’r eiriolwr i gyflawni ei rôl, er enghraifft, rhoi gwybod i asiantaethau eraill bod eiriolwr yn cefnogi plentyn neu berson ifanc, gan hwyluso mynediad at y plentyn neu’r person ifanc ac, os yn briodol, at wybodaeth berthnasol. Dylid sicrhau bod gan yr eiriolwr y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau. 264 263 Adran 62(3) o’r Ddeddf. 264 Tudalen 34 o God y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Tudalen | 183
Fersiwn Ddrafft o’r Cod Anghenion
Pennod 7.1: Nodi ADY unigolion sy
Pennod 12: Llunio CDU - Gwaith Amla
Atodiad Geirfa Cludiant Asiantaetha
(ii) Mae’r Cod hwn yn gosod gofyn
1.18 Mae Llywodraeth Cymru yn cyfla
Pennod 2: Egwyddorion y Cod Crynode
2.13 Dylai trefniadau trosglwyddo g
wireddu eu potensial. Fodd bynnag,
Pennod 3: Cynnwys a chefnogi plant,
mentora staff; goruchwylio staff; r
addysg ei blentyn, ac mae’n rhaid
Pennod 4: Cyngor a Gwybodaeth Cryno
gwybodaeth a chyngor drwy ddulliau
Pennod 5 - Rôl y Cydlynydd ADY Cry
cydlynu darpariaeth ledled y lleoli
ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru dr
Modelau arfer da ar gyfer Cydlynwyr
SAB mawr Mae'r Cydlynydd ADY yn gyf
2. A oes gan y person anabledd sy
ddarpariaeth ddysgu ychwanegol flae
Ystyriaethau Cychwynnol -Y Gymraeg
gofal iechyd parhaus a CDU: dylid a
A OES GAN BLENTYN SYDD O DAN OEDRAN
Pennod 7.1: Nodi ADY unigolion sy
anallu amlwg a pharhaus i ganolbwyn
ymddangos iddo fel arall, y gall fo
7.1.33 Yn ddiweddarach yn y broses,
7.2.4 Mae manteision nodi ADY yn gy
cwricwlwm, gan gynnwys y canlynol:
7.2.21 Bydd system ysgol ar gyfer a
mewn lleoliadau gwahanol. Os oes gw
Pennod 7.3: Nodi ADY - SAB Crynodeb
7.3.10 Mae’n bosibl na fydd rhai
sy’n sylweddol is na chynnydd eu
7.3.28 Fodd bynnag, os oes disgwyl
Pennod 8: Penderfyniad nad oes gan
Enghraifft - llythyr at riant plent
Penderfyniadau Awdurdodau Lleol 8.1
Penderfyniadau SAB 8.21 Mae Pennod
PENDERFYNIAD GAN YSGOL A GYNHELIR N
Pennod 9.1: Dyletswyddau awdurdodau
a’r rhesymau dros y penderfyniad
nad yw’n gallu pennu’r ddarpari
Dyletswydd Awdurdodau Lleol i bende
cofrestru mewn dau sefydliad 86 ac
9.2.31 Os yw’r awdurdod lleol yn
derbyn gofal gan awdurdod lleol neu
9.3.6 Os yw’r SAB wedi penderfynu
yn preswylio - a bydd yn amlwg pa a
9.3.26 Os yw’r SAB wedi gofyn i
Pennod 10: Llunio CDU Crynodeb 10.1
laenoriaethau. 10.12 Yn achos rhai
10.27 Bydd angen i’r ysgol neu’
10.38 Os yw’r awdurdod lleol wedi
Adroddiadau nas cwblhawyd 10.50 Mae
Gofyn am safbwyntiau ar ddogfen y C
chymryd pob cam rhesymol i sicrhau
11.15 Yn ogystal â’r gofynion go
Beth sy’n llwyddo ac angen ei dda
hyfforddiant neu’r cymwysterau go
i. Y rhesymau dros enwi ysgol at dd
Pennod 12: Llunio CDU - Gwaith Amla
erson sy’n gymwys i addysgu disgy
unrhyw adolygiad o’r ymyriadau, a
Darpariaeth ddysgu ychwanegol i’w
gyfrwng y Gymraeg, mae’n rhaid 17
hwng gweithwyr iechyd (gofal sylfae
Anghenion gofal iechyd 12.60 Ceir g
Manylion unrhyw ddatgymhwyso o’r
Crynodeb o ddigwyddiadau allweddol:
Byddai pob adroddiad gan asiantaeth