Views
1 year ago

Anghenion Dysgu Ychwanegol Chwefror 2017

FmEV308ZtCy

Ystyriaethau Cychwynnol

Ystyriaethau Cychwynnol –Y Gymraeg neu’r Saesneg fel iaith ychwanegol 6.32 Os yw’r iaith (neu’r ffurf ar iaith) y mae neu y bydd person yn cael ei addysgu ynddi yn wahanol i iaith (neu ffurf ar iaith) sy’n cael neu sydd wedi cael ei defnyddio gartref, nid yw hynny’n unig yn golygu bod gan y person anhawster dysgu neu anabledd. Oherwydd hynny ni fydd ganddo ADY 27 . 6.33 Er mwyn gwireddu eu potensial, mae’n bosibl y bydd angen cymorth ychwanegol ar unigolion sydd â’r Gymraeg neu’r Saesneg fel iaith ychwanegol, ond ni fydd ganddynt ADY o reidrwydd. Serch hynny, pan fydd plentyn neu berson ifanc sydd â’r Gymraeg neu’r Saesneg fel iaith ychwanegol yn gwneud cynnydd araf (er bod dulliau addysgu gwahaniaethol ar waith i’w gynorthwyo), bydd angen ystyried a oes ganddo broblem ehangach. 6.34 Rhaid bod yn neilltuol o ofalus wrth nodi ac asesu ADY unigolion nad yw’r Gymraeg na’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt. Bydd angen ystyried pob agwedd ar ddysgu a datblygiad plentyn neu berson ifanc er mwyn asesu a yw’r anhawster yn deillio o’r her o ddysgu’r Gymraeg neu’r Saesneg fel iaith ychwanegol neu a yw’n seiliedig ar ADY. Dylai’r ysgol, y SAB neu’r awdurdod lleol edrych yn ofalus ar bob agwedd ar berfformiad plentyn neu berson ifanc mewn pynciau gwahanol i weld a yw’r anawsterau sydd ganddo i’w priodoli i gyfyngiadau yn ei feistrolaeth o’r iaith a ddefnyddir, neu a ydynt yn deillio o ADY. 6.35 Bydd angen cynnal asesiad llawn o faint o gysylltiad y mae’r plentyn neu’r person ifanc wedi’i gael yn y gorffennol â phob un o’r ieithoedd y mae’n eu siarad, y defnydd a wna ohonynt ar hyn o bryd a’i ruglder ynddynt. Bydd y wybodaeth a geir trwy hyn am ei sgiliau iaith yn sylfaen ar gyfer unrhyw waith pellach gyda’r plentyn, er mwyn helpu i ddeall ei anghenion ac wrth gynllunio unrhyw gymorth iaith ychwanegol gofynnol. Os penderfynir bod angen cymorth allanol ar blentyn neu berson ifanc ar ôl cwblhau’r dadansoddiad, dylid rhannu’r wybodaeth hon ag ef. Ystyriaethau Cychwynnol – Mwy Abl a Thalentog 6.36 Mae’r term ‘mwy abl a thalentog’ yn cwmpasu dysgwyr sy’n fwy abl ar draws y cwricwlwm, yn ogystal â’r rhai sy’n dangos talent mewn un maes penodol neu fwy. Ni ddylid dod i’r casgliad bod gan blant a phobl ifanc sy’n cael eu hystyried yn fwy abl a thalentog ADY ar sail eu gallu neu eu talent uwch yn unig. Mae angen rhagor o gyfleoedd a her ar blant a phobl ifanc o’r fath er mwyn sicrhau eu bod yn gwireddu eu potensial, gan ddefnyddio dulliau addysgu gwahaniaethol i wneud hyn. 27 Adran 2(4) o’r Ddeddf. Tudalen | 36

6.37 Fodd bynnag, gallai plentyn neu berson ifanc fod yn fwy abl a thalentog a bod ag ADY. Er enghraifft, gall plentyn neu berson ifanc fod yn abl iawn mewn un agwedd ar ei addysg ond cael ‘anhawster sylweddol fwy i ddysgu’ na’r mwyafrif o’r rhai eraill sydd o’r un oedran mewn agweddau eraill ar ei addysg. Hefyd, mae’n bosibl y bydd yn perfformio’n dda ar draws y cwricwlwm, ond ei fod yn cael anhawster sylweddol fwy i ddysgu, a bod y diffiniad a nodwyd uchod yn berthnasol iddo. Ystyriaethau Cychwynnol – Anghenion Gofal Iechyd 6.38 Yn ddiweddar, aeth Llywodraeth Cymru ati i ymgynghori ar gynorthwyo dysgwyr ag Anghenion Gofal Iechyd. 28 Dylai ysgolion ac awdurdodau lleol wneud trefniadau i gynorthwyo dysgwyr ag anghenion gofal iechyd/meddygol; amlinellir hyn yn y canllawiau Mynediad i Addysg a Chymorth i Blant a Phobl Ifanc ag Anghenion Meddygol. 29 Fodd bynnag, ni fydd rhai plant a phobl ifanc sydd ag angen meddygol yn datblygu ADY. 6.39 Yn yr un modd, bydd rhai plant a phobl ifanc yn derbyn Gofal Iechyd Parhaus y GIG, sef pecyn gofal sy’n cael ei ddarparu gan y GIG ar gyfer unigolion sydd ag anghenion cymhleth sy’n seiliedig ar iechyd yn bennaf. 6.40 Mewn rhai achosion, gall anghenion gofal iechyd/cyflyrau meddygol gael effaith sylweddol ar brofiadau’r plentyn neu’r person ifanc a’r ffordd y mae’n gweithredu mewn ysgol neu leoliad addysg bellach. Gall yr effaith fod yn un uniongyrchol yn yr ystyr y gall gofal iechyd/cyflwr meddygol effeithio ar alluoedd gwybyddol y plentyn neu’r person ifanc, ei alluoedd corfforol, ei ymddygiad neu ei gyflwr emosiynol. Hefyd, gall yr effaith fod yn un anuniongyrchol, er enghraifft drwy amharu ar allu plentyn neu berson ifanc i gymryd rhan mewn addysg yn sgil effeithiau annymunol triniaeth neu drwy’r effeithiau seicolegol y gall salwch difrifol neu gronig neu anabledd eu cael ar blentyn neu berson ifanc a’i deulu. 6.41 Bydd yn hanfodol sicrhau bod proses ymgynghori a thrafod agored yn mynd rhagddi rhwng y plentyn, rhiant y plentyn, neu’r person ifanc a’r ysgol neu’r SAB (ac unrhyw weithwyr iechyd proffesiynol perthnasol) er mwyn sicrhau bod y plentyn neu’r person ifanc yn gwneud y cynnydd mwyaf posibl. Hefyd, dylai ysgolion a SAB sicrhau bod ganddynt eu trefniadau bugeiliol eu hunain i drafod problemau iechyd a phroblemau eraill. 6.42 Mae ysgolion, SAB ac awdurdodau lleol yn gallu llunio, adolygu neu ddiwygio CDU ar yr un pryd â’u bod nhw, neu gorff arall, yn llunio, yn adolygu neu’n diwygio dogfen arall yn ymwneud â’r unigolyn. Hefyd, gall yr awdurdod lleol gynnwys y cynllun hwnnw yn y CDU. 30 Mae hyn yn sicrhau, er enghraifft, bod modd cynllunio a chyflwyno darpariaeth mewn ffordd gydgysylltiedig ar gyfer plentyn neu berson ifanc sydd â chynllun gofal iechyd unigol neu gynllun 28 https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ 29 http://gov.wales/topics/educationandskills/publications/guidance/medicalneeds/?skip=1&lan g=cy 30 Adran 23 o’r Ddeddf. Tudalen | 37

2017-2019
Torfaen Business Voice August 2017 Newsletter (Cymraeg)
yma - Children's Commissioner for Wales
llanw
TBV Newsletter August 2016
Cymru
Rheoli Crwybrau
Newyddlen y Cyfeillion - Royal Commission on the Ancient and ...
Newyddion
Maniffesto Llywodraeth Leol 2017 Local Government
SCHOOLS PROGRAMME RHAGLEN YSGOLION