Views
1 year ago

Anghenion Dysgu Ychwanegol Chwefror 2017

FmEV308ZtCy

7.1.33 Yn ddiweddarach

7.1.33 Yn ddiweddarach yn y broses, gall cyrff iechyd ddarparu gwasanaethau diagnostig, ymgymryd ag asesiadau, gwneud atgyfeiriadau yn y sector iechyd a darparu adroddiadau iechyd i helpu i lunio CDU, a sicrhau triniaeth neu wasanaethau priodol yn y pen draw – gweler Pennod 12 am ragor o fanylion. Plant sy’n mynychu lleoliadau nas cynhelir 7.1.34 Mae llawer o blant sy’n iau na’r oedran ysgol gorfodol yn mynychu lleoliadau nas cynhelir fel cylchoedd chwarae neu feithrinfeydd preifat neu wirfoddol. Os oes gan rieni plant bryderon, mae ganddynt hawl i gysylltu â’r awdurdod lleol a gofyn iddo benderfynu a oes gan y plentyn ADY. Fel arfer, mae’n rhaid i awdurdodau lleol benderfynu wedyn a oes gan y plentyn ADY. 38 (Gweler Penodau 8 i 9.3). 7.1.35 Dylai awdurdodau lleol weithio gyda darparwyr addysg feithrin a gofal plant eraill fel eu bod nhw’n gallu nodi a rhoi gwybod am ADY hefyd. 38 Adran 11(1) a 11(6) o’r Ddeddf Tudalen | 48

Pennod 7.2: Nodi ADY – mewn ysgolion Crynodeb 7.2.1 Mae’r Bennod hon yn cyflwyno canllawiau penodol ar nodi ADY disgyblion mewn ysgolion. Mewn llawer o achosion, gall nodi ADY ac ymyrryd yn gynnar leihau’n sylweddol yr angen am ymyriadau (mwy costus o bosibl) maes o law, gan arwain at ddeilliannau llawer mwy effeithiol mewn rhai achosion. Disgyblion mewn Ysgolion a Gynhelir 7.2.2 Mae gan gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir yng Nghymru ddyletswyddau o dan y Ddeddf i nodi ac ymdrin ag ADY y disgyblion cofrestredig. Felly, dylai pob ysgol a gynhelir weithredu mewn ffordd glir, gadarn a thryloyw er mwyn nodi ac ymateb i ADY. 7.2.3 Mae’n rhaid i’r ysgol benderfynu a oes gan ddisgybl ADY pan fo’n cael ei dwyn i’w sylw, neu pan fo’n ymddangos iddi, y gall fod gan un o’i disgyblion ADY 39 . Mae’r canlynol yn eithriadau i’r gofyniad hwn: Mae CDU eisoes yn cael ei gynnal ar gyfer y disgybl. Mae’r ysgol wedi gwneud penderfyniad ar y mater o’r blaen, mae wedi’i bodloni nad yw anghenion y disgybl wedi newid yn sylweddol ers i’r penderfyniad hwnnw gael ei wneud ac nad oes unrhyw wybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad hwnnw. Mae’r disgybl yn berson ifanc (sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol) nad yw’n cydsynio i’r penderfyniad. Mae’r plentyn neu’r person ifanc wedi’i gofrestru mewn dau le – hynny yw, mae wedi’i gofrestru mewn ysgol arall neu wedi’i ymrestru mewn SAB (hyd yn oed os yw hwnnw yn Lloegr) ac mae awdurdod lleol yn gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc (h.y. nid yw’r plentyn yn preswylio fel arfer yn Lloegr). Os yw’r plentyn neu’r person ifanc wedi’i gofrestru mewn dau le, mae’n rhaid i’r corff llywodraethu gyfeirio’r achos i’r awdurdod lleol. Gweler Pennod 20. Mae’r plentyn neu’r person ifanc yn berson sy’n cael ei gadw’n gaeth (gweler Pennod 20). Mae awdurdod lleol yn Lloegr yn cynnal Cynllun AIG ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc, sef cynllun addysg, iechyd a gofal o dan Ran 3 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014. Byddai hyn ond yn berthnasol os yw’r disgybl yn preswylio fel arfer yn Lloegr. Mae’r disgybl yn blentyn sy’n derbyn gofal yr awdurdod lleol oni bai bod y plentyn yn preswylio fel arfer yn Lloegr (gweler Pennod 20). 40 39 Adran 9(1) o’r Ddeddf. 40 Adran 9(3) a (5) o’r Ddeddf. Tudalen | 49

Torfaen Business Voice August 2017 Newsletter (Cymraeg)
yma - Children's Commissioner for Wales
2017-2019
Cymru
2012 Symud ymlaen
Newyddion
TBV Newsletter August 2016
llanw
Rheoli Crwybrau
Newyddlen y Cyfeillion - Royal Commission on the Ancient and ...
FSF-Cymru-Awstria-terfynol-Geraint
?
Cartref_-_June_July