TBV Newsletter May 2017 Edition (Cymraeg)
TBV Newsletter May 2017 Edition (Cymraeg)
TBV Newsletter May 2017 Edition (Cymraeg)
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Gweithio fel tîm i

arbed arian, lleihau

tirlenwi a helpu pobl

mewn angen

Mae gwaith tîm rhwng menter gymdeithasol fawr a bach yn

Nhorfaen yn dangos i fusnesau ei bod yn gwneud synnwyr

ariannol i ailgylchu ac ailddefnyddio.

Mae Tai Cymunedol Bron Afon a TRAC2, elusen ailgylchu yn

Nhorfaen, yn gweithio gyda’i gilydd i wneud y mwyaf o’r hyn

sy’n cael ei adael mewn cartrefi gwag.

Rhoddir dodrefn ac eitemau eraill a adewir yng nghartrefi

Bron Afon i TRAC2 sydd wedyn yn llunio pecynnau cychwyn

fel bod pobl mewn angen yn cael yr hanfodion, fel gwely,

cadair a chyllyll a ffyrc.

Mae pren yn mynd i elusen arall, Reseiclo, lle mae oedolion

gydag anabledd dysgu yn dysgu sgiliau i adeiladu pethau fel

blychau adar a blychau top desg i’w gwerthu.

Meddai Dave Smith, rheolwr logisteg Bron Afon:

"Rwy’n hynod falch o’r bartneriaeth sydd gan Bron Afon

gyda TRAC2 a’r manteision rydym yn medru eu darparu

i deuluoedd a chymunedau lleol trwy ailgylchu eitemau

cartref nad oes eu heisiau.”

Yn 2015/16 cyfrannwyd digon o eitemau i sicrhau nad oedd

40 o deuluoedd a oedd yn ei chael yn anodd yn gorfod symud

i dŷ gwag.

Ychwanegodd Dave: “Dyw taflu eitemau y gellid eu hailddefnyddio

yn gwneud dim synnwyr, yn foesol nac yn ariannol.

Fel un o gwmnïau adeiladu mwyaf Cymru gyda mwy na 150

o staff ar ein safleoedd rydym yn defnyddio llawer o nwyddau

bob wythnos.

"Mae ein gwaith gyda TRAC2 a Reseiclo yn golygu bod fwy

neu lai unrhyw beth ar ein safleoedd na ellir ei ddefnyddio

naill ai’n mynd iddyn nhw neu’n cael eu hailgylchu. Mae’r

straeon sy’n dod yn ôl gan y ddau fudiad ynglŷn â sut maent

yn newid bywydau pobl gyda’r pethau roeddem yn arfer eu

taflu i ffwrdd, yn llonni calon rhywun.

"Yn 2012/13 talwyd bil o £285,000 am anfon gwastraff i’w

dirlenwi. Eleni, bydd y gost yn rhyw £9,000."

Michael Sheen yn helpu

Denodd gwaith y tîm sylw actor Hollywood, Michael Sheen a

ymwelodd â TRAC2 ddwywaith yn 2016. Yn hwyr y llynedd

treuliodd y diwrnod yn gwirfoddoli i gasglu eitemau o

ganolfan ailgylchu Bron Afon yng Nghwmbrân a’u cludo i

deuluoedd lleol.

Mwy o wybodaeth Ewch i bronafon.org.uk neu trac2.org.uk/

Ffeithiau am y bartneriaeth sydd wedi ennill gwobrau:

Rhoddwyd 18.9 tunnell i TRAC2 yn 14/15. Neidiodd

hyn i 33.3 tunnell yn 15/16.

Mewn dwy flynedd mae Bron Afon wedi ailgylchu 24

tunnell o gardbord.

Ers mis Mawrth 2014 mae 150 tunnell o bren wedi

mynd i Reseiclo.

Rhoddwyd 2,237 o eitemau a adawyd yng nghartrefi

Bron Afon i Trac2 yn 15/16. Roedd hyn yn cynnwys

peiriannau golchi, soffas a gwelyau.

Yn 15/16 defnyddiodd TRAC2 eitemau a gyfrannwyd

i lunio 40 pecyn cychwyn i bobl mewn angen.

Inside Housing

Busnes lleol yn cydweithredu

â King Financial Services

Mae King Financial Services yn fusnes teulu a adeiladwyd ar

werthoedd traddodiadol o ymddiriedaeth a gonestrwydd. Nid

oeddem am ledaenu ein gwybodaeth yn rhy fain felly fe

wnaethom arbenigo mewn diogelu.

Mae hyn yn ein galluogi i roi cyngor gonest a chyfredol ar

yswiriant i chi, eich teulu a'ch cartref. Rydym yn arbenigwyr

mewn Yswiriant Bywyd, Salwch Critigol, Diogelu Incwm

Tymor Hir a Byr, Yswiriant Meddygol Preifat ac Yswiriant

Cartref. Rydym yn helpu i ddiogelu eich busnes hefyd trwy

leihau'r effaith pan fydd pobl allweddol yn methu gweithio, a

darparu Gofal Iechyd Busnes. Yn ogystal, rydym yn gweithio

gyda dynion / merched yn y maes chwaraeon gan ddarparu

ystod eang o gynnyrch a gynlluniwyd i amddiffyn eu hincwm.

Wrth chwilio am bartneriaid masnachol, roedd yn bwysig dod

o hyd i'r rheini sy'n rhannu ein hethos; roeddem wrth ein bodd

i ddod o hyd i Mike yn Safe Hands Mortgages & Protection a

Lisa yn BeSure. Unwaith y byddwn wedi sefydlu anghenion

ein cleientiaid, rydym yn eu cyflwyno i Mike, Lisa neu'r ddau.

Gall hyn olygu apwyntiadau ar y cyd, gweithio ar yr un pryd a

darparu pecynnau gwasanaethau gyda'i gilydd lle bo hynny'n

bosibl.

Cyfarfu Mark â Mike yn wreiddiol drwy ofod swyddfa â

gwasanaeth. Penderfynom symud i Barc Mamheilad gyda'n

gilydd er mwyn i ni allu gweithio ochr yn ochr â'n gilydd. Mae

hyn yn gwneud cyfeirio busnes yn hawdd ac yn bersonol, gall

ein cleientiaid adolygu eu morgais a'u hanghenion diogelu i

gyd ar yr un pryd.

Cyfarfu Fiona Lisa drwy ein Rhwydwaith BizMums, menter

gymdeithasol a sefydlwyd i ddarparu cefnogaeth i famau

mewn busnes, a’u hysbrydoli. Yr wyf innau’n rhedeg y cyfarfodydd

yn Nhorfaen a Chasnewydd sy’n cael eu cynnal ar yr

ail ddydd Mawrth ymhob mis yn Go Play yn Stadiwm Cwmbrân.

Mae’r partneriaethau hyn wedi ein galluogi i roi cyngor mewn

meysydd arbenigol ac atgyfnerthu ein gwasanaeth yn gyffredinol.

Yn dilyn llwyddiant y partneriaethau hyn rydym yn

ehangu ein rhwydwaith i Bensiynau, Buddsoddiadau a Chynlluniau

Bywyd.

CYLCHLYTHYR (CLWB) LLAIS BUSNES TORFAEN | MAI 2017 5