Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
TACHWEDD

2017

ENTREPRENEURIAETH

DIGWYDDIAD NESAF

Dydd Iau 7 Rhagfyr 2017

5:00PM

YN Y RHIFYN HWN:

TUDALEN 3

Meddwl am

ddechrau busnes?

Y cyfan sydd angen i chi ei wybod

cyn sefydlu'ch busnes

TUDALEN 4 & 5

BeTheSpark / Bright

Ideas

Cefnogaeth i entrepreneuriaid

TUDALEN 7

Meddwl sefydlu busnes

yn Nhorfaen?

Benthyciadau cychwynnol i fusnesau

newydd

www.twitter.com/TorfaenBiz

www.facebook.com/TorfaenEnterprise

Torfaen Economy & Enterprise
Gair gan y Cadeirydd

Mae bod yn "entrepreneur" yn swnio'n hawdd ond mewn

gwirionedd mae'n anoddach na'r disgwyl. Mae entrepreneur

ym mhob un ohonom, dyna beth sy'n cadw ein diddordeb o

ddydd i ddydd. Unwaith y byddwn wedi cael digon ar y naw

tan bump, rydym yn aml yn defnyddio ein profiad mewn maes

penodol i'n mantais trwy naill ai sefydlu busnes yn uniongyrchol,

prynu i mewn i ryddfraint neu fynd i bartneriaeth. Mae

yna lawer o ffyrdd i gymryd rheolaeth ar eich tynged eich hun.

Rydym yn tueddu i anghofio mai trwy werthu cylchgrawn

myfyrwyr y dechreuodd Grŵp cwmnïau Virgin neu fod Apple

wedi'i sefydlu mewn garej.

Os ydych chi dal i fod yn chwarae o gwmpas gyda’r syniad o

ddechrau eich busnes eich hun, un o'r lleoedd gorau i

ddechrau a chael cyngor diduedd yw eich clwb busnes. Lle i

gwrdd â phobl sydd wedi bod yn eich esgidiau, pobl sydd

wedi llwyddo i ddatblygu eu mentrau ac wedi esblygu. Maent

i gyd yma yn Llais Busnes Torfaen. I'r rhai ohonoch sydd

eisoes yn gwneud hynny, beth am helpu drwy fentora rhywun

sy'n dyheu i fod yn entrepreneur?

Ein gwestai ar gyfer y cyfarfod ym mis Rhagfyr yw Peter

Karrie. Magwyd Peter yng Nghymru, lle roedd ganddo sioeau

radio a theledu ar BBC Wales

Dechreuodd ei yrfa fel prif ganwr y grŵp pop Peter and the

Wolves, ac aeth ymlaen i ymddangos mewn sawl cynhyrchiad

sioe gerdd yn y West End, yn cynnwys Les Misérables

a Chess. Edrychaf ymlaen yn eiddgar i gwrdd â Peter.

2

Dyddiad i’ch dyddiadur

23/11/17 - Digwyddiad Merched

Mewn Busnes Torfaen 2017 - 4:30pm

07/12/17 - Llais Busnes Torfaen - 5pm

15/03/18 - Llais Busnes Torfaen - 5pm

21/06/18 - Llais Busnes Torfaen - 5pm

20/09/18 - Llais Busnes Torfaen - 5pm

06/12/18 - Llais Busnes Torfaen - 5pm

Greenmeadow Golf and Country Club,

Cwmbran

Ddim yn aelod? Beth am ymuno

â ni a dod i’r digwyddiad?

Ffoniwch 01633 648644

E-bost: info@southwalesbusiness.co.uk

Cliciwch ar y ddolen ganlynol:

http://bit.ly/TBV-business-club-cy

CYLCHLYTHYR (CLWB) LLAIS BUSNES TORFAEN | TACHWEDD 2017

Rwy'n siŵr y byddwch i gyd yn cytuno bod ymaelodi â Llais

Busnes Torfaen wedi bod yn fuddiol, ac rydym yn edrych

ymlaen atoch yn adnewyddu eich aelodaeth yn 2018. Cadwch

lygad am ein cynnig Aelod yn cyflwyno Aelod a rhannwch y

newyddion ym mhobman.

Ar nodyn personol, ar ôl pymtheg mlynedd rydw i wedi penderfynu

ymddeol fel cadeirydd Llais Busnes Torfaen. O 2018 Fe

fydd yna wyneb newydd wrth y llyw i’n tywys i mewn i’r dyfodol

– pwy, meddech chi, wel, bydd rhaid i chi aros i weld!

Dennis Ricketts

Cadeirydd, Llais Busnes

Torfaen

Cyfarfod Olaf y Flwyddyn

Bydd digwyddiad chwarterol olaf i aelodau Llais Busnes Torfaen yn

cael ei gynnal ar Ddydd Iau 7 Rhagfyr yng Nghlwb Golff a Gwledig

Greenmeadow, Cwmbrân.

Mae ein digwyddiadau Nadolig bob amser yn bleserus a difyrrus

dros ben, felly dewch yn llu, p’un a ydych yn aelod ers tro neu heb

fynychu un o’n digwyddiadau o’r blaen!

Peter Karrie

Ein hadloniant ar gyfer y cyfarfod hwn yw Peter Karrie sy’n

gymrawd anrhydeddus o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama

Cymru.

Bydd Peter, a gafodd ei eni ym Mro Morgannwg, yn ein tywys drwy

ei yrfa gerddorol eang a byddwn yn cael y pleser o wrando arno’n

canu amrywiaeth o’i ffefrynnau. Chwaraeodd y brif rôl yn sioe

gerdd Andrew Lloyd Webber The Phantom of the Opera yn

Llundain, Toronto, Vancouver, Singapore, a Hong Kong, ac ar

daith y DU yn Bradford, a Manceinion. Ym 1994 a 1995, fe wnaeth

aelodau Cymdeithas Selogion Phantom of the Opera bleidleisio a

datgan mae ef oedd eu hoff Phantom. Mae'n dal i feddu ar y record

am chwarae rhan y Phantom fwy nag unrhyw artist arall. Mi fydd

Peter yn siarad am ei fywyd ac yn canu amrywiaeth o ganeuon o’r

West End.

Mae gan yr aelodau hawl i 2 le am ddim yn y digwyddiad hwn, felly

gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â chydweithiwr, cleient neu

gyswllt busnes fel y gallwn ddarparu cysylltiadau gwerthfawr i'n

busnesau.

Gall aelodau Llais Busnes Torfaen hefyd ddod â baner dros dro –

a fyddech cystal â nodi ar y ffurflen archebu electronig os ydych yn

bwriadu dod ag un.

ARCHEBWCH EICH LLE yn y digwyddiad hwn:

http://bit.ly/tbv-dec2017-welsh
Meddwl am

ddechrau busnes?

Gweithio ar eich liwt eich

hun a Dechrau Busnes

Beth bynnag yw eich gyrfa neu ddiddordebau, mae cyfle yn

aml i ystyried gweithio i chi eich hun. Mae pobl yn cychwyn

busnes mewn amrywiol feysydd, o fynd â chŵn am dro i siopau

melysion, o gaffis i gyfreithwyr, cerddorion i ddylunwyr graffig.

Felly, boed yn rhywbeth rydych erioed wedi ei ystyried o’r blaen

neu os ydych yn barod i ddechrau, bydd yr erthygl hon yn eich

helpu i ystyried y sgiliau entrepreneuraidd, y cynghorion ar

ddechrau a lle i fynd am help.

Oes gennych chi’r hyn sydd ei angen i

redeg eich busnes eich hun?

Os byddwch yn creu rhestr o entrepreneuriaid enwog mae’n

siŵr y byddai Richard Branson, Deborah Meaden, Alan Sugar

yn ymddangos arni yn rhywle. Mae pob un o’r entrepreneuriaid

a restrir, boed yn fawr neu’n fach, yn lleol neu’n fyd-eang, rhyw

dro wedi mynd drwy’r un broses o weld cyfle, gwneud ymchwil,

casglu adnoddau at ei gilydd a chael y penderfyniad i wneud i

rywbeth ddigwydd.

I lawer, mae’r syniad o fod yn “fos ar eich hunan” yn apelio.

Rydych yn rheoli eich dyfodol; chi yw’r un sy’n cymryd y penderfyniadau.

Rydych yn cael cyfle i roi eich syniadau ar waith a,

gyda pheth cynllunio, gwneud arian o hynny!

Bydd entrepreneur neu dîm o entrepreneuriaid wrth graidd y

busnes wrth gychwyn. Mae nodweddion cyffredinol entrepreneur

nodweddiadol yn cynnwys hyder, arloesi, penderfyniad,

gwytnwch, gweithio fel aelod o dîm, rhywun sy’n cymryd risg a

gweithiwr caled dros ben.

Os ydych chi’n teimlo eich bod yn meddu ar y nodweddion hyn,

os oes gennych yr angerdd a’r egni i weithio y tu allan i

strwythur a sadrwydd gweithio i gyflogwr, ac os oes gennych

syniad gwych – pam aros!

Camau i ddechrau

Gall mentro ar eich liwt eich hun fod yn gyffrous, a gall dalu,

ond gall hefyd fod yn risg. Mae traean o fusnesau newydd yn y

DU yn methu yn y flwyddyn gyntaf. Ond, mae dwy ran o dair yn

llwyddo, gydag ymchwil yn dangos bod y sawl sy’n chwilio am

gymorth wrth gychwyn yn fwy tebygol o lwyddo. Felly beth

fedrwch ei wneud i wella’r ods?

Cyn dechrau unrhyw beth, cymerwch amser i feddwl yn

drwyadl a chynllunio eich menter.

Beth yw eich syniad busnes?

Beth yw eich syniad? Beth mae’n ei wneud? Pa broblem mae’n

ei goresgyn neu ba angen mae’n ei diwallu? Mae angen i chi

benderfynu ar hyn ar y dechrau a pharhau i fireinio’r syniad

wrth i chi fynd yn eich blaen.

Os ydych wrth eich bodd gyda’r syniad o redeg eich busnes

eich hun ond nid yw’r syniad gennych eto – dechreuwch trwy

feddwl am eich sgiliau a’ch diddordebau, sgwrsiwch â ffrindiau

a theulu, dechreuwch chwilio am fylchau yn y farchnad neu

ystyriwch gydweithio ag eraill.

Gwneud JANUARY ymchwil i’r farchnad

Does gan neb belen grisial i weld beth sydd yn y dyfodol, ond

mae ymchwil i’r farchnad yn allweddol i gymryd penderfyniadau

gwybodus finance a gwneud y mwyaf o’ch cyfle i lwyddo. Gall

Business

MAY ymchwil - JUNE eich helpu chi i gynllunio eich busnes, gan ystyried

darpar gwsmeriaid, beth fyddwch yn ei godi, y dulliau gorau i’w

cyrraedd ac, yn bwysig, eich cystadleuwyr.

JULY - AUGUST

Ysgrifennu cynllun busnes

SEPTEMBER

Nid oes angen cynllun busnes ar gyfer sicrhau cyllid ar

ddechrau busnes yn unig; bydd hefyd yn hanfodol i’ch helpu i

reoli eich busnes yn effeithiol. Gall cynllun nodi senarios gwahanol

yn y dyfodol a phennu nodau ac amcanion penodol,

Manufacturing

ynghyd â’r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni’r amcanion

hyn. Heb bennu amcanion, sut medrwch fesur os ydych wedi

bod yn llwyddiannus?

Mae digon o offerynnau ar gael arlein i wneud ysgrifennu

cynllun yn haws, gan eich tywys drwy’r broses gam wrth gam.

Mae OCTOBER pecyn cynllun busnes Ymddiriedolaeth y Tywysog yn cael

ei ddefnyddio’n eang.

Ariannu eich busnes

Lluniwch gyllideb yn seiliedig ar eich cynllun busnes i’ch helpu

chi i benderfynu faint o arian byddwch ei angen. Meddyliwch

am eich sefyllfa ariannol bob mis; byddwch yn realistig gan

efallai bydd eich gwerthiant yn is neu’n hwyrach na’r gobaith;

gallai costau fod yn uwch ac efallai y bydd yn cymryd mwy o

amser i chi gael eich talu. Bydd hyn yn caniatáu i chi weithio

allan faint o gyllid rydych ei angen a phryd byddwch ei angen.

Peidiwch ag anghofio caniatáu ar gyfer cyllid wrth gefn rhag

ofn y bydd rhywbeth annisgwyl yn digwydd.

Os byddwch angen cyllid ychwanegol, yn dibynnu ar y math o

fusnes a faint sydd angen ei fenthyg arnoch, medrwch ystyried

gwneud cais am grant gan Lywodraeth Cymru, yr Awdurdod

Lleol neu fanciau i gael benthyciadau neu orddrafft dros dro.

Os oes gennych gynllun busnes cadarn a hanes da mewn

busnes, yna efallai y byddai’n fuddiol ystyried rhwydweithiau

Angylion Busnes neu lwyfannau torf-ariannu sy’n caniatáu i

grwpiau o fuddsoddwyr â diddordeb ddod at ei gilydd. Os

ydych yn chwilio am symiau llai, efallai gallai teulu neu ffrindiau

fod yn opsiwn. Pa bynnag opsiwn, gwnewch yn siŵr eich bod

yn gweithio allan beth fyddwch yn ei roddi’n gyfnewid neu’n ei

dalu’n ôl o ganlyniad.

Cymryd y cam

Unwaith y bydd popeth yn ei le, cymerwch y cam a gwnewch

iddo ddigwydd – byddwch yn dysgu’r sgiliau ac yn datblygu’r

rhwydwaith ar y ffordd. Mae llawer o gymorth ar gael i fusnesau

yng Nghymru; mae’r hyfforddiant a’r cymorth sydd ar gael

am ddim yn addas i bawb, pa bynnag gam mae eich busnes

wedi ei gyrraedd.

Gall cynllunio a rhedeg busnes newydd deimlo’n llethol ar

adegau gan fod cymaint i’w ystyried, ond yma yng Nghymru

mae digon o hyfforddiant a chymorth am ddim i fusnesau

newydd a rhai sydd wedi cychwyn eisoes, gan gynnwys

ysgrifennu eich cynllun busnes. Mae Busnes Cymru yn fan

cychwyn rhagorol www.businesswales.gov.wales ynghyd â’r

cysylltiadau Cymorth Busnes yn eich Awdurdod Lleol.

CYLCHLYTHYR (CLWB) LLAIS BUSNES TORFAEN | TACHWEDD 2017

3
Dyma ein chwe gair i gall ni ar gyfer

llwyddo gyda busnes newydd::

Agor cyfrif banc ar wahân ar gyfer eich busnes a chadw

cofnodion o’r holl incwm a gwariant o’r dechrau un.

Ystyried sut medrwch wella pob agwedd ar eich busnes drwy’r

amser, yn enwedig trwy wrando ar eich cwsmeriaid. Byddwch

yn synnu pa mor onest yw pobl pan fyddwch yn gofyn sut

medrwch wella eich gwasanaeth.

Meithrin eich rhwydwaith – cael hyd i ffrindiau, aelodau

o’ch teulu a chysylltiadau a fedr eich helpu mewn agweddau

penodol o’r busnes, megis cadw’r llyfrau, ffotograffiaeth,

dylunio gwe a chysylltiadau â’r wasg.

Arloesi drwy’r amser – rhoi cynnig ar syniadau newydd,

manteisio ar gyfleoedd, cael pobl greadigol o’ch cwmpas i

barhau i ddatblygu a meithrin eich busnes.

Peidiwch byth â stopio gwneud ymchwil i’ch marchnad. A yw

eich Pwynt Gwerthu Unigryw chi yn unigryw o hyd? Mae eich

USP yn eich gosod chi a’ch busnes ar wahân. Yn syml, dyma

pam y mae cwsmeriaid yn prynu gennych chi yn hytrach na

chan eraill.

Darparu’r gwasanaeth cwsmeriaid gorau posibl. Dylech bob

amser drin cwynion gan gwsmeriaid o ddifrif – a datrys unrhyw

broblem.

Ymunwch â BeTheSpark

i greu ecosystem weladwy, syml a chysylltiedig i ennyn

entrepreneuriaeth sy’n cael ei ennyn gan arloesedd yng Nghymru

Mae BeTheSpark yn gynnyrch Rhaglen Cyflymu Entrepreneuriaeth

Ranbarthol Sefydliad Technoleg Massachusetts, yr

ymunodd Cymru â hi yn 2015. Mae’n fenter fyd-eang sydd â’r

nod o helpu rhanbarthau i sbarduno twf economaidd a chreu

swyddi drwy entrepreneuriaeth sy’n cael ei sbarduno drwy

arloesedd.

Mae naw o ffigurau amlycaf Cymru o fyd busnes a’r byd academaidd

wedi ymuno â'i gilydd i ddechrau'r mudiad hwn, gan

anelu i adeiladu cymuned fydd yn helpu i drawsnewid Cymru,

ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf ac yn y pen draw sbarduno mwy

o fusnesau newydd, mwy o arloesi a masnacheiddio, mwy o

gyfleoedd a mwy o swyddi.

Dyma’r naw: Ashley Cooper, Catalyst Growth Partners; Yr

Athro Simon J. Gibson, Wesley Clover Corporation; Yr Athro

Dylan Jones-Evans, Prifysgol De Cymru; Yr Athro Hilary

Lappin-Scott, Prifysgol Abertawe; Daniel Mines, Grŵp Admiral;

Dr Drew Nelson, IQE plc; Hayley Parsons, sylfaenydd GoCompare.com;

a James Taylor, sylfaenydd SuperStars.

Lansiwyd mudiad BeTheSpark ar ddiwedd Mehefin 2017, a’i

nod yw cysylltu pobl sydd â’r un meddylfryd gan ddod ag arloesi

ac entrepreneuriaeth at ei gilydd.

Y weledigaeth yw:

“Ymwreiddio ymrwymiad cenedlaethol yr holl rhanddeiliaid i

entrepreneuriaeth ac arloesi ledled Cymru, i greu mwy o

gwmnïau proffidiol, brodorol, sy'n creu cyfoeth”

SEPTEMBER

Gan drafod ei rôl fel Prif Weithredwr

BeTheSpark, meddai Caroline Thompson :

Manufacturing

“Dechreuais yn fy rôl yn ffurfiol ar 4 Medi a phleser o’r mwyaf

ydyw i arwain y mudiad hwn. Rwyf wedi cael fy secondio gan

NatWest i gymryd y rôl. Bûm yn arwain hybiau Cyflymu Spark

ym Mryste a Chaerdydd yn ffurfiol, fel rhan o dîm Entrepreneuriaeth

NatWest dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae

NatWest wedi gwneud addewid sylweddol ar ffurf fy nghostau

OCTOBER

cyflog ac felly hwythau yw Partner Corfforaethol cyntaf

BeTheSpark.

Ers y digwyddiad lansio ym Mehefin 2017 rydym wedi bod yn

gweithio’n ddyfal ar y nifer o ymrwymiadau a wnaed gan y

300 a fynychodd, a hynny ar ffurf addewidion a Brwydrau y

Mae Angen Eu Hennill. Gall bawb helpu - o agor eu

swyddfeydd i gynnig i gynorthwyo cwmnïau newydd i

sesiynau mentora neu gefnogi sesiynau rhwydweithio.”

Play your part:

Cofrestrwch nawr ar www.BeTheSpark.Wales

Hyrwyddwch #BeTheSpark i eraill

Cysylltwch eich digwyddiadau i #BeTheSpark

Cydnabyddwch nad oes unrhyw gystadlu mewn

adeiladu cymunedau

Byddwch yn hyrwyddwr #BeTheSpark

@BeTheSpark

Cysylltwch â Caroline yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw gwestiynau Caroline.Thompson@BeTheSpark.info

4 CYLCHLYTHYR (CLWB) LLAIS BUSNES TORFAEN | TACHWEDD 2017
Prifysgol De Cymru yn cefnogi

entrepreneuriaeth

Ymhlith y graddedigion di-rif sy'n cymryd eu camau cyntaf i

fyd cyflogaeth, mae niferoedd cynyddol yn symud i ffwrdd o

chwilio am waith ac yn ystyried sefydlu eu busnesau bach eu

hunain.

Er mwyn cefnogi myfyrwyr a graddedigion sydd ag uchelgeisiau

entrepreneuraidd ym Mhrifysgol De Cymru, mae'r

Gwasanaeth Gyrfaoedd yn cynnig cefnogaeth arbenigol

drwy'r Tîm Mentrau Myfyrwyr. P'un a ydych yn ystyried gwaith

llawrydd neu ddatblygu cynnyrch neu wasanaeth newydd,

gall myfyrwyr gael mynediad at fentora un i un, gweithdai

rhyngweithiol, rhwydweithio, cystadlaethau a chyfleoedd

ariannu.

Gwahoddir egin entrepreneuriaid i'r cyfarfod cychwynnol i

drafod syniadau, y broses gychwyn, a'u cyflwyno ar yr amser

cywir i ddarparwyr cymorth allanol, sy'n aml yn cynnwys

Syniadau Mawr Cymru, sy'n cynnig cefnogaeth i'r rhai dan 25

oed ac unedau hybu busnes fel Welsh Ice ac Entrepreneurial

spark.

I ddathlu'r graddedigion sydd wedi dechrau busnesau llwyddiannus

ac yn eu rhedeg yn llwyddiannus erbyn hyn, mae gan

Wobrau Alumni PDC gategorïau sy'n cydnabod ac yn proffilio'r

amrywiaeth o Entrepreneuriaid Cychwynnol a Llwyddiannus ar

draws y byd..

Mae Mentrau Myfyrwyr yn canolbwyntio ar drawsnewid

yr unigolyn o ran gwybodaeth, sgiliau, rhwydwaith,

ac efallai'r pwysicaf oll - hyder! Mae'r Brifysgol yn

amser gwych i brofi syniad mewn amgylchedd diogel a

chefnogol. Y neges i unrhyw un a hoffai ddarganfod

mwy i gefnogi ein graddedigion sy'n entrepreneuriaid

yw 'cysylltwch'.

Meddai Emma Forouzan, Rheolwr Mentrau Myfyrwyr

Maent hefyd yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y BID

(Bright Ideas Den), a gynhelir bob chwarter, ac sydd wedi

caniatáu i gannoedd o fyfyrwyr gyflwyno eu syniadau, ennill

adborth gwerthfawr a chyllid gwerth £40,000 yn ystod yr wyth

mlynedd diwethaf. Gall myfyrwyr wneud cais am unrhyw beth

rhwng £100 a £1,000 i banel o feirniaid allanol sy'n cynnig eu

hamser a'u harbenigedd, yn eu plith, Geraint John a Rhiannon

Jones o Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd, cynhelir Academi

Gweithwyr Llawrydd PDC, gwersyll wythnos o hyd a gynlluniwyd

i helpu myfyrwyr i drawsnewid eu syniadau i greu eu

busnesau eu hunain. Cefnogir hyn gan entrepreneuriaid lleol,

y mae llawer ohonynt yn gyn-raddedigion PDC. Mae'r pynciau'n

cynnwys cynllunio busnes, prisio, gwerthu ar-lein,

rhwydweithio ar gyfryngau cymdeithasol, IP a chontractau.

Mae'r wythnos yn dod i'w therfyn gyda chyfle i wneud cais am

gyllid. Eleni, dyfarnwyd arian i ddeuddeg allan o'r wyth ar

ugain a gymerodd ran, felly'n rhoi cyfle iddynt rannu £2,300

rhyngddynt.

Mae'r Brifysgol hefyd yn estyn allan i gefnogi busnesau bach

a chanolig a sefydliadau trydydd sector yn Ne Cymru drwy

Gyfnewidfa PDC a lansiwyd yn ddiweddar. Mae hwn yn ofod

cydweithredol newydd, wedi'i noddi gan Barclays ac wedi'i

leoli yng Ngampws y Brifysgol ym Mhontypridd.

Mae'r Gyfnewidfa yn siop un stop ar gyfer busnesau sy'n

dymuno manteisio ar y dalent yn y Brifysgol, gan ddarparu

cyngor ar gymorth busnes a'r cyfle i fod yn rhan o rwydwaith

cymorth ehangach. Mae hefyd yn galluogi myfyrwyr i ennill

profiad gwerthfawr ym mywyd go iawn drwy weithio ar

brosiectau byw yn y diwydiant.

Mae nifer o lwybrau i ymgysylltu â Chyfnewidfa PDC, gan

gynnwys Clinig Busnes, sy'n darparu mynediad i fyfyrwyr ac

arbenigedd academaidd, yn ogystal â lle i gydweithio a

rhyngweithio. O'r fan honno bydd cyfle i fusnesau archwilio

opsiynau ar gyfer prosiectau byw, lleoliadau graddedig,

ymchwil, hyfforddiant ymgynghorol, a mynediad i arbenigedd

yn y diwydiant, trwy noddwyr lleol.

I gael gwybod mwy ynghylch sut y gallai eich busnes chi

elwa ar gael mynediad i Gyfnewidfa PDC, ewch i

www.uswexchange.co.uk.

Gallwch hefyd e-bostio uswexchange@southwales.ac.uk

neu ffonio 01443 482 266.

CYLCHLYTHYR (CLWB) LLAIS BUSNES TORFAEN | TACHWEDD 2017

5
Cenhedlaeth y cynnydd yn trawsnewid tirwedd

busnes y DU, meddai Barclays Business

Mae nifer y busnesau sy’n cael eu rhedeg gan bobl dros 55

oed wedi cynyddu 63 y cant yn y ddegawd ddiwethaf

Y grŵp oedran perchnogion busnes sy’n tyfu gyflymaf yw rhai

dros 65 oed, gyda chynnydd anferth o 140 y cant

Mae Liz Earle, MBE, wedi dod i helpu i gynghori’r banc ar sut

orau i wasanaethu anghenion y farchnad o entrepreneuriaid

aeddfed yma

21 Awst 2017, Llundain: Mae Barclays Business wedi canfod,

ymhell o fod yn barod i ymddeol, bod llawer o bobl dros 50 a 60

yn profi nad yw byth yn rhy hwyr i wireddu breuddwydion o fod

yn fos arnyn nhw eu hunain. Mae data Barclays yn datgelu bod

cynnydd o 140 y cant wedi bod yn nifer y perchnogion busnes

65 oed a throsodd yn y ddegawd ddiwethaf - y grŵp oedran

sydd wedi cynyddu gyflymaf.

Dros yr un deng mlynedd, cynyddodd nifer busnesau a redir

gan bobl 25-34 oed 23 y cant, cyfradd lawer is, sy’n herio’r

dybiaeth bod y byd busnesau newydd yn cael ei lywodraethu

gan bobl yn eu hugeiniau. Yn wir, mae’r data’n awgrymu bod yr

ysbryd entrepreneuraidd yn cynyddu gydag oedran;

cynyddodd entrepreneuriaid dros 55 oed 63 y cant dros yr un

cyfnod.

At hyn, mae busnesau newydd sy’n cael eu sefydlu gan bobl

dros 55 oed yn cael effaith arwyddocaol - mae Barclays yn

amcan bod busnesau newydd a sefydlwyd gan bobl 55+ yn

2015, wedi cyfrannu mwy na £7 biliwn2 i economi’r DU y

flwyddyn ganlynol.

Mae Barclays wedi adnabod cyfle i’r diwydiant ddiwallu anghenion

yr entrepreneuriaid hŷn yma yn well, felly mae’r banc wedi

gwahodd Liz Earle i fod yn Gynghorydd Busnes Entrepreneuraidd.

Gyda’i chymwysterau busnes eang, a’i phrofiad o

sefydlu mentrau yn ifanc ac yn ddiweddarach yn ei bywyd,

gofynnodd Barclays i Liz ymuno â nhw i gynghori sut y gallai

gefnogi yn well ei entrepreneuriaid hŷn, gyda ffocws penodol ar

y cyfleoedd a’r heriau a wynebir gan berchnogion busnes yn y

grŵp oedran 50+.

Mae’r genhedlaeth hŷn yn ychwanegu cymaint o

werth i’r gweithle mewn unrhyw gyd-destun - gan ddod â

chyfoeth o brofiad a chysylltiadau at y bwrdd. Nid wyf yn

synnu o weld cymaint o entrepreneuriaid newydd o

‘nghenhedlaeth i, ond mae’n wych eu gweld yn cymryd y

cam hwn yn ddiweddarach yn eu hoes, yn hytrach na

theimlo ei bod yn rhy hwyr

6

CYLCHLYTHYR (CLWB) LLAIS BUSNES TORFAEN | TACHWEDD 2017

Nododd Deb Reader, Rheolwr Bancio Busnes Barclays:

Mae’n hynod gweld y duedd newydd hon o entrepreneuriaid

‘hŷn’. Ar adeg pan allent fod yn cynllunio ar gyfer ymddeol,

mae pobl dros 55 yn defnyddio eu sgiliau trwy roddi eu

cyfoeth o brofiad a gwybodaeth fusnes ar waith, gan chwalu

stereoteipiau yn y broses.

“Rydym yn frwd o blaid cefnogi cwmnïau o bob maint, siâp ac

oedran, lle bynnag y maent ar eu taith. Wedi dweud hynny,

rydym yn awyddus i ganolbwyntio ar y garfan gynyddol hon o

entrepreneuriaid a rhoi’r gefnogaeth y maent ei hangen i

wneud eu syniadau busnes yn realiti. Mae gweithio gyda Liz

yn dod â phersbectif ffres i anghenion pobl dros 50 oed mewn

busnes, gan ein helpu i roddi gwasanaeth o’r radd flaenaf.”

Yn seiliedig ar ei chyfoeth o brofiad yn ystod ei gyrfa, mae Liz

Earle wedi rhannu ei chynghorion pwysicaf hi ar gyfer y sawl

sydd eisiau cychwyn busnes yn ddiweddarach yn eu hoes.

Cynghorion busnes gorau Liz Earle ar gyfer entrepreneuriaid

aeddfed

1. Bod â hyder yn eich gallu - boed yn mynd â’ch gyrfa

mewn cyfeiriad newydd, neu’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl

Manufacturing

cyfnod i ffwrdd, credwch yn y gwerthoedd sydd gennych i’w

cynnig. Bydd eich doethineb, eich profiad a’ch gallu i weld y

darlun mwy yn asedau gwych i unrhyw fusnes, ac yn

cyd-fynd â’r sgiliau a gynigir gan y genhedlaeth iau

2. Mae gwybodaeth o’ch pwnc yn allweddol – peidiwch

byth â rhoi’r gorau i darllen ac ymchwilio eich busnes (mewn

OCTOBER

llyfrgelloedd, nid Google yn unig!) i sicrhau bod gennych

wybodaeth fanwl, ddwfn o’r pwnc

3. Gwybod eich strategaeth fusnes fel cefn eich llaw–

Unwaith rydych wedi meddwl yn fanwl am y syniad, mae

angen i chi wybod, a medru esbonio i eraill, sut mae hyn yn

troi’n fusnes. Mae hyn yn sylfaenol o ran sicrhau cymorth a

chyllid. Ymarferwch gyda’ch teulu a’ch ffrindiau; wedyn pan

fo’n bwysig, medrwch gyflwyno eich syniad mewn modd clir a

chryno

4. Dysgwch am dechnoleg – mae technoleg a’r cyfryngau

cymdeithasol yn hanfodol i’r busnes modern, ac nid oes yn

rhaid iddynt beri dychryn. Mae digon o gymorth ar gael i

entrepreneuriaid hyn ar y pynciau hyn; medrwch hyd yn oed

ymweld â changen Barclays i gael cymorth am ddim gan y

Digital Eagles ar sut i ddefnyddio technoleg yn eich busnes

5. Cymerwch eich amser, hyd yn oed os ydych chi’n

meddwl ei fod yn brin – Rwyf wastad wedi dweud “os oes

yn rhaid iddo fod nawr, yna na yw’r ateb”. Peidiwch byth â

gadael i neb eich rhuthro i gymryd penderfyniad; gall pob un

a gymerwch gael effaith hirdymor arnoch chi a’ch busnes,

felly rhaid i’r penderfyniad fod yr un iawn.
Meddwl sefydlu busnes

yn Nhorfaen?

Dysgwch pa gymorth sydd ar gael gan Economi a Mentergarwch Torfaen

Mae llawer o bobl sy’n meddwl am sefydlu eu busnes eisiau

gweithio iddyn nhw eu hunain, ac mae ganddynt y rhyddid a’r

cyfle i droi breuddwyd yn realiti. Mae cymaint o gyfleoedd ar

gael ar draws y sectorau - o TG i fwyd a diod, ffitrwydd i

ysgrifennu technegol, blodau a garddwriaeth i harddwch a

bwtîcs. Mae’r byd i gyd o’ch blaen!

Os oes gennych y brwdfrydedd, y penderfyniad a’r dyhead,

ynghyd ag awch am waith caled, yna rydych mewn lle da i

gychwyn.

Mae rhyw un ym mhob tri busnes newydd yn y DU yn llwyddo

yn y tair blynedd gyntaf. I wneud yn siŵr bod eich busnes chi

yn un o’r rhain, mae’n hanfodol eich bod yn gwneud gwaith

ymchwil a chael y cymorth sydd ei angen arnoch yn y dyddiau

cynnar.

Mae Economi a Mentergarwch Torfaen yn cydnabod bod

toreth o angerdd, egni a dychymyg yn y fwrdeistref hon ac

mae’n ymdrechu i gefnogi datblygiad pobl leol. Os oes

gennych syniad da, neu os ydych yn adnabod rhywun sydd

eisiau cychwyn eu busnes neu eu menter eu hunain, yna pan

na fanteisiwch ar ein cyngor â'n cymorth rhad ac am ddim,

cyfrinachol a phroffesiynol ar gyfer busnesau newydd.

Medrwn hefyd helpu gyda chyllid

i gychwyn pethau!

Mae Undeb Credyd Gateway ac Economi a Mentergarwch

Torfaen yn gweithio gyda’i gilydd i gynnig benthyciad

Cychwyn Busnes o hyd at £1,500 ar gyfer busnesau newydd

a rhai sydd wedi bod yn masnachu am lai na blwyddyn.

Rydym eisoes wedi helpu 17 o fusnesau ledled Torfaen, gan

gynnwys Coopers Café, Rockabellas Boutique a Cullourz

Tattoo Parlour.

Os ydych yn gwybod am unrhyw breswylydd yn Nhorfaen

neu fusnes newydd a allai elwa o’n cymorth a’r benthyciad

hwn, yna cysylltwch â Gaynor Wakeling, Swyddog Datblygu

Busnes, Economi a Mentergarwch Torfaen:

Ebost:

gaynor.wakeling@torfaen.gov.uk

neu Ffoniwch Gaynor ar

01633 648371

CYLCHLYTHYR (CLWB) LLAIS BUSNES TORFAEN | TACHWEDD 2017

7
Deori busnes

Cefnogi ac annog

menter

Yn 2006 sefydlodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ei ddeorydd

busnes cyntaf – Canolfan Arloesi Busnes Springboard

~ Cymru. Wedi ei lleoli yn y safle busnes strategol ym Mharc

Llantarnam Park, Cwmbrân, roedd y Ganolfan yn fenter ar y

cyd rhwng yr Awdurdod a Llywodraeth Cymru gyda chefnogaeth

arian Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd.

Adeilad tri llawr o ansawdd uchel yw Springboard sydd yn

2,340 metr sgwâr o faint ac yn cynnwys 35 o unedau busnes

(yn amrywio o 20 metr sgwâr i 105 metr sgwâr ar gael ar

delerau mewn yn hawdd, allan yn hawdd ar gytundeb tenantiaeth

12 mis), gofod cydweithio (mewn partneriaeth ag

IndyCube), gwasanaeth derbynfa, ystafelloedd rheoli,

mannau anffurfiol ac ystafelloedd cyfarfod. Mae’r Ganolfan

yn arbenigo mewn cefnogi busnesau gwyddoniaeth a thechnoleg

newydd yn ogystal â gweithredu fel lleoliad ar gyfer

busnesau mwy sefydledig sy’n edrych ar adleoli neu ar sefydlu

presenoldeb masnachu yn Ne Ddwyrain Cymru.

Mae’n bwysig deall bod deori busnes yn fwy na dim ond y

seilwaith materol. Tra bod darparu gofod swyddfa yn aml yn

elfen allweddol, mae’n ail i’r gefnogaeth ymarferol, wedi’i

theilwra sydd ar gael i fusnesau ar adeg yn ystod eu bodolaeth

pan eu bod yn fwyaf bregus. Yn hollbwysig, proses yw

deori busnes sy’n dewis busnesau/syniadau busnes, yn eu

cefnogi ac yn annog eu datblygiad, ac yna’n gofyn iddyn nhw

raddio neu symud ymlaen.

Nid syniad diweddar yw deori busnes, mewn gwahanol ffyrdd

mae’n syniad sydd wedi bod yn gweithredu ar draws y byd

am nifer o flynyddoedd. Mae’n cael ei ddefnyddio i hybu

economïau lleol a rhanbarthol trwy annog gweithgareddau

mentergar - yn arbennig, creu busnesau cychwynnol sydd

â’r potensial i dyfu. Mae astudiaethau’n dangos bod

deoryddion busnes yn gallu cyfrannu’n sylweddol at gyfradd

llwyddiant busnesau cychwynnol newydd. Mae rhai astudiaethau’n

dangos bod cyfradd llwyddiant busnesau sy’n cael

eu cefnogi gan ddeoriad gymaint ag 85% o gymharu â dim

ond 20% ar gyfer y rheiny sy’n derbyn dim neu ddim ond

ychydig o gefnogaeth busnes.

Gall syniad creiddiol deori busnes weithio mewn unrhyw

ddiwydiant, gymuned neu ranbarth demograffig. Mae

manteision deoryddion busnes yn niferus, rhai o’r nodweddion

a manteision clasurol yw

Rhannu Costau Gweithredu - mae cwmnïau mewn

deorydd busnes yn rhannu nifer o’r costau gan gynnwys

gwasanaethau, seilwaith TGCh, cyfleusterau cynadledda,

cefnogaeth weinyddol etc. Mae hyn yn caniatáu i’r mentrwr

gymryd mantais o gyfleusterau na fyddai fel arfer o fewn

cyrraedd cyllideb cwmni cychwynnol newydd

8

CYLCHLYTHYR (CLWB) LLAIS BUSNES TORFAEN | TACHWEDD 2017

Cyngor a Hyfforddiant - rhan annatod o ddeori busnes yw

bod gofyn i berchnogion busnesau “brynu i mewn” i’r broses

trwy gofleidio’r gefnogaeth, y cyngor a’r hyfforddiant sy’n cael

eu cynnig trwy’r deorydd

Mynediad ar arian - fel arfer mae gan ddeoryddion

gysylltiadau gyda chyrff ariannu cyhoeddus a phreifat i helpu i

wneud y mwyaf o’r cymorth ariannol sydd ar gael

Terfyn Amser - i’r broses deori i weithio rhaid i’r gefnogaeth

a’r cyfnod preswyl fod yn gyfyngedig o ran amser. Mae hyn yn

golygu bod y busnes yn cyrraedd y cyfleuster gyda chynllun

mewn lle ar gyfer gadael. Fel arfer bydd y cyfyngiad ar amser

mewn deorydd rhwng 1 flwyddyn a 3 blynedd

Hygrededd/cyfeillgarwch - mae busnesau mewn deorydd yn

sefydlu lefel o hygrededd yn y farchnad. Mae’r ffaith fod y

cwmni wedi cwrdd â’r meini prawf ac wedi cael ei dderbyn i’r

cyfleuster yn cynnig gwerth i fuddsoddwyr, cyflenwyr a chwsmeriaid

posibl. Hefyd mae presenoldeb cyd-fentrwyr yn

cynorthwyo i greu awyrgylch o rwydweithio deinamig a rhannu

profiadau

Dyw deori busnes ddim yn ateb cyflym, mae’n cymryd amser i

Manufacturing

gyfleuster aeddfedu, cael hyd i’w farchnad a medi’r buddion

economaidd. Hefyd, mae gweithio mewn partneriaeth yn

allweddol i lwyddiant unrhyw ddeorydd busnes, mae gweithio

gyda darparwyr eraill o gefnogaeth i fusnesau o’r sectorau

cyhoeddus a phreifat fel ei gilydd yn helpu sicrhau bod busnesau

sy’n defnyddio’r cyfleuster yn manteisio ar bob adnodd

OCTOBER

sydd ar gael.

Mae Springboard wedi sicrhau bron i 100 o gwmnïau gwyddoniaeth

a thechnoleg yn ystod y 12 mlynedd ddiwethaf sydd

wedi arwain at ddatblygu clwstwr digidol yn yr ardal ac o’i

chwmpas. Mae nifer o’r cwmnïau uchel eu proffil wedi cael eu

prynu gan arweinwyr rhyngwladol sefydledig a’r mwyaf diweddar

o’r rhain yw prynu Genfour Ltd gan Accenture.

Daeth Genfour i Springboard yn 2015 gan sicrhau pecyn

ariannol o £550,000 gan Lywodraeth Cymru a Chyllid Cymru i

ddod â’r prosiect i Gymru. Ers lleoli yng Nghwmbrân mae’r

cwmni wedi creu dros 50 o swyddi â sgiliau uchel. Wrth brynu,

bydd Accenture yn gallu cynnig i’w cleientiaid atebion

awtomeiddio deallus sydd wedi eu cynllunio i ail-beiriannu

prosesau busnes. Bydd staff proffesiynol Genfour yn ymuno â

thîm Awtomeiddio Deallus Byd-eang Accenture Operations a

byddant yn rhan o’r Ganolfan newydd ar gyfer Rhagoriaeth

mewn Awtomeiddio Deallus yn Ne Ddwyrain Cymru.

Am fwy o wybodaeth am Ganolfan Arloesi Busnes Springboard

~ Cymru, cysylltwch â Geraint John, Arweinydd

Grŵp, Economi a Menter Ddigidol ar 01633 647803 neu

drwy e-bost geraint.john@torfaen.gov.uk
Dydd Iau 23 Tachwedd 2017

4:30pm – 8:00pm

Parkway Hotel & Spa, Cwmbran Drive, Cwmbran NP44 3UW

Ferched...

Ydych chi’n rhedeg eich busnes eich hun?

A oes gennych swydd rheoli o fewn sefydliad?

A ydych yn ystyried sefydlu eich menter eich hun?

Ydych? Yna beth am ymuno â ni ar gyfer yr hyn sy'n argoeli i fod yn noson

‘Menywod mewn Busnes’ hynod lwyddiannus unwaith eto yn Nhorfaen.

P'un ai ydych yn gweithio yn Nhorfaen neu ardaloedd cyfagos, fe gewch

groeso cynnes yn y digwyddiad hwn sydd eleni yn cefnogi Ty Hafan.

Peidiwch ag anghofio gofyn i’ch cysylltiadau, cydweithwyr a chleientiaid i

archebu lle hefyd!

gael mwy o wybodaeth ac i gadw lle ewch i

www.southwalesbusiness.co.uk

@TorfaenBiz

/ TorfaenEnterprise

Torfaen Economy & Enterprise

Paham y dylech fynychu?

Gwneud cysylltiadau newydd trwy

gyfleoedd rhwydweithio

Mwynhau cerddoriaeth ac adloniant

dros De Prynhawn blasus

Cael eich ysbrydoli gan brif siaradwr

Cael cyfle i ymweld â’r byrddau

arddangos a’r masnachwyr

Cael gwerth gwych am arian am

£10 y cynrychiolydd yn unig

Siaradwr gwadd - Jean Church,

Cadeirydd Cenedlaethol

– Sefydliad y

Cyfarwyddwyr

Cael gwerth gwych am arian am £10

y cynrychiolydd yn unig

*Prisiau heb gynnwys TAW. Yr holl elw yn mynd i Dŷ Hafan

Adnewyddu Aelodaeth

ar gyfer 2018!

Rydym yn gobeithio eich bod, fel aelod, wedi mwynhau eich

aelodaeth Llais Busnes Torfaen eleni a gyda’r cyfarfod

Nadolig, yr olaf yn y flwyddyn, ar ein gwarthau, mae’n amser

eich atgoffa y bydd angen adnewyddu eich aelodaeth ym

mis Ionawr.

Mae llawer o’r adborth gan ein haelodau yn awgrymu ein

bod yn rhoi i chi’r gymysgedd iawn o rwydweithio a gwybodaeth

ac rydym yn falch ein bod yn medru helpu i ddatblygu

a chefnogi perthnasau busnes lleol. Os oes gennych chi

unrhyw sylwadau/awgrymiadau yr hoffech eu gwneud

ynglŷn â’r clwb, e-bostiwch:

info@southwalesbusiness.co.uk

£50.00 plus TAW

(Cwmnïau gydag 1 - 4 gweithiwr)

£65.00 plus TAW

(Cwmnïau gyda 5+ gweithiwr)

Aelodaeth o £15 fesul cyfarfod ar gyfer dau le yn hanfod

rhwydweithio rhagorol.

Cynllun Cyflwyno

Aelod

I’r rhai ohonoch a fanteisiodd ar y cynllun Cyflwyno Aelod

byddwn yn cysylltu â chi yn y man i’ch hysbysu o arian i

ffwrdd ar eich aelodaeth ar gyfer 2018.

Nid yw’n rhyw hwyr i gael arian oddi ar eich aelodaeth ar

gyfer 2017 trwy gyflwyno aelod newydd erbyn diwedd y

flwyddyn. Anogwch eich cysylltiadau busnes a’ch cleientiaid

i ymuno â’r clwb busnes poblogaidd hwn ar gyfer ein

cyfarfod Nadolig ar 7fed Rhagfyr a medrent hwythau

fwynhau holl fanteision bod yn aelod o Lais Busnes

Torfaen.

Am bob busnes y byddwch yn ei annog i ymuno, bydd

eich busnes chi yn cael £5.00 oddi ar eich aelodaeth

chi ar gyfer 2018 (hyd at uchafswm o £50.00). Bydd yr

aelod newydd yn cael disgownt o £5.00 oddi ar eu ffi

ymuno. Gwnewch yn siŵr bod yr aelod busnes newydd yn

cwblhau eich enw chi ac enw eich cwmni yn y lle priodol ar

y ffurflen gais arlein.

CYLCHLYTHYR (CLWB) LLAIS BUSNES TORFAEN | TACHWEDD 2017

9
Cyfarfod

yr Aelod

Mae Cariad Munday yn fargyfreithiwr sydd wedi troi’n

ddatblygwr busnes a gweithiwr proffesiynol marchnata

rhwydweithiau, gydag angerdd i helpu cymaint o bobl ag y bo

modd i fyw bywydau iachach a chyfoethocach! Dechreuodd

Cariad ar ei gyrfa fel bargyfreithiwr yn 2009, ond daeth i

deimlo rhwystredigaeth gydag incwm simsan a diffyg gwaith.

Yn 2013, newidiodd gyfeiriad go iawn trwy ddod yn rheolwr

ardal yn y sector manwerthu, ond roedd yr oriau hir a’r anhyblygrwydd

yn mynd yn groes i’w syniad hi o gydbwysedd

bywyd/gwaith a hunanlywodraeth. (Ffordd neis o ddweud

nad yw’n hoffi gweithio’n rhy galed na rhywun yn dweud wrthi

beth i’w wneud!!)

Ar ôl rhyw flwyddyn yn y rôl, dechreuodd Cariad feddwl am

syniadau gyrfa lle gallai ennill incwm gwych o hyd, ond yn

hyblyg ac o’i chartref. Nid oedd marchnata rhwydwaith yn

rhywbeth roedd Cariad erioed wedi clywed amdano, ac nid

oedd ‘chwaith wedi clywed am y cwmni 39 oed Forever Living

Products. Ond roedd y posibilrwydd o weithio o’i chartref, gan

weithio cymaint neu cyn lleied o oriau ag yr hoffai, a gwneud

incwm a fyddai’n disodli ei chyflog fel rheolwr ardal (a mwy) -

oll trwy helpu pobl gyda chynhyrchion gofal iechyd neu eu

dysgu i ddechrau eu busnesau eu hunain i gyflawni eu

hamcanion ariannol, yn amhosibl i’w wrthod.

3 blynedd ymlaen, ac mae Cariad wrth ei bodd ac yn falch o’r

hyn y mae’n ei wneud. Dim ond 8 mis ar ôl dechrau ei busnes

newydd, roedd yn medru gadael, yn ariannol, ei rôl fel rheolwr

ardal ac mae ei busnes ers hynny wedi mynd yn fyd-eang.

Nid yn unig y rhyddid ariannol a gynigir gan y busnes, ond

hefyd y rhyddid i reoli ei dyddiadur ei hun a threfnu ei bywyd

ei hun. Y dyddiau hyn, mae Cariad yn gweithio rhyw 20 awr

yr wythnos o’i chartref ac yn cael digon o amser i fod yn fam

lawn-amser, a boddio ei chariad tuag at esgidiau, siopa a

gwyliau! Ei phrif rôl nawr yw mentora eraill i feithrin eu busnesau

llwyddiannus eu hunain, gan ganiatáu iddynt gyflawni pa

bynnag amcanion sydd ganddynt, mewn faint bynnag o

amser sydd ganddynt ac o gwmpas pa bynnag ymrwymiadau

sydd ganddynt.

Medrwch chithau hefyd gychwyn eich busnes eich hun yn

eich cartref, naill ai’n rhan- neu'n llawn-amser. Oriau gwaith

sy’n ffitio o amgylch gwaith arall neu ymrwymiadau eraill. Yn

caniatáu i chi wneud cannoedd o bunnau y mis, neu filoedd o

bunnau y mis, neu fod ag incwm corfforaethol blynyddol 6

neu 7 ffigwr, gydag ychwanegion megis teithio am ddim,

cynllun car a rhannu elw.

“Mae’n waith caled ac yn

ymestynnol. Ond mae’n debyg

mai llwyddiant yn dod o ganlyniad

i waith caled yw’r gyfrinach y

mae’r byd yn ei chadw waethaf”

Cariad Munday

International Business Developer

Ddim yn Aelod?

Ni allai fod gwell

amser i ymuno!

Fe gewch groeso cynnes iawn fel aelod newydd o Lais Busnes

Torfaen ac fe gewch fanteisio'n llawn ar ein digwyddiadau

chwarterol a'r cyfleoedd cyhoeddusrwydd sydd ar gael trwy ein

gwefan. Ac yn ogystal â hynny, mae'n hawdd ymuno ag un o

glybiau busnes mwyaf poblogaidd a ffyniannus yr ardal.

Cyfleoedd Hysbysebu

Erbyn hyn mae gennym sgrin hysbysebu y maen

siŵr y byddwch wedi ei gweld yn ein cyfarfod ym mis

Mehefin a bydd yn cael ei harddangos yn ein

digwyddiad ym mis Medi. Mae hwn yn gyfle gwych i

chi arddangos eich busnes yn ein pedwar digwyddiad

gyda neges sydd wedi'i deilwra i'r gynulleidfa, a'r

cyfan oll am £25.

Gofynnwch i ni ei ddangos i chi yn ein cyfarfod nesaf

ac fe wnawn ddangos i chi sut y gallwch ledaenu'r

gair am eich cynnyrch a'ch gwasanaethau!

Aelodau newydd

Geldards LLP

www.geldards.com

KN Office Supplies

www.knoffice.co.uk

LightBox HR

www.lightbox-hr.co.uk

Wade and Wade Solicitors

www.wadeandwadellp.co.uk

Hoffem ddiolch i'n cyfranwyr

10

CYLCHLYTHYR (CLWB) LLAIS BUSNES TORFAEN | TACHWEDD 2017