PRIME Annual Report 2018-19_Cymraeg

watkinsa6

Canolfan Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys

2018-19

Adroddiad Blynyddol


Cynnwys

Rhagair gan y Cyfarwyddwyr Tudalen 3

Nodau?r Ganolfan Tudalen 4

Crynodeb lleyg Tudalen 5

2015-19, crynodeb o weithgareddau Tudalen 6

Pwy ydym ni - cwrdd â'r timau Tudalen 8-9

Yr hyn rydym yn ei wneud - ein pecynnau gwaith

ymchwil Tudalen 10-12

Cyfarfod blynyddol PRIME 2018 Tudalen 13

Cynnwys y cyhoedd ac ymgysylltu Tudalennau 14-15

Canfyddiadau ymchwil allweddol Tudalennau 16-18

Astudiaethau achos effaith Tudalennau 19-21

Casgliadau a blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol Tudalen 22

primecentre.wales

2


Rhagair

Mae Canolfan Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys

(Canolfan PRIME) yn cael ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Nod Canolfan PRIME Cymru yw

gwella iechyd a lles yng Nghymru

a thu hwnt drwy wneud gwaith

ymchwil o ansawdd uchel ar

bynciau o flaenoriaeth polisi

cenedlaethol, sy?n cyfrannu at y

sylfaen dystiolaeth mewn gofal

sylfaenol a gofal brys, a sicrhau

bod canfyddiadau?n cael eu trosi?n

bolisi ac arfer.

Mae?r sectorau gofal brys a gofal

sylfaenol yn darparu 90% o'r holl

gysylltiadau cleifion o fewn y GIG.

Bydd newidiadau mewn gofal

sylfaenol yn effeithio ar ofal brys a

gofal heb ei drefnu, ac i'r

gwrthwyneb, a gall unrhyw

newidiadau yn y sectorau hyn

effeithio?n fawr ar sectorau gofal

eilaidd a?r sectorau cymdeithasol.

Mae tystiolaeth fyd-eang yn

dangos po gryfaf yw?r sector gofal

sylfaenol a gofal brys yn y wlad

honno, bod ei system iechyd gyfan

yn gryfach ac yn fwy effeithiol.

Rhaid i?r sectorau hyn gael eu

cefnogi gan sylfaen dystiolaeth

academaidd ac ymchwil gref.

Mae hwn yn faes hanfodol bwysig

ar gyfer ymchwil, ymgysylltu,

symud gwybodaeth ac effaith, ac

mae PRIME yn cyflawni hyn yn

effeithiol a gyda llwybr tuag i fyny,

gyda chyfanswm o £40M dros

bedair blynedd, a disgwylir iddo

Yn ystod 2018-19, mae PRIME wedi derbyn 37 o

astudiaethau newydd gyda chyfanswm gwerth grant o

dros £3.9 miliwn. Ar draws y cyfnod grant pedair blynedd

(hyd at Fawrth 2019), rydym wedi cyflwyno 258 o

geisiadau am grant ac mae 132 o?r rhain wedi cael eu

dyfarnu (gyda sawl penderfyniad yn yr arfaeth), sy?n

gyfanswm o dros £40,000,000. Mae ein cyfradd

llwyddiant ceisiadau dros 4 blynedd o 43% wedi bod yn

gyson uwch na?r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer

grantiau mewn ymchwil iechyd gymhwysol.

godi gyda?r ceisiadau sydd ar y

gweill ar hyn o bryd.

Mae ein hymchwil yn cyd-fynd â

pholisïau, cynlluniau a

strategaethau Iechyd a Gofal

Cymdeithasol Llywodraeth Cymru,

gan gynnwys ?Cymru iachach: ein

Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal

Cymdeithasol?a ?Ffyniant i Bawb: y

strategaeth genedlaethol?i sicrhau

bod gwasanaethau iechyd a gofal

yn cael eu darparu sy?n addas ar

gyfer y dyfodol.

Ynghyd â'n rhanddeiliaid

allweddol, rydym yn ymchwilio i:

- atal yn ogystal â

thriniaethau,

- gwella safon ac ansawdd y

triniaethau drwy gynhyrchu

tystiolaeth,

- integreiddio iechyd a gofal

cymdeithasol,

- symud gwasanaethau

iechyd a gofal i gymunedau

oddi wrth ysbytai a

- defnyddio data y GIG a data

gofal cymdeithasol i ddeall

canlyniadau ac atal yn well.

Mae PRIME yn Ganolfan Cymru

gyfan dan arweiniad Prifysgol

Caerdydd, Prifysgol Bangor,

Prifysgol De Cymru a Phrifysgol

Abertawe.

Yr Athro Adrian Edwards,

Cyfarwyddwr,

Canolfan PRIME Cymru

Athro Gofal Sylfaenol,

Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Joyce Kenkre,

Cyfarwyddwr Cyswllt,

Canolfan PRIME Cymru

Athro Gofal Sylfaenol,

Prifysgol De Cymru

Yr Athro Helen Snooks,

Cyfarwyddwr Cyswllt,

Canolfan PRIME Cymru

Athro Ymchwil Gwasanaethau Iechyd,

Prifysgol Abertawe

Yr Athro Clare Wilkinson,

Cyfarwyddwr Cyswllt,

Canolfan PRIME Cymru

Athro Ymarfer Cyffredinol,

Prifysgol Bangor

primecentre.wales

3


Nodau

Prif nod PRIME yw gwella iechyd a lles pobl Cymru drwy gynnal ymchwil o

safon uchel ar bynciau o flaenoriaeth polisi cenedlaethol mewn gofal

sylfaenol a gofal brys a sicrhau bod canfyddiadau?n cael eu trosi?n bolisi ac

ymarfer.

Mae ein gwaith yn cynnwys:

1

Sicrhau effaith ymchwil amlwg drwy ddatblygu ein

hymchwil gyda?n rhanddeiliaid, cyfleu

canfyddiadau ymchwil, gweithio gyda

rhanddeiliaid i sicrhau bod canfyddiadau?n cael eu

2

Cynyddu faint o ymchwil ar raddfa fawr, o ansawdd

uchel a wneir yng Nghymru neu sy?n cael ei arwain

gan Gymru drwy gydweithio?n agos â?n holl

randdeiliaid, a denu cyllid ymchwil o fri i Gymru.

3

Cynnal gweithgareddau ymchwil a lledaenu sy?n

bwysig i gleifion a?r cyhoedd drwy gynnwys

defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a?r cyhoedd

yn ehangach wrth flaenoriaethu, dylunio, cynnal,

dehongli a lledaenu ymchwil.

4

Cynyddu?r capasiti ar gyfer ymchwil mewn gofal

sylfaenol a gofal brys yng Nghymru, ar draws

disgyblaethau, sectorau, grwpiau proffesiynol a

lefelau uchel o swyddi.

primecentre.wales

4


Crynodeb Lleyg

Mae Canolfan PRIME Cymru yn

ganolfan ymchwil sy?n dod ag

ymchwilwyr, clinigwyr, cleifion, staff

y gwasanaeth iechyd ac arbenigwyr

eraill at ei gilydd.

Rydym yn gwneud gwaith ymchwil ar

wasanaethau a thriniaethau a

ddarperir mewn lleoliadau gofal

sylfaenol a gofal brys er mwyn i ni allu

gwella iechyd a lles yng Nghymru a thu

hwnt.

Mae naw o bob deg o gysylltiadau

cleifion â'r GIG yn digwydd mewn

lleoliadau gofal sylfaenol neu ofal

brys. Bydd newidiadau ym maes gofal

sylfaenol yn effeithio ar ofal brys a

gofal heb ei gynllunio ac i?r

gwrthwyneb.

Byddant hefyd yn effeithio ar y

sectorau gofal eilaidd a gofal

cymdeithasol. Felly mae gofal

sylfaenol a gofal brys effeithiol yn

helpu?r GIG cyfan ac yn helpu cleifion i

aros yn iach am fwy o amser.

Yn ein hymchwil, rydym yn

cynnwys cleifion ac aelodau

o?r cyhoedd fel y gall eu

profiad o salwch, gofal

meddygol a gofalu am eraill

ein helpu i gynllunio a

gwneud ymchwil sy?n diwallu

eu hanghenion.

Mae pedair prifysgol yn cyd-arwain

PRIME sef Prifysgol Caerdydd, Prifysgol

Abertawe, Prifysgol Bangor a

Phrifysgol De Cymru. Rydym yn

gweithio gyda'n gilydd i rannu ein

harbenigedd. Rydym wedi ein

hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal

Cymru.

Rydym yn cydlynu gr? p o aelodau o?r

cyhoedd a?r cleifion o?r enw SUPER

(Service Users for Primary and

Emergency care Research) sy?n cyfarfod

ymchwilwyr i drafod ymchwil a hefyd i

gyfrannu at oruchwylio a chyflawni

gweithgarwch PRIME.

Mae ein timau ymchwil hefyd yn

cynnwys pobl sy?n comisiynu,

cynllunio a darparu gwasanaethau

iechyd. Yn y ffordd hon, mae?r holl

safbwyntiau a gwybodaeth yn y tîm.

Rydym yn cynnal cyfarfod blynyddol i

ddweud wrth bobl am ein gwaith

ymchwil.

Yn ystod 2018-19, rydym wedi ennill

primecentre.wales

Dr Carolyn Wallace, Parweinydd PRIME ar gyfer cydweithrediad gofal cymdeithasol a?r

trydydd sector gyda chydweithwyr yng nghyfarfod Bwrdd Age Cymru Ceredigion a

gynhaliwyd ym mis Medi 2018

37 o astudiaethau newydd gyda

chyfanswm gwerth grant o dros

£3miliwn. Rydym hefyd wedi cyhoeddi

canlyniadau astudiaethau yr ydym

wedi?u cwblhau.

Dyma rai o'n canfyddiadau diweddaraf:

- Nid yw steroidau geneuol

ddim gwell na dulliau

anlawfeddygol eraill ar gyfer

trin clust ludiog mewn plant

ifanc. Dangosodd ein

hastudiaeth fod clust ludiog yn

aml yn gwella ar ei ben ei hun.

- Mae angen gwybodaeth a

chefnogaeth i fenywod sydd â

chlefydau gwynegol

hunanimíwn sydd am

ddechrau teulu. Dylai ymchwil

ganolbwyntio ar ddulliau sy?n

cynyddu cyfranogiad cleifion

mewn penderfyniadau am eu

gofal wrth gynllunio teulu, yn

ystod beichiogrwydd ac yn

ystod y misoedd ar ôl dod yn

rhiant.

- Mae pedwar math o ofal

anniogel yn creu risgiau i

gleifion sy?n derbyn gofal

lliniarol y tu allan i oriau:

camgymeriadau wrth roi

meddyginiaeth; gofal ddim ar

gael pan fo angen; rhannu

gwybodaeth gwael rhwng

timau gofal iechyd; problemau

gyda thriniaethau anfeddygol

fel cathetrau a thiwbiau

bwydo.

- Mae parafeddygon sydd wedi

cael hyfforddiant priodol yn

gallu rhoi anesthetig lleol i

gleifion sy?n torri eu clun.

Gallai rhoi?r meddyginiaeth

lleddfu poen hwn cyn mynd i?r

ysbyty mewn ambiwlans olygu

nad yw cleifion yn derbyn

morffin, y driniaeth boen

arferol. Mae morffin yn

gysylltiedig â phroblemau

iechyd sy'n gallu achosi oedi

cyn cael llawdriniaeth, yn

cyfrannu at niwmonia a

briwiau gwely ac arafu

adferiad.

- Mae cleifion yn mynd at

feddyg teulu pan fydd

ganddynt broblemau

deintyddol oherwydd

rhwystrau sy'n ei gwneud yn

fwy anodd gweld deintydd, yn

enwedig pan fydd yn fater

brys.

Mae rhywfaint o'n gwaith cyfredol a?n

gwaith fydd yn cychwyn yn fuan yn

cynnwys:

- Datblygu hyfforddiant ar gyfer

deintyddion a meddygon am

ragnodi gwrthfiotigau priodol

- Datblygu ffyrdd newydd o

sgrinio am ganser, yn enwedig

ar gyfer pobl nad ydynt yn cael

mynediad at wasanaethau

sgrinio ac atal ar hyn o bryd

- Edrych ar y ffordd orau i

ymateb i anghenion pobl sy'n

gwneud galwadau 999 amlach.

5


primecentre.wales

6


primecentre.wales

7


Pwy ydym ni

Mae PRIME yn gweithredu model

arwain cynhwysol a llorweddol, gyda

chyfraniad amlddisgyblaethol i?r

gr? p arweinyddiaeth a?r Gr? p Rheoli

Gweithredol a chymorth i

Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa

(ECR) mewn rolau arwain (e.e.

Pecynnau Gwaith cyd-arweiniol).

Mae ein pwyslais ar Gymru gyfan yn

amlwg yn ein Cyfarfodydd Blynyddol

sy?n cylchdroi ym Mhrifysgol

Abertawe, Prifysgol Bangor a

Phrifysgol De Cymru.

Mae?r gr? p Arweinyddiaeth yn cael

cymorth sylweddol a chyfeiriad

strategol gan y gr? p "SUPER "

(cleifion a?r cyhoedd), y Pwyllgor

Rheoli Gweithredol (rhanddeiliaid,

meysydd polisi a disgyblaeth), a?r

Bwrdd Cynghori Rhyngwladol

(academyddion o dramor a

chyfranwyr PPI).

Pwyllgor Rheoli Gweithredo

primecentre.wales

8


Grwp Gweithredol

Bwrdd Cynghori Rhyngwladol

primecentre.wales

9


Work Packages

1) Meysydd ymchwil

Arweinwyr: Yr Athro Joyce Kenkre

& Dr Carolyn Wallace

Caiff saith o bob 10 punt sy?n cael ei

wario yn y GIG yn cael eu gwario ar bobl

â chyflyrau meddygol lluosog hirdymor.

Mae?r WP1 hwn yn datblygu rhaglenni

ymchwil sy?n cael eu nodi gan anghenion

y cleifion a?r bobl y mae?r cyflyrau hyn yn

effeithio arnynt.

Mae ein pecyn gwaith yn cydweithio â

nifer o randdeiliaid gan gynnwys cleifion

a?u teuluoedd, aelodau o?r cyhoedd,

byrddau iechyd lleol, gofal cymdeithasol,

a diwydiant i ysgogi gwaith ar draws

ystod o gyflyrau.

Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae?r WP hwn

wedi bod yn gweithio ar ddatblygu

rhaglenni ymchwil mewn ymarfer sy'n

seiliedig ar anghenion ar gyfer cyflyrau

hirdymor. Rydym yn cysylltu grwpiau

proffesiynol, sefydliadau a defnyddwyr

ar draws sectorau, yn enwedig felly?n

integreiddio â Gofal Cymdeithasol, i

ymwneud ag ymddygiad a datblygiad

ymchwil.

Yn y blynyddoedd nesaf, bydd WP1 yn

canolbwyntio ar ymchwil sy?n galluogi

cleifion i gael gofal yn eu cymunedau eu

hunain, gan gynnwys gwasanaethau

iechyd a gofal cymdeithasol yn y cartref,

ymarfer cyffredinol, fferylliaeth

gymunedol, optegwyr, a sefydliadau?r

trydydd sector sy?n darparu

gwasanaethau a chymorth i gymunedau.

Gwybodaeth bellach:

http:/ / bit.ly/ PRIMEWP1

2) Gofal

person-ganolog

Arweinwyr: Dr Fiona Wood &

Dr Natalie Joseph Williams

Mae Gofal Person Ganolog yn

defnyddio?r athroniaeth o rymuso

cleifion a chyd-gynhyrchu wrth

ymgysylltu cleifion ac aelodau o?r

cyhoedd yn eu hiechyd a?u gofal iechyd.

Ein meysydd blaenoriaeth yw: (i) Gwneud

Penderfyniadau ar y Cyd a Chymhorthion

Gwneud Penderfyniadau (ii) Cymorth

hunan-reoli a llythrennedd iechyd (iii)

Caniatâd, gallu, cyfathrebu.

Mae ein prosiectau?n canolbwyntio ar

gyd-gynhyrchu iechyd mewn meysydd

clinigol lle mae?r angen mwyaf am fwy o

ddefnydd o ddulliau cydweithredol i

wella canlyniadau iechyd, gan gynnwys

ar gyfer pobl sydd â chyflyrau hirdymor,

anghenion iechyd cymhleth, plant a

phobl ifanc. Rydym yn canolbwyntio ar

arloesi, gweithredu a gwerthuso

ymyriadau.

Yn y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi

datblygu a gwerthuso modelau ac

adnoddau hyfforddi newydd ar gyfer

gweithredu dulliau gofal iechyd ar y cyd

mewn gofal arferol ar draws GIG Cymru.

Yn y flwyddyn/ blynyddoedd nesaf,

byddwn hefyd yn gweithio i leihau

anghydraddoldebau mewn cyfleoedd ar

gyfer cyd-gynhyrchu drwy rymuso ac

ysgogi pobl o ardaloedd difreintiedig,

menywod, pobl ifanc, a phobl ag

anableddau dysgu mewn ymchwil

cyd-greu, gwasanaethau iechyd a gofal

iechyd.

Gwybodaeth bellach:

http:/ / bit.ly/ PRIMEWP2

3) Heintiau ac

ymwrthedd

gwrthficrobaidd

Arweinydd: Yr Athro Nick Francis

Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn un o

fygythiadau iechyd mwyaf difrifol ein

hoes. Mae 75% o'r holl wrthfiotigau sy?n

cael eu rhagnodio yn y DU mewn gofal

sylfaenol.

Mae WP3 yn canolbwyntio ar fynd i'r

afael â datblygiad ymwrthedd

gwrthficrobaidd drwy deilwra a

thargedu?r defnydd o wrthfiotigau mewn

gofal sylfaenol. Mae cydweithio

rhyngwladol, defnydd arloesol o setiau

data mawr, cysylltedd data, a threialu

dyluniadau addasol yn allweddol i'n

gwaith.

Mae gwaith diweddar wedi cynnwys

lleihau rhagnodi gwrthfiotigau diangen

drwy gynnal profion newydd mewn

meddygfeydd a datblygu adnoddau

dysgu ar gyfer ymarferwyr meddygol a

deintyddol am stiwardiaeth

wrthficrobaidd a diogelwch cleifion.

Rydym hefyd yn defnyddio data arferol i

ymchwilio epidemioleg rhagnodi

gwrthfiotigau yng Nghymru a'r DU.

Bydd yr ymchwil hwn yn sail i ganllawiau,

arferion rhagnodi gwrthfiotigau a gwella

diagnosis, rheoli ac atal nifer o heintiau

cyffredin (gan gynnwys y frest, croen a

llwybr wrinol) mewn gofal sylfaenol.

Gwybodaeth bellach:

http:/ / bit.ly/ PRIMEWP3

Cydweithwyr WP1 yn arwain trafodaeth bord gron Rhagnodi

Cymdeithasol ynghylch sut i ymgysylltu gyda sefydliadau a

defnyddwyr gwasanaeth newydd, 7 Tachwedd 2018

primecentre.wales

10


4) Sgrinio, atal a

diagnosismewn gofal

sylfaenol

Arweinydd: Yr Athro Kate Brain

Canser oedd prif achos blynyddoedd o

fywyd a gollwyd yng Nghymru yn 201.

Mae posibilrwydd y gellir atal tua

phedwar o bob deg canser, ac mae

graddiant cymdeithasol cryf o ran

penderfynyddion iechyd yng Nghymru.

Mae anfantais economaiddgymdeithasol,

oedran a rhyw yn

ddylanwadau mawr ar ganlyniadau

canser yng Nghymru.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae WP4

wedi parhau i adeiladu ar ein cryfderau

ym maes canser a blaenoriaethau iechyd

eraill drwy: ddatblygu strategaethau i atal

clefydau sy?n gysylltiedig â gordewdra a

lleihau?r niwed a achosir gan dybaco,

cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd a

gwella?r defnydd teg o raglenni sgrinio, a

hwyluso diagnosis cynnar.

Yn ystod y flwyddyn nesaf, bydd ein

gwaith yn gynyddol yn cynnwys cleifion,

gweithwyr iechyd proffesiynol, ac

aelodau o?r cyhoedd wrth ddatblygu,

gwerthuso a gweithredu ymyriadau

person ganolog sy?n mynd i?r afael ag

anghydraddoldeb iechyd o ran sgrinio

canser, atal a diagnosis cynnar.

Byddwn yn parhau i ddatblygu a phrofi

mesurau a dulliau newydd i wella sgrinio

canser, atal, ac ymddygiad diagnosis

cynnar ar draws ystod o fathau o ganser.

Mae ein holl ymchwil seiliedig ar

wyddoniaeth ymddygiadol arloesol a

theori a dulliau cymdeithasegol.

Gwybodaeth bellach:

http:/ / bit.ly/ PRIMEWP4

5) Gofal heb ei drefnu

a gofal brys (Gan

gynnwys cyn mynd i'r

ysbyty)

Arweinwyr: Yr Athro Helen Snooks

& Dr Alison Porter

Mae gwasanaethau gofal brys dan

bwysau cynyddol, gydag > 1 miliwn o

bresenoldebau mewn Adrannau

Achosion Brys yng Nghymru

(2018-2019). Canran y cleifion a oedd yn

treulio llai na 4 awr mewn Adran

Achosion Brys yn 2017-2018 oedd

81.7% , yr isaf ar gofnod, ac yn is na

tharged Llywodraeth Cymru o 95% ym

mhob bwrdd iechyd namyn un. Mae gofal

brys 999 a gwasanaethau y tu allan i

oriau hefyd yn cael trafferth gyda

chynnydd yn y galw a heriau wrth fodloni

targedau perfformiad.

Mae gwaith WP5 yn canolbwyntio ar ofal

brys ?darbodus?a gofal heb ei drefnu, gan

osgoi cysylltiadau diangen a symleiddio?r

system gofal brys. Mae ein hymchwil yn

cynnwys datblygu a phrofi modelau gofal

amgen, gan gysylltu?n agos â?r thema

fethodolegol e-dreialon, a chysylltu â?r

Fforwm Ymchwil 999 EMS i ledaenu

ymchwil a throsglwyddo gwybodaeth i

ymarfer.

Yn ystod y blynyddoedd nesaf, byddwn

yn adeiladu ar ein rhaglen waith i gefnogi

gwelliannau i ofal brys, gan nodi

ymatebion priodol i anghenion cleifion, a

darparu gofal yn agosach at y cartref, gan

gynnwys:

· Rhaglen waith ar y ffordd orau o ymateb

i?r sawl sy?n galw 999 ag anghenion uchel

parhaol

· Defnyddio dulliau ansoddol i ddeall

barn cleifion am ymyriadau a ddarperir

gan y gwasanaethau ambiwlans

Gwybodaeth bellach:

http:/ / bit.ly/ PRIMEWP5

6) Diogelwch cleifion

Arweinydd: Dr Andrew

Carson-Stevens

Mewn lleoliadau gofal sylfaenol ac

achosion brys yn y DU, mae 0.25 miliwn

o gleifion yn profi niwed bob blwyddyn o

>1 miliwn o achosion anrhagweladwy y

diwrnod. Mae WP6 yn gweithio i fynd i?r

afael â bwlch pwysig mewn ymchwil o

ran gwella ansawdd a diogelwch

gwasanaethau gofal sylfaenol.

Mae ein gwaith yn cynnwys sefydlu

epidemioleg ansawdd gofal o ran amlder,

baich a?r gallu i atal niwed, yn ogystal â

datblygu, profi a gweithredu ymyriadau

mewn meysydd blaenoriaeth;

Datblygu a mireinio dulliau y mae eu

hangen er mwyn dysgu o ddata gofal

iechyd rheolaidd, ar wahân ac ar y cyd

(e.e. adroddiadau am ddigwyddiadau

diogelwch), gweithgarwch ymchwil a

gwella presennol, consensws arbenigol, a

data empirig a gasglwyd o?r maes;

Datblygiad a thwf partneriaethau gwaith

sy?n bodoli eisoes gyda?r Sefydliad

Gwella Gofal Iechyd ac Ysgol Feddygol

Harvard yn Boston, UDA; Sefydliad

Arloesi Gofal Iechyd Awstralia ym

Mhrifysgol Macquarie yn Sydney; yr

Adran Ymarfer Teulu ym Mhrifysgol

British Columbia yn Vancouver; a

Phrifysgol Caeredin, Prifysgol

Nottingham, ac Ysgol Hylendid a

Meddygaeth Drofannol Llundain.

Gwybodaeth bellach:

http://bit.ly/PRIMEWP6

Cydweithwyr WP4 yn derbyn y wobr am y

poster gwyddonol gorau yng y Gynhadledd

Diagnosis Cynnar, 13 Chwefror 2019

primecentre.wales

11


7) Lechyd y Geg a

gofal deintyddol

sylfaenol

Arweinydd: Prof Ivor Chestnutt

Mae iechyd geneuol gwael yn

gysylltiedig ag anfantais gymdeithasol ac

economaidd. Yn y DU, mae 49% o blant

wedi datblygu pydredd dannedd erbyn

iddynt fod yn bum mlwydd oed, ac mae

tynnu dannedd o dan anesthetig

cyffredinol yn un o?r prif achosion o

dderbyn cleifion i?r ysbyty mewn plant 5

i 9 mlwydd oed. Mae gofal deintyddol

Cymru, a ddarperir yn bennaf mewn

gofal sylfaenol, yn costio £140M y

flwyddyn, ac mae rhaglen o ddiwygiadau

mawr yn y ffordd mae gwasanaethau

deintyddol yn cael eu comisiynu yng

Nghymru ar y gweill ar hyn o bryd.

Rydym yn gweithio ar feysydd

blaenoriaeth o ran polisi ac yn cysylltu â

phecynnau gwaith eraill i hwyluso?r

broses o drosglwyddo gwybodaeth ac

arbenigedd ymchwil i?r lleoliad gofal

deintyddol sylfaenol. Yn y flwyddyn

ddiwethaf mae ein hymchwil wedi

canolbwyntio ar feysydd megis haint,

diogelwch cleifion, gofal iechyd

darbodus a gofal iechyd brys.

Yn ystod y flwyddyn nesaf, byddwn yn

canolbwyntio ar ddatblygu, gwerthuso a

gweithredu modelau sy?n seiliedig ar

werth o ran atal pydredd dannedd, a

chyd-gynhyrchu wrth ddarparu

gwasanaethau deintyddol. Yn ogystal â

hynny, rydym yn gweithio ar feithrin

capasiti a chynhyrchu tystiolaeth yn y

sector hwn lle nad oes llawer o ymchwil

wedi?i gwblhau.

Gwybodaeth bellach:

http://bit.ly/PRIMEWP7

WP7 Yr Athro Ivor Chestnutt a Dr Anwen Cope (chwith uchaf), gyda chydweithwyr yn y gweithdy Gweddnewid Deintyddiaeth yng

Nghymru, 7 Tachwedd 2018

primecentre.wales

12


Cyfarfod Blynyddol 2018

Roeddem yn falch iawn o groesawu

gwesteion i bedwerydd cyfarfod

blynyddol Canolfan PRIME Cymru, a

gynhaliwyd 26 Tachwedd ym Mhrifysgol

De Cymru, Pontypridd.

Yn dilyn ffocws cylchdro ein

blynyddoedd blaenorol ar ddau o

becynnau gwaith Canolfan PRIME Cymru,

roedd rhaglen digwyddiadau eleni yn

rhoi sylw i?r canlynol:

Cyflyrau a chyd-forbidrwydd hirdymor -

gyda?r siaradwr gwadd Sue Morgan,

Cyfarwyddwr Cenedlaethol ac

Arweinydd y Rhaglen Strategol ar gyfer

Gofal Sylfaenol a Chymunedol, GIG

Cymru.

Iechyd y geg a gofal deintyddol

sylfaenol - gyda?r siaradwr gwadd

Colette Bridgman, Prif Swyddog

Deintyddol Cymru.

Roedd y prynhawn yn cynnwys dewis o

weithdai cyfochrog yn seiliedig ar

ddulliau methodolegol ac arloesi:

- Sut y gall PPI gryfhau ymchwil

(dan arweiniad y gr? p PRIME

SUPER)

- Mapio Cysyniad Gr? p (dan

arweiniad Carolyn Wallace &

David Pontin)

- SAIL - agweddau ymarferol ar

ddefnyddio SAIL mewn

ymchwil (dan arweiniad Ashra

Khanom, Arfon Rees a Huw

Collins)

- Ymlyniad meddyginiaeth mewn

ymchwil clinigol (o dan

arweiniad David Gillespie ac

Emily Holmes).

Daeth y diwrnod i ben gyda sesiwn

arloesedd ymchwil a syniadau peryglus

ar ffurf cyflwyno syniadau, yn cynnwys

12 cynnig gan amrywiaeth o siaradwyr,

gyda gwobr yn cael ei dyfarnu am y

cyflwyniad gorau i Robert Goldsmith,

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a?r Fro:

'Credoau Salwch a chredoau triniaeth

mewn poblogaeth poen gwythenigol

meingefnol?.

Roedd posteri?n proffilio prosiectau

ymchwil a arweiniwyd ac a gefnogwyd

gan PRIME yn cael eu harddangos yn y

parth lluniaeth - mae detholiad i?w weld

yma.

Mae?r rhaglen llawn a sleidiau

cyflwyniad ar gael i?w gweld ar wefan

PRIME.

Mynychwyd y cyfarfod yn dda, gyda dros

90 o gynrychiolwyr gan gynnwys 11

aelod o?r cyhoedd. Cafodd cynnwys y

diwrnod, yn enwedig y cyflwyniadau a?r

gweithdai, eu derbyn yn dda, gyda

sylwadau adborth yn cynnwys:

Fe wnaeth aelodau SUPER gymryd rhan

weithredol yng nghyfarfod blynyddol

PRIME. Cyflwynodd dau aelod weithdy

am gryfhau cyfranogiad y cyhoedd a

chleifion mewn ymchwil, gan gynnwys

datblygu cynigion ymchwil a chyflwyno

ceisiadau am arian.

Roedd y sesiwn, a gadeiriwyd gan

Arweinydd PPI, Bridie Evans, yn

defnyddio gwybodaeth a gwaith gr? p

rhyngweithiol i rannu gwybodaeth a

sgiliau ymhlith ymchwilwyr PRIME.

Cyflwynodd dau aelod arall o SUPER

Gynnig am y syniad ?peryglus?i PPI, gan

archwilio?r syniad bod peidio â

chynnwys y cyhoedd a chleifion yn fwy

peryglus na chydweithio a

chydweithredu.

Fe wnaeth taflenni, poster a sesiynau

rhwydweithio SUPER gynnig cyfleoedd

pellach i rannu syniadau am PPI ar draws

PRIME, wedi?i ategu gan gyfarfod cinio ar

ôl y gynhadledd ar gyfer aelodau SUPER,

PRIME ac aelodau o Bwyllgor

Gweithredol PRIME.

"Roedd y siaradwyr yn wych ac yn trafod ar y lefel

gywir i?w gwneud yn hygyrch i bawb. Ymchwil

gwirioneddol werthfawr a fydd yn gwneud

gwahaniaeth i gleifion a gwasanaethau?r GIG.

Diddorol i glywed am ddeintyddiaeth ac

optometreg. Cydweithio gwych gyda pholisi a PPI yn

amlwg. Hefyd roedd pytiau diddorol am ragnodi

cymdeithasol. Sgyrsiau byr a gweithdai gwych

hefyd.?

primecentre.wales

13


Cynnwys y cyhoedd ac ymgysylltu

Cyfarfod y gr?p SUPER, 27 Mehefin 2018 Birchwood House, Prifysgol Caerdydd

Mae aelodau o?r cyhoedd a chleifion yn

parhau i gymryd rhan weithredol mewn

gweithgareddau sy?n gysylltiedig â?r prif

gynllun ar lefel strategol a phrosiect.

Ar draws y Ganolfan, mae safbwyntiau?r

cyhoedd a phrofiadau cleifion yn llywio?r

gwaith o gynllunio, gweithredu a

lledaenu ymchwil a hefyd rheolaeth

weithredol o PRIME.

Rydym yn bwriadu i brofiad PRIME

gyfrannu at gyfranogiad cryfach gan y

cyhoedd a chleifion yn y dyfodol.

Eleni, bu mwy a mwy o gyfleoedd i

ledaenu?r dysgu a?r arferion gorau er

mwyn cryfhau?r cydweithio rhwng

ymchwilwyr ac aelodau o?r cyhoedd a

chleifion.

Mae'r gr? p SUPER, sef Prosiect Rhydd

sy?n profi?r Safonau Cenedlaethol

Newydd ar gyfer Cynnwys y Cyhoedd, yn

adolygu prosesau PPI yn bennaf er

mwyn llywio dulliau gweithredu yn y

dyfodol. Mae ymchwilwyr PRIME wedi

manteisio ar fewnbwn y cyhoedd a

chleifion i gynigion ymchwil drwy?r gr? p

SUPER ac wedi cefnogi cyfraniad

gweithredol drwy lwyddo i gael

mynediad at y Gronfa Galluogi

Cyfranogiad a gefnogir gan Dîm

Ymgysylltu a Chyfranogiad y Cyhoedd

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

primecentre.wales

14


Yn eu cyfarfodydd, mae aelodau SUPER

wedi cyfrannu at bynciau a gyflwynwyd

gan ymchwilwyr, gan gynnwys:- Nodi

pobl sydd mewn perygl o ddioddef

iselder er mwyn cynnig rhagnodi

cymdeithasol - Rheoli

Meddyginiaethau?n Fwy Diogel - Darparu

deintyddiaeth yn wahanol - Meddygon

Teulu mewn Adrannau Achosion Brys

Dywedodd ymchwilwyr bod y broses yn

ddefnyddiol iawn. Fe wnaeth y

trafodaethau amlygu eitemau nad

oeddent wedi cael eu hystyried yn

flaenorol ac ystyriaethau ymarferol

roedden nhw?n teimlo y gallai gryfhau

ffocws eu hastudiaethau.

Dywedodd Dr Denitza Williams o

Brifysgol Caerdydd: "Diolch yn fawr am y

cyfle i gyflwyno yn y gr? p ac am arwain

ar ymgysylltiad PPI! Roedden nhw wir yn

gr? p ymroddedig iawn ac fe wnes rai

cysylltiadau defnyddiol.?

Mae aelodau SUPER yn ymwneud ag

ymchwil oherwydd bod ganddynt

brofiadau maen nhw am eu ddefnyddio i

wella gofal cleifion yn y dyfodol.

Dywedodd Robert Harris-Mayes:

"Rwy?n ei chael hi bob amser yn

ddiddorol a phleserus rhannu fy

mhrofiadau fel claf a gofalwr gydag

ymchwilwyr. Wrth wneud hynny, yr wyf

yn si? r ei fod yn arwain at well gwaith

ymchwil er budd pawb.?

Cynhaliodd y gr? p SUPER o gleifion ac

aelodau?r cyhoedd ei gyfarfod blynyddol

cyntaf ym mis Medi. Fe aeth aelodau ati i

adolygu a diweddaru?r cylch gorchwyl ac

ail-ethol y cadeirydd cyntaf. Cynhaliwyd

cyfarfodydd busnes chwarterol am yn ail

rhwng Caerdydd ac Abertawe er mwyn

galluogi ymchwilwyr o bob rhan o PRIME

i gwrdd â a chyflwyno i'r gr? p.

Mewn cyfarfodydd, mae gweithgareddau

wedi cynnwys tasgau ymchwil penodol,

cyfeiriad strategol PRIME a phrosesau

PPI, fel a ganlyn: adolygu a chyfrannu at

gynigion ymchwil a gyflwynir gan

ymchwilwyr PRIME; derbyn

diweddariadau ymchwil gan ymchwilwyr

PRIME; recriwtio aelodau PPI ar gyfer

timau ymchwil PRIME; trafod cynnydd

PRIME a chyfleoedd ar gyfer cyfeiriad yn

y dyfodol; archwilio PPI yn erbyn

safonau cenedlaethol drafft.

Yng Nghynhadledd Ymchwil Iechyd a

Gofal Cymru, Hydref 2018, fe wnaeth

ymchwilwyr PRIME ynghyd â

chynrychiolwyr PPI y cyfle i amlygu a

chyflwyno tystiolaeth o?u gwaith ar y

cyd.

Cyflwynodd Dr Bridie Evans, arweinydd

PPI PRIME, gyflwyniad Sesiwn Arddangos

yng Nghynhadledd Ymchwil Iechyd a

Gofal Cymru 2018: 'Clywed llais pawb:

Ehangu?r cyfleoedd i gymryd rhan mewn

ymchwil i ddatblygu gofal iechyd yn y

dyfodol?.

Fe wnaeth PRIME baratoi a chyflwyno

chwe cynnig ar gyfer y gystadleuaeth

Gwobr Cyflawniad Cyfranogiad y

Cyhoedd 2018.

Cafodd cynnig Canolfan PRIME Cymru

?Gr? p ymchwil diogelwch cleifion (PISA):

Gwella diogelwch cleifion mewn gofal

sylfaenol?a gyflwynwyd gan Dr Andrew

Carson-Stevens ac Antony Chuter o

Gr? p Ymchwil Diogelwch Cleifion PRIME

eu cydnabod yn yr ail safle.

Mae Andrew Carson-Stevens yn arwain y

Pecyn Gwaith Ymchwil Diogelwch

Cleifion, ac yn gweithio'n agos gyda'i

gydweithiwr, Antony Chuter, sydd wedi

bod yn gyd-ymgeisydd lleyg ar nifer o

grantiau diogelwch ac astudiaethau

ymchwil cleifion.

Dywedodd Antony "... Mae Andy a

minnau wedi cyflwyno nifer o geisiadau.

Dwi wir yn caru ymchwil, dwi wrth fy

modd â?r teimlad fy mod i?n gwneud

gwahaniaeth i bobl nawr ac yn y dyfodol.

Mae?r hyn rydyn ni?n ei wneud wir yn

bwerus. Yn arbennig, mae?r gwaith rydyn

ni?n ei wneud yng Nghymru gydag Andy

am ddiogelwch mor bwysig i gleifion a'r

cyhoedd a'r gofalwyr ".

Dywedodd Andrew, "Mae Antony yn

gweithio gyda mi a chydweithwyr pan

fydd prosiect yn mesen yn unig ar y

bwrdd dylunio. Yn ystod ein hastudiaeth

PISA a ariennir gan NIHR, datblygwyd

system ar gyfer manteisio i?r eithaf ar

ddysgu a dylanwad ein cynrychiolwyr

PPI ymlaen llaw, yn ystod ac yn dilyn

cyfarfodydd ".

Mae PRIME hefyd wrth ei fodd eleni i

weld ein dull o gynnwys y cyhoedd a

gyhoeddwyd mewn cyfnodolyn a

adolygwyd gan gymheiriaid, BMC

Medical Research Methodology.

Mae mynediad agored at yr erthygl a

gellir ei weld yn:

primecentre.wales

15


Allbynnau allweddol a chanlyniadau sy'n ymddangos

Canfyddiadau ymchwil

allweddol o ymchwil PRIME

a gyhoeddwyd 2017-18:

Datblygu a throsi model newydd ar

gyfer addysgu grymuso i reoli gofal

cronig arferol: prosiect person ganolog

rhyngwladol.

Mae gallu ymwelydd iechyd i asesu a

dadansoddi agweddau ar wydnwch y

teulu mewn ymarfer dyddiol yn

hanfodol er mwyn galluogi ymarferwyr i

gefnogi teuluoedd a hwyluso

dewisiadau cadarnhaol o ran ffordd o

fyw, a gwella iechyd a chanlyniadau

datblygiadol plant. Diben yr ymchwil

hwn oedd cynnal archwiliad trylwyr o?r

cysyniad o wydnwch teuluoedd fel y?i

deellir gan ymwelwyr iechyd yng

Nghymru ac i ddatblygu map

cysyniadau.

Defnyddiwyd y wybodaeth hon i

ddatblygu?r Offeryn Asesu Gwydnwch

Teulu (FRAIT). Mae hwn yn ffurf safonol o

asesu, offeryn mesur, canllawiau, pecyn

hyfforddi a chymuned ymarfer i?w

defnyddio yng ngwaith dyddiol

ymwelwyr iechyd.

Mae gwytnwch teuluol yn gysyniad

amlddimensiwn. Roedd defnyddio

meddalwedd ar-lein yn galluogi

ymwelwyr iechyd sy?n gweithio ledled

Cymru i sicrhau consensws a

chynhyrchu?r data i?w baratoi ar gyfer

datblygu FRAIT i?w ddefnyddio yn eu

harferion dyddiol fel sy?n ofynnol gan

bolisi Llywodraeth Cymru.

Wallace C, Dale F, Jones G, O'Kane J, Thomas M,

Wilson L, Pontin D. Developing the health

visitor concept of family resilience in Wales

using Group Concept Mapping. Rural Remote

Health. 2018 Nov;18(4):4604. doi:

10.22605/RRH4604.

Cyrraedd consensws ar flaenoriaethau

ymchwil ar gyfer cefnogi menywod â

chlefydau gwynegol awtoimiwn yn

ystod y cyfnod cyn-cenhedlu,

beichiogrwydd a magu plant yn gynnar.

Mae merched sydd â chlefydau

gwynegol awtoimiwn (ARDs) yn ei chael

hi?n anodd cael gwybodaeth a

chefnogaeth am gynllunio teulu,

beichiogrwydd, a magu plant yn gynnar.

Mae angen dull systematig o

flaenoriaethu ymchwil er mwyn

cyflymu?r broses o ddatblygu a

gwerthuso ymyriadau i ddiwallu

anghenion cymhleth y boblogaeth hon.

Daethpwyd i gonsensws ar y deg pwnc

ymchwil y dylid rhoi?r flaenoriaeth uchaf

iddynt. Y rhain oedd:

1. Gwneud penderfyniadau ar y cyd yn

gynnar yn y llwybr gofal; 2. Cwnsela

primecentre.wales

cyn-cenhedlu; 3. Gwybodaeth am y

defnydd o feddyginiaeth yn ystod

beichiogrwydd/ bwydo ar y fron; 4.

Cynllunio gofal wedi?i bersonoli; 5.

Cefnogaeth i bartneriaid/ aelodau o'r

teulu; 6. Gwybodaeth am gymorth

lleol/ materion yn ymwneud â?r clefyd; 7.

Gwneud penderfyniadau ar y cyd ar

draws y llwybr gofal; 8. Cymorth gan

gyfoedion; 9. Anghydraddoldebau

cymdeithasol mewn gofal, a; 10.

Canllawiau ar therapïau holistig/ amgen.

Nododd y dull systematig hwn o nodi

blaenoriaethau ymchwil o bersbectif

amlddisgyblaeth a lleyg y dylai

gweithgareddau ganolbwyntio ar

ddatblygu a gwerthuso ymyriadau sy?n

cynyddu cyfranogiad cleifion mewn

prosesau gwneud penderfyniadau

gwasanaethau clinigol, modelau gofal

amlddisgyblaethol a darparu

gwybodaeth yn brydlon.

Phillips R, Williams D, Bowen D, Morris D, Grant

A, Pell B, Sanders J, Taylor A, Choy E, Edwards A.

Reaching a consensus on research priorities for

supporting women with autoimmune

rheumatic diseases during pre-conception,

pregnancy and early parenting: A Nominal

Group Technique exercise with lay and

professional stakeholders [version 1; peer

review: 2 approved]. Wellcome Open Res 2018,

3:75

Steroidau geneuol ar gyfer datrys otitis

media gydag allrediad mewn plant

(OSTRICH).

Mae plant sydd wedi colli eu clyw?n

barhaus oherwydd otitis media gydag

allrediad yn cael eu rheoli?n gyffredin

gan ymyrraeth lawfeddygol.

Byddai triniaeth feddygol ddiogel, rad ac

effeithiol yn gwella?r opsiynau o ran

triniaeth. Mae treialon o ansawdd gwael,

heb fawr o b? er wedi dod o hyd i fudd

https://youtu.be/VVw5SYZ1r3U

tymor byr ar gyfer steroidau geneuol.

Ein nod oedd ymchwilio i weld a fyddai

cwrs byr o steroidau geneuol yn sicrhau

clyw derbyniol mewn plant gyda otitis

media parhaus ag allrediad ac sydd wedi

colli eu clyw.

Fe wnaethom ganfod nad yw cwrs byr o

prednisolone geneuol yn driniaeth

effeithiol ar gyfer y rhan fwyaf o blant

2-8 mlwydd oed gydag otitis media

gydag allrediad, ond mae?n cael ei oddef

yn dda.

Gallai un plentyn o bob 14 gael clyw

gwell, ond nid ansawdd bywyd. Bydd y

dystiolaeth hon yn ategu trafodaethau

ynghylch aros yn wyliadwrus ac

ymyriadau eraill.

Francis NA, Cannings-John R, Waldron C-A,

Thomas-Jones E, Winfield T, Shepherd V, Harris

D, Hood K, Fitzsimmons D, Roberts A, Powell C,

Gal M, Butler CC. Oral steroids for resolution of

otitis media with effusion in children

(OSTRICH): a double-blinded,

placebo-controlled randomised trial. Lancet

2018; 392: 557?68.

Yr Athro Nick Francis,

cyd-arweinydd yr astudiaeth

OSTRICH:

"Mae ein hastudiaeth yn

dangos bod clust ludiog yn

aml yn gwella ohono ei hun -

ar gyfer 1 o bob 3 o'r plant

hyn gyda chlust ludiog

estynedig, ac a gymerodd

tabledi plasebo, roedd

ganddynt glyw boddhaol

erbyn 5 wythnos."

16


Datblygu ymyriad i gyflymu diagnosis

canser drwy ofal sylfaenol..

Gall meddygon teulu chwarae rhan

bwysig o ran cyflawni diagnosis o ganser

yn gynt er mwyn gwella canlyniadau i

gleifion. Mae rhwystrau i ddiagnosis

cynnar yn cynnwys amrywiaeth

ymarferwyr unigol o ran gwybodaeth,

agweddau, credoau, disgwyliadau

proffesiynol, a normau.

Bydd y rhaglen waith hon (Ymyriadau

Cymru a Gwybodaeth Canser am

Ddiagnosis Cynnar [WICKED]) yn

datblygu ymyriad newid ymddygiad i

hwyluso diagnosis drwy ofal sylfaenol a

chyfrannu at ganlyniadau canser gwell.

Bydd y canfyddiadau?n llywio dyluniad

treial yn y dyfodol, wedi?i anelu at

ddiagnosis cynharach.

Yr Athro Clare Wilkinson:

"Mae'r rhaglen WICKED yn

datblygu a gwerthuso ffyrdd

o gael meddygon teulu i

weithredu'n gyflymach ar

symptomau canser ar gyfer

diagnosis mwy cywir a

chynharach o ganser. Rydym

yn gobeithio y bydd yr

ymchwil hwn yn hyrwyddo

atgyfeiriadau cyflymach o

achosion lle amheuir

canser."

Stanciu MA, Law R-J, Nafees S, Hendry M, Yeo

ST, Hiscock J, Lewis RA, Tudor-Edwards R,

Williams L, Williams NH, Brain K, Brocklehurst

P, Carson-Stevens A, Dolwani S, Emery J,

Goulden N, Hamilton W, Hoare Z,

Lyratzopoulos, Rose J, Rubin G, Smits S, Vedted

P, Walter FM, Wilkinson C, Neal RD, on behalf of

the WICKED team . Development of an

intervention to expedite cancer diagnosis

through primary care. BJGP Open 2018; 2 (3):

bjgpopen18X101595.

Profiadau parafeddygon o weinyddu

ataliwr cydran fascia iliaca i gleifion yn

Ne Cymru gydag amheuaeth o dorri clun

yn y man lle cafwyd yr anaf:

canlyniadau grwpiau ffocws.

Mae parafeddygon yn ehangu eu rôl yn

barhaus wrth i?w hystod o sgiliau,

gweithdrefnau a thriniaethau newid a

thyfu. Rhagwelir y bydd toriad yn y clun

yn codi i 6.3 miliwn o achosion y

primecentre.wales

PRIME researchers collaborated with the Welsh Ambulance Service Trust for the RAPID study

flwyddyn erbyn 2050. Yn y DU, mae torri

clun yn arwain at fwy o dderbyniadau i

wardiau trawma orthopedig na chleifion

sydd ag unrhyw anaf arall, sy?n costio £2

biliwn y flwyddyn i?r GIG.

Gall y niwed fod yn ddinistriol i gleifion.

Mae oedi cyn cael llawdriniaeth (> 48

awr) yn gysylltiedig â niwmonia a

briwiau pwyso. Mae cyfradd

marwolaethau uchel (30% ar 1

flwyddyn). Nod yr astudiaeth RAPID

(Rapid Analgesia for Prehospital Hip

Disruption) oedd archwilio profiad

parafeddygon o roi ataliwr cydran fascia

iliaca (FICB) i gleifion ag amheuaeth o

dorri clun yn lleoliad yr anaf.

Credai?r ymatebwyr fod FICB yn ymyriad

addas i barafeddygon ei gyflawni. Mae'n

cyd-fynd ag arfer arferol ac mae o fewn

eu gallu.

Evans BA, Brown A, Bulger J, Fegan G, Ford S,

Guy K, Jones S, Keen L, Khanom A, Longo M,

Pallister I, Rees N, Russell IT, Seagrove AC,

Watkins A, Snooks H. Paramedics?experiences

of administering fascia iliaca compartment

block to patients in South Wales with

suspected hip fracture at the scene of injury:

results of focus groups. BMJ Open

2019;9:e026073. doi:

10.1136/bmjopen-2018-026073

Blaenoriaethau gwella ansawdd ar gyfer

gofal lliniarol mwy diogel y tu allan i

oriau: Gwersi o ddadansoddiad dulliau

cymysg o gronfa ddata adrodd am

achosion cenedlaethol.

Mae cleifion sy?n cael gofal lliniarol yn

aml mewn perygl cynyddol o ofal

anniogel gyda?r lleoliad y tu allan i oriau

yn cyflwyno heriau penodol. Mae gwell

ffyrdd o ddarparu gofal lliniarol y tu

allan i oriau gwaith yn faes blaenoriaeth

i lunwyr polisïau.

Nod yr astudiaeth hon oedd archwilio

natur ac achosion gofal anniogel a

ddarperir i gleifion sy?n cael gofal

lliniarol gan wasanaethau gofal sylfaenol

y tu allan i oriau gwaith arferol.

Datgelodd yr astudiaeth bedwar maes

pryder allweddol a lle y gellir gwneud

mwy i wella gofal - camgymeriadau o ran

darparu meddyginiaeth; mynediad at

ofal amserol; trosglwyddo gwybodaeth

yn aneffeithlon rhwng timau gofal

iechyd; a, phroblemau gyda thriniaethau

nad ydynt yn seiliedig ar feddyginiaeth

fel cathetrau wrinol a thiwbiau

nasogastig (tiwbiau bwydo).

Roedd bron i ddwy ran o dair o?r

achosion diogelwch cleifion yn disgrifio

"niwed gwirioneddol" i gleifion, gydag

adroddiadau?n nodi trallod emosiynol a

seicolegol i gleifion, teuluoedd a

gofalwyr. Roedd yr achosion hyn o

"niwed" yn cynnwys camgymeriadau

wrth ragnodi, dosbarthu neu weinyddu

meddyginiaethau neu oedi wrth gael

mynediad at ofal neu gyngor amserol.

Amlygodd niwed difrifol ganlyniadau

mwy difrifol mewn 12% o?r achosion a

astudiwyd, fel derbyniadau i?r ysbyty a

marwolaeth gynamserol. Roedd y rhan

fwyaf o?r achosion a gofnodwyd yn

ymwneud â meddyginiaeth.

Williams H, Donaldson SL, Noble S, Hibbert P,

Watson R, Kenkre J, Edwards A, Carson-Stevens

A. Quality improvement priorities for safer

out-of-hours palliative care: Lessons from a

mixed-methods analysis of a national

incident-reporting database. Palliat Med. 2018

Dec 12:269216318817692.

17


Mae tua 380 000 o ymgynghoriadau

deintyddol yn cael eu cynnal mewn

meddygfeydd yn y DU bob blwyddyn.

Nod yr astudiaeth hon oedd archwilio?r

rhesymau pam y gallai fod yn bosibl bod

cleifion yn ymgynghori â meddyg teulu

yn hytrach na deintydd pan fyddant yn

cael problemau deintyddol.

Roedd yr astudiaeth yn cynnwys cyfweld

ag oedolion ar draws y DU, a chanfuwyd

sawl rheswm cyffredin pam fod pobl yn

gwneud apwyntiadau meddyg teulu yn

hytrach na gweld deintydd.

Roedd y rhain yn cynnwys:

- anfodlonrwydd gyda gofal

deintyddol blaenorol;

- diffyg gwybodaeth am sut i

ddod o hyd i ddeintydd;

- profiadau gwael blaenorol o

driniaeth ddeintyddol;

- pryderon ynghylch faint y gallai

triniaeth ddeintyddol ei gostio;

- pryderon am amseroedd aros; a

diffyg gwybodaeth bod

deintyddion yn delio â

phroblemau?r deintgig neu

feinweoedd meddal eraill y

geg.

Mae'r canfyddiadau hyn yn awgrymu

bod angen goresgyn rhwystrau sy'n atal

mynediad at ofal deintyddol. Mae?n

ofynnol cael gwybodaeth sy?n hygyrch i?r

cyhoedd ynghylch lle i geisio gofal am

broblemau deintyddol, a dylai timau

meddygfeydd allu cyfeirio cleifion sy?n

cael problemau deintyddol. Dylai

darparwyr deintyddol hefyd gael eu

hannog i gynnal mynediad amserol i ofal

brys ar gyfer eu cleifion.

Cope AL, Wood F, Francis NA, Chestnutt IG.

Patients?reasons for consulting a GP when

experiencing a dental problem: a qualitative

study. Br J Gen Pract 2018; 68 (677):

e877-e883. DOI:

https://doi.org/10.3399/bjgp18X699749

Fel rhan o?r broses o ledaenu?r prosiect, datblygwyd animeiddiad gwybodaeth i?r cyhoedd

yn arbennig i?w rannu ar-lein, ac ers hynny mae wedi?i gynnwys ar wefan Galw Iechyd

Cymru: 'Ymgynghori â Meddyg Teulu pan fyddwch cyn cael problemau gyda?r dannedd

neu?r deintgig' ' https://youtu.be/e3z8f5MZ5eA

primecentre.wales

18


Astudiaethau achos o effaith ymchwil

Mae'n hen bryd gwells

gofal llygaid brys

Am flynyddoedd, roedd taith gron o 86

milltir bob mis i?r clinig llygaid wedi

rhoi mwy a mwy o straen ar Jim a?i

wraig Mary, y ddau yn eu saithdegau

hwyr, wrth i Jim geisio cadw ei olwg yn

ei lygad dde a?i annibyniaeth, ag yntau

wedi colli ei olwg yn ei lygad chwith o

ganlyniad i Ddirywiad Macwlaidd

Gwlyb Sy?n Gysylltiedig ag Oedran.

Mae gwasanaethau llygaid mewn

ysbytai?n wynebu pwysau ar y ddau

begwn, sef galw cynyddol a ddim

digon o gapasiti. Er mwyn gallu darparu

triniaeth a gofal effeithiol a hygyrch i

bobl fel Jim, mae angen newid y ffordd

o ddarparu gwasanaethau.

Yn 2015, gwnaeth Llywodraeth Cymru

ryddhau £500,000 i ariannu

gwasanaethau braenaru a ddaeth â

gofal am bobl â Dirywiad Macwlaidd

Gwlyb Sy?n Gysylltiedig ag Oedran i

leoliadau yn y gymuned. I Jim a Mary,

roedd hyn yn golygu i?w hapwyntiadau

rheolaidd gael eu symud i?w hysbyty

cymunedol lleol. Mewn gwaith

gwerthuso gwasanaeth gan Ganolfan

Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal

Sylfaenol a Gofal Brys (PRIME),

ac economegwyr iechyd yng

Nghanolfan Economeg Iechyd

Abertawe (SCHE) ym Mhrifysgol

Abertawe, a gomisiynwyd gan

Lywodraeth Cymru, fe aseswyd pedwar

o?r gwasanaethau braenaru hyn y mae

pedwar bwrdd iechyd yn eu darparu.

Ar sail y gwerthusiad o?r gwasanaethau

braenaru, fe wnaeth y tîm ymchwil

saith argymhelliad yngl?n â?r ffordd o

ddarparu gwasanaethau yng Nghymru

yn y dyfodol, a?u cynaliadwyedd. Caiff

yr argymhellion, sydd â?r nod o

gynyddu capasiti trwy symleiddio

siwrnai?r claf, eu cyhoeddi cyn bo hir.

Os y bydd yr argymhellion yn cael eu

rhoi ar waith, fe ddylen nhw wella

profiad y claf ar gyfer pobl fel Jim a

Mary, gan ganiatáu iddyn nhw dreulio

llai o amser yn teithio i glinigau

gorbrysur a mwy o amser yn gwneud y

pethau y maen nhw?n dewis eu gwneud.

Illustration by Marina McDonald

primecentre.wales

19


?Chwalwr codau?

Cymru?n gwneud ein

hymweliadau â?r

meddyg teulu?n fwy

diogel

Mae hi?n 8.25 y bore ac rydych chi?n

eistedd ar res o seddi mewn ystafell

brysur, yn aros am eich slot 10 munud i

weld eich meddyg teulu.

Y tu ôl i?r drysau, i?r ochr o?r ardal aros,

mae meddygon sy?n gallu helpu i wneud

diagnosis o?ch symptomau, efallai

rhagnodi meddyginiaeth ichi neu hyd yn

oed eich cyfeirio at arbenigwr, os oes

angen mwy o brofion arnoch chi.

Rydych chi yno i wella ac rydych chi?n

gobeithio y byddwch chi?n gadael ag

ateb i?ch problem. Ond i lawer o bobl,

dydy pethau ddim yn gweithio allan fel

hynny.

Yn wir, efallai mai chi ydy?r un person

allan o?r 33 yn yr ystafell aros a fydd yn

cael profiad o rywbeth o?r enw

?digwyddiad diogelwch cleifion?heddiw;

sef camgymeriad meddygol a allai, neu

sydd yn arwain at ganlyniad niweidiol.

Yma, rydyn ni?n siarad â Dr Andy Carson-

Stevens, sy?n ymchwilydd yng Nghymru

sydd wedi ennill gwobrau ac sy?n feddyg

teulu sy?n ceisio sylwi ar, a dileu?r

camgymeriadau hyn trwy gyfrwng iaith

gwbl newydd o godau.

Mae gwaith Dr Carson-Stevens yn helpu

i wella diogelwch cleifion yma yng

Nghymru a hefyd o amgylch y byd

Graddfa'r broblem

?Rydych chi?n siarad ag unrhyw weithiwr

proffesiynol yn y maes gofal sylfaenol,

boed yn feddyg teulu neu?n nyrs practis,

a diogelwch cleifion ydy eu prif

flaenoriaeth,? meddai Andy, yr

arweinydd ar gyfer ymchwil diogelwch

cleifion yng Nghanolfan Cymru ar gyfer

Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys

(PRIME), sef un o?r canolfannau y mae

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru?n ei

hariannu. ?Does neb yn mynd i?w waith i

achosi niwed.?

Er bod digwyddiadau diogelwch cleifion

yn gallu cynnwys camgymeriadau fel

cael presgripsiwn am y math neu?r dos

anghywir o gyffur, neu gael

cam-ddiagnosis o symptomau, daw?r

problemau mwyaf cyffredin i?r amlwg

oherwydd yr union systemau sydd

wedi?u cynllunio i reoli ein gofal.

?Yn amlach na pheidio, nid mater o?r

meddyg yn cael pethau?n anghywir ydy

primecentre.wales

hyn,? esbonia Andy. ?Mae?n fwy tebygol

mai?r systemau cymhleth sy?n caniatáu

niweidio cleifion.

?Felly, mae a wnelo hyn â?r meddyg yn

sylweddoli bod angen atgyfeirio claf at

arbenigwr canser a, gan fod yna dair neu

bedair ffordd i orchymyn atgyfeiriad, yna

ysgrifennu nodiadau ac, ymhen yr hir a?r

hwyr, ei anfon o?r practis, mae yna lawer

o gyfleoedd i achosi oedi.

?Dwi?n meddwl bod angen i ni

ddatblethu?r anhrefn fel ein bod ni?n

gallu bod yn hyderus yn ein prosesau

mewnol ein hunain, ac fel bod pawb, a?r

cleifion yn bennaf, yn gwybod ac yn

teimlo?n hyderus bod yna broses

ddibynadwy.?

Yn 2008, fe lansiwyd yr ?Ymgyrch 1000

o Fywydau?yng Nghymru, â?r nod o

achub bywydau ac atal cleifion rhag dod

i niwed y gellir ei osgoi mewn ysbytai.

?Mewn rhai ffyrdd, mae?n syfrdanol ein

bod ni wedi cael degawd o ymchwil i

ddiogelwch ysbytai, gan ganolbwyntio ar

nifer lai o gleifion, ac yn sydyn reit mae

hi fel pa baen ni wedi deffro a

sylweddoli, ?aros di funud, rydyn ni?n

rhoi peth wmbredd o ofal drosodd yma

mewn amgylcheddau gofal sylfaenol ac

mae?n eitha?posib ei fod yn gosod baich

tebyg iawn ar iechyd a llesiant?.?

Model gofal PISA

Un o?r camau cyntaf tuag at wella

diogelwch i wneud yn si? r bod pob

camgymeriad, neu ddigwyddiad

diogelwch cleifion, yn cael ei gofnodi fel

bod modd ei ddadansoddi i weld a oes

unrhyw batrymau a gwersi i?w dysgu,

gan obeithio y bydd yna ffordd i?w hatal

rhag digwydd eto yn y dyfodol.

Fodd bynnag, mae barn yngl?n â beth

sydd a beth sydd ddim yn gamgymeriad

y mae?n rhaid rhoi gwybod amdano?n

amrywio rhwng meddygon teulu a

phractisau. I fynd i?r afael â hyn a chael

dealltwriaeth gyffredin o sut i nodi,

cofnodi a dysgu o ddigwyddiad, mae

Andy a?i dîm wedi creu Model Gwella

Dysgu er Gofal, Diogelwch Cleifion Gofal

Sylfaenol (PISA).

?Mae?n anodd anwybyddu?r dystiolaeth,?

meddai Andy. ?Gallwch chi ddweud wrth

rywun ?drychwch, mae?r camgymeriad

yma wedi digwydd 37 gwaith, ydych

chi?n wir yn meddwl mai

cyd-ddigwyddiad ydy hynny??Yna maen

nhw?n sylweddoli.?

Gwneud synnwyr o?r data Mae miloedd o

gofnodion digwyddiadau diogelwch

cleifion wedi?u cofnodi ar y System

Genedlaethol ar gyfer Adrodd a Dysgu,

sef cronfa ddata anferthol o ffeiliau y

mae pob sefydliad GIG yng Nghymru a

"Mae creu?r eirfa honno ar

gyfer gofal sylfaenol wedi

bod yn gam hynod bwysig

ymlaen ar gyfer y maes cyfan.

Rydyn ni wedi cael

blynyddoedd o ymchwil

mewn amgylcheddau ysbyty,

ond pe baen ni?n defnyddio?r

un eirfa i ddisgrifio diogelwch

mewn gofal sylfaenol fyddai

hynny ddim yn gweithio.?

Lloegr wedi?u hanfon i mewn.

?Tua chwe blynedd yn ôl, fe heriwyd fi a

gr? p o gydweithwyr i wneud synnwyr

o?r adroddiadau a?r data hynny,? mae

Andy?n cofio.

Fe dderbyniodd Andy?r her ac aeth ati i

ddatrys pethau.

?Fel mae?n digwydd, os fyddwch chi?n

rhoi cod i bob math o ddigwyddiad, yn y

bôn mae?r codau?n golygu rhywbeth, a

phan mae gennych chi gyfres o godau

gallwch chi edrych ar stori hir, hynod

gymhleth a?i chyflwyno â phedwar neu

bump o eiriau cryno.

?Aethon ni ati i ddatblygu llyfrgell o

eiriau fel bod meddygon a nyrsys yn

gallu dewis cod sy?n disgrifio beth

ddigwyddodd, pam iddo ddigwydd a

hefyd beth oedd y canlyniadau i?r

cleifion. Ac roedd y tri pheth hynny?n

fwy na digon i ni allu nodi patrymau a

dechrau edrych am flaenoriaethau.

Y bobl ?go iawn?y tu ôl i?r

rhifau

Tra bo Andy?n canolbwyntio ar y rhifau

a?r patrymau sy?n dod i?r amlwg o?r data,

mae ei bartner ymchwil, Antony Chuter,

yn cynnig safbwynt rhywun lleyg ar yr

ymchwil.

?O?r straeon truenus rydyn ni?n eu

darllen, mae?n rhaid i ni ddod â?r darnau

i gyd at ei gilydd i greu?r data,? meddai

Andy. ?Pan rydyn ni?n dod â darnau

straeon at ei gilydd i?w trosi?n rhifau,

mae Antony wastad yn ein hatgoffa ni

bod yna bob amser bobl go iawn y tu ôl

i?r rhifau hynny.?

?Mae?r gwaith dwi wedi bod yn ei wneud

gydag Andy yng Nghymru yngl?n â

diogelwch mor bwysig i gleifion, y

cyhoedd a gofalwyr, fel eu bod nhw?n

gwybod bod y system iechyd yn

ddiogel,? meddai Antony.

?Mae yna rai pynciau heriol iawn ac

mae?n bwysig ein bod ni?n gwneud yr

ymchwil hon i atal y pethau hyn rhag

digwydd eto yn y dyfodol.?

20


Gwerthuso?r defnydd o

offer cyfrifiadurol sy?n

rhagfynegi derbyniadau

brys - Yr astudiaeth

PRISMATIC

Mae derbyniadau brys i'r ysbyty yn

bryder mawr: maen nhw?n gostus ac yn

gysylltiedig â chanlyniadau cymharol

wael. Pe gallai clinigwyr gofal sylfaenol

ragweld y gallai pobl gael eu derbyn i?r

ysbyty, yna efallai y gallent wneud

rhywbeth i helpu i osgoi argyfwng.

Gellir defnyddio gwybodaeth fel oedran,

diagnosis a hanes o ymweliadau â?r

ysbyty yn y gorffennol i gyfrifo risg

unigolyn o gael ei dderbyn ar frys (fel

arfer yn ystod y flwyddyn nesaf). Mae

mwy na 30 o offer risg wedi?u datblygu

ar gyfer staff gofal sylfaenol yn y DU i

nodi cleifion ar gyfer gofal ataliol.

Ers 2013, mae?r GIG wedi talu dros

hanner biliwn o bunnoedd i

feddygfeydd y DU i fynd i?r afael â

derbyniadau brys -- yn bennaf drwy nodi

cleifion risg uchel a rheoli eu gofal (a

elwir yn reoli achosion).

Fodd bynnag, mae astudiaeth PRISMATIC

ddiweddar PRIME o offeryn rhagfynegi

risg a gyflwynwyd i ofal sylfaenol yng

Nghymru yn herio?r dybiaeth bod yr

adnoddau hyn mewn gwirionedd yn

helpu i leihau derbyniadau brys.

Datblygwyd yr offeryn PRISM ar gyfer

GIG Cymru a?i gyflwyno ar draws 32 o

feddygfeydd fel rhan o hap-dreial.

Roedd y broses o?i gyflwyno yn

gorgyffwrdd â chyflwyno taliadau i

feddygfeydd i gefnogi gwaith rheoli

achosion.

Er syndod i ni, ar draws y 230,000 o bobl

a oedd yn gleifion yn y meddygfeydd

hyn, ni wnaeth derbyniadau brys a?r

defnydd o wasanaethau eraill ostwng, fe

wnaethant godi ychydig, gyda chynnydd

cysylltiedig mewn costau - a phrin oedd

y dystiolaeth bod cleifion yn elwa.

Drwy gyfweliadau, bu i ni ganfod bod

meddygon teulu?n defnyddio?r offeryn

risg yn bennaf i gyflawni?r gwaith

cytundebol ar reoli achosion, ond roedd

llawer o?r gwaith hwn yn gyfarfodydd

staff ac yn waith papur yn hytrach na

gofal uniongyrchol i gleifion. Er eu bod

yn barod i ddefnyddio PRISM, roedd

staff yn pryderu am ddiffyg

gwasanaethau cymunedol i gynorthwyo

cleifion a oedd wedi?u nodi.

I helpu i nodi pobl sy?n wynebu risg uchel o gael eu derbyn mewn argyfwng i?r ysbyty, mae

rhaglen gyfrifiadurol o?r enw y Predictive Risk Stratification Model (PRISM) wedi cael ei

datblygu. Fe wnaethom werthuso effeithiau cyflwyno PRISM mewn 32 o feddygfeydd yn ne

Cymru.

Awgrymwyd nad yw rhoi?r pwyslais ar y

rhai sydd â?r sgorau risg uchaf yn

debygol o fod yn effeithiol, gan

efallai nad oes llawer y gellir ei

wneud i?w cadw?n ddiogel ac yn

iach gartref. Yn lle hynny, efallai y

bydd mwy o botensial am effaith

gyda'r rhai sydd mewn risg is.

Mae ein hymchwil yn helpu i fwrw

ymlaen â?r ddadl ynghylch sut y

gall y GIG fuddsoddi ei arian yn y

ffordd fwyaf effeithiol i

gynorthwyo pobl eiddil a bregus.

https:/ / www.journalslibrary.nihr.ac.uk/

primecentre.wales

21


Casgliadau a blaenoriaethau'r dyfodol

Mae cydweithrediad amlddisgyblaethol

unigryw PRIME yn gymuned ymchwil

unigol ledled Cymru sy?n ymchwilio i

ofal sylfaenol a gofal brys yng Nghymru.

Yn ystod y blynyddoedd nesaf, rydym yn

bwriadu parhau i gyflawni buddiannau

pwysig i?n gr? p, y GIG, Llywodraeth

Cymru a phobl Cymru, drwy?r canlynol:

- Creu canolfan ragoriaeth mewn

gofal sylfaenol a brys, sy?n

hanfodol er mwyn denu arian

ymchwil o fri i Gymru a darparu

sylfaen academaidd gref ar

gyfer gofal sylfaenol a gofal

brys

- Cyflawni ymchwil o ansawdd

uchel sy?n mynd i?r afael â

heriau cynyddol gymhleth a

wynebir mewn gofal sylfaenol a

gofal brys

- Mabwysiadu ymagwedd system

gyfan integredig er mwyn

gwella gwasanaethau, gan

weithio ar y rhyngwyneb

hanfodol rhwng gofal sylfaenol,

brys a chymdeithasol

- Sicrhau bod cynlluniau

"llwybrau at effaith" clir yn cael

eu datblygu a?u rhoi ar waith i

sicrhau?r budd mwyaf posibl i?r

cyhoedd ac i gleifion o?n

hymchwil, gan gynnwys lefel

uchel o ymgysylltu,

cyd-gynhyrchu ymchwil a

chyfnewid gwybodaeth â?n holl

randdeiliaid

- Meithrin capasiti ar gyfer

ymchwil gofal sylfaenol a gofal

brys yng Nghymru, gan

gynnwys datblygu dulliau

ymchwil, sgiliau, cleifion ac

aelodau?r cyhoedd a?r gweithlu.

Bydd hyn yn cynnwys datblygu

prif ymchwilwyr newydd a

chymorth i glinigwyr wrth

iddynt ddod yn arweinwyr

ymchwil. Bydd hyn yn sicrhau y

gallwn barhau i fod â sylfaen

academaidd gref ar gyfer

gwasanaethau gofal sylfaenol a

brys yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae ein gwaith cydweithredol rhwng

academyddion blaenllaw, unigolion,

cymunedau a sefydliadau yn hanfodol er

mwyn cyd-gynhyrchu ymchwil o

ansawdd uchel ar raddfa fawr gydag

effaith.

Bydd hyn yn sail i welliannau i

wasanaethau sylfaenol a gwasanaethau

brys, gan ddod â gwasanaethau arloesol

yn agosach at gymunedau, grymuso

cleifion a theuluoedd yn eu gofal,

gwneud gwasanaethau yn fwy

integredig a pherson ganolog, a sicrhau

bod poblogaeth Cymru yn cael y budd

mwyaf o?r adnoddau iechyd a gofal

cymdeithasol sydd ar gael drwy

fabwysiadu dull gofal iechyd teg sy?n

seiliedig ar werth.

Mae PRIME yn chwarae rhan bwysig o

ran creu ?màs critigol?o arbenigedd

Bydd PRIME yn parhau i

fod o fudd i?r GIG a phobl

Cymru drwy ddarparu

sylfaen academaidd a

thystiolaeth gref i ategu

gofal sylfaenol a gofal

brys

ymchwil ac amgylchedd i ymchwilwyr o?r

radd flaenaf ffynnu.

Mae seilwaith PRIME yn darparu adnodd

hanfodol i alluogi ein tîm i ddod ag arian

ymchwil i Gymru (derbyniwyd £40M yn

y pedair blynedd gyntaf, £20M i Gymru).

Mae rhwydwaith PRIME yn darparu

adnodd hanfodol ar gyfer adeiladu

timau ymchwil sydd â gwybodaeth ac

arbenigedd perthnasol ar gyfer datblygu

grantiau mawr o ansawdd uchel.

primecentre.wales

22


primecentre.wales

23


primecentre.wales

24

More magazines by this user
Similar magazines