Transform your PDFs into Flipbooks and boost your revenue!
Leverage SEO-optimized Flipbooks, powerful backlinks, and multimedia content to professionally showcase your products and significantly increase your reach.
Croeso

i Undeb

Myfyrwyr

Caerdydd
Croeso!

Gobeithiwn eich bod yn mwynhau eich

ymweliad ac yn darganfod popeth

sydd eu hangen arnoch i’ch helpu

i wneud eich penderfyniad am ba

Brifysgol i astudio ynddi. Rydym ni’n

falch o ddweud ein bod wedi rancio fel

Undeb y Myfyrwyr rhif 1 yng Nghymru a

rhif 2 yn y DU!

Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol

Caerdydd yn darparu amrywiaeth

o wasanaethau, cyfleusterau

a chyfleoedd i’n holl aelodau a

gwesteion. Mae’n wirioneddol bwysig i

ni eich bod yn cael yr holl wybodaeth

yr ydych angen yn ystod eich ymweliad

felly mae croeso mawr i chi grwydo i

bob lefel o’r Undeb. Os oes gennych

unrhyw gwestiynau gofynnwch i aelod

o staff sy’n gwisgo cortyn coch neu

binc neu ewch i’r Ganolfan Groeso ar yr

ail lawr.

Er mwyn eich helpu i ddeall pa

wasanaethau a chyfleusterau sydd ar

gael ar bob lefel, dyma ganllaw byr;

Llawr Gwaelod

Yn ystod haf 2016, ailddatblygwyd

yr holl lawr gwaelod! Roedd yr un

gwasanaethau wedi aros ond rydym

hefyd wedi agor llawer o siopau a

gwasanaethau newydd ers hynny,

gan gynnwys ein siop ddillad Caru

Caerdydd ac asiantaeth Gosod Tai

Myfyrwyr Caerdydd.

Llawr Cyntaf

Y Stiwdio

Adnewyddwyd yr ystafell hon yn 2016

ac yn awr y mae ganddo wal drych

a llawr sbring. Mae wastad yn cael

ei llogi gan ein cymdeithasau dawns

a’n grwpiau ymladd celfyddydol, ac

mae’n lle gwych ar gyfer digwyddiadau

myfyrwyr.

Y Neuadd Fawr

Mae unrhyw beth a phopeth yn

digwydd yn y Neuadd Fawr! Ffeiriau’r

glas, darlithoedd, seremonïau

gwobrwyo, arholiadau, gwasanaethau

rhoi gwaed ac, wrth gwrs, cerddoriaeth

fyw. Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym

wedi croesawi Kasabian, Fontaines

D.C., Becky Hill, Kano a Loyle Carner!
Ail Lawr

Y Plas

Cafodd y lle rhyfeddol hwn ei ailddatblygu

yn 2014. Dyma leoliad ein dwy noson

glwb wythnosol, ac yn croesawu clybiau

a chystadleuthau dawns rheolaidd,

cerddoriaeth fyw ac mae’n lle gwych i

astudio yn ystod y dydd.

Cwrt Bwyd

Mae gennym siop goffi a mwy o le i ymlacio

ac astudio.

Y Taf

Y Taf yw ein tafarn Undeb Myfyrwyr sy’n

cynnig bwyd gwych, diodydd rhad, cwis

wythnosol, cyfnod cyfnewid prisoedd wrth

y bar (lle mae’r prisiau’n amrywio) a chinio

dydd Sul am ddim ond £7.95!
Trydydd Llawr

Y Lolfa

Ardal ddi-alcohol gyda balconi hyfryd

a golygfa o’r prif adeilad. Mae’r gofod

hwn ar agor 24/7 ac yn cynnig ystafell

gyfarfod ac ystafell weddi aml-ffydd.

Mae digon o seddi a desgiau felly

mae’n lle gwych ar gyfer astudio fel

grŵp neu gyflawni gwaith grŵp.

Cyngor i Fyfyrwyr

Mae ein gwasanaeth Cyngor i Fyfyrwyr

yn darparu cyngor a gwybodaeth,

eiriolaeth, cynrychiolaeth a

chefnogaeth yn rhad ac am ddim, yn

gyfrinachol, yn ddiduedd ac yn gwbl

annibynnol i’r Brifysgol. Maen nhw’n

darparu cefnogaeth ar gyfer ystod

eang o faterion, gan gynnwys materion

academaidd, llety, iechyd a lles, a

chyflogaeth.

Llais Myfyrwyr

Calon cynrychiolaeth myfyrwyr. Mae’r

tîm hwn yn cefnogi buddiannau

academaidd myfyrwyr drwy recriwtio

Cynrychiolwyr Academaidd sy’n

gwirfoddoli i leisio barn myfyrwyr i’r

Brifysgol. Maent hefyd yn helpu sicrhau

democratiaeth o fewn y sefydliad drwy

redeg ein hetholiadau blynyddol a

threfnu’r Senedd Myfyrwyr, corff llunio

polisi Undeb y Myfyrwyr.

Swyddogion Sabothol

Y peth gorau am yr Undeb yw:

mae’n cael ei arwain gan fyfyrwyr,

ar gyfer myfyrwyr! Mae Swyddogion

Sabothol yn cael eu hethol i’w swyddi

yn flynyddol ac yn gweithio llawn

amser â thâl am flwyddyn. Mae’r tîm

yn cael ei arwain gan Lywydd Undeb

y Myfyrwyr sy’n goruchwylio’r IL Parc

y Mynydd Bychan (Addysg a Lles),

IL Myfyrwyr Ôl-raddedig (Addysg a

Lles), IL Cymdeithasau a Gwirfoddoli,

IL Chwaraeon, IL Myfyrwyr Israddedig

(Addysg a Lles) ac IL Iaith, Cymuned a

Diwylliant Cymru.

Cymdeithasau

Cymryd rhan mewn gweithgareddau

yw’r ffordd orau i wneud ffrindiau yn

ystod eich amser yn y Brifysgol. Mae

gennym dros 200 o gymdeithasau

sy’n cael eu rhedeg gan fyfyrwyr gyda

dros 8,000 o aelodau! Mae’r rhain yn

cynnwys cymdeithasau sy’n seiliedig ar

gyrsiau a diddordebau fel dawnsio a

pherfformio, diwylliant, gwleidyddiaeth,

grwpiau elusennol a llawer mwy. O

Harry Potter, i bobi, chwarae gemau,

nenblymio, yfed te…mae rhywbeth i

bawb!
Mwy am y Drydydd Llawr

Rho Gynnig Arni

Ein rhaglen Rho Gynnig Arni yn rhaglen

i roi cynnig ar rywbeth newydd yn ystod

eich amser ym Mhrifysgol Caerdydd heb

unrhyw ymrwymiad. Gallwch roi cynnig

ar sesiwn blasu cymdeithas neu glwb,

e.e. pêl-droed mewn ‘zorb’, detio cyflym,

teithiau dydd, gwyliau penwythnos

ledled Ewrop a llawer mwy!

Undeb Athletau

Yn ogystal â mwy na 200 o

gymdeithasau, mae gennym ni mwy

na 60 o glybiau chwaraeon. Gallwch

chi chwarae’n gystadleuol - fel rhan

o’r Pencampwriaethau Prifysgolion

Prydain - neu yn achlysurol. Rydym

hefyd yn cystadlu yn Farsiti Cymru, y

digwyddiad chwaraeon myfyrwyr ail

fwyaf yn y DU, twrnamaint chwaraeon

anhygoel yn erbyn Prifysgol Abertawe

sy’n gorffen gyda gêm rygbi yn

Stadiwm Principality yng Nghaerdydd,

neu’r Stadiwm Liberty yn Abertawe.

SiopSwyddi

Mae hyn yn wasanaeth rhad ac am

ddim sydd ar gael i bob myfyriwr,

lle gallwch ddod o hyd i waith rhan

amser i wneud arian ochr yn ochr â’ch

astudiaethau!

Cyfryngau Myfyrwyr

Mae cyfle i ennill profiad

newyddiaduraeth gyda’n papur

newydd, cylchgrawn, gorsaf radio a

gorsaf deledu.

Gwirfoddoli Caerdydd

Mae’r tîm ymroddedig hwn yn darparu

cyfleoedd i wirfoddoli yn y gymuned,

ffordd wych o gael profiadau unigryw.

Mae prosiectau yn cynnwys gweithio

mewn clybiau ieuenctid, helpu’r

digartref, cynlluniau bydi, prosiectau

addysg, cynlluniau iechyd meddwl a

llawer mwy. Maent hefyd yn cynnal

digwyddiad ‘Jailbreak’ blynyddol lle

mae timau o fyfyrwyr yn codi arian

i weld pa mor bell gallant deithio i

ffwrdd o Gaerdydd ac yn ôl o fewn 52

awr heb arian! Un flwyddyn aeth y criw

buddugol yr holl ffordd i Awstria!

Gwasanaeth Datblygu Sgiliau

Mae’r gwasanaeth yn cynnig

ystod eang o gyrsiau gan gynnwys

sgiliau cyflwyno, gwaith tîm, iaith

arwyddion, cymorth cyntaf, diploma

arweinyddiaeth, a llawer mwy.

Mae’n ffordd wych o wella eich

cyflogadwyedd ar ôl y Brifysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae

croeso i chi ymweld â thîm Croesawu’r

Ganolfan ar ail lawr Undeb y Myfyrwyr.

Neu, gallwch gysylltu â’r tîm drwy ebostio

StudentsUnion@Cardiff.ac.uk neu ewch i

cardiffstudents.com.

Gobeithiwn eich croesawu yn ôl i

Undeb y Myfyrwyr fel myfyriwr swyddogol yn

y dyfodol!