29.06.2023 Views

Heath Welcome Guide - Web Artwork CYM

• No tags were found...

Transform your PDFs into Flipbooks and boost your revenue!

Leverage SEO-optimized Flipbooks, powerful backlinks, and multimedia content to professionally showcase your products and significantly increase your reach.

Croeso!

Gobeithio eich bod chi’n mwynhau eich ymweliad ac

yn cael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i’ch

helpu chi i benderfynu pa Brifysgol i astudio ynddi.

Rydym yn falch i gael dweud, yn dilyn arolwg ymysg

myfyrwyr, mai ni yw’r Undeb Myfyrwyr gorau yng

Nghymru a’r ail orau yn y DU!* Mae Undeb Myfyrwyr

Caerdydd yn cynnig llu o wasanaethau, cyfleusterau

a chyfleoedd i’n holl aelodau a’n gwesteion yn

adeilad Cathays.

*Gwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni 2023

Eich UM ym Mharc

y Mynydd Bychan

Wedi’i leoli yng nghanol campws Parc y

Mynydd Bychan, mae ein UM yn cynnig

ystafell gyffredin, ystafelloedd cyfarfod

ar gyfer astudio a chyfle i sgwrsio

â’n tîm ymroddedig am gefnogaeth

academaidd a llesiant. Mae ein tîm ym

Mharc y Mynydd Bychan yn gweithio

trwy gydol y flwyddyn academaidd i

ddarparu digwyddiadau a chyfleoedd i

fyfyrwyr sy’n astudio yn yr ysgolion Gofal

Iechyd, Deintyddiaeth a Meddygaeth.

Hyd yn oed pan fyddwch chi’n mynd

allan ar leoliad, rydyn ni’n gwneud

pob ymdrech i wneud yn siŵr eich bod

chi’n dal i deimlo’n rhan o’r gymuned

academaidd trwy ein hymgyrch ‘Parc

y Mynydd Bychan ar daith’ trwy drefnu

diwrnod allan braf i chi a’ch cyfoedion!

Mae digonedd o glybiau chwaraeon a

chymdeithasau y gallwch chi gymryd

rhan ynddynt hefyd fel myfyriwr ym

Mharc y Mynydd Bychan, felly cysylltwch

â ni ar: SUHeathPark@cardiff.ac.uk i

ganfod mwy! Rydyn ni yma i wneud eich

profiad fel myfyriwr yn well fyth!

Dilynwch ni

@CardiffStudentsHeath

@vpheathparkcsu

Swyddogion

Sabothol

Y peth gorau am Undeb y Myfyrwyr

yw’r ffaith ei fod yn cael ei arwain

gan fyfyrwyr, ar gyfer myfyrwyr! Mae

Swyddogion Sabothol yn cael eu hethol

i’w rolau bob blwyddyn, ac maen

nhw’n cyflawni’r swydd gyflogedig,

lawn-amser honno am flwyddyn. Caiff

y tîm ei arwain gan Lywydd Undeb y

Myfyrwyr sy’n goruchwylio’r Is-Lywydd

(IL) Cymdeithasau a Gwirfoddoli, IL

Chwaraeon, IL Myfyrwyr Israddedig,

IL Iaith, Cymuned a Diwylliant Cymru,

IL Myfyrwyr Ôl-raddedig ac IL Parc y

Mynydd Bychan, sef y prif bwynt cyswllt

ar gyfer myfyrwyr Parc y Mynydd Bychan!

Dewch i gwrdd ag Is-Lywydd

Parc y Mynydd Bychan,

Alex Meers

Farsiti’r Myfyrwyr

Meddygaeth

Bob blwyddyn mae Clybiau Chwaraeon

Myfyrwyr Meddygaeth Caerdydd yn

herio eu cystadleuwyr, Bristol Medics

am deitl pencampwyr Farsiti’r Medics.

Mae hwn yn ddigwyddiad gwych i ddod

ynghyd, dathlu chwaraeon cystadleuol

lefel-uchel, cwrdd â ffrindiau newydd a

chael diwrnod allan gwych!

Undeb Athletau

Mae gennym ni 7 o glybiau’r UA wedi’u

lleoli yn y Mynydd Bychan y gallwch

chi ymuno â nhw. P’un a ydych chi am

chwarae’n gystadleuol neu’n achlysurol,

dyma’r ffordd berffaith i gwrdd â phobl

newydd a gwella’ch profiad prifysgol. Mae

ein clybiau sydd wedi’u lleoli yn y Mynydd

Bychan wedi cystadlu yng nghynghreiriau

BUCS a NAMS. Mae croeso i chi ymuno ag

unrhyw un o’n 60 o glybiau chwaraeon,

felly mae rhywbeth at ddant pawb.

Cymdeithasau

Cymryd rhan ym mhob math o

weithgareddau yw’r ffordd orau o wneud

ffrindiau yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol.

Mae gennym dros 200 o gymdeithasau

sy’n cael eu rhedeg gan fyfyrwyr, gan

gynnwys 38 o gymdeithasau sydd wedi’u

lleoli ym Mharc y Mynydd Bychan. Mae’r

rhain yn cynnwys amrywiaeth o hobïau a

chymdeithasau sy’n seiliedig ar gyrsiau fel

MedSoc, Menywod mewn Llawfeddygaeth,

Cymdeithas Feddygol Affricanaidd

Caribïaidd a llawer mwy!

Rho Gynnig Arni

Ein rhaglen Rhowch Gynnig Arni yw eich

cyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd yn

ystod eich amser ym Mhrifysgol Caerdydd,

o wyliau penwythnos yn Ewrop, i sesiynau

blasu ar gyfer clybiau a llawer mwy. Os

ydych chi’n newydd i Gaerdydd ac wrth

eich bodd yn crwydro, yna mae’r teithiau

hyn yn gyfle gwych a fforddiadwy i weld

golygfeydd lleol.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!