Portal 2023 (CYM)
Portal yw ein harddangosfa grŵp blynyddol o artistiaid a gwneuthurwyr.
Gyda gwaith sy’n ystyried crefftwaith, positifrwydd corff, yr iaith Gymraeg a gweithredu, gobaith yr arddangosfa yma yw gafael yn yr ysbryd a’r syniadau sy’n dod allan o ysgolion celf eleni.
Cyflwynir gwaith gan:
Ananda Hill, Bonnie Grace Barker, Clare Stephens, Ffion Williams, Gabriel Showell-Nicholas, Hannah Sharpe, Jackie Stephens, Jessica Agar, Madelaine Atkinson, Niamh O'Dobhain, Rosie Merriman, Rowan Lickerish, Sarah Grounds, Thomas Radburn, Valerie O'Donnell.
Portal yw ein harddangosfa grŵp blynyddol o artistiaid a gwneuthurwyr.
Gyda gwaith sy’n ystyried crefftwaith, positifrwydd corff, yr iaith Gymraeg a gweithredu, gobaith yr arddangosfa yma yw gafael yn yr ysbryd a’r syniadau sy’n dod allan o ysgolion celf eleni.
Cyflwynir gwaith gan:
Ananda Hill, Bonnie Grace Barker, Clare Stephens, Ffion Williams, Gabriel Showell-Nicholas, Hannah Sharpe, Jackie Stephens, Jessica Agar, Madelaine Atkinson, Niamh O'Dobhain, Rosie Merriman, Rowan Lickerish, Sarah Grounds, Thomas Radburn, Valerie O'Donnell.
CLARE STEPHENSPrifysgol Metropolitan Caerdydd, MA Cerameg a GwneuthurwrMae Clare Stephens yn creu llestri sy’n cynnal sgwrs â’igilydd, â’u hamgylchedd, ac â’r rhai hynny maent yn dod areu traws. Mae cyfathrebu yn digwydd mewn llawer o ffyrdd,yn gorfforol, yn ofodol, yn emosiynol, ac yn ysbrydol – wrth ini weld, cyffwrdd, neu ystyried yr hyn sydd o’n blaen.Mae ffurfiau Clare yn cipio’r rhyngweithiadau hyn, yr hanfodgwerthfawr hwnnw o ‘fod gyda’, a all feithrin derbyn, sgyrsio, achydweithredu i gynnal ein llesiant. Mae’r agweddau hyn, sy’natseinio ac yn ysbrydoli creadigrwydd Clare, wedi bod yn bwysighefyd yn ei gyrfa flaenorol fel bydwraig.Fel y ffurf ddynol, mae pob darn o glai yn debyg ond eto’n unigolac yn unigryw. Mae eu lliw, eu gwead, a’u hystwythder yn amrywioyn ôl ble cawsant eu ffurfio. Yn ystod y broses o wneud, mae Clareyn ymgysylltu â’r priodweddau materol hyn, a thrwy wybodaethddealledig, sydd wedi’i llywio gan genedlaethau o grochenyddionblaenorol, mae’n dod yn rhan o’r rhyngweithio digyfnewid hwn.Uchod: Presence, 2023Dde: Presence, 202308 Portal 2023
Portal 2023 09
- Page 1: 2023
- Page 4 and 5: RHAGAIRMae Portal wedi dod yn fwy n
- Page 6: ANANDA HILLColeg Celf Henffordd, BA
- Page 9: BONNIE GRACE BARKERColeg Celf Abert
- Page 13 and 14: FFION WILLIAMSPrifysgol Caeredin, B
- Page 15: Portal 2023 11
- Page 18: JACKIE STEPHENSYsgol Gelf Caerfyrdd
- Page 21 and 22: JESSICA AGARColeg Celf Henffordd, B
- Page 25 and 26: NIAMH O’DOBHAINColeg Celf Abertaw
- Page 27: Portal 2023 25
- Page 30 and 31: SARAH GROUNDSColeg Celf Abertawe (P
- Page 32 and 33: 30 Portal 2023
- Page 34 and 35: VALERIE O’DONNELLPrifysgol Metrop
- Page 36: DIOLCHIADAUPortal 2023Arddangosfa g
CLARE STEPHENS
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, MA Cerameg a Gwneuthurwr
Mae Clare Stephens yn creu llestri sy’n cynnal sgwrs â’i
gilydd, â’u hamgylchedd, ac â’r rhai hynny maent yn dod ar
eu traws. Mae cyfathrebu yn digwydd mewn llawer o ffyrdd,
yn gorfforol, yn ofodol, yn emosiynol, ac yn ysbrydol – wrth i
ni weld, cyffwrdd, neu ystyried yr hyn sydd o’n blaen.
Mae ffurfiau Clare yn cipio’r rhyngweithiadau hyn, yr hanfod
gwerthfawr hwnnw o ‘fod gyda’, a all feithrin derbyn, sgyrsio, a
chydweithredu i gynnal ein llesiant. Mae’r agweddau hyn, sy’n
atseinio ac yn ysbrydoli creadigrwydd Clare, wedi bod yn bwysig
hefyd yn ei gyrfa flaenorol fel bydwraig.
Fel y ffurf ddynol, mae pob darn o glai yn debyg ond eto’n unigol
ac yn unigryw. Mae eu lliw, eu gwead, a’u hystwythder yn amrywio
yn ôl ble cawsant eu ffurfio. Yn ystod y broses o wneud, mae Clare
yn ymgysylltu â’r priodweddau materol hyn, a thrwy wybodaeth
ddealledig, sydd wedi’i llywio gan genedlaethau o grochenyddion
blaenorol, mae’n dod yn rhan o’r rhyngweithio digyfnewid hwn.
Uchod: Presence, 2023
Dde: Presence, 2023
08 Portal 2023