Portal 2024 (CYM)
Portal yw ein harddangosfa flynyddol o grŵp o artistiaid a gwneuthurwyr graddedig. Gan gyflwyno gwaith sy'n ystyried perthnasoedd gyda natur, ymfudo, dweud storïau, a bywyd domestig, mae'r arddangosfa hon yn gobeithio cipio'r syniadau a'r ysbryd cydweithredol sy'n ymgodi o ysgolion celf eleni. Cyflwynir gwaith gan: Alex Holland, Alice Banfield, Bethan Hughes Jones, Elin Crowley, Emma Andrews, Gwilym Pearce Jones, Janina Bacchetta, Jennifer Hodgeman, Lena Jajawi, Lucy Jones, Mary Chris, Militsa Milenkova, Rhi Christie, Stuart Taylor.
Portal yw ein harddangosfa flynyddol o grŵp o artistiaid a gwneuthurwyr graddedig.
Gan gyflwyno gwaith sy'n ystyried perthnasoedd gyda natur, ymfudo, dweud storïau, a bywyd domestig, mae'r arddangosfa hon yn gobeithio cipio'r syniadau a'r ysbryd cydweithredol sy'n ymgodi o ysgolion celf eleni.
Cyflwynir gwaith gan:
Alex Holland, Alice Banfield, Bethan Hughes Jones, Elin Crowley, Emma Andrews, Gwilym Pearce Jones, Janina Bacchetta, Jennifer Hodgeman, Lena Jajawi, Lucy Jones, Mary Chris, Militsa Milenkova, Rhi Christie, Stuart Taylor.
- No tags were found...
Transform your PDFs into Flipbooks and boost your revenue!
Leverage SEO-optimized Flipbooks, powerful backlinks, and multimedia content to professionally showcase your products and significantly increase your reach.
2024
CYNNWYS
RHAGAIR 02
CYFLWYNIAD 03
ALEX HOLLAND 04
ALICE BANFIELD 06
BETHAN HUGHES JONES 08
ELIN CROWLEY 10
EMMA ANDREWS 12
GWILYM PEARCE JONES 14
JANINA BACCHETTA 16
JENNIFER HODGEMAN 18
LENA JAJAWI 20
LUCY JONES 22
MARY CHRIS 24
MILITSA MILENKOVA 26
RHI CHRISTIE 28
STUART TAYLOR 30
DIOLCHIADAU 32
Portal 2024 01
RHAGAIR
Mae Portal wedi meithrin a chefnogi llawer o raddedigion
ar hyd y blynyddoedd, gyda llawer o gyn arddangoswyr yn
parhau i sgwrsio a chydweithio gyda Llantarnam Grange hyd
heddiw. Dyna beth sy’n gwneud Portal mor arbennig ac yn
rhan hanfodol o’n hetifeddiaeth.
Gall gadael byd addysg a mynd yn solo fod yn amser heriol ac
ansicr iawn. Trwy Portal rydyn ni’n cynnig cymorth, cyngor, a man
lle gall artistiaid ddatblygu eu hyder er mwyn i’r cyfnod pontio hwn
deimlo’n llai dychrynllyd ac unig.
â’r byd a sut rydym yn ei lywio, ynghyd â bod yn ddathliad o sgìl ac
estheteg.
Fel Swyddog Arddangosfeydd, rydw i wedi curadu Portal ers
dros 5 mlynedd. Mae pob grwp ^ a gefnogwyd gan Llantarnam
Grange wedi cyflwyno syniadau unigryw o safon uchel, gyda phob
artist yn cyfrannu egni cadarnhaol at y profiad. Mae’r ffynhonnell
gyfoethog hon o ysbrydoliaeth yn gwneud i ni deimlo’n obeithiol am
y cenedlaethau o artistiaid y dyfodol a’r rôl y gall creadigrwydd ei
chwarae yn nyfodol pob un ohonom.
Unwaith eto, mae graddedigion eleni yn gwthio’r terfynau, gan
gyflwyno themâu sy’n dra phersonol a chynnwys y gwyliwr yn eu
proses. Mae’r gwaith a gyflwynir yn gwneud datganiadau ynglyn ^
Savanna Dumelow
Swyddog Arddangosfeydd
Llantarnam Grange
02 Portal 2024
CYFLWYNIAD
Portal yw ein harddangosfa flynyddol o grwp ^ o artistiaid a
gwneuthurwyr graddedig, a’i nod yw datgyfrinio gweithio yn
y celfyddydau. Trwy roi cymorth, offer a’r cyfle i ddatblygu
sgiliau i leisiau newydd, mae Portal yn ymestyn y tu hwnt
i waliau’r oriel gan roi’r cychwyn gorau posibl i artistiaid
datblygol wrth iddynt sefydlu gyrfaoedd cynaliadwy.
Trwy amrediad o ymarferion sy’n amrywio o gerameg, dur, tecstilau,
ffotograffiaeth a gosod, mae Portal 2024 yn arddangos casgliad o
waith 14 o raddedigion eleni. Daw’r artistiaid o sefydliadau Cymreig
fel Met Caerdydd, PCDDS Abertawe, Ysgol Gelf Caerfyrddin,
Ysgol Gelf Aberystwyth, a phrifysgolion cenedlaethol fel Coleg Celf
Henffordd, Ysgol Gelf Glasgow a Phrifysgol Caeredin. Gobeithiwn y
bydd yr arddangosfa hon yn cipio’r syniadau a’r ysbryd cyfunol sy’n
dod allan o ysgolion celf eleni.
Mae eraill yn ystyried eu hanesion a’u teuluoedd, gan rannu
cipolygon ar eu plentyndod, bywyd cartref, a’u profiadau o fewnfudo
ac ailsefydlu.
Mae bywyd domestig yn thema a rennir, gyda’r artistiaid yn
myfyrio ar eu harferion, eu perthnasoedd a’r gwrthrychau maent yn
rhyngweithio â nhw, i amlygu’r pethau sy’n ddinod ac yn sentimental
ar yr un pryd.
Gan symud allan i’r awyr agored, i fyd natur, gellir gweld sut mae’r
elfennau ailadroddus mewn bywyd bob dydd yn ymddangos yn
ein hamgylchedd hefyd, ynghyd ag yn y broses wneud. O’r ffordd
gywrain mae corynod yn gweu eu gweoedd, a’r broses erydu
barhaus, i dechnegau gwneud printiau, brodwaith a chrosio: gwelir
ymrwymiad obsesiynol i greadigrwydd ym mhob un.
Mae’r gwaith a arddangosir yn dangos symudiad rhwng y tu mewn
a’r tu allan, lle mae’r artistiaid yn troi at natur a lleoedd domestig i
ystyried yr hyn y gall y pethau bach personol ddweud wrthon ni am
y byd ehangach, a sut gall ein hamgylchedd a’n tirwedd lunio pwy
ydyn ni.
Gan fod llawer o’r artistiaid yn cael eu hysbrydoli gan fynegiadau o
ofal, arferion bob dydd, a’r teithiau a’r profiadau sy’n ein gwneud
pwy ydyn ni, mae Portal 2024 yn creu portread personol sy’n eich
annog i fyfyrio ar eich safbwynt eich hunan a neilltuo amser i ddeall
profiad pobl eraill.
Trwy ddweud storïau a llunio naratifau, mae rhai yn defnyddio
cymeriadau i fynegi arsylwadau ar ragfarn dosbarth, neu i
adlewyrchu’r profiad o fod yn awtistig.
Portal 2024 03
ALEX HOLLAND
Prifysgol De Cymru, BA (Anrh) Ffotograffiaeth
Mae Accountability yn gyfres o ddelweddau a saernïwyd yn
ofalus mewn stiwdio gan y ffotograffydd Alex Holland, ac sy’n
mynegi ymddygiadau pobl ifanc ag addysg breifat yn y DU
heddiw.
Cafodd Alex ei lywio gan ei brofiad personol o ragfarn dosbarth,
ynghyd â sut cafodd pobl eraill eu trin, i ddefnyddio gwisgoedd,
ffotograffiaeth a golygu i gwestiynu’r strwythurau a’r systemau
addysg breifat, ac effeithiau byd go iawn yr amgylcheddau hyn.
Trwy ddod yn wahanol gymeriadau gydag amrywiaeth o
edrychiadau a gwisgoedd, mae Alex yn gwthio’i olygfeydd ar y
gwyliwr, gan ddefnyddio golygu i ddod â storïau at ei gilydd.
Uchod: Accountability, 2024
Dde: Accountability, 2024
04 Portal 2024
04 Portal 2024
ALICE BANFIELD
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Darlunio ac Animeiddio (MA)
Yn y stori fer, Vaster Than Empires and More Slow, gan
Ursula K. Le Guin, mae’r goedwig yn drosiad am y meddwl,
rydych yn “mynd ar goll yn y goedwig, bob nos, ar eich
pen eich hun”, mae’n rhywle sydd “heb ei archwilio, yn
ddiddiwedd...”
Gan gadw hyn mewn golwg, mae Alice yn mynegi eu profiad o
fod yn awtistig ar ffurf cymeriadau chwareus, fel ffordd o herio’r
iaith o gwmpas awtistiaeth a’i gynrychioliad yn y cyfryngau/mewn
diwylliant, lle caiff ei gyflwyno’n aml fel clefyd y mae angen ei wella.
Trwy weld tebygrwydd rhwng pobl awtistig yn masgio a’r
creaduriaid ffurfnewidiol yn ei gwaith, lle mae’r ddau yn teimlo bod
rhaid iddynt eu newid eu hun i ymaddasu i’r amgylchedd, mae Alice
yn defnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau, technegau a sgiliau mewn
2D a gwaith cerfluniol sy’n bywiogi’r cymeriadau hyn ar ffurf pyrth
talismanig, meddal, yn eu ‘coedwig.’
Chwith: Welcome to the Greylands, 2024
Uchod: Eye Prison, 2024
Portal 2024 07
BETHAN HUGHES JONES
Prifysgol Cardiff Metropolitan, Cerameg a Gwneuthurwr (MA)
Mae ‘Amser Maith i Ddod’ yn gasgliad o gelfwaith gan
Bethan Hughes sy’n cyfuno ymchwilio i gelf, hanes a newid
amgylcheddol, gan ei harwain trwy dirweddau De Cymru a’r
byd celf gyfoes.
Ysbrydolir gwaith Bethan gan lyfr brasluniau hanesyddol Turner
o Sgwd Rhyd Yr Hesg, Cwm Nedd, 1795. Ers iddi ymweld â’r
rhaeadr, mae ei cherfluniau cerameg a gwydr a’i phaentiadau wedi
archwilio erydu a’r gwrthdrawiad rhwng materion amgylcheddol a’r
sector diwydiannol.
Uchod: Amser Maith i Ddod, 2024
Dde Amser Maith i Ddod, 2024
08 Portal 2024
10 Portal 2024
ELIN CROWLEY
Ysgol Gelf Aberystwyth, Celfyddyd Gin (MA)
Mae Elin Crowley yn gwneud printiau a ysbrydolir gan
fryniau, mynyddoedd, coed a bywyd gwyllt tirwedd Cymru.
Magwyd Elin ar fferm yng Nghanolbarth Cymru, ac mae
ganddi ymdeimlad o berthyn ac ymgysylltu â’r tir yno.
Mae’r gyfres hon o brintiau yn dangos ei chwilfrydedd am pam fod
y dirwedd yn rhan annatod o’i hunaniaeth, gan beri iddi gwestiynu’r
fraint sydd ynghlwm wrth y profiad hwn, a’r teimlad o ddiogelwch
mae wedi’i brofi yno erioed. Drwy ystyried sut fyddai’n teimlo heb y
cysylltiad neu’r man diogel hwn, mewn byd sydd i’w weld yn llawn
perygl, mae Elin yn archwilio siediau amaethyddol fel symbol o
gysur, lloches a lle o gynhesrwydd.
Chwith: Y Sied Fawr, 2024
Uchod: Y Sied Goed, 2024
Portal 2024 11
EMMA ANDREWS
Prifysgol Metropolitan Caerdydd, BA (Anrh) Celfyddyd Gin
Mae gwaith Emma Andrews yn archwilio themâu’r cartref a’i
pherthynas bersonol ag ef.
Fel person cartrefol yn y bôn, mae Emma yn troi at amgylchoedd
ei haelwyd a’i harferion am gysur. Mae lliwiau byw wrth galon ei
phaentiadau, yn dathlu’r llawenydd y gall y cyfarfyddiadau cyffredin
hyn eu rhoi.
Trwy gydbwyso persbectif personol ag agweddau anhysbysrwydd
yn ofalus, mae Emma yn creu darnau ymatebol sy’n rhoi cyfle i chi
ddod â’ch bywyd a’ch profiadau bob dydd eich hun at ei bywyd
domestig hithau: gan ddathlu symlrwydd y pethau cyffredin.
Uchod: Bedtime, 2024
Dde: Wet Sponge, 2024
12 Portal 2024
Portal 2024 13
GWILYM PEARCE JONES
Ysgol Gelf Caerfyrddin, BA (Anrh) Celfyddyd Gain
Mae gwaith Gwilym Pearce Jones yn debyg i gollage wedi ei
wneud o’r gorffennol a’r presennol, gan ail-destunoli naratifau
i gyfuno ffigurau a gymerwyd o weithiau celf hanesyddol a
gemau fideo, fel The Sims neu Dunegons and Dragons
Mae delweddau crefyddol yn peri i Gwilym weld tebygrwydd rhwng
ei brofiad fel dyn hoyw a’r profiad cwiar ehangach a’r harddwch a’r
erledigaeth a ddisgrifir yn storiâu’r Beibl. Mae ei hoffter o ddweud
storiâu yn creu naratifau haniaethol, sy’n eich dal y tu mewn i’w
fydoedd paentiedig, gan ganiatáu i chi gwestiynu’r fytholeg a’r
storiâu maent yn eu hadrodd.
Chwith: Christeene 2024; Christeene and The Resurrection, 2024
Dde: Detail: Christeene and The Betrayal 2024
Portal 2024 15
JANINA BACCHETTA
Coleg Celf Henffordd, Celfyddyd Gyfoes (MA)
Mae Janina Bacchetta yn artist tecstilau sy’n defnyddio
brethyn i ddweud ei storïau personol a phrofiadau byw pobl
eraill. Mae’r gwaith hwn yn dathlu’r profiad o famolaeth
trwy ddiwylliant materol mamol. Trwy greu naw cwilt bach
cysyniadol, mae Janina yn myfyrio ar ennyd o agosatrwydd
rhyngddi hi a’i mab.
Mae’r darnau hunangofiannol hyn yn ddathliad o famolaeth rhwng
2018 (blwyddyn geni ei mab) a 2020 (moment canolog yn ei
bywyd). Mae naw llun a dynnwyd rhwng y blynyddoedd hyn wedi
cael eu hailddychmygu trwy decstilau, brodwaith llaw, appliqué a
staenio â choffi, i gipio cysyniad Janina o famolaeth ffeministaidd.
Mae pob cwilt bychan yn fateroliad gweledol sy’n creu cofnod o
atgof mamol mewn brethyn. Mae Janina yn chwilio am y llawenydd
yn yr hyn mae’n ei greu, ynghyd â’r posibilrwydd o ennyn newid
cymdeithasol a diwylliannol cadarnhaol.
Uchod: Month 6 Reflections, 2024
Dde: Month 2 Breastfeeding, 2024
16 Portal 2024
Portal 2024 17
JENNIFER HODGEMAN
Coleg Celf Henffordd, Crefftau Cyfoes (MA)
Mae Jennifer Hodgeman yn creu gwrthrychau wedi’i crefftio
sy’n archwilio’r gwahanol ffyrdd rydym yn mynegi gofal a
charedigrwydd. Mae gofal yn ddiwylliannol gysylltiedig â’r
hyn sy’n fenywaidd neu’n famol, ac yn cael ei ystyried yn
aml yn rôl ddomestig. Mae’n weithred y gellir ei esgeuluso
a’i gymryd yn ganiataol, wrth iddo gael ei amsugno i dasgau
dyddiol bywyd domestig.
Mae Jennifer yn defnyddio ffurf y llwy fel cyfrwng ar gyfer rhoi gofal.
Gan ei hystyried yn wrthrych domestig diwylliannol fenywaidd,
mae Jennifer yn rhoi gwerth iddi trwy’r defnyddiau a’r prosesau,
gan ddefnyddio arian, copr enamlog a tsieni esgyrn slip. Mae’r
gwrthrychau gorffenedig yn fynegiant o ofal a charedigrwydd
ynddynt eu hunain, yn drosiadol ac yn ffisegol.
Chwith: Topography of Care and Kindness, 2024
Uchod: Topography of Care and Kindness, 2024
Portal 2024 19
LENA JAJAWI
Coleg Morley Llundain
Mae Lena Jajawi yn artist Iracaidd Prydeinig o Lundain. Mae’n
creu ffurfiau cerfluniol ac ymarferol sy’n archwilio’i diwylliant,
ynghyd â’r ddeuoliaeth sydd ynghlwm wrth ei hunaniaeth
Iracaidd Brydeinig.
Mae From Home yn dweud stori mudo ac adsefydlu. Mae pob darn
sy’n hongian yn cynrychioli pwynt gwahanol yn nhaith ei theulu o
Irac i Loegr, gan gyflwyno ‘ffenestr’ i’w profiadau. Trwy gyfeirio at
storïau a lluniau a ddarparwyd gan ei theulu, mae Lena wedi creu
dyluniadau sy’n talu teyrnged i arddulliau crochenwaith o’r Hen
Ddwyrain Agos.
Mae’r elfen dweud storïau yn yr arddulliau crochenwaith hyn yn
denu Lena, ynghyd â’r defnydd creadigol o batrwm a symbolaeth.
Mae’n defnyddio amrywiaeth o dechnegau yn cynnwys llunio, llunio
â llaw, castio slip, a sgrin-brintio.
Uchod: On the Move, 2024
Dde: Mystery Faces, 2024
20 Portal 2024
22 Portal 2024
LUCY JONES
Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Celfyddyd Gain (BA)
Mae harddwch gweoedd corynod yn ysbrydoli Lucy Jones
i wneud gosodiadau crosio sy’n trawsnewid lleoedd yn
amgylcheddau hudolus. Fel corryn sy’n crefftio’i weoedd
cywrain yn ofalus iawn, mae Lucy hefyd yn crosio patrymau
cain ac unigryw yn fanwl iawn, gan addasu a meddiannu
lleoedd.
Mae’r ffordd y mae pob darn yn ymestyn yn creu profiadau
cwmpasol lle gallwch archwilio’r tyndra rhwng breuder a chryfder,
rheolaeth ac anhrefn. Mae golau yn taflu cysgodion mesmereiddiol,
ac yn goleuo’r manylion cywrain ym mhob darn. Drwy ddefnyddio
weiar wedi’i grosio, mae Lucy yn amlygu manylder a chywreinrwydd
y broses, gan arddangos y cymhlethdod artistig mewn celf tecstilau
a chrosio, ac yn creu gwe o greadigrwydd.
Chwith: Encroachment, 2024
Uchod: Encroachment 2024
Portal 2024 23
MARY CHRIS
Prifysgol Swydd Hertford, Crefftau Dylunio Cyfoes (Gemwaith)
Gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau, o enamlo i
frodwaith, mae Mary Chris yn artist gemwaith sy’n rhannu ei
stori o ddigartrefedd yn blentyn trwy ailddychmygu eitemau
cartref ar ffurf gemwaith.
Mae’r darnau hyn yn mynd trwy fath ar drawsffurfiad sy’n hwyluso
trawsnewid y meddwl trwy naratifau sensitif. Trwy’r ailddychmygu
hwn, mae Mary Chris yn defnyddio’i gwaith i arwain y gynulleidfa
ar daith dywys drwy ei phlentyndod, gan ganiatáu i’w hysgrifennu
helpu ar hyd y daith. Oddi ar sylfaen fympwyol ac emosiynol, mae’n
annog y gynulleidfa i chwarae gyda’i darnau, gan ddod â naratif
mwy difrifol a llai chwareus at ei gilydd. Trwy hyn, mae’r trawsnewid
allanol ar ei gwaith yn adlewyrchu ei thrawsnewid mewnol.
Uchod: On remembrance, 2024
Dde: On honour, 2024
24 Portal 2024
Portal 2024 25
26 Portal 2024
MILITSA MILENKOVA
Ysgol Gelf Glasgow, Gofannu Arian a Gemwaith
Mae Militsa Milenkova wedi creu casgliad sy’n archwilio
effaith mewnfudo pan yn ifanc iawn, a sut mae hyn wedi
effeithio ar ei pherthynas â’i theulu estynedig. Trwy gasglu
gwrthrychau cyffredin oedd yn perthyn i’w pherthnasau,
ystyriodd Militsa sut mae’r eitemau hyn, sy’n ddibwys i bob
golwg, yn gallu dal cymaint o atgofion a bod mor bwysig.
Trwy ganolbwyntio ar y lleoedd negyddol i greu darnau unigol sy’n
ffitio y tu mewn i’r meddiannau hyn, neu o’u cwmpas, mae Militsa yn
creu trosiad ar gyfer bod yn rhan o’i theulu ac ar wahân iddynt ar yr
un pryd. Mae’r casgliad yn corffori ymateb chwareus i swyddogaeth
pob gwrthrych. Mae’n cynnwys darnau ymarferol, addurnol, ac
i’w gwisgo, a wneir mewn dwy ran. Un mewn arian sterling a’r llall
mewn metel eurwaith, gan gyfeirio at y bywyd sy’n cael ei fyw a’r un
arall a adawyd ar ôl. Ei nod yw eich cynnwys mewn deialog agored
ynglyn ^ â heriau mewnfudo a’r aberthau sydd ynghlwm wrth wneud y
cyfryw benderfyniad.
Chwith: What Could Have Been but Never Was, 2024
Uchod: What Could Have Been but Never Was, 2024
Portal 2024 27
RHI CHRISTIE
Metropolian Caerdydd, Cerameg a Gwneuthurwr (MA)
Ysbrydolir Rhi Christie gan fflora, ffawna a rhyngweithiad
dynol. Drwy gymryd rhannau o’r byd naturiol a’u cynnig i bobl
eraill graffu’n fwy manwl arnynt, mae’n caniatáu i’r manylion
annisgwyl fod yng nghanol y llwyfan.
Mae Beside the sea yn gerflun amlsynhwyraidd sy’n chwarae ar y
myth o glywed y cefnfor y tu mewn i gragen fôr. Trwy ddefnyddio
cerameg gerfluniol i ddal darn sain wedi’i guradu, mae Rhi yn eich
gwahodd i brofi diwrnod mympwyol a dreuliwyd yn Ynys y Barri.
Rhowch eich clust wrth agoriad y gragen a chaewch eich llygaid am
ennyd, gwrandewch ar synau’r traeth, yr arcedau a’r ffair yn nhre
glan môr leol Caerdydd.
Uchod: Beside the sea, 2024
Dde: Beside the sea, 2024
28 Portal 2024
Portal 2024 29
30 Portal 2024
STUART TAYLOR
Coleg Celf Henffordd, Gofannu (BA)
Mae Stuart Taylor yn artist gofannu sy’n creu gwaith
cerfluniol. Mae ei ymarfer artistig yn aml yn esblygiadol ei
natur, gan hwyluso deialog gyda’r deunydd, a rhoi lle iddynt
gael ‘llais’.
Mae Stuart yn gweithio gyda dur poeth yn bennaf, gan gael
ysbrydoliaeth o amrywiaeth eang o ffynonellau, a natur a’i
amgylchoedd agos yn benodol. Mae ei waith diweddar wedi
cynnwys cynhyrchu argraffiad cyfyngedig o 12 powlen o ddur
gwrthstaen a phob un yn mesur 16cm o ddiamedr. Mae’r powlenni
wedi’u gofannu â llaw o ddarn sengl o ddeunydd ac wedi eu gorffen
yn defnyddio proses electro-gaboli cyn y tymheru terfynol i greu’r
lliwiau symudliw.
Chwith: Corbeled Vessels II, 2024
Dde: Corbeled Vessels II, 2024
Portal 2024 31
DIOLCHIADAU
Portal 2024
Arddangosfa gan Llantarnam Grange
Cyhoeddwyd gan Llantarnam Grange ©LG 2024
Mae Llantarnam Grange yn rhan o ‘Bortffolio Celfyddydol Cymru’ Cyngor
Celfyddydau Cymru. Elusen Gofrestredig rhif: 1006933. Cwmni Preifat a Gyfyngir
drwy Warant: 2616241
Ariennir Llantarnam Grange gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor
Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Ni chaniateir atgynhyrchu’r cyhoeddiad hwn fel cyfanwaith neu’n rhannol ar
unrhyw ffurf heb gydsyniad ysgrifenedig gan y cyhoeddwr.
Gyda diolch i:
Dewiswyr Gwadd Sadia Pineda Hameed, Artist
Cyngor Celfyddydau Cymru a Gyngor Bwrdeisdref Sirol Torfaen.
Llantarnam Grange
Heol Dewi Sant, Cwmbrân
Torfaen, NP44 1PD
01633 483321
llantarnamgrange.com
Portal 2024 34