You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Digwyddiadau’r fro

Dyma ddisgyblion Cylch Gwenog

yn mwynhau perfformiad gan

Gwmni Drama Arad Goch yn

ddiweddar.

Chwefror 2011 www.clonc.co.uk

Yn ystod 2010 fe wnaeth Doreen Williams a Delyth Evans o Lanybydder

drefnu dwy noson elusennol a raffl fawr. Yn y noson gyntaf yn y Llew Du,

Llanybydder Dewi Pws a’r grŵp Radwn a fu yn diddori ac yna ym mis

Hydref cafwyd adloniant a dawnsio yng nghwmni Jac y Do gyda Don Davies

yn llonni’r dorf gyda’i storïau doniol. Yn ganlyniad i hynny oll, cyflwynwyd

sieciau am £1700 yr un i Ambiwlas Awyr Cymru a’r Gymdeithas Sglerosis

Ymledol. Gwnaeth Rhian Jones noddi’r Gymdeithas Sglerosis Ymledol trwy

gynllun punt am bunt Banc Barclays a chyfrannu £750.

Yn y llun o’r chwith mae Doreen William, Ann Edwards o Ambiwlans

Awyr Cymru, Alison Atkins o’r Gymdeithas Sglerosis Ymledol, Delyth

Evans a Rhian Jones.

Cylch Trafod Amaethyddol Lanbedr Pont Steffan

Nos Fawrth gyntaf y flwyddyn pleser oedd cael teulu Fronfedw, Dihewyd i annerch y grŵp ac i sôn am y Blonde D’Aqutaine sef brid o wartheg sy’n

gynhenid i Dde Ffrainc ond sydd erbyn hyn yn boblogaidd iawn yng ngwledydd Prydain. Ynghanol yr 80au roedd Dai Davies yn awyddus i arbrofi â brid

cyfandirol i roi i’w wartheg godro ond yn groes i’r ffasiwn nid aeth ar ôl y Charolais na’r Limousin ond aeth am y Blonde. Gan fod y lloi yn rhwydd a

didraferth ar eu bwriad ac yn datblygu cyrff cigog yn fuan, penderfynodd Dai brynu dwy dreisiad Blonde bur a sefydlu buches Blonde Fronfedw. Gyda

chymorth ei fab Rhydian a’i ferch Menna dangoswyd lluniau o’r buchod sydd wedi ennill pencampwriaethau yn Llanelwedd a thu hwnt. Trwy ddulliau tarw

potel mae rhai o deirw Fronfedw erbyn hyn wedi cael eu defnyddio mor bell i ffwrdd ag Awstralia. Mae gan Rhydian wybodaeth drylwyr iawn am y brid a

soniodd am rinweddau a gwendidau ambell linell waed.

Y nos Wener ganlynol cynhaliwyd cinio blynyddol y cylch yn y Llew Du. Croesawyd y gŵr gwadd Mr. John Davies o Grymych gan y Cadeirydd Mr.

Eifion Jones, Talarwen. Cafodd John lawer o gapiau dros Gymru wrth chwarae rygbi dosbarth cyntaf gyda Chastell Nedd, Richmond a Llanelli. Soniodd

am rai o’i anturiaethau adeg ennill y crys coch ar y maes ac oddi ar y maes. Cyhoeddwyd yr enillwyr yn y gystadleuaeth ogor ac mae’r canlyniadau fel

a ganlyn, GWAIR: 1, Alan Bellamy, Hendy, Llanybydder. 2, Denley Jenkins, Pantyrodyn. 3, Delyth a Teifi Jenkins. BYRNAU MAWR: 1, Teifi a Delyth

Jenkins. 2, Denley Jenkins. 3, Brinley Davies, Penlan, Talsarn. SILWAIR CLAMP: 1, Alan Bellamy. 2, Graham ac Iwan Uridge. 3, Andrew Jones, Dolbeudy,

Felinfach. Enillydd y bencampwriaeth ac yn derbyn Cwpan Her Coffa Albert Evans oedd Allan Bellamy. Enillwyd cystadleuaeth y ffotograff gan Aneurin

Davies. Diolchodd yr Is Gadeirydd i bawb ac yn arbennig i’r Ysgrifennydd Mr. Gareth Jones Cilerwisg a’i wraig Ann am eu gwaith yn ystod y flwyddyn ac

i’r Trysorydd diwyd Mr John H. Jones, Dolaugwyrddion am drefnu’r noswaith. Ar y 15ed o Chwefror bydd dau enillydd Fferm Ffactor, Aled Rees a Teifi

Jenkins yn sôn am eu profiadau wrth ffilmio’r gyfres.

O’r chwith, (rhes flaen) Gareth Jones Cilerwisg, John Davies Crymych, Twynog Davies, Llywydd Anrhydeddus, Alan ac Ann Bellamy, Teifi Jenkins,

Denley Jenkins. O’r chwith (rhes ôl) Iwan Uridge, Graham Uridge, Eifion Jones, Cadeirydd, John Bolwell, Is Gadeirydd a Brinley Davies.

Llun gan Aneurin Davies