You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Prif Amcanion
Prif amcanion yr Elusen yw helpu:
1. Creu newid trawsnewidiol i'r rhai mwyaf bregus ar
draws y rhanbarth
2. Cefnogi newid sy'n creu effaith i gleifion a'u
teuluoedd ar lefel leol
Newid Trawsnewidiol
Mae'r Elusen yn anelu at flaenoriaethu rhaglenni sy'n
helpu i wella iechyd a lles y rhai mwyaf bregus ar draws
y rhanbarth. Mae Awyr Las yn darparu cefnogaeth i
bob claf a defnyddiwr gwasanaeth, ond er mwyn creu
newid trawsnewidiol, mae angen mwy o bwyslais ar:
• Wasanaeth pobl hŷn
• Plant
• Iechyd Meddwl
Newid sy'n creu Effaith
Mae'r Tîm Cefnogi Elusen yn gweithio gyda staff
gweithredol, cleifion a'u gofalwyr i ddynodi gofynion
lleol (yn cynnwys offer a chyfleusterau newydd;
prosiectau arbennig; ymchwil a rhaglenni addysg) fel
bod rhoddion drwy'r Elusen yn gallu helpu cefnogi
newid sy'n creu effaith i gleifion a'u teuluoedd ar lefel
leol.
Mae’r Tîm Cefnogi Awyr Las hefyd yn canolbwyntio ar gyflawni amcanion gweithredol allweddol, a
amlinellir yn Strategaeth Awyr Las ar gyfer 2016-21, sydd ar gael i'w darllen yn: awyrlas.org.uk/cy/
about-awyr-las.
Gwelededd
Bu i'r Elusen ymgymryd â nifer o
weithgareddau yn ystod y flwyddyn i
gynyddu pa mor weledol yw Awyr Las,
ac ymwybyddiaeth ohoni.
Fel rhan o hyn, defnyddiwyd Nel Del,
masgot Awyr Las, yn helaeth drwy
2018-19 i ymgysylltu â staff y GIG,
cefnogwyr corfforaethol a'r gymuned
ehangach.
awyrlas.org.uk
Adroddiad Blynyddol 2018/19 40