You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Beth mae'r elusen yn ei wneud
Nifer y cronfeydd
412
Incwm yn 2018/19
£2m
Ysbytai llym yng
Ngogledd Cymru
3
Safleoedd cymuned
yng Ngogledd Cymru
45
Poblogaeth a
wasanaethir
gan BIPBC
678k
Yn sicrhau bod pobl ar draws
Gogledd Cymru yn elwa o well
gwasanaethau pan fydd
arnynt eu hangen fwyaf.
Mae Awyr Las (teitl swyddogol
Elusen Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr ac Elusennau
cysylltiedig eraill) yn Elusen
gofrestredig (rhif cofrestredig
1138976), ac mae ganddi
gyfansoddiad dan ddogfen
ymddiriedolaeth dyddiedig 23
Medi 2010.
O fewn cofrestriad grŵp yr
elusen, mae dwy elusen atodol:
Elusen Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr, ac Apêl Canser
Gogledd Cymru.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr yw ymddiriedolwr
corfforaethol cyfreithiol yr
Elusen. Mae hyn yn golygu fod,
er bod aelodau'r Bwrdd yn
gyfrifol am weinyddu'r
cronfeydd, nid ydynt yn
ymddiriedolwyr unigol yr Elusen.
Awyr Las yw'r elusen ymbarél ar
gyfer dros 400 o Gronfeydd
Elusennol. Gyda'i gilydd, mae'r
cronfeydd hyn yn cefnogi
wardiau, unedau, adrannau,
prosiectau cymuned ac
arbenigeddau ar draws
Gogledd Cymru.
Mae rhoddion a roddir i'r Elusen
yn helpu staff ymroddedig y GIG
mewn ysbytai a chymunedau ar
draws Gogledd Cymru i gynnig
gwell gwasanaeth gofal iechyd,
gan gynnig y gofal a'r driniaeth
orau sydd ar gael i gleifion a'u
teuluoedd.
Staff rheng flaen sy'n
penderfynu ar flaenoriaethau'r
Elusen.
3 Adroddiad Blynyddol 2018/19
awyrlas.org.uk