A phe baen ni’n byw fry yn y bryniau
pamfledd
pamfledd
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
A phe baen ni’n byw fry yn y bryniau
‘Dere nawr fy mrawd, dere nawr. Gad i ni wneud yr hyn ddylen
ni ar gyfer ein mam. Dere nawr fy chwaer, dere di nawr hefyd
a phe baen ni’n byw fry yn y, yn y, yn y, yn y, yn y, yn y,
yn y Os fyth y caiff ei adeiladu, yn y a phwy a ŵyr ynghylch
hynny, byw fry yn y hwn fydd un o’r aneddiadau dynol cyntaf,
(A phe baen ni’n byw fry yn y bryniau) unrhyw le yn y byd,
A phe baen ni’n byw fry yn y bryniau i gael ei genhedlu, o’r
dechreuad (A phe baen ni’n byw fry yn y bryniau) ar delerau
ôl-ddiwydiannol Byw fry yn y bryniau, y bryniau ac â thechnoleg
ôl-electroneg. (A phe baen ni’n byw fry yn y bryniau) Ac yna,
meddyliwch am y peth: dinas weithiol, dinas flaengar, weithiol,
Fy mrawd, cer, mewn gwlad o’r fath honno. Ynghyd â’r afon,
cer at yr afon, a’r mynyddoedd, mi fyddai’n lle rhyfeddol.
I gario’r dŵr. Y dŵr.
Manod sydd ar fy meddwl. Golchi’r llestri wna’n chwaer.
Gofynnaf i chi feddwl am y peth. Mae hi’n mynd i’r siop hyd
yn oed. Mynd i hôl neges. Falle’ch bod chi’n meddwl taw rheoli
dynion a safbwyntiau ydw i. Tra bo’ mrawd bach yn rhedeg ar
hyd y lle. Ond nid dyna sydd gen i. A chasglu mieri. Dim ond
gwthio yn erbyn inertia ydw i. Er mwyn cadw’r tanllwyth o dân
ynghynn. Mae’n rhaid eich bod chi’n sylweddoli’r her sydd o’n
blaenau. Hen ddrifft, hen faw, er mwyn cadw’r fam-danllwyth
ynghynn y chwildro diwydiannol. Tanllwyth o dân, tân. Y drifft
newydd, (A phe baen ni’n byw fry yn y bryniau) difaterwch,
breuder newydd, A phe baen ni’n byw fry yn y bryniau y cam hwn
o gyfalafiaeth. Y de-ddwyrain ffrantig hwn, (A phe baen ni’n
byw fry yn y bryniau) echelin Llundain-Birmingham. A thu hwnt
i hyn, Fy mam yn ddygn wrth ei gwaith ac yn gyfatebol, gwlad
sy’n diboblogi, Fy mam, gweithia, er mwyn y plant, dynion
di-waith, Fy mam yn ddygn wrth ei gwaith cymunedau sy’n marw.
Fy mam, gweithia, er mwyn dy blant.
Bydd gan ddinas a adeiladwyd yn bennaf i arddangos yr ynni
newydd Fy nhad a aeth a thechnolegau cyfathrebu draw ymhell,
fel ei ymhell bell chanolbwynt diwydiannol i weithio fry yn
amaethu’r tir ran sylweddol o ran eu gweithgynhyrchu. Dadi’n
dod â bwyd. Felly bydd yr hyn gellir ei weld ar y ddaear, ar
lawr, sy’n gweithio, Dod, Dadi dere, dere da’r bwyd, dere
yno hefyd (A phe baen ni’n byw fry yn y bryniau) fel proses
weithgynhyrchu: Byw fry i’w gwerthu a’u hallforio Byw fry
byw fry yn y bryniau, y bryniau, ceir offer telebrosesu,
(A phe baen ni’n byw fry yn y bryniau) systemau rheoli gwres
lleol, (A phe baen ni’n byw fry yn y bryniau) systemau rheoli
cynhyrchu gwasgaredig ... Seiniau’r bryniau. Seiniau’r
bryniau (A phe baen ni’n byw fry yn y bryniau).
‘Dere nawr fy mrawd, dere nawr. Gad i ni wneud yr hyn ddylen
ni ar gyfer ein mam. Dere nawr fy chwaer, dere di nawr hefyd
a phe baen ni’n byw fry yn y, yn y, yn y, yn y, yn y, yn y,
yn y Proses newydd yn y ar gyfer gwella tir pori ffiniol yr
ucheldir. Byw fry yn y (A phe baen ni’n byw fry yn y bryniau)
Mae gweithdrefn sy’n cynnwys cymhwysiad cymharol rad A phe
baen ni’n byw fry yn y bryniau o elfennau hybrin penodol (A
phe baen ni’n byw fry yn y bryniau) ardaloedd pori dros dro,
Byw fry yn y bryniau, y bryniau sydd bob amser yn nodwedd yn
y ddinas hon, (A phe baen ni’n byw fry yn y bryniau) yn gwbl
addas. Bydd yr arddangosiad, unwaith eto, Fy mrawd, cer, cer
at yr afon yn berthnasol i gynhyrchiad mewn-dinas.
I gario’r dŵr. Y dŵr.
Roedd y glaswellt yn wyrdd llachar ar hyd y lôn. Golchi’r
llestri wna’n chwaer. Roedd yr egin ddail yn ymagor Fe aiff
hi i’r siop hyd yn oed ym mherthi’r ddraenen wen. Mynd i hôl
neges. O dan fur yr ysgol Tra bo’ mrawd bach yn rhedeg ar hyd
y lle roedd yr ysgaw a’r mieri wedi deilio’n llwyr. A dal y
mieri Pan ddychwelodd hi, i gadw’r tanllwyth o dân ynghynn
roedd Jack yn ei blyg yn cynnau’r tân. I gadw’r fam-danllwyth
ynghynn. Tanllwyth o dân, tân.
Roedd yn rhaid i’r pwysau dros adnewyddiad, y tu fewn iddynt,
(A phe baen ni’n byw fry yn y bryniau) wneud ei ffordd drwy
wlad A phe baen ni’n byw fry yn y bryniau a thrwy dir a thrwy
fywydau (A phe baen ni’n byw fry yn y bryniau) a oedd wedi
eu saernïo’n ddwfn, ymroi’n ddwfn, gan bresenoldeb a oedd yn
symud yn barhaus, Fy mam yn ddygn wrth ei gwaith yn ddi-ildio,
i mewn i’r gorffennol. Fy mam, gweithia, er mwyn y plant. A
byddai’r momentau hynny o’r presennol Fy mam yn ddygn wrth
ei gwaith a fyddai’n cysylltu â dyfodol Fy mam, gweithia, er
mwyn dy blant yna’n anodd eu hamgyffred, yn anodd dal gafael
arnynt, yn anodd rhoi rhythm iddynt, Fy nhad a aeth, draw
ymhell, i ddilyn symudiad, ymhell bell yn ôl siâp angenrheidiol
i weithio fry yn amaethu’r tir bywyd Dod â bwyd mae Dadi
sy’n dra gwahanol.(1) Dod, Dadi dere, dere ‘da’r bwyd, dere
(A phe baen ni’n byw fry yn y bryniau) Byw fry byw fry byw
fry yn y bryniau, y bryniau (A phe baen ni’n byw fry yn y
bryniau) (A phe baen ni’n byw fry yn y bryniau) Seiniau’r
bryniau. Seiniau’r bryniau (A phe baen ni’n byw fry yn y
bryniau).’(2)
(1) Raymond Williams, Fight for Manod, Gwasg Hogarth, Llundain, 1979,
tudalennau 13-16, 191-7, 206-7.
(2) Winston Rodney, Burning Spear, Man in the Hills, Island records, 1976.
© Vanley Burke
© Vanley Burke
Ffynonellau:
Wrth wrando ar straeon fy mam a’i magwraeth yng nghymoedd De
Cymru y clywais i am y Fari Lwyd am y tro cyntaf. Â hithau’n
blentyn bach yn y 1930au byddai’n dwyn i gof yr achlysur pan
fyddai ei thad-cu, yn hytrach na rhoi’r maldod arferol iddi,
yn canolbwyntio gymaint ar ei ymryson byrfyfyr gyda’r dynion
a ganai y tu allan i ddrws y ffermdy nes iddo alw ar rywun i’w
chymryd oddi yno. Cymerai’r pwnco o ddifri, ac roedd fy mam,
a oedd wedi ei dychryn gan benglog ceffyl y Fari, yn ei fwrw
oddi ar ei echel.(1)
Etifeddaf ffordd o fyw â cheffylau oddi wrth fy nhad-cu; yn
awr wrth odrau mynydd Epynt. Pan ddangosaf ffotograff i fy mam
o’r stalwyni’n codi eu coesau blaen yn Sioe Stalwyni Epynt
1930, dywed: ‘Cofiaf y stalwyni’n gwneud hynna.’ Ond yna, nid
yw’n siŵr a’u gwelodd mewn gwirionedd neu ai ffotograff ohonynt
yn unig a welodd. Hyd nes iddi ddweud: ‘Cofiaf y sŵn roedden
nhw’n ei wneud. Roedd yn codi ofn arna’i.’
Mae gan y ddawns fasgiau Jamaicaidd, Jonkonnu, nifer o
gymeriadau sefydlog, ac ymddengys bod tebygrwydd rhwngun
ohonynt, Pen Ceffyl, â’r Fari Lwyd. Ac yntau’n dawnsio i’r
drwm, ni chaiff y Pen Ceffyl ei arwain na’i rwystro fodd bynnag,
ac nid yw’n canu. Yn y fideo Jamaica Jonkonnu (2012), Mae
Raynford Foster yn esbonio sut y datblygwyd Jonkonnu gan
gaethweision y trefedigaethau i bryfocio meistri’r caethweision
â gweithredoedd o ffolineb a dathliad rhythmig mewn cuddwisg.
Mae’n bosibl fod rhai o’r cymeriadau, megis y diafol â’i het
siâp cwch, yn cynrychioli agweddau o ormes. Mae eraill yn
awgrymu gwrthsafiad: er enghraifft, gallai Jack in the Green
gynrychioli’r marŵns, sef caethweision a oedd wedi dianc,
a guddiai yn y mynyddoedd coediog ynghyd â Nanny’r marŵns.
Gallai Pen Ceffyl gynrychioli arfer meistri’r caethweision o
farchogaeth o gwmpas ar geffylau. Eto i gyd mae clecian gennau
Pen Ceffyl, fel y Fari Lwyd, yn awgrymu camreolaeth hefyd.
Ysgrifenna Sylvia Wynter (1970) mai ‘llên gwerin oedd herwfilwr
diwylliannol gwrthwynebiad yn erbyn Economi’r Farchnad, ac
mae’n dyfynnu Leopold Sédar Senghar (arlywydd cyntaf Senegal,
1960-80): ”caiff y gwirionedd barddonol ei ddynodi, fan hyn,
gyda’r gwirionedd gwyddonol, sef mai egni yw bodolaeth yr
hyn sy’n bodoli, hynny yw rhythm.”(2)
Y tro cyntaf i mi glywed trac reggae Burning Spear Man in
the hills (1976) roedd yn ddewis ar Desert Island Discs gan
y ffotograffydd Vanley Burke sy’n disgrifio’i fagwraeth ar fferm
ei dad-cu a’i fam-gu wrth droed Blue Mountains yn Jamaica cyn
ymfudo i fyw i Firmingham ble y mae bellach yn tyfu ffrwythau
a llysiau ar randir.
Mae cytgan Burning Spear ‘A phe baen ni’n byw fry yn y
bryniau’ yn dwyn i’m cof ucheldir Cymru. Yn benodol felly,
meddyliaf af Gwm Elan, a gliriwyd o’i boblogaeth Gymraeg
ei hiaith er mwyn gwneud lle i gronfeydd dŵr Corfforaeth
Birmingham ym 1893-1904 a 1946-1952. Meddyliaf hefyd am
Epynt, a gliriwyd o’i gymuned wledig Gymraeg ei hiaith ym
1940 ar gyfer maes tanio milwrol Prydeinig.
Yn ei nofel Fight for Manod (1979), dychmyga Raymond Williams
sut y caiff cynlluniau llywodraeth i adeiladu dinas newydd
yng nghefn gwlad Canolbarth Cymru eu herwgipio gan fuddiannau
breiniol a chorfforaethol. Wrth ystyried yr hyn allai fod wedi
bod, mae hyn yn cynrychioli methiant dychmygus i fynd i’r
afael â diweithdra ôl-ddiwydiannol a diboblogi cefn gwlad. A
ydyw bellach yn bosibl ail-ddychmygu’r amgylchiadau pan gaiff
technolegau a ffyrdd o fyw di-ganoledig, cymdeithasol-gyfiawn
ac ecolegol-briodol eu datblygu mewn ymgynghoriad gwir ac
agored â’r bobl?
Os, rywsut, y mae Epona, duwies digonedd, yn gysylltiedig ag
Epynt fel cynefin ceffylau, yna ataliwyd dienyddiad merlod a
phobl Epynt wrth i gyfalafiaeth wawrio yn sgil eu gallu hanfodol
i ffynnu yn y bryniau garw diarffordd.(3) Ond yna, yn y pen
draw, wrth i ffiniau dwy-wynebog wep-Janws tir cymunedol
Epynt ddenu hysbysiad tybiannol gwladwriaeth filwrol Prydain
a ymladdai dros ‘Fyd Rhydd’, ildiodd y merlod, y bobl a’r
plygain.(4) ‘Mae’n ddiwedd byd yma,’ oedd geiriau hen wraig
wrth Iorwerth Peate â hithau’n cael ei throi allan o’i chartref,
Waun Lwyd.(5) A byddai Thomas Morgan yn dychwelyd yn feunyddiol
i gynnau tân yng Nglandŵr, cyn i’r fyddin ddinistrio’i dŷ
i’w atal rhag dychwelyd.
Sonia Ydwena Jones wrtha’i am ei thad, Iorwerth Davies, a
drowyd allan o fferm Gwybedog, ac a fagai cobiau Cymreig yn
ddiweddarach a’u marchogaeth ar hyd a lled Cymru. Cofiai’r
adeg pan oedd Epynt yn hunangynhaliol, roedd yno dir da i
dyfu ceirch, perthi cyll trwchus, caws llaeth dafad a
gwenyn mêl: ‘Dywedai Dad fod y bywyd gwyllt yn anhygoel
yno.’ Rhwygwyd y perthi o’u gwraidd gan y fyddin. Ond roedd
e’n falch nad oedd Epynt wedi ei orchfygu gan goed coniffer.
Wrth adennill gweledigaeth am fyd pan na fyddai angen y
maes tanio mwyach, sonnir am ddad-ddofi tir, ond nid heb
fodau dynol. Yn ôl Bethan Powell, un o ddisgynyddion Epynt,
imperialaeth radlon yw dad-ddofi tir heb bobl. Cysyllta
profiad yr Epynt â phrofiad cymunedau’r byd benbaladr. Â
hithau’n aelod o Gymdeithas y Cymod, gofynna: Os dywedwyd
am Epynt ym 1940 ‘mae’n ddiwedd byd yma’, a allai’r cyfnod
hwn gyda’r firws fod yn ddechreuad byd?
Down at ein gilydd ynghyd â bodau eraill o wahanol rythmau
a chyfraddau amser yn gyfosodiadau symudol o ecoleg a
diwylliant. Creigiau, organebau, planhigion, anifeiliaid,
ffyngau, bacteria, firysau, pobl. Daw hunan-fydau i gwrdd â
hunan-fydau. Beth ddaw i’r wyneb? Beth sy’n denu? Beth ydym
am ei ddiogelu? Neu ei newid? Cofiai Iorwerth Davies am gwpl a
fyddai’n marchogaeth dros Fynydd Epynt am noson o adloniant,
gan gario’u gramoffon a recordiau ar gefn ceffyl. Mae Vanley
Burke yn dwyn i gof grŵn traddodiadol aml-leisiau’n canu’r
Naw Nos, gan gynnig cymorth i’r sawl sy’n galaru, sydd
bellach wedi ildio i’r drymiau.(6) Prydera na fydd cydsafiad
ac impetws presennol mudiad Mae Bywydau Duon o Bwys yn
parhau: os fydd y rheini ohonom heb brofiad personol o
wahaniaethu yn dyfod yn llai ymwybodol unwaith yn rhagor.
Ac mae’r diffyg ymwybyddiaeth hon yn berthnasol i’r modd
rydym yn trin rhywogaethau eraill. Mae gwrando allan am
anghyseinedd yn ogystal â chysylltiadau’n hanfodol:
‘Os ydym am wybod beth sy’n teilyngu byw mewn lle dylem
astudio cyfosodiadau polyffonig, ac ymgynulliadau fel ffyrdd
o fodoli.’(7)
Nodiadau:
(1) Ymryson cyfansoddi penillion yw Pwnco rhwng deiliad y tŷ
a chriw’r Fari Lwyd. Caiff y Fari ddod i mewn i’r tŷ am
fwyd a diod pan fydd deiliad y tŷ yn ildio yn y pen draw.
(2) Awgryma Sylvia Wynter fod Jonkonnu wedi datblygu yn sgil
cyswllt rhwng caethweision Affricanaidd a gweision
ymrwymedig. Sylvia Wynter, ‘Jonkonnu in Jamaica’, Jamaica
Journal 4.2, 1970, 32-48: 36-8; Katherine McKittrick et
al., ‘Rhythm’, American Quarterly, 70.4, 2018, 867-74: 870.
Ymhlith y sawl a orelwodd yn sgil caethwasiaeth mae’r
Capten Thomas Phillips o Aberhonddu, awdur A Journal of
a Voyage Made in the Hannibal 1693-94 To Africa and
Barbadoes, a’r Capten Hari Morgan, preifatîr a ddaeth yn
berchennog ar drefedigaeth, ac a arweiniodd ymgyrchoedd
yn y 1670au yn erbyn marŵns Jamaica. Roedd Nanny yn
arweinydd benywaidd i’r marŵns yn y 18fed ganrif.
(3) Caiff y dduwies Gâl-Rufeinig, Epona, ei darlunio mewn
cerfluniau fel ceffyl, ebol neu fel corn llawnder. Mae’n
bosibl bod y geiriau ‘ebol’ a ‘poni’ yn deillio o Epona.
Ym 1535 cafwyd ordinhad gan Harri’r VIII y dylid difa
merlod er mwyn bridio ceffylau mwy o faint, yn enwedig
ceffylau rhyfel, ond cafodd y ddeddf ei dirymu’n rhannol
gan Elizabeth 1 ar y sail na allai tiroedd tlawd gynnal
anifeiliaid mawr. W.H.R. Cutler, A Short History of
English Agriculture, 2005.
(4) Cynhelid gwasanaeth carolau Plygain, a genid gan grwpiau
ac unigolion mewn cyfres o berfformiadau byrfyfyr, yn
gynnar ar foreau Nadolig yng Nghapel y Babell, Epynt.
(5) Iorwerth Peate, Y Llenor, 1941.
(6) Cyfweliad fideo gyda Vanley Burke - By the Rivers of
Birminam (Rhan 2 o 2), MAC, 2012.
(7) Anna Tsing, The Mushroom at the End of the World: On the
Possibility of Life in Capitalist Ruins, Gwasg Prifysgol
Princeton, Princeton, 2015: 157-8.
Delweddau:
1. Traddodiad y Fari Lwyd, BBC Cymru, 1966, (llun llonydd).
2. Diwrnod Sioe Stalwyni’r Epynt (Hen Dafarn y Porthmyn),
1930.
3. Real Jamaican Jonkonnu (Grŵp Jonkonnu o Kingston), Joe
Mannix, 2011, fideo YouTube, (llun lonydd).
4. Jamaica Jonkonnu (rhan 2 o 3), Andrew Goodstartmedia,
2012, fideo YouTube, (llun lonydd).
5. Vanley Burke, Riot Police, 1970-1979(c.), © Vanley Burke.
6 a 7. Traddodiad y Fari Lwyd, BBC Cymru, 1966,
(lluniau lonydd).
8. Traddodiad y Fari Lwyd, BBC Cymru, 1966, (llun lonydd).
9. Vanley Burke, Pan fydd aelod o’r gymuned Ddu yn marw,
bydd eraill yn ymweld â chartref yr ymadawedig (Tŷ’r
Meirw) gan gynnig cefnogaeth. Mae’r dynion hyn yn canu
o’r Beibl mewn grŵn amhersain wrth iddynt yfed rỳm gwyn,
1981, © Vanley Burke.
10, 11 & 12. March, Epynt (Cadi), 2020.
© Morag Colquhoun, 2020.
Gyda diolch i Mairwen Colquhoun am ei straeon. Gyda diolch i
Ydwena Jones, Bethan Powell a Glyn Powell am siarad â mi am
Epynt. Gyda diolch i Atgofion Epynt am y ffotograffau o stalwyni
Epynt. Gyda diolch i Vanley Burke am ei ffotograffau a straeon
o Firmingham a Jamaica. Gyda diolch i Dr. Sally-Ann Ashton,
Andrew C. Ife-Oni a Joe Mannix am ddelweddau o Jonkonnu yn
Jamaica. Gyda diolch i BBC Cymru am ddelweddau o’r Fari Lwyd
yn Llangynwyd. Gyda diolch i Cadi am fy nghario i fyny’r bryn.
Cyfieithu: Siân Reeves.