Simplicity and Complexity, Jin Eui Kim (CYM)
Welsh / Cymraeg Catalogue This catalogue was created to accompany a solo exhibition by ceramic artist Jin Eui Kim. Running from 6 May - 29 July, Jin Eui has created a series of new pieces that use his signature intricate optical effects to attract and trick the eye. Jin Eui has been working in Wales for 17 years. Simplicity and Complexity is his first solo exhibition in Wales. I gael gwybod mwy yma: https://llantarnamgrange.com/simplicity-and-complexity/?lang=cy
Welsh / Cymraeg Catalogue
This catalogue was created to accompany a solo exhibition by ceramic artist Jin Eui Kim. Running from 6 May - 29 July, Jin Eui has created a series of new pieces that use his signature intricate optical effects to attract and trick the eye. Jin Eui has been working in Wales for 17 years. Simplicity and Complexity is his first solo exhibition in Wales.
I gael gwybod mwy yma: https://llantarnamgrange.com/simplicity-and-complexity/?lang=cy
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Simplicity and
Complexity
Jin Eui Kim
CYNNWYS
RHAGAIR 02
CYFLWYNIAD 05
GWAITH 06
GWYBODAETH DECHNEGOL 13
GWAITH 14
DIOLCHIADAU 18
Clawr: Pâr o ffurfiau silindrog OPverse, 2023
JIN EUI KIM - Simplicity and Complexity 01
RHAGAIR
Yn 2019, arddangosodd Llantarnam Grange ganlyniadau
prosiect Jin Eui Kim a oedd yn archwilio creu cleiau tonaidd.
Yn yr arddangosfa honno rhannwyd profiad y broses
ymchwilio drwy fideos, nodiadau gofalus, ffotograffau a
samplau.
Cafodd y technegau newydd a ddatblygodd Jin Eui ddylanwad
anferth ar ddatblygiad ei waith a archwiliai’n fwyfwy manwl sut gall
canfyddiad y gwyliwr o wrthrychau tri dimensiwn gael ei newid drwy
amrywiadau tonaidd a rhithiau optegol.
Mae technegau Jin Eu, ei drefniadau tonaidd, y defnydd
sythweledol o liw, ei fanwl gywirdeb a harddwch wedi ei enwogi
fel ceramegydd gwirioneddol unigryw. Rydym wedi bod yn falch
iawn o gael parhau i gefnogi angerdd a chreadigrwydd Jin Eui yn yr
arddangosfa solo hardd hon sy’n herio’n llygaid a’n canfyddiadau,
gan greu rhithiau symudol sy’n tanio’r meddwl.
02 JIN EUI KIM - Simplicity and Complexity
Uchod: Grwp ^ o OPots, 2023
JIN EUI KIM - Simplicity and Complexity 03
Caption if required
CYFLWYNIAD
“Gall cymhlethdod ymgodi o symlrwydd, a gallwn ganfod
symlrwydd mewn cymhlethdod hefyd.”
rhithiau neu effeithiau gweledol ymddangos yn syml neu’n hawdd
eu profi, tra gall eraill fod yn gymhleth neu’n anodd eu canfod.”
Gan weithio rhwng y ddau gysyniad, rhith a realiti, mae’r artist
cerameg, Jin Eui Kim, yn archwilio sut gall ein canfyddiad o
wrthrychau tri dimensiwn gael eu trin drwy ddefnyddio tôn a
gwahanol drefniadau clai.
Ar gyfer Simplicity and Complexity, mae Jin Eui wedi creu cyfres
o ddarnau sy’n parhau â’i ddefnydd o effeithiau optegol cywrain
i dynnu sylw a thwyllo’r llygad. Trwy ymchwilio i sut a pham mae
ffenomenau gweledol yn ymddangos, mae ymchwil Jin Eui yn
archwilio rhithiau optegol, canfyddiad gweledol, a Chelf OP. Mae
persbectif gwrthdroi nodweddiadol y peintiwr Patrick Hughes wedi
cael dylanwad arbennig arno, ynghyd â phaentiadau geometrig
Bridget Riley; defnydd yr artist cerameg, Liz Fritsch, o batrymau;
a’r ystyriaeth o gyfaint a dwysedd gan y cerflunydd cyfoes Anish
Kapoor.
Trwy ymchwilio i’r gwahanol egwyddorion a thechnegau hyn, mae
Jin Eui wedi datblygu ymdeimlad cryf o bwrpas creadigol, gan greu
ei effeithiau personol sy’n arbrofi ag elfennau llinol, gwahanol fathau
ar raddiant, a’r berthynas rhwng gwrthrych a’i gefndir. Mae hyn yn
creu gwahanol ffenomenau gweledol sy’n newid yn ôl sut rydych yn
ciledrych neu edrych ar ei ddarnau, neu’n craffu arnynt.
“Mae’r teitl ‘Simplicity and Complexity’ yn eiriau sydd bob amser
yn fy meddwl wrth i mi greu a gwerthuso fy nghelfwaith. Gall rhai
Mae’r cydadwaith cydnaws rhwng y ffurfiau ailadroddus syml a’r
tonau syml yn creu amrywiaeth o effeithiau gweledol cywrain. Caiff
rhai o’r rhithiau eu llunio trwy drefniant syml o linellau neu safle’r
ffynhonnell olau, tra bod eraill yn gyfansoddiadau cymhleth sy’n
defnyddio amrywiaeth o ffactorau. Er enghraifft, yn OPject, mae’r
ffurf sfferig, yr arlliwiau a’r cysgodion yn cael eu creu gan rigolau o’r
un maint sy’n cael eu hail-ddangos ar onglau gwahanol, gan arwain
i amrywiad yn y tonau.
Mae Jin Eui yn trin yr effeithiau hyn ymhellach drwy greu gwahanol
amgylchiadau ar gyfer ei waith. Trwy newid lliw neu dôn y cefndir, y
pellter rhwng y gwyliwr a’r celfwaith, uchder y celfwaith, a lleoliad y
ffynhonnell olau, mae Jin Eui yn newid ein canfyddiad o’i arwynebau
ceramig.
I Jin Eui, mae symlrwydd a chymhlethdod yn bodoli ochr yn ochr,
mewn perthynas symbiotig, angenrheidiol. Yn aml, ar ôl goresgyn
rhywbeth cymhleth ac anodd, gall y canlyniad fod yn rhywbeth
eithriadol syml. Yn yr un modd, gall y gwrthwyneb fod yn wir – gall
pethau sy’n ymddangos yn syml ar yr olwg gyntaf fod yn ddigon
cymhleth ar ôl eu harchwilio ymhellach. Yn y ffordd hon, mae’r
broses o greu celfwaith yn ymgysylltu â bywyd, gan ei bod yn
adlewyrchu’r cydbwysedd eiddil rhwng symlrwydd a chymhlethdod
a brofwn yn ein bywyd bob dydd.
Chwith: Ffurf hemisffer OPject, 2023
JIN EUI KIM - Simplicity and Complexity 05
Uchod: Grwp ^ o OPots, 2023
06 JIN EUI KIM- Simplicity and Complexity
Uchod: Ffurf hemisffer OPject; a jar lleuad OPots, 2023
JIN EUI KIM - Simplicity and Complexity 07
Uchod: Pâr o ffurfiau silindrog OPverse, 2023
Chwith: Ffurf silindrog OPverse, 2023
JIN EUI KIM - Simplicity and Complexity 09
Uchod: Blwch â chlawr OPject; Ffurf silindrog OPverse, 2023
Dde: Blwch â chlawr OPject, 2023
10 JIN EUI KIM- Simplicity and Complexity
Chwithw: Jar lleuad OPot. Credyd Llun Ben Boswell
Ode: Ffurf silindrog OPverse. Credyd Llun Ben Boswell
12 JIN EUI KIM- Simplicity and Complexity
GWYBODAETH DECHNEGOL
Yn ei ymarfer, mae Jin Eui yn ymdrechu i ddatblygu ei sgiliau,
mireinio technegau newydd, a harneisio technolegau newydd. Mae
ei waith yn dechrau gyda syniad, sy’n ymffurfio yn ei ddychymyg.
Mae’r syniadau hyn yn cael eu datblygu trwy arbrofion a phrofion,
ac yna mae Jin Eui yn myfyrio arnynt fel y gall barhau i ddysgu ac
addasu. Mae hon yn broses barhaus a gall gymryd blynyddoedd i’w
pherffeithio.
Trwy greu cydbwysedd cywrain rhwng ceugrwm ac amgrwm,
arwynebau gwastad a gwrymiog, arlliw a lliw, mae Jin Eui yn
mireinio’r ffenomenau rhithiol. Mae’n cyflawni hyn drwy ail-wneud
hefyd. Trwy lunio lledau unfath o fandiau neu flociau, mae’n creu
profiad gweledol diffocws a all atal gwylwyr rhag edrych ar fan
penodol ar yr wyneb, ac ar yr un pryd mae’n tarfu ar ein golwg
perifferol.
“Gan mwyaf, rwy’n creu fy ngwaith yn defnyddio tri dull gwahanol:
taflu ar olwyn, llunio â llaw a chastio slip. Rydw i’n ffurfio ‘OPjects’
drwy daflu ar olwyn, ac ar ôl y tanio cyntaf byddaf yn peintio’r
engobau â brwshys. Rwy’n defnyddio 18 o wahanol engobau
llwyd, o rai sydd mor olau â gwyn i eraill sydd mor dywyll â du fel
y prif balet. Ychwanegir 8 glas, 8 coch ac 8 melyn at y palet hefyd.
Yna mae’r darn peintiedig yn cael ei danio ar 1120 gydag un tanio
arall ar ôl gwydro. ‘Rwy’n gwneud ‘OPverse’ yn bennaf drwy lunio
â llaw yn defnyddio cleiau tonaidd – 20 o wahanol donau o rai
sydd mor olau â gwyn i eraill sydd mor dywyll â du. Mae’r cleiau’n
cael eu hallwthio i’r siapiau a’r meintiau penodol trwy lifynnau
wedi’u haddasu. Gellir defnyddio’r torchau hyn i lunio cylchoedd
neu flociau ac yna’u pentyrru i greu ffurfiau. Rwy’n trimio’r wyneb
y tu mewn a’r tu allan ac yna maent yn cael eu tanio ar dymheredd
tanio bisg ar ôl iddynt sychu. Wedyn maent yn cael eu tanio ar
1240 ar ôl gwydro’r tu mewn. Gwneir y gyfres ‘OPerspective’ a
‘The Flow on Cubes’ drwy gastio slip yn bennaf ac mae pob darn
yn cael ei ddylunio’n ofalus cyn dechrau.”
GEIRFA
Engobe – math o glai hylif sy’n cael ei frwsio neu chwistrellu ar y
darn wedi’r broses tanio bisg. Defnyddir hwn yn gyffredin i wella
golwg gwaith ceramig ac mae’n arwain i orffeniad neu effaith
addurnol o safon uchel. Mae’n debyg i slip, ond mae’n wahanol am
y gellir ei ddefnyddio ar ddarnau sydd wedi mynd drwy danio bisg.
OPjects – gair a grëwyd gan Jin Eui drwy gyfuno ‘Optical’ ac
‘Object’ i gyfeirio at wrthrych sy’n gallu creu rhithiau optegol.
OPverse – Yn debyg i OPject, creodd Jin Eui y gair OPverse
trwy newid y llythyren ‘B’ i ‘P’ yn y gair ‘Obverse’, sy’n golygu’r
gwrthwyneb i ffaith neu wirionedd.
OPerspective – gair a greodd Jin Eui drwy gyfuno ‘Optical’ a
‘Perspective’, ac mae’n cyfeirio at ddarn o waith celfyddyd sy’n
creu effeithiau gweledol yn defnyddio ymagwedd at bersbectif sy’n
wahanol i’n canfyddiad arferol.
Uchod: Blwch â chlawr OPject; Jar lleuad OPot; Ffurf sfferig OPject, 2023
Dde: Ffurf sfferig OPject, 2023
14 JIN EUI KIM - Simplicity and Complexity
Chwith: Ffurf silindrog OPverse, 2023
Dde: Pâr o ffurfiau silindrog OPverse, 2023
16 JIN EUI KIM - Simplicity and Complexity
Uchod: Ffurfiau silindrog OPverse; Blwch â chlawr OPject, 2023
JIN EUI KIM - Simplicity and Complexity 17
DIOLCHIADAU
JIN EUI KIM - Simplicity and Complexity
Arddangosfa gan Llantarnam Grange
Cyhoeddwyd gan Llantarnam Grange ©LG 2022
Mae Llantarnam Grange yn rhan o ‘Bortffolio Celfyddydol
Cymru’ Cyngor Celfyddydau Cymru. Elusen Gofrestredig rhif:
1006933. Cwmni Preifat a Gyfyngir drwy Warant: 2616241
Ariennir Llantarnam Grange gan Gyngor Celfyddydau Cymru
a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Ni chaniateir atgynhyrchu’r cyhoeddiad hwn fel cyfanwaith
neu’n rhannol ar unrhyw ffurf heb gydsyniad ysgrifenedig
gan y cyhoeddwr.
Llantarnam Grange, Heol Dewi Sant, Cwmbrân,
Torfaen, NP44 1PD
01633 483321 | llantarnamgrange.com
Gyda diolch i:
Young Ae (fy ngwraig) am ei chefnogaeth ddiddiwedd, yr holl
staff yn Llantarnam Grange yn cynnwys Louise Jones-Williams,
Sophie Lindsey a Savanna Dumelow am eu gwaith caled ar
gyfer yr arddangosfa.
Cefndir: Ffurf silindrog OPverse, 2023
18 JIN EUI KIM - Simplicity and Complexity