You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
16/

ADRODDIAD BLYNYDDOL S4C 2010

S4C ANNUAL REPORT 2010

17/

GAYNOR DAVIES —

GOLYGYDD CYNNWYS ADLONIANT

Fel Golygydd Cynnwys Adloniant rydw i’n gofalu am

amrywiaeth eang o raglenni. Fe geision ni’n gorau

glas i sicrhau fod llawer o’r rhaglenni yn 2010 yn

adlewyrchu Cymru, ei thirwedd a’i phobol.

Mae sawl cymuned yng Nghymru wrthi’n brysur

yn cynnal digwyddiadau ac mae sawl person

wedi dweud wrthon ni ei bod hi’n bechod nad ydi

camerâu S4C yno i recordio rhai o’r perlau ’ma.

Ymateb uniongyrchol i hyn oedd y gyfres Cyngerdd

(Boomerang). Mi gafodd gwylwyr S4C flas o

ddigwyddiadau o wahanol rannau o Gymru - o

Twrw Tudweiliog ym Mhen Llŷn i ddathliadau 900

mlynedd Aberteifi yn Theatr Mwldan.

Mae rhoi cyfle i gyfarfod â phobol sy ddim wedi

bod ar S4C o’r blaen yn rhan o ofynion y gyfres

Bro (Telesgop). Mi gafodd hynny ei wireddu wrth

deithio Cymru yng nghwmni Iolo Williams a Shân

Cothi.

Fe gawson ni flas, yn llythrennol, ar sawl ardal

wrth fynd ar daith fwyd hefo Dudley – O’r Giât i’r

Plât (Rondo) a Cymru ar Blât (Rondo). Yn 2010 mi

benderfynon ni roi sylw haeddiannol i gynnyrch

Cymru. Roedd cystadleuaeth yn y gegin yn fyw

ac yn iach dros gyfnod y Nadolig wrth i Dudley roi

her i wyth o bobol adnabyddus yn Dudley - Pryd

o Sêr (Rondo). Mi wnaeth y gyfres gyntaf ennill

Gwobr BAFTA Cymru am y rhaglen adloniant

ysgafn orau yn 2009: Dwi’n credu mai oherwydd

gonestrwydd y cynhyrchiad oedd hyn – doedd ’na

ddim “Dyma i chi un dwi wedi ei baratoi yn barod”

yn perthyn i’r gyfres. Roedd hi’n wythnos ffilmio

galed ac emosiynol iawn i’r cystadleuwyr, gan greu

adloniant pur dros dair rhaglen. Llongyfarchiadau

i Julian Lewis Jones am ennill y gystadleuaeth!

Tybed fydd ’na wyth o bobol yn ddigon dewr i

dderbyn y sialens yn 2011?

Yn amlach na pheidio un o’r cwestiynau cyntaf

mae pawb yn gofyn i’w gilydd wrth gyfarfod ydi ‘sut

ydach chi?’ Y diddordeb yma yn ein hiechyd oedd

y tu ôl i’r penderfyniad i gomisiynu Doctor Doctor

(Boomerang) - cyfres newydd yn cael ei chydgyflwyno

gan Nia Parry a’r Doctor Gwyn Jones.

Mae mor braf gweld cymaint o feddygon Cymraeg,

huawdl, sy’n arbenigwyr yn eu meysydd. Rydan

ni’n ddiolchgar iawn i’r cyfranwyr oedd mor barod

i rannu eu storïau a’u profiadau dirdynnol mor

agored.

Yn ogystal ag adlewyrchu digwyddiadau, dydi o

ddim yn ddrwg o beth i S4C geisio creu ambell un.

A dyma ddigwyddodd gyda “Sioe Fach y Patsh”.

Mae’r patsh yn Rhosgadfan ger Caernarfon wedi

dod yn adnabyddus dan ofalaeth ei berchennog,

y garddwr a’r cyflwynydd Russell Jones. Roedd

Russell a gweddill tîm Byw Yn Yr Ardd (Cwmni

Da) - Bethan Gwanas a Sioned Rowlands - yno

i gyfarfod â thua 200 o wylwyr ffyddlon y gyfres.

Diolch o galon i bawb ddaeth yno i gefnogi. Rydan

ni’n gobeithio ail-adrodd y digwyddiad yn 2011.

a’u mwynhad wrth wylio’r tri chystadleuydd olaf

yn ceisio cwbwlhau tasg i ennill lle yn y rownd

derfynol. Roedd y rhaglen fyw olaf yn llawn tensiwn

wrth aros am y canlyniad. Llongyfarchiadau

gwresog i Teifi Jenkins ac i’r holl gystadleuwyr.

Rydan ni’n edrych ymlaen at gyfarfod â’r deg

newydd yng nghyfres 2011.

Roedd ’na ddigon o hwyl gyda Tudur Owen o’r

Doc (Cwmni Da). Mae’r cyfresi yma wedi datblygu

i fod yn ddigwyddiadau poblogaidd yn Galeri,

Caernarfon gyda phobol yn edrych ymlaen at gael

gafael ar docynnau i’r sioe. Ar ôl rhagflas ar Sioe

Nadolig Tudur Owen (Cwmni Da) o’i gyfres newydd,

rydan ni’n edrych ymlaen am lond bol o chwerthin

gyda Tudur a’i “ffrind newydd ffraeth a ffyddlon”

Meical Owen yn 2011.

Dwi’n credu’n gryf, yn enwedig o feddwl am yr

amgylchiadau anodd sy’n ein hwynebu ni ar hyn

o bryd, bod angen chwerthin a mwynhau. Mae

adloniant a chomedi yn feysydd anodd i’w cael yn

iawn, ond yn bwysig i roi cynnig arni, a dyna fydd

yr her yn 2011.

Dudley - Pryd o Sêr

GAYNOR DAVIES—

CONTENT EDITOR ENTERTAINMENT

As Content Editor, Entertainment I’m responsible

for a variety of programmes. We made every effort

in 2010 to ensure that many of our programmes

reflected all of Wales, its landscape and its people.

Many people arrange their own events in

communities around Wales and many have told

us that it’s a shame that S4C’s cameras aren’t

there to record some of these highlights. As a

direct response to these comments, a new series

called Cyngerdd (Boomerang) was commissioned.

Viewers had a chance to see highlights of some of

these events around Wales - from Twrw Tudweliog

on the Llŷn Peninsula to the celebrations to

commemorate Cardigan’s 900th anniversary at

Theatr Mwldan.

Meeting people who haven’t appeared on S4C

in the past is part of the brief of Bro (Telesgop).

This was achieved as Iolo Williams and Shân Cothi

travelled to different parts of the country.

We had a taste of many parts of Wales as chef

Byw Yn Yr Ardd

Dudley went on tour in O’r Giât i’r Plât (Rondo) and

Cymru ar Blât (Rondo). In 2010 we made sure that

we gave food produce from Wales the attention

it deserves. The competitive edge was live and

kicking over the Christmas period as Dudley

presented eight celebrities with challenges in

Dudley - Pryd o Sêr (Rondo). The first series won

a BAFTA Cymru award for the best entertainment

programme in 2009. I think this was due to the

honesty of the production - the series didn’t include

elements such as “This is one I prepared earlier”.

This was a busy and emotional week of filming for

the contributors, leading to three programmes full

of pure entertainment. Congratulations to Julian

Lewis Jones for winning the competition! I wonder if

there will be eight people brave enough to face the

challenge in 2011?

‘How Are You?’ is often the opening question when

people meet. It was this interest in our health that

led to the commissioning of a new series called

Doctor Doctor (Boomerang), co-presented by Nia

Parry and Dr Gwyn Jones. It’s so good to see so

many eloquent Welsh-speaking doctors who are

experts in their fields. We’re extremely grateful to

the contributors for their willingness to openly share

their stories and their harrowing experiences.

As well as broadcasting from local events, it’s

not a bad thing for S4C to create some of its own

events. This led to “Sioe Fach y Patsh”. Presenter

and gardener Russell Jones’ gardening patch in

Rhosgadfan near Caernarfon has become known

to many people. Russell and the rest of the team

of Byw yn yr Ardd (Cwmni Da) met around 200 loyal

viewers who came to see the patch. I’d like to thank

all the people who came to the patch for their

support. We hope to arrange a similar event in 2011.

Fferm Ffactor (Cwmni Da) is firmly cemented

in S4C’s annual calendar. It was great to see

hundreds of fans braving the wet weather at

the Royal Welsh ground in Llanelwedd and

watch their enthusiasm and enjoyment as three

competitors tried to reach the final round. The

final live programme was brimming with tension as

we waited for the result. Warm congratulations to

Teifi Jenkins and all the other competitors. We’re

looking forward to meeting the ten people who’ll be

competing in the next series in 2011.

There was plenty of fun in Tudur Owen O’r Doc

(Cwmni Da). These programmes have become

popular events at Caernarfon’s Galeri with people

eager to buy tickets for the show. After seeing a

taster of the next series during Sioe Nadolig Tudur

Owen (Cwmni Da), we’re all now looking forward to

laughing in 2011 with Tudur and Meical Owen, his

new friend who is “faithful and witty”.

I strongly believe - especially as we consider the

difficult period facing us - that we need to laugh

and enjoy ourselves. It’s difficult to hit the right note

in comedy and entertainment, but it’s important

that we try - and that will be the challenge in 2011.

Erbyn hyn mae cyfres Fferm Ffactor (Cwmni Da)

yn ddigwyddiad yng nghalendr y Sianel. Roedd

hi’n braf iawn, hyd yn oed ynghanol y glaw, sefyll

gyda channoedd o gefnogwyr y gyfres ar Faes

y Sioe yn Llanelwedd a chlywed eu brwdfrydedd

Sioe Nadolig Tudur Owen