You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Date/Dyddiad Mehefin 2014

Ask for/Gofynnwch

am

Rhiannon Moore

Telephone/Rhif ffôn 01446 700111

Fax/Ffacs 01446 421392

e-mail/e-bost

Your Ref/Eich Cyf

My Ref/Cyf

RKMoore@valeofglamorgan.gov.uk

The Vale of Glamorgan Council

Development Services

Dock Office, Barry Docks, Barry CF63 4RT

Telephone: (01446) 700111

www.valeofglamorgan.gov.uk

Cyngor Bro Morgannwg

Gwasanaethau Datblygu

Swyddfa’r Doc, Dociau’r Barri, Y Barri CF63 4RT

Rhif ffôn: (01446) 700111

www.bromorgannwg.gov.uk

Your Ref/Eich Cyf My Ref/Cyf P+T/POL/RKM/2014ôl-16

Annwyl Riant/Warcheidwaid

TRAFNIDIAETH YSGOL AR ÔL 16 OED 2014-15

Mae’r trefniadau presennol ar gyfer cludo myfyrwyr dros 16 oed i’r ysgol yn cael eu hadolygu ar hyn o

bryd ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf sef 2014/2015. Rwy’n ymwybodol y bydd eich plentyn yn y

grŵp oedran hwn o fis Medi 2014 ymlaen.

Os yw eich plentyn am barhau â’i addysg, a’ch bod am iddo ddefnyddio trafnidiaeth ysgol (a’i fod yn

gymwys i wneud hynny), dylech ddarllen y wybodaeth ganlynol am ein Polisi Cludiant o’r Cartref i’r

Ysgol. Dylech lofnodi’r ffurflen dderbyn/gydnabod amgaeedig hefyd, a’i hanfon yn ôl i Swyddfa’r Doc

cyn gynted ag y medrwch, er mwyn cael tocyn teithio. Byddwn yn anfon y tocyn teithio i’ch cartref cyn

dechrau’r tymor academaidd newydd. Bydd y broses hon yn sicrhau bod gan y cyngor restr gywir o’r

rhai sy’n teithio a’i fod yn gallu unrhyw seddau dros ben yn y ffordd fwyaf addas.

Os na allwch anfon y ffurflen dderbyn/gydnabod amgaeedig yn ôl cyn 1 Medi 2014, ni fydd eich

plentyn yn colli ei le ar y bws. Serch hynny, y mae’n bwysig cofio na fydd hawl i ddisgyblion

ddefnyddio unrhyw drafnidiaeth ysgol o ddiwrnod cyntaf y tymor ymlaen heb docyn teithio dilys.

Petaech yn dychwelyd y ffurflen amgaeedig, a bod eich plentyn wedyn yn penderfynu nad yw am

barhau â’i addysg, dylech roi gwybod i ni cyn gynted ag sy’n bosibl, a dychwelyd y tocyn teithio, er

mwyn i ni gael rhannu’r lleoedd yn gywir.

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i’ch cyfeirio at ein Polisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol a gafodd ei

fabwysiadu ym Medi 2005 a’i ddiweddaru yn Chwefror 2010. Mae’r dogfennau llawn ar gael ar Wefan

Bro Morgannwg, mewn Ysgolion, yn Swyddfeydd y Cyngor ac mewn llyfrgelloedd.

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn awyddus iawn i ddarparu trafnidiaeth ysgol addas yn ôl ei

ddyletswydd, ac yn ymdrechu’n galed i fod yn gyson wrth drin materion sy’n ymwneud â hynny. Mae’n

hanfodol bwysig felly, i chi fod yn gyfarwydd â’r camau y mae’r cyngor am i bawb eu cymryd.

Amgaeaf grynodeb o’r prif bolisïau a fydd yn cael eu gweithredu ynglŷn â thrafnidiaeth ysgol. Os oes

angen copi llawn arnoch, cewch ffonio’r Uned Gludiant ar 01446 700111 neu fynd i’n gwefan -

www.valeofglamorgan.gov.uk

Rwy’n gobeithio bod hyn i gyd yn ddigon eglur, ac edrychaf ymlaen at glywed oddi wrthych maes o law

os bydd angen arnoch gysylltu â ni.

Yn gywir

Rob Thomas

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Datblygu

Correspondence is welcomed in Welsh or English/Croesawir Gohebiaeth yn y Gymraeg neu yn Saesneg