Gwahoddiad i’r Ŵyl Fwyd Hwrê! Bydd y dre yn drwch o betha’ da. O deuwch yn llawen ac yn lliaws draw i’r Cei i drio’r caws a’r gwin, croesawu’r gwanwyn i’r Maes, a’r stondinwyr mwyn o’r wlad â’u catwad a’u cig yn gadwyn fendigedig. Ger y castell, mae’n gwella, dewch am sgram ar garlam ’gia! Rhyw ddŵr-dynnwr o’r dannedd ’di’r ŵyl hon, dewch draw i’r wledd! Yn dilyn cyfarfod cyhoeddus a alwyd gan Gyngor Tref Caernarfon ddiwedd 2014, penderfynwyd yn unfrydol bod Caernarfon yn lle delfrydol ar gyfer cynnal Gŵyl Fwyd. Gwahoddwyd Chris Jones, trefnydd Gŵyl Fwyd Casnewydd, Y Fenni a llefydd eraill i’n rhoi ar ben y ffordd, a’i gyngor ef oedd canolbwyntio ar y pethau oedd yn gwneud Caernarfon yn wahanol i bob man arall. Hanes y dref, ei hiaith, diwylliant a’r cynnyrch o safon sydd ar gael yn lleol ydi’r hyn sy’n arbennig am y dre. Felly wrth ethol pwyllgor a swyddogion, dyna oedd y nod wrth fynd ati i drefnu. Mae diolchiadau’r pwyllgor yn hir ac yn helaeth, a gwell peidio dechrau enwi neb, gan y byddem yn siŵr o adael rhywun allan! Ond mae’n rhaid diolch o waelod calon i fusnesau a thrigolion Caernarfon am eu cefnogaeth anhygoel i’r gweithgareddau codi pres a gynhaliwyd yn y cyfnod yn arwain at yr ŵyl, a’u brwdfrydedd dros gynnal gŵyl o’r fath yn y dre. Rydym yn gobeithio y bydd pob un ohonynt yn elwa o’r digwyddiad cyffrous ac uchelgeisiol hwn. Rhaid hefyd diolch i’r gwirfoddolwyr a roddodd mor hael o’u hamser a’u hymroddiad i drefnu’r amrywiol ddigwyddiadau yn ogystal â’r holl waith paratoi trylwyr ar gyfer yr ŵyl ei hun. Gobeithio bod eu hymdrechion wedi esgor ar Ŵyl lwyddiannus! Felly’n syml, i gloi, diolch, diolch, diolch i bawb am bopeth! Ac ymlaen â ni i’r flwyddyn nesa! Nici Beech Cadeirydd yr Ŵyl / Festival Chair Invitation to the Food Festival Hooray! A festival’s in town, jam-packed with goodies. Come on down in happy masses, as you please, to the Quay to taste the cheese and wine; come on and welcome Spring to the Maes, as traders bring from the countryside their meat and chutney and lots more to eat. Down by the castle, it gets better, enjoy a bite and a whistle wetter! Your mouth will water, that’s for sure – We’ll feed you till you want no more! Following a public meeting convened by Caernarfon Town Council at the end of 2014, it was unanimously agreed that Caernarfon was the ideal place to stage a Food Festival. Chris Jones, organiser of Newport and Abergavenny Food Festivals, to name but two, was invited to point us in the right direction, and his advice was to concentrate on the things that made Caernarfon unique – its history, language, culture and top quality local produce. So when the committee and officers were elected, his advice was an important consideration. The committee is deeply indebted to many, but it’s wiser not to start naming names, for fear of leaving someone out! But we sincerely want to thank the businesses and residents of Caernarfon for their incredible support for the fundraising activities leading up to the festival, and their enthusiasm for staging such a Festival in town. I hope that each and every one of them gets some benefit from this exciting and ambitious event. I must also thank the volunteers who gave so generously of their time and effort to organise the various events as well as the detailed planning required for any Festival. I hope their efforts have created a successful Festival! Therefore, thank you, thank you, thank you everyone, for everything! On to the next one! cyfieithiad/translation - Geraint Lovgreen SDWNSH COGINIO! SDWNSH COGINIO! Siân Beca Dyl Mei a blasu gwin yng nghwmni Marcus R COGINIO! Tudur Owen GALERI, CAERNARFON Bryn Williams Beca Lyne-Pirkis Tudur Owen Siân Beca Dyl Mei 19:30 Gwener / Friday 13.05.16 Bryn Williams Beca Lyne a blasu gwin yng nghwmni Marcus Tocynnau Robinson : £10 / £8 gostyngiadau Bryn Williams GALERI, CAERNARFON Siân Beca 19:30 Gwener / Friday 13.05.16 Tocynnau : £10 / £8 gostyngiadau SDWNSH COGINIO! Bryn Williams GALERI, CAERNARFON Tel: 01286 685222 www.galericaernarfon.com Tudur Owen 19:30 Gwener / Friday 13.05.16 Tocynnau : £10 / £8 gostyngiadau Tel: 01286 685222 www.galericaernarfon.com Dyl Mei Tudur Owen a blasu gwin yng nghwmni Marcus Robinson SDWNSH COGINIO! Bryn Williams Beca Lyne-Pirkis SDWNSH Tel: 01286 685222 www.galericaernarfon.com Beca Lyne-Pirkis Siân Beca Tudur Owen Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael ar y noson Simultaneous translation will be provided at the event www.gwylfwydcaernarfon.cymru Facebook: /gwylfwydcaernarfon Twitter: @gwylfwydcfon 2 3 Dyl Mei Beca