You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
8 HYFFORDDI, GWEITHIO, BYW YNG NGHANOLBARTH CYMRU

Ysbyty Cyffredinol Bronglais

Mae Geraint

yn nyrs staff yn y Theatr

yn Ysbyty Bronglais, a

ddechreuodd ei yrfa yn

hyfforddi fel peiriannydd

cemegol ond penderfynodd

y byddai’n well ganddo yrfa

arall a newidiodd i hyfforddi

fel nyrs. 35 mlynedd yn

ddiweddarach a nid yw’n

difaru dim! Yn ei amser

rhydd mae Geraint allan yn

yr awyr agored, yn dringo

a cherdded, yn mwynhau’r

rhuthr adrenalin y mae’n

cael o ddringo iâ pan

mae’n cael y cyfle. Mae

Geraint yn dweud mai natur

wyllt a garw Canolbarth

Cymru yw’r prif atyniad

iddo i fyw yn yr ardal,

ac mae harddwch cefn

gwlad a’r amrywiaeth

o weithgareddau awyr

agored yn fonws.

Mae Saby yn Gofrestrydd Paediatreg ar Ward Angharad, Ysbyty

Bronglais lle y mae wedi gweithio ers 5 mlynedd. Mae ganddo fab 13

oed ac mae ei wraig hefyd yn gweithio i BIP Hywel Dda fel radiograffydd

cymwysedig. Mae Saby yn dweud ei fod yn caru byw yn Aberystwyth

ac yn dweud bod ganddo gydbwysedd “ardderchog” rhwng bywyd a

gwaith. Yn ogystal â mwynhau ffotograffiaeth, cerddoriaeth a theithio

fel diddordebau, mae ef hefyd wrth ei fodd yn cerdded a phrofi’r

golygfeydd o’r llwybr arfordirol Ceredigion. Yn y llun mae ar

Graig-glais yn Aberystwyth.