15SOf1f
15SOf1f
15SOf1f
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Crynodeb

Mae’r ail gyllideb atodol hon ar gyfer 2012-13 yn diwygio cyllideb atodol flaenorol

2012-13, a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Gorffennaf 2012.

Mae’r gyllideb atodol hon yn cyflawni tri phrif ddiben:

� Mae’n gwneud dyraniadau o gronfeydd wrth gefn canolog;

� Mae’n adlewyrchu trosglwyddiadau o fewn cyllidebau adrannol Llywodraeth

Cymru, a rhwng y cyllidebau hynny; ac

� Mae’n addasu’r llinellau sylfaen i roi cyfrif am drosglwyddiadau â Llywodraeth

y DU, trosglwyddiadau rhwng arian refeniw a chyfalaf a dwyn cyllid ymlaen.

Ers y gyllideb atodol flaenorol ar gyfer 2012-13:

� Mae cyfanswm y gwariant a reolir (TME) ym mloc Cymru wedi cynyddu

£215.3 miliwn, neu 1.4%. O’r swm hwn, caiff £212.7 miliwn ei ddyrannu i

adrannau Llywodraeth Cymru.

� Mae cyfanswm y terfyn gwariant adrannol (DEL) ym mloc Cymru wedi cynyddu

£123.6 miliwn, neu 0.8%. O’r swm hwn, caiff £121 miliwn ei ddyrannu i

adrannau Llywodraeth Cymru.

� Mae’r DEL refeniw ym mloc Cymru wedi gostwng £7.2 miliwn, neu 0.1%. Fodd

bynnag, mae’r gyllideb atodol yn dyrannu £34.8 miliwn o DEL refeniw

ychwanegol i adrannau Llywodraeth Cymru.

� Mae’r DEL cyfalaf ym mloc Cymru wedi cynyddu £130.8 miliwn, neu 10.6%.

O’r swm hwn, caiff £86.2 miliwn ei ddyrannu i adrannau Llywodraeth Cymru.

� Mae’r gwariant a reolir yn flynyddol (AME) ym mloc Cymru wedi cynyddu

£91.7 miliwn, neu 22.6%. O’r swm hwn, caiff £91.7 miliwn ei ddyrannu i

adrannau Llywodraeth Cymru.

Er bod y gyllideb atodol yn dyrannu cyllid ychwanegol, mae’r cynnig ei hun, y mae

gofyn i’r Cynulliad ei awdurdodi, yn gofyn am ostyngiad o £44.4 miliwn i’r swm

sydd i’w dalu o Gronfa Gyfunol Cymru i Weinidogion Cymru yn y flwyddyn

ariannol 2012-13.