08.11.2014 Views

• Cyflwyno staff CBAC • Adnoddau digidol newydd am ddim i ...

• Cyflwyno staff CBAC • Adnoddau digidol newydd am ddim i ...

• Cyflwyno staff CBAC • Adnoddau digidol newydd am ddim i ...

SHOW MORE
SHOW LESS

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

2011/12

bwletin

• Cyflwyno staff CBAC

• Adnoddau digidol newydd am ddim i athrawon gwyddoniaeth

• Disgyblion yn disgleirio: Gwobrau Safon Uwch ac Arloesedd

• Manylion cyswllt defnyddiol

Cyflwyniad

‘Dweud eich dweud’ – CBAC wedi ymrwymo i wrando a derbyn adborth gan ei holl randdeiliaid

Cyfarchion gan y Prif Weithredwr

Yn y rhifyn hwn o fwletin blynyddol CBAC rydym yn

canolbwyntio ar adnoddau addysgol. Mae gan bob un o’n

swyddogion pwnc, a llawer o staff eraill, gefndir ym myd

dysgu. Dros y ddwy neu dair blynedd a aeth heibio rydym wedi

cynyddu, yn gyson, yr arian rydym yn ei wario ar ddatblygu

a darparu adnoddau sydd yn ddefnyddiol i athrawon wrth

gyflwyno ein cyrsiau. Mae ein staff yn deall mor hanfodol yw

hyn, gan fod cynifer ohonom wedi bod yn athrawon ein hunain

ac yn cofio gwerth adnoddau o ansawdd uchel wrth gefnogi

dysgu ac addysgu. Ein polisi yw sicrhau bod cynifer â phosibl o’r

adnoddau hyn ar gael yn rhad ac am ddim i ganolfannau.

Ar y cyd â’n cydweithwyr mewn ysgolion a cholegau ledled

Cymru a Lloegr, rydym yn parhau i addasu ein darpariaeth

mewn ymateb i gyfarwyddebau’r rheoleiddwyr a’r llywodraeth.

Mewn ymateb i’r newidiadau arfaethedig, rydym wedi

cyflwyno diweddariad o’r gwaith rydym yn ei wneud.

Mae ein Llwybrau Dysgu newydd - sy’n cynnwys darpariaeth

sylweddol ar Lefel Mynediad - yn cynnig dewisiadau hyblyg

i athrawon sydd am gynnig opsiynau amgen i arholiadau

TGAU. Mae rhychwant o faterion perthnasol i arholiadau

TGAU a darpariaeth alwedigaethol i bobl ifanc 14 -16 oed yn

destun ymgynghoriadau cyfredol neu arfaethedig. Unwaith y

bydd canlyniadau’r rhain yn wybyddus, mae’n debyg y ceir

datblygiadau sylweddol eraill y byddwn yn eu rhannu ag

athrawon.

waelod y rhestr, roedd canran yr ymatebwyr oedd yn meddwl

eu bod yn ffactor arwyddocaol wedi cynyddu rywfaint, arwydd

amlwg o’r cyd-destun ariannol anodd rydym i gyd yn gweithio

ynddo.

Pan wahoddwyd penaethiaid adran i ddweud wrthym sut

byddent yn hoffi derbyn gwybodaeth oddi wrthym, am y tro

cyntaf roedd bwletinau e-bost yn fwy poblogaidd na phost

uniongyrchol. Ond hyd yma nid yw rhwydweithio cymdeithasol

yn cael ei weld fel dull o gysylltu â’n cydweithwyr - roedd hyn

yn eglur o’r 0% oedd yn dymuno’r dull hwn o gyfathrebu. Er

hyn, mae cyfryngau o’r math hwn eisoes yn dod yn ffynhonnell

ddefnyddiol i gasglu barn myfyrwyr.

Gwefan newydd – parhau’r sgwrs

Gan ddechrau yn gynnar yn 2012 byddwn yn ymgynghori ac

yn cyfathrebu trwy gyfrwng gwefan ar ei newydd wedd. Bydd

www.cbac.co.uk yn edrych yn dra gwahanol y flwyddyn nesaf.

Os oes gennych chi sylwadau ar ein gwefan fel y mae a

fyddai’n help i wneud yr un newydd mor ddefnyddiol â phosibl i

chi, rhowch wybod trwy adael adborth ar

www.cbac.co.uk/cysylltu

Rydym yn awyddus i gadw’r agwedd ymgynghorol ar ein

gwaith. Croesewir sylwadau gan athrawon a darlithwyr sydd

yn defnyddio ein manylebau a’n hadnoddau, o fyfyrwyr a

rhieni i randdeiliaid eraill gan gynnwys ymgynghorwyr addysg

a chyflogwyr.

Gareth Pierce, Prif Weithredwr

Arolwg barn athrawon – y dull ffurfiol

Cynhaliwyd arolwg gennym ar ddechrau 2011 er mwyn canfod

barn penaethiaid adran yng Nghymru a Lloegr am CBAC, a’u

gwahodd i awgrymu newidiadau.

Roedd un cwestiwn yn gofyn i’r ymatebwyr raddio’r

gwasanaethau maent yn eu defnyddio ar raddfa o 1 i 5.

Testun balchder oedd darllen bod bron pawb yn ystyried bod

gweinyddiaeth arholiadau CBAC naill ai’n wych neu’n dda a

bod gan 80% farn gyfuwch am y cyngor arbenigol a gynigiwyd

gan ein swyddogion pwnc, a’n gwefan. Mae defnydd ein siop

lyfrau ar-lein yn dal yn is na’r hyn roeddem yn ei obeithio, ond

roedd mwy yn ymwybodol o’r gwasanaeth nag yn arolwg

2009.

Gofynnwyd i benaethiaid adran pa ffactorau gafodd

ddylanwad ar eu dewis o gorff dyfarnu - sef CBAC ar gyfer y

rhan fwyaf o ymatebwyr. Yn nhrefn pwysigrwydd, roeddent yn

rhoi gwerth ar fanyleb oedd yn ysgogi, cefnogaeth bersonol dda

a dibynadwyedd. Er bod ffioedd arholi rhesymol yn dal i fod ar

Cynnwys

Tudalen

Cyflwyniad 2

Cyflwyno swyddogion pwnc CBAC 3

Newyddion 14 -19 4

Adnoddau digidol newydd rhad ac am ddim i athrawon 5

gwyddoniaeth a mathemateg

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 6

Adnoddau Addysgol a DPP Cymraeg a Chyfrwng 8

Cymraeg

CILT Cymru a GCaD 9

Disgyblion yn disgleirio – Gwobrau Safon Uwch ac 10

Arloesedd

Cysylltiadau defnyddiol 12

Bwletin 2011/12 - Gyda diolch i’r cyfranwyr: Gareth Pierce, Sally Melhuish, Mari Bradbury, Jo Johnson, Betsan Jones, Alison Doogan,

Andy Owen, Mike Ebbsworth, Arwel Jones, Alun Treharne, Pauline Crossley, Sandra Anstey, Brigid O’Regan, Hugh Lester, Ceri Thomas,

Claire Parry, Ceri James, Ian Morgan. Hefyd i’n cydweithwyr yn CBAC am ganiatâd i ddefnyddio eu lluniau ar y clawr.

Ffotograffwyr: Adam Duckworth, Geraint Todd, Mostyn Davies. Golygwyd gan: Dafydd Wyn. Dyluniwyd gan: CBAC.

2 bwletin

Cyflwyno swyddogion pwnc CBAC

Sally Melhuish, swyddog pwnc Saesneg

Astudiodd Sally Saesneg ac Astudiaethau Ewropeaidd ym

Mhrifysgol Cymru, Casnewydd cyn cwblhau ei chwrs TAR a

dysgu Saesneg yng Nghasnewydd a Chaerllion ac yna ym

Masaleg, lle’r oedd yn gyfrifol am Saesneg CA3 a CA5. Mae

Sally wedi gweithio i CBAC ers dros 10 mlynedd; yn ddiweddar

fel prif arholwr Saesneg ac ymgynghorydd rhan amser, cyn

ymuno’n llawn amser fel swyddog pwnc Saesneg TAG.

Mae Sally yn briod ac mae dau blentyn ganddi. Pan nad yw’n

cludo’r plant i wersi pêl-droed neu fale, mae’n hoffi treulio amser

yn yr awyr iach ac arbrofi yn y gegin, gan arbenigo mewn

cawl llysieuol.

Mari Bradbury, swyddog pwnc Celf a Dylunio

Cafodd Mari radd mewn Celfyddyd Gain o Gyfadran Celf

a Dylunio Caerdydd cyn dechrau ar yrfa yn y diwydiant

animeiddio. Bu’n gweithio i gwmnïoedd fel Siriol, Cartŵn Cymru,

Stuart Brookes a Hahn Film yng Nghymru, Llundain a Berlin.

Ar ôl gorffen cwrs TAR, bu Mari yn dysgu yn Ysgol Stanwell ac

Ysgol Gyfun y Bont-faen cyn derbyn swydd Pennaeth Adran

Celf a Thechnoleg yn Ysgol y Gadeirlan, Llandaf.

Yn CBAC, mae Mari yn gyfrifol am Gelf a Dylunio Lefel

Mynediad TGAU a TAG Diploma Lefel 3 a 4 Astudiaethau

Sylfaen (Celf a Dylunio). Mae’n un sydd eiriol yn frwd

dros addysg Celf a Dylunio ac wrth ei bodd yn cyfrannu i

ddarpariaeth a chefnogaeth CBAC. Mae Mari yn briod ac mae

ganddi ferch ddeg oed. Ymhlith ei diddordebau mae’n rhestru

peintio, garddio, darllen a theithio.

Jo Johnson, swyddog pwnc Y Cyfryngau, Celfyddydau

Creadigol a Drama

Wedi iddi raddio mewn Ffilm a Drama ym Mhrifysgol Reading,

dechreuodd Jo hyfforddi fel athrawes Saesneg a’r Cyfryngau yn

Athrofa Addysg Llundain. Dechreuodd ei gyrfa yng Ngholeg

Gogledd Dyfnaint; yna treuliodd 15 mlynedd yng Ngholeg

Caerwysg yn dysgu nifer o bynciau, gan gynnwys Cyfathrebu,

Saesneg, Astudio’r Cyfryngau ac Astudiaethau Ffilm, i bobl ifanc

16 -18 ac oedolion.

Dechreuodd Jo weithio i CBAC 10 mlynedd yn ôl fel cymedrolwr

ac yna fel arholwr. Bu’n aelod o Bwyllgorau Gwerthuso Papurau

Arholiad, cyflwynodd DPP ar gyfer Astudiaethau Ffilm safon

uwch a chyfrannu i ddatblygiad manylebau. Yn 2009, treuliodd

flwyddyn sabothol yn dysgu Saesneg fel Iaith Dramor yn

Barcelona. Yn ei hamser hamdden mae Jo yn ymlacio gyda

chymorth yoga; mae’n hoffi teithio a bwyta allan. Ac mae

wrth ei bodd gyda ffilm, yn enwedig Sinema’r Byd a Sinema

Prydeinig.

Betsan Jones, swyddog pwnc Mathemateg

Daw Betsan o Bentyrch a bu’n astudio mathemateg yng

Nghaerfaddon cyn dilyn cwrs TAR yn UWIC. Treuliodd 10

mlynedd yn dysgu mathemateg yn ei hen ysgol, Ysgol

Gyfun Llanhari, pedair o’r rhain fel pennaeth adran. Mae

Betsan wedi datblygu manylebau ar gyfer Pâr Cysylltiedig

Mathemateg TGAU, Llwybrau Mynediad a Sgiliau Gweithredol,

a chymwysterau TGCh.

Yn ddilynwr rygbi brwd ac yn gefnogwr i Glwb Rygbi Pentyrch,

mae Betsan wedi chwarae rygbi i Fyfyrwyr Cymru, cangen

Dwyrain Cymru yn ogystal â chael ei dewis ar gyfer sgwad

Cymru. Er iddi dreulio amser ar lawer o ddiddordebau o wau i

grochenwaith, daw ei phleser pennaf o chwilio am bethau i’w

gŵr, Eilir, eu gwneud. Ar hyn o bryd mae’n paratoi ar gyfer ei

ras hanner marathon gyntaf.

Andy Owen, swyddog pwnc Daearyddiaeth a Dyniaethau

TGAU

Astudiodd Andy Ddaearyddiaeth a Daeareg ym Mhrifysgol

Keele cyn dechrau ei yrfa mewn llywodraeth leol fel Swyddog

Tai. Oddi yno, bu’n gweithio’n hapus am 18 mlynedd fel

Pennaeth Daearyddiaeth mewn ysgol gyfun wledig, gan

ddysgu Daearyddiaeth a Datblygiad y Byd TGAU a Safon Uwch.

Mae gan Andy gryn ddiddordeb mewn creu adnoddau

addysgol, ac mae wedi ysgrifennu sawl llyfr ar gyfer cyfnodau

allweddol 1, 3, 4 a 5. Pan fydd wedi gorffen CA2 bydd y gyfres

yn gyfan. Gan nad yw ond newydd adael yr ystafell ddosbarth,

mae Andy wrth ei fodd yn gweithio gydag athrawon, boed

hynny mewn digwyddiad DPP neu wrth ymweld â chanolfan

newydd neu grŵp clwstwr. Mae’n dal ar dân ynglŷn ag addysg

daearyddiaeth ac mae’n cyfaddef ei fod yn tueddu dethol ei

wyliau gyda daearyddiaeth yn flaenllaw yn ei feddwl. Un o’i

hoff leoedd yw Gwlad yr Iâ.

Alison Doogan - swyddog pwnc Daearyddiaeth, Datblygiad y

Byd TAG a Dyniaethau Mynediad / Llwybrau

Astudiodd Alison ar gyfer ei gradd gyntaf yng Nghaergrawnt ac

yna radd Meistr yng Nghaerdydd mewn Datblygiad Addysg.

Dysgodd hanes a daearyddiaeth yn Nyfnaint cyn symud i

Gaerdydd i weithio i CEWC-Cymru. Bu’n Gymrawd Ymchwil

ym Mhrifysgol Caerdydd ac, yn ddiweddarach, yn Swyddog

Addysg i Oxfam Cymru. Roedd hyn yn golygu gweithio yng

Nghymru a’r tu hwnt, gan gynnwys Haiti a Gweriniaeth

Dominica.

Ar ôl cyfnod yn gweithio i’r Fagloriaeth Ryngwladol, ymunodd

Alison â CBAC ym mis Ionawr 2011. Mae Alison a’i gŵr yn byw

yng Nghaerdydd ac mae ganddynt ddau fab yn y brifysgol.

Pan fo amser yn caniatáu, mae’n hoffi ymweld â’i theulu yn

Nyfnaint ac Iwerddon, cerdded a threulio amser ar ei chwch.

bwletin 3

14 -19 Y Newyddion Diweddaraf

feysydd astudio yw ymddygiad troseddol, lluniad cymdeithasol

o drosedd, y system cyfiawnder troseddol a dadansoddi lleoliad

trosedd.

Gall y cymhwyster newydd cyffrous hwn gael ei gymryd ochr

yn ochr â Safon Uwch neu gymwysterau galwedigaethol fel

dewis annibynnol. Bydd yn apelio yn arbennig at fyfyrwyr sydd

â diddordeb mewn gyrfa mewn deddforfodaeth ac yn eistedd

yn gyfforddus ochr yn ochr â phynciau megis Safon Uwch

Cymdeithaseg, y Gyfraith a Seicoleg. Mae rhagor o wybodaeth

ar gael gan joanna.lewis@wjec.co.uk

Newidiadau i TGAU

Mae’r rheoleiddwyr – yr Adran Addysg a Sgiliau (DfES) yng

Nghymru ac Ofqual yn Lloegr – yn cynllunio diwygiadau i

arholiadau TGAU: symud at asesiadau llinol a chryfhau sillafu,

atalnodi a gramadeg.

Llwybrau dysgu CBAC

Mae Llwybrau Mynediad wedi codi, fel ffenics, o gymwysterau

uchel-eu-parch Lefel Mynediad CBAC. Bydd y cyrsiau newydd

yn fwy hyblyg ac ni fydd ganddynt arholiadau wedi eu

hamserlennu na thasgau gosod. Ni fydd CBAC yn gosod

asesiadau bellach; yn lle hynny byddwn yn darparu deunydd

enghreifftiol fydd yn cynnig arweiniad i ganolfannau, gan

roi cyfle i athrawon fod yn fwy creadigol wrth ddefnyddio

amrywiaeth o asesiadau, i annog myfyrwyr i gyrraedd eu

targedau dysgu.

Ar hyn o bryd mae’r cymwysterau yn ymestyn dros dri ar ddeg

o feysydd, gan gynnwys Celfyddydau Creadigol, Cyfryngau a

Pherfformio, Byw’n Annibynnol, Dyniaethau a Gwyddoniaeth

Heddiw. Rhennir pob cymhwyster yn unedau ar lefelau a

gwerth credydau gwahanol.

Mae teitlau cymwysterau – er enghraifft Cymhwyster Lefel

2 mewn Datblygiad Personol a Chymdeithasol – yn nodi eu

lefel (cymhlethdod a dyfnder y dysgu), maint (swm y dysgu)

a chynnwys. Ceir ystod eang o ddewisiadau oddi mewn i bob

cymhwyster, gan adael i athrawon benderfynu pa unedau a

lefelau sydd orau ar gyfer eu myfyrwyr a pha bryd i gynnig eu

henwau ar gyfer ardystio (yng nghyfres cymedroli Ionawr neu

Fehefin) gan eu galluogi i weithio yn ôl eu cyflymder eu hunain,

a bancio unrhyw gredydau a enillir.

Gellir cael gwybodaeth bellach am Lwybrau Mynediad, gan

gynnwys manylebau, ar www.cbac.co.uk/llwybraumynediad

Ar gyfer y cyrsiau fydd yn dechrau ym mis Medi 2012, bydd

pob arholiad yn cael ei sefyll ar ddiwedd y cwrs ac ni fydd

yn bosibl bellach ailsefyll unedau. Yn ogystal â hyn, o fis

Medi 2012 rhoddir marciau ychwanegol am sillafu, atalnodi

a gramadeg cywir yn llenyddiaeth Saesneg, daearyddiaeth,

hanes ac astudiaethau crefyddol.

Mae’r rheoleiddwyr wedi ymrwymo i ymgynghori ar y

newidiadau hyn yn ystod hanner cyntaf tymor yr hydref. Yna

byddant yn adolygu’r adwaith i’r ymgynghoriadau ac yn

cyhoeddi manylion y newidiadau erbyn diwedd 2011.

Datblygiad Proffesiynol Parhaus

Unwaith eto eleni bydd CBAC yn cynnig cwrs llawn o

ddigwyddiadau DPP ar gyfer athrawon mewn amryw leoliadau

ar draws Cymru a Lloegr.

I ategu’r ddarpariaeth hon, rydym yn dal i ystyried dulliau o

ddefnyddio cyfryngau electronig i ddarparu’r hyfforddiant. Mae

fideos byrion ar agweddau allweddol o Saesneg Gweithredol

ar gael eisoes ar ein gwefan; bydd deunydd tebyg mewn rhai

pynciau eraill ar gael yn yr hydref ac mae podlediadau pwncbenodol

yn cael eu datblygu hefyd.

Gall athrawon sy’n dymuno derbyn gwybodaeth am adnoddau

newydd a diweddariadau eraill perthnasol wneud cais i

dderbyn diweddariadau trwy e-bost trwy dudalennau pwnc

ar wefan CBAC, a gellir cael manylion am y cyrsiau datblygu

proffesiynol hefyd ar www.cbac.co.uk/dpp

Ar lefelau 3 a 4, mae Diploma Astudiaethau Sylfaen (Celf a

Dylunio) CBAC yn profi’n bwnc poblogaidd iawn mewn ysgolion

a cholegau ledled Cymru a Lloegr, ers ei gyflwyno ym mis Medi

2010.

Gellir mynd i’r afael â’r fanyleb dros gyfnod o flwyddyn yn

llawn amser neu’n rhan amser dros ddwy flynedd a chaiff

cyraeddiadau’r garfan gyntaf eu dathlu mewn arddangosfa

gelf a seremoni gyflwyno yn oriel gelf Howard Gardens yn Ysgol

Celf a Dylunio Caerdydd ym mis Tachwedd 2011. Mae rhagor o

fanylion ar gael yn www.cbac.co.uk/celfadylunio

Erbyn hyn mae cymhwyster lefel 3 newydd Troseddeg CBAC

wedi cael ei achredu, ar gyfer addysgu o fis Medi 2012. Y prif

Mari Bradbury, swyddog pwnc Celf a Dylunio CBAC, mewn arddangosfa diwedd

blwyddyn o waith myfyrwyr Coleg Sir Gâr, Sir Gaerfyrddin

4 bwletin

Adnoddau digidol newydd rhad ac am ddim

i athrawon gwyddoniaeth a mathemateg

Rhyngweithio gyda Gwyddoniaeth TGAU

Bu Adran Ddatblygu Adnoddau Addysgol CBAC yn brysur iawn

yn datblygu adnoddau i gefnogi’r manylebau newydd ar gyfer

addysgu Gwyddoniaeth TGAU o fis Medi 2011.

Mae’r tasgau sydd ar gael yn cynnwys:

• chwilio am gwestiynau sy’n cynnwys gair allweddol penodol

trwy ddefnyddio rhyngwyneb dwyieithog neu uniaith

• gweld y cynllun marcio ar gyfer y cwestiwn a ddewiswyd

• gweld sylwadau’r arholwr am y cwestiwn a ddewiswyd

• copïo a gludo’r cwestiwn ac unrhyw waith graffeg

cysylltiedig i adnoddau dysgu personol yr athro.

I ddechrau bydd y banc cwestiynau ar CD ac ar gael i’w

ddosbarthu yn ystod mis Medi i holl ganolfannau CBAC, yn

dilyn y manylebau newydd ar gyfer Gwyddoniaeth TGAU.

Deunydd Asesu Enghreifftiol Rhyngweithiol ar gyfer

Mathemateg TGAU

Enghraifft o adnodd Bioleg rhyngweithiol

Mae’r adnoddau newydd yn cynnwys cyflwyniadau llawn

gweithgareddau rhyngweithiol ac animeiddiadau i helpu i

ddysgu cysyniadau anodd mewn Bioleg, Cemeg a Ffiseg. Mae

athrawon yn gyfarwydd â’r meddalwedd a ddewiswyd a

bydd yn eu galluogi i integreiddio’r adnoddau newydd gyda’r

nodiadau sydd eisoes yn bodoli. Mae llawer o’r adnoddau

newydd hyn ar gael yn awr i’w lawrlwytho o’n gwefan

(www.cbac.co.uk/adnoddaugwyddoniaethtgau), ac mae

llawer mwy i ddod.

Banc cwestiynau gwyddoniaeth

At hyn, cefnogir manylebau Gwyddoniaeth TGAU gan fanc

cwestiynau newydd, sydd yn rhoi’r cyfle i athrawon gyflawni

sawl tasg.

Amcan adnodd arloesol arall, ar ffurf cyflwyniad PowerPoint,

yw cefnogi athrawon Mathemateg trwy helpu i wella

dealltwriaeth myfyrwyr wrth ateb cwestiynau safonol TGAU.

Yn y cyflwyniad ceir dros 400 o sleidiau a 73 cwestiwn ar lefel

sylfaenol ac uwch. Mae tri dewis gyda phob cwestiwn, a gellir

eu dethol yn unigol:

1. Gweithio trwy’r ateb (√), a derbyn sylwadau’r arholwr

2. Gweld amcan yr asesiad (AA) ar gyfer cwestiwn penodol

3. Gweld y cynllun marcio (CM) ar gyfer y cwestiwn penodol

hwnnw

Mae’r adnodd hwn yn ffurfio rhan o Ganllaw i Athrawon TGAU

Mathemateg Llinol a gellir ei lawrlwytho o dudalen pwnc

Mathemateg TGAU www.cbac.co.uk/mathemategtgau

Gweithio gyda chanolfannau

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gydag athrawon mewn

nifer o ganolfannau i ddatblygu adnoddau i gefnogi myfyrwyr

Safon Uwch, gan gynnwys adnodd i helpu myfyrwyr i adolygu

ar gyfer TAG Addysg Gorfforol ac adnoddau rhyngweithiol i

gefnogi TAG Bioleg.

Os hoffech chi gael gwybodaeth bellach ynglŷn â datblygu

adnoddau CBAC, cysylltwch â mike.ebbsworth@cbac.co.uk,

neu arwel.jones@cbac.co.uk

bwletin 5

Perfformwyr Ifanc Gorau

Cymru ar y Ffordd

Gwelwyd fan VW chwe sedd yn ymgyrch gyhoeddusrwydd

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru* eleni ond

roedd angen ychydig mwy o seddi ar gyfer aelodau Band

Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, y Côr, y criw Dawns, y

Gerddorfa a Theatr Cymru, i’w cludo i bellteroedd yn ystod haf

2011.

Bu’n rhaid cael saith cerbyd i gludo’r 300 aelod o CCIC i

ddeuddeg lleoliad i gyflwyno deunaw perfformiad cyhoeddus

– a’r cyfan mewn chwech wythnos fer. Rhyngddynt, teithiodd

y bobl ifanc dros 1,000 o filltiroedd – o Dŷ Ddewi yn Sir Benfro i

Gateshead yng ngogledd Lloegr.

Ond dechreuodd eu teithiau unigol mor bell yn ôl â Medi 2010

gyda’r darpar aelodau yn llenwi ffurflenni clyweliadau ar gyfer

un o’r grwpiau cenedlaethol eleni. Ers hynny, mae’r timoedd

clyweled wedi teithio ledled Cymru i ddewis a dethol rhai o

dalentau ifanc mwyaf addawol ein gwlad ym myd dawns,

cerddoriaeth, actio, cynllunio a thechneg theatr er mwyn

Perfformio i Gymru, yn llythrennol.

“Mae gan Gymru bobl ifainc anhygoel o alluog ac mae’r

cyfoeth hwn o dalent yn fy rhyfeddu ar bob gafael. Fesul

blwyddyn, mae’r safonau yn codi ac mae cystadleuaeth

frwd iawn i gael lle. Rhaid talu gwrogaeth i’r bobl ifanc, eu

hathrawon lleol, gwasanaethau cerdd, theatr a dawns lleol, a’u

hawdurdodau unedol am y gwaith caib a rhaw anhygoel sy’n

digwydd pob wythnos – mewn ysgolion, colegau, neuaddau

eglwysi, canolfannau ieuenctid a chymunedol, canolfannau

celfyddydau a theatrau ar hyd a lled Cymru. Hebddynt, ni

fyddai CCIC yn bodoli.”

Pauline Crossley, Prif Reolwr (Celfyddydau Ieuenctid)

Felly, o blith y cannoedd o bobl ifanc sydd yn gwneud cais bob

blwyddyn, beth sy’n rhaid ei wneud i fod yn aelod o CCIC?

Y nodweddion allweddol ar gyfer eu dewis ar gyfer un (neu

ragor) o’r grwpiau cenedlaethol yw gwaith caled, ymroddiad,

uchelgais ac awydd go iawn i gyflawni, ynghyd â dogn helaeth

o dalent a sgiliau. Yn ogystal â hyn, mae CCIC yn chwilio am

bobl sy’n hapus i fod yn rhan o dîm, a fydd yn gweithio ar

y cyd i gyrraedd y nod ac yn dangos balchder yn eu cydgyrhaeddiad.

Yn bennaf, mae’n chwilio am fwy na’r ‘Waw

ffactor’ ond, fel y mae Pauline yn cydnabod… “mae lle bob

amser ar gyfer yr un person bach hwnnw sydd â rhywbeth

arbennig i’w roi, y cynhwysyn cudd a fyddai’n ychwanegu

at flas y grŵp. Byddem yn falch o fuddsoddi yn hwnnw neu

honno, person ifanc a fyddai’n elwa o holl brofiad CCIC.”

Nid ar chwarae bach mae wynebu diwrnod ym mywyd

aelod o CCIC. Mae diwrnod ymarfer ar gyfer pob un o’r

6 bwletin

fel Cyfarwyddwr Artistig Dawns Genedlaethol Ieuenctid

Cymru; a chyn-aelodau Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid

Cymru, Karl Jenkins, John Cale ac Eos Chater (a ddaeth i

enwogrwydd diolch i Bond). Ymhlith alumni y Theatr Ieuenctid

ceir cynrychiolwyr ym myd y theatr, ffilm a theledu megis Rob

Brydon, Ruth Jones, Michael Sheen a Matthew Rhys, Eve Myles,

a’r awdur Russell T Davies.

Yn 2011, roedd dros 900 o bobl ifanc wedi gwneud cais i ymuno

ag un o’r grwpiau, yn cynrychioli pob un o’r 22 awdurdod

unedol yng Nghymru a dim llai na 200 ysgol a choleg o bob

rhan o Gymru. Cyn hir bydd CCIC yn recriwtio ar gyfer 2012

a byddem wrth ein bodd yn gweld ceisiadau o bob ysgol

uwchradd a choleg! Byddwn yn dosbarthu gwybodaeth a

ffurflenni cais - ym myd dawns, cerdd a theatr - ledled Cymru

ar gyfer clyweliadau i’w cynnal rhwng Hydref ’11 a Mawrth ’12;

gellir eu lawrlwytho hefyd o www.cbac.co.uk/ccic. Os hoffech

i bobl ifanc ‘Berfformio i Gymru’ ewch ati i’w hannog i gwblhau

ffurflen gais neu i gael sgwrs gyda ni ar ‘Perform for Wales’

(029 2026 5060; nyaw@nyaw.co.uk).

grwpiau yn dechrau am 9am ac yn dod i ben tua 9pm; pan fo

perfformiadau, mae’n bosib na fyddant yn gorffen tan 10pm!

Ceir cyfuniad o ddosbarthiadau techneg ac ymarferion yn

ddyddiol, ynghyd â sesiynau i grwpiau ac unigolion (ac, yn

achos y cwmnïoedd dawns a theatr, gwaith byrfyfyr a chreu

deunydd newydd ar gyfer y cynyrchiadau).

Mae CCIC yn cadw llygad barcud ar gyn-aelodau sydd

yn mwynhau gyrfaoedd llwyddiannus yn niwydiannau

proffesiynol y celfyddydau perfformio. Mae’r rhain yn

cynnwys: Tim Rhys-Evans o Only Men Aloud, Bryn Terfel

a Katherine Jenkins a fu’n aelodau o Gôr Cenedlaethol

Ieuenctid Cymru; Henri Oguike, y coreograffydd a fu’n aelod

o Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru ac a ddychwelodd

Mae cynlluniau artistig cyffrous ar y gweill ar gyfer CCIC 2012 a

cheir y manylion ar ein gwefan – felly, cadwch lygad arnom a

sicrhau nad yw eich disgyblion yn colli’r cyfle.

* CCIC: sef Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, y Côr, y

criw Dawns, Jazz, y Gerddorfa a Theatr, a Cherddorfa Chwyth

Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Partneriaeth ydyw rhwng CBAC

a Tŷ Cerdd, ac mae’n gweithio gyda Chyngor Celfyddydau

Cymru (CCC) a’r 22 awdurdod unedol a chyllidwyr eraill i

gynnal ei rhaglen flynyddol o weithgarwch a digwyddiadau.

Suzanne Firth – Cydlynydd Datblygu Dawns

Ymunodd Suzie â thîm Celfyddydau Ieuenctid CBAC

eleni, gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu rhaglen Dawns

Ieuenctid Cymru. Artist dawns ar ei liwt ei hun o Fangor

yw Suzie Firth. Perfformiodd gyda nifer o gwmnïau, yn

eu plith Protein Dance Company a Charlotte Vincent

Dance Company, yn ogystal â Bombastic, Music

Theatre Wales, Earthfall Dance Company a Chwmni

Dawns Cenedlaethol Cymru (o dan ei hen enw sef

Diversions – Cwmni Dawns Cymru). Gweithiodd Suzie

gyda Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

(CCIC) ers 2006, yn fwyaf diweddar gyda ThCIC 2011 fel

Cyfarwyddwr Cyswllt – Symudiad.

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn cyflwyno Patagonia - Yr Hirdaith

bwletin 7

Adnoddau Addysgol a Datblygiad Proffesiynol

Parhaus Cymraeg a Chyfrwng Cymraeg

Nia Jones, Ysgol y Wern, Llanisien, Caerdydd, yn hyrwyddo arfer da wrth ddefnyddio

Mewn Geiriau Eraill: Thesawrws i Blant, trwy gyfrwng fideo datblygiad proffesiynol.

Yn ogystal â darparu adnoddau a datblygiad proffesiynol o’r

safon uchaf i gefnogi manylebau TAG a TGAU mae CBAC hefyd

yn:

• datblygu ystod eang o ddeunyddiau dosbarth Cymraeg ar

gyfer y Cyfnod Sylfaen a Chyfnodau Allweddol 2 a 3;

(ar gael trwy lyfrwerthwyr lleol neu Siop CBAC, ac yn achos

adnoddau digidol, ar wefan GCaD Cymru)

• darparu rhaglenni datblygiad proffesiynol cyfoethog i

hyrwyddo’r Gymraeg ac addysgu cyfrwng Cymraeg.

Mae’r rhaglenni cyfredol yn rhoi sylw i hyrwyddo llythrennedd

a rhifedd ar draws y cwricwlwm, yn unol â blaenoriaethau

Llywodraeth Cymru.

Ehangu geirfa dysgwyr Cyfnod Allweddol 2

Bydd Mewn Geiriau Eraill: Thesawrws i Blant (D. Geraint

Lewis; Gomer), a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn gymorth

gwerthfawr i ddysgwyr ddatblygu diddordeb mewn geiriau ac

yn hybu ysgrifennu hyderus. Mae’r adnodd apelgar hwn wedi’i

strwythuro’n ofalus gan gynnwys brawddegau enghreifftiol ar

gyfer pob gair, ac mae fideo datblygiad proffesiynol ar wefan

GCaD Cymru yn enghreifftio arfer da wrth ei ddefnyddio.

Cefnogaeth gynhwysfawr ar gyfer TGAU Gwyddoniaeth

Mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Hodder Education

blaenoriaethwyd datblygu cronfa o adnoddau i gefnogi

cyflwyno manyleb newydd TGAU Gwyddoniaeth o fis Medi

2011. Bydd y ddarpariaeth yn cynnwys, yn Gymraeg ac yn

Saesneg:

• Gwerslyfr TGAU Gwyddoniaeth

• Gwerslyfr TGAU Gwyddoniaeth Ychwanegol

• Canllawiau adolygu Bioleg, Cemeg a Ffiseg

• Adnoddau athrawon digidol ar wefan CBAC (datblygir gan

CBAC).

Partneriaethau

Mae rhaglenni DPP ac adnoddau addysgol CBAC

yn cydweithio â rhwydwaith eang o bartneriaid ac

asiantaethau, yn cynnwys:

• Adran Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru

• athrawon cynradd ac uwchradd

• awdurdodau lleol Cymru

• awduron, cyfieithwyr ac asiantaethau cyhoeddi

• Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor

• CILT Cymru

• CYDAG (Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg)

• Cyngor Llyfrau Cymru

• Estyn

• GCaD Cymru

• sefydliadau hyfforddiant cychwynnol athrawon

• Y Cynllun Sabothol Cenedlaethol

• Yr Urdd

Pecynnau hyfforddi

Paratoir pecynnau hyfforddi yn unol â blaenoriaethau

Llywodraeth Cymru. Cyhoeddir yr adnoddau datblygiad

proffesiynol aml-gyfrwng hyn ar ffurf print i’w dosbarthu’n

rhad ac am ddim i ysgolion trwy’r awdurdodau lleol ac, yn

gynyddol, ar-lein mewn partneriaeth â GCaD Cymru. Ymhlith

blaenoriaethau cyfredol y mae adnoddau’n ymdrin â datblygu’r

Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a chodi safonau

llythrennedd.

Cyrsiau/Digwyddiadau hyfforddi

Mae Rhaglenni Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) y

Gymraeg a Chyfrwng Cymraeg CBAC yn cynnal cofrestr

o hyfforddwyr sy’n cynnig rhychwant eang o arbenigedd.

Darperir oddeutu 100 o ddigwyddiadau hyfforddi ym mhob

rhan o Gymru ar ran yr awdurdodau lleol yn flynyddol.

Cynadleddau cenedlaethol

Cynhelir pump o gynadleddau hyfforddi cenedlaethol yn

flynyddol. Yn ogystal â chynnig cyfle i athrawon Cymru rannu

arferion da a rhwydweithio, mae’r cynadleddau’n gyfle i

fynychu sesiynau hyfforddi a ddarperir gan ymarferwyr bydenwog

megis Dylan Wiliam ac Alistair Smith.

Am ragor o fanylion:

Alun Treharne, Adnoddau addysgol Cymraeg a Chyfrwng

Cymraeg: alun.treharne@cbac.co.uk

Richard Roberts, Datblygiad Proffesiynol Parhaus Cymraeg a

Chyfrwng Cymraeg Richard.roberts@cbac.co.uk

Cyhoeddir argraffiad Cymraeg o’r gwerslyfr hwn hefyd

8 bwletin

CILT Cymru yn parhau i gefnogi Ieithoedd

Tramor Modern o’i gartref newydd yn CBAC

ysgolion cynradd hynny sydd yn darparu gwersi Ieithoedd

Tramor Modern.

Mae CILT Cymru nawr wedi ymgartrefu yn swyddfeydd

newydd CBAC, ac yn gweithio ar sawl menter newydd a

chyffrous. Er mwyn ehangu apêl ieithoedd i gynulleidfa

ehangach, mae CILT Cymru yn brysur yn hyrwyddo ei gynllun

CGC/NVQ newydd, sydd wedi cael ei beilota yn llwyddiannus

mewn 42 o ysgolion, ac mae’n llwyddo i ysgogi ymgeiswyr.

Mae’r cynllun ar gael ar gyfer Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg ac

Eidaleg.

Yn gysylltiedig â’r cynllun CGC, ond hefyd yn cael ei weithredu

yn annibynnol, mae cynllun Pencampwyr Ieithoedd Busnes

(PIB) yn mynd o nerth i nerth, a bydd CILT Cymru yn dathlu

Gwobrau PIB cyntaf yn Hydref 2011. Mae’n galonogol clywed

uwch-weithredwyr busnesau yn cadarnhau’r safbwynt fod

sgiliau Ieithoedd Tramor Modern (ITM) yn hanfodol i fod yn

gystadleuol a chael llwyddiant wrth allforio.

Erbyn 2012, bydd gan y sawl sydd yn ymwneud â

chymhwyster Bagloriaeth Cymru, yr opsiwn i gynnwys

modiwlau achrededig Ieithoedd Tramor Modern o fewn

‘Cymru, Ewrop a’r Byd’. Mae CILT Cymru yn cydweithio â

CBAC i ddatblygu manylebau ar gyfer y modiwlau hyn, a

fydd yn caniatáu i ystod eang o ieithoedd gael eu cynnig

mewn ysgolion a cholegau, yn cynnwys ieithoedd sy’n cael eu

haddysgu yn llai aml, er enghraifft Mandarin Tsieinëeg.

I gloi, mae’r cynllun ’Llwybrau at Ieithoedd Cymru‘ a ariennir

gan HEFCW (Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru) yn mynd

ymlaen yn dda, yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth

i annog pobl i fanc i barhau i ddysgu ieithoedd hyd eu

cyfnod mewn prifysgol ac ymhellach. Am wybodaeth am y

digwyddiadau a’r mentrau hyn i gyd, ewch i,

www.ciltcymru.org.uk

Trwy ei gynllun Cytundeb, bydd CILT Cymru yn gweithio â

swyddogion AALl ac athrawon yn Wrecsam, Blaenau Gwent, Sir

Fynwy a Phowys yn ogystal â pharhau i gefnogi AALl eraill yng

Nghymru. Y nod fydd gwella safonau llythrennedd drwy Fenter

Llythrennedd Triphlyg, a darparu gwell cyngor proffesiynol,

cefnogaeth a DPP. Bydd CILT Cymru hefyd yn parhau i gefnogi’r

Mae GCaD Cymru yn dal i ddatblygu adnoddau ar draws pob

pwnc ac ystod oedran ac yn ddiweddar maent wedi cwblhau

adnoddau i gefnogi rhychwant o Fanylebau CBAC. Maent yn

cynnwys Dylunio a Thechnoleg (TGAU), Cerddoriaeth (TGAU),

Gwyddoniaeth (TGAU a Safon Uwch), Mathemateg (Safon

Uwch), Daearyddiaeth (Safon Uwch), Hamdden, Teithio a

Thwristiaeth (Safon Uwch). Mae’r pecyn adnoddau yn hyrwyddo

sgiliau meddwl ac yn cynnwys ystod o weithgareddau ar-lein,

dogfennau, animeiddiadau, fideos a nodiadau.

Mae’r adnoddau Dylunio a Thechnoleg diweddaraf yn adeiladu

ar unedau gwaith blaenorol ac yn cynnwys bwyd a thecstilau.

Mae’r adnoddau Gwyddoniaeth yn cynnwys tair uned waith ar

themâu Grymoedd, Mudiant a Biocemeg, o Gyfnod Allweddol

3 hyd at Gyfnod Allweddol 5. Mae’r pecyn Mathemateg yn

cynnwys ystod o offer rhyngweithiol, fideos a chwestiynau sydd

yn ymwneud â Geometreg Gyfesurynnol , Calcwlws, Algebra a

Thrigonometreg.

Mae’r adnoddau Teithio a Thwristiaeth yn canolbwyntio

ar Iechyd a Diogelwch o fewn diwydiannau Lletygarwch,

Teithio a Thwristiaeth ac yn cynnwys agweddau o iechyd

a diogelwch oddi mewn i nifer o achosion astudiaeth mewn

sefydliadau gwahanol, gan gynnwys Gwesty’r Copthorne

Caerdydd, Big Pit ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Gorffennwyd adnoddau i gefnogi Unedau 1 a 2 manyleb

Daearyddiaeth a gellir eu cael ar wefan GCaD yn y ddwy

iaith. Rydym yn gweithio ar adnoddau fydd yn cefnogi’r

pedair thema oddi mewn i fanyleb uned Cynaliadwyedd;

mae unedau Bwyd a Dŵr bron yn barod a bydd unedau ar

Ddinasoedd ac Ynni ar gael cyn hir.

Gellir cael gafael ar GCaD Cymru ar www.gcad-cymru.org.uk

bwletin 9

Disgyblion yn disgleirio

CBAC yn dathlu llwyddiant myfyrwyr o bob

cwr o Gymru a Lloegr

Myfyriwr y Flwyddyn

Joshua Bough, cyn-fyfyriwr o Ysgol Crughywel, gafodd y

marc uchaf o blith yr holl fyfyrwyr oedd yn sefyll pedwar

arholiad Safon Uwch CBAC. Yn ogystal â chael gradd A* mewn

Mathemateg, Mathemateg Bellach, Cemeg a Ffiseg, llwyddodd

Joshua hefyd i gynnal clwb mathemateg ar ôl ysgol i’w

gyfoedion, i weithio fel gwirfoddolwr i Ymddiriedolaeth Bywyd

Gwyllt Bannau Brycheiniog, i dderbyn gwersi ffensio a gweithio

gyda’i grŵp sgowtiaid lleol.

Derbyniodd Joshua ei dystysgrif a gwobr o £250 oddi wrth

Brif Weinidog Cymru, Y Gwir Anrh Carwyn Jones AC, mewn

seremoni a gynhaliwyd yn adeilad newydd CBAC 16 Rhagfyr

2010.

Myfyrwyr y Flwyddyn, Bagloriaeth Cymru

Lori Fitchett o Ysgol Gyfun Bryn Hafren ddaeth i’r brig yn y Lefel

Uwch. Dewisodd Lori wneud gwaith cadwraeth yn Ecuador

ar gyfer ei modiwl Cyfranogi yn y Gymuned ac, o ganlyniad,

cafodd ei henwebu fel ‘Gwirfoddolwr y Flwyddyn, Bro

Morgannwg’. Bu’n rhan o brosiect gan Oxfam oedd yn cefnogi

menywod Senegal a bu’n trefnu basgedi bwyd i’r henoed adeg

y Nadolig. Dywedodd Lori bod Bagloriaeth Cymru wedi “rhoi

cyfle imi ddysgu sgiliau newydd… fel gwasanaethu’r gymuned

a phrofiad gwaith.”

Stacey Donnelly o Ysgol Gyfun Treorci ddaeth yn gyntaf yn y

Lefel Ganolradd. Cafodd Stacey gydnabyddiaeth am ei gwaith

caled a’i hymrwymiad: bu’n gwneud profiad gwaith mewn

meithrinfa cyn-ysgol leol a dangosodd fentergarwch trwy

gynnig gwneud gwaith gwirfoddol mewn ysgol feithrin arall

leol ac ysgol gynradd er mwyn cael mwy o brofiad. Tynnodd

ei hathrawes sylw at y cynnydd yn hyder Stacey, diolch i gwrs

Cymhwyster Bagloriaeth Cymru a fu’n gymorth iddi ddatblygu

fel unigolyn.

Noel Facey o Goleg y Barri enillodd y categori Lefel Sylfaenol.

Llwyddodd i gynnal presenoldeb 100% yn ystod ei gwrs a

chyflwynodd ymchwiliad ar oryfed mewn pyliau - cyflwyniad a

ddisgrifiwyd fel “gwaith o’r radd flaenaf” gan ei athro. Gwnaeth

gyfraniad ardderchog wrth gynrychioli ei goleg fel rhan o’r ‘Her

Entrepreneuraidd’ a dywedodd “Rwyf wedi mwynhau’r ystod

eang o gyfleoedd i astudio a gynigir gan Fagloriaeth Cymru

ac mae fy nhiwtor wedi gofyn imi gynghori’r myfyrwyr Sylfaen

eleni.”

Cafodd Eleanor Davies o Goleg Iâl a Nathan Lawson o Goleg

Sir Gâr ganmoliaeth uchel am eu gwaith ar Ddiploma Uwch

Bagloriaeth Cymru.

Gwobrau Pwnc Safon Uwch – rhestr gyflawn

Addysg Gorfforol Sian Chapman

Ysgol Gyfun Trefynwy

Almaeneg cyd-fuddugwyr: Antonia Blumenstock, Ysgol

Frensham Heights swydd Surrey a Lukas Fischer-Wulf,

Coleg Crist

Joshua Bough, enillydd gwobr myfyriwr y flwyddyn gyda Cadeirydd Bwrdd CBAC, y

Cynghorydd Anthony Hampton.

Astudiaethau Busnes Alistair Markland

Ysgol Friars, Bangor

Astudiaethau Crefyddol Hannah Campbell

Ysgol St Julian, Casnewydd

Astudio’r Cyfryngau Rebecca Impey

Coleg Sheffield

Astudiaethau Ffilm Rebecca Beesley

Coleg Aquinas, swydd Gaer

Busnes Cymhwysol (Dwbl) Adam Lewis

Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman

Busnes Cymhwysol (Sengl) Nicholas Gale

Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Caerdydd

Bioleg Lauren Misquita

Ysgol Merched Tiffin, swydd Surrey

Celf a Dylunio Mark Butler

Ysgol Gyfun Glyn Ebwy

Cemeg Grant Sigiura

Coleg Chweched Dosbarth, Caerdydd

Cerddoriaeth Piers Kennedy

Ysgol Howell’s, Caerdydd

Cyfrifiaduro Michael Hosseini

Ysgol Kings Monkton, Caerdydd

Cymdeithaseg Emily Peters

Ysgol Esgob Gore, Abertawe

Cymraeg Ail Iaith Caroline Hagg

Ysgol Gyfun Trefynwy

Cymraeg Iaith Gyntaf Jessica Rumble

Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa, Llanelli

Daeareg Nicholas Boseley

Ysgol King Charles I High, Kidderminster

Daearyddiaeth Charlotte Lamnea

Coleg Gŵyr Abertawe

Datblygiad y Byd Charles Freeman

Ysgol Ramadeg Ramsay, Ynys Manaw

Drama ac Astudiaethau Theatr Annabeth Murphy-Thomas

Ysgol Tring Park ar gyfer y Celfyddydau Perfformio,

swydd Hertford

Dylunio a Thechnoleg Catriona Flint

Coleg Eastbourne

Economeg Yanisa Chuchotthavorn

Coleg D’Overbroeck, Rhydychen

Electroneg Daniel Barnes

Ysgol Caerwysg

Ffiseg Bryant Yi-Hun Tan

Ysgol St Paul, Llundain

Calvin Kwok o Ysgol Trefynwy enillodd yng nghategori lefel

UG y Gwobrau Arloesedd gyda’i hambwrdd rholio

10 bwletin

Enillydd Bagloriaeth Cymru, Lefel Uwch (Cymeradwyaeth

Uchel) Eleanor Davies, Coleg Iâl a Nathan Lawson, Coleg Sir Gâr

Gwobrau Arloesedd

Mae’r Arddangosfa Arloesedd yn dathlu rhai o gynllunwyr ifanc

mwyaf talentog Cymru. Yn ddigwyddiad blynyddol, mae CBAC

yn ei drefnu ar y cyd ag Adran yr Economi a Thrafnidiaeth

Llywodraeth Cymru i gydnabod ac arddangos creadigrwydd a

dychymyg pobl ifanc yn ysgolion a cholegau Cymru.

Arddangoswyd 80 darn o waith, wedi eu dethol o blith 15,000

prosiect dylunio a thechnoleg a gyflwynwyd gan fyfyrwyr

TGAU, UG a Safon Uwch CBAC dros Gymru gyfan, a hynny yn

Stadiwm Swalec, Gerddi Soffia, Caerdydd. Prif Weinidog Cymru,

Y Gwir Anrh Carwyn Jones AC a gyflwynodd y gwobrau.

Bleddyn Môn, enillydd y Wobr Arloesedd Safon Uwch, gyda Mrs Ceren Mutembo Jones o

Ysgol Syr Thomas Jones a’r Prif Weinidog, Y Gwir Anrh Carwyn Jones AC yn y Gwobrau Arloesedd

Ffrangeg Rhiannon Fuller

Ysgol St Margaret, Caerwysg

Gwyddoniaeth Gymhwysol (Sengl) Heulwen Evans

Ysgol y Preseli, swydd Penfro

Hanes Thomas Williams

Ysgol Gyfun Trefynwy

Iaith a Llenyddiaeth Saesneg Lorna Oakley

Ysgol Gyfun Porthcawl

Iaith Saesneg George Bailey

Coleg Holy Cross, swydd Gaerhirfryn

Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Dwbl) Mari Sherrington

Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Dinbych

Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymhwysol (Sengl) Chloe Richards

Ysgol Penfro

Llenyddiaeth Saesneg buddugwyr ar y cyd: Alexandra Sutton,

Ysgol The Blue Coat Oldham; Simon Perfect, Coleg Priestley,

swydd Gaer; Jordan Waller, Ysgol Ramadeg Bryste;

Chandar Lal, Ysgol Ramadeg Reigate, Surrey

Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Laura Hunt

Ysgol Gyfun Croesyceiliog, Cwmbrân

Mathemateg Gwion ap Rhobat

Ysgol Gyfun Llangefni, Ynys Môn

Sbaeneg Alexander Rawlings

Ysgol Uwch Latymer, Llundain

Seicoleg Hannah Keogan

Ysgol Benton Park, Leeds

TGCh Gymhwysol (Dwbwl) Nathan Barton

Ysgol Beaconsfield, swydd Buckingham

TGCh Gymhwysol (Sengl) Alex Lee

Ysgol King Edward VI Aston, Birmingham

Teithio a Thwristiaeth Cymhwysol (Dwbl) Sophie Davies

Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman

TG Charlotte Maloney

Ysgol St Brigid, Dinbych

Y Gyfraith Rachael Chapman

Ysgol Gyfun Babyddol St Joseph, Tyne & Wear

Myfyriwr y Flwyddyn Joshua Bough

Ysgol Uwchradd Crughywel, Powys

Enillydd Bagloriaeth Cymru, Lefel Uwch Lori Fitchett

Ysgol Gyfun Bryn Hafren, Bro Morgannwg

Enillydd Bagloriaeth Cymru, Lefel Ganolradd Stacey Donnelly

Ysgol Gyfun Treorci

Enillydd Bagloriaeth Cymru, Lefel Sylfaenol Noel Facey

Coleg y Barri

Hwylio ymlaen

Enillydd Gwobr Arloesedd Safon Uwch ac enillydd y Brif Wobr

oedd Bleddyn Môn. Roedd ei Gwch Traeth Sy’n Efelychu Hwylio,

a gynlluniwyd er mwyn dysgu plant i hwylio tra’n aros ar dir

sych, wedi arwain iddo ennill £500 iddo’i hun, £300 i Ysgol Syr

Thomas Jones, Ynys Môn, Cwpan Beckley a Thlws Magnox

North.

Cnoi cil

Wedi iddo weithio ym mwyty ei deulu, aeth Calvin Kwok o

Ysgol Trefynwy ati i gynllunio Hambwrdd Rholio sydd yn selio

blychau cario-allan. Enillodd Calvin y categori UG, £250 iddo’i

hun a £150 i’w ysgol.

Meddwl am eraill

Matthew Harris enillodd gategori TGAU. Creodd flwch cyfrannu

electronig ac aeth ymlaen i ennill £250 iddo’i hun a £150 i Ysgol

Gyfun Porthcawl.

Gwobrau Arloesedd – y rhestr gyflawn

Safon Uwch

1af Bleddyn Môn, Ysgol Syr Thomas Jones, Ynys Môn

2ail William Elliott, Ysgol Y Bont-faen, Bro Morgannwg

3ydd cyd-enillwyr Samantha Nurse, Ysgol Bryn Hafren, Y Barri a

Robert Lloyd Hughes, Ysgol Rhiwabon, Wrecsam

UG

1af Calvin Kwok, Ysgol Trefynwy

2ail Robi Wood, Ysgol Uwchradd Y Trallwng

3ydd Erin Roche, Ysgol Uwchradd Fairwater

TGAU

1af Matthew Harris, Ysgol Gyfun Porthcawl

2ail James Allum, Ysgol David Hughes, Ynys Môn

3ydd Tom Warrington, Ysgol Rydal Penrhos, Bae Colwyn

Gwobr am Greadigrwydd

1af Cara Annwyl-Williams, Coleg Dewi Sant Llandudno

2ail Alex Blondek, Ysgol Uwchradd Penarlâg, Sir y Fflint

3ydd Aimee Sarracco-Jones, Ysgol Botwnnog, Pwllheli

Gwobr Swyddfa ED

Enillydd: Lee Wooding, Ysgol Uwchradd Glan Clwyd,

Sir Ddinbych

Gwobr CAD/CAM

Enillydd: Thomas Tsang, Ysgol Gyfun y Barri

Noddir yr Arddangosfa Arloesedd gan Magnox North; South

Wales Engineers; Sequence; Abel & Imray Patent a Trade Mark

Attorneys a Swyddfa Eiddo Deallusol y DU.

Daeth blwch cyfrannu electronig Matthew Harris i’r

brig yng nghategori TGAU y Gwobrau Arloesedd

bwletin 11

Manylion Cyswllt

Pynciau

Addysg Gorfforol Mike Neale 029 2026 5315 michael.neale@wjec.co.uk

Almaeneg (TAG) Karl Sage 029 2026 5124 karl.sage@wjec.co.uk

Almaeneg (TGAU) Rhian Morgan 029 2026 5045 rhian.morgan@cbac.co.uk

Astudiaethau Busnes Stephen Oliver 029 2026 5038 stephen.oliver@wjec.co.uk

Astudiaethau Crefyddol Tudor Thomas 029 2026 5122 tudor.thomas@cbac.co.uk

Astudiaethau Ffilm Jeremy Points 029 2026 5195 jeremy.points@wjec.co.uk

Astudio’r Cyfryngau (TAG) Jeremy Points 029 2026 5195 jeremy.points@wjec.co.uk

Astudio’r Cyfryngau (TGAU) Jo Johnson 029 2026 5091 jo.johnson@wjec.co.uk

Bagloriaeth Cymru Ross Thomas 029 2026 5320 ross.thomas@wjec.co.uk

a Caroline Morgan 029 2026 5319 caroline.morgan@wjec.co.uk

Bioleg (o Ionawr 2012) Liane Adams 029 2026 5126 bioleg@cbac.co.uk

Busnes Cymhwysol Allan Perry 029 2026 5311 allan.perry@wjec.co.uk

Celf a Dylunio Mari Bradbury 029 2026 5138 mari.bradbury@wjec.co.uk

Celfyddydau Perfformio Elaine Carlile 029 2026 5316 elaine.carlile@wjec.co.uk

Cemeg Jonathan Owen 029 2026 5057 jonathan.owen@cbac.co.uk

Cerddoriaeth Elaine Carlile 029 2026 5316 elaine.carlile@wjec.co.uk

Cyfrifiaduro Allan Perry 029 2026 5311 allan.perry@wjec.co.uk

Cymdeithaseg Joanna Lewis 029 2026 5167 joanna.lewis@wjec.co.uk

Cymraeg Ail Iaith Siân Llewelyn 029 2026 5162 sian.llewelyn@cbac.co.uk

Cymraeg i Oedolion Dr Emyr Davies 029 2026 5009 emyr.davies@cbac.co.uk

Cymraeg Iaith Gyntaf Llinos Lloyd 029 2026 5004 llinos.lloyd@cbac.co.uk

Daeareg Jonathan Owen 029 2026 5057 jonathan.owen@wjec.co.uk

Daearyddiaeth (TAG) Alison Doogan 029 2026 5158 alison.doogan@wjec.co.uk

Daearyddiaeth (TGAU) Andy Owen 029 2026 5114 andrew.owen@wjec.co.uk

Datblygiad y Byd Alison Doogan 029 2026 5158 alison.doogan@wjec.co.uk

Drama (TAG) Jo Johnson 029 2026 5091 jo.johnson@wjec.co.uk

Drama (TGAU) Elaine Carlile 029 2026 5316 elaine.carlile@wjec.co.uk

Dylunio a Thechnoleg Steve Howells 029 2026 5017 steve.howells@wjec.co.uk

Dyniaethau (TGAU) Andy Owen 029 2026 5114 andrew.owen@wjec.co.uk

Dyniaethau (Lefel/Llwybrau Mynediad) Alison Doogan 029 2026 5158 alison.doogan@wjec.co.uk

TGCh Ian Carey 029 2026 5137 ian.carey@wjec.co.uk

Economeg Stephen Oliver 029 2026 5038 stephen.oliver@wjec.co.uk

Economeg y Cartref Allison Candy 029 2026 5093 allison.candy@wjec.co.uk

Electroneg Helen Francis 029 2026 5081 helen.francis@wjec.co.uk

Ffiseg Helen Francis 029 2026 5081 helen.francis@wjec.co.uk

Ffrangeg Rhian Morgan 029 20 265045 rhian.morgan@cbac.co.uk

Gwyddoniaeth Gymhwysol Brian Harris 029 2026 5147 brian.harris@wjec.co.uk

Gwyddoniaeth: gw Bioleg, Cemeg, Ffiseg

Hamdden a Thwristiaeth Mike Neale 029 2026 5315 michael.neale@wjec.co.uk

Hanes Phil Star 029 2026 5125 phil.star@wjec.co.uk

Iechyd a Gofal Cymdeithasol Karen Thomas 029 2026 5092 karen.thomas@wjec.co.uk

Lladin Alan Clague c/o Matt Oatley 029 2026 5054 latin@wjec.co.uk

Lletygarwch ac Arlwyo Allison Candy 029 2026 5093 allison.candy@wjec.co.uk

Llywodraeth a Gwleidyddiaeth (2011) Dr Alison George 029 2026 5302 alison.george@wjec.co.uk

Llywodraeth a Gwleidyddiaeth (2012) Elin Evans 029 2026 5302

Mathemateg (TAG/TGAU) John Williams 029 2026 5310 john.williams@cbac.co.uk

Mathemateg (LM/SG/peilot TGAU) Betsan Jones 029 2026 5318 betsan.jones@cbac.co.uk

Project/Prif Ddysgu Tessa Gabriel-Davies 029 2026 5191 tessa.gabriel-davies@wjec.co.uk

Saesneg Iaith/Llên/Iaith a Llên (TAG) Sally Melhuish 029 2026 5303 sally.melhuish@wjec.co.uk

Saesneg/Iaith/Llên (TGAU)) Nancy Hutt 029 2026 5023 nancy.hutt@wjec.co.uk

Saesneg (SG/LM) Kirsten Wilcock 029 2026 5074 kirsten.wilcock@wjec.co.uk

Sbaeneg Karl Sage 029 2026 5124 karl.sage@wjec.co.uk

Seicoleg (2011) Dr Alison George 029 2026 5302 alison.george@wjec.co.uk

Seicoleg (2012) Elin Evans 029 2026 5302

Sgiliau Hanfodol Cymru Bryan Davies 029 2026 5100 bryan.davies@wjec.co.uk

Sgiliau Gweithredol (TGCh) Betsan Jones 029 2026 5318 betsan.jones@wjec.co.uk

TGCh Ian Carey 029 2026 5137 ian.carey@wjec.co.uk

TGCh Cymhwysol Allan Perry 029 2026 5311 allan.perry@wjec.co.uk

Troseddeg Joanna Lewis 029 2026 5167 joanna.lewis@wjec.co.uk

Y Gyfraith Joanna Lewis 029 2026 5167 joanna.lewis@wjec.co.uk

GWEINYDDU A GWEITHREDU

Ymholiadau cyffredinol

arholiadau@cbac.co.uk

TAG UG/Safon Uwch Kieran McDonnell 029 2026 5148 / 149 / 034 alevel@wjec.co.uk

Lefel/Llwybrau Mynediad/Sgiliau Gweithredol/ Chris Quinn 029 2026 5128 / 180 entrylevel@wjec.co.uk

Lladin/ Mathemateg Ychwanegol

TGAU Nick Brooks 029 2026 5061 / 5133 / 5154 / 5304 gcse@wjec.co.uk

Bagloriaeth Cymru Julie Martin 029 2026 5186 julie.martin@wjec.co.uk

Cyfnod Allweddol 2/3 Margaret Franks 0800 056 2066 ks23unit@wjec.co.uk

Cofrestriadau Caroline McGlynn 029 2026 5193 entries@wjec.co.uk

Sgiliau Hanfodol Michelle Morgan 029 2026 5172 / 100 / 032 / 382 keyskills@wjec.co.uk

ADNODDAU ADDYSGOL A CHEFNOGAETH

Siop Lyfrau Caroline Redman 029 2026 5112 / 063 sioplyfrau@cbac.co.uk

GCaD Cymru Dafydd Watcyn Williams 029 2026 5177 info@gcad-cymru.org.uk

Saesneg yng Nghymru Alun Treharne 029 2026 5012 alun.treharne@cbac.co.uk

Adnoddau Addysgol cyfrwng Cymraeg Alun Treharne 029 2026 5012 alun.treharne@cbac.co.uk

Datblygu adnoddau addysgol Mike Ebbsworth 029 2026 5339 mike.ebbsworth@cbac.co.uk

Datblygiad proffesiynol (HMS) Elaine Chard 029 2026 5018 / 024 inset@wjec.co.uk

Datblygiad proffesiynol (HMS - cyfrwng Cymraeg) Richard Roberts 01824 702304 richard.roberts@cbac.co.uk

CELFYDDYDAU CENEDLAETHOL IEUENCTID CYMRU Pauline Crossley 029 2026 5060 pauline.crossley@wjec.co.uk

MARCHNATA A’R WASG Ceri Thomas 029 2026 5309 ceri.thomas@cbac.co.uk

YMHOLIADAU CYFFREDINOL Switsfwrdd CBAC 029 2026 5000 gwybodaeth@cbac.co.uk

CBAC, 245 Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd, CF5 2YX 029 2026 5000 www.cbac.co.uk

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!