12.07.2015 Views

LLYFRGELL GENEDLAETHOL CYMRU Cofnodion Cyfarfod o'r ...

LLYFRGELL GENEDLAETHOL CYMRU Cofnodion Cyfarfod o'r ...

LLYFRGELL GENEDLAETHOL CYMRU Cofnodion Cyfarfod o'r ...

SHOW MORE
SHOW LESS
• No tags were found...

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

LLYFRGELL GENEDLAETHOL CYMRUCofnodion Cyfarfod o’r Bwrdda gynhaliwyd yn y Llyfrgell Genedlaetholddydd Gwener, 13 Gorffennaf 2007Presennol:1) AelodauDr R Brinley Jones (Llywydd)Mr W J Phillips (Is-Lywydd)Athro Roger EarisMr David BarkerMr John WatkinDr W T Rees PryceMr Conrad Bryant (Trysorydd)Miss Gwerfyl Pierce JonesMr W Gwyn WilliamsMr David MeredithAthro Hazel Walford DaviesAthro Hywel Roberts2) Aelodau staffMr Andrew GreenMr Gwyn JenkinsMr Mark MainwaringDr Rhidian GriffithsPedr ap LlwydLlyfrgellyddCyfarwyddwr Adran Gwasanaethau CasgliadauCyfarwyddwr Adran Gwasanaethau CorfforaetholCyfarwyddwr Adran Gwasanaethau CyhoeddusPennaeth Gweinyddiaeth a Chlerc y Bwrdd3) EraillMrs Ann John (Llywodraeth y Cynulliad), Mr Stephen Benham (Cyngor Whitley)Sesiwn agored29/2007 Croeso’r LlywyddCroesawyd yr aelodau i’r cyfarfod a chyfeiriodd y Llywydd yn arbennig atabsenoldeb Mrs Joanna Davies a oedd newydd gael plentyn: fe’i llongyfarchwyd yngalonnog. Roedd yn hynod falch o weld cynifer o staff yn bresennol, ac yn enwedigMr Illtud Daniel a oedd am ddarparu hyfforddiant ar gyfer yr Ymddiriedolwyr.30/2007 Hyfforddiant i Ymddiriedolwyr – Strategaeth TechnolegGwybodaeth: cyflwyniad byr gan Illtud DanielCyflwynodd Illtud Daniel y Strategaeth ac ymatebodd i sylwadau a chwestiynau’raelodau. Diolchwyd iddo am ei gyflwyniad.31/2007 Gwobr Tîm y Gymdeithas Rheoli Cofnodion: cyflwynotystysgrifau i aelodau’r tîm cadwedigaeth ddigidol.Cyflwynodd y Llywydd dystysgrifau’r ‘Records Management Society’ (RMS TeamAward: ‘highly commended’) i aelodau’r tîm cadwedigaeth ddigidol, sef SallyMcInness, Paul Bevan, Manon Foster Evans a Glen Robson. Roedd y Llywydd agweddill aelodau’r Bwrdd yn falch iawn o’u llwyddiant a dwyn y fath glod i’rLlyfrgell.

32/2007 Absenoldebau32/2007/1 Gydag ymddiheuriadauYr Athro Emeritws Peter Morgan, Mrs Elspeth Mitcheson, Mrs Joanna Davies aMr David Michael.32/2007/2 Heb ymddiheuriadauNeb.33/2007 Datgan DiddordebauDim.34/2007 I dderbyn cofnodion cyfarfod y Bwrdd a gyfarfu ar 18 Mai 2007Cadarnhawyd cofnodion y Bwrdd a gyfarfu ar 18 Mai 2007.Materion yn codi34/2007/1 Philip Jones GriffithsNododd Gwyn Jenkins nad oedd y sefyllfa wedi newid ers y cyfarfod diwethaf.35/2007 Llunio’r dyfodol - adolygu strategaeth y Llyfrgell:Yn dilyn cyflwyniad byr gan y Llyfrgellydd hwyluswyd dau grŵp trafod gan GwerfylPierce Jones a Roger Earis. Cofnodwyd eu sylwadau gan y staff a oedd yn bresennola byddant yn cael eu hystyried ymhlith sylwadau eraill a gesglir yn ystod yrymgynghoriad.36/2007 Adroddiad cyllidebol: i nodi’r sefyllfa gyllidebol hyd 30 Mehefin2007Nodwyd y sefyllfa gyllidol.37/2007 Materion llywodraethuPenodiadau’r Llyfrgell: ystyried enwebiadauCyflwynwyd Cofnodion y Pwyllgor Enwebiadau a gyfarfu i ystyried y ceisiadau aoedd wedi dod i law gan Pedr ap Llwyd. Cytunwyd y bu’r broses yn llwyddiannus ada oedd deall fod tri ar ddeg o geisiadau wedi’u derbyn. Enwebwyd Ruth Thomas,Gwenllian Carr, Gareth Haulfryn Williams a John Gittins i wasanaethu felYmddiriedolwyr. Penodwyd y pedwar yn ddiwrthwynebiad.Penodiadau’r Llywodraeth: derbyn yr wybodaeth ddiweddarafNododd Mrs Ann John mai’r Trysorydd a fyddai’n cynrychioli’r Llyfrgell ar y ddaubanel penodi, er sicrhau cysondeb ac oherwydd y gallai ymgeisyddion ymgeisio amfwy nag un o’r penodiadau. Cadarnhawyd hefyd y byddai’r Llyfrgellydd ynbresennol fel aelod heb bleidlais ar y panel i benodi’r Llywydd a’r Is-Lywydd.

38/2007 Yr Uned Codi Arian: i nodi’r cynllun aelodaeth gorfforaetholCyflwynwyd papur a baratowyd gan yr Uned yn amlinellu’r cynllun aelodaethgorfforaethol. Nodwyd ei gynnwys.Yn osgystal, roedd y Llyfrgellydd yn falch o fedru nodi fod £21,000 wedi’i godi argyfer ail artist preswyl.39/2007 Materion y LlywyddNodwyd rhai o gyhoeddiadau’r Llywydd oddi ar gyfarfod diwethaf y Bwrdd• Mynychu achlysuron y Cyfeillion• Seremoni cyflwyno Coron yr Eisteddfod Genedlaethol ar y cyd â’rAmgueddfa Genedlaethol• Croesawu ymwelwyr• Cadeirio panel penodi aelodau’r Bwrdd• Mynychu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerfyrddin• Croesawu Mr Rolf Harris i’r Llyfrgell• Lansio arddangosfa casgliad paentiadau o eiddo Lindsay Evans• Mynychu cinio a darlith yn y Gelli Gandryll• Mynychu seremoni dadorchuddio plac ym Maes Lowri• Traddodi Darlith Goffa Syr John Williams40/2007 Materion y LlyfrgellyddCyflwynodd y Llyfrgellydd yr adroddiad canlynol:40/2007/1 Trefniadau noddi’r LlyfrgellCafwyd gwybod yn ddiweddar fod y trefniadau yn Llywodraeth Cynulliad Cymru argyfer noddi’r Llyfrgell Genedlaethol ar fin newid. Penderfynwyd diddymu’r Gangensydd â’r ddyletswydd ar hyn o bryd o noddi’r Llyfrgell ac Amgueddfa Cymru. O fisHydref bydd CyMAL yn gyfrifol am ei wneud. Ar hyn o bryd mae CyMAL yngyfrifol am sefydliadau lleol yn unig.40/2007/2 Pigion o’r canmlwyddiantCynhaliwyd ‘ail lansiad’ o lyfr Trevor Fishlock In this place yn y Drwm ar 12Mehefin.Agorwyd arddangosfa ffotograffau CLIC yn llwyddiannus yn Llyfrgell GenedlaetholEstonia yn Tallinn ar 21 Mehefin.Cynhaliwyd cynhadledd lwyddiannus iawn yn y Llyfrgell ar 23 Mehefin a drefnwydgan Gymdeithas Hanes Meddygaeth Cymru. Gwnaeth y Llywydd a’r Llyfrgellyddgyflwyniadau ar Syr John Williams a hanes y Llyfrgell.

Dadorchuddiwyd plac ar fur 10 Maes Lowri yn Aberystwyth ar 4 Gorffennaf, i nodilleoliad gwreiddiol y Llyfrgell Genedlaethol cyn symud i Grogythan yn 1916.40/2007/3 NanwAr 29 Mehefin rhyddhawyd gêm gyfrifiadurol newydd, Antur Fawr Nanw. Nod ygêm yw helpu cymeriad o’r enw Nanw i chwilio am saith o drysorau’r Llyfrgell syddwedi cael eu cuddio gan ei ffrindiau drygionus, a’u dychwelyd yn ddiogel i’rLlyfrgellydd.Cafodd y gêm ei henwi’n gêm yr wythnos gan wefan 24hourmuseum(http://www.24hourmuseum.org.uk/), ac roedd eitem ar dudalen flaen ‘Show me’ arwefan 24hourmuseum (http://www.show.me.uk/) oedd yn tynnu sylw at y gêm ei huna’r trysorau sydd ynddi.41/2007 Cyfarfod ‘Ymestyn’, 20-21 Medi 2007Nododd Pedr ap Llwyd y trefniadau ar gyfer y cyfarfod ‘Ymestyn’ a oedd i’w gynnalyn y Rhondda ar y 20-21 Medi.42/2007 Unrhyw fater arallDim.Sesiwn gaeëdig43/2007 Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio i gyflwyno cofnodion y cyfarfod agyfarfu ar 12 Gorffennaf 2007Cyflwynodd cadeirydd y Pwyllgor Archwilio gofnodion y cyfarfod a gyfarfu ar17 Mai 2007, a rhoi crynodeb o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2007.44/2007 Adroddiad Blynyddol Cadeirydd y Pwyllgor ArchwilioCyflwynodd Roger Earis ei adroddiad a oedd eisioes wedi’i ddosbarthu i’r aelodau.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!