13.07.2015 Views

Y Tincer 311 Medi 08 *LLIW - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 311 Medi 08 *LLIW - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 311 Medi 08 *LLIW - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Y TINCERMEWNLLIW!Y TINCERPRIS50cRhif 311Medi2008PAPUR BRO GENAU’R-GLYN, MELINDWR, TIRYMYNACH, TREFEURIG A’R BORTHAGOR SWYDDFABu Dirprwy BrifWeinidog Cymru,Ieuan Wyn Jones,yn agor pencadlysnewydd StrataMatrixyn swyddogol dydd IauMedi’r 4ydd ym MhlasGogerddan ac yn lawnsioMonitor Cymru,is-gwmni newyddStrataMatrix sydd yndarparu gwasanaethaumonitor digidol.Yn y llun mae HuwJones, Cyfarwyddwr;Wynne Melville Jones,Cadeirydd a SylfaenyddStrataMatrix; ArwynDavies, RheolwrGyfarwyddwr aDawn Havard,Cyfarwyddwraig.ENNILL CADAIRESGOB NEWYDDVernon Jones, yn ennill coron Eisteddfod Rhys Thomas James, LlanbedrPont Steffan yn ystod mis Awst gyda’i wyrion Gruff ac Ifan.Llun: Tim JonesAr Fedi 1af etholwyd y Tra Pharchedig John Wyn Evans, Deon EglwysGadeiriol Tyddewi, yn 128fed esgob Esgobaeth Tyddewi.Bu’n byw, tra yn blentyn, ym Mhenrhyn-coch – gweler tudalen 12 -13.

2 Y TINCER MEDI 2008Y TINCER- un o bapurau bro Ceredigion | Sefydlwyd Medi 1977CYDNABYDDIRCEFNOGAETHISSN 0963-925X | Rhif 311 | Medi 2008SWYDDOGIONGOLYGYDD - Ceris GruffuddRhos Helyg, 23 MaesyrefailPenrhyn-coch % 828017Rhoshelyg@btinternet.comSTORI FLAEN - Alun JonesGwyddfor % 828465TEIPYDD - Iona BaileyCYSODYDD - Dylunio GraffEG % 832980CADEIRYDD - Mrs Llinos Dafis, Cedrwydd,Llandre % 828262IS-GADEIRYDD - Elin Hefin, Ynyswen,Stryd Fawr, Y Borth % 871334YSGRIFENNYDD - Anwen Pierce46 Bryncastell, Bow Street % 828337TRYSORYDD - Aled Griffiths, 18 Dolhelyg,Penrhyn-coch % 828176griffiths95@googlemail.comCASLWR HYSBYSEBION - Bryn Roberts, 4Brynmeillion, Bow Street % 828136LLUNIAU - Peter HenleyDôleglur, Bow Street % 828173TASG Y TINCERAnwen PierceGOHEBYDDION LLEOLABER-FFRWD A CHWMRHEIDOLMrs Beti Daniel, Glyn Rheidol % 880 691BOW STREETMrs Siân Evans, 43 Maes Afallen % 828133Mrs Mair Lewis, 40 Maes Ceiro % 828 102Anwen Pierce, 46 Bryncastell % 828 337CAPEL BANGOR/PEN-LLWYNMrs Aeronwy Lewis, Rheidol BancBlaengeuffordd % 880 645CAPEL MADOG, CEFN-LLWYD A CAPEL DEWIDai Evans, Fferm Fronfraith, Comins-coch,% 623660Alwen Griffiths, Lluest Fach % 880335Elwyna Davies, Tyncwm % 880275DÔL-Y-BONTMrs Llinos Evans, Dôlwerdd % 871 615DOLAUMrs Margaret Rees, Seintwar % 828 309GOGINANMrs Bethan Bebb, Penpistyll,Cwmbrwyno % 880 228LLANDREMrs Mair England Pantyglyn, Llandre % 828693LLANGORWEN/ CLARACHMrs Jane James, Gilwern % 820695PENRHYN-COCHMairwen Jones, 7 Tan-y-berth % 820642TREFEURIGMrs Edwina Davies, Darren VillaPen-bont Rhydybeddau % 828 296Y DYDDIAD OLAF Y BYDD GOHEBWYR LLEOL YN DERBYN DEUNYDD ARGYFER Y RHIFYN NESAF FYDD HYDREF 2 A HYDREF 3 I’R GOLYGYDD.DYDDIAD CYHOEDDI HYDREF 16MEDI 20 - TACHWEDD 22Arddangosfa Jeremy MooreBlaenau: Rhwng Daear a Nef. ynLLGCMEDI 27 Nos SadwrnCwmni Theatr CydweithredolTroed y Rhiw yn perfformioBlodeuwedd (Saunders Lewis)ym Morlan, Aberystwyth am 7.30MEDI 29 Nos Lun Swgrs yny gyfres Dweud ei ddweud ganyr Athro Gareth Wyn Jones– Tswnamis bach a mawr ymMorlan, Aberystwyth am 7.30HYDREF 1 Nos Fercher Gwasanaethdiolchgarwch Horeb yng nghwmniDr Dylan John fydd yn trafod eigyfnod yn Lesotho am 7.00HYDREF 2 Nos Iau Noson oddramâu gan Licris Alsorts: Rhwngpob cegiad a Dail Tafol yn NeuaddRhydypennau am 7.30HYDREF 10 - 11 NosweithiauGwener a Sadwrn TheatrDYDDIADUR Y TINCERY Tincer drwy’r post - Pris 10 rhifyn - £9 (£19 i wlady tu allan i Ewrop). Cysylltwch â Haydn Foulkes, 7Maesyrefail, Penrhyn-coch, Aberystwyth, Ceredigion,SY23 3HE. % 01970 828 889Y Tincer ar dâp - Cofiwch fod modd cael Y Tincerar gaset ar gyfer y rhai sydd â’r golwg yn pallu. Maepymtheg eisoes yn manteisio ar y cynnig. Os hoffechchi dderbyn copi o’r tâp, cysylltwch â Mrs Vera Lloyd, 7Genedlaethol Cymru yn cyflwynoIesu! (Aled Jones Williams) yngNghanolfan y Celfyddydau am7.30HYDREF 13 Nos Lun NosonDweud ei ddweud – Y Parchg AledJones Williams yn trafod ei ddramaIesu ym Morlan, Aberystwyth am7.30HYDREF 15 Nos FercherJohn Glant Griffiths, yn sôngyda chymorth sleidiau, amRyfeddodau’r goedwig oddi mewnac oddi allan. Cymdeithas yPenrhyn yn festri Horeb am 7.30HYDREF 15 Nos FercherEisteddfod Genedlaethol yr Urdd,Ceredigion 2010Pwyllgor Apêl Etholaeth MelindwrCyfarfod Cyhoeddus yn Neuadd yrEglwys, Capel Bangor am 7.30 pmHYDREF 17 Nos WenerDarlith agoriadol CymdeithasLenyddol y Garn gan yr ArglwyddElystan-Morgan am 7.30 o’r glochNid yw’r Pwyllgor o angen-rheidrwydd yn cytuno ag unrhyw farn afynegir yn y papur hwn.Cyhoeddir Y Tincer yn fisol o Fedi i Fehefin gan Bwyllgor Y Tincer.Argreffir gan Y Lolfa, Tal-y-bont.Deunydd i’w gynnwysDylid cyfeirio unrhyw newyddion i’ch gohebydd lleol neu i’r Golygydd,ac unrhyw lythyrau neu ddatganiad i’r wasg i’r Golygydd.Telerau hysbysebu y rhifynTudalen gyfan £70Hanner tudalen £50Chwarter tudalen £25Hysbyseb fach £6 y rhifyn (£30 am flwyddyn)Cysylltwch â’r trysorydd.Maes Ceiro, Bow Street % 828555.HYDREF 18 Nos SadwrnCyngerdd Corau MeibionUnedig Ceredigion ymMhafiliwn PontrhydfendigaidElw at Eisteddfod yr Urdd 2010. Tocynnau o Siop Inc a Siop yPethe neu o wefan y Pafiliwn www.pafiliwnbont.co.uk neu dros y ffôn(01974) 831 635HYDREF 24 Dydd GwenerYsgolion Ceredigion yn cau amhanner tymorHYDREF 24 Nos Wener TwmpathDawns gydag Erwyd Howells yngNgwesty’r Hafod, PontarfynachPwyllgor Apêl Etholaeth MelindwrEisteddfod Genedlaethol yr Urdd,Ceredigion 2010TACHWEDD 14 Nos Cyfarfodcyhoeddus dan nawdd CangenPlaid Cymru Bro Dafydd yn trafodTai fforddiadwy gyda JocelynDavies AC (Gweinidog Tai) ac ElinJones AC (Gweinidog MaterionGwledig) yn Neuadd y Penrhynam 7.30Camera’r Tincer - Cofiwch am gamera digidol yTincer – mae ar gael i unrhyw un yn yr ardal fydd amei fenthyg i dynnu llun ar gyfer y papur o gyngerdd,cinio neu ddigwyddiad a gynhelir o fewn ein dalgylch.Fe’i cedwir gan Mrs Mair Lewis, 40 Maes Ceiro,Bow Street (% 828102). Os byddwch am gael llun eichnoson goffi yn Y Tincer defnyddiwch y camera.RHODDCydnabyddir yn ddiolchgary rhodd isod. Croesewir pobcyfraniad boed gan unigolyn,gymdeithas neu gyngor.Mrs Morfydd Morris,Eirianfa, 6 Maes Seilo,Penrhyn-coch £20Mr Steven Williams,Llys Y Coed,Penrhyn-coch £10

Y TINCER MEDI 2008 3Annwyl Olygydd,Fel rheolwr Cartref PreswylTregerddan tybed fyddai gan rai oddarllenwyr y Tincer ddiddordebi gynnig eu gwasanaeth ynrheolaidd gyda’r gwaith o gludoprydau’n ddyddiol o Dregerddan( ar gyfartaledd unwaith neuddwywaith y mis).Rydym yn gwybod fodpobl yn y gymuned yngwerthfawrogi gwasanaethprydau poeth o Dregerddanyn fawr iawn, fodd bynnag ermwyn cynnal y gwasanaethyma mae’n hanfodol fodgennym wirfoddolwyr sy’nfodlon mynd a’r prydau yma i’rtrigolion dan sylw. Telir costau argyfartaledd o 42.9 ceiniog y filltir.Os bydd gan unrhywun ddiddordeb i fod ynwirfoddolwyr ‘Prydau yn ycartref’ cysylltwch â ChartrefTregerddan ar (01970) 828657.Diolch yn fawr iawn.Yn gywir,M. Elaine Evans, RheolwrDiolch DaiYn y gêm gartref ar gae rygbiAberystwyth ym Mhlascrug ynerbyn tîm rygbi CastellnewyddEmlyn ar Ebrill 19 cododdDai England o Bantyglyn ynLlandre ei luman am y tro olaf.Bu wrthi yn ddi-dor am drosddeng mlynedd fel llumanwrym mhob gêm gartref ac oddicartref sydd wedi gofyn amymroddiad arbennig dros yblynyddoedd bob dydd Sadwrn.Ac fel y reffari druan, yn enwedigoddi cartref, dyw cefnogwyr ygwrthwynebwyr byth yn gweldllygad yn llygad â’r llumanwr.Yn ystod blynyddoedd maith owasaneth bu’n ysgrifennydd ac yndrysorydd i’r clwb. Gan na fyddyn rhedeg y lein, caiff fwy o gyflei fwynhau’r wledd o rygbi sydd argael ym Mhlas-crug.TrysoryddiaethMae Dai hefyd wedi ymddeol ofod yn Drysorydd y Tincer – arôl cyfnod o ddeng mlynedd –dilynodd Elen Evans, Bow StreetDai Englandym Medi 1998.Diolch yn fawr iddo am eiwaith ar hyd y blynyddoedd –mwynhewch yr ymddeoliadau!Trysorydd newyddTrysorydd newydd y Tincer ywAled Griffiths, 18 Dôl Helyg,Penrhyn-coch Ffôn 01970 828 176e-bost griffiths95@gmail.comDaw Aled o Login, SirGaerfyrddin, ac mae’n gweithiogyda Bwrdd yr Iaith yn Aberteifi.Diolch iddo am ymgymryd â’rgwaith a dytmuniadau gorau iddo.Llun: Arwyn Parry JonesAngen Gofalwr‘Teulu yn chwilio am berson sy’n siaradCymraeg fyddai ar gael i ddod i’r tñ ynachlysurol i ofalu am blentyn tair a hanner,ac ambell waith, i warchod gyda’r nos.Os oes diddordeb, ffoniwch Sioned PuwRowlands ar 828 604 neu ebostiwch snr@aber.ac.uk, neu galwch draw:Dol Bebin, Rhydypennau, Aberystwyth SY245BE.LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i’n teipydd, Iona Baileya raddiodd yn y Gymraeg ym MhrifysgolLlambed yn yr haf. Cydymdeimnlwn âIona hefyd ar farwolaeth ei mam-gu - MrsGwladys Jones gynt o Dñ Capel Pen-llwyn –gweler tudalen 9.CYFEILLION Y TINCERDyma enillwyr Cyfeillion y Tincer fisMehefin:£15 (Rhif 60) Mrs Elizabeth Lewis,Dolgamlyn, Capel Bangor.£10 (Rhif 140) Mrs Elizabeth Jones, 25Maes Ceiro, Bow Street.£5 (Rhif 9) Mrs S J Jones, Bryn Dryw,Bow Street.Cysylltwch â’r Trefnydd, Bryn Roberts, 4Brynmeillion, Bow Street, os am fod ynaelod.ytincer@googlemail.comABER-FFRWD A CWMRHEIDIOLPen blwydd arbennigDathlodd Mair Stanleigh Dolfawr benblwydd eithaf arbennig ddechrau Gorffennaf.Dymuniadau gorau.YmddeolDymuniadau gorau i Beryl Davies,Troedrhiwceir, ar ei hymddeoliad o’i gwaith yny Llyfrgell Genedlaethol. Croeso adref hefyd iCatrin sydd wedi treulio y misoedd diwethafyn crwydro’r byd.LlongyfarchiadauHoffai Freda Morris, gynt o Neuadd Parc,longyfarch ei dwy wyres, Lowri, Fron, Llanarthac Angharad o Gapel Dewi ar eu llwyddiantdiweddar. Enillodd Lowri yr ail wobr am lefarurhwng 19 i 25 yn yr Eisteddfod Genedlaetholyng Nghaerdydd. Mae Lowri yn cael ei hyfforddigan Nerys ei mam. Gwnaeth Angharad yn ddaiawn yn ei arholiadau AS mewn Cymraeg, Cerdda Drama. Mi fyddai eu tad-cu, y diweddar TomMorris, yn falch iawn o’u llwyddiant.LlwyddiantLlongyfarchiadau arbennig i Aysha Doidgea Claire Maloney ar eu llwyddiant yn euharholiadau TGAU. Gwnaeth y ddwy ynarbennig o dda.CydymdeimladEstynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â EirlysDavies, Caehaidd, ar farwolaeth ei chyfnitheryn ddiweddar.CroesoCroeso mawr i deulu ifanc sydd wedi symud iY Ddôl.I ffarwelio â BerylDavies aeth criwo’i chydweithwyrgyda hi ar y trêno Aberystwyth iFinffordd a chaelpryd blasus yngNghastell Deudraeth.Yn y llun gwelirDafydd Ifans, BerylDavies a Llinos Evans.

4 Y TINCER MEDI 2008Capel y GerlanCynhelir y Gwasanaeth DiolchgarwchBlynyddol nos Wener, Medi 26ain, am 6.00o’r gloch, pryd y pregethir gan y ParchedigJ.E.Wynne Davies, Aberystwyth. Bydd lluniaethysgafn i ddilyn. Croeso cynnes i bawb.CydymdeimladBu farw tad Stuart Evans, Cliff House, ym misGorffennaf, ac estynnir cydymdeimlad cywir agef a’r teulu ar golli rhiant a thad-cu annwyl.LlongyfarchionLlonfyfarchiadau cynnes i Tim, mab ieuengafDes a Nansi Hayes, Dunstall, ar ei ddyweddiadyn ystod mis Gorffennaf â Rebecca Jones,o’r Betws, ger Rhydaman. Mae Rebecca yngyfarfwydd i wrandawyr boreol Radio Cymrufel cyflwynydd y rhaglen a ddarlledir rhwng 5a 7.00Cyfarfod Agored Blynyddol RNLICynhaliwyd Cyfarfod Agored BlynyddolRNLI Y Borth yng Ngorsaf newydd y BadAchub nos Wener, 6 Mehefin. Mr Paul Frostoedd y Cadeirydd. Derbyniwyd adroddiadaugan Miss Gill Parry (Ysgrifenyddes), MargaretGrifffiths (Cadeirydd Pwyllgor CodiArian), Mr Ronnie Davies MBE (RheolwrGweithrediadau) a Mr Glynne Evans(Trysorydd). Dywedodd Mr Davies i’r Orsafweithredu o dan anawsterau yn ystod 2007ar ôl i’r hen adeilad gael ei ddymchwelyder mwyn codi’r un newydd. Yr oedd rhaidsymud y Bad Achub a´r holl weithrediadaui’r Maes Parcio gyferbyn. Roedd yr adeiladnewydd yn barod i’w ddefnyddio erbyn misRhagfyr 2007. Lansiwyd y Bad Achub 22 oweithiau yn ystod y flwyddyn mewn ymatebi apeliau am gymorth ar y môr. Achubir dros7000 o fywydau bob blwyddyn gan yr RNLIledled y wlad.Ail-etholwyd Pwyllgor presennol y Bad Achub iwasanaethu dros y flwyddyn nesaf.Gorsaf Newydd y Bad AchubDydd Sadwrn, 28 Mehefin, agorwyd Gorsafnewydd Bad Achub Y Borth yn swyddogol,gyda Gwasanaeth crefyddol byr, eciwmenaidd,ynghyd â seremoni i drosglwyddo’r allweddii Mr Ronnie Davies, MBE, RheolwrGweithrediadau y Bad Achub. Gobeithid cynnaly digwyddiad yn yr awyr agored, ond gan fody tywydd mor anwadal, yr oedd rhaid symudy cyfan dan do yn Nhñ’r Bad Achub. Roeddyr Orsaf yn llawn i’r ymylon, gyda criw’r Orsaf,pentrefwyr, cefnogwyr ac ymwelwyr - hebanghofiio Seindorf Arian Aberystwyth.Dechreuodd y prynhawn gyda’r AnthemauCenedlaethol. Croesawyd y gynulleidfa ganMr Paul Frost (Cadeirydd RNLI y Borth),cyn iddo gyflwyno’ r gwestai pennaf, MrGeorge Rawlinson, Pennaeth GweithrediadauArfordirol, Poole. Mewn seremoni fer,Y BORTHtrosglwyddwyd allweddi’r Orsaf newyddgan Mr Rawlinson i Mr Ronnie Davies,a’u derbyniodd ar ran Criw Y Bad Achub.Gofynnwyd gan Mrs Margaret Griffiths(Cadeirydd Pwyllgor Codi Arian) i MrRawlings gyflwyno dau ddyfarniad i aelodauo’r Pwyllgor, sef Miss Gill Parry, a ddaeth ynReolwr Anrhydeddus yr RNLI am Oes, a MrsElizabeth Evans, a dderbyniodd FathodynEfydd yr RNLI. Cyflwynwyd tuswau o flodaui’r ddwy gan Mrs Margaret Griffiths, cyn iddiddiolch,ar ran bawb, i Mr George Rawlinson.Dilynwyd y seremoni gan y Gwasanaethcrefyddol, a arweinwyd gan y Parch. Ddr DavidWilliams. Darparwyd cyfeiliant i’r emynau ganSeindorf Arian Aberystwyth.Daeth prynhawn bythgofiadwy i ben gydaDerbyniad a bwffe yng Nghlwb Bryn Rodyn.Dydd Sul Y MôrDydd Sul, 13 Gorffennaf, cynhaliwydGwasanaeth yn Eglwys Sant Mathew i nodiDydd Sul y Môr. Ymysyg y gynulleidfa yroedd aelodau o griw a swyddogion Bad AchubY Borth. Gofalwyd am y Gwasanaeth gan yParch Ddr. David Williams. Yr organydd oeddMr Norman Thomas. Gweithredodd Mr PeterDavies a Mr Louis Delahaye (Bad Achub YBorth) fel Ystlyswyr.Cymorth CristnogolAnfonwyd £571 at Gymorth Cristnogoleleni gan Eglwysi’r Borth a’r Cylch. Trwygaredigrwydd Margaret Griffiths a GlynneJones, Ceffyl Y Môr, fe godwyd dros £327 oganlyniad i Fore Coffi yno ddydd Sadwrn, 7Mehefin. Casglwyd gweddill yr arian mewngwasanaethau eciwmenaidd yng Nghapel yGerlan yn ystod y flwyddyn. Diolch i bawb agyfrannodd at yr Apêl.MBELlongyfarchiadau i Mrs Elizabeth Murphy,Lôn Wastad, a wobrwywyd â Medalyr Ymerodraeth Brydeinig yn RhestrAnrhydeddau Pen Blwydd y Frenhines ymmis Mehefin. Mae Mrs Murphy yn Sefydlydda Chadeirydd yr Elusen “Ffagl Gobaith” ynAberystwyth, sydd yn ymroddedig i ofaldioddefwyr cancr yng Nhgeredigion. Yn 2006derbyniodd Mrs Murphy Wobr y Frenhinesam Wasanaethau Gwirfoddol yn y Gymuned.Ym mis Mawrth eleni, yng Ngwesty’r Conrah,Aberystwyth, cyflwynwyd plac crisial iddimewn cydnabyddiaeth o’i gwaith gyda’r elusen:trefnwyd yr achlysur gan Fanc Barclays ar y cyda Menter, Aberystwyth.GenedigaethauGanwyd merch, Elen Haf, i Grace a Mike Bailey,Roseland, ddydd Gwener, 20 Mehefin, yn chwaerfach i Mali a Morwen. Llongyfarchiadau a phobdymuniad da i’r holl deulu.Llongyfarchiadau hefyd i Mrs Margaret Owen,Glanwern, ar enedigaeth ei hwyres gyntaf, MiaHaf, ddydd Sul, 13 Gorffennaf. Mae Mia fach ynferch Martyn a Wendy Owen, Sain Ffagan, anith gyntaf i Derwyn.GwibdeithiauGyda gwyntoedd cryfion a glaw trwm, yr oeddtywydd wythnos heuldro´r haf yn fwy tebygi´r fath dywydd a ddisgwylir yn y gaeaf nag ynhirdyddiau´r haf. Er hynny, mwynhaodd SYM YBorth wibdaith ddiddorol a chymharol o sychi´r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne,ger Caerfyrddin, ddydd Mercher, 18 Mehefin.Diolch i Margaret Griffiths a drefnodd ywibdaith.Y diwrnod canlynol, ddydd Iau, 19 Mehefin,aeth Clwb yr Henoed ar wibdaith i Landudno.Roeddynt braidd yn hwyr mewn cyrraedd, arôl cylchdaith annisgwyl o amgylch GogleddCymru, pan aeth gyrrwr y bws ar gyfeiliorn,ond, er hynny, fe gafwyd llawer o hwyl a sbriyn ystod y prynhawn. Aeth rhai o´r aelodau ardaith ar y tram i Ben y Gogarth, tra aeth eraillam dro ar y promenad neu i siopa yn y dref.Diolch i Joy Cook am drefnu´r daith.Cymdeithas Gymraeg y Borth a’rCylchHaf diflas a fu, eleni, ond ddydd Mawrth, 24Mehefin, sef Dygwyl Ifan Canol Haf, agorwydffenestr yn y gwyll, ac roedd yr haul yntywynnu’n braf drwyddi pan gychwynnodd50 o deithwyr hapus ar wibdaith flynyddolCymdeithas Gymraeg Y Borth a’r Cylch.Mae’n rheol anysgrifenedig yngnghyfansoddiad y Gymdeithas fod rhaid caelstop coffi tuag awr ar ôl cychwyn ar unrhywdaith, ac felly daeth y stop cyntaf yn Nhafarny Wynnstay Arms, Llanbryn-mair, i fwynhau’rcoffi a’r heulwen gynnes. Ymlaen wedyn iLanwnog, ac i fynwent Eglwys St Gwynog, iymweld â bedd John Ceiriog Hughes Ceiriog.Talwyd teyrnged gan Y Parchg Elwyn Pryse ifardd oedd yn un o feirdd mwyaf poblogaiddOes Fictoria ac awdur “Nant y Mynydd” a“Dafydd y Garrreg Wen”. Darllenodd Mrs NansiHayes gerdd gan Sylfanus Richards, sef “Wrthfedd Ceiriog”.Wrth fynd heibio i Lanllwchhaearn feglywsom gan y Parchg Elwyn Pryse hanesHenry Williams, Ysgafell, a erlidiwyd amei gredoau Piwritanaidd, gan dreulio nawmlynedd yn y carchar; achubwyd ei deulurhag newyn gan dyfiant gwyrthiol o wenithmewn cae a enwyd wedyn “Cae’r Fendith”. Ynddiddorol iawn, fe ddarganfuwyd bod un oaelodau’r Gymdeithas, sef Mrs Eryl Evans, ynddisgynnydd uniongyrchol Henry Williams.Yn y Drenewydd fe gafwyd saib dwy awr igael cinio, i grwydro’r farchnad wythnosol ac iymweld â’r Amgueddfa ac arddangosfa RobertOwen, diwygiwr cymdeithasol a dyngarwr.Trodd y bws, wedyn, i gyfeiriad Ceri a’r Ystog(Churchstoke) cyn croesi’r ffin a rhedeg i lawrdrwy olygfeydd hardd y Gororau i Drefesgob(Bishop’s Castle) a Craven Arms. Cyhoeddoddy Parchg Elwyn Pryse ein bod, erbyn hyn, wediteithio drwy bum sir a dwy wlad. Manteisiwyd

Y TINCER MEDI 2008 5ar y cyfle i siopa ac i gael te yng NghanolfanBwyd Llwydlo (Ludlow) cyn troi’n ôl i’n gwladein hunain ac i’r Ganolfan Clawdd Offa ynNhref-y-Clawdd. Stop olaf y dydd oedd yngNgwesty’r “Severn Arms” ym Mhen-bont llemwynhawyd swper blasus. Diolchwyd ganMr Gwynfryn Evans i drefnwyr y wibdaith.Mae’n debyg bod sawl un wedi cyfrannu atlwyddiant y dydd, gan gynnwys Y ParchgElwyn a Mrs Tegwen Pryse a’r Athro Des a MrsNansi Hayes.Cynhelir cyfarfod cyntaf sesiwn 2008-9 ynFestri’r Gerlan nos Fercher, 8 Hydref am 7.30p.m.Treulir y noson yng nghwmni y Parchg W.J. aMrs Gwenda Edwards.Priodas AurLlongyfarchiadau i Roy a Freda Darby, CaeGwylan, a ddathlodd eu Priodas Aur ar y 21aino Fehefin.Y Lleng BrydeinigDydd yr Hen-FilwyrMarciwyd Dydd yr Hen-Filwyr gan y LlengBrydeinig yn Y Borth gyda chyngerdd yn yNeuadd Gymunedol, nos Fercher, 25 Mehefin.Mr Aran Morris MBE oedd y Cadeirydd ac fegyflwynwyd y perfformwyr gan y Parch Ddr.David Williams. Trefnwyd rhaglen o eitemauofferynol gan Mr Geraint Evans a’r teuluHassan. Siaradodd Mr Iori Lewis, noddwr siroly Lleng Brydeinig, am rai o’i atgofion am yr AilRyfel Byd, pan oedd yn ymladd gyda’r WythfedFyddin (“Llygod yr Anialwch”) yng NgogleddAffrica, yn yr Eidal ac yn Ewrop. Ar ôl egwyla’r cyfle i fwynhau cwpaned o de, arweiniwydaelodau a ffrindiau mewn canu rhai o’n henganeuon cyfarwydd.Diolchir i bawb a gymerodd ran yn y cyngerddac i Joy Cook, Freda Darby a Margaret Griffithsa ofalodd am y gegin.Gweithred CoffaDigwyddodd Gweithred Coffa wrth GofgolofnRyfel Y Borth nos Fercher, 27 Awst. Ergwaethaf y niwl a’r glaw, ymgasglodd tuagugain o bobl o gwmpas y Gofgolofn ar gyfergwasanaeth byr yng ngofal y Parch Ddr DavidWilliams.Dilynwyd y Gweithred gan luniaeth ysgafnyn Neuadd Gymunedol Y Borth lle’rymunwyd â’r gynulleidfa gan aelodau eraillo’r Lleng Brydeinig. Jo Jones gyflwynoddyr Uwchgapten Ray Hobbins, Byddin yrIachawdwriaeth, a siaradodd yn ddiddorolam ei yrfa fel Cerddor a Chanwr Tiwba ynun o Gatrodau Cafalri y Fyddin Brydeinig.Diolchwyd iddo gan Mr Aran Morris MBE.Sefydliad Y MerchedTro Y Borth, eleni, oedd trefnu’r Helfa DrysorSirol, a ddigwyddodd nos Wener, 11 Mehefin.Cyhoeddwyd Caerwedros yn enillwyr ar ôlnoswaith hwylus, a ddaeth i ben yn NhafarnCeffyl Y Môr. Diolch i Lorraine Moore aMargaret Griffiths a drefnodd y noson.Cynhaliwyd cyfarfod olaf yr haf yn y NeuaddGymunedol, nos Fercher, 16 Gorffennaf . YCadeirydd oedd Margaret Griffiths. Roedd ynoson yng ngofal Joy Cook ac Elizabeth Evans,oedd wedi trefnu Trysor Helfa y tu mewn aco gwmpas y Neuadd. Yr enillwyr oedd OlwenEngland, Margaret Griffiths, Susan James acAlicia Moss, a dderbyniodd far bach o siocled yrun am eu hymdrechion.“Merched y Calendr” oedd thema fflot SYMyng ngorymdaith Carnifal Y Borth, ddyddGwener, 1af Awst. Er mawr siom (neu, efallai, ermawr ryddhad) y rhai oedd yn disgwyl gweld yrhiannedd yn efelychu Merched gwreiddiol YCalendar, yr oedd pawb yng ngwisg misoedd yflwyddyn. Diolch i bawb a gyfrannodd at hwyly dydd.MarwolaethMrs Barbara Gladys HughesDydd Gwener, 4 Gorffennaf, yn YsbytyMachynlleth, bu farw’n dawel Mrs BarbaraHughes, Cae Gwylan, ar ôl afiechyd hir. Yroedd yn 85 oed. Yr Hybarch Hywel Jones,Archddiacon Ceredigion gynt, ofalodd amy gwasanaeth angladddol, ddydd Gwener,18 Gorffennaf, yn Eglwys Sant Mathew, llebuasai Barbara yn aelod ffyddlon a gweithgar.Estynnwn ein cydymdeimlad i’w merch, MrsSusan Rees, ac i’r holl deulu.Dau De a DawnsCynhaliwyd dau De a Dawns llwyddiannusyn Neuadd Gymunedol y Borth yn ystod yrhaf, a’r naill, ar y 23ain o Orffennaf, er buddY Lleng Brydeinig, a’r llall, ar y 13eg o Awst, erbudd Eglwys Sant Mathew. Trefnwyd y ddauddigwyddiad gan Mrs Rosa Davies a Mr JohnTaylor. Ymunwyd â phentrefwyr ac ymwelwyrgan ddawnswyr Aberystwyth. Mwynhaoddpawb y dawnsio a’r lluniaeth blasus.Breninesau Y BorthDaeth adeg Carnifal Y Borth unwaith eto arddiwedd mis Gorffennaf, ac fe goronwyd RachelSwift, 14 oed, yn Frenhines Y Carnifal, ddyddSadwrn, 19 Gorffennaf. Coronwyd Rachel ganMichaela Bailey, Brenhines Carnifal 2007. Yngngosgordd y Frenhines, ddydd y Carnifal, 1Awst, roedd Stacey Bishop, Louise Drakely, AmyMoss, Gwenllian Smith ac Aidan Swift.Dydd Sul, 27 Gorffennaf, ar un o ddiwrnodaumwyaf heulog a chynnes yr haf, fe goronwydBethan Davies yn Frenhines RNLI Y Borth ganMrs Margaret Griffiths (Cadeirydd PwyllgorCodi Arian yr RNLI). Cynhaliwyd y seremoniy tu allan i Orsaf y Bad Achub, lle difyrrwyd ydyrfa fawr o wylwyr gan Ddawnswyr Lein YBorth. Yn ngwasanaeth y Frenhines Bethanroedd Isabella Ashford, Tasha Galliford, EmilyHomer a Holly fach. Cymerasant hwythau leblaen yn ngorymdaith y Carnifal ar y 1af oAwst.Carnifal Y BorthUnwaith eto roedd Wythnos y Carnifalyn llwyddiant ysgubol. Trefnwyd llawer oweithgareddau yn ystod yr wythnos, gangynnwys karaoke, rafflau, cystadlaethaudominos a dartiau, cwis tafarn, coroni Brenin aBrenhines Cors Fochno a Ras yr Hwyaid Pastig.I’r plant bach yr oedd picnic i’r Tedi Bers agwobr am y castell tywod gorau. Y digwyddiadolaf oll oedd “Cinio ar y Traeth” mewn gwisgffansi, nos Wener, 22 Awst.Yn ffodus iawn, trodd y tywydd yn sych, osbraidd yn wyntog, Ddydd y Carnifal, ac, felbob blwyddyn, daeth lluoedd o bobl i fwynhauyr orymdaith liwgar a swnllyd a ddirwynoddei ffordd ar hyd y Stryd Fawr, lan i’r Graig acyn ol i’r Meysydd Chwaraeon. Yno, yr oeddlluniaeth ar gael, cystadlaethau i’r plant astondinau yn gwerthu pob math o nwyddau.Diolchir yn fawr iawn i Bwyllgor y Carnifal ameu gwaith caled ac i bawb a gymerodd ran neua gefnogodd weithgareddau’r wythnos.

6 Y TINCER MEDI 2008Blodau i bob achlysurBlodau’r BedolLLANDREPriodasau . Pen blwydd .Genedigaeth . Angladdau .Blodau i Eglwysi aChapeli neu unrhyw achlysurDonald MorganHen Efail, Llanrhystud SY23 5ABFfôn 01974 202233Danfon am ddim o fewn dalgylch y TincerCIGYDDBOW STREETEich cigydd lleolPen-y-garnFfôn 828 447Llun: 9-4.30Maw-Sad 8.00-5.30Gwerthir ein cynnyrch mewnrhai siopau lleolCYSYLLTWCHÂ NIytincer@googlemail.comMerched Y WawrLlanfihangel Genau’r- GlynYn dilyn ein Cyfarfod Blynyddolym mis Mai, pryd y dewiswydy Pwyllgor newydd gogyfer â2008/09 aethom am drip fin nosym mis Mehefin. Roedd yn nosonarbennig o braf a throdd trwyny bws am y Gogledd ac i bentrefDinas Mawddwy. Yno croesawydni gan Gwmni Dãr Cerist i ymweldâ’i safle ac i weld sut mae’r broses ogynhyrchu dãr yn digwydd. Oddiyno aethom i’r Llew Coch i wleddaa chael pryd o fwyd bendigedig. Arôl y pryd cawsom wledd arall panddaeth Olwen Evans o fferm Tyny Braich, Dinas Mawddwy, atom isôn am nofel Angharad Price O tyny Gorchudd. Sonir yn y nofel amdri brawd a anwyd yn ddall i deuluTyn y Braich. Hon oedd y nofel aenillodd y Fedal Lenyddiaeth ynEisteddfod Genedlaethol Sir BenfroTyddewi yn 2002. Gan fod gãrOlwen yn nai i’r brodyr, cawsom weldlluniau o’r teulu a thoreth o hanesiondifyr amdanynt ac i ddiweddu’rnoson cawsom weld ffilm fer amfywyd y tri brawd. Teimlwyd fod ynoson hon wedi bod yn ddiweddglobendigedig i flwyddyn o weithgareddy Gangen a diolchwyd i Mrs. GlenysEvans (Llywydd), Mrs. Mair England(Ysgrifennydd) ac i Llinos Dafis(Trysorydd) am eu gwaith yn trefnu’rrhaglen dros y flwyddyn, ac ynarbennig am drefnu i ni gael mynd iDdinas Mawddwy.Bydd y Gangen yn ail gychwyn ar ôlseibiant dros yr haf ar y drydedd nosLun ym mis Medi.YsbytyDymunwn wellhad buan i’rcanlynol sydd wedi bod yn yrysbyty yn ddiweddar: Nano Davies,Dolmeillion; Henry James, Brynllysac Ann Thomas, Glyncoed.Hefyd i Gwenda James, Taigwynionsydd yn Ysbyty Treforys ar hyn obryd.LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i Gwenda aErddyn James, Taigwynion ar ddodyn dad-cu a mam-gu unwaith eto.Ganwyd merch fach i Llñr a Rhianyn ddiweddar.GraddioLlongyfarchiadau i Elen VivianEdwards, Pen-y-groes ar ennill graddBSc gydag anrhydedd dosbarthcyntaf mewn chwaraeon ac ymarfercorff yn UWIC.CroesoCroeso i Mr Vincent sydd wedisymud i Tanglewood, Lôn Glanfred,Mr a Mrs Bell i Glanant a Mr a MrsSaunders i Drawscoed. Gobeithiobyddant yn hapus yn ein plith.Priodas DdiemwntLlongyfarchiadau i Glyn a MargaretWilliams, Bryngolau, ar ddathlu 60mlynedd o fywyd priodasol.Eglwys LlanfihangelGenau’r-glynOs hoffech gopi o Galendr 2009cysylltwch â Betty Williams,Greenbank, Rhif ffôn : 828335Dymuniadau daEin cofion ar Bill Thomas,Troed-y-bryn sydd yng NghartrefTregerddan.Dymuniadau gorauLlongyfarchiadau i Osian Penri,Taigwynion, ar ei lwyddiant yn eiarholiadau lefel A a phob dymuniadda yn y Coleg Meddygol yngNghaerdydd.Eglwys San MihangelGenau’r-glynAm yr ail flwyddyn yn olynol buraid cynnal y Ffair Haf a Barbiciwyn Ysgoldy Bethlehem, oherwydd ytywydd gwlyb a gafwyd ar yr 18fedo Fehefin. Er yr holl anawsterau feddaeth llu o ffrindiau a phentrefwyrynghyd i wneud noson lwyddiannus.Cyflwynwyd y gãr gwadd, Mr EricEllis-Jones, a agorodd y Ffair, gan yrArchddiacon Yr Hybarch Hywel Jones.Rydym yn ddiolchgar i’r gãr gwaddam ei haelioni. Gwnaed elw o dros£1,500 tuag at yr Eglwys, ac mae’r Ficera Chyngor Plwyfol yr Eglwys yn diolchi bawb yn enwedig y gwirfoddolwyr aysgwyddodd gwahanol ddyletswyddaua’r gymuned am ei haelioni.Sul y Cynhaeaf (05/10/08)Eleni rhoddwyd gwahoddiad i gôrlleol arall i ddod atom ar derfyn Suly Cynhaeaf - sef Cantre’r Gwaelod,ac rydym yn ddiolchgar eu bod wediderbyn. Maent yn arbenigo mewncanu gwerin ac rydym yn disgwylyn eiddgar am noson hwylus yn eucwmni.Edrychwn ymlaen at gaelcynulleidfa gymeradwy i fwynhaurhai o dalentau’r ardal. (Rhaglenni £5,plant am ddim). Fe fydd yna luniaethyn Ysgoldy Bethlehem ar derfyn yroedfa a chroeso i bawb i gyfarfod a’rCôr a chymdeithasau.Treftadaeth LlandreFe fydd ein cyfarfodydd yn ailddechrau ar y 25ain o Fedi, yn YsgoldyBethlehem am 7.30 o’r gloch, pan ddawSusan Fielding i’n hannerch ar y testun– Henebion Ceredigion.Merched y WawrLlanfihangel Genau’r-glynGan ein bod yn ymuno a ChangenTal-y-bont ym mis Med i glywedDeborah Griffiths o Aberteifi yn sônam ei phrofiad yn y ‘Coal House’bydd ein cyfarfod ar 20fed o Hydrefyn Ysgoldy Bethlehem am 7.30 yhyn gyfle i ni ail-ymaelodi (£13) ac iglywed ieuenctid o’r pentref y eindiddanu. Croeso i bawb.EISTEDDFOD YR URDD2010Pwyllgor Apêl Llandre, Borth aDôl-y-bontRhestr DigwyddiadauNos Iau 20/11/08PARTI GEMWAITH‘TLWS’Banc yr EithinLlandre 7.30 yhNia 820419 Sara 822029Nos Lun 15/12/08NOSON NADOLIGAIDDdan nawdd y gwahanolgymdeithasau lleolTal mynediad BethlehemLlandre 7.30 yhLlinos - 871615Nos Sadwrn - 23/01/09CINIO SANTES DWYNWENCinio 3 cwrs ac adloniant ganTecwyn Ifan £25Clwb Golff y Borth 8.00 yhNans - 828487Gwenda 822065Nos Sadwrn 31/01/09NOSON ‘GRAND SLAM’Yng nghwmni John Hef inTal mynediad Neuadd y Borth8.00 yhGwenda - 822065Dyma fraslun o ddigwyddiadausydd ar y gweill gan y Pwyllgorar hyn o bryd. Ceir rhagor ofanylion yn agosach i’r dyddiadond yn y cyfamser gellir cysylltu â’rYsgrifenyddion - Eric a Gwenda ar01970 822065

Y TINCER MEDI 2008 7LlwyddianauCafodd Lisa Saycell, Bryn Briallu,bythefnos lwyddiannus ym misMehefin gan gychwyn drwy raddiogyda LLB anrhydedd 2:1 yn ygyfraith.Yr wythnos ganlynol gwireddwydbreuddwyd pan enillodd Lisayn Sioe Frenhinol Cymruyn Llanelwedd. Roedd ynmarchogaeth ei chaseg saithmlwydd oed, Toyside Lucky Lowri,yn nosbarth y cesig dan gyfrwy.Aeth ymlaen i ennill yr ail wobryng nghystadleuaeth y cobiau dangyfrwy. Roedd yn brofiad arbennigcael ennill yn y prif gylch, llawero ddiolch i’r cefnogwyr yn yreisteddle am eu cefnogaeth frwd.Mae Lisa a Lowri yn cystadlumewn sawl maes, byddant yncystadlu yn Sioe y Cobiau a’rMerlod Cymraeg yn Aberhondduym mis Medi. Mae hon yn sioedros ddau ddiwrnod gyda cystadlumewn neidio, hyweddu, trawsgwlad etc. Bu Lisa a Lowri ynllwyddiannus y llynedd ac mae Lisahefyd wedi ennill y gystadleuaethar ei cheffyl arall Grofield Abigail.GOGINANPen blwydd HapusLlongyfarchiadau i Mark Evans,Gwarllan, ar ei ben blwydd ynddeunaw oed ar Fedi 20fed. Pob lwc iti Mark i’r dyfodol.Dathlu ei ben blwydd yn un arhugain ddiwedd mis Awst oeddRichard Jones, Melody. Pob lwc iddoef i’r dyfodol hefyd.Gwellhad BuanDymunwn wellhad buan i ddau ofrodorion Cwmbrwyno; mae JimKitte, Haulfryn ar hyn o bryd ynderbyn triniaeth yn Ysbyty Treforusa Hywel Jones, Bwthyn, yn ysbytyBron-glais.Jamesa LucyCarverSwyddi NewyddMae gan Nigel a Sue Hellawel, ValleyForge swyddi newydd, Nigel ynLlaethdy Rachel a Sue yn y swyddfayn Mount Trading. Pob lwc i’r ddau.PriodasPriodwyd James Carver, unigfab Tim a Angela Carver, BoxCottage a Lucy Havard, merchhynaf Robert a Dorothea Havard,Waunfawr yng Nghwesty PlasDolguog, Machynlleth ar Orffennaf19. Braf oedd i’r ddau gael dathlugyda’u perthynasau o Abertawea Swydd Hampshire. Treulioddy ddau eu mis mêl yng Nghuba.Llongyfarchiadau calonnog iddynt.Newid SwyddDÔL-Y-BONTDwy briodasAr ôl 12 mlynedd o deithio i Aberaeron felSwyddog Tir Cyffredin Hawliau TramwyCyngor Sir Cerdigion bydd Ann Elias, Roganannyn symud i swydd newydd. PenodwydAnn fel Swyddog Projectau a Rhaglenni iGynllun Trafnidiaeth Canolbarth Cymru –cynllun sy’n delio ag ariannu trenau, bysus,gwelliannau ar y ffyrdd,beicio a cherdded.Mae’r ardal y bydd Ann yn gyfrifol amdani yncynnwys Ceredigion, Powys ac ardaloedd o SirFeirionnydd. Galluoga’r swydd yma y byddAnn yn medru gweithio o adre neu o’r swyddfayn Aberystwyth a bydd yn teithio i’r gwahanolardaloedd o fewn i’r dalgylch i ddod a’r bobl asyniadau newydd at ei gilydd. Llongyfarchiadaumawr iddi a phob hwyl gyda’r swydd newydd.GenedigaethGanwyd merch fach o’r enw Molly i Becky aJason Hughes, Captain’s House. Mae hi hefydyn wyres i Lindy a Gareth Hughes, Y Warren.Llongyfarchiadau iddynt fel teulu.LlwyddiantLlongyfarchiadau i Harriet Billingsley, Dolwar,ar ei llwyddiant yn yr arholiadau TGAU yr hafyma a phob hwyl iddi yn y 6ed dosbarth.Lucas ac Elizabeth StringerAr 12 Gorffennaf priodwyd Lucas Stringerac Elizabeth Potts, yng Nghapel y Babell.Gwasanaethwyd gan y Parchedigion WynRhys Morris ac Andy Herrick.Ar 31 Awst priodwyd Nia Cory, Bryngwyn acEmyr Davies yn Eglwys Ceinewydd.Llongyfarchiadau a phob dymuniad da i’r ddaubâr ifanc ar achlysur eu priodas.Pen blwyddi arbennigBydd yna ddathlu mawr yn y pentref ddyddSul, 14 Medi, gan y bydd Gareth Morgan, GlenSide yn dathlu ei ben blwydd yn 80 oed a byddyr efeilliaid Hannah a Jennifer Potts, GlenAvon yn dathlu eu pen blwydd yn 18 oed. Penblwydd hapus iawn iddynt eu tri!FFRINDIAU CARTREF TREGERDDANTE PRYNHAWNYn y CartrefSadwrn 20.9.2008 am 2.30 o’r glochAgorir gan:Yr Arglwydd Elystan MorganCroeso cynnes i bawb

8 Y TINCER MEDI 2008CAPEL BANGOR / PEN-LLWYNOfydd er AnrhydeddLlongyfarchiadau mawr i MrMaldwyn James, Afallon, a gafodd eiurddo er anrhydedd, a’i dderbyn i’rorsedd yn Eisteddfod GenedlaetholCaerdydd, eleni. Cynhaliwyd yseremoni yn yr awyr agored arfore dydd Gwener 8ed o Awst, yngnghylch yr orsedd.Daliodd y tywydd yn sych y trohwn, gan i seremoni fore Llun orfodgael ei gynnal yn y Babell Lên. Yprifardd Dic Jones wrth gwrs oeddyr Archdderwydd, a derbyniodd tua36 i’r orsedd y bore hwnnw.Roedd rhai o Gapel Bangor ynbresennol ac yn teimlo yn falch iawnfod ein pentref y bore hwnnw ar fapyr orsedd fel petai. Wrth gwrs ‘rydymwedi llawenhau yn y gorffennol, pandderbyniaswyd merched o’r ardalparthed eu graddau coleg mewnCerdd a Chymraeg.Derbyniwyd Maldwyn fel“Maldwyn o’r Llan” am ei waith ynstiwardio’r eisteddfod, yn organyddyn Llangorwen dros bum deg oflynyddoedd, ac hefyd am ei waithfel clerc y Gymuned yno yn ygorffennol.Gwelwyd ef am y tro cyntaf arlwyfan y pafiliwn y prynhawnhwnnw, yn seremoni enillydd yGadair. Dymuniadau gorau iddo, ahyderwn ei weld y flwyddyn nesafyn Eisteddfod y Bala.Sioe Capel BangorCynhaliwyd sioe lwyddiannus iawneleni eto ar gaeau Maes Bangor acmi ‘roedd y tywydd yn ffafriol iawn.Cafwyd cystadlu brwd ymhob adranac mi ‘roedd yna nifer o stondinauo amgylch y cae. Llywyddion y sioeeleni oedd Mr. a Mrs. Elfed a HelenLewis, Glanrheidol. Mae y ddau ynadnabyddus iawn o fewn yr ardalgan eu bod newydd ymddeol o’ugwaith fel milfeddygon. Bu’r ddau ynbrysur iawn drwy’r dydd yn mynd oamgylch y cae ac yn cyflwyno y prifwobrau yn y gwahanol adrannau. Eutasg olaf oedd dewis yr anifail gorauar y cae ac mi aeth y wobr eleni iTegwen Jones a’r teulu Clawdd MelynPenrhyn-coch. Eleni am y tro cyntafcyflwynodd teulu Glasfryn gwpanhardd er cof am John yn rhoddedigi’r ceffyl gorau yn adran y Cobiauifanc tair oed neu lai. Yr enillyddoedd Teulu Frongoy, Pennant.Hoffai y pwyllgor ddiolch o galoni Deulu Keegan, Maes Bangor,am y defnydd o’r cae ac i DeuluCwmwythig am eu cydweithrediad.Diolch i bawb a fu yn stiwardio drwyy dydd, i Lynne a Rhydian am eugwaith da ar yr uchelseinydd, i’r rhaifu yn casglu arian i gynnal y sioe ac ibawb a fu yn cystadlu ac yn cefnogiPriodasPriodwyd Benjamin Ling,Cefnmelindwr â Glenda BenjaminLlangeitho ar Fai 24ain. Dymuniadaugorau i’r ddau yn y dyfodol.DyweddïadLlawenydd yw cofnodi dyweddïadMeinir Elenid Lewis, Deiniol,Pen-llwyn yn ddiweddar, â HuwEuron Jones Caerffili (Daren Pobly Cwm), a hynny ar Ynys Creta,rhamantus iawn!! Llongyfarchiadauiddynt a dymuniadau da i’r dyfodol.Pen blwyddCyfarchion i Mrs Ann Edwards,Hyfrydle ar ei phen blwyddarbennig yn ddiweddar.YsbytyDa clywed fod Mr Hywel Jones, AwelDeg, yn gwella wedi llaw-driniaethfeddygol yn ddiweddar.Hefyd, bu Mrs Dilwen Over,Eirianfa yn cael llaw driniaethfeddygol ar ei bigwrn ond wedi dodadref erbyn hyn.Deallwn fod Ms Ann LouiseDavies, Lleifior, hefyd wedi bod ynyr ysbyty.Cafodd Mr Iwan Jones, Tangeulan,ddamwain tractor yn Nhal-y-llyn yrhaf yma. Bu yn ffodus na chafoddormod o niwed, a’i fod yn teimlo ynwell erbyn hyn.Hefyd, gwnaeth Shaun Dryburgh,Maesmelindwr, niwed i’w ysgwyddmewn chwaraeon. Gwellhad llwyr abuan i chi i gyd.DiolchDymuna Yvonne a CatherineBonner, Maesawelon, LlwynTeifi Isaf, Ystumtuen, ddiolch ynfawr iawn i bobl yr ardal, am ycardiau, anrhegion, y gweddïau a’rdymuniadau da a dderbyniodd arei hymweliad â Ysbyty Bron-glais ynddiweddar.ColledionTrist iawn yw gorfod cofnodi pedwaro farwolaethau yr haf eleni.Mr Mike Bentham, CefnmelindwrSydyn iawn oedd marwolaethMr Mike Bentham, M &C Cabs.Gwyddom nad oedd yn hwylusa’i fod yn yr ysbyty yn disgwyltriniaeth, ond siom oedd clywed amei farwolaeth ar 9ed o Fehefin.Roedd yn adnabyddus, gan ei fod ynrhedeg cwmni tacsis llwyddiannusiawn. Tacsi ar ran ysgolion, unigolionneu i unryw faes awyr, lle bynnagfyddech am fynd, byddai Meic yntrefnu. Roedd yn ãr caredig, bobamser yn cefnogi mudiadau lleol, ynenwedig yr ysgol.Cynhaliwyd ei angladd yn EglwysDewi Sant ar 16eg o Fehefin, danarweiniad y Parchg John Livingstone.Cydymdeimlwn â’i wraig Caroline, eifeibion Chris, Peter a Daniel, ei famyng nghyfraith Doris a’r cysylltiadaueraill.Mr David Walker, Swyddfa Bostgynt.“Ni chafodd Mr Walker, yrymddeoliad yr oedd yn haeddU.”Dyna eiriau Dorothy Tannant, uno ffrindiau y teulu, a gyflwynodddeyrnged haeddianol ddydd eiangladd 12ed Awst yn AmlosgfaAberystwyth.Ganwyd ef yn un o 9 o blant ynWombourne, ger Wolverhampton.Bu yn gweithio mewn siopBapurau yn Penn, a daeth i fywi Benrhyn-coch ymhen amser,a rhedeg y Swyddfa Bost yno.Wedyn i’r Exchange Stores CapelBangor, cyn symud i SwyddfaBost y pentref, lle y bu dros ugainmlynedd tan ei ymddeoliad.Roedd yn ãr bonheddig, caredig acystyriol bob amser yn barod i helpua chynorthwyo unrhyw un. Roeddyn ryfeddol gyda’r henoed, yn barodi estyn cymorth at lenwi ffurflenni acati pan fo’r angen.Yn wir, cyfoethogodd fywydaulawer, cans y swyddfa bost oeddcanolfan y pentref, a thrist iawn oeddcolli’r cyfleusterau ar ôl ymddeoliadDave.Estynnwn ein cydymdeimladdwys â Mrs Walker, Richard y mab oGanada, ei wraig Rhonda ( a fethoddfod yn bresennol yn yr angladd)y teulu ac unryw gysylltiad arall.Arweiniwyd y gwasanaeth angladdolgan y Parchg Richard Lewis, BowStreet.

Y TINCER MEDI 2008 9Myfyrwraig y FlwyddynLlongyfarchiadau mawr iLowri Rhiannon Powell, 25Stad Penllwyn, ar dderbyngwobr HND/FDSc CynlluniauCeffylaidd ar ddiwedd y tymoracademaidd eleni. Pasioddei diploma HND mewnAstudiaethau Ceffylau o Sefydliady Gwyddorau Gwledig, PrifysgolAberystwyth. Mae’n gyn ddisgyblYsgol Pen-llwyn a Phenweddig,ac yn mynd yn ôl i’r coleg iddilyn cwrs un blwyddyn BScAstudiaethau Ceffylau.Mae Lowri bob amser wedibod yn ei hafiaith yn ymwneudâ cheffylau, felly pa ryfedd iddiwneud mor dda. Pob lwc adymuniadau gorau i ti Lowri ynystod y cwrs flwyddyn nesaf, achefyd i’r dyfodol.Mrs Blodwen M Evans,BrynsiriolYn sydyn iawn yn ysbyty Bron-glais,bu farw Mrs Blodwen Evans, ar 15edo Orffennaf yn 82 mlwydd oed.Adnabyddir hi fel Blod, yn un o drio blant Mr a Mrs Jenkins, Ellesmere,y diweddar Jackie ac Eva Joan eichwaer.Tyfodd i fyny yng NghapelBangor, a mynychodd ysgol gynraddPen-llwyn. Dechreuodd weithiomewn siop esgidiau Mortons, cynsymud i’r siop wlan S N Cooke, ble yrhoddodd wasanaeth clodwiw nes ybu i’r siop gau lawr. Symudodd Blodwedyn i Morgans y Gemydd ac arosyno tan ei hymddeoliad.Roedd yn un o aelodau cyntafpwyllgor gwaith neuadd y pentref, ahynny cyn ei adeiladu. Dechreuwydcronfa yn y pedwardegau, a buyn ffyddlon iawn yn codi arian,o gyngherddau, gyrfaon chwist,dramâu ac ati, a gynhelir y prydhynny yn hen ysgoldy’r capel.Roeddynt yn ddyddiau difyr.Roedd hefyd yn aelod o gapelPen-llwyn a bu yn ffyddlon iwasanaethau’r bore, tan dechreuoddei hiechyd ddirywio. Priodwydhi ag Emrys yn y capel ym 1950.Roedd ganddynt gonsyrn mawram eu gilydd, ac roedd colli Emrysddechrau’r flwyddyn, yn ergyd dromiddi. Teimlai unigrwydd dwfn, amethodd ddod i delerau â’r sefyllfa.Roedd yn gymeriad eithafannibynol, yn gymen a thaclus,a theimlai yn flin pan gorfu iddiddibynu ar eraill wedi colli eihiechyd.Byddai ffrindiau yn eichynorthwyo a rhai yn ei ffonio ynaml, er mwyn torri ar yr undonedd.Edrychai ymlaen at debygolrwyddei chwaer yn symud i fyw i’rcyffiniau, ond nid felly y bu.Arweiniwyd gwasanaeth eihangladd yng nghapel Pen-llwyn arOrffennaf 22ain, gan y Parchg IfanMason Davies. Yr organydd oeddMrs Enid Vaughan, a rhannwydy taflenni gan Mr J E Morris.Darllenodd y gweinidog deyrngedwedi ei pharatoi gan Mr MartinDavies, yn cydymdeimlo â’r teulu affrindiau oll.Mrs Mary Gwladys Jones TñCapel gyntBu farw Mrs Gwladys Jones, Hafan yWaun, ar y 30ain o Awst, yn oedranteg o 95 mlwydd oed. Roedd yn fami bedwar o blant ac yn fam-gu a henfam-gu gariadus.Gwasanaethwyd ddydd ei hangladdy 4ydd o Fedi yng nghapelRhiwbwys gan y Parchg. StephenMorgan yn cael ei gynorthwyo gany Parchg Ifan Mason Davies.Dywedwyd yn y deyrnged gany Parchg Stephen Morgan, maillawenydd oedd byw yn hên hebheneiddio.Ganwyd Mrs Jones ar y 27ain oFai 1913 ym Mronnant, a magwydhi yn heddwch bro Mynydd Bach,pan oedd y gymdogaeth y prydhynny yn addoli Duw, a chadw’ndriw i’r traddodiadau a pharchupopeth da.Symudodd yn 5 oed i Tynwern,Llangwyrfon, ble roedd yr unpatrwm yn bodoli. Yn 14 mlwyddoed, daeth adref i weithio ar yfferm, oherwydd nid oedd yna rywgyfleoedd mawr y pryd hynny. Ycanolbwynt oedd Capel Rhiwbwys,a’r Ysgol Sul ym Mryn Wyre.Nid oedd yn rhwydd i ddwyn ifyny pedwar o blant, go llwm oeddpethau, ond brwydrodd y wraig honyn galed.Yng nghynnwys y deyrngedadroddwyd y dywediad “Maebuddugoliaeth yn eiddo i’r sawl sy’ndal ati”Bu Mrs Jones yn wraig Tñ capelym Mhen-llwyn am bymthego flynyddoedd, ac roedd ynaddisgwyliadau o fod yn ofalwraig ycapel a’r ysgoldy ac ati, y pryd hynny.Bu yno yng nghyfnod y ParchgGruffudd Jones, a dywedodd yntauei bod yn wraig ofalus dros ben.Symudodd ymhen amseri Drefechan, Aberystwyth, acymaelodi yn y Tabernacl, nes caeoddy capel. Wrth gwrs yn anffodus:mae’r capel urddasol hwnnw wedi eilosgi i’r llawr, erbyn heddiw.Wedi hyn, nôl at ei gwreiddiau ydaeth Mrs Jones, i gapel Rhiwbwys,a fynychodd tan y flwyddynddiwethaf.Roedd wrth ei bodd yn Hafan yWaun, yn derbyn gofal ac yn falcho gael sgwrs gan hwn a’r llall fyddaiyn ymweld â’r Cartref. Dywedwyd ybyddai yn cofnodi o ddydd i ddyddpwy a oedd yn dod i’w gweld.Roedd ganddi wybodaeth mawram y gorffennol, a chyda’r meddwlclir a oedd ganddi, medrai bontioddoe a heddiw.Gwraig a ddaliodd ati acymddiddori yn y pethau sy’ncyfrif, dal yn gadarn gyda’i ffydd a’ihargyhoeddiad.Diolch am ei bywyd. Estynnwnein cydymdeimlad â Dewi, Mair,Gwilym ac Olwen, a’u teuluoedd, a’rcysylltiadau eraill i gyd.CydymdeimladEstynnwn ein cydymdeimlad â Mra Mrs Martin Davies , Delyth a Iona,Maencrannog, ar golli chwaer yngnghyfraith a modryb yn ddiweddar,sef Mrs Doreen Evans o Bontgarreg.Newid SwyddDymuniadau gorau i Mrs NiaDavies, Ceunant, ar ei swyddnewydd. Bu Nia yn gweithio ynSwyddfa y Dreth Incwm am drosddeg ar hugain o flynyddoedd, ondy sôn yw fod y swyddfa hon ynAberystwyth yn cau yn y dyfodol.Mae Nia wedi bod yn ffodus i gaelswydd arall yn adeilad y Cynnulliad,adran Ffermio. Pob lwc iddi yn ygwaith.Cylch Meithrin Pen-llwynThema y tymor diwethaf oedd “ynyr ardd” a bu’r plant bach byseddgwyrdd yn brysur iawn yn plannumoron, mefus pwmpen a blodauhaul. Buont yn dysgu llawer amwahanol fathau o bryfed, a chadwlindys i weld y broses o’r lindys yntroi’n pili pala.Bu y cylch meithrin yn brysuriawn yn codi arian. Cafodd y plantddiwrnod hwylus iawn yn cymrydrhan mewn taith beicio noddedig,a chael dod a beiciau eu hunain i’rdaith.Llwyddiannus iawn oedd diwrnodSioe Capel Bangor. Llongyfarchiadaui Blake, Osian a Meilyr am ennillgwobrau am y lluniau gorau o’uhoff anifeiliaid, a da iawn chi blantam gymryd rhan, ac am y lluniauda a wnaethoch. Roedd yna hefydstondin gwerthu planhigion, mefusa hufen, raffl fawr, peintio wynebaua stondin poteli. Diolch yn fawri’r noddwyr, a diolch i bawb fu yncefnogi ar y diwrnod.Pob lwc i Sian Donnelly – yrarweinyddes, yn ei swydd newyddyn ysgol Penrhyn-coch. Diolch iddiam bopeth yn enwedig ei holl waithcaled dros y blynyddoedd diwethaf.Croeso mawr i Gail Nolan o’r Borth,a fydd yn cymryd drosodd swyddSian fel arweinyddes. Croeso, a phoblwc iddi.Daeth yr amser i ffarwelio aGeorgia Evans, Ffynnon Wen CapelBangor a Thomos Morgan o BentreUchaf, Cwmystwyth, y ddau yndechrau yn yr ysgol Gynradd – poblwc i’r ddau yn eu hysgol newydd.Croeso mawr hefyd i Aeron syddwedi ymuno â’r cylch meithrin ynddiweddar.Thema’r tymor yma fydd“Dathlu”. Bydd y plant wrth euboddau yn cyfarwyddo a chymrydrhan mewn nifer o wahanolddathliadau fydd o nawr, tan diweddy flwyddyn.Mae’r cylch wedi cael “makeover”yn ddiweddar, diolch i’r staff a’rrhieni, am eu help. Mae yn lliwgariawn efo darluniau o gymeriadauar y wal gan gynnwys Sam Tân aSali-Mali.Mae yna groeso mawr i unrywblentyn rhwng dwy a phedairoed i ymuno â’r cylch meithrin;i fwynhau cwmni plant eraill achael dysgu drwy chwarae. Os oesdiddordeb gennych, cysylltwch âBethan James –y cadeirydd ar01970 890283 neu Gail Nolan- yrarweinyddes ar 01970 871390.Merched y Wawr – CangenMelindwrAr fore Sadwrn, 7fed Mehefin daethyr aelodau ynghyd o flaen neuadd ypentref. Dringwyd i’r bws ond nidoedd syniad gennym (ar wahân iddwy neu dair) ble byddai pen drawy daith. Rhaid oedd dewis llenwady frechdan ar gyfer cinio cyn i nigychwyn ar ein taith. Doedd nebyn fodlon datgelu ble y byddem ynmwynhau’r brechdanau.Teithiwyd i gyfeiriad y gogledd amawr fu’r dyfalu ble byddai pen ydaith. Dyma aros o flaen gwesty’rAfr Frenhinol ym Meddgelert llemwynhawyd brechdan a phaned.

10 Y TINCER MEDI 2008PARHAD ... CAPEL BANGOR / PEN-LLWYNOddi yno cerddwyd i’r pentref adilyn y llwybr a arweiniai at feddGelert y ci ffyddlon o’r bedwareddganrif ar ddeg. Doedd dim amseri ymweld â’r siopau diddorol yny pentref. Rhaid oedd dychwelydi’r bws a pharhau â’n taith. Aedheibio Rhyd-ddu a Llyn Cwellyn athybiai pawb y byddem yn cyrraeddCaernarfon. Ond nid felly y bu.Cyrhaeddwyd Rhosgadfan a dymaaros o flaen Canolfan TreftadaethCae’r Gors a agorwyd ym mis Maillynedd ac a fu’n gartref i KateRoberts. Fe’n croesawyd yno’ngynnes gan Megan, Siân a Dewi.Cawsom fraslun o fywyd a gwaithKate Roberts gan Megan cyn gwyliofideo.Yna fe’n rhannwyd yn ddau grãpac o dan arweiniad Siân a Dewicawsom gyfle i fynd i’r bwthyn aoedd wedi ei ddodrefnu yn arddullcyfnod Kate Roberts. Bu hyn ynbosibl oherwydd caredigrwydd ycyhoedd yn eu cyfrannu neu’nrhoi eitemau ar fenthyg. Nid oeddyr un o’r eitemau wedi bod yngNghae’r Gors yn ystod y cyfnod ybu Kate Roberts yn byw yno. Aed oamgylch y bwthyn er nad oedd hi’nbosibl mynd i’r groglofft. Gwelwydyr arddangosfa oedd yn cynnwysenghreifftiau o offer y chwarelwr a’rtyddynwr.Gwelwyd y cwt mochyn aoedd bellach yn lân ac yn wag acedmygwyd yr olygfa hardd wrthedrych draw am sir Fôn. Wedimwynhau cwpanaid o de cafwydcyfle i brynu llyfrau o waith KateRoberts yn ogystal ag eitemau yngysylltiedig â’r awdur. Llinos Jonesa ddiolchodd am y croeso cynnes agafwyd yn y Ganolfan. Trefnwydraffl a bu Margaret Dryburgh ynffodus o ennill y wobr.Wedi dychwelyd i’r bws,dosbarthwyd rhestr o gwestiynau i’rteithwyr er mwyn sicrhau ein bodwedi gwrando ac arsylwi’n ofalus.Cafwyd pryd o fwyd blasus ary ffordd adref yn y Llew Coch ynNinas Mawddwy. Yno, cyhoeddwydenillwyr cystadleuaeth y dydd.Eirwen Sedgwick fu’n fuddugolgyda Angharad Jones a DelythDavies yn rhannu’r ail wobr a daethHeulwen Lewis yn drydydd.Wrth iddi ddod i ddiwedd eichyfnod fel ein llywydd, diolchoddLiz Collison i’r aelodau am eucefnogaeth, gyda diolch arbennig iLlinos Jones ac Eirwen McAnulty,yr ysgrifennydd a’r trysorydd.Mis MediDechreuwyd ar ein tymor newyddar nos Fawrth, 2il Medi. Croesawydpawb yno gan Mary Jones, einllywydd. Hon oedd y noson argyfer ymaelodi a dyna a wnaethpawb yn ystod rhan gyntaf ynoson. Ein gãr gwadd oedd Mr.Geraint Lewis, cyn GyfarwyddwrCynorthwyol GwasanaethauDiwylliannol y sir. Fe fu’n bywyn y pentref am gyfnod rhaiblynyddoedd yn ôl. Teitl ei ddarlithoedd “Enwau Cymraeg a PhethauEraill.” Soniodd wrthym am eiwreiddiau yn Ynys-y-bãl ac yno ydechreuodd ei ddiddordeb mewnenwau. Diddorol oedd gwrandoarno’n sôn am darddiad rhai o’renwau Cymraeg a ddefnyddidyn ei ardal ac yn wir mewngwahanol ardaloedd yng Nghymru.Roedd yn amlwg fod ganddo wirddiddordeb ac arbenigrwydd ynei faes. Diolchwyd iddo am nosonddiddorol gan Beti Daniel. MargaretDryburgh a enillodd y wobr raffl.Mwynhawyd cwpanaid o de wediei baratoi gan Anne James, LlinosJones ac Eirwen Sedgwick.Amrywiaeth eang olyfrau, cardiau,cerddoriaethac anrhegion Cymraeg.Croesawir archebion gan unigolionac ysgolion13 Stryd y BontAberystwyth01970 626200COLOFN MRS JONESMi fyddaf yn meddwl yn amlfod gwaith yn cynyddu yn unolag amser rhywun i’w gyflawni.Os yw amser yn brin, yna y maegwaith yn tyfu fel madarch arôl glaw. Y mae ambell egwyddorarall yn perthyn i hyn ynogystal. Nid gwaith hawdd ddawi’ch cyfarfod, nid rhyw gwestiwnneu orchwyl hawdd y gellir eiwneud mewn byr dro fydd yneich disgwyl ond homar o job goiawn fyddai yn torri eich calonar ddyddiau digon o amser hebsôn am ddyddiau pryd y maegennych fwy o waith nag o anseri’w gyflawni.Y mae digon o gynghorionbuddiol ar sut i ddelio efogormod o waith. Ffefryn fymam oedd codi yn gynt adechrau ar waith yn syth.Gwneud yr anodd yn gyntafy byddaf i er mwyn ei gaelo’r ffordd a thra rwyf yn dali deimlo yn weddol sionc, ynarbennig os oes gennyf rywbethsydd yn gofyn trylwyredd neucryn feddwl uwch ei ben. Ondfy hoff ffordd i gyd yw caelrhywun arall i wneud y gwaithdrosof ac nid oes angen bodâ chywilydd o ofyn i rywunarall, y mae llyfrau cyfanwedi eu cyhoeddi ar y grefft o‘delegation’! Y mae caniatau irai iau neu rai mwy dibrofiadwneud y gwaith yn well fforddo’u dysgu sut i’w gyflawninag oriau o ddysgu - ac y maeo yn rhoi cyfle i chi bwysoa mesur eu haddasrwydd argyfer y swydd tan sylw. Nid ywtrosglwyddo gwaith i eraill oreidrwydd yn arwydd o wendida diogi, ychwaith, oherwydd ymae’n rhaid wrth weinyddu’rholl broses a gofalu fod y gwaithyn cael ei wneud.Ond yr hyn sy’n od amdanafyw hyn. Er fy mod yn ddaiawn am drosglwyddo gwaithi eraill yn fy ngwaith bobdydd, yr wyf yn wael iawn amei drosglwyddo yn fy mywydpersonol. Er fod blynyddoeddbellach o brofiad wedi’m dysgunad gwir y gair, yr wyf yn dali feddwl mai dim ond y fi fedrlanhau a choginio a smwddioyn ty’cw! A bum yn hir iawncyn deall paham. Ond, y dyddo’r blaen, wrth i mi ddarllenrhyw gylchgrawn neu’i gilydd, fewawriodd y gwir arnaf. Mae’ndebyg fod merched fy oed iwedi ein mwydo a’r syniadfod yn rhaid i ni nid yn unigweithio llawn amser ond cadwtñ i safonau caeth ein mamauna weithient yn ogystal fel naallwn eilio gwaith i’n gwñr a’ncymheiriaid heb deimlo ynfethiant.A mae’n rhaid i mi ddweud, feetifeddais safonau digon caeth,er mai rhyw gadw tñ digonpeth’ma a wnâi mam yn aml.Roedd hi’n gogyddes ragorolac yn wych am weu a gwnio( a saethu a hela a physgota athrin car petai’n dod i hynny)ond rhyw heliwr llwch aglanhawr digon difeind oeddhi a hynny oherwydd iddi gaelei magu mewn tñ a morwyn.Gwaith honno oedd hel llwcha chrynhoi,gwaith mam oeddei gweinyddu. Ac fe gafodd hyneffaith digon od arnaf fi mewndwy ffordd. Un peth oedd nachliriodd mam ar ei hôl wrthgoginio erioed, nid oedd wediarfer a gwneud y fath beth,gwaith y forwyn oedd a gwaithfy nhad a mi mewn cyfnoddiforwyn. A’r ail effaith yw maify nysgu i weinyddu a wnaethmam hefyd, fy nysgu pryd ygwnâi staff bethau er mai fibellach yw’r staff a fod yn rhaidimi wneud drosof fy hun.Agwedd arall a etifeddais ganmam yw’r gred nad yw llyfrauyn llanast. Na’n wir eu bod ynhel llwch ond anwybyddai mamhynny os nad oedd yn disgwylpobl ddiarth.Wedyn, gan mai’rgegin oedd ei stydi, âi ati i dwtioa glanhau. Fe wyddem ni osoedd pobl ddiarth ar y fforddar stad y gegin! A’r ffordd igythruddo mam oedd gofyniddi “Oes’na bobl ddiarth yndod?’’ “Go damia chi,” fyddai’rateb “‘ydech chi’n meddwl maidim ond pan genni fisityrs ydwi’n llnau?’” Nid dyna’r amser iddweud “Wel ie, fwy neu lai...”Nac i ychwanegu mai dad neu fiwnâi’r rhan fwyaf o ddigon o’rglanhau dydd i ddydd.Mae’n rhaid cofio dau betharall am waith. Un yw fodyn rhaid inni wrtho a’r llallyw fod gweithio yn galedsy’n ei gwneud hi’n bosiblinni fwynhau ein hamdden.Ac a minnau ar gychwyn fyngwyliau blynyddol ,mi rydw iam lynu at y syniad hwn!

Y TINCER MEDI 2008 112.005 Richard Ll. Jones12 M.J. Morris19 Bugail26 William T.E. OwenMADOGSuliau MadogHydrefGraddioLlongyfarchiadau i Tracy Smith, Y Bwthyn,a raddiodd ym Mhrifysgol Aberystwyth fisMehefin.BarbiciwAr 20 o Fehefin cynhaliwyd barbiciw ynLluest Fach a gwledd wedi ei pharatoi ganAlwen. Roedd yn noson ddifyr a’r tywyddyn fendigedig. Pleser oedd croesawullawer o ffrindiau. Cafwyd ychydig eiriaupwrpasol gan y Parchg Derick Adamsam gyfeillgarwch y Cristion a Christ.Dymunwn wellhad buan i Alwen sydd ddimyn hwylus ar hyn o bryd.CydymdeimladCydymdeimlwn â’r Athro PatrickSimms-Williams, Gwarcwm ar golli brawdyng nghyfraith ac â Dylan a Nia Jones,Maes-yr-Onnen, ar golli mam Nia – MrsLilian Howells, gynt o Bonterwyd.LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i’r disgyblion fu’nllwyddiannus yn yr arholiadau – TrystanDavies, Rhys Evans, Mared Hughes, RheinalltJones a Gruffydd Pugh Jones. Dymunwnyn dda iddynt yn eu gyrfaoedd newydd neuwrth ymadael i’r coleg.SioeauBu Hywel Evans, Elonwy, yn llwyddiannusyn y Sioe Frenhinol Llanelwedd, hefyd, Dei,Lyn a Shirley Evans, Rheinallt a Llñr Jonesyn y sioeau lleol ac Aled Thomas yn ytreialon cãn defaid.DiolchDymuna Alwen Griffiths ddiolch i bawb ynyr ardal a gyfrannodd i Gronfa Macmillan.LLANGORWENRHAGHYSBYSIADEglwys LlangorwenNos Sadwrn, Rhagfyr 6 am 7.30Cyngerdd gan Gôr Ar Ôl Tri, Iwan Parry(Bas) a Rhian Lois (Soprano)ytincer@googlemail.comCYNGOR CYMUNED TIRYMYNACHMis MehefinYng nghyfarfod mis Mehefin o dangadeiryddiaeth y Cyng. John Evans,cyfetholwyd dwy aelod newydd a oedd wedidangos diddordeb i fod ar y Cyngor, sef SianJones, Caergywydd a Meinir Lowry, Rhoslan,y ddwy yn ferched lleol a’u teuluoedd wedibod yn yr ardal ers sawl cenhedlaeth. Daeth yCyng. Sian Jones i’r cyfarfod yn ddiweddaracha derbyniodd groeso ei chyd-gynghorwyr.Cafwyd y sylwadau canlynol ar faterion yncodi o’r cofnodion. Arwydd yn y Lôn Groes -y clerc wedi gweld proflen er mwyn gwirio’rgeiriad. Mi ddylai gael ei osod yn fuan.Mabwysiadu gweddill ystâd Maesafallen - dimi’w ychwanegu ar hyn o bryd. Goleuadau StrydBlaenddol a Mynedfa Cartref Tregerddan -peiriannydd wedi bod yn cymryd mesuriadau,cawn glywed oddi wrth y cwmni trydan.Ffordd Bow Street - Clarach, a’r Cynllun iwella’r ffordd fawr Rhydypennau/Dolau/Maesnewydd - penderfynwyd gwahodd yCyng. Ray Quant, Aelod Cabinet HPW idrafod y materion hyn yn ein cyfarfod nesaf.Arosfan Bws ger Afallen Deg a Maes Ceiro -dim ateb, ond penderfynwyd ysgrifennu at yPrif Swyddog Trafnidiaeth yn Aberystwyth acar yr un pryd i gefnogi preswylwyr Clarach/Llangorwen i gael gwasanaeth bws ddwywaithy dydd drwy’r flwyddyn. Rhaid gyrru nodyneto i goffau Adran y Priffyrdd am yr angen amreflectors ar yr rheiliau ger Ysgol Rhydypennau.Adroddwyd bod rhai o’r Cynghorwyr wedibod yn torri a chlirio mieri oedd wedi tyfudros y seti.Mae’r ceisiadau cynllunio canlynol wedi eucaniatáu: 1. Codi garej ddwbl yn Glyn Rhosyn.2. Newidiadau ac estyniad yn y Coach House,Cwmcynfelin. 3. Estyniad i’r adeiladau mas igynnwys ystafell haul yn Fferm Bryncastell.5. Codi estyniad deulawr yn 63 Bryncastell.Ceisiadau newydd: Balconi pren ar TheBungalow, South Beach, Clarach - dimgwrthwynebiad.Clywyd, yn answyddogol, bod BT yn golygucau un ciosg ffôn yn yr ardal, bydd y Cyngoryn cadw llygad ar y mater. Adroddwyd bodaroglau drwg yn un rhan o Maes Ceiro, aphenderfynwyd cysylltu â Dãr Cymru. MaePC Hefin Jones yn golygu sefydlu’r CynllunPact yn ardal Bow Street/Llandre/Clarachar 29 Gorffennaf mewn cyfarfod cyhoeddusyn Neuadd Rhydypennau. Bydd angen trichynghorydd cymuned ar y pwyllgor acenwyd y Cynghorwyr Heulwen Morgan, SianJones a Dewi Jones fel cynrychiolwyr.Codwyd mater dyfodol hen YsgolRhydypennau. Teimlad llawer o’r ardalwyr ywna ddylid ei dymchwel ar unrhyw gyfrif, ondei ddatblygu o fewn fframwaith ei chymeriadpresennol. Penderfynwyd ysgrifennu at yPwyllgor Addysg, a chopi o’r llythyr i GyngorCymuned Genau’r-glyn.Adroddwyd bod y draen wedi tagu ar Benrhiwa’r dãr yn llifo i lawr at Nantafallen ar y nosonroedd y Cyngor yn cyfarfod. Mae hefyd angenpaent ar y seti yn y gymuned a daeth cwynbod un o faniau Delta yn cael ei gyrru i’r arosfao flaen Ysgol Rhydypennau bob nos er mwynhysbysebu ei gwasanaeth. Rhoddir y sylwpriodol i’r tri achos.Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldebanorfod y Cynghorydd Sir, Paul Hinge. Yroedd wedi paratoi adroddiad manwl ar nifer ofaterion priodol i’r gymuned ac addawodd ybyddai yn cwrsio rhain ac yn adrodd yn ôl yn ycyfarfod nesaf. Gwnaed defnydd o’r adroddiadwrth ymdrin â rhai o’r materion uchod.Mis GorffennafCyfarfu’r cyngor ar 31 Gorffennaf yn FestriCapel Noddfa o dan gadeiryddiaeth y Cyng.Owain Morgan. Croesawodd y Cyng. MeinirLowry i’w chyfarfod cyntaf fel cynghorwraig.Roedd y Cyng. Paul Hinge, CynghoryddCeredigion, hefyd yn bresennol.Nid oedd dim pellach i’w adrodd ynglñn âmabwysiadu ystâd Maesafallen, mwy na bod ybroses yn symud ymlaen yn araf. Dywedoddy clerc ei fod wedi cyfarfod â chynrychiolwyra fyddai yn gyfrifol am y goleuadau ar strydBlaenddol a’r fynedfa i Gartref Tregerddana’u bod yn trafod opsiynau ac fe ddaw’ramcangyfrifon i law yn fuan. Mae’r Cyng. RayQuant (Ceredigion) yn barod i ddod i’r cyfarfodnesaf i drafod problemau ffordd Bow Street- Clarach, a’r ffordd fawr Bow Street/Dolau/Maesnewydd. Mae cwmni Arriva yn ceisiogweithio cynllun allan ar gyfer gwasanaeth bwsClarach - Aberystwyth. Bydd adran o’r CyngorSir yn cysylltu â pherchennog y clawdd sy’ngwyro dros yr arosfan bws ym Mhen-y-Garn.Adroddwyd bod y Cynllun Pact wedi ei ffurfioyn yr ardal ddeuddydd ynghynt a bod 22 ynbresennol. Un o’r problemau sy’n codi peno hyn yw bod perchnogion cãn yn gadaeli’w hanifeiliaid i lygru palmentydd a chaeauchwarae yn yr ardal. Bydd y cyngor yn gwneudcais i wahardd cãn ar bob cae chwarae yn ygymuned yn ogystal â thraeth Clarach.Ysgol Dop Rhydypennau. Er nad yw’r henysgol yn ardal Tirymynach, iddi hi yr âi’rmwyafrif mawr o blant y gymuned am drosgan mlynedd. Mae’r cyngor yn pwyso ar i’rCyngor Sir am osod cyfamod rhwystrol ar yfaçade, fel y gellid cadw cymeriad yr adeiladsydd mewn lle mor amlwg.Adroddwyd bod y bibell garthffosiaeth sy’ndirwyn drwy dir Rhydhir Uchaf yn gollwngeto ar amserau arbennig, a bod Afon Clarach yncael ei llygru gan y gorlanw o’r gwaith trin ynBow Street. Deallir bod Dãr Cymru wedi bodyn arolygu’r sefyllfa ac nad ydynt am wneuddim ynglñn â’r sefyllfa, er bod yna gynlluni godi hyd at 20 o dai yng Nghomins-coch ac20 arall yng Nghae’r Odyn, Bow Street. Petaiffermwyr yn llygru’r afonydd ni fyddent fawr odro cyn cael eu galw i gyfrif a’u dirwyo.CYNLLUNIO: Mae cais am godi balconi preni’r Byngalo ar Draeth y De, Clarach wedi eiganiatáu, er nad yw’n glir sut mae gosod balconiar fyngalo! Nid oedd unrhyw wrthwynebiadi newid defnydd i ddau annedd ym Manaros,Pen-y-garn. Beth bynnag i bob golwg roeddy gwaith eisoes wedi cychwyn. Nid oeddwrthwynebiad i godi annedd newydd yn lle’run presennol yn Rhydhir Isaf, Bow Steret.Bydd y cyfarfod nesaf ar 25 Medi.

12 Y TINCER MEDI 2008PENRHYN-COCHSuliau HorebHydref5 10.30 Clwb Sul 2.30 Oedfagymun Gweinidog12 10.30 Oedfa deuluaiddGweinidog19 10.30 Clwb Sul 2.30 OedfaGweinidog Paned i ddilyn26 10.30 Oedfa GweinidogGenedigaethLlongyfarchiadau i Lisa a RhysDavies, Caerdydd ar enedigaethmerch fach – Nel – ar Fehefin22ain – wyres gyntaf i Non aColin Evans, Refail Fach.Eglwys St Ioan,Penrhyn-cochAr ddydd Sul Medi 7fed, yngngwasanaeth y bore â chynulleidfaniferus, bedyddiwyd Tomos Ifana Rachel Annie May, sef efeilliaidSian ac Alan James, Pen-banc,Penrhyn-coch. Gwasanethwyd gany Parchedig John Livingstone.Urdd y GwrageddDathliad y cymun bendigaid oeddnoson agoriadol y tymor newydd arnos Lun 8 o Fedi, dilynwyd hyn ganswper ysgafn a siawns i ymaelodi athrafod gweithgareddau’r flwyddyni ddod. Croesawyd pawb gan yllywydd Edwina Davies gan gofioam y rhai nad oedd yn bresennoltrwy afiechyd neu absenoldeb. Misnesaf fydd noson yng nghwmni DrAndrew Agnew a thema’r nosonfydd ‘Bywyd gwyllt dwyrain yrAffrig’.CydymdeimloMae yna amryw o deuluoedd wedicolli anwyliaid yn ystod yr haf.Estynnwn ein cydymdeimlad i bawbgan gynnwys:Sue Horwood a’r teulu, Glanffrwd;Mair Evans, 24 Glanceulan; TeuluGarej Tymawr; Teulu Cwmfelin;Teulu Jim Meredith, Llwyn Prysg;Teulu Glanaber; Mr a Mrs Jenkinsa’r teulu, Glanstewi.DiolchDymuna Ruth Davies, Ardwyn,ddiolch yn ddiffuant i’w theulua ffrindiau am y cardiau agalwadau ffôn, ac ymholiadauadeg ei anhwylder tra yn YsbytyBron-glais.Diolch hefyd i’r nyrsys, staff, a’rmeddygon yn arbennig Arbenigwry Llygaid, am bob gofal acharedigrwydd a ddangoswyd iddiyn ystod y pum wythnos yn WardRhiannon. Diolch o galon.CydymdeimladCydymdeimlwn â theulu Frondegar farwolaeth Sarah P. R.(Sally)Rowlands, Y Gorlan, Capel Seion,gynt o Frondeg. ar 15 Mehefin ynYsbyty Tregaron;â Janice ac Arwyn Morris, Sion aDylan, Glan Ceulan, ar farwolaethmam Janice o Beulah, Ceredigionar Fehefin 21;â Connie Evans a’r teulu, arfarwolaeth perthynas yng NghwmRhondda.â Mrs Eluned Morgan, 23 GlanCeulan, ar farwolaeth cefnder iddihi yn Llanrhystud yn ddiweddar.ac â Mary Thomas, Llys Myrddin,a’r teulu ar farwolaeth tad Maryddechrau Awst.DiolchDymuna Arwyn a Janice Morris,3 Glanceulan, ddiolch yn fawram bob arwydd o gydymdeimlada wnaethant dderbyn ar ôl collimam Janice.Clwb Cinio CymunedolBydd y Clwb yn cyfarfod ynNeuadd yr Eglwys dyddiauMercher 24 Medi, 8 a 22 Hydref.Cysylltwch â Egryn Evans – 828987 am fwy o fanylion neu i fwcioeich cinio.MarwolaethBu farw Thomas Bernard Jones,Llys-y-brenin, Aberystwythar Orffennaf 14 yn YsbytyBron-glais; gãr y ddiweddar Mair(Llwyngronw gynt). Estynnwn eincydymdeimlad â’r merched Glynisa Celyn a’u teuluoedd. Cynhaliwydgwasanaeth cyhoeddus ynAmlosgfa Aberystwyth ac yn dilynfe’i claddwyd ym mynwent Horeb.PriodasauLlongyfarchiadau a phobdymuniad da i Tudor Rowlands,Frondeg gynt, ar ei briodas â KellyMorris yn Login, Sir Gaerfyrddindydd Sadwrn 29 Mehefin.Hefyd i Dan a Leanne Field, 27Dolhelyg, a briodwyd ar Fai 24ainyn Eglwys St Maries, Standish. MaeDan ar staff Adran Gyfrifiadurony Llyfrgell Genedlaethol.Cwrdd gweddiBydd Horeb yn cynnal cwrddgweddi misol – cynhelir y cyntafPriodasLlongyfarchiadau i Lowri (Jones,Rhydyrysgaw, Penrhyn-coch) acOwain Schiavone ar eu priodasyng nghapel y Garn ddyddSadwrn, 5 Gorffennaf. Pobdymuniad da i chi yn y dyfodol.Mrs Morfudd Morrisgyda chwpan a soser agyflwynwyd iddi panymwelodd cynulleidfaoeddBethel, Aberystwytha Horeb â EglwysLlwyndafydd ger Ceinewyddym Mehefin. Bu Mrs Morrisyn byw yno pan oedd ei gãr,y diweddar Barchg ArwynMorris, yn weinidog ynorhwng 1949 a 1952.nos Fawrth Hydref 28 am 7.30.Croeso cynnes i bawb.Esgob newydd TyddewiDaeth Wyn Evans i fyw iBenrhyn-coch pan oedd tuablwydd oed ym Mawrth 1948gyda’i rieni, Y Parchg D. Eifiona Mrs Iris Evans pan ddaeth eidad yn reithor Eglwys Sant Ioan.Buont fel teulu yn rhan o’r ardalhyd 1957 pan benodwyd ei dadyn reithor Eglwys Sant Mihangel,Aberystwyth.Mae nifer o’r ardalwyr yn eigofio yn dda – rhai fel LlinosEvans, Dolwerdd, Dôl-y-bont arannai ddesg gydag ef yn yr ysgol;cyd-ddisgyblion eraill oedd ElsieMorgan a Jack Jones. Athrawon yrysgol ar y pryd oedd y prifathroRhys Jones a Mrs GwladysEdwards – sydd erbyn hyn yn 98oed ac yn byw yn Aberystwyth.Maent i gyd yn cofio mab y ficerfel un direidus a hoffus; yn ôlei gyn-athrawes roedd yn un aweithiai yn gyflym a chanddo gofda am bopeth a meddwl chwim..Byddai Mrs Edwards yn falch ogael ail gyfarfod ag ef os daw iBenrhyn-coch neu Aberystwythyn rhinwedd ei swydd.Cofia Agnes Morgan achlysurpan oedd criw o blant yn chwaraey tu allan i dy yn y pentref a’rperchennog yn cael gair â hwy. Featebodd Wyn Evans – Wyddoch

Y TINCER MEDI 2008 13chi pwy ydw i? Fi yw mab y ficerac un diwrnod fe fyddaf yn Esgob.Daeth ei broffwydoliaeth yn wir!Dymuniadau gorau iddo yny swydd oddi wth bawb ymMhenrhyn-coch.GraddauLlongyfarchiadau i CemlynDavies, Glan Ceulan ar gael gradddosbarth cyntaf yng Nghaerdydd.Dymuniadau gorau iddo ar y cwrsnewyddiaduraeth.Llongyfarchiadau i SeiriolDafydd, Rhandir ar gael gradddosbarth cyntaf yn Abertawe. Pobdymuniad da ar y cwrs ymchwil.DiolchHoffai Ellen Sheppard, Dolhelyg,ddiolch i bawb am bob cymwynasyn dilyn damwain tra ar wyliauyn yr Alban ddechrau’r haf.Gwellhad buanDymunir llwyr wellhad i MrsEluned Morgan, 23 Glan Ceulan,ar ôl derbyn llawdriniaeth ynYsbyty Yeovil, Gwlad yr Haf,ddechrau Awst. Brysiwch wellaEluned.Gwasanaeth diolchgarwchYng ngwasanaeth diolchgarwchHoreb eleni – ar Hydref 1af am7.30 – bydd Dr Dylan John ynsôn am ei ymweliad â Lesotho.Daw Dr John o Grymych agraddiodd eleni yn feddyg ymMhrifysgol Caerdydd ac maenewydd ddechrau gweithio ynYsbyty Llwyn Helyg, Hwlffordd.Pwyllgor Apêl Urdd 2010Cafwyd barbeciw a disgollwyddiannus nos Wener 5 Mediyn y Clwb Pêl-droed. Ynotynnwyd y raffl a chyhoeddwydmai’r canlynol oedd yr enillwyr:1 £100 (T.M. Price Plant Hire)Olwen Morris, Aberystwyth2 £100 (Mid Wales Travel) MeleriJones, 2 Dôl Helyg, Penrhyn-coch3 £50 (D J Evans, TrefnwyrAngladdau) H.J. Owen, Cemaes,Ynys Môn4 £50 (Carl Evans, Saer Coed)Jane Jenkins, Garej Tñ Mawr,Penrhyn-coch5 MOT (Garej Cwrt) RitchieJenkins, Cwm Bwa6 Chwaraewr DVD (Cooke &Davies Trydanwyr) RhianDobson, Cae MawrSIOE PENRHYN-COCH 2008Cynhaliwyd Sioe Penrhyn-cochar yr unfed ar bymtheg o Awst2008 yn Neuadd y Penrhyn, erfod y tywydd yn fregus ers trobellach ni wnaeth hynny amharuar y cystadlu gan i’r cystadleuwyrddod yn llwythog a’u cynnyrchi’r Neuadd rhwng 8.30 a 11.30,a’r drysau wedi cau a’r beirniadi gyd wrthi yn beirniadu, dymagyfle i mi fynd o amgylch, ac ynrhyfeddu o weld cymaint wedicystadlu a’r safon eleni eto ynarbennig yn y Penrhyn.Rhaid cyfaddef fod y cystadlui lawr ychydig eleni ar ambelli gystadleuaeth i gymharu â’rllynedd, ond anodd ydi caelllawnder a safon.Ein llywyddion eleni oedd7 Llun golygfa o Aberystwyth –(Jeremy Moore) Ceris Gruffudd,MaesyrefailDewisodd y ddau enillodd yrMOT a’r llun golygfa eu rhoi arocsiwn a chodwyd arian pellach i’rgronfa.Roedd elw y noson rhwng y rafflAnne a Keith Morris yng ngofal y barbeciwMr & Mrs Meirion Davies a’rTeulu, Llaingwyddil, Cefn-llwyd,yn anffodus methodd Mr Daviesa Trystan fod yn bresennol, ondfe gawsom gwmmni Mrs Daviesa Gwenllian y ferch, a braf oeddeu croesawu a’u cyflwyno i’rgynulleidfa. Mae Mrs Davies(Iona) yn ferch i’r diweddarBerry a Bronwen Evans, Gwynfa,Cefn-llwyd, (roedd Bronwen ynferch y Felin Penrhyn-coch), fellymae ei gwreiddiau yn ddwfn iawnyn y plwyf, ac roedd yn ddiolchgariawn o gael y cyfle i lywyddu yn ySioe eleni. Carem ddiolch yn fawr i’rteulu am dderbyn y gwahoddiad acam eu presenoldeb ar y dydd, ac ameu rhodd anrhydeddus i gronfa‘rSioe.a’r digwyddiadau yn £1,202Trefnir digwyddiad yn y Neuaddgan Bwyllgor y Neuadd ynfuan; bydd gan yr Ysgol ocsiwndydd Gwener 24 Hydref a byddy Pwyllgor Apêl yn trefnu iganu carolau ar ddwy nosonyn Rhagfyr nosweithiau Llun a^Salon cwn^Torri cwn i fri safonolGoginanKath 01970 88098807974677458Cawsant y fraint o gyflwyno’rgwobrau i’r enillwyr ac hefyddynnu’r raffl ar ddiwedd yprynhawn.Diolch i’r cystadleuwyr am eucefnogaeth unwaith eto, maentyn driw iawn ers llawer blwyddynbellach. Mae ein diolch i’rbeirniad hefyd yn rhoi o’i hamseri ddod atom, rhai ohonynt ynweddol agos ac eraill wedi teithiomor bell â Chaernarfon. Diolchhefyd i Aelodau’r Pwyllgor aceraill am fynd allan i gasglu oddrws i ddrws, eraill wedi bod yngaredig i baratoi’r Neuadd erbyny Sioe..Diolch i nifer o bobl amgyfrannu’r Cwpanau a’r gwobraui Raffl y dydd.Diolch i’r ddwy chwaer, sef MrsDelyth Ralphs a Mrs EdwinaDavies, am baratoi prydau o fwydblasus i’r Llywyddion, Beirniaid,a’r Stiwardiaid. Yn olaf ond nidy lleiaf ein hysgrifennydd AnnJames am ei gwaith diflino , yncael ei chynorthwyo gan MairJenkins Is –Ysgrifennydd a mawryw ein diolch i’r Trysorydd,Glenwen Morgans. Diolchhefyd i’r Is-lywyddion am eucyfraniadau i’r gronfa, maent ynrhy niferus i’w cynnwys yn yradroddiad hwn, ond fe fydd ynarestr llawn yn rhaglen Sioe 2009Diolch yn fawrD R Morgan (Cadeirydd y Pwyllgor)Mair Evans, Glan Ceulan, enillydd Cwpan R.A.O.BLodj Gogerddan am yr arddangosiad gorau yn ySioe – wedi ei gyfyngu i drigolion Plwyf Trefeurig;barnwyd gan Lywyddion y Sioe Iona a Gwen Davies.Mercher 15 a 17 Rhagfyr.Swydd gyntafLlongyfarchiadau a phobdymuniad da i Rhian Dobson, CaeMawr, ar ei swydd fel athrawesyn Ysgol y Dderi, Llangybi,Ceredigion.M. ThomasPlymwr lleolPenrhyn-cochGosod gwres canologYstafelloedd ymolchiCawodyddPob math o waith plymwrPrisiau rhesymolFfôn symudol 07968 728 470Ffôn ty 01970 820375

14 Y TINCER MEDI 2008Suliau HydrefY Garn10 a 5www.capelygarn.org5 Richard Ll. Jones Bugail12 M.J. Morris19 Bugail26 William T.E. OwenNodfa5 2.00 Gweinidog12 Diolchgarwch Undebol yrOfalaeth ym Methel, Tal-y-bontam 10.0019 10.00 Parch. Tudor Davies26 2.00 Gweinidog. CymundebHunangofiant ar y weBOW STREETEfallai y bydd rhai darllenwyryn cofio y diweddar Mr GwilymRhys Williams, tad BethanHartnup. Bu’n byw ym MaesCeiro ar ddechrau’r nawdegau acymddangosodd teyrnged iddo ynY Tincer.155 ( Ionawr 1993) t. 3.Roedd ei fam yn chwaer i fam-guRichard Huws, Bont-goch ( mamei fam). Mae Ruth Hartnup – eiwyres - sydd bellach yn byw yngNghanada wedi rhoi y cofiannau aysgrifennodd ei thad-cu ar gyfer eiwyrion ar y We, fel rhan o’i blog hi.www.spindriftpages.net/blog/ruth/memoirs-of-gwilym-williamsCeir penodau ar ei ieuenctid ynne Cymru , ei flynyddoedd yn ycoleg yn Aberystwyth, ei yrfa felathro, a’i hanes yn ystod y rhyfel a’iymddeoliad.PriodasLlongyfarchiadau mawr i SusanNia Edwards, merch Mr a MrsKen a Lynda Edwards, Elerch,Maes-y-Garn, Bow Street a SimonDavid Herron (Y FfiwsilwyrBrenhinol Cymreig), mab Mr a MrsDonald a Linda Herron, Llanafanar eu priodas yn eglwys Yr HollSaint, Llangorwen, Clarach ar y 26 oOrffennaf. Treuliasant eu mis mêlyn Awstralia. Dymunwn i chi eichdau hapusrwydd a dymuniadaugorau am briodas dda.23ain. Dymuniadau gorau iddynti’r dyfodol.Pen blwyddDathlodd y cyfaill Cecil Phillips,8 Tregerddan ei ben-blwyddyn 94 oed ar 9 Medi ac wrth eilongyfarch dymunwn iechyd gwelliddo yn dilyn dau gyfnod yn yrysbyty yn ddiweddar. Ein cofion atMaud ag yntau.LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i SeiriolHughes, Maes-y-garn, ar ei radd oGaergrawnt a dymuniadau gorauyn ei swydd fel ymchwilydd yngNghaernarfon gyda’r cwmniRondo ar y rhaglen deledu Sgorio.CydymdeimladCydymdeimlwn â MartinRobson-Riley, Llys Hywel a golloddei dad ddiwedd mis Mehefin.MarwolaethauCydymdeimlwn â theulu’rddiweddar Eunice Davies,Tregerddan a fu farw yn dilyncystudd blin.Hefyd bu farw Derek Horwood,Tregerddan a chydymdeimlwn â’ibriod Dorothy a’r plant.Cydymdeimlwn â Hetty Tillsan,17 Garreg Wen, ar farwolaeth ei nai,Mr Dyfrig Davies, Aberteifi.LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i RheinalltLewis, 40 Maes Ceiro ar eilwyddiant yn ei arholiadaullyfrgellydd yn ddiweddar.Y ddwy chwaer – gynt o Fryncastell - Caryl Ebenezer Thomas,Llandaf, Caerdydd ac Anwen Ebenezer Ellis, Gwaelod-y-garth aurddwyd i’r Orsedd fore Llun Awst 4 yn Eisteddfod GenedlaetholCaerdydd.GenedigaethLlongyfarchiadau i Aled acAmanda Jones, Caerdydd arenedigaeth merch fach – Ellie MaiLloyd Jones ar Orffennaf 31; wyresgyntaf i Gwen Lloyd Jones.LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i Tomos George,Llys Hedd, ar raddio gyda dosbarthcyntaf mewn Peirianneg ymMhrifysgol Caerdydd a dymuniadaugorau iddo yn ei swydd newydd yngNghanolbarth Lloegr.BedyddBedydd Bore Sul, 20 Gorffennaf,bedyddiwyd Llio Tanat, merch fachRhodri a Cet Morgan, a chwaerRhys ac Elain, gan y Gweinidog.Hefyd, estynnwyd croeso cynnesi Rhodri a Cet yn aelodau yn yGarn.Eunice Davies 15TregerddanYn y rhifyn diwethaf ym Mehefinsgrifennais air o ddiolch ar ranEunice i bawb fu o gymorthiddi yn ei salwch blin a’r trohwn rwy’n gorfod teyrngeduiddi a hithau wedi ‘n gadael ar19 Gorffennaf yn 75 oed.Ddeufisynghynt collwyd Ceridwen eichwaer ym Mhenegoes ac yrydym yn meddwl am John eubrawd a gollodd ddwy chwaerannwyl mewn cyfnod byr. Rydymyn cydymdeimlo gydag ef, gydaBrian a Hywel a gollodd eu mam,a gyda gweddill y perthnasau, ycymdogion a’r cyfeillion fu’n driwi Eunice heb anghofio teulu Islwynei phriod fu farw ym 1996.Merch i Sarah ac Ellis Jones,Abercegyr, oedd Eunice ac ynoy maged hi ar ôl i’r teulu symudi’r pentref o Lanwrin.Y cartre,y capel Wesle ac Ysgol DarowenAr y 7fed o Fehefin yn EglwysLlangorwen fe briodwyd JoanneSimkins, merch Stephen a ShanSimkins (gynt o Bryncastell) aGruff Jones, mab Bethan Bryna Bob Jones, Lodj Nanteos,Rhydyfelin. Maent wediymgartrefu ym Maes Afallen.Priodwyd Richard Evans, Erwlas,a Lynwen Beaufort o Lan-nonyn Eglwys Llansantffraid ar AwstSimon a SusanGruff a Joanne

Y TINCER MEDI 2008 15O’r Cynulliad – Elin Jones ACBedyddiwyd Tomos Hedd, mab Rhian Heledd ac Adrian, Caerdydda ãyr Gaenor a Gareth Jones, Hafle, Bow Street yng NghapelNoddfa ar 29ain o Fehefin gan y Parchg Richard Lewis.fu’r dylanwadau arni ac o gofioam ei chefndir cyfoethog gelliddweud gyda’r Salmydd fod ganddi‘etifeddiaeth deg-rhagorol ‘yn ôl yBeibl Cymraeg Newydd. Ar ôl gadaelysgol bu Eunice yn gweithio mewncaffi a siop esgidiau ym Machynllethcyn mynd i wasanaethu yngNghartref Dôl-llys, Llanidloes, cynsymud i weini yng Nghartref yDeva yn Aberystwyth. Canmolwydei gwaith yn y cartrefi yma gany penaethiaid a’r preswylwyr.Ynfuan wedi dod i’r Deva cyfarfu agIslwyn fy nghefnder oedd yn wasar y pryd gyda Llew a Jane Bebb,Blaendyffryn, Goginan.Priodwyd ar 26 Medi 1959 ynAbercegyr a chartrefwyd yn Ael-ybryn ar Benrhiw yn Bow-Street cynsymud ym 1968 i 15 Tregerddan.Ymaelodi yn y Garn ym 1960 acyno y bedyddiwyd Brian ym 1963a Hywel ym 1968 gan y diweddarBarchedig D.R.Pritchard.Ym 1974cafodd Islwyn ei lorio gan salwchdifrifol a bu’n gaeth i’w gadairolwyn am ddwy flynedd ar hugain.Edmygodd bawb ohonom eiddewrder yn ogystal a mawr ofalEunice a fyddai’n ymdrechu i’wolwyno hyd y pentref a’r ardal. Bu’rteulu o’r ddwy ochr o gymorthmawr a chymdogion a ffrindiau acnid anghofiwyd am y weddw a’rplant ar ôl colli Islwyn yn Ionawr1996.Pwysodd Eunice ar y ffydd ydaeth i wybod amdani yngnghapel Abercegyr ac yn y Garn aChartref Tregerddan lle byddai’nselog yn yr oedfa brynawn Sul.Roedd yn falch fod Gwenda aminnau wedi dychwelyd i’m hengartref a ninnau’n falch hefyd einbod yn gallu seiadu gyda hi ynystod y chwe blynedd diwethaf,ac yn enwedig yn ystod misoeddanodd ei chystudd.Brynhawn Gwener 25 Gorffennafdaethom ynghyd i’r Garn igynhebrwng Eunice ac arweiniwydy gwasanaeth gan y ParchedigWyn Rhys Morris a fu’n ymweldyn gyson â hi yn ei salwch, aminnau’n ei gynorthwyo ynoac ym mynwent Tal-y-bont, llegosodwyd ei gweddillion ym meddIslwyn ac Evan a Maggie ei rieni.Kathleen Lewis oedd wrth yrorgan. Diolchwn am fywyd a llafurEunice a llewyrched y goleunitragwyddol arni.W.J.EdwardsLlwyddiannauYm mis Gorffennaf graddioddJennifer Hughes, Bodhywel, wedicyfnod yn astudio Celfyddydau Cainyng Ngholeg Celf Gorllewin Cymru.Mae a’i bryd ar ddatblygu gyrfa felarlunydd cain ac ar hyn o bryd maestiwdio ganddi yn Aberystwythdrwy gynllun arbennig CwmniArad Goch sy’n rhoi cyfle i artistiaid.Y llynedd graddiodd ei brawdGethin o Ysgol Newyddiaduraetha’r Cyfryngau, Prifysgol CymruCaerdydd. Bellach mae’n gweithio ymMhen-coed ger Pen-y-bont ar Ogwr,gyda chwmni Sports Media Servicessy’n cynhyrchu rhaglenni chwaraeonar gyfer S4C megis “Pencampau”,“Rygbi’r Byd” a “Pele 1 - 0”. Yn dilyny graddio bu’n ymgymryd â naidbynji gan godi nawdd o bron £600a gyflwynwyd i elusen MENCAP.Diolchir i gyfeillion am ei noddi.Llongyfarchiadau a dymuniadaugorau i’r ddau.CydymdeimladCydymdeimlwn a Dai, Auriela Ruth Evans, Trewylan, arfarwolaeth wncwl i Dai yn CnwchCoch yn ddiweddar.Daeth Gweinidog IechydLlywodraeth y Cynulliad,Edwina Hart AC, yn arbennigi Aberystwyth ar ddechraumis Mehefin er mwyn datganei bod wedi cymeradwyocynlluniau i fuddsoddi £31miliwn yn Ysbyty Bronglais.Ddwy flynedd yn ôl roeddtrigolion Ceredigion yngorymdeithio i wrthwynebucynlluniau i symudgwasanaethau mamolaeth oAberystwyth i Gaerfyrddin, acmae’r buddsoddiad yma yn dropedol arwyddocaol. Bydd yrYmddiriedolaeth Iechyd nawryn parhau gyda’r cynlluniaui adeiladu estyniad newyddi’r ysbyty a fydd yn cynnwysadran ddamweiniau newyddynghyd â theatrau ychwanegol.Bydd wardiau eraill presennol– gan gynnwys y wardmamolaeth – hefyd yn cael euhailwampio.Ychydig cyn ymweliad yGweinidog ag Aberystwyth,fe gyhoeddwyd yr adroddiada gomisiynwyd ganddioddi wrth Dr Alan Axfordar ysbytai cymunedolCeredigion. Rwy’n falchiawn bod yr adroddiadhwn wedi cadarnhau bodyr angen yn parhau amysbytai gyda gwelyau ynAberteifi a Thregaron, ynghydâ chanolfan iechyd ynAberaeron. O ganlyniad, rwy’ngobeithio y bydd pawb ynparhau i gydweithio i ddod â’rcynlluniau cyffrous i ffrwyth– yn enwedig yn Aberteifi blemae anghytuno dros leoliadDOLAUi’r datblygiadnewydd ynparhau i oedi’rbroses.Yng nghanolyr hollnewyddda am ygwasanaethiechyd, fegefais siom fawr wrthglywed bod Swyddfa’r PostCyf wedi penderfynu parhauâ’u cynlluniau i dorri’r nifero ganghennau sydd ganddyntyng Ngheredigion. Mae ynadeimlad cryf iawn yn erbyn ycynigion yma ymysg trigolionCeredigion ac rwy’n siŵr ybydd nifer ohonoch yn rhannufy siom â’r penderfyniad hwn.Fodd bynnag, mae dyfodolpedair Swyddfa Bost ynparhau yn y fantol – Llanilar,Llangeitho, Llanddewi Brefi aPhontsian – wrth i Swyddfa’rPost Cyf a Golwg ar Bostdrafod y cynlluniau ar gyferyr ardaloedd hyn ymhellach.Byddaf nawr yn cynnaltrafodaethau brys gyda’r ddausefydliad yma ar y mater hwn.Yn olaf, roedd hi’n braf iawnmynychu Rali’r FfermwyrIfanc ym Mhrengwyn a SioeAberystwyth yn ddiweddar.Gyda’r haf bellach wedicyrraedd, mae tymor y sioeaueisoes wedi cychwyn acedrychaf ymlaen at fynychuamryw o ddigwyddiadau arhyd a lled y sir – gobeithio’nwir y gwelaf rai ohonoch yno!Elin Jones ACPriodwyd Anna MarieRichards, merch Ken a SusanRichards, Bow Street ac ElfynLloyd Jones, mab ElizabethJones Maes Ceiro a’r diweddarEdward Lloyd Jones ar Awst2il yn Eglwys Mihangel Sant,Llandre. Y morwynion oeddHolly Richards (chwaer ybriodferch) a Meganne John.Y gwas oedd Carwyn LloydJones (brawd y priodfab),a’r ystlyswyr oedd DannyRichards (brawd y briodferch),Rhys ap Tegwyn, JordanLloyd Jones a Benjamin LloydJones (Neiaint y priodfa).Cynhaliwyd y brecwastyn y Falcondale Llambed.Treuliwyd y mis mêl ynYnysoedd y Seychelles.

16 Y TINCER MEDI 2008Rhiannon Ifans: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion.£6.99. 96t.Y mae pwyslais CymdeithasLyfrau Ceredigion bob amserar gynhyrchu cyfrolau syddnid yn unig yn newydd affres o ran cynnwys, ond syddhefyd yn plesio’r llygad ac ynrhoi boddhad i’r sawl sy’n eucyffwrdd a’u bodio. Enghraifftcystal â’r un yw’r gyfrol fechandan sylw, sef y drydedd mewncyfres hynod ddeniadol ofonograffau ar amrywioldestunau. Eisoes cafwydPwy oedd Rhys Gethin ganCledwyn Fychan, sef ymchwilam gadfridog Owain Glyndãr,a Gohebydd yng Ngheredigiongan Dylan Iorwerth, sef hanesJohn Griffith (Y Gohebydd) acEtholiad 1868 yng Ngheredigion,ond yn y gyfrol newydd hondyma fentro y tu hwnt i ffiniauCymru ac i Awstralia bell.Y mae’n ffaith dra hysbys wrthgwrs nad oes ond ychydig iawn,iawn o bynciau na chyffyrddwydâ hwy gan y llu o faledwyr afu’n trampio ledled Cymruyn ystod y ddeunawfed a’rbedwaredd ganrif ar bymtheg,yn canu a gwerthu eu cerddi.Yn y cynhyrchion hyn – digonanghelfydd yn aml – y câi’rwerin bobl olwg, nid yn unigar hynt a helynt y byd a oeddo’u cwmpas yng Nghymru, ondambell gip hefyd ar y byd mawrdros y moroedd – daeargrynyn Lisbon, rhyfel cartref ynAmerica, gwrthryfel yn yrIndia, gwarchae Sebastopol, acyn y blaen. Ac fel y dengys DrRhiannon Ifans yn y gyfrolhon, nid aeth Awstralia’n angofchwaith. Y mae’r awdur i’wllongyfarch ar daro ar ddulldychmygus iawn o gyflwynonifer o faledi’r ganrif fawr ynhanes y faled Gymraeg, sef ybedwaredd ar bymtheg. Wrthdrafod naw ohonynt, a phobun yn dwyn rhyw gysylltiadag Awstralia, mae’n llwyddo iwneud dau beth yn bennaf,sef tanlinellu pwysigrwydd ycaneuon gwerinol hyn o rany wybodaeth y gellir ei ddenuohonynt o’u darllen yn ofalus,gan gynnwys darllen rhwng yllinellau weithiau, a hefyd sut ygallant ein tywys i feysydd traannisgwyl weithiau. Ymfudo iAwstralia, gan amlaf i chwilio amaur a chyfoeth sydyn, yw’r themaganolog yma, ond yn sgil hynnycawn wybod nad cwbl anarferolydoedd i ferched ieuanc yn euhugeiniau fentro ar yr anturAdolygiadenbyd hon i bellafoedd byd, aolygai fisoedd ar y môr mewnllongau digon bregus. Yr oeddbaledi am famau yn hiraethu ameu meibion a aeth ar yr un daith,yn boblogaidd dros ben, ond ynhytrach na bodloni ar gofnodihynny’n foel yn unig, ceir yma yneu cysgod ddarlun o psyche’r famGymreig, a dull y mab Cymreigo’i thrafod. Down wyneb ynwyneb hefyd â nifer o gymeriadauadnabyddus megis Twm o’r Nant,a rhai llai adnabyddus megis SyrPeter Mytton, Isaac Thomas,Aberdâr (‘Yr Hen Undertaker’), a’radyn pennaf hwnnw, FrederickBailey Deeming a laddodd eiwraig a’i blant a’u claddu danlawr y tñ. Tywysir ni i fydllofruddiaeth a chrogi, i fydllongddrylliadau a hyd yn oedganibaliaeth, heb golli golwgunwaith ar y llinyn Awstralaiddsy’n cydio’r cyfan wrth ei gilydd.Ceir yn y gyfrol luniau hefyd,wedi eu hatgynhyrchu’n dda,o longau ac o daflenni baledi ycyfeirir atynt yn y testun.Gan gofio mai awdur y llyfrtra defnyddiol, onid anhepgor,hwnnw, Y Golygiadur (eto o stablCymdeithas Lyfrau Ceredigion)yw awdur y monograff ymahefyd, prin bod angen nodi iddogael ei gyflwyno’n lân a diddorol.Anogaf ddarllenwyr y Tinceri’w brynu ar y cyfle cyntaf, a’iddarllen. Ni chewch eich siomi.Tegwyn Jones4 ffordd o gysylltu a MarkCymorthfeydd Cyngor ar drawsCeredigion. Manylion o’n swyddfani ar 01970 615880Ysgrifennwch naill at Mark WilliamsAS, 32 Rhodfa’r Gogledd,Aberystwyth, SY23 2NF MarkWilliams AS, Ty’r Cyffredin,Llundain, SWIA OAA01970 615880 0207 2198469williamsmf@parliament.ukCYNGOR CYMUNED TREFEURIGCyfarfu’r Cyngor nos Fawrth,29 Gorffennaf, yn Neuadd yPenrhyn gyda’r cadeirydd, Cyng.Richard Owen, yn y gadair.Roedd naw o’r cynghorwyreraill yn bresennol ynghyd â’rClerc a’r Cynghorydd Sirol.Adroddodd y Clerc fodcyfarfod wedi’i gynnal gydaScottish Power i drafod yposibilrwydd o gael goleuadauochr ffordd ychwanegol mewnrhannau o Benrhyn-coch aPhenrhiwnewydd.Penderfynodd y Cyngor ofynam brisiau ar gyfer y cysylltu a’rgosod cyn symud ymhellach.Roedd mater y cyfeiriad post‘Cwmsymlog’ wedi’i godi, ganfod y cyfeiriad yn cynnwysardal Pen-bont Rhydybeddau,ac yn achos dryswch yn aml;penderfynwyd holi barntrigolion Pen-bont i weld afyddent yn cefnogi newid ycyfeiriad post.Adroddodd y Cadeiryddam gyfarfod o bwyllgor ArdalCeredigion o Un Llais Cymru ybu ynddo, ynghyd â chyfarfodam y Cynllun Datblygu Lleolyn Aberaeron. Roedd hefydwedi bod ym more coffiblynyddol Ysgol FeithrinTrefeurig. Rhoddodd y Cyng.Kari Walker adroddiad am eihymweliad â garddwest ymMhlas Buckingham.Trafodwyd gwerthu Tñ’rYsgol yn Nhrefeurig, aphenderfynwyd ysgrifennu at yCyngor Sir yn pwyso arnynt iganiatáu’r lês ar adeiladau’r ysgoli’r Grãp Datblygu cyn arwyddoi werthu Tñ’r Ysgol. Roedd BTyn bwriadu gwneud i ffwrddâ phum ciosg teleffon yn ardaly Cyngor. Penderfynwydgwrthwynebu hyn gan fod yblychau ffôn hyn yn gallu bodyn bwysig mewn argyfwng osnad oes signal ffôn symudol i’wgael.Adroddodd y Clerc fod yrarchwiliad mewnol o gyfrifony Cyngor am 2007/08 wedi’iorffen, a rhoddwyd copi i bobaelod. Roedd y dogfennauperthnasol yn awr wedi’uhanfon i’r archwiliwr allanol.Roedd y Cyngor wedi caelgwybod am y penderfyniadaucynllunio canlynol lle’r oeddcaniatâd wedi’i roi: ail ran YDdôl fach, Penrhyn, 10 tñ; plotger Brynawel, Cefn-llwyd, tñ;tir ger Arosfa, Salem, tñ; Plas yCoed, Cwmerfyn, estyniad; 1Glanseilo, Penrhyn, estyniad;3 Pen-y-berth, Penrhyn,newidiadau; Rhoserchan,Penrhyn, paneli haul. Trafododdy Cyngor ddau gais: codi tñar dir ger Y Gelli, Cefn-llwyd– dim gwrthwynebiad; coditñ ar dir ger Ysgol Trefeurig –penderfynwyd gwrthwynebu’rcais gan fod y tir y tu allan iardal y pentref presennol, ac oran diogelwch byddai’n anoddiawn gweld y fynedfa o un ochr.Byddai’r cyfarfod nesaf ynYsgol Trefeurig, nos Fawrth, 16Medi.

Y TINCER MEDI 2008 17YSGOL PEN-LLWYNMabolgampauB echgyn Bl 5 a 6 - Shaun D rybughCynhaliwyd mabolgampau ysgolPen-llwyn yng nghae Eon yngNghwmrheidol ar brynhawn DyddMawrth Gorffennaf 1af.Ar ôl cystadlu brwd, Melindwrddaeth yn gyntaf, Rheidol yn ail, acYstwyth yn drydydd.Amy Dryburgh oedd y VictrixLudurum a Oliver Hershel y VivtorLudurum.Ras 400m a Ras 800mMerched Bl 3 4 5 a 6 - AmyDryburghBechgyn Bl 3 a 4 - Jo JonesBechgyn Bl 5 a 6 - Daniel BenthamMabolgampau Ardal AberystwythShaun Dryburgh - 2ail Taflu PelOliver Herchel - 4ydd Naid UchelSioe Capel BangorCyflwynwyd y tariannau i’rbuddugwyr gan Mr Elfed Lewis.Rhedeg Ras 60m/80m/100mMerched Dosb 1 - Nuala Ellis JonesBechgyn Dosb 1 - Iestyn WatsonMerched Bl 3 a 4 - Amy DryburghBechgyn Bl 3 a 4 - Gethin a JoMerched Bl 5 a 6 - Roisin RobinsonBechgyn Bl 5 - Gerallt WilliamsBechgyn Bl 6 - Shaun DryburghRas SachMerched Dosb 1 - Nuala Ellis JonesBechgyn Dosb 1 - Iestyn WatsonMerched Bl 3 a 4 - Amy DryburghBechgyn Bl 3 a 4 - Tomos EvansMerched Bl 5 a 6 - Annie LewisBechgyn Bl 5 - Gerallt WilliamsBechgyn Bl 6 - Shaun DryburghRas Wy a LlwyMerched Dosb 1 - Nuala Ellis JonesBechgyn Dosb 1 - Iestyn WatsonMerched Bl 3 a 4 - Amy DryburghBechgyn Bl 3 a 4 - Jo JonesMerched Bl 5 a 6 - Roisin RobinsonBechgyn Bl 5 - Gerallt WilliamsBechgyn Bl 6 - Tomos WatsonTaflu PelMerched D osb1 - Nuala Ellis JonesBechgyn Dosb 1 - Iestyn WatsonMerched Dosb 2 - Roison RobinsonMerched 3,4,5,6 - Roison RobinsonBechgyn Bl 3 a 4 - Gethin apDafydd, Jo JonesCanlyniadau Ysgol Pen-llwynBL 5 a 6 Cerrig wedi eu addurno1af, Annie Lewis, 2ail ShaunDryburgh a Roisin Robinson,3ydd Tomos Nichols a DanielBentham.Bl 3 a 4 - 1af Manon Davies, 2ailRhian James a Jo Jones, 3yddMathias Roberts.Matiau wedi eu haddurno1af - Grwp Annie, Roisin, TomosWatson, Tomos Oliver a Mathias.2ail - Grwp Ieuan, Amy, Rhian,Rhodri a Manon.3ydd - Grwp Amy B, BethanyVeiran, Alison, Jo a Lauren.Adeiladau dwyreiniol mewn cwyra phaentBl 5 a 6 - 1af Tomos Watson, 2ailOliver Herchel, 3ydd Ieuan Evansa Rowan EdwardsBl 3 a 4 - 1af Gethin ap Dafydd2ail - Tomos Evans a Amy Baron3ydd - Amy Dryburgh a RhianJamesAdeiladau o amgylch y bydBl 5 a 6 - 1af Shaun Dryburgh a HalYoung, 2ail Roisin Robinson, 3yddGerallt Williams a Dylan WilliamsBl 3 a 4 - 1afAmy Baron, 2ailTomos Evans, 3ydd Mathias aKeiranAdeiladau Rhyfedd1af Rebecca, 2ail Nuala a Haf,3ydd Steffan a LlyrAnifail ar gefndir Marmor1af Alaw, 2ail Laura, 3ydd Alan aNathanielPypedau1af Rebecca, 2ail Iestyn a Myfanwy,3ydd AlanTrip yr ysgolCawsom drip yn ein cynefin yrhaf hwn. Diwrnod difyr yngNghanolfan Amgen, Corris. Wrthgwrs roedd rhaid cael hyfen ia ar yffordd adref.Cwrs BeiciauLlongyfarchiadau i’r plant fu’ncwblhau y cwrs beicio. Steffan acAnnie Lewis, Ieuan Evans, ShaunDryburgh, Tomos a Iestyn Watson,a Rowan Edwards a Rhodri Jones(heb fod yn y llun)Dymuniadau gorauDymuniadau gorau i TomosWatson a Rhodri Jones ynysgol Penweddig. Hefyd ShaunDryburgh, Hal Young, AnnieLewis, Roisin Robinson, DanielBentham a Rowan Edwards ynysgol Pen-glais.Braf iawn oedd cael croesawuMorgan ar ei ddiwrnod cyntaf ynyr ysgol ac yn dosbarth un.RHODRI JONESBrici a chontractiwradeiladu07815 121 238Gwaith cerrigAdeiladu o’r newyddEstyniadau PatiosWaliau garddLlandre Bow StreetM & D PLUMBERSGwaith plymer & gwresogiPrisiau Cymharol;Gostyngiad iBensiynwyr;Yswiriant llawn;Cysylltwch â ni yngyntaf ar01974 28262407773978352

18 Y TINCER MEDI 2008YSGOL RHYDYPENNAULlun o’r plant a gafodd wobr ar ddiwrnodGwobrwyo’r ysgol ar ddiwedd tymor diwethafGarddwest yr ysgolAr yr 28ain o Fehefin cynhaliwydGarddwest yr ysgol. Agorwyd yrarddwest yn swyddogol gan MrsGaenor Jones; gynt o’r ysgol dop.Cafwyd nifer o weithgareddau difyrac amryw o stondinau pwrpasol ermwyn codi arian i’r ysgol. Hoffai’rysgol ddiolch o galon i Mrs GaenorJones a’i gãr Gareth ac hefyd irieni a chyfeillion yr ysgol a fu’nbarod iawn i gynnig cymorthar y dydd. Diolch arbennig i MrHeath Raggett, cigydd y pentref acACE Decorating Suppliers fel prifnoddwyr yr arddwest eleni; mi fyddyr arian a godwyd yn ystod y dyddyn gymorth sylweddol i brynuadnoddau pwysig iawn er mwynhyrwyddo addysg pob plentyn ynyr ysgol.Am bob math owaith garddioffoniwch Robert ar(01970) 820924 blwyddyn 6 yn ran o Griw Cãl yrPrysurdebAr ddechrau blwyddyn academaiddarall, mae prysurdeb yr ysgol ynparhau. Yn barod, rydym yn y broseso ethol, trwy bleidlais, Y CyngorYsgol. Fel pob blwyddyn arall mifydd aelodau’r cyngor yn cwrddyn rheolaidd er mwyn gwneudpenderfyniadau pwysig a sicrhau llaisswyddogol i weddill y disgyblion.Yn ychwanegol i hyn, ac arôl cwblhau ffurflenni cais achyfweliadau gyda’r prifathro, maeTîm criced llwyddiannus yr ysgol - pencampwyr Canolbarth aGogledd Cymru un o ddau dîm yn unig i gynrychioli Cymruym Mhencampwriaethau Prydain yn Grace Road Caerlyr ar y14eg o Fehefin - Gorchest!ysgol. Maent yn gyfrifol am nifer oddyletswyddau pwysig yn ystod yflwyddyn.Croesawu a FfarwelioHoffai’r ysgol estyn croeso cynnesi Miss Rhian England fel aelodnewydd o’r staff dysgu. Mi fyddMiss England yn gyfrifol amFlwyddyn dau tan y Nadolig.Croeso hefyd i Miss Becky Bettanya fydd yn ymuno â’r staff cynnaldysgu.Hoffai’r ysgol hefyd ddymuno pobhwyl i blant blwyddyn 6 y llyneddwrth iddynt ddechrau bywydaddysgol newydd yn yr ysgolionuwchradd. Derbyniodd pob unohonynt rodd wrth ymadael â’rysgol am y tro olaf.Hwyl yr arddwest

Y TINCER MEDI 2008 19YSGOL PENRHYN-COCHTenisYn dilyn llwyddiant yngnghystadlaethau cylch Aberystwyth,teithiodd dau o dîmau tenis o’rysgol i lawr i Gaerdydd. Pwrpasy daith oedd cystadlu ymmhencampwriaethau Cymru argyrtiau clwb David Lloyd. Bu tîm ofechgyn a thîm o ferched o flwyddyn6 yn cystadlu. Profiad anhygoel oeddy diwrnod drwyddi draw gyda’rdisgyblion yn cael cyfle i chwaraear gyrtiau o’r safon uchaf mewnawyrgylch unigryw. Er na ddaethyr un tim i’r brig, cafwyd gêmauarbennig a llwyddwyd i ennill niferohonynt. Aelodau’r tîmau oedd:Rowan Hughes, Harry Walker,Harry Whalley, Ryan Witts, RhydianMorgan, Alice Andrews, GwennoMorris, Lowri Donnelly a SamanthaMerry. Diolch yn fawr i’r ClwbPêl-droed am gael defnydd o’r bwsmini am y diwrnod. Diolch i MrHill am y trefniadau.MabolgampauEleni llwyddwyd, er gwaethaf ytywydd, i gynnal ein mabolgampau.Cynhaliwyd nifer o gystadlaethau ymaes cyn diwrnod y mabolgampau.Croesawyd disgyblion y cylchmeithrin atom i redeg ac i fwynhau.Cafwyd prynhawn da a chaled ogystadlu gyda’r marciau mor agoseleni nad oedd y canlyniad wedi eigyrraedd hyd ddiwedd y ras olaf.Yn y pen draw, er yr holl gystadluagos a theg, Stewi a ddaeth i’r brig.Cyflwynwyd tarian yr enillwyri’r capteiniad – Harry Whalley aGwenno Morris. Enillwyd y marciaumwyaf ym mlwyddyn 6 ganHarry Whalley a Lowri Donnelly.Llongyfarchiadau i bob un am eugwaith arbennig ac i’r staff am ygwaith trefnu a chofnodi.FfarwelioAr ddiwedd y tymor diwethafffarweliwyd â nifer o staff yr ysgol.Ffarweliwyd â Miss Ceri BethanMorgan, Mrs Lowri Jones, Mrs EirianDafis a Miss Elen Huws. Diolch i’rdair ohonynt am eu gwaith di-flinogyda disgyblion yr ysgol yn ystod yblynyddoedd diwethaf. Cyflwynwydblodau iddynt ar ddiwedd eucyfnodau yn yr ysgol. Cyflwynwydgwnïo arbennig gan ddisgyblion ydosbarth i Miss Morgan.CroesoCroesawyd nifer o staff newydd i’rysgol ar gychwyn y tymor newydd.Daeth Miss Rhian Davies atomTimau tenis yr ysgol y tu allan i Glwb tenis David Lloyd yng Nghaerdyddam ddau ddiwrnod a hanner yrwythnos i addysgu o dan y cytundebbaich gwaith. Apwyntiwyd Miss EleriEdwards a Mrs Siân Donnelly atomi gynorthwyo yn y Cyfnod Sylfaenynghyd â Miss Angharad Robertssy’n gofalu am ddisgybl. Croesoiddynt a gobeithio y byddant ynhapus yn yr ysgol.DiolchDiolch i Mari Turner am ei gwaitharbennig gyda’r disgyblion. Bu’nymweld â’r ysgol yn rheolaidd igynnal gweithdai drama gyda’rdisgyblion.Sioe FrenhinolEleni eto, bu’r disgyblion wrthi ynparatoi ar gyfer y Sioe Frenhinol.Cyn cychwyn y Sioe, aeth tri llondcar o eitemau i fyny i’w beirniadu.Diolch i Mrs Meinir Davies a MrsLynwen Jenkins am eu cymorthdi-flino. Erbyn amser cinio dyddLlun, gwelwyd ffrwyth yr holl waithcaled a chafwyd nifer o wobrau.Owain Wilson - 1af am Beintio â bysDylan Edwards - 1af am eitem o ffeltSion Hurford - 1af yn yr adranGoedwigaethSioned Exley - 2il am lygodenfwytadwy ac am anifail allan o lysiauTyler Nash - 2il am bot blodyn wediei addurnoGwenno Morris - 2il am eitem o ffeltSeren Jenkins - 3ydd am bot blodynwedi ei addurnoYn ogystal â hyn, llwyddodd yr ysgoli ennill y wobr arbennig sef: GwobrGoffa E & E Perkins am yr ysgolgyda’r nifer fwyaf o farciau yn adrangwaith llaw y plant. Llongyfarchiadaui bawb am eu gwaith arbennigac am yr holl gymorth a gafwydgan unigolion. Bu disgyblion yrysgol wrthi yn cystadlu yn sioeAberystwyth hefyd a llwyddoddnifer i ennill gwobrau. Bu mwyafrify disgyblion yn cystadlu yn SioePenrhyn-coch.DolffiniaidYn ystod mis Gorffennaf, gwelwydnifer o luniau gan ddisgyblion yrysgol yn y Cambrian News. Bu’rdisgyblion wrthi yn tynnu lluniau oddolffiniaid. Llongyfarchiadau i bawba gafodd lun wedi ei gyhoeddi.Tripiau YsgolAr ddechrau mis Gorffennafcynhaliwyd ein tripiau ysgol.Teithiodd yr holl ysgol i lawr i SirBenfro. Treuliodd y dosbarth derbyna blynyddoedd 1 a 2 eu diwrnod ynmwynhau yr anifeiliaid yn FollyFarm. Trwy lwc cafwyd tywydd sycha chafwyd cyfle i fwydo’r anifeiliaidac i fwynhau bywyd y fferm.Aeth dosbarthiadau blynyddoedd 3i 6 i Barc Heatherton. Cafwyd llawero hwyl yma ar y go-karts, y chwaraepêl fâs, ar y cychod ynghyd â nifer oweithgareddau eraill. Diolch i bawba ddaeth fel cymorth ar y tripiau adiolch i Gwmni Mid Wales Travel amwneud y siwrneau mor hwylus.CricedBu tîm criced yr ysgol yn cystadluyn nhwrnament y cylch. Llwyddwydi ennill drwodd i’r rowndiauterfynol. Llongyfrachiadau iddyntam chwarae mor dda.Prom YsgolionCynhaliwyd prom ysgolion Cynraddcylch Aberystwyth yn y NeuaddFawr ym mis Mehefin. Braf oeddgweld nifer o ddisgyblion yr ysgolar y llwyfan naill ai yn y côr iddisgyblion blwyddyn 6 neu yny gerddorfa. Y disgyblion a fu’nymddangos oedd: - Lowri Donnelly,Alice Andrews, Gwenno Morris,Emily Lewis, Rosie James, RhydianMorgan, Samantha Merry, LucyCookson a Mared Pugh-Evans.Ynys-HirDros dau ddiwrnod ym misGorffennaf treuliodd disgyblionyr ysgol gyfnodau ar WarchodfaAdar Ynys-hir. Treuliwyd yr amseryn cyflawni nifer o weithgareddaugan gynnwys chwilio am anifeiliaidyn y dŵr, gwylio adar, chwilio amanifeiliaid a thrychfilod yn y coed.Cafwyd llawer o hwyl a budd wrthddefnyddio eu sgiliau i ddod o hydi enwau anifeiliaid. Diolch i Mr Hillam drefnu’r teithiau.AmgueddfaBu disgyblion blynyddoedd 1 a2 ar ymweliad i’r Amgueddfa ynAberystwyth. Roedd yr ymweliadyn rhan o weithgareddau y tymor.Treuliwyd amser yn edrych ar yrhen offer oedd yno a chafwyd cyflei sgwrsio ac i ofyn cwestiynau. Ar ôlyr ymweliad aethpwyd i lawr at ytraeth i gael cinio. Trueni nad oedd ytywydd yn ddigon braf i gael padlo– ond cafwyd hufen iâ!Ffair HafCyn diwedd y tymor, cynhaliwydFfair Haf yr ysgol. Daeth criwynghyd i gefnogi a chafwyd nosonsych. Cynhaliwyd y barbeciwdan ofal Keith ac Anne Morris achafwyd stondinau amrywiol ynneuadd yr ysgol. Ar y cae, cafwydgêmau amrywiol i ddiddanu’r plant.Tynnwyd raffl ar ddiwedd y noson.Diolch i’r rhai a wnaeth gefnogi’rraffl drwy gynnig gwobrau. Diolchi’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawonam y gwaith trefnu ac i’r rhai hynnya gefnogodd mewn unrhyw ffordd.

20 Y TINCER MEDI 2008TASG Y TINCERWel, sut aeth y gwyliau haf? Afuoch chi’n gwneud rhywbetharbennig, neu a fuodd raiohonoch ar wyliau i wledyddtramor? Mae’n siwr i sawlun ohonoch fynd i’r Sioeyn Llanelwedd. Ond oeddy tywydd yn braf? Abeth am yr Eisteddfodyng Nghaerdydd? Rwy’nsiwr i mi weld ambell unohonoch yn crwydro’rmaes! Gwelais raiohonoch hefyd yngngharnifal y Borth. Gobeithioeich bod i gyd wedi setlo yneich dosbarthiadau a’ch ysgolionnewydd, a bod digon o ffrindiaugennych, hen a newydd!Diolch i bawb liwiodd y lluno’r ddau dolffin yn mwynhaunofio’n y môr. A welsoch chirai dros y gwyliau? Dyma pwyfuodd wrthi a’u pensiliau lliwa phaent: Siôn Jones, Brynolwg,Bont-goch; Bethan Henley,Sunmead, Lôn Glanfrêd, Llandre;Ffion Williams, Brynrheidol,Capel Bangor; Saran Dafydd, 13Maes y Garn, Bow Street; DanielRees, Brysgaga, Bow Street; Rhys,Siôn a Carys James, 35 Dôl Helyg,Penrhyn-coch.Ti Bethan Henley sy’n ennill ytro hwn. Da iawn ti!Ydech chi wedi gweld rhai oraglenni ‘Cyw’ ar S4C? A oesffefryn ‘da chi? Dwi’n hoff oBethan Henley‘Holi Hana’, ac os ydw i’n teimlofel symud o gwmpas, mae ‘Heini’yn rhaglen grêt! Ydech chi’nmedru enwi ffrindiau gorauCyw? Dyma nhw:Plwmp, sy’n hoffi chwaraepel-droed a chwarae triciauLlew, sy’n hoffi codi ofn ar yradar bach sy’n yr ardd, druan ânhw!Bolgi, sy’n hoff o fwyta byrgers ahufen ia siocledJangl sy’n dod o Affrica, ac sy’nbwyta’n iach, yn wahanol i BolgiDeryn, sy’n hoff o ganu a hedfanY mis hwn, beth am liwio’r lluno Llew yn chwarae yn y gwair?Anfonwch eich gwaith ata’i erbynHydref 1af i’r cyfeiriad arferol:Tasg y Tincer, 46 Bryncastell, BowStreet. Ceredigion, SY24 5DE. Tata tan toc!EnwCyfeiriadOedRhif ffônTAFARN TYNLLIDIARTTy Bwyta a BarPrydau neilltuol y dyddPrydau pysgod arbennigCinio Dydd SulBwydlen lawn hanner dyddneu yn yr hwyrCROESO(mantais i archebu o flaen llaw)CAPEL BANGOR01970 880 248Rhif 311 | MEDI 2008

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!