14 Y TINCER MEDI 2008Suliau HydrefY Garn10 a 5www.capelygarn.org5 Richard Ll. Jones Bugail12 M.J. Morris19 Bugail26 William T.E. OwenNodfa5 2.00 Gweinidog12 Diolchgarwch Undebol yrOfalaeth ym Methel, Tal-y-bontam 10.0019 10.00 Parch. Tudor Davies26 2.00 Gweinidog. CymundebHunangofiant ar y weBOW STREETEfallai y bydd rhai darllenwyryn cofio y diweddar Mr GwilymRhys Williams, tad BethanHartnup. Bu’n byw ym MaesCeiro ar ddechrau’r nawdegau acymddangosodd teyrnged iddo ynY Tincer.155 ( Ionawr 1993) t. 3.Roedd ei fam yn chwaer i fam-guRichard Huws, Bont-goch ( mamei fam). Mae Ruth Hartnup – eiwyres - sydd bellach yn byw yngNghanada wedi rhoi y cofiannau aysgrifennodd ei thad-cu ar gyfer eiwyrion ar y We, fel rhan o’i blog hi.www.spindriftpages.net/blog/ruth/memoirs-of-gwilym-williamsCeir penodau ar ei ieuenctid ynne Cymru , ei flynyddoedd yn ycoleg yn Aberystwyth, ei yrfa felathro, a’i hanes yn ystod y rhyfel a’iymddeoliad.PriodasLlongyfarchiadau mawr i SusanNia Edwards, merch Mr a MrsKen a Lynda Edwards, Elerch,Maes-y-Garn, Bow Street a SimonDavid Herron (Y FfiwsilwyrBrenhinol Cymreig), mab Mr a MrsDonald a Linda Herron, Llanafanar eu priodas yn eglwys Yr HollSaint, Llangorwen, Clarach ar y 26 oOrffennaf. Treuliasant eu mis mêlyn Awstralia. Dymunwn i chi eichdau hapusrwydd a dymuniadaugorau am briodas dda.23ain. Dymuniadau gorau iddynti’r dyfodol.Pen blwyddDathlodd y cyfaill Cecil Phillips,8 Tregerddan ei ben-blwyddyn 94 oed ar 9 Medi ac wrth eilongyfarch dymunwn iechyd gwelliddo yn dilyn dau gyfnod yn yrysbyty yn ddiweddar. Ein cofion atMaud ag yntau.LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i SeiriolHughes, Maes-y-garn, ar ei radd oGaergrawnt a dymuniadau gorauyn ei swydd fel ymchwilydd yngNghaernarfon gyda’r cwmniRondo ar y rhaglen deledu Sgorio.CydymdeimladCydymdeimlwn â MartinRobson-Riley, Llys Hywel a golloddei dad ddiwedd mis Mehefin.MarwolaethauCydymdeimlwn â theulu’rddiweddar Eunice Davies,Tregerddan a fu farw yn dilyncystudd blin.Hefyd bu farw Derek Horwood,Tregerddan a chydymdeimlwn â’ibriod Dorothy a’r plant.Cydymdeimlwn â Hetty Tillsan,17 Garreg Wen, ar farwolaeth ei nai,Mr Dyfrig Davies, Aberteifi.LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i RheinalltLewis, 40 Maes Ceiro ar eilwyddiant yn ei arholiadaullyfrgellydd yn ddiweddar.Y ddwy chwaer – gynt o Fryncastell - Caryl Ebenezer Thomas,Llandaf, Caerdydd ac Anwen Ebenezer Ellis, Gwaelod-y-garth aurddwyd i’r Orsedd fore Llun Awst 4 yn Eisteddfod GenedlaetholCaerdydd.GenedigaethLlongyfarchiadau i Aled acAmanda Jones, Caerdydd arenedigaeth merch fach – Ellie MaiLloyd Jones ar Orffennaf 31; wyresgyntaf i Gwen Lloyd Jones.LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i Tomos George,Llys Hedd, ar raddio gyda dosbarthcyntaf mewn Peirianneg ymMhrifysgol Caerdydd a dymuniadaugorau iddo yn ei swydd newydd yngNghanolbarth Lloegr.BedyddBedydd Bore Sul, 20 Gorffennaf,bedyddiwyd Llio Tanat, merch fachRhodri a Cet Morgan, a chwaerRhys ac Elain, gan y Gweinidog.Hefyd, estynnwyd croeso cynnesi Rhodri a Cet yn aelodau yn yGarn.Eunice Davies 15TregerddanYn y rhifyn diwethaf ym Mehefinsgrifennais air o ddiolch ar ranEunice i bawb fu o gymorthiddi yn ei salwch blin a’r trohwn rwy’n gorfod teyrngeduiddi a hithau wedi ‘n gadael ar19 Gorffennaf yn 75 oed.Ddeufisynghynt collwyd Ceridwen eichwaer ym Mhenegoes ac yrydym yn meddwl am John eubrawd a gollodd ddwy chwaerannwyl mewn cyfnod byr. Rydymyn cydymdeimlo gydag ef, gydaBrian a Hywel a gollodd eu mam,a gyda gweddill y perthnasau, ycymdogion a’r cyfeillion fu’n driwi Eunice heb anghofio teulu Islwynei phriod fu farw ym 1996.Merch i Sarah ac Ellis Jones,Abercegyr, oedd Eunice ac ynoy maged hi ar ôl i’r teulu symudi’r pentref o Lanwrin.Y cartre,y capel Wesle ac Ysgol DarowenAr y 7fed o Fehefin yn EglwysLlangorwen fe briodwyd JoanneSimkins, merch Stephen a ShanSimkins (gynt o Bryncastell) aGruff Jones, mab Bethan Bryna Bob Jones, Lodj Nanteos,Rhydyfelin. Maent wediymgartrefu ym Maes Afallen.Priodwyd Richard Evans, Erwlas,a Lynwen Beaufort o Lan-nonyn Eglwys Llansantffraid ar AwstSimon a SusanGruff a Joanne
Y TINCER MEDI 2008 15O’r Cynulliad – Elin Jones ACBedyddiwyd Tomos Hedd, mab Rhian Heledd ac Adrian, Caerdydda ãyr Gaenor a Gareth Jones, Hafle, Bow Street yng NghapelNoddfa ar 29ain o Fehefin gan y Parchg Richard Lewis.fu’r dylanwadau arni ac o gofioam ei chefndir cyfoethog gelliddweud gyda’r Salmydd fod ganddi‘etifeddiaeth deg-rhagorol ‘yn ôl yBeibl Cymraeg Newydd. Ar ôl gadaelysgol bu Eunice yn gweithio mewncaffi a siop esgidiau ym Machynllethcyn mynd i wasanaethu yngNghartref Dôl-llys, Llanidloes, cynsymud i weini yng Nghartref yDeva yn Aberystwyth. Canmolwydei gwaith yn y cartrefi yma gany penaethiaid a’r preswylwyr.Ynfuan wedi dod i’r Deva cyfarfu agIslwyn fy nghefnder oedd yn wasar y pryd gyda Llew a Jane Bebb,Blaendyffryn, Goginan.Priodwyd ar 26 Medi 1959 ynAbercegyr a chartrefwyd yn Ael-ybryn ar Benrhiw yn Bow-Street cynsymud ym 1968 i 15 Tregerddan.Ymaelodi yn y Garn ym 1960 acyno y bedyddiwyd Brian ym 1963a Hywel ym 1968 gan y diweddarBarchedig D.R.Pritchard.Ym 1974cafodd Islwyn ei lorio gan salwchdifrifol a bu’n gaeth i’w gadairolwyn am ddwy flynedd ar hugain.Edmygodd bawb ohonom eiddewrder yn ogystal a mawr ofalEunice a fyddai’n ymdrechu i’wolwyno hyd y pentref a’r ardal. Bu’rteulu o’r ddwy ochr o gymorthmawr a chymdogion a ffrindiau acnid anghofiwyd am y weddw a’rplant ar ôl colli Islwyn yn Ionawr1996.Pwysodd Eunice ar y ffydd ydaeth i wybod amdani yngnghapel Abercegyr ac yn y Garn aChartref Tregerddan lle byddai’nselog yn yr oedfa brynawn Sul.Roedd yn falch fod Gwenda aminnau wedi dychwelyd i’m hengartref a ninnau’n falch hefyd einbod yn gallu seiadu gyda hi ynystod y chwe blynedd diwethaf,ac yn enwedig yn ystod misoeddanodd ei chystudd.Brynhawn Gwener 25 Gorffennafdaethom ynghyd i’r Garn igynhebrwng Eunice ac arweiniwydy gwasanaeth gan y ParchedigWyn Rhys Morris a fu’n ymweldyn gyson â hi yn ei salwch, aminnau’n ei gynorthwyo ynoac ym mynwent Tal-y-bont, llegosodwyd ei gweddillion ym meddIslwyn ac Evan a Maggie ei rieni.Kathleen Lewis oedd wrth yrorgan. Diolchwn am fywyd a llafurEunice a llewyrched y goleunitragwyddol arni.W.J.EdwardsLlwyddiannauYm mis Gorffennaf graddioddJennifer Hughes, Bodhywel, wedicyfnod yn astudio Celfyddydau Cainyng Ngholeg Celf Gorllewin Cymru.Mae a’i bryd ar ddatblygu gyrfa felarlunydd cain ac ar hyn o bryd maestiwdio ganddi yn Aberystwythdrwy gynllun arbennig CwmniArad Goch sy’n rhoi cyfle i artistiaid.Y llynedd graddiodd ei brawdGethin o Ysgol Newyddiaduraetha’r Cyfryngau, Prifysgol CymruCaerdydd. Bellach mae’n gweithio ymMhen-coed ger Pen-y-bont ar Ogwr,gyda chwmni Sports Media Servicessy’n cynhyrchu rhaglenni chwaraeonar gyfer S4C megis “Pencampau”,“Rygbi’r Byd” a “Pele 1 - 0”. Yn dilyny graddio bu’n ymgymryd â naidbynji gan godi nawdd o bron £600a gyflwynwyd i elusen MENCAP.Diolchir i gyfeillion am ei noddi.Llongyfarchiadau a dymuniadaugorau i’r ddau.CydymdeimladCydymdeimlwn a Dai, Auriela Ruth Evans, Trewylan, arfarwolaeth wncwl i Dai yn CnwchCoch yn ddiweddar.Daeth Gweinidog IechydLlywodraeth y Cynulliad,Edwina Hart AC, yn arbennigi Aberystwyth ar ddechraumis Mehefin er mwyn datganei bod wedi cymeradwyocynlluniau i fuddsoddi £31miliwn yn Ysbyty Bronglais.Ddwy flynedd yn ôl roeddtrigolion Ceredigion yngorymdeithio i wrthwynebucynlluniau i symudgwasanaethau mamolaeth oAberystwyth i Gaerfyrddin, acmae’r buddsoddiad yma yn dropedol arwyddocaol. Bydd yrYmddiriedolaeth Iechyd nawryn parhau gyda’r cynlluniaui adeiladu estyniad newyddi’r ysbyty a fydd yn cynnwysadran ddamweiniau newyddynghyd â theatrau ychwanegol.Bydd wardiau eraill presennol– gan gynnwys y wardmamolaeth – hefyd yn cael euhailwampio.Ychydig cyn ymweliad yGweinidog ag Aberystwyth,fe gyhoeddwyd yr adroddiada gomisiynwyd ganddioddi wrth Dr Alan Axfordar ysbytai cymunedolCeredigion. Rwy’n falchiawn bod yr adroddiadhwn wedi cadarnhau bodyr angen yn parhau amysbytai gyda gwelyau ynAberteifi a Thregaron, ynghydâ chanolfan iechyd ynAberaeron. O ganlyniad, rwy’ngobeithio y bydd pawb ynparhau i gydweithio i ddod â’rcynlluniau cyffrous i ffrwyth– yn enwedig yn Aberteifi blemae anghytuno dros leoliadDOLAUi’r datblygiadnewydd ynparhau i oedi’rbroses.Yng nghanolyr hollnewyddda am ygwasanaethiechyd, fegefais siom fawr wrthglywed bod Swyddfa’r PostCyf wedi penderfynu parhauâ’u cynlluniau i dorri’r nifero ganghennau sydd ganddyntyng Ngheredigion. Mae ynadeimlad cryf iawn yn erbyn ycynigion yma ymysg trigolionCeredigion ac rwy’n siŵr ybydd nifer ohonoch yn rhannufy siom â’r penderfyniad hwn.Fodd bynnag, mae dyfodolpedair Swyddfa Bost ynparhau yn y fantol – Llanilar,Llangeitho, Llanddewi Brefi aPhontsian – wrth i Swyddfa’rPost Cyf a Golwg ar Bostdrafod y cynlluniau ar gyferyr ardaloedd hyn ymhellach.Byddaf nawr yn cynnaltrafodaethau brys gyda’r ddausefydliad yma ar y mater hwn.Yn olaf, roedd hi’n braf iawnmynychu Rali’r FfermwyrIfanc ym Mhrengwyn a SioeAberystwyth yn ddiweddar.Gyda’r haf bellach wedicyrraedd, mae tymor y sioeaueisoes wedi cychwyn acedrychaf ymlaen at fynychuamryw o ddigwyddiadau arhyd a lled y sir – gobeithio’nwir y gwelaf rai ohonoch yno!Elin Jones ACPriodwyd Anna MarieRichards, merch Ken a SusanRichards, Bow Street ac ElfynLloyd Jones, mab ElizabethJones Maes Ceiro a’r diweddarEdward Lloyd Jones ar Awst2il yn Eglwys Mihangel Sant,Llandre. Y morwynion oeddHolly Richards (chwaer ybriodferch) a Meganne John.Y gwas oedd Carwyn LloydJones (brawd y priodfab),a’r ystlyswyr oedd DannyRichards (brawd y briodferch),Rhys ap Tegwyn, JordanLloyd Jones a Benjamin LloydJones (Neiaint y priodfa).Cynhaliwyd y brecwastyn y Falcondale Llambed.Treuliwyd y mis mêl ynYnysoedd y Seychelles.