Y Tincer 311 Medi 08 *LLIW - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig
Y Tincer 311 Medi 08 *LLIW - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig
Y Tincer 311 Medi 08 *LLIW - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Y TINCER MEDI 20<strong>08</strong> 19YSGOL PENRHYN-COCHTenisYn dilyn llwyddiant yngnghystadlaethau cylch Aberystwyth,teithiodd dau o dîmau tenis o’rysgol i lawr i Gaerdydd. Pwrpasy daith oedd cystadlu ymmhencampwriaethau Cymru argyrtiau clwb David Lloyd. Bu tîm ofechgyn a thîm o ferched o flwyddyn6 yn cystadlu. Profiad anhygoel oeddy diwrnod drwyddi draw gyda’rdisgyblion yn cael cyfle i chwaraear gyrtiau o’r safon uchaf mewnawyrgylch unigryw. Er na ddaethyr un tim i’r brig, cafwyd gêmauarbennig a llwyddwyd i ennill niferohonynt. Aelodau’r tîmau oedd:Rowan Hughes, Harry Walker,Harry Whalley, Ryan Witts, RhydianMorgan, Alice Andrews, GwennoMorris, Lowri Donnelly a SamanthaMerry. Diolch yn fawr i’r ClwbPêl-droed am gael defnydd o’r bwsmini am y diwrnod. Diolch i MrHill am y trefniadau.MabolgampauEleni llwyddwyd, er gwaethaf ytywydd, i gynnal ein mabolgampau.Cynhaliwyd nifer o gystadlaethau ymaes cyn diwrnod y mabolgampau.Croesawyd disgyblion y cylchmeithrin atom i redeg ac i fwynhau.Cafwyd prynhawn da a chaled ogystadlu gyda’r marciau mor agoseleni nad oedd y canlyniad wedi eigyrraedd hyd ddiwedd y ras olaf.Yn y pen draw, er yr holl gystadluagos a theg, Stewi a ddaeth i’r brig.Cyflwynwyd tarian yr enillwyri’r capteiniad – Harry Whalley aGwenno Morris. Enillwyd y marciaumwyaf ym mlwyddyn 6 ganHarry Whalley a Lowri Donnelly.Llongyfarchiadau i bob un am eugwaith arbennig ac i’r staff am ygwaith trefnu a chofnodi.FfarwelioAr ddiwedd y tymor diwethafffarweliwyd â nifer o staff yr ysgol.Ffarweliwyd â Miss Ceri BethanMorgan, Mrs Lowri Jones, Mrs EirianDafis a Miss Elen Huws. Diolch i’rdair ohonynt am eu gwaith di-flinogyda disgyblion yr ysgol yn ystod yblynyddoedd diwethaf. Cyflwynwydblodau iddynt ar ddiwedd eucyfnodau yn yr ysgol. Cyflwynwydgwnïo arbennig gan ddisgyblion ydosbarth i Miss Morgan.CroesoCroesawyd nifer o staff newydd i’rysgol ar gychwyn y tymor newydd.Daeth Miss Rhian Davies atomTimau tenis yr ysgol y tu allan i Glwb tenis David Lloyd yng Nghaerdyddam ddau ddiwrnod a hanner yrwythnos i addysgu o dan y cytundebbaich gwaith. Apwyntiwyd Miss EleriEdwards a Mrs Siân Donnelly atomi gynorthwyo yn y Cyfnod Sylfaenynghyd â Miss Angharad Robertssy’n gofalu am ddisgybl. Croesoiddynt a gobeithio y byddant ynhapus yn yr ysgol.DiolchDiolch i Mari Turner am ei gwaitharbennig gyda’r disgyblion. Bu’nymweld â’r ysgol yn rheolaidd igynnal gweithdai drama gyda’rdisgyblion.Sioe FrenhinolEleni eto, bu’r disgyblion wrthi ynparatoi ar gyfer y Sioe Frenhinol.Cyn cychwyn y Sioe, aeth tri llondcar o eitemau i fyny i’w beirniadu.Diolch i Mrs Meinir Davies a MrsLynwen Jenkins am eu cymorthdi-flino. Erbyn amser cinio dyddLlun, gwelwyd ffrwyth yr holl waithcaled a chafwyd nifer o wobrau.Owain Wilson - 1af am Beintio â bysDylan Edwards - 1af am eitem o ffeltSion Hurford - 1af yn yr adranGoedwigaethSioned Exley - 2il am lygodenfwytadwy ac am anifail allan o lysiauTyler Nash - 2il am bot blodyn wediei addurnoGwenno Morris - 2il am eitem o ffeltSeren Jenkins - 3ydd am bot blodynwedi ei addurnoYn ogystal â hyn, llwyddodd yr ysgoli ennill y wobr arbennig sef: GwobrGoffa E & E Perkins am yr ysgolgyda’r nifer fwyaf o farciau yn adrangwaith llaw y plant. Llongyfarchiadaui bawb am eu gwaith arbennigac am yr holl gymorth a gafwydgan unigolion. Bu disgyblion yrysgol wrthi yn cystadlu yn sioeAberystwyth hefyd a llwyddoddnifer i ennill gwobrau. Bu mwyafrify disgyblion yn cystadlu yn SioePenrhyn-coch.DolffiniaidYn ystod mis Gorffennaf, gwelwydnifer o luniau gan ddisgyblion yrysgol yn y Cambrian News. Bu’rdisgyblion wrthi yn tynnu lluniau oddolffiniaid. Llongyfarchiadau i bawba gafodd lun wedi ei gyhoeddi.Tripiau YsgolAr ddechrau mis Gorffennafcynhaliwyd ein tripiau ysgol.Teithiodd yr holl ysgol i lawr i SirBenfro. Treuliodd y dosbarth derbyna blynyddoedd 1 a 2 eu diwrnod ynmwynhau yr anifeiliaid yn FollyFarm. Trwy lwc cafwyd tywydd sycha chafwyd cyfle i fwydo’r anifeiliaidac i fwynhau bywyd y fferm.Aeth dosbarthiadau blynyddoedd 3i 6 i Barc Heatherton. Cafwyd llawero hwyl yma ar y go-karts, y chwaraepêl fâs, ar y cychod ynghyd â nifer oweithgareddau eraill. Diolch i bawba ddaeth fel cymorth ar y tripiau adiolch i Gwmni Mid Wales Travel amwneud y siwrneau mor hwylus.CricedBu tîm criced yr ysgol yn cystadluyn nhwrnament y cylch. Llwyddwydi ennill drwodd i’r rowndiauterfynol. Llongyfrachiadau iddyntam chwarae mor dda.Prom YsgolionCynhaliwyd prom ysgolion Cynraddcylch Aberystwyth yn y NeuaddFawr ym mis Mehefin. Braf oeddgweld nifer o ddisgyblion yr ysgolar y llwyfan naill ai yn y côr iddisgyblion blwyddyn 6 neu yny gerddorfa. Y disgyblion a fu’nymddangos oedd: - Lowri Donnelly,Alice Andrews, Gwenno Morris,Emily Lewis, Rosie James, RhydianMorgan, Samantha Merry, LucyCookson a Mared Pugh-Evans.Ynys-HirDros dau ddiwrnod ym misGorffennaf treuliodd disgyblionyr ysgol gyfnodau ar WarchodfaAdar Ynys-hir. Treuliwyd yr amseryn cyflawni nifer o weithgareddaugan gynnwys chwilio am anifeiliaidyn y dŵr, gwylio adar, chwilio amanifeiliaid a thrychfilod yn y coed.Cafwyd llawer o hwyl a budd wrthddefnyddio eu sgiliau i ddod o hydi enwau anifeiliaid. Diolch i Mr Hillam drefnu’r teithiau.AmgueddfaBu disgyblion blynyddoedd 1 a2 ar ymweliad i’r Amgueddfa ynAberystwyth. Roedd yr ymweliadyn rhan o weithgareddau y tymor.Treuliwyd amser yn edrych ar yrhen offer oedd yno a chafwyd cyflei sgwrsio ac i ofyn cwestiynau. Ar ôlyr ymweliad aethpwyd i lawr at ytraeth i gael cinio. Trueni nad oedd ytywydd yn ddigon braf i gael padlo– ond cafwyd hufen iâ!Ffair HafCyn diwedd y tymor, cynhaliwydFfair Haf yr ysgol. Daeth criwynghyd i gefnogi a chafwyd nosonsych. Cynhaliwyd y barbeciwdan ofal Keith ac Anne Morris achafwyd stondinau amrywiol ynneuadd yr ysgol. Ar y cae, cafwydgêmau amrywiol i ddiddanu’r plant.Tynnwyd raffl ar ddiwedd y noson.Diolch i’r rhai a wnaeth gefnogi’rraffl drwy gynnig gwobrau. Diolchi’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawonam y gwaith trefnu ac i’r rhai hynnya gefnogodd mewn unrhyw ffordd.