16 Y TINCER MEDI 2008Rhiannon Ifans: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion.£6.99. 96t.Y mae pwyslais CymdeithasLyfrau Ceredigion bob amserar gynhyrchu cyfrolau syddnid yn unig yn newydd affres o ran cynnwys, ond syddhefyd yn plesio’r llygad ac ynrhoi boddhad i’r sawl sy’n eucyffwrdd a’u bodio. Enghraifftcystal â’r un yw’r gyfrol fechandan sylw, sef y drydedd mewncyfres hynod ddeniadol ofonograffau ar amrywioldestunau. Eisoes cafwydPwy oedd Rhys Gethin ganCledwyn Fychan, sef ymchwilam gadfridog Owain Glyndãr,a Gohebydd yng Ngheredigiongan Dylan Iorwerth, sef hanesJohn Griffith (Y Gohebydd) acEtholiad 1868 yng Ngheredigion,ond yn y gyfrol newydd hondyma fentro y tu hwnt i ffiniauCymru ac i Awstralia bell.Y mae’n ffaith dra hysbys wrthgwrs nad oes ond ychydig iawn,iawn o bynciau na chyffyrddwydâ hwy gan y llu o faledwyr afu’n trampio ledled Cymruyn ystod y ddeunawfed a’rbedwaredd ganrif ar bymtheg,yn canu a gwerthu eu cerddi.Yn y cynhyrchion hyn – digonanghelfydd yn aml – y câi’rwerin bobl olwg, nid yn unigar hynt a helynt y byd a oeddo’u cwmpas yng Nghymru, ondambell gip hefyd ar y byd mawrdros y moroedd – daeargrynyn Lisbon, rhyfel cartref ynAmerica, gwrthryfel yn yrIndia, gwarchae Sebastopol, acyn y blaen. Ac fel y dengys DrRhiannon Ifans yn y gyfrolhon, nid aeth Awstralia’n angofchwaith. Y mae’r awdur i’wllongyfarch ar daro ar ddulldychmygus iawn o gyflwynonifer o faledi’r ganrif fawr ynhanes y faled Gymraeg, sef ybedwaredd ar bymtheg. Wrthdrafod naw ohonynt, a phobun yn dwyn rhyw gysylltiadag Awstralia, mae’n llwyddo iwneud dau beth yn bennaf,sef tanlinellu pwysigrwydd ycaneuon gwerinol hyn o rany wybodaeth y gellir ei ddenuohonynt o’u darllen yn ofalus,gan gynnwys darllen rhwng yllinellau weithiau, a hefyd sut ygallant ein tywys i feysydd traannisgwyl weithiau. Ymfudo iAwstralia, gan amlaf i chwilio amaur a chyfoeth sydyn, yw’r themaganolog yma, ond yn sgil hynnycawn wybod nad cwbl anarferolydoedd i ferched ieuanc yn euhugeiniau fentro ar yr anturAdolygiadenbyd hon i bellafoedd byd, aolygai fisoedd ar y môr mewnllongau digon bregus. Yr oeddbaledi am famau yn hiraethu ameu meibion a aeth ar yr un daith,yn boblogaidd dros ben, ond ynhytrach na bodloni ar gofnodihynny’n foel yn unig, ceir yma yneu cysgod ddarlun o psyche’r famGymreig, a dull y mab Cymreigo’i thrafod. Down wyneb ynwyneb hefyd â nifer o gymeriadauadnabyddus megis Twm o’r Nant,a rhai llai adnabyddus megis SyrPeter Mytton, Isaac Thomas,Aberdâr (‘Yr Hen Undertaker’), a’radyn pennaf hwnnw, FrederickBailey Deeming a laddodd eiwraig a’i blant a’u claddu danlawr y tñ. Tywysir ni i fydllofruddiaeth a chrogi, i fydllongddrylliadau a hyd yn oedganibaliaeth, heb golli golwgunwaith ar y llinyn Awstralaiddsy’n cydio’r cyfan wrth ei gilydd.Ceir yn y gyfrol luniau hefyd,wedi eu hatgynhyrchu’n dda,o longau ac o daflenni baledi ycyfeirir atynt yn y testun.Gan gofio mai awdur y llyfrtra defnyddiol, onid anhepgor,hwnnw, Y Golygiadur (eto o stablCymdeithas Lyfrau Ceredigion)yw awdur y monograff ymahefyd, prin bod angen nodi iddogael ei gyflwyno’n lân a diddorol.Anogaf ddarllenwyr y Tinceri’w brynu ar y cyfle cyntaf, a’iddarllen. Ni chewch eich siomi.Tegwyn Jones4 ffordd o gysylltu a MarkCymorthfeydd Cyngor ar drawsCeredigion. Manylion o’n swyddfani ar 01970 615880Ysgrifennwch naill at Mark WilliamsAS, 32 Rhodfa’r Gogledd,Aberystwyth, SY23 2NF MarkWilliams AS, Ty’r Cyffredin,Llundain, SWIA OAA01970 615880 0207 2198469williamsmf@parliament.ukCYNGOR CYMUNED TREFEURIGCyfarfu’r Cyngor nos Fawrth,29 Gorffennaf, yn Neuadd yPenrhyn gyda’r cadeirydd, Cyng.Richard Owen, yn y gadair.Roedd naw o’r cynghorwyreraill yn bresennol ynghyd â’rClerc a’r Cynghorydd Sirol.Adroddodd y Clerc fodcyfarfod wedi’i gynnal gydaScottish Power i drafod yposibilrwydd o gael goleuadauochr ffordd ychwanegol mewnrhannau o Benrhyn-coch aPhenrhiwnewydd.Penderfynodd y Cyngor ofynam brisiau ar gyfer y cysylltu a’rgosod cyn symud ymhellach.Roedd mater y cyfeiriad post‘Cwmsymlog’ wedi’i godi, ganfod y cyfeiriad yn cynnwysardal Pen-bont Rhydybeddau,ac yn achos dryswch yn aml;penderfynwyd holi barntrigolion Pen-bont i weld afyddent yn cefnogi newid ycyfeiriad post.Adroddodd y Cadeiryddam gyfarfod o bwyllgor ArdalCeredigion o Un Llais Cymru ybu ynddo, ynghyd â chyfarfodam y Cynllun Datblygu Lleolyn Aberaeron. Roedd hefydwedi bod ym more coffiblynyddol Ysgol FeithrinTrefeurig. Rhoddodd y Cyng.Kari Walker adroddiad am eihymweliad â garddwest ymMhlas Buckingham.Trafodwyd gwerthu Tñ’rYsgol yn Nhrefeurig, aphenderfynwyd ysgrifennu at yCyngor Sir yn pwyso arnynt iganiatáu’r lês ar adeiladau’r ysgoli’r Grãp Datblygu cyn arwyddoi werthu Tñ’r Ysgol. Roedd BTyn bwriadu gwneud i ffwrddâ phum ciosg teleffon yn ardaly Cyngor. Penderfynwydgwrthwynebu hyn gan fod yblychau ffôn hyn yn gallu bodyn bwysig mewn argyfwng osnad oes signal ffôn symudol i’wgael.Adroddodd y Clerc fod yrarchwiliad mewnol o gyfrifony Cyngor am 2007/08 wedi’iorffen, a rhoddwyd copi i bobaelod. Roedd y dogfennauperthnasol yn awr wedi’uhanfon i’r archwiliwr allanol.Roedd y Cyngor wedi caelgwybod am y penderfyniadaucynllunio canlynol lle’r oeddcaniatâd wedi’i roi: ail ran YDdôl fach, Penrhyn, 10 tñ; plotger Brynawel, Cefn-llwyd, tñ;tir ger Arosfa, Salem, tñ; Plas yCoed, Cwmerfyn, estyniad; 1Glanseilo, Penrhyn, estyniad;3 Pen-y-berth, Penrhyn,newidiadau; Rhoserchan,Penrhyn, paneli haul. Trafododdy Cyngor ddau gais: codi tñar dir ger Y Gelli, Cefn-llwyd– dim gwrthwynebiad; coditñ ar dir ger Ysgol Trefeurig –penderfynwyd gwrthwynebu’rcais gan fod y tir y tu allan iardal y pentref presennol, ac oran diogelwch byddai’n anoddiawn gweld y fynedfa o un ochr.Byddai’r cyfarfod nesaf ynYsgol Trefeurig, nos Fawrth, 16Medi.
Y TINCER MEDI 2008 17YSGOL PEN-LLWYNMabolgampauB echgyn Bl 5 a 6 - Shaun D rybughCynhaliwyd mabolgampau ysgolPen-llwyn yng nghae Eon yngNghwmrheidol ar brynhawn DyddMawrth Gorffennaf 1af.Ar ôl cystadlu brwd, Melindwrddaeth yn gyntaf, Rheidol yn ail, acYstwyth yn drydydd.Amy Dryburgh oedd y VictrixLudurum a Oliver Hershel y VivtorLudurum.Ras 400m a Ras 800mMerched Bl 3 4 5 a 6 - AmyDryburghBechgyn Bl 3 a 4 - Jo JonesBechgyn Bl 5 a 6 - Daniel BenthamMabolgampau Ardal AberystwythShaun Dryburgh - 2ail Taflu PelOliver Herchel - 4ydd Naid UchelSioe Capel BangorCyflwynwyd y tariannau i’rbuddugwyr gan Mr Elfed Lewis.Rhedeg Ras 60m/80m/100mMerched Dosb 1 - Nuala Ellis JonesBechgyn Dosb 1 - Iestyn WatsonMerched Bl 3 a 4 - Amy DryburghBechgyn Bl 3 a 4 - Gethin a JoMerched Bl 5 a 6 - Roisin RobinsonBechgyn Bl 5 - Gerallt WilliamsBechgyn Bl 6 - Shaun DryburghRas SachMerched Dosb 1 - Nuala Ellis JonesBechgyn Dosb 1 - Iestyn WatsonMerched Bl 3 a 4 - Amy DryburghBechgyn Bl 3 a 4 - Tomos EvansMerched Bl 5 a 6 - Annie LewisBechgyn Bl 5 - Gerallt WilliamsBechgyn Bl 6 - Shaun DryburghRas Wy a LlwyMerched Dosb 1 - Nuala Ellis JonesBechgyn Dosb 1 - Iestyn WatsonMerched Bl 3 a 4 - Amy DryburghBechgyn Bl 3 a 4 - Jo JonesMerched Bl 5 a 6 - Roisin RobinsonBechgyn Bl 5 - Gerallt WilliamsBechgyn Bl 6 - Tomos WatsonTaflu PelMerched D osb1 - Nuala Ellis JonesBechgyn Dosb 1 - Iestyn WatsonMerched Dosb 2 - Roison RobinsonMerched 3,4,5,6 - Roison RobinsonBechgyn Bl 3 a 4 - Gethin apDafydd, Jo JonesCanlyniadau Ysgol Pen-llwynBL 5 a 6 Cerrig wedi eu addurno1af, Annie Lewis, 2ail ShaunDryburgh a Roisin Robinson,3ydd Tomos Nichols a DanielBentham.Bl 3 a 4 - 1af Manon Davies, 2ailRhian James a Jo Jones, 3yddMathias Roberts.Matiau wedi eu haddurno1af - Grwp Annie, Roisin, TomosWatson, Tomos Oliver a Mathias.2ail - Grwp Ieuan, Amy, Rhian,Rhodri a Manon.3ydd - Grwp Amy B, BethanyVeiran, Alison, Jo a Lauren.Adeiladau dwyreiniol mewn cwyra phaentBl 5 a 6 - 1af Tomos Watson, 2ailOliver Herchel, 3ydd Ieuan Evansa Rowan EdwardsBl 3 a 4 - 1af Gethin ap Dafydd2ail - Tomos Evans a Amy Baron3ydd - Amy Dryburgh a RhianJamesAdeiladau o amgylch y bydBl 5 a 6 - 1af Shaun Dryburgh a HalYoung, 2ail Roisin Robinson, 3yddGerallt Williams a Dylan WilliamsBl 3 a 4 - 1afAmy Baron, 2ailTomos Evans, 3ydd Mathias aKeiranAdeiladau Rhyfedd1af Rebecca, 2ail Nuala a Haf,3ydd Steffan a LlyrAnifail ar gefndir Marmor1af Alaw, 2ail Laura, 3ydd Alan aNathanielPypedau1af Rebecca, 2ail Iestyn a Myfanwy,3ydd AlanTrip yr ysgolCawsom drip yn ein cynefin yrhaf hwn. Diwrnod difyr yngNghanolfan Amgen, Corris. Wrthgwrs roedd rhaid cael hyfen ia ar yffordd adref.Cwrs BeiciauLlongyfarchiadau i’r plant fu’ncwblhau y cwrs beicio. Steffan acAnnie Lewis, Ieuan Evans, ShaunDryburgh, Tomos a Iestyn Watson,a Rowan Edwards a Rhodri Jones(heb fod yn y llun)Dymuniadau gorauDymuniadau gorau i TomosWatson a Rhodri Jones ynysgol Penweddig. Hefyd ShaunDryburgh, Hal Young, AnnieLewis, Roisin Robinson, DanielBentham a Rowan Edwards ynysgol Pen-glais.Braf iawn oedd cael croesawuMorgan ar ei ddiwrnod cyntaf ynyr ysgol ac yn dosbarth un.RHODRI JONESBrici a chontractiwradeiladu07815 121 238Gwaith cerrigAdeiladu o’r newyddEstyniadau PatiosWaliau garddLlandre Bow StreetM & D PLUMBERSGwaith plymer & gwresogiPrisiau Cymharol;Gostyngiad iBensiynwyr;Yswiriant llawn;Cysylltwch â ni yngyntaf ar01974 28262407773978352