13.07.2015 Views

Y Tincer 311 Medi 08 *LLIW - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 311 Medi 08 *LLIW - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 311 Medi 08 *LLIW - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

SHOW MORE
SHOW LESS

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

Y TINCER MEDI 20<strong>08</strong> 9Myfyrwraig y FlwyddynLlongyfarchiadau mawr iLowri Rhiannon Powell, 25Stad Penllwyn, ar dderbyngwobr HND/FDSc CynlluniauCeffylaidd ar ddiwedd y tymoracademaidd eleni. Pasioddei diploma HND mewnAstudiaethau Ceffylau o Sefydliady Gwyddorau Gwledig, PrifysgolAberystwyth. Mae’n gyn ddisgyblYsgol Pen-llwyn a Phenweddig,ac yn mynd yn ôl i’r coleg iddilyn cwrs un blwyddyn BScAstudiaethau Ceffylau.Mae Lowri bob amser wedibod yn ei hafiaith yn ymwneudâ cheffylau, felly pa ryfedd iddiwneud mor dda. Pob lwc adymuniadau gorau i ti Lowri ynystod y cwrs flwyddyn nesaf, achefyd i’r dyfodol.Mrs Blodwen M Evans,BrynsiriolYn sydyn iawn yn ysbyty Bron-glais,bu farw Mrs Blodwen Evans, ar 15edo Orffennaf yn 82 mlwydd oed.Adnabyddir hi fel Blod, yn un o drio blant Mr a Mrs Jenkins, Ellesmere,y diweddar Jackie ac Eva Joan eichwaer.Tyfodd i fyny yng NghapelBangor, a mynychodd ysgol gynraddPen-llwyn. Dechreuodd weithiomewn siop esgidiau Mortons, cynsymud i’r siop wlan S N Cooke, ble yrhoddodd wasanaeth clodwiw nes ybu i’r siop gau lawr. Symudodd Blodwedyn i Morgans y Gemydd ac arosyno tan ei hymddeoliad.Roedd yn un o aelodau cyntafpwyllgor gwaith neuadd y pentref, ahynny cyn ei adeiladu. Dechreuwydcronfa yn y pedwardegau, a buyn ffyddlon iawn yn codi arian,o gyngherddau, gyrfaon chwist,dramâu ac ati, a gynhelir y prydhynny yn hen ysgoldy’r capel.Roeddynt yn ddyddiau difyr.Roedd hefyd yn aelod o gapelPen-llwyn a bu yn ffyddlon iwasanaethau’r bore, tan dechreuoddei hiechyd ddirywio. Priodwydhi ag Emrys yn y capel ym 1950.Roedd ganddynt gonsyrn mawram eu gilydd, ac roedd colli Emrysddechrau’r flwyddyn, yn ergyd dromiddi. Teimlai unigrwydd dwfn, amethodd ddod i delerau â’r sefyllfa.Roedd yn gymeriad eithafannibynol, yn gymen a thaclus,a theimlai yn flin pan gorfu iddiddibynu ar eraill wedi colli eihiechyd.Byddai ffrindiau yn eichynorthwyo a rhai yn ei ffonio ynaml, er mwyn torri ar yr undonedd.Edrychai ymlaen at debygolrwyddei chwaer yn symud i fyw i’rcyffiniau, ond nid felly y bu.Arweiniwyd gwasanaeth eihangladd yng nghapel Pen-llwyn arOrffennaf 22ain, gan y Parchg IfanMason Davies. Yr organydd oeddMrs Enid Vaughan, a rhannwydy taflenni gan Mr J E Morris.Darllenodd y gweinidog deyrngedwedi ei pharatoi gan Mr MartinDavies, yn cydymdeimlo â’r teulu affrindiau oll.Mrs Mary Gwladys Jones TñCapel gyntBu farw Mrs Gwladys Jones, <strong>Hafan</strong> yWaun, ar y 30ain o Awst, yn oedranteg o 95 mlwydd oed. Roedd yn fami bedwar o blant ac yn fam-gu a henfam-gu gariadus.Gwasanaethwyd ddydd ei hangladdy 4ydd o Fedi yng nghapelRhiwbwys gan y Parchg. StephenMorgan yn cael ei gynorthwyo gany Parchg Ifan Mason Davies.Dywedwyd yn y deyrnged gany Parchg Stephen Morgan, maillawenydd oedd byw yn hên hebheneiddio.Ganwyd Mrs Jones ar y 27ain oFai 1913 ym Mronnant, a magwydhi yn heddwch bro Mynydd Bach,pan oedd y gymdogaeth y prydhynny yn addoli Duw, a chadw’ndriw i’r traddodiadau a pharchupopeth da.Symudodd yn 5 oed i Tynwern,Llangwyrfon, ble roedd yr unpatrwm yn bodoli. Yn 14 mlwyddoed, daeth adref i weithio ar yfferm, oherwydd nid oedd yna rywgyfleoedd mawr y pryd hynny. Ycanolbwynt oedd Capel Rhiwbwys,a’r Ysgol Sul ym Mryn Wyre.Nid oedd yn rhwydd i ddwyn ifyny pedwar o blant, go llwm oeddpethau, ond brwydrodd y wraig honyn galed.Yng nghynnwys y deyrngedadroddwyd y dywediad “Maebuddugoliaeth yn eiddo i’r sawl sy’ndal ati”Bu Mrs Jones yn wraig Tñ capelym Mhen-llwyn am bymthego flynyddoedd, ac roedd ynaddisgwyliadau o fod yn ofalwraig ycapel a’r ysgoldy ac ati, y pryd hynny.Bu yno yng nghyfnod y ParchgGruffudd Jones, a dywedodd yntauei bod yn wraig ofalus dros ben.Symudodd ymhen amseri Drefechan, Aberystwyth, acymaelodi yn y Tabernacl, nes caeoddy capel. Wrth gwrs yn anffodus:mae’r capel urddasol hwnnw wedi eilosgi i’r llawr, erbyn heddiw.Wedi hyn, nôl at ei gwreiddiau ydaeth Mrs Jones, i gapel Rhiwbwys,a fynychodd tan y flwyddynddiwethaf.Roedd wrth ei bodd yn <strong>Hafan</strong> yWaun, yn derbyn gofal ac yn falcho gael sgwrs gan hwn a’r llall fyddaiyn ymweld â’r Cartref. Dywedwyd ybyddai yn cofnodi o ddydd i ddyddpwy a oedd yn dod i’w gweld.Roedd ganddi wybodaeth mawram y gorffennol, a chyda’r meddwlclir a oedd ganddi, medrai bontioddoe a heddiw.Gwraig a ddaliodd ati acymddiddori yn y pethau sy’ncyfrif, dal yn gadarn gyda’i ffydd a’ihargyhoeddiad.Diolch am ei bywyd. Estynnwnein cydymdeimlad â Dewi, Mair,Gwilym ac Olwen, a’u teuluoedd, a’rcysylltiadau eraill i gyd.CydymdeimladEstynnwn ein cydymdeimlad â Mra Mrs Martin Davies , Delyth a Iona,Maencrannog, ar golli chwaer yngnghyfraith a modryb yn ddiweddar,sef Mrs Doreen Evans o Bontgarreg.Newid SwyddDymuniadau gorau i Mrs NiaDavies, Ceunant, ar ei swyddnewydd. Bu Nia yn gweithio ynSwyddfa y Dreth Incwm am drosddeg ar hugain o flynyddoedd, ondy sôn yw fod y swyddfa hon ynAberystwyth yn cau yn y dyfodol.Mae Nia wedi bod yn ffodus i gaelswydd arall yn adeilad y Cynnulliad,adran Ffermio. Pob lwc iddi yn ygwaith.Cylch Meithrin Pen-llwynThema y tymor diwethaf oedd “ynyr ardd” a bu’r plant bach byseddgwyrdd yn brysur iawn yn plannumoron, mefus pwmpen a blodauhaul. Buont yn dysgu llawer amwahanol fathau o bryfed, a chadwlindys i weld y broses o’r lindys yntroi’n pili pala.Bu y cylch meithrin yn brysuriawn yn codi arian. Cafodd y plantddiwrnod hwylus iawn yn cymrydrhan mewn taith beicio noddedig,a chael dod a beiciau eu hunain i’rdaith.Llwyddiannus iawn oedd diwrnodSioe Capel Bangor. Llongyfarchiadaui Blake, Osian a Meilyr am ennillgwobrau am y lluniau gorau o’uhoff anifeiliaid, a da iawn chi blantam gymryd rhan, ac am y lluniauda a wnaethoch. Roedd yna hefydstondin gwerthu planhigion, mefusa hufen, raffl fawr, peintio wynebaua stondin poteli. Diolch yn fawri’r noddwyr, a diolch i bawb fu yncefnogi ar y diwrnod.Pob lwc i Sian Donnelly – yrarweinyddes, yn ei swydd newyddyn ysgol Penrhyn-coch. Diolch iddiam bopeth yn enwedig ei holl waithcaled dros y blynyddoedd diwethaf.Croeso mawr i Gail Nolan o’r Borth,a fydd yn cymryd drosodd swyddSian fel arweinyddes. Croeso, a phoblwc iddi.Daeth yr amser i ffarwelio aGeorgia Evans, Ffynnon Wen CapelBangor a Thomos Morgan o BentreUchaf, Cwmystwyth, y ddau yndechrau yn yr ysgol Gynradd – poblwc i’r ddau yn eu hysgol newydd.Croeso mawr hefyd i Aeron syddwedi ymuno â’r cylch meithrin ynddiweddar.Thema’r tymor yma fydd“Dathlu”. Bydd y plant wrth euboddau yn cyfarwyddo a chymrydrhan mewn nifer o wahanolddathliadau fydd o nawr, tan diweddy flwyddyn.Mae’r cylch wedi cael “makeover”yn ddiweddar, diolch i’r staff a’rrhieni, am eu help. Mae yn lliwgariawn efo darluniau o gymeriadauar y wal gan gynnwys Sam Tân aSali-Mali.Mae yna groeso mawr i unrywblentyn rhwng dwy a phedairoed i ymuno â’r cylch meithrin;i fwynhau cwmni plant eraill achael dysgu drwy chwarae. Os oesdiddordeb gennych, cysylltwch âBethan James –y cadeirydd ar01970 890283 neu Gail Nolan- yrarweinyddes ar 01970 871390.Merched y Wawr – CangenMelindwrAr fore Sadwrn, 7fed Mehefin daethyr aelodau ynghyd o flaen neuadd ypentref. Dringwyd i’r bws ond nidoedd syniad gennym (ar wahân iddwy neu dair) ble byddai pen drawy daith. Rhaid oedd dewis llenwady frechdan ar gyfer cinio cyn i nigychwyn ar ein taith. Doedd nebyn fodlon datgelu ble y byddem ynmwynhau’r brechdanau.Teithiwyd i gyfeiriad y gogledd amawr fu’r dyfalu ble byddai pen ydaith. Dyma aros o flaen gwesty’rAfr Frenhinol ym Meddgelert llemwynhawyd brechdan a phaned.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!