13.07.2015 Views

Y Tincer 311 Medi 08 *LLIW - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 311 Medi 08 *LLIW - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 311 Medi 08 *LLIW - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Y TINCER MEDI 20<strong>08</strong> 112.005 Richard Ll. Jones12 M.J. Morris19 Bugail26 William T.E. OwenMADOGSuliau MadogHydrefGraddioLlongyfarchiadau i Tracy Smith, Y Bwthyn,a raddiodd ym Mhrifysgol Aberystwyth fisMehefin.BarbiciwAr 20 o Fehefin cynhaliwyd barbiciw ynLluest Fach a gwledd wedi ei pharatoi ganAlwen. Roedd yn noson ddifyr a’r tywyddyn fendigedig. Pleser oedd croesawullawer o ffrindiau. Cafwyd ychydig eiriaupwrpasol gan y Parchg Derick Adamsam gyfeillgarwch y Cristion a Christ.Dymunwn wellhad buan i Alwen sydd ddimyn hwylus ar hyn o bryd.CydymdeimladCydymdeimlwn â’r Athro PatrickSimms-Williams, Gwarcwm ar golli brawdyng nghyfraith ac â Dylan a Nia Jones,Maes-yr-Onnen, ar golli mam Nia – MrsLilian Howells, gynt o Bonterwyd.LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i’r disgyblion fu’nllwyddiannus yn yr arholiadau – TrystanDavies, Rhys Evans, Mared Hughes, RheinalltJones a Gruffydd Pugh Jones. Dymunwnyn dda iddynt yn eu gyrfaoedd newydd neuwrth ymadael i’r coleg.SioeauBu Hywel Evans, Elonwy, yn llwyddiannusyn y Sioe Frenhinol Llanelwedd, hefyd, Dei,Lyn a Shirley Evans, Rheinallt a Llñr Jonesyn y sioeau lleol ac Aled Thomas yn ytreialon cãn defaid.DiolchDymuna Alwen Griffiths ddiolch i bawb ynyr ardal a gyfrannodd i Gronfa Macmillan.LLANGORWENRHAGHYSBYSIADEglwys LlangorwenNos Sadwrn, Rhagfyr 6 am 7.30Cyngerdd gan Gôr Ar Ôl Tri, Iwan Parry(Bas) a Rhian Lois (Soprano)ytincer@googlemail.comCYNGOR CYMUNED TIRYMYNACHMis MehefinYng nghyfarfod mis Mehefin o dangadeiryddiaeth y Cyng. John Evans,cyfetholwyd dwy aelod newydd a oedd wedidangos diddordeb i fod ar y Cyngor, sef SianJones, Caergywydd a Meinir Lowry, Rhoslan,y ddwy yn ferched lleol a’u teuluoedd wedibod yn yr ardal ers sawl cenhedlaeth. Daeth yCyng. Sian Jones i’r cyfarfod yn ddiweddaracha derbyniodd groeso ei chyd-gynghorwyr.Cafwyd y sylwadau canlynol ar faterion yncodi o’r cofnodion. Arwydd yn y Lôn Groes -y clerc wedi gweld proflen er mwyn gwirio’rgeiriad. Mi ddylai gael ei osod yn fuan.Mabwysiadu gweddill ystâd Maesafallen - dimi’w ychwanegu ar hyn o bryd. Goleuadau StrydBlaenddol a Mynedfa Cartref Tregerddan -peiriannydd wedi bod yn cymryd mesuriadau,cawn glywed oddi wrth y cwmni trydan.Ffordd Bow Street - Clarach, a’r Cynllun iwella’r ffordd fawr Rhydypennau/Dolau/Maesnewydd - penderfynwyd gwahodd yCyng. Ray Quant, Aelod Cabinet HPW idrafod y materion hyn yn ein cyfarfod nesaf.Arosfan Bws ger Afallen Deg a Maes Ceiro -dim ateb, ond penderfynwyd ysgrifennu at yPrif Swyddog Trafnidiaeth yn Aberystwyth acar yr un pryd i gefnogi preswylwyr Clarach/Llangorwen i gael gwasanaeth bws ddwywaithy dydd drwy’r flwyddyn. Rhaid gyrru nodyneto i goffau Adran y Priffyrdd am yr angen amreflectors ar yr rheiliau ger Ysgol Rhydypennau.Adroddwyd bod rhai o’r Cynghorwyr wedibod yn torri a chlirio mieri oedd wedi tyfudros y seti.Mae’r ceisiadau cynllunio canlynol wedi eucaniatáu: 1. Codi garej ddwbl yn Glyn Rhosyn.2. Newidiadau ac estyniad yn y Coach House,Cwmcynfelin. 3. Estyniad i’r adeiladau mas igynnwys ystafell haul yn Fferm Bryncastell.5. Codi estyniad deulawr yn 63 Bryncastell.Ceisiadau newydd: Balconi pren ar TheBungalow, South Beach, Clarach - dimgwrthwynebiad.Clywyd, yn answyddogol, bod BT yn golygucau un ciosg ffôn yn yr ardal, bydd y Cyngoryn cadw llygad ar y mater. Adroddwyd bodaroglau drwg yn un rhan o Maes Ceiro, aphenderfynwyd cysylltu â Dãr Cymru. MaePC Hefin Jones yn golygu sefydlu’r CynllunPact yn ardal Bow Street/Llandre/Clarachar 29 Gorffennaf mewn cyfarfod cyhoeddusyn Neuadd Rhydypennau. Bydd angen trichynghorydd cymuned ar y pwyllgor acenwyd y Cynghorwyr Heulwen Morgan, SianJones a Dewi Jones fel cynrychiolwyr.Codwyd mater dyfodol hen YsgolRhydypennau. Teimlad llawer o’r ardalwyr ywna ddylid ei dymchwel ar unrhyw gyfrif, ondei ddatblygu o fewn fframwaith ei chymeriadpresennol. Penderfynwyd ysgrifennu at yPwyllgor Addysg, a chopi o’r llythyr i GyngorCymuned Genau’r-glyn.Adroddwyd bod y draen wedi tagu ar Benrhiwa’r dãr yn llifo i lawr at Nantafallen ar y nosonroedd y Cyngor yn cyfarfod. Mae hefyd angenpaent ar y seti yn y gymuned a daeth cwynbod un o faniau Delta yn cael ei gyrru i’r arosfao flaen Ysgol Rhydypennau bob nos er mwynhysbysebu ei gwasanaeth. Rhoddir y sylwpriodol i’r tri achos.Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldebanorfod y Cynghorydd Sir, Paul Hinge. Yroedd wedi paratoi adroddiad manwl ar nifer ofaterion priodol i’r gymuned ac addawodd ybyddai yn cwrsio rhain ac yn adrodd yn ôl yn ycyfarfod nesaf. Gwnaed defnydd o’r adroddiadwrth ymdrin â rhai o’r materion uchod.Mis GorffennafCyfarfu’r cyngor ar 31 Gorffennaf yn FestriCapel Noddfa o dan gadeiryddiaeth y Cyng.Owain Morgan. Croesawodd y Cyng. MeinirLowry i’w chyfarfod cyntaf fel cynghorwraig.Roedd y Cyng. Paul Hinge, CynghoryddCeredigion, hefyd yn bresennol.Nid oedd dim pellach i’w adrodd ynglñn âmabwysiadu ystâd Maesafallen, mwy na bod ybroses yn symud ymlaen yn araf. Dywedoddy clerc ei fod wedi cyfarfod â chynrychiolwyra fyddai yn gyfrifol am y goleuadau ar strydBlaenddol a’r fynedfa i Gartref Tregerddana’u bod yn trafod opsiynau ac fe ddaw’ramcangyfrifon i law yn fuan. Mae’r Cyng. RayQuant (Ceredigion) yn barod i ddod i’r cyfarfodnesaf i drafod problemau ffordd Bow Street- Clarach, a’r ffordd fawr Bow Street/Dolau/Maesnewydd. Mae cwmni Arriva yn ceisiogweithio cynllun allan ar gyfer gwasanaeth bwsClarach - Aberystwyth. Bydd adran o’r CyngorSir yn cysylltu â pherchennog y clawdd sy’ngwyro dros yr arosfan bws ym Mhen-y-Garn.Adroddwyd bod y Cynllun Pact wedi ei ffurfioyn yr ardal ddeuddydd ynghynt a bod 22 ynbresennol. Un o’r problemau sy’n codi peno hyn yw bod perchnogion cãn yn gadaeli’w hanifeiliaid i lygru palmentydd a chaeauchwarae yn yr ardal. Bydd y cyngor yn gwneudcais i wahardd cãn ar bob cae chwarae yn ygymuned yn ogystal â thraeth Clarach.Ysgol Dop Rhydypennau. Er nad yw’r henysgol yn ardal Tirymynach, iddi hi yr âi’rmwyafrif mawr o blant y gymuned am drosgan mlynedd. Mae’r cyngor yn pwyso ar i’rCyngor Sir am osod cyfamod rhwystrol ar yfaçade, fel y gellid cadw cymeriad yr adeiladsydd mewn lle mor amlwg.Adroddwyd bod y bibell garthffosiaeth sy’ndirwyn drwy dir Rhydhir Uchaf yn gollwngeto ar amserau arbennig, a bod Afon Clarach yncael ei llygru gan y gorlanw o’r gwaith trin ynBow Street. Deallir bod Dãr Cymru wedi bodyn arolygu’r sefyllfa ac nad ydynt am wneuddim ynglñn â’r sefyllfa, er bod yna gynlluni godi hyd at 20 o dai yng Nghomins-coch ac20 arall yng Nghae’r Odyn, Bow Street. Petaiffermwyr yn llygru’r afonydd ni fyddent fawr odro cyn cael eu galw i gyfrif a’u dirwyo.CYNLLUNIO: Mae cais am godi balconi preni’r Byngalo ar Draeth y De, Clarach wedi eiganiatáu, er nad yw’n glir sut mae gosod balconiar fyngalo! Nid oedd unrhyw wrthwynebiadi newid defnydd i ddau annedd ym Manaros,Pen-y-garn. Beth bynnag i bob golwg roeddy gwaith eisoes wedi cychwyn. Nid oeddwrthwynebiad i godi annedd newydd yn lle’run presennol yn Rhydhir Isaf, Bow Steret.Bydd y cyfarfod nesaf ar 25 <strong>Medi</strong>.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!