13.07.2015 Views

Y Tincer 311 Medi 08 *LLIW - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 311 Medi 08 *LLIW - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

Y Tincer 311 Medi 08 *LLIW - Hafan gwefan gymunedol Trefeurig

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Y TINCER MEDI 20<strong>08</strong> 5ar y cyfle i siopa ac i gael te yng NghanolfanBwyd Llwydlo (Ludlow) cyn troi’n ôl i’n gwladein hunain ac i’r Ganolfan Clawdd Offa ynNhref-y-Clawdd. Stop olaf y dydd oedd yngNgwesty’r “Severn Arms” ym Mhen-bont llemwynhawyd swper blasus. Diolchwyd ganMr Gwynfryn Evans i drefnwyr y wibdaith.Mae’n debyg bod sawl un wedi cyfrannu atlwyddiant y dydd, gan gynnwys Y ParchgElwyn a Mrs Tegwen Pryse a’r Athro Des a MrsNansi Hayes.Cynhelir cyfarfod cyntaf sesiwn 20<strong>08</strong>-9 ynFestri’r Gerlan nos Fercher, 8 Hydref am 7.30p.m.Treulir y noson yng nghwmni y Parchg W.J. aMrs Gwenda Edwards.Priodas AurLlongyfarchiadau i Roy a Freda Darby, CaeGwylan, a ddathlodd eu Priodas Aur ar y 21aino Fehefin.Y Lleng BrydeinigDydd yr Hen-FilwyrMarciwyd Dydd yr Hen-Filwyr gan y LlengBrydeinig yn Y Borth gyda chyngerdd yn yNeuadd Gymunedol, nos Fercher, 25 Mehefin.Mr Aran Morris MBE oedd y Cadeirydd ac fegyflwynwyd y perfformwyr gan y Parch Ddr.David Williams. Trefnwyd rhaglen o eitemauofferynol gan Mr Geraint Evans a’r teuluHassan. Siaradodd Mr Iori Lewis, noddwr siroly Lleng Brydeinig, am rai o’i atgofion am yr AilRyfel Byd, pan oedd yn ymladd gyda’r WythfedFyddin (“Llygod yr Anialwch”) yng NgogleddAffrica, yn yr Eidal ac yn Ewrop. Ar ôl egwyla’r cyfle i fwynhau cwpaned o de, arweiniwydaelodau a ffrindiau mewn canu rhai o’n henganeuon cyfarwydd.Diolchir i bawb a gymerodd ran yn y cyngerddac i Joy Cook, Freda Darby a Margaret Griffithsa ofalodd am y gegin.Gweithred CoffaDigwyddodd Gweithred Coffa wrth GofgolofnRyfel Y Borth nos Fercher, 27 Awst. Ergwaethaf y niwl a’r glaw, ymgasglodd tuagugain o bobl o gwmpas y Gofgolofn ar gyfergwasanaeth byr yng ngofal y Parch Ddr DavidWilliams.Dilynwyd y Gweithred gan luniaeth ysgafnyn Neuadd Gymunedol Y Borth lle’rymunwyd â’r gynulleidfa gan aelodau eraillo’r Lleng Brydeinig. Jo Jones gyflwynoddyr Uwchgapten Ray Hobbins, Byddin yrIachawdwriaeth, a siaradodd yn ddiddorolam ei yrfa fel Cerddor a Chanwr Tiwba ynun o Gatrodau Cafalri y Fyddin Brydeinig.Diolchwyd iddo gan Mr Aran Morris MBE.Sefydliad Y MerchedTro Y Borth, eleni, oedd trefnu’r Helfa DrysorSirol, a ddigwyddodd nos Wener, 11 Mehefin.Cyhoeddwyd Caerwedros yn enillwyr ar ôlnoswaith hwylus, a ddaeth i ben yn NhafarnCeffyl Y Môr. Diolch i Lorraine Moore aMargaret Griffiths a drefnodd y noson.Cynhaliwyd cyfarfod olaf yr haf yn y NeuaddGymunedol, nos Fercher, 16 Gorffennaf . YCadeirydd oedd Margaret Griffiths. Roedd ynoson yng ngofal Joy Cook ac Elizabeth Evans,oedd wedi trefnu Trysor Helfa y tu mewn aco gwmpas y Neuadd. Yr enillwyr oedd OlwenEngland, Margaret Griffiths, Susan James acAlicia Moss, a dderbyniodd far bach o siocled yrun am eu hymdrechion.“Merched y Calendr” oedd thema fflot SYMyng ngorymdaith Carnifal Y Borth, ddyddGwener, 1af Awst. Er mawr siom (neu, efallai, ermawr ryddhad) y rhai oedd yn disgwyl gweld yrhiannedd yn efelychu Merched gwreiddiol YCalendar, yr oedd pawb yng ngwisg misoedd yflwyddyn. Diolch i bawb a gyfrannodd at hwyly dydd.MarwolaethMrs Barbara Gladys HughesDydd Gwener, 4 Gorffennaf, yn YsbytyMachynlleth, bu farw’n dawel Mrs BarbaraHughes, Cae Gwylan, ar ôl afiechyd hir. Yroedd yn 85 oed. Yr Hybarch Hywel Jones,Archddiacon Ceredigion gynt, ofalodd amy gwasanaeth angladddol, ddydd Gwener,18 Gorffennaf, yn Eglwys Sant Mathew, llebuasai Barbara yn aelod ffyddlon a gweithgar.Estynnwn ein cydymdeimlad i’w merch, MrsSusan Rees, ac i’r holl deulu.Dau De a DawnsCynhaliwyd dau De a Dawns llwyddiannusyn Neuadd Gymunedol y Borth yn ystod yrhaf, a’r naill, ar y 23ain o Orffennaf, er buddY Lleng Brydeinig, a’r llall, ar y 13eg o Awst, erbudd Eglwys Sant Mathew. Trefnwyd y ddauddigwyddiad gan Mrs Rosa Davies a Mr JohnTaylor. Ymunwyd â phentrefwyr ac ymwelwyrgan ddawnswyr Aberystwyth. Mwynhaoddpawb y dawnsio a’r lluniaeth blasus.Breninesau Y BorthDaeth adeg Carnifal Y Borth unwaith eto arddiwedd mis Gorffennaf, ac fe goronwyd RachelSwift, 14 oed, yn Frenhines Y Carnifal, ddyddSadwrn, 19 Gorffennaf. Coronwyd Rachel ganMichaela Bailey, Brenhines Carnifal 2007. Yngngosgordd y Frenhines, ddydd y Carnifal, 1Awst, roedd Stacey Bishop, Louise Drakely, AmyMoss, Gwenllian Smith ac Aidan Swift.Dydd Sul, 27 Gorffennaf, ar un o ddiwrnodaumwyaf heulog a chynnes yr haf, fe goronwydBethan Davies yn Frenhines RNLI Y Borth ganMrs Margaret Griffiths (Cadeirydd PwyllgorCodi Arian yr RNLI). Cynhaliwyd y seremoniy tu allan i Orsaf y Bad Achub, lle difyrrwyd ydyrfa fawr o wylwyr gan Ddawnswyr Lein YBorth. Yn ngwasanaeth y Frenhines Bethanroedd Isabella Ashford, Tasha Galliford, EmilyHomer a Holly fach. Cymerasant hwythau leblaen yn ngorymdaith y Carnifal ar y 1af oAwst.Carnifal Y BorthUnwaith eto roedd Wythnos y Carnifalyn llwyddiant ysgubol. Trefnwyd llawer oweithgareddau yn ystod yr wythnos, gangynnwys karaoke, rafflau, cystadlaethaudominos a dartiau, cwis tafarn, coroni Brenin aBrenhines Cors Fochno a Ras yr Hwyaid Pastig.I’r plant bach yr oedd picnic i’r Tedi Bers agwobr am y castell tywod gorau. Y digwyddiadolaf oll oedd “Cinio ar y Traeth” mewn gwisgffansi, nos Wener, 22 Awst.Yn ffodus iawn, trodd y tywydd yn sych, osbraidd yn wyntog, Ddydd y Carnifal, ac, felbob blwyddyn, daeth lluoedd o bobl i fwynhauyr orymdaith liwgar a swnllyd a ddirwynoddei ffordd ar hyd y Stryd Fawr, lan i’r Graig acyn ol i’r Meysydd Chwaraeon. Yno, yr oeddlluniaeth ar gael, cystadlaethau i’r plant astondinau yn gwerthu pob math o nwyddau.Diolchir yn fawr iawn i Bwyllgor y Carnifal ameu gwaith caled ac i bawb a gymerodd ran neua gefnogodd weithgareddau’r wythnos.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!