You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
© Dyma rifyn digidol yn unig. Mae hawlfraint y gwaith yma’n perthyn i’r awduron.
’steddfod

Y PU P

gan

Elgan Rhys

Tomos Jones

Mared Roberts

Ceri-Anne Gatehouse

Iestyn Tyne

Leo Drayton

Marged Elen Wiliam

Mahum Umer

Megan Angharad Hunter

Maisie Awen

Cyfarwyddwr Prosiect a Golygydd Creadigol

Elgan Rhys

Golygydd

Meinir Wyn Edwards

Rheolwr Marchnata

Nannon Evans

Dyluniad y Zine

Steffan Dafydd

Cysodydd

Richard Pritchard

@ypump_
Fe gafodd y zine arbennig yma ei gyflwyno yn gyntaf mewn gig yng

Nghaffi Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, Awst 2022.

CERDDORIAETH

Eädyth

Lewys

Ioan Bryn

Rhodri Foxhall

Cast

Tim: Carwyn Healy

Tami: Beca Llwyd

Cat: Becca Naiga

Robyn: Dervla Hollie Eve Whiteway

Aniq: Rebecca Wilson

Cyfarwyddwyr y Gig

Gethin Evans

Elgan Rhys

Diolch o galon i’r Eisteddfod Genedlaethol, Maes B ac

i’r Frân Wen am fuddsoddi a chydweithio gyda chriw Y Pump

i greu’r digwyddiad arbennig hwn.

Diolch i’r Lolfa ac AM am eu cefnogaeth parhaol.
Wrth i chi ddarllen y zine,

gwrandewch ar gerddoriaeth Lewys:

A cherddoriaeth Eädyth:
PROLOG

MANON STEFFAN ROS

Yn y lle hwn...

Yn y lle hwn, mae’r tir dan ein traed yn dal curiadau

cant o wahanol synau. Dy hoff gân di yn cael ei chwarae’n

fyw gan dy hoff fand, jyst yn fan’na, mor agos, reit o dy flaen

di. Rywla ar yr awel, ma ’na fand hen bobol yn chwarae’i

hits, a thorf o bobol yn canu bob un gair efo nhw, pob un

yn teimlo, o’r diwedd, fel nhw’u hunain. Ma ’na chwerthin a

sgwrsio, babi’n crio a phlant bach yn chwerthin, yn high ar

gwmni eu ffrindiau a gormod o Tango IceBlast.

Ma ’na bump yma sydd â chwlwm mor gryf ac mor

anweledig â dy hoff alaw ar yr awel. Ffrindiau, y math gorau

o ffrindiau – y rhai sy’n caru ei gilydd ddigon i grwydro i

ffwrdd, cwrdd â phobol newydd, a dod yn ôl a deud yr

hanes. Ffrindiau sy’n gallu gwrando ar gân, a dal llygaid ei

gilydd dros y dancefloor, eu meddyliau ynghlwm efo’r holl

atgofion ma’r alaw yma’n ei dal.

Efo’i gilydd, ond eto ar wahân.

Ac nid pawb sy’n teimlo bo’ fama iddyn nhw. Nid
pawb sy wedi teimlo’n chwithig mewn gwersi dawnsio

gwerin, neu wedi gorfod gwylio mam mewn côr yn canu

fatha bod hi WIR yn malio am Greigiau Aberdaron, neu

wedi bod yn blant bach swnllyd ar y Maes, yn hel sticers

ac yn dilyn pobol enwog. Ma ’na rai pobol sy’n dod i fama

ac yn teimlo fatha bod o ddim yn lle iddyn nhw. Fatha bo’

nhw’n ddiarth.

Ond pan ma gin ti dy ffrindiau… Ti byth yn ddiarth efo

dy bobol, nag wyt.

Fama, lle mae’r cwrw yn ddrud a’r chips yn ddrutach,

ond ma ffrindiau’n rhannu’r bagia crisps a’r bisgedi ddaru

nhw brynu yn Lidl ar y ffor’ yma. Fama, lle ma dy hen

athrawon yn dy weld ti’n neud petha fasa well gin ti’u bo’

nhw ddim yn eu gweld, ond ti’n eu gweld nhw’n meddwi’n

gachu ac yn defnyddio’r un geiriau gest ti detention ganddyn

nhw am ddeud chydig flynyddoedd yn ôl. Fama, lle ma pob

un person diarth ti’n ei basio yn stori; yn llwybr; yn botensial.

A ma pob un o dy fêts yn stori, hefyd, ’mond eu bod nhw’n

straeon cyfarwydd, agos. Mae’r lle yma, rŵan, yn perthyn

iddyn nhw.

Mae’r lle yma, rŵan, yn perthyn iddyn nhw.
gan

MARGED ELEN WILIAM

gyda

MAHUM UMER
’STEDDFOD ANIQ

Dwi yma.

Dwi i fod i gyfarfod y lleill yn Y Lle Celf mewn

munud. Lle bynnag ma fanno.

Dwi wedi rhoi fy live location ymlaen, fel nath

Abba fynnu neithiwr.

Dwi’n camu i mewn i’r babell groeso.

Anadlu i fewn.

Ac allan.

Dwi’n suddo fy llaw i fewn i boced fy nghôt.

Diolch byth. Mae o yna. Darn bach o sgarff maroon

Ammi. Dwi ’di stopio gwisgo’i sgarffia hi erbyn hyn.

Nath Robyn awgrymu wrtha i (yn garedig) ella’i bod

hi’n amsar i ffeindio ffordd newydd o gofio amdani.

A ffordd newydd o deimlo fel fi. ’Dan ni wedi bod yn

gweithio ar greu blanced o ddarnau o sgarffiau Ammi.

Ond dwi ddim cweit yn barod i fod heb ddarn bach

ohoni yn agos ata i.
Dwi’n rhwbio’r defnydd wrth gerddad drwy’r

babell groeso. Ma ’na ddarn yn y canol maint fy mawd

sy’n feddal, feddal ar ôl yr holl rwbio. Ond mae o’n

teneuo fymryn bob tro dwi’n ei dwtsiad o.

Dwi’n camu allan. Ma’r pinna bach yn bygwth dod

allan i chwara.

Dwi’n trio canolbwyntio ar fy synhwyra.

Be ti’n flasu?

Samosa nath Daadi neud i fi lowcio cyn dod o’r car.

O’dd hi ’di clywad bod bwyd yn ddrud yma. A do’dd

gynnon ni ddim syniad os fysa unrhyw beth yn halal.

Daadi. Fedra i fynd ’nôl at Daadi? Neidio i’r car a

gwibio am adra?

Na. Ti’n gallu neud hyn, Aniq. Meddylia am Cat,

sy’n methu bod yma.

Reit. Un cam ar y tro.

Be ti’n weld?

Pobol. Gormod o bobol. Fel morgug mawr, a

phlant fel dail aflonydd ar gefna a sgwydda.
Be ti’n glywed?

Sŵn. Gormod o syna. Lleisia, drymia, côr yn

ymarfar, stampede o draed yn crensian ar y cerrig.

Gweiddi chwerthin. Gweiddi crio.

Be ti’n ogla?

Cwrw melys neithiwr fel cling ffilm stici dros y

gwair. Anti bac a pi-pi yn hofran o’r portaloos.

Be ti’n deimlo?

Y pinna bach yn dechra pigo.

Come on, Aniq. Be arall ti’n deimlo?

Llgada. Arna i. Rhywun yn dod yn nes. A map o’r

Maes yn cael ei stwffio yn fy llaw.

“Hello there! Are you looking for Maes D, cariad?”

Dim lle i ddysgwyr ydy Maes D? Grêt. Here we go

again.

Ma hi’n edrych mor fodlon hefo hi ei hun. Fel sa hi

newydd neud random act of kindness.

“It’s just over there! I can take you there if you
like?” Ma hi’n codi ei braich i bwyntio. Modrwyau

sy’n edrych fel petaen nhw’n costio o leia pump

tocyn steddfod yr un yn sgleinio ar ei bysedd.

Sbectol haul Chanel yn goron ar ben ei gwallt melyn.

A ffrog flodeuog yn pwffio allan dan ei jaced high

vis bwysig.

Dwi’n trio deud rwbath. Rwbath. Ond be dwi’n

ddeud?

Ma hi’n sbio arna i. Ond dydy hi ddim yn fy ngweld

i. Ddim yn iawn. Dim ond ei syniad hi ohona i.

Siriysli? Ydy hon actually’n meddwl bod cymryd

yn ganiataol bo’ fi’n ddysgwr yn ok? Yn socially

acceptable? Ok, ella bod y ffaith bo’ fi’n sefyll yma

yn trio tawelu fy hun drwy fynd drw’r pump blydi

synnwyr a phawb arall yn symud o ’nghwmpas i ddim

cweit yn socially acceptable. Ac ella bo’ fi’n edrych

ar goll. A mi ydw i ar goll. Ond WAW. Be dwi i fod i

neud? Gwisgo hijab efo’r coma bach oren ‘Cymraeg’

’na’n batrwm drosta fo?

A ma hi dal i sbio arna fi. Yn gwenu fel giât.

Dwi’n sbio o gwmpas go iawn tro ’ma, ar y morgrug

mawr a’r plant aflonydd. A dwi’n trio chwilio am

forgrugyn sy’n edrych fel Daadi, fel Tariq, neu Abba. Fel

fi? Yn sydyn, dwi’n teimlo ton anferth o binna. Dwi’n
hwbio’r defnydd yn fy mhoced. Rhwbio a rhwbio

rhwng fy mys a ’mawd. A dwi’n trio canolbwyntio ar y

meddalwch. Ond ma’r rhwbio wedi gwisgo’r defnydd a

ma ’mawd i wedi rhwygo drwy’r smotyn brau ar ganol

y darn. Shit.

“Are you okay, cariad?” Ma hi dal yna. Hi a’i high

vis yn gwenu. Gwenu gormod. A dwi angan cerddad

i ffwrdd. Fedra i ddim mynd yn ôl drwy’r ganolfan

groeso. Bydd Daadi bendant wedi gadael erbyn hyn.

Felly dwi’n rhoi’r map yn ôl yn ei llaw fodrwyog, er

’mod i ei angen o. A dwi’n cerddad ymlaen. Ma rei o’r

morgrug yn taro fewn i fi. Whiffs o chwys a chwrw ac

eli haul yn hedfan o ’nghwmpas i. A ma’n teimlo fel

bod rhai yn sbio. A rhei eraill yn trio eu gorau i beidio

sbio.

Dwi’n teimlo on display ac yn anweledig ar yr un

pryd.

O fy mlaen i ma arwydd Y Lle Celf. Yn maroon

cynnes fel y defnydd yn fy mhoced.

Dwi’n rhuthro i fewn a dwi bron â baglu. Dwi’n

trio tynnu anadl i fewn.

Ac allan.

Ond ma’n anodd.

Dwi’n ca’l fy nhynnu at gerflunia gloyw sy’n edrych
fel duwiesa. Wrth drio canolbwyntio ar siapiau’r

pennau patrymog dwi’n teimlo rhywun wrth fy ymyl.

Eädyth.

Ar goll yn llgada un dduwies ddisglair.

Ma hi’n teimlo fy llgada i arni hi. A ma hi’n troi i

sbio arna i. Gwên. Ma hi’n fy ngweld i. Gwên gynnes

o gydnabyddiaeth. Fy ngweld i go iawn. Dwi ddim ar

ben fy hun. Dwi’n bodoli. A ma’r pinna’n meddalu.

“Aniq?” Llais Tami. “Ma hi fan hyn!” Breichia’r

lleill amdana i.

“Oh my god! Dwi meddwl bo’ fi newydd weld

Eädyth yn pasio!” medda Tim yn llawn cyffro.

“Yn lle?” medda Robyn gan swisho ei siol llawn

sequins, “Ti meddwl nath hi sylwi arna fi?”

Dwi’n deud dim. Achos moment Eädyth a fi oedd

hi. Neb arall.

“Ti’n edrych yn ffab, Robyn. Dwi’n teimlo’n hollol

underdressed.” medda fi yn shrincio i fewn i fy nghôt

law.

“I call this ‘Tregaron chic’. Neu ‘Tregaron

Glamazon’. Fy enw barddol am yr wythnos.” Ma hi’n
codi ei phen, yn dduwies arall wrth y pennau sgleiniog.

“A paid â poeni Ani, ma gynna i LOT o betha neis yn

y bag ’ma. Gawn ni chdi’n festival ready in no time!”

Ma Robyn yn estyn ei llaw amdana i. Dwi’n

gwasgu’r defnydd yn fy mhoced un waith eto. Cyn rhoi

fy llaw yn gadarn yn ei llaw hi. A dwi’n barod. Barod

i grwydro’r Lle Celf. Barod i gerdded allan a gweiddi

siarad Cymraeg. Barod i ganu i nodau’r un welodd fi go

iawn. Barod i fod yn fi fy hun hefo’r rhai dwi’n eu caru.
gan

MARED ROBERTS

gyda

CERI-ANNE GATEHOUSE
’STEDDFOD TAMI

Apparently ma’n cymryd chwarter awr i gico

mewn. Sai’n teimlo dim byd ’to. O god o god o

god, ife Robyn a Tim sy fyn’na? O nage, thank fuck.

Nethon nhw ddim gweud bo’ nhw’n dod i’r tent ’ma

eniwei. So nhw’n lico tecno. A ma nhw’n hammered so

newn nhw probs ddim sylwi bo’ fi’n...

Dim ond heno a nos fory dwi ’ma so fel… fuck it.

Os dwi’n gweld un flipping chipping arall yn y lle

’ma, dwi’n mynd i declaro fy hunan yn cursed.

Es i i chwilo am Aniq a Robyn a Tim wrth yr

entrance achos wedon ni bydden ni’n cwrdd yn yr

entrance tasen ni’n colli un ohonon ni. So dyna be ’nes

i. Ond do’n nhw ddim ’na.

A wedyn anghofio bo’ fi’n gorfod pwsho fy hunan

drw’r chippings ’ma ’nôl mewn.

So ie, dries i osgoi nhw a symud i’r ochor. Wedyn

bennes i lan ag un olwyn yn y mwd, un olwyn ar y

chippings, a ffaelu manwfro. Pwsho a pwsho tan bo’
eichie fi’n rhoi lan.

Rhoi lan, a wedyn dwi’n edrych lan.

“Ti’n meindio just like...?”

Dau wyneb yn troi’n syth. Tase Aniq gyda fi, bydde

hi’n gweud bod y ddau yn abstract art rili profound.

Dechreuon nhw bwsho. Nia ar y chwith, a Dani ar

y dde.

“Star sign?” gofynnodd Nia. Ac o’n i’n gwbod

bydden ni’n dod mlan ’da’n gilydd yn syth.

“Aquarius sun, Scorpio moon, Pisces rising.”

Wedyn nath y ddau edrych ar ei gilydd yn syth a

gwenu. ’Nes i ofyn pam o’dd e’n ffyni. Wedon nhw bo’

nhw’n gwbod bo’ fi ddim yn straight o ateb fi.

Nethon nhw ofyn i fi wedyn i guesso rhai nhw. Ges

i Dani yn iawn. Aries. Do’n i ddim yn siŵr am Nia.

“So ti’n gallu gweud o’r earrings?” gofynnodd Nia.

Fair enough. Ma earrings cherry crochet yn rhoi big

Leo vibes i fod yn deg.

Dwi ’di stryglan i neud ffrindie drw gydol bywyd

fi ond nawr dwi’n neud dau ffrind amazing o fewn fel

pum munud? Shwt ma hynna’n gweitho I will never

know.
Dani na’th sneako fe mewn. Mewn bag bach ciwt

yn eu lighter nhw. Ma nhw wastad yn neud e mewn

festivals apparently. Ond hwn yw tro cynta Nia ’fyd.

So wedes i ie, pam lai. Falle bydd pobol yn lico’r Tami

yma yn fwy. Bydde hi’n Tami mwy carefree, Tami llai

uptight.

Rhoiodd Dani demonstration bach i ni gynta o

shwt o’dd sniffo fe off yr allwedd. O’dd e’n ffyni achos

o’dd e’n teimlo fel mai nostril fi o’dd y clo a bod y stwff

gwyn yn mynd i ddatgloi rhwbeth hollol mysterious

yndda i, ha-ha. Wedon nhw wrthon ni i gadw sniffo a

llyncu. So ’na be nethon ni, er bod e’n blasu’n disgusting

yn cefen gwddwg fi. Fel fflem glaw asid. Neu pan ti

ddim cweit yn llyncu antibiotics yn iawn.

Wow, ma’n weird ddo. Dwi’n meddwl bo’ fi’n

teimlo fe’n dod yn slo bach. Fi’n iste, obvs, ond sai’n

teimlo coese na pen-ôl fi o gwbwl. Ma fe fel bo’ fi’n

iste ar fel, bao buns Wagamama neu rwbeth. Neu ar yr

actual Pafiliwn! A ma ysgwydd fi’n dal i roi dolur, ond

dyw e ddim yn boddran fi o gwbwl. Fi jyst yn iste’n ôl,

a ma corff fi’n fine. Yn ddim byd. Jyst yn chillo. God, fel

hyn ma’n teimlo i beido teimlo?

Dwi’n edrych ar Dani a Nia. Dim ond nhw fi’n

gallu gweld. Ma hi’n dywyll a ma’r swirls lliwgar ar

Lucy and Yaks Dani yn dechre symud, fel pobol yn
neud y worm. A dwi’n edrych ar eyebrows coch llachar

Nia, a’i gwefuse hi sy’n matsio. Ma’r ddau yn fucking

gorgeous humans. Ma nhw’n like...

well fit.

God, ydw i rili newydd weud hynna?

Dwi’n pwynto i gyfeiriad ffrynt y Techno Tent.

“Dewch ’da fi!”

A ma nhw’n pwsho fi mlân i’r ochor dde fel bod y

tri ohonon ni ar bwys y speaker. Dwi’n nabod y gân sy’n

chware. Endaf – ‘Glaw’. Pathetic fallacy? Falle. Dwi’n

watsio llyged Dani a Nia yn sbarclo dan y gole tra bod

y tri ohonon ni’n slitheran breichie ni rownd y lle i’r

darn instrumental. Wedyn dwi’n gwrando ar y drwms,

a’n teimlo breichie fi’n symud exactly’r un pryd.

Pryd ma Mam yn pigo fi lan? O ie, bore dydd Sul.

Ife? Falle... Dwi’n cadw anghofio bod byd yn bodoli tu

fas i’r tent bach ’ma. I wish bydde bywyd fi’n aros fan

hyn yn Nhregaron am byth.

Dwi’n watsio lens y golau’n symud rownd y stafell.

Ife stafell yw hi os mai tent yw e?

Ma’r tatŵ ceirios ar braich Dani’n rowlo, fel dwy

lygad agored. Dwi’n meddwl (?) bod wynebe ynddon

nhw. Fel masgs theatr. Un yn hapus, un yn drist. A Sam

yn y canol. Fel ‘na bydde hi’n edrych. Falle.
“Fi’n CaaaRuUu ChIiiii!”

“FI’N cARu PAWwwwb!”

Ma’r strôb yn dechre. A ma popeth yn arafu.

Tywyll. Gweld Dani yn pouto. Lewys yn canu grwndi

yn y speakers. Prrr. Tywyll. Breichie pawb yn symud

fel cêbls wedi tanglo. Cêbls gwaed, fel cêbls Cat yn

yr ysbyty. Tywyll. Gweld Nia yn twerko. Tywyll.

Cheekbones y merched ar bwys fi’n sbarclo’n wyrdd

a’n las a’n binc. Tywyll. Gweld Eädyth yn neud rowli

powlis ar draws y llwyfan. Tywyll. Nia yn sgrechen

wooo! Tywyll. Fel watsio Instagram story rhywun a

pauso fe bob nano-eiliad. Licen i sen i’n gallu neud

hynna i foments go iawn.

Tywyll.

A dwi’n caru fi. Dwi’n meddwl… Ie, na, dwi yn.

Dwi moyn neud hyn ’to a ’to a’ to a bob dydd. Ond

dwi’n gwbod bydd realiti yn fwy poenus y mwya dwi’n

ei oedi fe.
gan

IESTYN TYNE

gyda

LEO DRAYTON
’STEDDFOD ROBYN

Mae’n amser i mi ganfod,

sut ga i f’adnabod,

cyn i rywun falurio’r llun…

Lleisia. Cerddi. Glaw mân ar do marquee mewn

car park clwb rygbi, drws portaloo yn rwla yn bangio

yn y gwynt. O, diwylliant! Geiria Lewys yn helpu fi i

fodoli. Be ti’n neud, Robyn? O, dwn i’m, Robyn, jyst

aros i neud ffŵl o’n hun.

“A rŵan… a rŵan…

Ac ma’r boi yn sbio ar ei bapur, ac yn sbio arna fi,

ac yn sbio ar ei bapur, ac yn sbio arna fi.

A ma ’na long pause a ma pawb yn sbio arna fo, ac

yn sbio arna fi.

A dwi’n sbio arna fo.

Dwi’n sbio o ’nghwmpas.
Ma nhw’n edrych bach yn drab heno, to be honest,

y BEIRDD ’ma. A ma nhw i GYD yn yfed cwrw. A

ma lot lot ohonyn nhw’n ddynion. Dwi’m yn ddyn, a

dwi’m yn drab. Dwi’n fwy… drag.

A ma’n ffyni, cos fel, few hours yn ôl o’dd eu hanner

nhw yn yr Orsedd, sydd chydig bach fel drag ac yndy,

ma’n ffyni achos sa chdi’n deutha nhw hynna sa chdi

ar Naughty List yr Archdderwydd probs (ella bod o’n

existio, ydy o werth ffeindio allan?). Un dwrnod, fi

fydd yr archdderwydd queer cynta a fel, fydd ’na lot o

glitter, ballroom vibes. Swn i definitely’n leanio fewn i’r

thing pageantry, a swn i definitely’n gwisgo robes fi i

bob man. Swisho rownd y lle fel queen.

Ffyc, dwisio pi.

Ma hyn i gyd ’di dod allan o’r fact bo’ fi, fi bach,

Robyn, wedi ennill y prize ’na am farddoniaeth ar

diwrnod ola ni’n Gyfun Llwyd; a ma nhw ’di gwahodd

fi i fod yn rhan o’r noson ’ma sydd apparently yn

big deal ym myd y BEIRDD. A heno, dwi yn fy siol

harddoniaeth, yn newid lliw dan bob golau ac yn

SHIMMERIO. Yes.

Dwi ddim yn completely siŵr pwy ydy’r MC ’ma,

mond fod o’n ddigon o big deal i fod yn arwain y sioe.

Apparently nath o ennill y goron or some shit, ond fel,

blynyddoedd yn ôl. Fysa Miss Jones yn gwbo’, even os
ydy hi’n rhy ifanc i gofio. Ma hi’n lyfio steddfod. Ond

mae o, hwn sy’n arwain, yn dal i stallio a edrych yn

conffiwsd a dwi’n dechra panicio. Dechra teimlo bach

yn sic, sic ddim isio bod yma.

Cos dwi yma ben fy hun hefyd, cos o’n i’n meddwl

a ma hyn yn wbath dwi angan neud fy hun, wbath

dwi’n gallu neud fy hun. Mond Tim sy’n gwbo’ bo’ fi

yma, ac o’dd o isio gweld Adwaith yn Maes B heno,

so os oes rhywun yn holi, ma Tim am ddeud bo’ fi yn

yr Airbnb, yn teimlo’n sâl. Ond rŵan swn i’n rili licio

gweld wynab Tim, yn popio i fyny yn y gynulleidfa,

yn gweiddi GWON ROBYN; neu glwad Tami rwla

ddau gam tu ôl i fi, yn cwyno (rightly so) am y toileda

inaccessible, neu Aniq, yn waxing lyrical am wbath

nath hi weld yn y Lle Celf.

Ond dwi’n gallu neud hyn. Ti’n gallu neud hyn.

Robyn. ROBYN. Focus.

Mae’n amser i mi ganfod,

sut ga’ i f’adnabod,

cyn i rywun falurio’r llun…

Ma’r boi barddoniaeth dal yn shyfflo papur fo. Paid

â ffocin malurio llun fi.
“Ac mae’r bardd glywn ni rŵan, yn un o’r

genhedlaeth nesaf… mae Robyn…”

Ac mae o’n clirio’i wddw, a ma’r clirio gwddw ella’n

para tua three seconds sydd ddim yn swnio fel lot ond

ma’n amsar rili hir i fod yn clirio gwddw.

“Mae Robyn, sy’n mynd i fod yn darllen un o’i

gerddi…”

A.

Cue rhan bach ohona fi’n marw chydig bach. Cue

sgrech y dysfforia, yn methu cadw draw. Yn atgoffa.

Shit.

Ond hefyd cue sharp intake of breath, neu, sharp

intake of breath gan tua chwarter y gynulleidfa sydd

newydd sylwi be sy ’di digwydd.

A dwi’m yn gwbod os na’r dirty look genna fi, y

collective dirty look gan fy holl bobl, yr holl bobl sydd

yma, yndda fi, efo fi, sy’n neud o… ond mae o, mae o’n

cywiro’i hun.

“ … mae hi…” medda fo.

A dwi’n neidio. Tu mewn. Ffyc! Yes! Euphoria!

Cariad! Llawenydd!

“ … mae hi newydd orffen ei ThGAU… ac fe’i

anrhydeddwyd hi fel llenor ifanc mwyaf addawol Ysgol
Gyfun Llwyd ar ddiwedd y tymor diwethaf.”

Ha! Do! Sbïwch arni hi!

“Mae hi’n bleser gen i wahodd Robyn i fyny rŵan i

ddarllen… ei… cherdd.”

O, ma treiglada yn gallu gwagio a llenwi calon fi

fatha bwcad.

Dwi’n camu i’r golau.

Yn y dechreuad,

Fy nechreuad i,

Ar ôl i’r glec fawr fy ngwahanu

Rhag y tragwyddoldeb du,

Wrth i emyn yr enfys ganu’n glir

Ganwyd lliw,

Y lliw a lenwa’r llun.

Magwyd y lliw tu mewn i’m calon lân

fel coron o fewn cist drysor cadwais i hi’n saff

yn ei fwydo a’i chysuro

nes iddo dyfu’n iach,

gan aros am y diwrnod fe fydd yn barod i ddod mas,

dawnsiaf yn y dorf

nes i’r gân olaf ddod i ben.

Ac yna rhyddhaf y drysor i lenwi’r bwlch sydd yn y nen

ac ar gair y gloch yn canu

distawa’r ffair i gyd

fel un edrychwn i fyny i weld fy enfys uwchben y byd.
Ma’n anodd gneud allan wyneba pobl, gweld

yr expressions, sut ma nhw’n ymatab. Ella bod rhai

ohonyn nhw ddim rili’n cymryd sylw, rhy brysur yn

sgwennu englynion ar y beer mats neu be bynnag.

Ond wrth fynd lawr y steps a trio peidio stymblo

(achos ma sgidia fi obvs yn rhy uchel a totally

impractical ar gyfer steddfod ond whatever), dwi’n

clywed ambell cheer, ac eitha lot o glapio, a dwi’n siŵr,

bron yn siŵr, un GWON ROBYN, yn rhywle, yn fy

mhen neu yn fy nghalon, o bosib.

“Hey… ti’n okay?”

Dwi’n troi rownd, y goleuada’n dal i ddallu fi

chydig bach, a dwi’n gweld rhywun dwi’n teimlo fel bo’

fi’n nabod ond dwi actually ddim. Ma’n weird pan ti’n

cyfarfod rhywun ffeimys, yndy?

“Oh my gosh, chdi ydy Eädyth?” Robyn, Robyn

Robyn. Ti mor lame.

“Ha-ha, ie. O’n i jyst moyn tsieco bod ti’n okay.

’Nes i sylwi ar y boi ’na’n bod yn weird am pronouns ti,

a ie, ddim isie neud ffys ond… ti’n okay?”

Methu coelio bod Eädyth jyst yn sefyll yma’n

siarad efo fi, let alone pan na’i chân hi o’dd yn mynd

drw pen fi jyst rŵan.
Un cam ymlaen,

Edrych mlaen

A bodoli

Dwi jyst yn sefyll yna’n sbio achos dwi’n methu

cweit prosesu be sy’n mynd ymlaen. Ac yna ma ’na

rywun arall, yn sefyll yn y cysgodion.

“O’n i’n caru cerdd chdi. Caru fo. Ti’n mynd i fod

yn hiwj.”

What?! Ma Lewys yn gwenu’n awkward ac yn rhoi

thumbs up i fi.

“Dan ni jyst ’di bod yn practisho at y gìg nos

Sadwrn, naethan ni glwad chdi’n darllan, mor cŵl.”

Dwi’n trio deud diolch a bo’ fi’n fine a ma pawb yn

neud mistakes weithia yndy, a rili rili ti ddim angen

poeni am y boi yna – he made the right decision in the

end. Ond hefyd diolch, ia, diolch a sori a pam bo’ fi’n

deud sori? Ha-ha, nervous laugh, fuck, be ddiawl ydy’r

noson yma? Drws portaloo dal yn bangio hefyd.

“Gweld ti yn y gg falle?”

Falle, Eadyth, falle. Omfg, obviously!
gan

ELGAN RHYS

gyda

TOMOS JONES
’STEDDFOD TIM

Porffor.

Porffor fel y two-man-tent dwi’n eistedd ar ei bwys.

Porffor fel yr awyr, sy’n amgylchynu pawb sy dal

yn effro ym Maes B.

Dwi’n teimlo’n borffor fel yr awyr heno. Wel, ma’r

awyr rhwng heno a’r bore sy bron â chyrraedd. A ma’r

teimlad porffor yma dwi’n ei deimlo rhwng dau beth

hefyd. Porffor cynnes, cysurus, ond un shêd bant o

borffor tywyll, peryglus. Dwi’n teimlo’n gynnes achos

dwi’n falch o fi’n hunan am allu eistedd fan hyn gyda

dieithryn, ond dwi hefyd yn teimlo bod rhyw beryg yn

agos achos bod y bachgen yma’n ddieithryn.

Sai’n gwbod ydy e’n serial killer neu beidio, ond dwi

yn cael teimlad rili gryf bod e ddim yn serial killer achos

wedodd e bod e’n lico jwmper Captain Planet fi, a wedodd

Robyn bod hi’n nabod e ers gig Ani Glass yn neuadd y

dre dwy flynedd yn ôl, ac anyway, sai’n credu bydde serial

killers yn mynd i’r Steddfod. Pam fydden nhw?
Sai’n siŵr i ble’n union ma Robyn wedi mynd.

“Fydda i’m yn hir, OK? Mynd i neud… i fyta brownies.”

Dyna wedodd hi. ‘Nes i weud bod nunlle ar agor i brynu

brownies am bron i bump y bore a na’th Robyn neud

y chwerthin oren ’na ma hi’n neud, cyn gweud, “’Na i

esbonio wedyn” a gadael fi ar ben fy hunan gyda Nathan,

y boi sydd falle’n serial killer ond probably ddim.

O’n i’n meddwl bydden i’n crynu, yn freako mas,

ond wedodd Robyn bod Nathan yn ‘good guy’. Felly,

sai wedi crynu, eto. A ma ’na rhywbeth rili garedig a

calm am Nathan actually. Enwedig yn y ffordd ma fe

newydd weud “Na i aros ’da ti nes bydd Robyn ’nôl, os

tisie.” Falle’r smôc sy’n neud iddo fe fod fel hyn. Ma fe’n

cynnig peth i fi. Ond sai’n smoco. A ma arogl y smôc

mae e’n smoco yn smelo fel chwys rili intense, ond falle

mai fe, neu falle fi, sy’n arogli o chwys. Dwi’n sniffo fy

hunan. Definitely ddim fi. Felly un ai fe, neu’r smôc.

Sai’n mynd i sniffo Nathan. Ond dwi yn mynd i sniffo’r

pwff o fwg ma fe newydd chwythu ata i… A chyn i fi

ga’l cyfle i gymryd sniff llawn, dwi’n pesychu. Pesychu.

Pesychu. Pesychu.

Ma Nathan yn chwerthin yn ei grys binc gole sy heb

ei fotymu a’n dangos blew ei chest. Ma fe’n chwerthin

oren, tebyg i Robyn, a ma fe’n trio dal fy llyged i, a ma

fe’n gweud bo’ fi’n “adorable”.
Yr unig berson arall sy wedi galw fi’n adorable yw

Cat. Am eiliad, dwi’n dychmygu Cat yn eistedd yma

gyda fi, yn lle Nathan. No offence i Nathan. Dwi’n

dychmygu Cat yn dal fy llyged i, a dwi’n gadael hi i

mewn fy llyged i. A ma Cat yn gweud bo’ fi’n adorable.

A dwi’n gweud yn ôl wrthi: “Ti’n adorable ’fyd.”

Ond dyw Cat ddim yma.

“Ti’n adorable ’fyd.”

O na.

Dwi actually newydd weud hynna mas yn uchel. A

dim i Cat, ond i Nathan. Ma Nathan yn gwenu, ac yn

dal i geisio dal fy llyged. Ma fe’n symud yn agosach ata

i. Sai’n siŵr pam. Dwi’n dechre teimlo’r crynu. Yn fy

mhen dwi’n ailadrodd be wedodd Robyn wrtha i, bod

e’n ‘good guy’, ma fe’n ‘good guy’. Good guy, dim crynu,

good guy, dim crynu, good guy.

Yn sydyn, ma Nathan yn rhoi cân mlaen ar ei ffôn.

A dim unrhyw gân. Ma fe’n rhoi cân Lewys mlaen. A

dwi’n nabod y gân. ‘Adnabod’, dyna enw’r gân. A dwi’n

nabod y gân achos dwi wedi bod yn gwrando ar holl

ganeuon Lewys. Ond do’n i ddim yn nabod Lewys cyn

i weddill y Pump weud bo’ nhw moyn mynd i gìg fe

ac Eädyth yng Nghaffi Maes B diwedd yr wthnos. Ac

achos hynny, dwi nawr yn nabod caneuon Lewys i
gyd, a fy hoff gân gan Lewys? ‘Adnabod’. Achos mae’n

tawelu fi. A dyna’n union dwi angen nawr.

Dwi’n meddwl bod Nathan wedi synhwyro bo’ fi

ar fin crynu.

Dwi’n ei edmygu fe, am eiliad, edmygu greddf pobl

i wybod beth mae rhywun ei angen heb iddyn nhw

orfod gweud be ma nhw angen. Dwi hefyd yn edmygu

ei wallt tywyll, achos ma fe’n atgoffa fi o wallt tywyll

Cat ar ddechre’r cyfnod pan o’dd hi’n sâl, pan o’dd ei

gwallt hi’n fyr, ddim wedi’i golli i gyd. A dwi’n edmygu

gwallt tywyll Nathan, achos ar ochr ei dalcen dde, reit

wrth lein ei wallt, mae ganddo fe’r tatŵ mwyaf ciwt o

ddraig. Nid fel y rhai tsiep, ar freichie dynion sydd â

chyhyre mawr a cryse T sleeveless sy’n caru eu mamau,

ond un rili fach, ciwt a… delicet. Draig ddelicet ar

dalcen Nathan.

Ond anyway, shwt o’dd e’n gwbod mai ‘Adnabod’

yw fy hoff gân dawel ar hyn o bryd?

Dwi’n gwenu arno fe, achos dwi’n meddwl galle fe

fod yn psychic. Ma bod yn psychic lot gwell na bod yn

serial killer.

Ma’r crynu’n diflannu. A sai’n teimlo’n agos at y

porffor tywyll, peryglus rhagor. Jyst porffor cynnes,

cysurus. A tra ma Lewys yn canu ar ffôn Nathan, ni’n
dau ffaelu stopo siarad. Ni’n siarad am bopeth, dechre

siarad am psychics, siarad am y Pump a shwt y’n ni

mor dependent ar ein gilydd ond hefyd ddim, a wedyn

yn siarad am serial killers ac wrth siarad am y serial

killers ma Nathan yn gweud bod e fwy o ofn Karens na

serial killers. Ma fe’n benderfynol o ddod â phob Karen

i ben, “Mae angen canslo Karens”!

A dwi ffaelu stopo chwerthin. Bydde Tami ac Aniq

yn chwerthin eu penne nhw off ar hyn. Ni’n dechre

gweiddi, “Canslo Karens! Canslo Karens! Canslo

Karens!”. A ma llais arall yn y cae yn ymuno, ac un

arall, ac un arall, a wedyn ma loads o bobl yn deffro er

mwyn gweiddi o’u tents, “Canslo Karens!”.

Ac wrth i’r “Canslo Karens” dawelu, dwi’n sylwi ar

Nathan yn ceisio dal fy llyged eto cyn gweud bod twoman-tents

byth wir ar gyfer two-men, ond bod e’n siŵr

gall y ddau ohonon ni ffito. Sai’n deall. Ond cyn i fi gael

y cyfle i ddeall, mae ei wefuse fe ar fy rhai i. Ma fe’n

cusanu fi.

Wow. Wow. Wow.

Dwi’n rhoi stop ar hyn. Gwthio’i ysgwydde fe bant,

gwthio fe bant. A ma fe’n chwerthin yn goch-oren.

Ond sai’n chwerthin, achos sai isie hyn. Sai’n meddwl

bo’ fi isie hyn anyway. Dwi’n meddwl am Cat. Ydy e’n

meddwl bo’ fi isie hyn?
“Ti’n meddwl bo’ fi…”

Ma fe’n torri ar fy nhraws i: “Trio fy lwc. Ti byth yn

gwbod cyn bod ti’n trio. Sori.”

A ma fe’n tanio smôc-chwys arall, tra dwi’n clywed

ei eirie ‘ti byth yn gwbod cyn bod ti’n trio’ drosodd a

drosodd yn fy mhen. Sai erioed wedi cusanu bachgen

yn y ffordd hynna o’r blaen. A sai isie. Sai’n meddwl.

Cat. Na, sai isie. Sai isie… Sai’n meddwl? Crynu.

Crynu…

Cyn i fi allu meddwl mwy, dwi’n clywed ei llais hi’n

gweiddi o’r pellter.

“Fan’na mae o, my straight queer!”

Robyn.

Gyda lôds o fflags amryliw yn glogyn iddi.

Anadlu.

Ma’r gân ar ffôn Nathan yn newid. Eädyth tro ’ma.

Am nawr, am heno, dwi’n penderfynu ysgwyd y

gusan bant, a’r meddylie newydd, ac yn cymryd geirie

Eädyth a dychweliad Robyn fel cysur. “Dilyn llwybr fy

hun.” Am nawr, dwi ar fy nhraed yn dawnsio gyda’r

dieithryn sy’n ffrind newydd, a gyda fy hen ffrind a’i

fflags amryliw. Ni i gyd yn “dilyn llwybr ein hunain”, a

sdim ots os yw’r llwybr hynna ddim yn glir, eto.
Ni’n ailddechre’r gweiddi i ganslo Karens, a ni’n

dechre dawnsio. Ni yn y Steddfod a ni’n dawnsio a dim

byd arall, am nawr. Dawnsio. Dilyn ein llwybrau ein

hunen. Dawnsio. A dim byd arall.
gan

MEGAN ANGHARAD HUNTER

gyda

MAISIE AWEN
’STEDDFOD CAT

Dwi nôl, nôl yn 15 oed ac yn sefyll mewn mosh

pit. Ma lyrics Eädyth, lyrics ‘Tyfu’’n llythrennol

yn tyfu o gwmpas fi (!!!) a’r dorf i gyd yn tyfu hefyd, a

rwan ma Eädyth yn canu’r vocalisations aaaanhygoel

na ar ddiwedd y gân sy fel fersiwn fel, clywedol o’r

gacen Rum Trinidadian ma Dad yn neud weithia pan

mae o’n teimlo’n euog am beidio Skypio Gramma

Trinidad digon, a -

Pan ma’r larwm yn mynd ma atgof fi am Eädyth a’i

lyrics sy’n Tyfu’n llythrennol yn diflannu fel tric hud

rili siomedig, a dwi nôl. Nôl. Gwely, central line, stafell,

sbyty,

(heEelp).

Dwi’n codi ffôn fi i stopio’r larwm ac yn darllen

yr ‘alarm label’ nes i sgwennu i fi fy hyn wrth osod y

larwm:

Amser mynd ar Insta a messagio Tim achos HOLY

FUCK CAT MA GIG EÄDYTH A LEWYS YN DECHRA
RWAN ond PAID, I repeat, PAID a scrollio a sbio ar

posts NEB. Just dos syth i messages. GO!!

Dwi’n troi ar ochr fi’n araf so dwi ddim yn symud

y central line achos dwi dal yn paranoid fod dwi am

rippio fo allan, er fod y nyrsus i gyd yn deud fod hynna’n

rili fel, anhebygol, a dwi’n downloadio Instagram eto i

messagio Tim i ofyn os di’r gig yn dechra, ond dwi’n

fel cuddio hanner y sgrîn efo llaw fi lol so dwi ddim

yn gweld y post cynta ar home page fi. Dwi heb fod

ar social media ers cyrraedd, ers wythnos (!!) achos

dwi ddim yn bwriadu neud fy hun yn genfigennus o

fywydau haf amazing pawb arall pan dwi’n llythrennol

yn fel, carcharor yn yr un stafell mewn sbyty am fis efo

neb i siarad efo heblaw Mam. No. Ffrigin. Way. Fel, dwi

even di dileu TikTok! Iyp. Ac i fi, ma hynna’n big thing.

Fel, apocalypse, Trydydd Rhyfel Byd, mass extinction

big thing.

So: dwi’n gyrru’r neges i Tim, a rwan dwi’n disgwyl.

Dwi’n rhoi ffôn fi nôl ar y stôl bach wrth ymyl

gwely fi, rhwng y llun nath Aron, brawd bach fi neud o

ci ni’n pî-pî ar lawr y gegin a Dad yn edrych yn flin, a’r

origamis dwi di neud i gynrychioli’r Pump. Dwi di neud

rhai eraill i gynrychioli Eädyth (llew) a Lewys (crane,

crëyr glas yn Gymraeg dwi’n meddwl?? Biiiwtiffyl).

Onest, yr unig beth dwi di bod yn neud wythnos yma
ydi gwrando ar Eädyth a Lewys. Dwi di bod yn canu

caneuon nhw yn barhaol, yn annoyio’r nyrsus i gyd

achos ma llais fi’n seriously afiach, fel, nath brawd fi,

Guto ddeud fod dwi’n canu fel dwi’n ganol neud shit

rili poenus? Yeahhh. Di Guto DDIM yn canu fel mae

o’n neud shit neud rili poenus though so gobeithio pan

dwi’n cael bone marrow fo wythnos nesa ella fydda

i’n canu’n well? Ond I swear, dwi genuinely ddim yn

gallu neud dim byd arall ond gwrando ar gerddoriaeth

achos trwy central line fi dwi’n cael y chemo mwya

afiach erioed i drio zappio’r celloedd leukaemia i gyd

a dod a system imiwnedd fi i lawr so fydd corff fi ddim

yn rejectio bone marrow newydd Guto wythnos nesa.

Heavy.

Dwi’n nôl ffôn fi eto ac yn shyfflo caneuon Eädyth.

Dwi’n gwrando ar Rise Up:

Ni di cwmpo lawr o’r blaen, ond nawn ni codi eto.

Ti’n siŵr though, Eädyth? Ti’n siŵr?

Yr unig waith es i i’r Steddfod (actually yna by the

way, nid ar facetime fel dwi’n neud heddiw), o’n i efo

Mam Dad a dwi’n cofio’r ffordd oedd pawb yn syllu

arna ni fel oedda ni’n plannio, yn cynllwynio i losgi

carafans posh nhw i gyd i’r llawr, screaming toddlers

included. Oedd hynna’n neud i fi deimlo mor fach a

paralysed a vulnerable, fel, bregus ac oedd pawb yn
siarad Cymraeg efo Mam ond byth efo Dad a fi. Jyst

Saesneg. O’n i isio sgrechian o Lwyfan y Maes: DWI’N

SIARAD CYMRAEG!!! DWI’N BODOLI!! (Yn y

scenario yma dwi’n dychmygu Eädyth tu ôl i fi ar y

llwyfan yn barod i blastio’r gan Bodoli i’r byd)

Be os fydd neb yn dod i gaffi Maes B i wrando ar

Eädyth? Shit, fydd Aniq yn ok??

Ma ffôn fi’n pingio. Tim!! Ma nhw’n barod! Holy

SHIT ma nhw’n barod!

Wrth ddechra’r video call dwi’n tiltio’r ffôn so dim

ond fel hanner llygaid a talcen moel fi sy’n dangos

achos dwi ddim isio fo boeni amdana fi’n edrych fel

absolute crap a methu hyd yn oed eistedd i fyny’n y

gwely. Ma Tim yn edrych mor hapus yn ei ffordd fel,

tyner a tawel ac amazing ei hun ac yn troi’r camera i

ddangos Eädyth i fi a

a dyma hi.

Wow. Ma’r gynulleidfa mor fawr ag oedd o pan

o’n i’n 15 oed ac yn tyfu a ma Aniq yn sgrechian y

lyrics, hefyd yn edrych yn hapus, yn hapus go iawn

a dwi’n tiltio’r ffôn i fyny eto so dydyn nhw ddim yn

gallu gweld fod dwi’n crio (the fuck Caaat) ac I swear,

I swear ma’r lyrics yn tyfu trwy speakers ffôn fi hyd

yn oed a DWI’N FFRIGIN BODOLI, hell YES dwi’n
odoli a dwi ddim yn teimlo’n fach na paralysed na

bregus ond fel dwi ac Eädyth ac Aniq actually i fod yma

a ma Tim yn deud fod Robyn am gario fi (yn y ffôn lol,

yn amlwg) at Eädyth ar ôl y gig i siarad efo hi be ffwc

(!!!!) a ella na i ddangos yr origami llew iddi hi ond

actually na Cat, no way. Ti angen dod drosodd yn fel,

soffistigedig ac aeddfed o flaen Eädyth achos cofia: ma

hi basically’n goddess.

Ni di cwmpo lawr o’r blaen, ond nawn ni codi eto.

Hell yes da ni’n codi. Dwi’n codi, ma Eädyth yn

codi, ma Aniq yn codi. Ac actually, dwi’n meddwl,

dwi’n meddwl ma Cymru o’r diwedd,

o’r diwedd,

yn dechra tyfu.
EPILOG

gan

TOMOS JONES, CERI-ANNE GATEHOUSE,

MAHUM UMER, LEO DRAYTON

A MAISIE AWEN

TIM:

TAMI:

“Ymhlith y sêr, mae’n amser imi ganfod

sut ga’ i f ’adnabod.”

Yn y foment ‘ma, dwi’n teimlo’r pellter a’r

agosatrwydd rhyngddon ni, Y Pump.

Ife ‘na shwt ma pawb yn teimlo?

ANIQ:

ROBYN:

CAT:

TIM:

“Ma Eädyth yn amazing” ac wrth gwrs bo’

hi.

Dyma fi! Dyma hi! Dyma ni!Chwysu ond

mae o werth o!

Tim, fo ydy’r heddwch yn y llanast.

Ti byth yn gwbo’ sa bo’ ti’n trio... Os dwi’n

syth neu beidio, sdim ots, achos cynnal fy

nhaith neith hynny, nid ei arwain.
TAMI:

ANIQ:

Ma’r gerddoriaeth yn tynnu ar fy mreichie

i fel tasen i’n byped, lan a lawr a lan a lawr.

Dwi’n gafael yn dynn yn llaw Robyn.

Dwi’n dechra gwella.

ROBYN:

CAT:

TIM:

TAMI:

ANIQ:

ROBYN:

CAT:

TIM:

TAMI:

ANIQ:

ROBYN:

CAT:

Amlinelliad cysgodion yn dawnsio heb

wynebau, dim ond eneidiau llawen a

rhydd.

Wynebau drwy’r sgrin mor brydferth â’r

origamis i gyd. Gwylio’r byd yn troi o

ffenest y sbyty ond ydw i’n gwella?

Earplugs dal yn saff gen i, ond sai’u

hangen nhw nawr.

OMG, ma Eädyth yn edrych fel angel yn y

spotlight!

Dwi’n gwenu go iawn.

“Dim byd’ da i ddweud”? Fuck that.

Tyfu poenus ond gobeithiol.

Dwi’n hapus bo’ fi yma.

Sen i’n popstar, f ’enw i bydde Beanbag.

Y sêr uwch fy mhen. Y pump wrth fy

ymyl.

“Torri yn rhydd” ond sdim angen unrhyw

orfodaeth, mae’r drws ar agor yn barod.

Stafell wag ond calon lawn cariad.
CYFEIRIADAU

MUDIADAU CEFNOGAETH

Meddwl: meddwl.org

Mind: mind.org.uk

Meic Cymru: meiccymru.org

Shout: giveusashout.org

The Mix: themix.org.uk

YoungMinds: youngminds.org.uk

Diverse Cymru: diversecymru.org.uk

Awtistiaeth Cymru: autismwales.org/cy

Aubergine Cafe Cymru: auberginecafe.co.uk

Your Space / Dy Le Di: yourspacemarches.co.uk

Disability Arts Cymru: disabilityarts.cymru

Anabledd Cymru: disabilitywales.org

Stonewall Cymru: stonewallcymru.org.uk

Tir Dewi: tirdewi.co.uk

Muslim Council of Wales: muslimcouncil.wales

Islamic Relief: islamic-relief.org.uk

Muslim Hands: muslimhands.org.uk

EYST Wales (Ethnic Minorities & Youth Support Team): eyst.org.uk

Comisiynydd Plant Cymru: complantcymru.org.uk/cyhoeddiadau/adnoddtaclo-islamoffobia

TransAid Cymru: transaid.cymru

Mermaids: mermaidsuk.org.uk
Paned o Ge: paned-o-ge.wales

Teenage Cancer Trust: teenagecancertrust.org

New Pathway: newpathways.org.uk

Ynys Saff: cavuhb.nhs.wales/our-services/sexual-health/services-provided/

ynys-saff-sexual-assault-referral-centre

Refuge: refuge.org.uk

EMWWAA (Ethnic Minority Welsh Women Achievement Association):

emwwaa.org.uk
£5.99 yr un

£25.00 – set focs

www.ylolfa.com