17.01.2013 Views

[Front cover] - ARCHIVE: Defra

[Front cover] - ARCHIVE: Defra

[Front cover] - ARCHIVE: Defra

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

[Front cover]

Llywodraeth EM

Sicrhau’r dyfodol

cyflawni strategaeth datblygu cynaliadwy’r DU

[page 1]

Strategaeth Datblygu Cynaliadwy

Llywodraeth y DU

Cyflwynwyd i’r Senedd gan yr Ysgrifennydd Gwladol

dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

ar Orchymyn Ei Mawrhydi

Mawrth 2005

Cm 6467 £26

[page 2]

© Hawlfraint y Goron 2005

Gellir ailgynhyrchu’r testun yn y ddogfen hon (ac eithrio’r Arfbais Frenhinol a logos

adrannol) am ddim mewn unrhyw ffurf neu gyfrwng cyn belled â’i fod yn cael ei

ailgynhyrchu yn gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol.

Rhaid cydnabod y deunydd fel hawlfraint y Goron a rhaid nodi teitl y ddogfen.

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau yn ymwneud â’r hawlfraint yn y ddogfen hon at

The Licensing Division, HMSO, St Clements House, 2-16 Colegate, Norwich, NR3

1BQ. Ffacs 01603 723000 neu e-bost: licensing@cabinet-office.x.gsi.gov.uk

Sicrhau’r dyfodol

Yn 1999 nododd fy llywodraeth ein strategaeth i helpu i sicrhau gwell ansawdd

bywyd drwy ddatblygu cynaliadwy. Chwe blynedd yn ddiweddarach rydym wedi

adolygu’r strategaeth honno i gymryd i ystyriaeth newidiadau o fewn y DU –

datganoli i Gymru a’r Alban, ac i gyrff rhanbarthol a llywodraeth leol – ac yn

rhyngwladol yn sgîl Uwchgynhadledd y Byd ar Ddatblygu Cynaliadwy yn 2002.

Os gwnawn y dewisiadau anghywir yn awr bydd cenedlaethau’r dyfodol yn byw gyda

hinsawdd sydd wedi newid, adnoddau prinnach a heb y mannau gwyrdd a’r

fioamrywiaeth sy’n cyfrannu at ein safon o fyw ac ansawdd ein bywydau. Mae angen

i bob un ohonom wneud y dewisiadau cywir i sicrhau dyfodol sy’n decach, lle y

gallwn i gyd fyw o fewn ein terfynau amgylcheddol. Mae hynny’n golygu datblygu

cynaliadwy.

Agenda ar gyfer yr hirdymor yw hon. Nid oes unrhyw ateb hawdd y gall y

llywodraeth nac unrhyw un arall ei gynnig i sicrhau y mabwysiedir ymddygiad a

gweithgarwch cynaliadwy dros nos. Ni lwyddwn ni oni fyddwn yn cyd-fynd â’r hyn y

mae ar unigolion a busnesau ei eisiau, a sianelu eu creadigrwydd i fynd i’r afael â’r

heriau amgylcheddol sy’n ein hwynebu. Nid oes angen i ddatblygiad, twf, a ffyniant

wrthdaro â chynaliadwyedd ac ni ddylent wrthdaro ag ef.

Dros y chwe blynedd diwethaf bu newid pendant ym marn gwyddonwyr ac erbyn hyn

mae bron pawb yn cytuno bod yr hinsawdd yn newid ac mai gweithgarwch dynol sy’n

gyfrifol am hynny. Mae hynny’n golygu y gallwn symud o drafod p’un a oes problem

i sut i fynd i’r afael â hi. Ydy, mae’r newid yn yr hinsawdd yn fygythiad a allai fod yn

drychinebus, ond gallwn fynd i’r afael ag ef - a rhaid i ni fynd i’r afael ag ef. Ni fydd

y newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar y DU yn unig ond ar bob rhan o’r byd, ac

mae’n debyg mai’r rhannau hynny sydd leiaf abl i ddygymod ag ef yn arbennig

Affrica Is-Sahara a gaiff eu niweidio fwyaf ganddo. Fodd bynnag, rhaid i ni ymateb

hefyd i’r her hon gartref. Rhoddodd y Papur Gwyn ar Ynni a gyhoeddwyd gennym yn

2003 ni ar ben ffordd tuag at economi carbon isel. Erbyn hyn ein tasg yw cyflawni

hynny gartref a dod o hyd i ffyrdd o gael cytundeb rhyngwladol drwy fforwm y G8 a

fforymau eraill i atgyfnerthu’r ymdrech fyd-eang i fynd i’r afael â’r newid yn yr

hinsawdd.

Er mai’r newid yn yr hinsawdd yw’r bygythiad amgylcheddol byd-eang mwyaf

difrifol, mae hyrwyddo ffyrdd newydd, modern, cynaliadwy o fyw, gweithio,

cynhyrchu a theithio hefyd yn sicr o ddwyn manteision ehangach o ran iechyd a lles

pobl. Mae angen i ni barhau â’n dyletswydd gofal i ddiogelu ein hadnoddau naturiol,

er ein lles ein hunain ac er lles cenedlaethau’r dyfodol.

Rydym yn fwyfwy ymwybodol o’r angen i wneud gofalu am yr amgylchedd yn rhan

annatod o lunio polisïau o’r cychwyn, yn hytrach nag ymdrin â chanlyniadau

esgeulustod yn nes ymlaen. Mae angen i ni ystyried yr amgylchedd lleol yn wasanaeth

cyhoeddus pwysig (megis y GIG neu addysg) yr ydym yn elwa arno bob dydd. O

edrych arno felly, mae’n amlwg pam y gall polisïau i hyrwyddo amgylcheddau o

ansawdd gwell hefyd ddod â manteision cymdeithasol ac economaidd hirdymor. Yn

aml mae’r bobl hynny sydd o dan yr anfantais economaidd a chymdeithasol fwyaf

hefyd yn byw mewn amgylcheddau diraddiedig lle mae llai o swyddi a strydoedd

anniogel a hyll. Ein nodau yw economi gryf, a chartrefi boddhaol lle mae mannau

cyhoeddus glân, diogel a gwyrdd, lle y gall pobl fyw bywydau iach, a mwynhau’r

amgylchedd o’u hamgylch. Felly nid yn unig y mae ein strategaeth newydd yn

cynnwys ymrwymiad i greu cymunedau cynaliadwy ond ymrwymiad i roi canolbwynt

newydd i’r gwaith o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau amgylcheddol hefyd.

Nododd yr ymateb i’r ymgynghoriad ar gyfer y strategaeth hon yn glir mai’r hyn yr

oedd ei angen yn y strategaeth hon oedd dechrau gweithredu. Felly mae’r strategaeth

yn cynnwys camau gweithredu pendant i hyrwyddo cynaliadwyedd drwy gynnwys

pobl, arwain drwy esiampl a thrwy ddangos ein hymrwymiad i gyflawni’r strategaeth:

� Bydd ein rhaglen newydd Community Action 2020 yn rhoi cyfle i bobl ym mhob

cymuned yn y wlad wneud gwahaniaeth yn lleol – neu’n fyd-eang. Gwelwyd yr

hyn y mae rhai cymunedau wedi’i wneud gydag Agenda 21 – rwyf am weld yr

egni hwnnw, ledled y wlad, yn esgor ar atebion a chamau gweithredu lleol – o ran

trafnidiaeth, gwastraff, ynni ac o ran creu lleoedd y mae pobl am fyw ynddynt

� Bydd y Llywodraeth yn arwain drwy esiampl. Mae Llywodraeth y DU yn prynu

nwyddau a gwasanaethau gwerth £13 biliwn bob blwyddyn. Yn achos y sector

cyhoeddus ehangach y ffigur hwn yw £125 biliwn. Rydym am sicrhau ein bod yn

gwario eich arian yn gynaliadwy, gan ddechrau gydag ymrwymiad i brynu ceir

glanach a thrwy ein cynllun gwrthbwyso newydd i leihau effeithiau carbon teithio

drwy’r awyr na ellir ei osgoi. Yn y ddogfen hon dangoswn sut y bydd pob adran

o’r llywodraeth yn cyfrannu at y strategaeth hon. Rwyf am i bob adran o’r

llywodraeth lunio ei chynllun gweithredu ei hun erbyn diwedd y flwyddyn fel y

gallwn sicrhau y cyflawnir y strategaeth

� Er mwyn dangos ein bod o ddifrif ynghylch cyflawni’r strategaeth, byddwn yn

rhoi’r gorau i gyflwyno adroddiadau ar ein cynnydd ein hunain a throsglwyddo’r

dasg i Gomisiwn Datblygu Cynaliadwy a atgyfnerthwyd, a fydd yn gweithredu fel

y corff gwarchod annibynnol ar gynnydd y llywodraeth.

Mae hon yn agenda wirioneddol heriol. Bydd yn cynnwys gweithio ar draws ffiniau

adrannol a thrwy bob lefel o lywodraeth – o’r gymdogaeth i’r Cenhedloedd Unedig.

Mae’n cynnwys sianelu grym byd busnes drwy symbylu’r farchnad i arloesi a

chynhyrchu opsiynau mwy cost-effeithiol a mwy cynaliadwy ar gyfer pob prynwr.

Mae’n gofyn am ymrwymiad grwpiau gwirfoddol, ac mae’n golygu dylanwadu ar y

dewisiadau pob dydd unigol yr ydym i gyd yn eu gwneud.

Yn bennaf oll, mae’n golygu canolbwyntio ar atebion hirdymor yn hytrach na rhai

byrdymor. Targedu camau atal yn awr, yn hytrach na chymryd camau cywiro yn

ddiweddarach. Sicrhau ein bod yn cael y budd amgylcheddol, cymdeithasol ac

economaidd llawn o bob punt a wariwn.

Rydym wedi treulio amser hir yn mynd i’r afael â’r cysyniad o gynaliadwyedd. Rwyf

am weld y siarad yn dod i ben. Rwyf am i’r strategaeth hon symbylu camau

gweithredu i sicrhau ein dyfodol.

[insert signature]

Mynegai’r penodau

Crynodeb Gweithredol

Pennod un:

Strategaeth newydd

Pennod dau:

Helpu pobl i wneud gwell dewisiadau

Pennod tri:

“Economi un blaned”:

defnyddio a chynhyrchu cynaliadwy

Pennod pedwar:

Wynebu’r bygythiad mwyaf:

newid yn yr hinsawdd ac ynni

Pennod pump:

Dyfodol heb edifarhau: diogelu ein

hadnoddau naturiol a gwella’r amgylchedd

Pennod chwech:

O’r lleol i’r byd-eang:

creu cymunedau cynaliadwy a byd tecach

Pennod saith:

Sicrhau ei bod yn digwydd

Tudalen

Crynodeb Gweithredol

Mae ein Strategaeth ar gyfer datblygu cynaliadwy yn ceisio galluogi pawb ledled y

byd i ddiwallu eu hanghenion sylfaenol a byw bywyd o ansawdd gwell heb beryglu

ansawdd bywyd cenedlaethau’r dyfodol.

Pennod 1:

Strategaeth newydd

Mae gan y Llywodraeth bwrpas newydd ac egwyddorion ar gyfer datblygu

cynaliadwy ynghyd â blaenoriaethau cyffredin newydd y cytunwyd arnynt ar draws y

DU, gan gynnwys y Gweinyddiaethau Datganoledig. Mae’r strategaeth hon yn

cynnwys:

� gweledigaeth integredig newydd sy’n adeiladu ar strategaeth 1999 – ac iddi

ddimensiynau rhyngwladol a chymdeithasol cryfach

� pum egwyddor – yn cynnwys mwy o ffocws ar derfynau amgylcheddol

� pedair blaenoriaeth y cytunwyd arnynt – defnyddio a chynhyrchu cynaliadwy,

newid yn yr hinsawdd, diogelu adnoddau naturiol a chymunedau cynaliadwy

� set newydd o ddangosyddion, sy’n canolbwyntio’n fwy ar ganlyniadau, ac

ymrwymiadau i edrych ar ddangosyddion newydd megis lles.

Pennod 2:

Helpu pobl i wneud gwell dewisiadau

Mae angen i ni i gyd – llywodraethau, busnesau, y sector cyhoeddus, mudiadau

gwirfoddol a chymunedol, cymunedau a theuluoedd – wneud dewisiadau gwahanol er

mwyn i ni gyflawni’r weledigaeth o ddatblygu cynaliadwy.

Mae’r Llywodraeth yn cynnig ymagwedd newydd at ddylanwadu ar ymddygiadau yn

seiliedig ar ymchwil ddiweddar i’r hyn sy’n pennu patrymau cyfredol. Bydd y

Llywodraeth yn canolbwyntio ar fesurau i alluogi ac annog pobl i newid eu

hymddygiad, mesurau i gysylltu â phobl, a’r ffordd y gall y Llywodraeth arwain drwy

esiampl. Pan na fydd y rhain yn ddigonol i newid arferion sydd wedi hen ymsefydlu,

byddwn hefyd yn chwilio am ffyrdd i symbylu newidiadau.

Mae ymrwymiadau allweddol yn cynnwys:

� rhaglen newydd o ymgysylltu â’r gymuned – Community Action 2020 – Together

We Can – i symbylu gweithredu cymunedol gan helpu pobl i gymryd rhan drwy

ddarparu hyfforddiant mewn sgiliau, gwell mynediad i arian a mentoriaid

� fforwm trafod i edrych ar y camau y byddai angen eu cymryd i helpu pobl i fyw

yn fwy cynaliadwy

� treialu ffyrdd agored ac arloesol i ganiatáu i randdeiliaid ddylanwadu ar

benderfyniadau ynghylch y math o brosiectau a fyddai’n cyflawni nodau’r

strategaeth hon

� ymrwymiadau newydd i gefnogi addysg a hyfforddiant ym maes datblygu

cynaliadwy

� gwerthusiadau o drethi amgylcheddol allweddol i helpu i greu darlun mwy

cynhwysfawr o effeithiolrwydd trethi o’r fath a llywio adolygiadau pellach, gan

gynnwys yr adolygiad o’r Rhaglen Newid yn yr Hinsawdd.

Pennod 3:

“Economi un blaned”: defnyddio a chynhyrchu cynaliadwy

Mae ffyniant cynyddol, yn y DU a ledled y byd, wedi rhoi cyfle i lawer o bobl

fwynhau manteision nwyddau a gwasanaethau a arferai fod ar gael i’r ychydig rai yn

unig. Gwnaed cynnydd hefyd o ran glanhau rhywfaint ar y llygredd diwydiannol

gwaethaf. Serch hynny, mae ein patrymau defnyddio a chynhyrchu yn dal i gael

effaith drom ar yr amgylchedd, ac mae defnydd aneffeithlon o adnoddau yn llesteirio

economi a busnesau’r DU. Ar ben hynny, yn rhyngwladol mae angen i ni hyrwyddo

natur gydategol y broses o lacio rheolau masnachu, diogelu’r amgylchedd a datblygu

cynaliadwy i helpu gwledydd sy’n datblygu.

Mae angen newid mawr i gyflwyno cynhyrchion a gwasanaethau newydd sy’n cael

llai o effaith ar yr amgylchedd yn ystod eu cylch bywyd, a modelau busnes newydd i

fynd i’r afael â’r her hon tra’n gwella cystadleurwydd. Ac mae angen i ni adeiladu ar

ymwybyddiaeth gynyddol pobl o faterion cymdeithasol ac amgylcheddol, ac o’u

pwysigrwydd fel dinasyddion a defnyddwyr.

Mae ein strategaeth ar gyfer gwneud hyn yn cynnwys:

� atgyfnerthu mesurau’r DU a mesurau rhyngwladol i wella perfformiad

amgylcheddol cynhyrchion a gwasanaethau, gan gynnwys cynhyrchion wedi’u

dylunio’n well

� ymgyrch barhaol i gynyddu effeithlonrwydd o ran adnoddau a lleihau gwastraff a

gollyngiadau niweidiol ar draws sectorau busnes, gyda chymorth y rhaglen

Effeithlonrwydd a Gwastraff Adnoddau Busnes newydd (BREW)

� ymdrech newydd i ddylanwadu ar batrymau defnyddio, gan gynnwys cynigion ar

gyfer cyngor newydd i ddefnyddwyr

� ymrwymiadau newydd ynghylch caffael cynaliadwy yn y sector cyhoeddus i

sicrhau bod y DU yn arwain yn hyn o beth o fewn yr UE erbyn 2009

� partneriaethau cryfach gyda sectorau busnes allweddol megis y diwydiannau

bwyd, twristiaeth ac adeiladu

� adolygiad o’n strategaeth wastraff, gyda mwy o bwyslais ar leihau faint o wastraff

a gynhyrchir yn y lle cyntaf a’i ddefnyddio fel adnodd.

Pennod 4:

Wynebu’r her fwyaf: newid yn yr hinsawdd ac ynni

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i leihau gollyngiadau nwyon tþ gwydr y

wlad. Yn ei Phapur Gwyn ar Ynni a gyhoeddwyd yn 2003, gosododd y Llywodraeth y

nod o symud i economi carbon isel wrth graidd ei strategaeth ynni, a phennu nod

hirdymor o leihau gollyngiadau carbon deuocsid tua 60 y cant erbyn oddeutu 2050,

gan amlygu cynnydd gwirioneddol erbyn 2020.

Ar ben hynny, mae gennym darged o dan Brotocol Kyoto i leihau gollyngiadau

nwyon tþ gwydr 12.5 y cant yn is na lefelau’r flwyddyn sylfaen erbyn 2008-12, a nod

genedlaethol fwy uchelgeisiol o leihau gollyngiadau carbon deuocsid 20 y cant yn is

na lefelau 1990 erbyn 2010. Mae ein Rhaglen Newid yn yr Hinsawdd yn nodi polisïau

a mesurau i helpu i gyflawni’r nodau hyn.

Mae’r DU ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed a osodwyd ar ei chyfer o dan

Brotocol Kyoto – a fydd yn dipyn o gyflawniad. Fodd bynnag, mae angen gwneud

rhagor i gyrraedd ein nod genedlaethol ar gyfer 2010. Drwy’r adolygiad cyfredol o

Raglen Newid yn yr Hinsawdd y DU mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i werthuso

mesurau presennol y rhaglen ac mae’n bwriadu cyhoeddi rhaglen ddiwygiedig yn haf

2005.

Mae datblygiadau rhyngwladol a domestig pwysig sydd eisoes ar y gweill yn

cynnwys:

� gwneud newid yn yr hinsawdd yn un o’r prif flaenoriaethau ar gyfer llywyddiaeth

y DU ar y G8 a’r Undeb Ewropeaidd yn 2005

� trafodaethau rhyngwladol ynghylch cynnwys pob parti yn Nghonfensiwn

Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd ymhellach mewn

camau gweithredu yn y dyfodol i leihau gollyngiadau nwyon tþ gwydr, a

strategaethau addasu

� lansio Menter Cyfathrebu ynglyˆ n â Newid yn yr Hinsawdd gyda chyllid o £12

miliwn o leiaf dros y cyfnod 2005-08, i fynd i’r afael ag agweddau’r cyhoedd at y

newid yn yr hinsawdd a’i ddealltwriaeth ohono, a’r hyn y gall pob un ohonom ei

wneud i helpu i leihau ein cyfraniad personol i’r newid yn yr hinsawdd

� cyflawni ein hymrwymiadau yn ‘Effeithlonrwydd Ynni: Cynllun Gweithredu’r

Llywodraeth’

� ymgynghoriad ynghylch y cod drafft ar gyfer adeiladau cynaliadwy yn ystod

2005, y bwriedir dechrau ei gyflwyno’n genedlaethol yn 2006

� lansio cynllun gwrthbwyso carbon peilot y Llywodraeth ar gyfer teithio drwy’r

awyr yn 2005

� pwyso am i wasanaethau awyr o fewn yr UE gael eu cynnwys yng nghynllun

cyfnewid gollyngiadau’r UE o 2008 neu cyn gynted ag y bo modd ar ôl hynny;

bydd hyn yn flaenoriaeth ar gyfer Llywyddiaeth y DU ar yr UE yn 2005

� cyhoeddi fframwaith polisi addasu newid yn yr hinsawdd yn ystod 2005.

Pennod 5:

Dyfodol heb edifarhau: diogelu ein hadnoddau naturiol a gwella’r amgylchedd

Mae adnoddau naturiol yn hanfodol i’n bodolaeth a datblygiad cymunedau ledled y

byd.

Y materion a wynebwn yw’r angen i ddeall terfynau amgylcheddol yn well, yr angen i

wella’r amgylchedd lle mae ef fwyaf diraddiedig, yr angen i sicrhau bod gan bawb

amgylchedd boddhaol, a’r angen am fframwaith polisi mwy integredig i gyflawni

hynny.

Mae ymrwymiadau allweddol yn y strategaeth yn cynnwys:

� llunio polisïau integredig ar gyfer diogelu a chynyddu adnoddau naturiol gyda

rhanddeiliaid yn 2005

� ymchwilio i derfynau amgylcheddol ac anghydraddoldebau amgylcheddol

� ystyried systemau naturiol yn eu cyfanrwydd, drwy ddefnyddio ymagwedd yn

seiliedig ar ecosystemau

� dwyn ynghyd holl fframweithiau polisi, targedau a strategaethau Llywodraeth y

DU ar gyfer adnoddau naturiol

� moderneiddio’r fframwaith cyflawni drwy greu asiantaethau newydd i reoli

amgylcheddau’r môr a’r tir

� lansio Stiwardiaeth Amgylcheddol i symbylu ffermwyr i sicrhau manteision

amgylcheddol

� mynd i’r afael â phroblemau yn gysylltiedig ag adnoddau diraddiedig ac

anghydraddoldebau amgylcheddol drwy gryfhau rôl Asiantaeth yr Amgylchedd,

creu’r Asiantaeth Integredig, a thrwy waith partneriaeth strategol yn genedlaethol

ac yn lleol rhwng Defra a’r Adran Iechyd a’u hasiantaethau

� gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol i leihau’r gyfradd colli bioamrywiaeth

ledled y byd

� annog gwledydd partner ledled y byd i integreiddio egwyddorion datblygu

cynaliadwy â phrosesau lleihau tlodi a datblygu, cynorthwyo gwledydd sy’n

datblygu i negodi a gweithredu Cytundebau Amgylcheddol Amlochrog, a

chefnogi sefydliadau amlochrog megis Rhaglen Amgylchedd y Cenhedloedd

Unedig.

Pennod 6:

O’r lleol i’r byd-eang: creu cymunedau cynaliadwy a byd tecach

Bydd y Llywodraeth yn hyrwyddo atebion cydgysylltiedig i broblemau a nodwyd yn

lleol, gan weithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â materion economaidd,

cymdeithasol ac amgylcheddol.

Yn lleol, rydym yn cyhoeddi pecyn o fesurau i wireddu’r weledigaeth o gymunedau

cynaliadwy ledled Lloegr, mewn ardaloedd trefol a gwledig, a fydd yn symbylu

datblygu cynaliadwy.

Yn genedlaethol, mae’r strategaeth yn nodi’r fframwaith ar gyfer newid bywydau

pobl drwy wella gwasanaethau cyhoeddus a rhoi cyfleoedd i bawb.

Yn fyd-eang, rydym yn edrych ar sut y byddwn yn cymhwyso egwyddorion

llywodraethu da, democratiaeth a phartneriaeth a sut i weithio’n effeithiol i gyflawni

blaenoriaethau a nodwyd yn lleol fel y bydd y wlad hon yn helpu i gyflawni Nodau

Datblygu’r Mileniwm.

Mae ymrwymiadau allweddol yn cynnwys:

� cydgysylltu’n effeithiol yn lleol o amgylch y weledigaeth o gymunedau

cynaliadwy gyda Strategaethau Cymunedau Cynaliadwy a Chytundebau

Ardaloedd Lleol, yn gysylltiedig â gwaith cynllunio drwy Fframweithiau

Datblygu Lleol

� gosod datblygu cynaliadwy wrth graidd y system cynllunio defnydd tir ac wrth

graidd canllawiau cynllunio newydd

� galluogi pobl i gymryd rhan yn llawn drwy ddarparu strwythurau cymdogaeth

newydd ac arian i ganiatáu i bobl fynegi eu barn ynglþn â’r modd y caiff eu

cymdogaethau eu rhedeg

� pwerau newydd i awdurdodau lleol o dan y Mesur Cymdogaethau ac Amgylchedd

Glân

� cyrraedd y targed cenedlaethol newydd i wella’r amgylchedd lleol, sy’n

canolbwyntio ar y cymdogaethau mwyaf difreintiedig

� rhoi gwell gwybodaeth i bobl am eu hamgylchedd lleol

� creu cyfleoedd yn lleol i bobl wella eu hamgylchedd lleol, eu hiechyd, eu

haddysg, eu rhagolygon gwaith, a’u tai

� helpu i wella’r modd y rheolir yr amgylchedd yn rhyngwladol gan gynnwys drwy

barhau i gefnogi’r Bartneriaeth ar gyfer Egwyddor 10

� gweithio gyda rhoddwyr eraill i sicrhau mwy o gymorth datblygu swyddogol

ledled y byd, gan gynnwys drwy’r Cyfleuster Cyllid Rhyngwladol.

Pennod 7:

Sicrhau ei bod yn digwydd

Rydym am sicrhau y caiff y strategaeth hon ei rhoi ar waith. Rydym yn cynnig

mesurau ychwanegol, y credwn y byddant yn gatalyddion grymus ar gyfer cyflawni’r

strategaeth yn fwy effeithiol:

� atgyfnerthu’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy a gofyn iddo gyflwyno

adroddiadau ar gynnydd y Llywodraeth o ran datblygu cynaliadwy

� prif ffrydio datblygu cynaliadwy yn y Gwasanaeth Sifil drwy’r rhaglen Sgiliau

Proffesiynol wrth Lywodraethu ac ymgorffori datblygu cynaliadwy yng

nghwricwlwm yr Ysgol Lywodraethu Genedlaethol, a gaiff ei lansio yn hanner

cyntaf 2005

� sefydlu Academi Cymunedau Cynaliadwy a lansio rhaglen newydd yn dwyn y

teitl ‘How To’ i hyrwyddo derbyn a defnyddio pwerau newydd a phwerau sy’n

bodoli eisoes i drawsnewid yr amgylchedd lleol

� gweithio gyda’r Comisiwn Archwilio i atgyfnerthu’r Asesiad Perfformiad

Cynhwysfawr o awdurdodau lleol i roi mwy o sylw i ddatblygu cynaliadwy a’r

amgylchedd lleol

� bydd pob un o adrannau canolog y Llywodraeth a’u hasiantaethau gweithredol yn

llunio cynlluniau gweithredu datblygu cynaliadwy penodol yn seiliedig ar y

strategaeth hon erbyn mis Rhagfyr 2005

� adolygu effeithiolrwydd trefniadau i sicrhau datblygu cynaliadwy yn rhanbarthol

� Rhaglen Datblygu Cynaliadwy newydd fel rhan o Gronfa Cyfleoedd Byd-eang y

DU, wedi’i hategu gan arian ychwanegol gan Defra i helpu cyflawni

ymrwymiadau yn deillio o Uwchgynhadledd y Byd ar Ddatblygu Cynaliadwy

� monitro’r modd y cyflawnir blaenoriaethau datblygu cynaliadwy rhyngwladol y

DU.

Pennod 1

Strategaeth Newydd

1. Pam datblygu cynaliadwy?

Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf daethpwyd i sylweddoli fwyfwy bod y patrwm

datblygu presennol yn anghynaliadwy.

Ar y naill law gwelwn y baich cynyddol y mae ein ffordd o fyw yn ei osod ar y blaned

yr ydym yn dibynnu arni:

� canlyniadau newid yn yr hinsawdd sydd eisoes yn anochel

� y pwysau cynyddol ar adnoddau a systemau amgylcheddol – dðr, tir ac awyr – yn

deillio o’r modd yr ydym yn cynhyrchu, yn defnyddio ac yn gwastraffu adnoddau

� colli bioamrywiaeth yn gynyddol o’r fforest law i’r stociau pysgod o amgylch ein

harfordir.

“Fe wyddom beth yw’r problemau. Mae plentyn yn Affrica yn marw bob tair eiliad o

newyn, afiechyd neu o ganlyniad i ymladd. Fe wyddom os nad ydym yn atal y newid

yn yr hinsawdd, bydd pob rhan o’r byd yn dioddef. Caiff rhai eu dinistrio hyd yn oed,

ac fe wyddom beth yw’r ateb – datblygu cynaliadwy.”

Y Gwir. Anrh. Tony Blair AS, Prif Weinidog, araith i Uwchgynhadledd y Byd ar

Ddatblygu Cynaliadwy

Ar y llaw arall fe welwn fyd lle mae dros biliwn o bobl yn byw ar lai na doler y dydd,

lle mae mwy nag 800 miliwn yn hanner llwgu, a lle nad oes gan dros ddwy biliwn a

hanner fynediad i gyfleusterau glanweithdra digonol. Mae byd sydd wedi’i hagru gan

dlodi ac anghydraddoldeb yn anghynaliadwy. Er y cysylltir cyfoeth cynyddol â

dihysbyddu adnoddau amgylcheddol gan mwyaf, gall tlodi eithafol adael pobl heb

unrhyw ddewis ond i ddihysbyddu eu hamgylchedd lleol - felly er mwyn dileu tlodi

yn gynaliadwy mae angen sicrhau bod digon o adnoddau naturiol ar gael i bobl dlawd

a’u bod yn byw mewn amgylchedd iach.

Oni ddechreuwn wneud cynnydd gwirioneddol tuag at gysoni’r anghysonderau hyn,

rydym i gyd, lle bynnag yr ydym yn byw, yn wynebu byd llai sicr a llai diogel nag a

welwyd yn y DU yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf. Mae angen i ni symud yn

bendant tuag at ddatblygu mwy cynaliadwy am mai dyna’r peth cywir i’w wneud, ac

am ei bod er ein lles yn yr hirdymor. Mae’n cynnig y gobaith gorau ar gyfer sicrhau’r

dyfodol.

Ein man cychwyn

Yn yr uwchgynhadledd a gynhaliwyd yn Rio yn 1992, ymrwymodd llywodraethau o

bedwar ban y byd i ddatblygu cynaliadwy. Llywodraeth y DU oedd y gyntaf i lunio ei

strategaeth genedlaethol yn 1994. Yn 1999, nododd Llywodraeth y DU ar y pryd sut y

bwriadodd sicrhau datblygu cynaliadwy yn ‘A Better Quality of Life’. Nododd y

ddogfen hon weledigaeth o sicrhau ar yr un pryd ganlyniadau economaidd,

cymdeithasol ac amgylchiadol fel y’u mesurwyd gan gyfres o brif ddangosyddion.

Ers 1999 mesurwyd cynnydd bob blwyddyn yn erbyn y dangosyddion hyn. Mae rhai

wedi symud gryn dipyn i’r cyfeiriad cywir: mae’r DU wedi cynnal perfformiad

economaidd cryf, gan weld cyfnod di-dor o dwf economaidd drwy gydol y cyfnod.

Gall economi gryf ddod â llawer o fanteision - mae’n cynnal swyddi, mae’n talu am y

gwasanaethau cyhoeddus yr ydym yn dibynnu arnynt, ac mae’n allweddol i ddileu

tlodi. Mae sefydlogrwydd economaidd hefyd yn helpu i osgoi gwastraffu adnoddau

dynol a ffisegol - un o ganlyniadau anochel perfformiad economaidd cymharol lesg.

Mae’n cyfrannu at sicrhau cymdeithas decach, ac mae’n cyfrannu’n uniongyrchol at

les personol.

Ond ni allwn laesu dwylo o ran y tueddiadau cadarnhaol. Mae lles pobl yn dibynnu ar

fwy nag incwm. Mae iechyd da, amgylchedd diogel a chymunedau cryf hefyd yn

bwysig iawn. Mewn rhai meysydd, mae’r dangosyddion wedi symud i’r cyfeiriad

anghywir – mae’r gwastraff a gynhyrchir gennym yn parhau i gynyddu, er bod y

duedd yn arafu. Mae lleihau effeithiau traffig ar y ffyrdd yn dal i fod yn her

sylweddol, er i’r cysylltiad rhwng traffig ar y ffyrdd a thwf economaidd wanhau

rywfaint. Dengys poblogaethau adar tir amaeth a choetir, sy’n nodi cyflwr ehangach

ein bywyd gwyllt, arwyddion eu bod yn sefydlogi, ond mae angen iddynt adfer.

Gellir crynhoi ein perfformiad hyd yma gan sylwadau’r Comisiwn Datblygu

Cynaliadwy yn ei adolygiad o’r cynnydd a wnaed ers 1999, a gyhoeddwyd ym mis

Ebrill 2004: ‘Shows Promise, But Must Try Harder’. Canmolodd y Comisiwn y

cynnydd a wnaed gennym mewn llawer maes ond nododd hefyd ugain maes

allweddol lle mae angen i ni gymryd camau mwy pendant ar gyfer y strategaeth

newydd ac yn y blynyddoedd ar ôl hynny.

Mae’r strategaeth newydd hon yn ymateb i’r her honno. Mae’n ystyried datblygiadau

yma ers 1999: y newidiadau yn strwythur y llywodraeth yn y DU yn sgîl datganoli i

Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon; mwy o bwyslais ar gyflwyno gwasanaethau yn

rhanbarthol a’r berthynas newydd rhwng y llywodraeth ac awdurdodau lleol. Mae’n

ystyried polisïau newydd a gyhoeddwyd ers 1999, yn arbennig y Papur Gwyn ar Ynni

a gyhoeddwyd yn 2003 sy’n gosod nod hirdymor o sicrhau economi carbon isel. Mae

hefyd yn cymryd i ystyriaeth yr ymgyrch ryngwladol dros ddatblygu cynaliadwy sydd

wedi ailgychwyn yn sgîl Uwchgynhadledd y Byd ar Ddatblygu Cynaliadwy a

gynaliadwy yn Johannesburg yn 2002, a Nodau Datblygu’r Mileniwm a nodwyd yn

2000, y disgwylir iddynt gael eu hadolygu yn ddiweddarach eleni (2005).

Fe’i datblygwyd o fewn fframwaith cyffredin ar gyfer y DU, y cytunwyd arno gan

lywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig ar gyfer Cymru, yr Alban a

Gogledd Iwerddon. O fewn y fframwaith hwn byddant yn nodi eu strategaethau ar

gyfer sicrhau datblygu cynaliadwy yn y meysydd y maent yn gyfrifol amdanynt.

Mae’r strategaeth hon i’r DU yn nodi’r hyn y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ei

wneud yn Lloegr ac yn y meysydd y mae’n dal i fod yn gyfrifol amdanynt yn y DU,

gan gynnwys cysylltiadau rhyngwladol.

Bu’r nifer fawr o ymatebion a ddaeth i law o’r ymgynghoriad ‘Ymlaen fo’r Nod 1 ’ o

fudd. Cyflwynwyd yr ymatebion mewn sawl ffurf gan gynnwys 900 o ymatebion

ysgrifenedig ac electronig i’r ddogfen, mwy nag ugain o weithdai ar themâu a

drefnwyd ar ein cyfer gan sefydliadau â diddordeb ym maes datblygu cynaliadwy o

bob rhan o’r DU, naw digwyddiad deialog rhanbarthol yn Lloegr, ac ymgynghoriadau

â chymunedau lleol a gynorthwywyd gan hwyluswyr hyfforddedig. Rydym yn

ddyledus i bawb a gymerodd yr amser i gyfrannu eu barn a’u syniadau, y byddant yn

eu gweld wedi’u hadlewyrchu yn y ddogfen hon.

Datblygwyd y strategaeth hon ar draws y llywodraeth – ar draws adrannau

llywodraeth ganolog a chyda phartneriaid rhanbarthol a lleol. Rydym wedi cael cryn

dipyn o gyngor a chymorth gan y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy drwy gydol y

broses hon.

Y neges allweddol a gafwyd o’r ymgynghoriad oedd bod angen i’r strategaeth hon

sicrhau newid gwirioneddol o siarad am ddatblygu cynaliadwy i’w gyflawni ar lawr

gwlad. Dengys y strategaeth newydd hon sut y bwriadwn wneud hynny i sicrhau’r

dyfodol –ar gyfer pob un ohonom.

2. Y fframwaith strategol

Yn yr ymgynghoriad ynghylch Strategaeth Datblygu Cynaliadwy newydd y DU

ymrwymwyd i lunio fframwaith strategol i’r DU ar gyfer datblygu cynaliadwy yn

cwmpasu’r cyfnod hyd at 2020. Cytunwyd ar y fframwaith strategol hwn gan

Lywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig yng Nghymru, yr Alban a

Gogledd Iwerddon, i roi ymagwedd a chanolbwynt cyson ar draws y DU.

Mae’r fframwaith hwn, a lansiwyd ar y cyd â Strategaeth Llywodraeth y DU, yn

cynnwys:

� dealltwriaeth a rennir o ddatblygu cynaliadwy

� gweledigaeth o’r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni a’r egwyddorion arweiniol y

mae angen i ni i gyd eu dilyn er mwyn ei chyflawni

� ein blaenoriaethau datblygu cynaliadwy ar gyfer gweithredu gan y DU gartref ac

yn rhyngwladol, a

� dangosyddion i fonitro’r materion allweddol ledled y DU.

Cyflawni’r Fframwaith

Ategir y fframwaith strategol gan strategaethau ar wahân ar gyfer pob gweinyddiaeth.

Bydd y rhain yn adeiladu ar waith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd ac yn sicrhau y

1 Mae adroddiad cryno ar ymgynghoriad Defra ar gael ar wefan datblygu cynaliadwy’r Llywodraeth:

www.sustainable-development.gov.uk/taking-it-on/finalsummary.htm

caiff nodau’r fframwaith eu gweithredu, yn seiliedig ar eu gwahanol gyfrifoldebau,

anghenion a safbwyntiau. Bydd strategaethau’r DU a’r Gweinyddiaethau

Datganoledig yn cynnwys rhagor o flaenoriaethau, ac fe’u hategir gan ragor o fesurau

a dangosyddion.

[Chart]

Fframwaith Strategol y DU

Strategaeth Cynllun Gweithredu Strategaeth Strategaeth

Llywodraeth Cynulliad Gweithrediaeth Gogledd

y DU* Cymru yr Alban Iwerddon

* Mae’n cwmpasu Lloegr a phob mater nas datganolwyd, gan gynnwys cysylltiadau

rhyngwladol

3. Pwrpas cyffredin

“Byw ar incwm y ddaear yn hytrach na gwario ei chyfalaf”

dyfyniad o ymateb e3 Consulting i’r ymgynghoriad ‘Ymlaen fo’r Nod’

Er mwyn rhoi’r Deyrnas Unedig ar lwybr mwy cynaliadwy, rhaid i ni wybod beth

rydym yn anelu ato. Nododd strategaeth 1999 yn glir mai ystyr datblygu cynaliadwy

yw “gwell ansawdd bywyd i bawb, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol”, a

defnyddiai’r diffiniad rhyngwladol cyffredin “datblygu sy’n diwallu anghenion y

presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion

hwythau.” 2

Pedwar nod canolog strategaeth 1999 oedd:

� cynnydd cymdeithasol sy’n cydnabod anghenion pawb

� diogelu’r amgylchedd yn effeithiol

� defnyddio adnoddau naturiol yn ofalus, a

� cynnal lefelau uchel a sefydlog o dwf economaidd a chyflogaeth.

I bob pwrpas crisialai’r nodau hyn y meysydd blaenoriaeth syml wrth graidd datblygu

cynaliadwy. Fodd bynnag, er i strategaeth 1999 bwysleisio bod yn rhaid dilyn yr

amcanion hyn ar yr un pryd, yn ymarferol, canolbwyntiodd gwahanol asiantaethau ar

un neu ddau o’r amcanion a oedd fwyaf perthnasol iddynt hwy. Felly mae angen

pwrpas newydd i ddangos sut y bydd y llywodraeth yn integreiddio’r nodau hyn ac yn

datblygu polisi datblygu cynaliadwy – i ddatblygu’r Strategaeth gynharach, nid cefnu

arni. Mae angen iddo roi darlun o’r ffordd y dylai pethau edrych pe bawn yn sicrhau

datblygu cynaliadwy, tra’n sicrhau parhad o ran nodau Strategaeth 1999.

2

O ‘Our Common Future (Adroddiad Brundtland)’ – Adroddiad Comisiwn y Byd ar Amgylchedd a

Datblygu 1987.

Erbyn hyn mabwysiadwyd y ‘pwrpas’ canlynol, y cytunwyd arno gan Lywodraeth y

DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig, fel nod newydd y fframwaith ar gyfer

datblygu cynaliadwy:

[box]

Nod datblygu cynaliadwy yw galluogi pawb ledled y byd i ddiwallu eu hanghenion

sylfaenol a chael gwell ansawdd bywyd, heb beryglu ansawdd bywyd cenedlaethau’r

dyfodol.

O ran Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig, anelir at y nod hwnnw

mewn ffordd integredig drwy economi gynaliadwy, arloesol a chynhyrchiol sy’n

sicrhau mwy o gyflogaeth; a chymdeithas deg sy’n hyrwyddo cynhwysiant

cymdeithasol, cymunedau cynaliadwy a lles personol. Gwneir hyn mewn ffyrdd sy’n

diogelu ac yn gwella’r amgylchedd ffisegol a naturiol, ac yn defnyddio adnoddau ac

ynni mor effeithlon â phosibl.

Rhaid i’r Llywodraeth hyrwyddo dealltwriaeth glir o ddatblygu cynaliadwy, ac

ymrwymiad iddo, fel y gall pawb gyfrannu at y nod cyffredinol drwy eu

penderfyniadau personol.

Bydd amcanion tebyg yn llywio ein hymdrechion rhyngwladol, a bydd y DU yn

hyrwyddo atebion amlochrog a chynaliadwy i broblemau amgylcheddol, economaidd

a chymdeithasol pennaf yr oes sydd ohoni. Mae rhwymedigaeth glir ar genhedloedd

mwy llewyrchus i gael trefn ar bennau, ac i helpu gwledydd eraill i symud tuag at fyd

mwy cyfiawn a chynaliadwy.

4. Egwyddorion arweiniol

Ceir isod yr egwyddorion a rennir o fewn y DU y byddwn yn eu defnyddio i gyflawni

ein hamcan o ran datblygu cynaliadwy. Cytunwyd ar y rhain gan Lywodraeth y DU,

Llywodraeth Cynulliad Cymru, Gweithrediaeth yr Alban a Gweinyddiaeth Gogledd

Iwerddon. Maent yn dwyn ynghyd wahanol egwyddorion y DU a fodolai gynt ac yn

adeiladu arnynt i nodi ymagwedd gyffredinol, y gall y pedair strategaeth ar wahân ei

rhannu.

[Chart]

Byw o Fewn Terfynau Amgylcheddol [Living Within…]

Parchu terfynau amgylchedd, adnoddau a bioamrywiaeth y blaned - i wella ein

hamgylchedd a sicrhau nad amherir ar yr adnoddau naturiol sydd eu hangen i gynnal

bywyd a byddant yn aros felly ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Sicrhau Cymdeithas Gryf, Iach a Chyfiawn [Ensuring a Strong,..]

Diwallu gwahanol anghenion pawb mewn cymunedau sy’n bodoli eisoes a

chymunedau’r dyfodol, hyrwyddo lles personol, cydlyniant a chynhwysiant

cymdeithasol, a chreu cyfle cyfartal i bawb.

Sicrhau Economi Gynaliadwy [Achieving a…]

Adeiladu economi gryf, sefydlog a chynaliadwy sy’n sicrhau ffyniant a chyfleoedd i

bawb, a lle y telir costau amgylcheddol a chymdeithasol gan y rhai sy’n gyfrifol

amdanynt (y llygrydd sy’n talu), a symbylir defnyddio adnoddau’n effeithlon.

Hyrwyddo Llywodraethu Da [Promoting Good..]

Mynd ati i hyrwyddo systemau llywodraethu effeithiol, cyfranogol ym mhob rhan o

gymdeithas – ysgogi creadigrwydd, egni, ac amrywiaeth pobl.

Defnyddio Gwyddoniaeth Gadarn yn Gyfrifol [Using Sound…]

Sicrhau y caiff polisi ei ddatblygu a’i weithredu yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol

gref, tra’n cymryd i ystyriaeth ansicrwydd gwyddonol (drwy’r egwyddor ragofalus)

yn ogystal ag agweddau a gwerthoedd y cyhoedd.

“Dylai’r [strategaeth datblygu cynaliadwy ddiwygiedig] ddarparu fframwaith o

egwyddorion a gymhwysir at bob maes polisi ym mhob adran – lens yr edrychir ar

bob cynnig trwyddi.”

dyfyniad o ymateb WWF-UK i’r ymgynghoriad ‘Ymlaen fo’r Nod’

Bydd yr egwyddorion hyn yn sail i bolisi yn y DU. Er mwyn i bolisi fod yn

gynaliadwy, mae’n rhaid iddo barchu pob un o’r pum egwyddor hyn, er ein bod yn

cydnabod y bydd rhai polisïau, er bod pob un o’r pum egwyddor hyn yn sail iddo, yn

pwysleisio rhai egwyddorion yn fwy nag eraill. Dylai unrhyw gyfaddawdu o ran yr

egwyddorion hyn fod yn glir ac yn dryloyw. Rydym am gyflawni ein nodau o fyw o

fewn terfynau amgylcheddol a chymdeithas deg, a byddwn yn gwneud hynny drwy

gyfrwng economi gynaliadwy, llywodraethu da, a gwyddoniaeth gadarn.

5. Blaenoriaethau a rennir ar gyfer gweithredu yn y DU

O ganlyniad i’r ymgynghoriad y meysydd blaenoriaeth lle mae angen gweithredu ar

unwaith, a rennir ledled y DU yw:

Defnyddio a Chynhyrchu Cynaliadwy – Mae defnyddio a chynhyrchu cynaliadwy

yn ymwneud â chyflawni mwy gan ddefnyddio llai. Mae hyn yn golygu nid yn unig

edrych ar sut y cynhyrchir nwyddau a gwasanaethau, ond hefyd effeithiau

cynhyrchion a deunyddiau drwy gydol eu cylch bywyd ac adeiladu ar ymwybyddiaeth

pobl o faterion cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae hyn yn cynnwys cwtogi ar y

defnydd aneffeithlon o adnoddau sy’n llesteirio’r economi, gan helpu i wella

cystadleurwydd a thorri’r cysylltiad rhwng twf economaidd a diraddiant

amgylcheddol.

Newid yn yr Hinsawdd ac Ynni – Mae effeithiau hinsawdd sy’n newid eisoes i’w

gweld. Mae tymereddau a lefelau môr yn codi, mae gorchudd iâ ac eira yn crebachu, a

gallai’r canlyniadau fod yn drychinebus i’r byd naturiol a chymdeithas. Mae

tystiolaeth wyddonol yn awgrymu mai rhyddhau nwyon tþ gwydr, megis carbon

deuocsid a methan, i’r atmosffer gan weithgarwch dynol yw prif achos newidiadau yn

yr hinsawdd. Byddwn yn ceisio sicrhau newid llwyr yn y modd yr ydym yn

cynhyrchu ac yn defnyddio ynni, ac mewn gweithgareddau eraill sy’n rhyddhau’r

nwyon hyn. Ar yr un pryd mae’n rhaid i ni baratoi ar gyfer y newid yn yr hinsawdd

nad oes modd ei osgoi bellach. Mae’n rhaid i ni osod esiampl dda ac annog eraill i’w

dilyn.

Diogelu Adnoddau Naturiol a Gwella’r Amgylchedd – Mae adnoddau naturiol yn

hanfodol i’n bodolaeth a bodolaeth cymunedau ledled y byd. Mae angen i ni gael

gwell dealltwriaeth o derfynau amgylcheddol a gwella ac adfer yr amgylchedd lle mae

ef fwyaf diraddiedig i sicrhau amgylchedd boddhaol i bawb, a fframwaith polisi mwy

integredig.

Cymunedau Cynaliadwy - Ein nod yw creu cymunedau cynaliadwy sy’n ymgorffori

egwyddorion datblygu cynaliadwy yn lleol. Bydd hyn yn cynnwys gweithio i roi mwy

o bðer i gymunedau a sicrhau eu bod yn cymryd mwy o ran yn y penderfyniadau sy’n

effeithio arnynt; a gweithio mewn partneriaeth ar y lefel gywir er mwyn cael y maen

i’r wal. Mae’r DU yn defnyddio’r un egwyddorion o ymgysylltu, partneriaeth, a

rhaglenni cymorth, er mwyn mynd i’r afael â thlodi a diraddiant amgylcheddol ac i

sicrhau llywodraethu da mewn cymunedau tramor.

Bydd y blaenoriaethau hyn ar gyfer gweithredu o fewn y DU hefyd yn helpu i bennu

sut y mae’r DU yn gweithio yn rhyngwladol, gan sicrhau bod ein hamcanion a’n

gweithgareddau yn cyd-fynd â nodau rhyngwladol.

6. Blaenoriaethau ar gyfer gweithredu rhyngwladol

Ein hamcan strategol ar gyfer datblygu cynaliadwy rhyngwladol yw cefnogi

sefydliadau amlochrog a chenedlaethol a all sicrhau y caiff amcanion cymdeithasol,

amgylcheddol ac economaidd eu hintegreiddio yn effeithiol i sicrhau datblygu

cynaliadwy, yn arbennig ar gyfer yr aelodau tlotaf o gymdeithas.

“Mae datblygu cynaliadwy yn golygu llawer mwy na chynnwys yr amgylchedd ym

maes datblygu. Er mwyn i bethau newid, yn hytrach na syniadau haniaethol, gofid

a gwae, yr hyn sydd ei hangen yw egwyddorion ymarferol, egwyddorion effeithiol ac

yn anad dim egwyddorion teg ar gyfer rheoli’r blaned yn ddoeth. Oherwydd rhaid i

ddatblygu sy’n gynaliadwy ddod â manteision i’r tlodion yn ogystal ag i’r blaned”.

Y Gwir Anrh. Hilary Benn AS, Ysgrifennydd Gwladol, yr Adran dros Ddatblygu

Rhyngwladol

At ei gilydd mae blaenoriaethau rhyngwladol y DU o ran datblygu cynaliadwy ers

Strategaeth Datblygu Cynaliadwy 1999 y DU wedi’u llunio gan Nodau Datblygu’r

Mileniwm (MDG), Agenda Datblygu Doha Sefydliad Masnach y Byd, Consensws

Monterrey ar Ariannu ar gyfer Datblygu a Chynllun Gweithredu Uwchgynhadledd y

Byd ar Ddatblygu Cynaliadwy (WSSD) a gynhaliwyd yn 2002. Roedd y rhain yn

adeiladu ar ymrwymiadau cynharach gan gynnwys y rhai a wnaed yn

Uwchgynhadledd y Byd yn Rio yn 1992 a phrosesau rhyngwladol eraill gan gynnwys

Cytundebau Amgylcheddau Amlochrog.

Mae canlyniadau Uwchgynhadledd y Byd ar Ddatblygu Cynaliadwy yn ategu Nodau

Datblygu’r Mileniwm, yn atgyfnerthu cytundebau Doha a Monterrey ac yn gosod

nodau a thargedau byd-eang heriol o ran mynediad i ddðr, cyfleusterau glanweithdra a

gwasanaethau ynni modern; cynyddu effeithlonrwydd ynni a defnyddio ynni

adnewyddadwy; pysgodfeydd a choedwigoedd cynaliadwy; lleihau colli

ioamrywiaeth ar dir ac yn ein cefnforoedd; rheoli cemegau; a thorri’r cysylltiad

rhwng diraddiant amgylcheddol a thwf economaidd – hynny yw, sicrhau patrymau

defnyddio a chynhyrchu cynaliadwy.

Mae’n rhaid rhoi sylw i ymrwymiadau rhyngwladol a’u gweithredu fel mater o frys.

Mae’n rhaid gwneud hynny drwy roi sylw i effeithiau rhyngwladol ein polisïau

domestig a thrwy weithio gyda gwledydd datblygedig a gwledydd sy’n datblygu, a

sefydliadau rhyngwladol, i ledaenu arfer da a pharhau â’r pwysau gwleidyddol am

newid.

Mae’r diagram gyferbyn yn nodi’r blaenoriaethau rhyngwladol, gan wahaniaethu

rhwng nodau, targedau a’r modd y gellir eu cyrraedd. Nodir polisïau a chamau

gweithredu’r DU i helpu i gyflawni’r amcanion rhyngwladol hyn mewn penodau

diweddarach.

[Chart]

Key Tools – Offer Allweddol

Commitments / Targets – Ymrwymiadau / Targedau

Key International Summits – Uwchgynadleddau Rhyngwladol Allweddol

Priorities for Action … - Blaenoriaethau ar gyfer Gweithredu ar Ddatblygu

Cynaliadwy Rhyngwladol y Mileniwm hwn

[Column 1]

Cynulliad Mileniwm y CU – Efrog Newydd 2000

Ymrwymodd y DU a 190 o Aelod-wladwriaethau’r CU i weithredu Datganiad y

Mileniwm, gyda chymorth wyth Nod Datblygu’r Mileniwm (MDG) ar dlodi,

anllythrennedd, newyn, diffyg addysg, anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, cyfradd

marwolaethau plant a mamau, clefydau a chynaliadwyedd amgylcheddol

[Column 2]

Pedwaredd Gynhadledd Weinidogol Sefydliad Masnach y Byd Doha 2001

Cytunodd y gymuned ryngwladol i hyrwyddo llacio rheolau masnachu, gan

ganolbwyntio ar anghenion gwledydd sy’n datblygu a chan fwrw ymlaen â’r nod o

sicrhau datblygu cynaliadwy. Anelir at adeiladu a chynnal system fasnachu

amlochrog agored ac anwahaniaethol.

[Column 3]

Cynhadledd Ryngwladol ar Ariannu ar gyfer Datblygu – Monterrey 2002

Cytunodd arweinwyr y byd i ddod at ei gilydd i sicrhau bod adnoddau ariannol yn

cael eu defnyddio yn fwy effeithiol ac i sicrhau’r amodau economaidd ar gyfer lleihau

tlodi a sicrhau twf economaidd parhaol

[Column 4]

Uwchgynhadledd y Byd ar Ddatblygu Cynaliadwy (WSSD) – Johannesburg 2002

Ategodd canlyniadau WSSD Nodau Datblygu’r Mileniwm, gan atgyfnerthu

cytundebau Doha a Monterrey a gosod nodau a thargedau byd-eang heriol

Mae’r ymrwymiadau/targedau yn rhyngddibynnol.

Cytunwyd ar lawer ohonynt mewn un uwchgynhadledd ond fe’u hatgyfnerthwyd

ac adeiladwyd arnynt mewn digwyddiadau diweddarach.

[Column 1]

MDG1 Dileu tlodi a newyn eithafol

MDG3 Sicrhau addysg gynradd i bawb

MDG2 Hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau; grymuso merched

MDG5 Lleihau marwolaethau ymhlith plant

MDG4 Gwella iechyd mamau

MDG6 Mynd i’r afael ag AIDS, malaria a chlefydau eraill

MDG7 Sicrhau Cynaliadwyedd Amgylcheddol

MDG8 Datblygu partneriaeth fyd-eang ar gyfer datblygu

[Column 2]

Ymestyn system fasnachu amlochrog agored yn seiliedig ar reolau

Gwella mynediad i farchnadoedd ar gyfer gwledydd sy’n datblygu

Hyrwyddo natur gydategol y broses o lacio rheolau masnachu, diogelu’r amgylchedd

a datblygu cynaliadwy

Lleihau i’r eithaf unrhyw effeithiau negyddol yn deillio o lacio rheolau masnachu ar

gyfer gwledydd sy’n datblygu

Lleihau lefel cymorthdaliadau sy’n ystumio masnachu, yn arbennig ym myd

amaethyddiaeth a physgodfeydd

Cynyddu faint o gymorth a roddir a’i gwneud yn haws rhagweld pryd y caiff cymorth

ariannol a thechnegol ei roi

Cydweithredu rhwng rhoddwyr a chysoni rhoddwyr

Cysoni cyllid rhyngwladol â chynlluniau datblygu o eiddo gwledydd

Datglymu cymorth

Cryfhau llais gwledydd sy’n datblygu mewn prosesau gwneud penderfyniadau

ynghylch cyllid rhyngwladol

[Column 3]

Cynlluniau rheoli adnoddau dðr integredig

Lleihau i’r eithaf effeithiau andwyol cemegau ar iechyd pobl a’r amgylchedd erbyn

2020

Darparu gwasanaethau ynni dibynadwy a fforddiadwy

Haneru nifer y bobl heb fynediad i ddðr yfed a chyfleusterau glanweithdra sylfaenol

erbyn 2015

Targed a ailddatganwyd o dan MDG7 i sicrhau erbyn 2020 gryn welliant ym

mywydau 100 miliwn o aneddwyr slymiau o leiaf

Atgyfnerthu gweithgarwch gorfodi cyfreithiau coedwigoedd a gweithgarwch rheoli

coedwigoedd

Rhwydweithiau o ardaloedd gwarchodedig morol erbyn 2012

Gwrthdroi colli adnoddau naturiol

Lleihau’r gyfradd colli bioamrywiaeth yn sylweddol erbyn 2010

Adfer stociau pysgod prin erbyn 2015; gweithredu ynghylch pysgota anghyfreithlon

fel mater o frys

Datblygu fframwaith 10 mlynedd o raglenni defnyddio a chynhyrchu cynaliadwy

Patrymau defnyddio a chynhyrchu mwy cynaliadwy

Annog gwledydd i gadarnhau protocol Kyoto

Cynyddu’n sylweddol y defnydd a wneir o ynni adnewyddadwy ledled y byd ar frys;

cynyddu effeithlonrwydd ynni

Mae Offer/Camau Gweithredu ar gyfer cyflawni’r ymrwymiadau uchod yn

gydategol ac yn drawsbynciol

Hyrwyddo cyfrifoldeb Partneriaethau

cymdeithasol corfforaethol

Meithrin Gallu Llywodraethu Da ar bob lefel Cyllid

[Column 1]

Helpu gwledydd sy’n datblygu i addasu at reolau masnachu mwy llac drwy feithrin

gallu a chymorth technegol yn gysylltiedig â masnachu

Hyrwyddo masnachu mewn nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol, drwy lacio

rheolau masnachu

Rhannu gwybodaeth, meithrin dealltwriaeth wyddonol a chydweithredu yn y maes o

ran technoleg

Hyrwyddo grymuso pobl sy’n byw mewn tlodi a’u sefydliadau

Hyrwyddo mynediad merched i brosesau gwneud penderfyniadau a’u cyfranogiad yn

y prosesau hynny ar bob lefel

Meithrin gallu sefydliadol

[Column 2]

MDG7 Integreiddio datblygu cynaliadwy â pholisïau a chynlluniau gwledydd

Atgyfnerthu perchenogaeth gwledydd sy’n datblygu

Mynd i’r afael â llygredd, gwella tryloywder

Gwella diogelwch a lleihau gwrthdaro

Hyrwyddo rhyddid gwybodaeth, cyfranogiad y cyhoedd mewn prosesau gwneud

penderfyniadau a rheol y gyfraith

Prif ffrydio datblygu cynaliadwy yn sefydliadau cyllid y Cenhedloedd Unedig a

sefydliadau cyllid rhyngwladol

Asesiadau o’r effaith ar Gynaliadwyedd

Hyrwyddo cydweithredu rhwng asiantaethau

Atgyfnerthu systemau rheoli amgylcheddol rhyngwladol

Strategaethau datblygu cynaliadwy cenedlaethol neu’r hyn sy’n cyfateb iddynt erbyn

2005

[Column 3]

Ariannu dyledion cynaliadwy

Ffynonellau cyllido arloesol gan gynnwys Cyfleuster Cyllid Rhyngwladol

Cymorth wedi’i dargedu’n dda sy’n mynd i’r afael ag anghenion y wlad

Datblygu cynaliadwy ar lefel yr UE

Yr amcanion allweddol y mae Strategaeth Datblygu Cynaliadwy’r Undeb Ewropeaidd

(EU SDS) wedi ceisio mynd i’r afael â hwy yw’r newid yn yr hinsawdd, diogelu

adnoddau naturiol, trafnidiaeth gynaliadwy, poblogaeth sy’n heneiddio, iechyd y

cyhoedd a dimensiwn byd-eang datblygu cynaliadwy. Rydym wedi ymrwymo i roi

sylw i’r amcanion hyn drwy Strategaeth y DU a rhaglenni domestig eraill.

Yn Ewrop ein nod, a fydd yn ganolbwynt i’n llywyddiaeth yn ystod ail hanner 2005,

fydd hybu ymdrechion i sicrhau datblygu cynaliadwy a chreu cysylltiadau rhwng yr

agendâu economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae’r adolygiad cyfredol o

Strategaeth Datblygu Cynaliadwy’r Undeb Ewropeaidd yn gyfle pwysig i ddatblygu’r

agenda hon a darparu fframwaith ar gyfer integreiddio datblygu cynaliadwy â phob un

o brosesau a pholisïau’r UE. Rydym am weld yr UE yn mabwysiadu Strategaeth

gadarn ac uchelgeisiol sy’n sicrhau economi carbon isel arloesol, tra chystadleuol sy’n

defnyddio adnoddau yn effeithlon sy’n darparu ansawdd bywyd ardderchog ar gyfer

pob un o’i dinasyddion a pherthynas â’i phartneriaid masnachu sy’n dwyn manteision

i’r ddwy ochr. Dylid gwneud hynny tra’n diogelu iechyd pobl a’r amgylchedd, a gellir

ei gyflawni drwy:

� integreiddio ymrwymiadau a chamau gweithredu byd-eang yn fwy effeithiol â

chraidd y strategaeth

� mesur cynnydd yn erbyn set graidd o dargedau blaenoriaeth, y mae’r mwyafrif

ohonynt eisoes ar waith

� canolbwyntio ar gyflawni ymrwymiadau sy’n bodoli eisoes a gwneud diwygiadau

lle mae dangosyddion yn parhau i ddangos nad ydynt yn symud i gyfeiriad

cynaliadwy

� mesurau i ymgorffori datblygu cynaliadwy mewn prosesau gwneud

penderfyniadau ar bob lefel ac ar draws pob sector polisi

� hyrwyddo dysgu mwy effeithiol rhwng Aelod-wladwriaethau, a

� ymrwymiad i sicrhau bod rhanddeiliaid yn chwarae rhan fwy gweithredol, yn

arbennig wrth asesu effeithiau polisïau newydd.

Bydd y DU yn defnyddio ei hadnoddau er mwyn hyrwyddo datblygu cynaliadwy ar

draws ystod lawn polisïau’r UE.

7. Dangosyddion ar gyfer Strategaeth Llywodraeth y DU

Rydym yn cyflwyno set newydd o ddangosyddion lefel uchel: sef Dangosyddion

Fframwaith y DU i roi trosolwg o ddatblygu cynaliadwy a’r meysydd blaenoriaeth

yn y DU.

Dangosodd ymatebion o’r ymgynghoriad ‘Ymlaen fo’r Nod’ fod cefnogaeth gref o

hyd i gael set gyffredin o ‘brif’ddangosyddion i’r DU, er bod setiau ar wahân o

ddangosyddion ar gyfer Cymru a’r Alban ers datganoli ac er bod set wrthi’n cael ei

datblygu yng Ngogledd Iwerddon.

Bwriedir i ddangosyddion Fframwaith y DU drafod effeithiau a chanlyniadau

allweddol sy’n adlewyrchu’r meysydd blaenoriaeth a rennir ledled y DU.

Yn ogystal â Dangosyddion Fframwaith y DU a rennir bydd cymysgedd o

ddangosyddion, targedau a mesurau perfformiad yn y strategaethau unigol ar gyfer

Llywodraeth y DU, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd y rhain yn sylfaen

i’r blaenoriaethau cyffredin a nodir yn y fframwaith tra’n adlewyrchu gwahanol

flaenoriaethau pob gweinyddiaeth.

Mae dangosyddion ar gyfer Strategaeth Llywodraeth y DU yn cynnwys pob un o’r 20

Dangosydd a nodir yn Fframwaith y DU a 48 o ddangosyddion eraill yn ymwneud â’r

meysydd blaenoriaeth. Rhestrir dangosyddion perthnasol ar ddiwedd pob pennod.

Cyflwynir y rhestr lawn o 68 o ddangosyddion ym Mhennod 7, ynghyd â thargedau

cysylltiedig yn ymwneud â Chytundebau Gwasanaeth Cyhoeddus, a strategaethau

cenedlaethol.

Byddwn yn asesu’r cynnydd a wnaed yn erbyn y dangosyddion ac yn cyflwyno

adroddiad ar y cynnydd hwnnw bob blwyddyn a byddwn yn defnyddio’r asesiad hwn,

ynghyd â thystiolaeth arall o weithgarwch monitro a gwerthuso, i benderfynu a ydym

yn llwyddo i gyrraedd ein nodau neu a oes angen i ni ddatblygu polisïau gwahanol a

gweithredu yn unol â hynny.

Meini prawf ar gyfer y set o ddangosyddion

Wrth ddewis y dangosyddion newydd ar gyfer Fframwaith y DU, lle bynnag y bo

modd dewiswyd mesurau:

� sy’n gysylltiedig â’r diben a’r blaenoriaethau o fewn Fframwaith y DU

� y mae Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig yn cytuno eu bod

yn flaenoriaethau mawr

� sy’n cwmpasu’r DU (er bod rhai cyfyngiadau data)

� sydd â thueddiadau ar gael

� sy’n tynnu sylw at heriau, a

� sy’n gadarn ac yn ystyrlon yn ystadegol.

Mae’r un meini prawf yn berthnasol lle bynnag y bo modd i ddangosyddion

ysgogyddion allweddol a ffactorau eraill yn Strategaeth Llywodraeth y DU, ac eithrio

nad ydynt o reidrwydd yn berthnasol i’r DU gyfan.

Datblygiadau pellach o ran dangosyddion

Roedd rhywfaint o gefnogaeth ymhlith ymgynghoreion i fynegrifau cyfunedig, ac yn

arbennig dangosydd ‘ôl troed ecolegol’ o fewn yr ymatebion i’r ymgynghoriad.

Rydym yn ymwybodol y gall fod gan ôl troed ecolegol, y cred rhai ei fod yn rhoi

mesur o’r effaith fyd-eang, botensial fel dull cyfathrebu yn y dyfodol, yn arbennig am

fod Llywodraeth Cynulliad Cymru eisoes wedi’i fabwysiadu fel dangosydd. Felly

comisiynodd Llywodraeth y DU ymchwil i nodi a ellid llunio ôl troed ecolegol i’r DU

sy’n goresgyn pryderon ynghylch pa mor dryloyw, cadarn ac ystyrlon yw dangosydd

o’r fath. Ar ben hynny rydym yn edrych ar ffyrdd o amcangyfrif gollyngiadau carbon

deuocsid anuniongyrchol, gan gynnwys gollyngiadau yn deillio o gynhyrchu a chludo

ein mewnforion o wledydd tramor.

Yn ddelfrydol, dylem allu llunio dangosyddion o’n heffaith fyd-eang hefyd – i sicrhau

nad yw’r cynnydd a wneir gartref ar draul y byd ehangach. Fodd bynnag, mae sefydlu

mesurau ystyrlon a dibynadwy sy’n cwmpasu effeithiau economaidd a chymdeithasol,

yn ogystal ag effeithiau amgylcheddol, yn gryn her, oherwydd cyfyngiadau data ac

ystyriaethau ymarferol eraill. Bydd gwaith yn y maes hwn yn parhau, yn arbennig gan

sefydliadau rhyngwladol megis y Mudiad Cydweithredu a Datblygu Economaidd.

Byddwn yn adeiladu ar y dangosyddion presennol o fewn Strategaeth Llywodraeth y

DU, ac yn sefydlu rhai mesurau ar gyfer datblygu cynaliadwy rhyngwladol. Bydd y

rhain yn cynnwys:

� dangos sut y mae’r DU yn cymharu’n rhyngwladol drwy osod dangosyddion i’r

DU yn erbyn tueddiadau cymharol mewn gwledydd eraill

� cyflwyno adroddiadau ar ddangosyddion tueddiadau byd-eang a thueddiadau yn

yr UE

� ymchwilio i ba mor ymarferol fyddai dangosyddion i fesur effeithiau’r DU

dramor. Byddai hynny ar sail cynllun peilot, a fyddai’n edrych ar wledydd

penodol a sectorau allweddol (megis coed neu gloddio mwynau).

O fewn Fframwaith y DU a Strategaeth Llywodraeth y DU ceir nifer o ddangosyddion

lle nad oes modd i ni fod yn fanwl gywir eto ynghylch sut y cânt eu mesur. Yn achos

rhai o’r dangosyddion hyn mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo a ddylai ein galluogi i

bennu’r dangosydd, a dechrau cyflwyno adroddiadau ar y cynnydd a wnaed cyn hir.

Mewn achosion eraill, dyhead ar gyfer y materion hynny yr ydym am eu monitro yw’r

dangosyddion. Efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i’w pennu’n gywir a sefydlu

trefniadau casglu data rheolaidd – yn bennaf am fod angen sefydlu’r dangosyddion o

fewn cyd-destun polisi pendant ac mewn rhai achosion megis cychwyn y mae’r broses

o ddatblygu polisi hefyd. Er mwyn datblygu pob un o’r dangosyddion, byddwn yn

ymhelaethu ar yr hyn y gellid ei fesur, ac yn nodi amserlen, fel rhan o’r adroddiad

monitro cyntaf ar Ddangosyddion Fframwaith y DU a Strategaeth Llywodraeth y DU.

Yn arbennig, mae Adran yr Amgylchedd Bwyd a Materion Gwledig (Defra), a’r

Adran Addysg a Sgiliau (DfES) yn ceisio datblygu dangosydd i ddangos yr effaith y

mae dysgu ffurfiol yn ei chael ar wybodaeth ac ymwybyddiaeth o ddatblygu

cynaliadwy. Mae angen gwneud rhagor o waith ar hyn, ond mae’r Llywodraeth yn

gobeithio y cytunir ar ddangosydd addas yn ddiweddarach yn 2005.

Mae cydraddoldeb amgylcheddol a chyfiawnder cymdeithasol yn feysydd allweddol y

bydd angen o bosibl i ni sefydlu rhagor o ddangosyddion ar eu cyfer, ac mae’r

Adolygiad Ymchwil a Thystiolaeth Cyflym o’r Amgylchedd a Chyfiawnder

Cymdeithasol a wnaed yn ddiweddar gan y Rhwydwaith Ymchwil i Ddatblygu

Cynaliadwy yn sylfaen ddefnyddiol ar gyfer gwaith pellach. 3

Roedd Strategaeth 1999 yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu dangosydd lles. Mewn

ymateb i’r ymrwymiad hwn, gofynnwyd yn arolwg Defra o agweddau’r cyhoedd at

ansawdd bywyd ac at yr amgylchedd yn Lloegr a wnaed yn 2001 (Defra 2002) gyfres

o gwestiynau newydd am fodlonrwydd ar fywyd wedi’i gofnodi. Gwnaed rhagor ar y

mater hwn mewn adroddiad a luniwyd gan un o Unedau Strategaeth y Prif Weinidog

ar fodlonrwydd ar fywyd ac mewn gwaith mwy diweddar ar les yn y wlad hon ac

mewn gwledydd eraill. 4 Mae lles wrth graidd datblygu cynaliadwy, ac erys yn bwysig

i ddatblygu dangosydddion lles priodol.

Mae llawer o’n dangosyddion presennol yn trafod materion sy’n effeithio ar les pobl,

er enghraifft cyflogaeth, cyfranogiad cymuned, addysg, cyflwr tai, iechyd, incwm, a’r

amgylchedd yn fwy cyffredinol.

Yr hyn sydd yn eisiau yw ffordd o sicrhau yr ymdrinnir â materion lles yn gyson, ac

yn gywir, a’n bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Efallai y

bydd estyn ein dangosyddion i gynnwys materion megis iechyd meddwl, mynediad i

chwaraeon a diwylliant, mannau gwyrdd, cymdogrwydd, yn rhoi rhyw

werthfawrogiad o hynny, a byddwn yn ymchwilio i hyn.

� Er mwyn sicrhau gwell dealltwriaeth o les a ffocws cliriach arno, erbyn

diwedd 2006 bydd y Llywodraeth yn noddi gwaith trawsddisgyblaethol i

ddwyn ynghyd ymchwil sy’n bodoli eisoes a phrofiad rhyngwladol ac i

ymchwilio i sut y gallai polisïau newid drwy ffocws pendant ar les

Gan ddibynnu ar ba mor gadarn yw’r dystiolaeth, gellid defnyddio gwaith o’r fath i

lywio’r broses o ddatblygu polisi a gwneud penderfyniadau ynghylch gwario yn y

dyfodol, wrth i’r strategaeth datblygu cynaliadwy hon gael ei gweithredu. Gallai

hefyd fod yn sail ar gyfer datblygu set fwy cynhwysfawr o ddangosyddion lles i

ategu’r Fframwaith a’n gwahanol strategaethau datblygu cynaliadwy.

3 Gweler www.sd-research.org.uk/document/ESJ_final_report.pdf

4 Uned Strategaeth y Prif Weinidog, Tachwedd 2002, ‘Life-satisfaction: the state of knowledge and

implications for government’; The World in 2005, The Economist, Rhagfyr 2004, ‘The Economist

Intelligence Unit’s quality of life index’; Richard Layard, Chwefror 2005, ‘Happiness: lessons from a

new science’; New Economics Foundation, 2004, ‘A Wellbeing Manifesto for a Flourishing Society’;

Canolfan Ansawdd Bywyd Awstralia, Awst 2004, ‘Australian Unity Wellbeing Index’.

Pennod 2

Helpu Pobl i Wneud Gwell Dewisiadau

Y ffeithiau

� Mae 30% o bobl yn honni eu bod yn poeni am record amgylcheddol a

chymdeithasol cwmnïau; ond dim ond 3% sy’n adlewyrchu hynny wrth brynu

nwyddau 1

� Er bod 90% o bobl yn gwybod y gellir ailgylchu caniau diodydd, dim ond 50%

sy’n dweud iddynt wneud hynny erioed 2

� “The Government leading by example will have a galvanizing effect for other

sectors” (ymateb i’r ymgynghoriad ‘Ymlaen fo’r Nod’, KPMG, 2004)

� Mae 60% o Brydeinwyr yn meddwl mai’r ffordd orau o fynd i’r afael â chynhesu

byd-eang fyddai ar lefel fyd-eang. Mae ychydig o dan 1 o 10 o bobl (9%) yn

meddwl mai’r ffordd orau o fynd i’r afael ag ef fyddai drwy gyfrwng cartrefi

unigol 3

� Mae ailgylchu yn Llundain wedi codi 30% ers cyflwyno’r tâl tagfeydd 4

1 Y Banc Cydweithredol, 2000

2 Ymchwil NOP World ar gyfer WRAP, 2004

3 BBC/ICM, Gorffennaf 2004, arolwg barn ar y newid yn yr hinsawdd, yn

http://news.bbc.co.uk/nol/shared/bsp/hi/pdfs/28_07_04climatepoll.pdf

4 www.dft/gov.uk

Crynodeb

Bydd angen newidiadau mewn ymddygiad i gyflawni datblygu cynaliadwy. Fodd

bynnag, mae newid agweddau ac ymddygiad yn bwnc cymhleth. Nid yw gwybodaeth

ar ei phen ei hun yn arwain at newidiadau mewn ymddygiad nac yn cau’r “bwlch

rhwng agwedd ac ymddygiad” fel y’i gelwir. Mae’r bennod hon yn cyflwyno model

newid ymddygiad cynhwysfawr ar gyfer llunio polisïau, a gaiff ei gymhwyso ym

mhob maes blaenoriaeth. Un o elfennau allweddol yr ymagwedd newydd yw’r angen i

gynnwys pobl yn agos at eu cartrefi. Bydd y rhaglen newydd Community Action 2020

– Together We Can, y bwriedir ei lansio yn ddiweddarach eleni yn helpu cymunedau i

weithio gyda’i gilydd i wneud y byd yn fwy cynaliadwy iddynt hwy ac i

genedlaethau’r dyfodol.

[box]

Ymatebion i’r ymgynghoriad Ymlaen fo’r Nod

Cydnabu’r mwyafrif o’r ymatebwyr bwysigrwydd addysg, gwybodaeth, trethiant,

rheoliadau, ymgyrchoedd yn y cyfryngau ac arweiniad y Llywodraeth fel ffyrdd o

newid ymddygiad. Fodd bynnag, nododd rhai ymatebion gyfyngiadau’r dulliau hyn

o’u defnyddio’n unigol, gan nodi eu bod yn gweithio’n well fel pecyn o fesurau yn

mynd i’r afael ag amrywiaeth o rwystrau ar yr un pryd.

1. Ein hymagwedd

Mae angen i ni i gyd – llywodraethau, busnesau, teuluoedd a chymunedau, y sector

cyhoeddus, mudiadau gwirfoddol a chymunedol – wneud dewisiadau gwahanol er

mwyn i ni gyflawni’r weledigaeth o ddatblygu cynaliadwy. Mae’r hyn a wnaethom yn

y gorffennol wedi arwain at newidiadau pwysig ond methodd â sicrhau’r newid

sylfaenol hwnnw. Yn y bennod hon rydym yn cynnig ymagwedd newydd yn seiliedig

ar ymchwil 5 i’r hyn sy’n dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn dewis yn awr. Mae hyn

yn dwyn ynghyd y dulliau o ddylanwadu sydd gennym ac yn rhoi mwy o

gydnabyddiaeth i rai o’r ffactorau cymdeithasol ac ymarferol sy’n dylanwadu ac yn

cyfyngu ar ein dewisiadau – ac yn cydnabod bod angen i ni fod yn llawer mwy

gweithredol er mwyn newid arferion.

“Nid yw gwybodaeth o reidrwydd yn arwain at well ymwybyddiaeth, ac nid yw gwell

ymwybyddiaeth o reidrwydd yn arwain at weithredu. Rhaid ategu gwybodaeth, p’un

ai drwy hysbysebion, pamffledi neu labeli, gyda dulliau eraill.”

5 Jackson, T, 2005. ‘Motivating Sustainable Consumption – a review of evidence on consumer

behaviour and behavioural change’ yn www.sd-research.org.uk/documents/MotivatingSCfinal.pdf

� Andrew Darnton, ar gyfer Defra, Mawrth 2004, ‘The impact of sustainable development on public

behaviour’ yn www.sustainable-development.gov.uk (tudalen y cyhoeddiadau)

� Andrew Darnton, ar gyfer Defra, Mai 2004 ‘Driving public behaviours for sustainable lifestyles’

yn www.sustainable-development.gov.uk (tudalen y cyhoeddiadau)

� Uned Strategaeth y Prif Weinidog, Chwefror 2004, ‘Personal Responsibility and Changing

Behaviour: the state of knowledge and its implications for public policy’ yn

www.number10.gov.uk/files/pdf/pr.pdf

� Demos a’r Cynghrair Gwyrdd, ar gyfer Defra, Rhagfyr 2003, ‘Carrots, sticks and sermons:

influencing public behaviour for environmental goals’ yn www.greenalliance.org.uk/publications/PubCarrotsSticksSermons/

Demos a’r Cynghrair Gwyrdd, 2003

Bu rheoleiddio traddodiadol yn un o ffactorau sydd wedi ysgogi safonau

amgylcheddol uwch a mwy o ddiogelwch cymdeithasol. Bydd yn parhau i chwarae

rhan yn hyn o beth. Mae ymagwedd y Llywodraeth at reoleiddio yn golygu chwilio

am ddulliau eraill heblaw am reoleiddio “clasurol” – drwy gyngor, cytundebau

gwirfoddol a’r defnydd o offerynnau economaidd – megis trethi neu gynlluniau

masnachu. Lle mai rheoleiddio yw’r opsiwn gorau o hyd, sicrheir y canlyniadau gorau

drwy reoliadau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau ac sydd wedi’u hategu â

gwybodaeth glir a gorfodi cyson 6 .

[Chart]

Mae’r ymagwedd yn datblygu wrth i agweddau ac ymddygiadau newid dros amser

Enable – Galluogi

Engage – Ymgysylltu

Encourage – Annog

Catalyse – Symbylu

A yw’r pecyn yn ddigon i dorri arfer a sbarduno newid?

Exemplify – Bod yn esiampl

Remove barriers ...

• Dileu rhwystrau

• Rhoi gwybodaeth

• Darparu cyfleusterau

• Rhoi opsiynau ymarferol amgen

• Addysgu/hyfforddi/darparu sgiliau

• Rhoi adnoddau

Tax system ...

• System dreth

• Gwariant – grantiau

• Cynlluniau gwobrwyo

• Cydnabyddiaeth/pwysau cymdeithasol – tablau cynghrair

• Cosbau, dirwyon a chamau gorfodi

Community action ...

• Gweithredu cymunedol

• Cyd-gynhyrchu

• Fforymau trafod

• Cysylltiadau personol/pobl frwdfrydig

• Ymgyrchoedd yn y cyfryngau/ffurfwyr barn

• Defnyddio Rhwydweithiau

Leading ...

6 Sefydlwyd y Tasglu Rheoleiddio Gwell ym mis Medi 1997. Corff annibynnol ydyw sy’n cynghori’r

Llywodraeth ar ba gamau y dylid eu cymryd i sicrhau bod rheoliadau a gorfodi yn cyd-fynd â phum

Egwyddor Rheoleiddio Da: sef Cymesuredd; Atebolrwydd; Cysondeb; Tryloywder; Targedu

• Arwain drwy esiampl

• Sicrhau bod polisïau yn gyson

Er y bydd rheoleiddio a gorfodi yn parhau i chwarae rhan bwysig iawn, ni fydd

rheoleiddio ar ei ben ei hun yn gallu sicrhau’r newidiadau yr ydym am eu gweld. Mae

angen i ni sicrhau ein bod yn defnyddio’r dulliau o ddylanwadu sydd ar gael yn

gyson. Felly mae’r strategaeth newydd yn canolbwyntio ar yr angen i alluogi, annog

a ymgysylltu â phobl a chymunedau wrth i ni symud tuag at gynaliadwyedd; gan

gydnabod bod angen i’r Llywodraeth arwain drwy esiampl. Mae’r diagram uchod yn

nodi’r hyn y gallai’r elfennau o dan bob un o’r penawdau hun ei gynnwys.

[picture caption]

Beiciwr yn mynd i mewn i barth tâl tagfeydd Llundain

Er bod angen pob un o’r elfennau hyn i newid ymddygiad efallai na fyddant yn

ddigonol i sicrhau’r newidiadau sydd eu hangen os yw ymddygiad wedi hen

ymsefydlu. O dan yr amgylchiadau hyn, efallai y bydd angen i ni fynd ymhellach a

meddwl am sut yr ydym yn llunio polisïau i symbylu pobl i ymddwyn yn wahanol.

Dros amser y nod yw sicrhau mai’r ymddygiad newydd fydd y norm. Gall hynny yn

ei dro esgor ar ragor o bosibiliadau ar gyfer gwneud cynnydd.

Mae tâl tagfeydd Llundain yn enghraifft o sut y gall y model hwn weithio yn

ymarferol. Cyflwynwyd cyfuniad o daliadau, ynghyd â darpariaeth helaethach o

fysiau gyda chryn dipyn o gyhoeddusrwydd. Bu’r effeithiau fwy o lawer nag y

rhagwelwyd yn wreiddiol. Mae tagfeydd wedi lleihau 30 y cant wrth i bobl ystyried

opsiynau eraill gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus a bu cynnydd o 29,000 yn nifer y

teithwyr bysiau yn dod i mewn i’r parth yn ystod oriau brig y bore.

Mae’r Llywodraeth yn cydnabod bod angen ymagwedd gynhwysfawr a chyson er

mwyn i ni newid arferion sydd wedi hen ymsefydlu 7 . Defnyddiwyd yr ymagwedd hon

ar draws y meysydd blaenoriaeth a nodir yn y penawdau canlynol. Mae hyn yn

hollbwysig i gyflawni datblygu cynaliadwy, ond ceir synergeddau â llawer o feysydd

eraill – er enghraifft, y pwyslais ar ffyrdd o fyw iachach yn y Papur Gwyn ar Iechyd y

Cyhoedd neu agenda’r Swyddfa Gartref ar adnewyddu dinesig.

Ar ben hynny mae llawer o weithgarwch arloesol yn mynd rhagddo yn lleol a thrwy

raglenni a ariennir gan Gronfa Gweithredu Amgylcheddol y Llywodraeth.

[box]

Mae prosiect tair blynedd, sef ChangeLAB – Changing Lifestyles, Attitudes and

Behaviour – yn creu cronfa wybodaeth Ewropeaidd am ymyriadau lleol effeithiol i

ddylanwadu ar ymddygiad a’i droi at gyfeiriadau cynaliadwy, yn arbennig o ran

gwastraff, trafnidiaeth, ynni a threuliant dðr. Mae ChangeLAB, a ariennir o dan

7

Ceir papur manylach ar y model newid ymddygiad ar wefan datblygu cynaliadwy’r Llywodraeth –

www.sustainable-development.gov.uk

aglen Interreg IIIC yr UE ac a arweinir gan Gyngor Sir Surrey, yn cynnwys wyth

partner o Aelod wladwriaethau.

� Er mwyn gwerthuso a rhannu’r hyn sy’n gweithio orau yn ymarferol rydym

yn sefydlu fforwm “newid ymddygiad” ar draws adrannau’r Llywodraeth a

rhanddeiliaid eraill. Bydd y fforwm hwn yn helpu’r rhai sy’n llunio polisïau i

ddeall maes newid ymddygiad yn well; bydd yn helpu i sicrhau bod polisïau

seiliedig ar ymddygiad yn fwy effeithiol drwy gydlynu a gwerthuso polisïau

yn fwy effeithiol; a bydd yn hyrwyddo dealltwriaeth o faes newid ymddygiad

fel sgil polisi craidd.

� Er mwyn rhannu gwybodaeth a helpu pobl i’n helpu ni i ddatblygu gwefan ar

gyfer strategaeth datblygu cynaliadwy newydd y Llywodraeth: bwriedir aillansio

www.sustainable-development.gov.uk. Caiff ei ddatblygu’n ganolfan

adnoddau i’r rhai sydd am gymryd camau i gyflawni datblygu cynaliadwy.

Mae gweddill y bennod hon yn nodi mwy o fanylion am yr offer a’r dulliau y byddwn

yn eu defnyddio. Yn y penodau ar y blaenoriaethau dangoswn sut y byddwn yn

defnyddio’r ymagwedd integredig hon yn ymarferol.

2. Community Action 2020 – Together We Can

Yn ganolog i’r ymagwedd newydd hon mae gweithredu gan ddinasyddion a

chymunedau. Mae’r Llywodraeth eisoes wedi cydnabod hyn yn ei hymrwymiad

ehangach i ymgysylltu â’r gymuned.

Galwodd Uwchgynhadledd y Byd ar Ddatblygu Cynaliadwy, yn 2002, am fwy o

bwyslais ar weithredu. Ac un o negeseuon yr ymchwil yw bod datblygu cynaliadwy

yn aml fwyaf effeithiol pan gaiff ei ysgogi gan bobl yn gweithio gyda’i gilydd.

Gallwn ddysgu a newid ein hymddygiad yn fwy effeithiol mewn grwpiau: gall

grwpiau cymunedol helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, datblygu prosiectau

ynni a thrafnidiaeth cymunedol, helpu i leihau i’r eithaf ar wastraff, gwella ansawdd

yr amgylchedd lleol, a hyrwyddo masnachu teg a defnyddio a chynhyrchu

cynaliadwy.

[box]

Dangosodd Adolygiad y Swyddfa Gartref o feithrin gallu nad oes gan gymunedau na'r

sgiliau na’r hyder yn aml i gymryd rhan na’r cymorth y mae ei angen yn hwylus. Mae

angen gwaith cydlynu gwell hefyd o fewn y sector gwirfoddol a chymunedol a rhwng

lefelau cenedlaethol a lleol. Nodir blaenoriaethau’r Llywodraeth ar gyfer gweithredu

yng ngoleuni’r adolygiad yn ‘Firm Foundations: the Government’s framework for

community capacity building’ (Swyddfa Gartref, 2004).

Ategodd ymatebion i ‘Ymlaen fo’r Nod’ ganfyddiadau’r Swyddfa Gartref:

� “Nid oedd y gymuned yn deall datblygu cynaliadwy yn iawn” (Grðp Ffocws)

� Mae angen “mwy o gymorth gan y cyngor lleol a’r cyngor sir” ar gymunedau

(Cymdeithas Preswylwyr)

� Roedd un Fforwm Amgylcheddol am i “grwpiau gweithredu cymunedol ac eraill â

diddordeb wneud mwy o gyfraniad i strategaethau cynghorau”

� Nododd yr Adroddiad Rhanbarthol o Ogledd-ddwyrain Lloegr fod “llawer o waith

da yn cael ei wneud ar ddatblygu cynaliadwy gan awdurdodau lleol drwy’r gwaith

y maent yn ei wneud i ddatblygu strategaethau Agenda 21 Leol.”

“Creaduriaid cymdeithasol ydym, llywir ein hymddygiadau a chyfyngir arnynt gan

normau a disgwyliadau cymdeithasol. Y ffordd orau o sicrhau newid yw ar lefel

grwpiau a chymunedau. Mae cymorth cymdeithasol yn arbennig o bwysig wrth dorri

arferion, ac wrth lunio normau cymdeithasol newydd a phatrymau defnyddio mwy

cynaliadwy. Gall y Llywodraeth chwarae rhan hollbwysig wrth feithrin a

chynorthwyo newidiadau cymdeithasol yn y gymuned.”

Motivating Sustainable Consumption, yr Athro Tim Jackson, Prifysgol Surrey

Yn Lloegr, mae cynllun gweithredu trawslywodraethol, sef ‘Together We Can’,

wrthi’n cael ei ddatblygu i gael mwy o gyfranogiad gan gymunedau i ddatrys

problemau cyhoeddus a gwella ansawdd bywyd pobl. Mae’r cynllun gweithredu, a

arweinir gan y Swyddfa Gartref, yn dwyn ynghyd weithgareddau ar draws ystod eang

o bolisïau cyhoeddus a bydd yn nodi meysydd penodol lle y caiff pobl eu helpu i

gymryd mwy o ran yng ngwaith cyrff cyhoeddus fel y gallant ar y cyd:

� adeiladu cymunedau diogelach

� lleihau lefelau aildroseddu a chodi hyder yn y system cyfiawnder troseddol

� cynorthwyo datblygiad pobl ifanc

� atgyfnerthu democratiaeth

� adfywio cymdogaethau

� gwneud y defnydd gorau o ysgolion

� gwella iechyd y cyhoedd.

Mae’r Strategaeth Datblygu Cynaliadwy hon yn rhannu’r un diddordeb mewn

cynnwys mwy o bobl yn y gwaith o gyflawni ei nodau â meysydd polisi eraill yn y

cynllun gweithredu Together We Can. Bwriedir i’r diddordeb cyffredin hwn gael ei

ddatblygu gan raglen newydd o’r enw Community Action 2020 - Together We Can.

Bydd y rhaglen hon yn elfen allweddol i gynllun gweithredu Together We Can.

Mae’n adeiladu ar y profiad a gafwyd o Agenda 21 Leol, a lansiwyd yn

Uwchgynhadledd Rio yn 1992, a ysbrydolodd gymunedau ar draws y DU, sy’n dal i

gael ei dilyn mewn rhai ardaloedd, ac a sicrhaodd fanteision gwirioneddol. Fodd

bynnag y neges o’r ymgynghoriad oedd bod angen i’r Llywodraeth ail-symbylu

gweithredu cymunedol i sicrhau newid sylweddol yn y modd y cyflawnir datblygu

cynaliadwy 8 .

8 Nododd adroddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree: Church ac Elster, JRF, 2002, ‘Thinking locally,

acting nationally’, mewn ymateb i Agenda 21 Leol (LA 21), fod:

� Dros 400 o raglenni wedi ymwreiddio ledled y DU.

Mae Community Action 2020 – Together We Can yn rhaglen o gymorth ar gyfer

gweithredu cymunedol ar ddatblygu cynaliadwy, sy’n rhoi ar waith alwad y Prif

Weinidog am weithredu.

Mae miloedd o grwpiau cymunedol eisoes yn gwneud cyfraniad enfawr at wella

ansawdd bywyd yn eu hardal. Drwy feddwl yn fyd-eang a gweithredu’n lleol, gyda’n

gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth enfawr – i’n cymdogaethau, ein hansawdd bywyd,

a dyfodol ein plant. Yn y byd sydd ohoni, gall gweithredoedd unigol bach gyda’i

gilydd wneud newidiadau mawr er gwell yn genedlaethol ac yn rhyngwladol hyd yn

oed.

“Mae llawer o gymunedau lleol yn deall y cysylltiadau rhwng yr angen i fynd i’r afael

â heriau amgylcheddol cenedlaethol a byd-eang a gweithredoedd pob dydd i wella ein

cymdogaethau a chreu lleoedd gwell i fyw ynddynt. Yn 1997 anogais bob awdurdod

lleol i weithio gyda chymunedau a llunio cynlluniau Agenda 21 Leol erbyn 2000.

Cafwyd ymateb aruthrol: o Sir Durham i Wiltshire ac o Redbridge i Swydd Gaer,

dangosodd pobl leol yr hyn y gellid ei wneud. Y flwyddyn nesaf, fel rhan allweddol

o’n Strategaeth Datblygu Cynaliadwy newydd, rwyf am ailfywiogi gweithredu

cymunedol ar ddatblygu cynaliadwy.”

Y Gwir. Anrh. Tony Blair, Prif Weinidog – 14 Medi 2004

� Bydd y Llywodraeth yn lansio Community Action 2020 – Together We Can

yn ddiweddarach yn 2005 i symbylu meddwl yn fyd-eang a gweithredu’n lleol

mewn cymunedau ledled Lloegr

Bydd Community Action 2020 – Together We Can yn ailfywiogi gweithredu

cymunedol ar ddatblygu cynaliadwy drwy hyrwyddo cyfleoedd newydd a chyfleoedd

sy’n bodoli eisoes i gymryd rhan mewn gweithredu o’r fath. Bydd yn nodi’r hyn sydd

i’w wneud i alluogi, annog, cynnwys ac enghreifftio gweithredu cymunedol i wella

cynaliadwyedd a chyfrannu at y blaenoriaethau a nodir mewn penodau diweddarach

o’r strategaeth hon.

[Chart]

Community Action 2020 – Together We Can

Enable - Galluogi

Encourage – Annog

Engage – Ymgysylltu

Exemplify – Bod yn Esiampl

� Y rhaglenni hyn gyda’i gilydd wedi cael cryn effaith ar dargedau ar gyfer datblygu cynaliadwy,

ond y gallai hyn dyfu’n fwy pe bai mwy o gymorth ar gael i ddileu rhwystrau i weithredu.

Helpodd gweithwyr cymunedol i hyrwyddo gweithgarwch amgylcheddol ond nid oedd ganddynt

unrhyw wybodaeth am yr hyn sy’n gweithio. Mae llawer o raglenni LA21 wedi cael trafferth i

recriwtio cymunedau difreintiedig ac wedi’u hallgáu, grwpiau o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a

rhannu iau a hþn o’r boblogaeth. Karen Lucas, Andrew Ross a Sara Fuller, JRF 2003, ‘What’s in a

name? Local Agenda 21, community planning and neighbourhood renewal’.

[Top]

• Cryfhau gallu Mentoriaid Cymunedol a Gweithwyr Datblygu Cymunedol i

gynorthwyo gweithredu cymunedol ar ddatblygu cynaliadwy

• Rhoi mwy o gyfleoedd dysgu a hyfforddiant ym maes datblygu cynaliadwy

• Ei gwneud hi’n haws i gael cyllid sbarduno ar gyfer prosiectau cymunedol ar

ddatblygu cynaliadwy

• Creu cysylltiadau â meysydd llafur dinasyddiaeth a datblygu cynaliadwy

ysgolion

• Sicrhau bod mwy o wybodaeth am gyllid ar gael

[Left]

• Ysbrydoli, cydnabod a dathlu gweithredu cymunedol llwyddiannus ar ddatblygu

cynaliadwy

• Hyrwyddo enghreifftiau o weithredu cymunedol llwyddiannus ledled y wlad i

helpu cymunedau i ysbrydoli ei gilydd

[Right]

• Rhoi cyfleoedd i gynnwys cymunedau mewn Strategaethau ar gyfer Cymunedau

Cynaliadwy a chynlluniau gweithredu lleol megis cynlluniau plwyf, cynlluniau

cymdogaeth, polisïau tai a chynllunio

• Gwella’r modd yr hyrwyddir cyfleoedd gwirfoddoli ym maes datblygu

cynaliadwy

• Datblygu cysylltiadau i wella cyfleoedd i weithredu drwy fentrau sy’n bodoli

eisoes

[Bottom]

• Arwain drwy esiampl gyda negeseuon clir a chyson gan lywodraeth ganolog ar

rymuso cymunedau a datblygu cynaliadwy drwy:

• Gweledigaeth ar gyfer Cymunedau Cynaliadwy (Pennod 6)

• Cefnogaeth adrannau i gynlluniau gwirfoddoli cyflogeion

Bydd Community Action 2020 – Together We Can yn galluogi ymarferwyr a

mentoriaid datblygu cymunedol i gynorthwyo cymunedau yn well. Bydd y

Llywodraeth yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol yn y sector cymunedol i

gyflawni hyn drwy:

� wella mynediad i wybodaeth, cyngor, deunyddiau, pecynnau cymunedol,

pyrth gwe a hyfforddiant y byddant i gyd yn helpu cymunedau i weithredu ar

ddatblygu cynaliadwy

� rhoi mwy o gyfleoedd i weithwyr cymunedol a chymunedau ddysgu am

ddatblygu cynaliadwy

� cynnwys datblygu cynaliadwy mewn Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol

ac unedau achrededig sy’n nodi’r sgiliau a’r egwyddorion arfer ar gyfer

gwaith datblygu cymunedol

� rhoi mwy o gyfleoedd i unigolion o fewn cymunedau wirfoddoli i gymryd

rhan mewn gweithgarwch datblygu cynaliadwy.

Bydd Community Action 2020 – Together We Can yn ein hannog i gydnabod a

gwerthfawrogi ymdrechion cymunedau:

� drwy godi ymwybyddiaeth o wobrau cymunedol a rhoi mwy o wybodaeth

amdanynt

� drwy ei gwneud hi’n haws i gael arian ar gyfer prosiectau amgylcheddol a

datblygu cynaliadwy 9 .

[box]

Y Gronfa Loteri Fawr

Y Gronfa Loteri Fawr yw’r sefydliad a grëwyd drwy gyfuno’r Gronfa Cyfleoedd

Newydd a’r Gronfa Gymunedol. Mae’n cefnogi elusennau a’r sector gwirfoddol ac

iechyd, addysg a’r amgylchedd ac mae wedi ymgymryd â chyfrifoldebau Comisiwn y

Mileniwm dros ariannu prosiectau adfywio ar raddfa fawr.

Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn gweithio gyda’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy i

gyflawni’r ymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy a nodwyd yn natganiad 2003 gan y

Gronfa Cyfleoedd Newydd. Bydd y gwaith hwn yn ystyried sut y gellid gwella’r

broses gwneud cais, asesu a gwerthuso o ran ei photensial i sicrhau datblygu

cynaliadwy.

Gofynnodd y Gronfa Loteri Fawr am gymorth hefyd i ddatblygu ei blaenoriaethau

ariannu newydd a’i rhaglen grantiau trawsnewid arfaethedig, i sicrhau ei bod wedi

ymgorffori egwyddorion cynaliadwyedd.

[picture caption]

Cymunedau yn ‘ymgymryd â’r nod’ yn yr ymgynghoriad â’r cyhoedd ar gyfer yr

adolygiad o Strategaeth

Mae llawer o enghreifftiau o brosiectau cymunedol eisoes, sy’n helpu i gyfrannu at

ddatblygu cynaliadwy yn y DU. Drwy ddangos yr hyn y gellir ei gyflawni gan

grwpiau cymunedol bach, bydd eraill yn magu hyder. Gall rhannu llwyddiannau

symbylu ac ysbrydoli pobl i gyflawni pethau yn eu cymuned eu hunain. Felly bydd

Community Action 2020 – Together We Can yn annog prosiectau cymunedol

llwyddiannus i gyfnewid gwybodaeth a phrofiad â chymunedau eraill sydd am ddysgu

drwy gyfrwng hyfforddiant ac arfer da wedi’i ledaenu ar y we.

9 Mae porth ar-lein y Swyddfa Gartref (www.governmentfunding.org.uk) yn rhoi mynediad i grantiau

ar gyfer y sectorau gwirfoddol a chymunedol

Mewn partneriaeth â llywodraeth leol a chyrff cyhoeddus eraill, bydd yn cynnwys

pobl yn y broses o gynllunio ar gyfer dyfodol eu cymdogaethau neu eu plwyfi lleol 10 a

dylanwadu ar y modd y cyflwynir gwasanaethau yn eu hardal.

Mae’r Llywodraeth yn gwerthfawrogi’r gwaith a wneir gan fudiadau gwirfoddol a

chymunedol i alluogi unigolion i gyfrannu at ddatblygiad eu cymunedau. Mae’r

Llywodraeth wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gyda’r sector gwirfoddol a

chymunedol drwy egwyddorion y Compact ar Gysylltiadau rhwng y Llywodraeth a’r

Sector Gwirfoddol a Chymunedol 11 .

Gall y Llywodraeth fel cyflogwr arwain drwy esiampl drwy gefnogi cyflogeion sy’n

gwirfoddoli dros eu cymuned. Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

(Defra), y Swyddfa Gartref a’r Adran Addysg a Sgiliau eisoes yn gwneud hynny.

3. Ymagwedd newydd tuag at gyfathrebu ac ymgysylltu

O werthuso ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth yn y gorffennol mae yna awgrym

iddynt godi ymwybyddiaeth ond heb arwain at weithredu. Bwriedir i’r ymagwedd

newydd tuag at gyfathrebu ynglyˆ n â newid yn yr hinsawdd, a lansiwyd ym mis

Chwefror 2005, fynd i’r afael â rhai o ddiffygion y gorffennol. Bydd yn cyfrannu at

Community Action 2020 - Together We Can ac yn helpu i ysgogi gweithredu

cymunedol ehangach yn lleol.

Bwriedir i’r pecyn cymorth ar gyfer cyfathrebu ynglyˆ n â newid yn yr hinsawdd

(gweler Pennod 4) roi patrwm ar gyfer ymgyrchoedd newid ymddygiad ar faterion

eraill a gynhelir yn y dyfodol. Elfennau allweddol o’r fenter yw:

� defnyddio negeseuon cadarnhaol ac ysbrydoledig yn hytrach nag ofn neu bryder

� osgoi hysbysebu ‘uwchlaw’r llinell’ e.e. y teledu neu fwrdd poster

� symbylu cyfathrebwyr lleol a rhanbarthol ar gyfer newid yn yr hinsawdd drwy

gymorth ariannol ac arweiniad

� dulliau cyfathrebu cenedlaethol uchel eu proffil i gefnogi’r mentrau lleol a

rhanbarthol, ac

� argymhellir y dylid datblygu nod ysbrydoledig newydd a datganiad wedi’i frandio

i gysylltu dulliau cyfathrebu gwahanol sefydliadau.

Caiff effeithiolrwydd y fenter newydd hon ei werthuso a’i ddefnyddio i wella’r

ymagwedd wrth fynd ymlaen.

10 Ym Mhennod 6 disgrifiwn sut y dylid cynnwys cymunedau yn y gwaith o lunio cynlluniau sy’n

effeithio arnynt: bydd y Llywodraeth yn helpu awdurdodau lleol i wneud mwy i gynnwys cymunedau.

11 Rhagor o fanylion o dan www.thecompact.org.uk.

[Chart]

Cais Llundain i Gynnal y Gemau Olympaidd yn 2012: Gwireddu datblygu

cynaliadwy…

Dengys yr holl dystiolaeth sydd gennym fod pobl yn ei chael hi’n anodd i uniaethu â

datblygu cynaliadwy. Felly mae angen i ni fanteisio ar gyfleoedd i ddangos

manteision datblygu cynaliadwy drwy bethau y mae gan bobl ddiddordeb ynddynt ac

y maent yn uniaethu â hwy.

Mae cynaliadwyedd yn un o nodweddion amlycaf cais Llundain i gynnal y Gemau

Olympaidd. Yn ogystal â bod yn rhan allweddol o gais Llundain i’r Pwyllgor

Olympaidd Rhyngwladol, mae’n cynnig ffordd unigryw, uchel iawn ei phroffil o

gyfleu manteision ymagwedd gynaliadwy i’r cyhoedd ehangach a fyddai’n troi clust

fyddar i unrhyw bregeth ar ddatblygu cynaliadwy.

[Picture Caption]

Parc Olympaidd Arfaethedig Llundain 2012

Mae London 2012 yn gweithio’n agos gyda WWF-UK a Bioregional, sef elusen leol,

i gyflwyno’r cysyniad o ‘Gemau Olympaidd Un Blaned’ 12 . Mae hyn yn cyflwyno’r

syniad o rannu adnoddau cyfyngedig yn decach, sy’n cyd-fynd â’r ddelfryd

Olympaidd o “chwaraeon a datblygiad cytûn dynolryw”.

Mae’r nodau cynaliadwyedd ar gyfer cais Llundain i gynnal y Gemau Olympaidd yn

cynnwys:

� Gemau carbon isel – i leihau’r galw am ynni ac ateb y galw hwnnw o ffynonellau

dim carbon/carbon isel a ffynonellau adnewyddadwy ac i dynnu sylw at y modd y

mae’r Gemau Olympaidd yn ymaddasu i fyd y mae newid yn yr hinsawdd yn

effeithio’n fwyfwy arno

� Gemau dim gwastraff – i osgoi tirlenwi drwy leihau faint o wastraff a gynhyrchir

yn y lle cyntaf, wedyn drwy ailddefnyddio, ailgylchu ac adfer yr holl wastraff

sydd ar ôl

� diogelu bioamrywiaeth – i ddiogelu cynefinoedd naturiol a bywyd gwyllt, gwella

ansawdd mannau gwyrdd trefol a dod â natur yn agosach at bobl

� trafnidiaeth gynaliadwy – i leihau’r angen i deithio a darparu opsiynau cynaliadwy

amgen yn lle’r car preifat

� etifeddiaeth gynaliadwy - i hyrwyddo iechyd a lles drwy becyn integredig o

fentrau chwaraeon, mentrau amgylcheddol a mentrau diwylliannol.

12 WWF, Bioregional, 2005, Towards a One Planet Olympics – Achieving the first sustainable Olympic

Games and Paralympic Games. Mae One Planet Living yn gydfenter rhwng WWF a Bioregional.

Mae gwaith gan Uned Strategaeth y Prif Weinidog 13 yn awgrymu y gall cynnwys pobl

yn uniongyrchol yn y gwaith o lunio polisïau arwain at ganlyniadau mwy

llwyddiannus. Bu rhai arbrofion eisoes gyda fforymau trafod a rheithgorau

dinasyddion lle mae dinasyddion cynrychioliadol yn helpu llywodraethau i ddatblygu

polisi. Mae’r rhain yn rhoi cyfle i drafod opsiynau yn fanylach nag y gellid ei wneud

gydag arolwg barn neu grðp ffocws – ac maent yn rhoi cyfle i bobl bwyso a mesur

cyfaddawdau yn seiliedig ar dystiolaeth a barn gan eiriolwyr ac arbenigwyr. Yn Texas

arweiniodd at newid polisi ynni; defnyddiodd yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau

a Chwaraeon y dull hwn i adolygu siarter y BBC ac roedd gan yr Adran Masnach a

Diwydiant reithgorau dinasyddion ar weithio hyblyg. Bu rhai awdurdodau lleol yn

defnyddio technegau trafod i helpu i wneud rhai o’r penderfyniadau anodd ynghylch

gwaredu ac ailgylchu gwastraff.

Cynhaliodd Defra ddau weithdy peilot ar “ffyrdd cynaliadwy o fyw” i weld a fyddai

modd trefnu fforwm trafod ar raddfa fawr i fwydo i mewn i weithgarwch datblygu

polisi. Ymddengys fod y canlyniadau cychwynnol yn addawol a gellir edrych arnynt

ar wefan datblygu cynaliadwy’r Llywodraeth: www.sustainable-government.gov.uk.

� Mae’r Llywodraeth yn ymuno â’r Ford Gron ar Ddefnyddio Cynaliadwy i

lunio a gynnal “fforwm trafod” yn 2006 – trafodaeth yn para dau neu dri

diwrnod rhwng 100-200 o bobl yn cynrychioli’r wlad gyfan. Byddant yn

edrych ar sut y gall y Llywodraeth a dinasyddion weithio gyda’i gilydd i

symud tuag at “economi un blaned”, cysyniad a drafodir ym Mhennod 3

Byddwn hefyd am gynnwys rhanddeiliaid yn uniongyrchol yn y gwaith o ddatblygu’r

strategaeth hon. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y Strategaeth yn ddogfen fyw ac yn

ei gwneud yn bosibl i’w diweddaru wrth i ni ddysgu mwy neu pan fydd angen i ni

ymateb i faterion newydd.

� O ddiwedd 2005 byddwn yn treialu ffyrdd agored ac arloesol o alluogi

rhanddeiliaid i ddylanwadu ar benderfyniadau ynghylch y math o brosiectau

a fyddai’n cyflawni nodau’r strategaeth hon

4. Defnyddio cymhellion

Ceir sawl math gwahanol o gymhellion gan gynnwys cymorthdaliadau, mentrau

gwirfoddol, cynlluniau cyfnewid neu drethi. Gellir defnyddio cymhellion i unioni

amgylchiadau nas ystyrir neu fethiannau’r farchnad - lle na fydd y costau preifat yn

adlewyrchu’r gost wirioneddol - neu fel ffordd o newid ymddygiadau i gyrraedd

targedau penodol. Gall newid ymddygiad drwy sicrhau ein bod yn rhoi’r arwyddion

cywir o ran pris fod yn ffordd effeithiol iawn o gyflawni ein hamcanion am y gost

leiaf i’r economi.

Nodwyd syniadaeth y Llywodraeth ar ddefnyddio offerynnau economaidd i fynd i’r

afael â materion amgylcheddol fwyaf diweddar yn ‘Tax and the Environment: using

economic instruments’ (Trysorlys EM 2002).

13 Uned Strategaeth y Prif Weinidog, Chwefror 2004, ‘Personal Responsibility and Changing

Behaviour: the state of knowledge and its implications for public policy’ yn

www.number10.gov.uk/files/pdf/pr.pdf

Mae’r ddogfen hon yn nodi’r egwyddorion allweddol y bydd y Llywodraeth yn eu

cymhwyso wrth benderfynu a oes gan offerynnau economaidd ran i’w chwarae wrth

fynd i’r afael â materion amgylcheddol penodol. Mae trethi amgylcheddol yn eu

hanfod yn wahanol i’r mwyafrif o drethi eraill; eu prif nod yw sicrhau canlyniadau

amgylcheddol mwy effeithlon a gwell, ac nid o reidrwydd codi refeniw. Felly mae’r

ffordd y dylid defnyddio trethi amgylcheddol hefyd yn wahanol. Yn arbennig, wrth

ddatblygu polisi ar drethi amgylcheddol, rhoddir sylw i:

� roi rhybudd ymlaen llaw o drethi amgylcheddol newydd gan ymgynghori’n eang

ar eu cynllun er mwyn rhoi cyfle i bobl neu gwmnïau addasu eu harfer - er

enghraifft, gyda’r Ardoll Newid yn yr Hinsawdd

� ailgylchu rhywfaint o’r arian a godir yn ôl i’r sector sy’n talu’r dreth i helpu i gael

ymateb cyflymach

� caniatáu gostyngiadau mewn lefelau treth yn gyfnewid am ymrwymiadau wedi’u

negodi i leihau llygredd

� defnyddio rhywfaint o’r arian a godir i gynnig dewisiadau amgen.

Mewn achosion eraill, efallai nad trethi yw’r dewis cywir a gellir cael gwell

canlyniadau drwy reoleiddio (er enghraifft lle mae angen rheoli effeithiau llygredd

lleol), cynlluniau cyfnewid neu gytundebau gwirfoddol. Yn aml bydd yr ymagwedd

orau yn cynnwys pecyn o fesurau, a allai gynnwys rhai cymhellion marchnad megis,

er enghraifft, cyfnewid gollyngiadau neu’r Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy.

Ym mhob achos rhaid mai’r nod yw cymhwyso’r mesurau hyn yn gynaliadwy. Mae

hynny’n golygu:

� bod yn glir ynghylch y manteision amgylcheddol yr ydym am eu sicrhau

� dewis y mesur a fydd yn golygu’r gost ariannol leiaf ac sydd â’r potensial gorau i

gael manteision economaidd (er enghraifft, annog arloesi)

� sicrhau bod y newid yn deg ac yn arbennig na fydd grwpiau diamddiffyn yn

ysgwyddo gormod o faich

� sicrhau bod y mesur yn cael ei dderbyn gan y cyhoedd i ryw raddau.

[box]

Defnyddio cymhellion – cynlluniau prisio ffyrdd

Bwriedir i gynlluniau prisio ffyrdd neu gynlluniau sy’n codi tâl ar ddefnyddwyr

ffyrdd ddylanwadu ar ymddygiad defnyddwyr ffyrdd, i’w hannog i osgoi gyrru ar

adegau prysur ac mewn lleoedd prysur er mwyn gwneud i draffig lifo’n fwy rhydd.

Croesawodd y Llywodraeth ganfyddiadau’r astudiaeth dichonoldeb 14 ar gynlluniau

prisio ffyrdd, sef y gallai cynllun prisio ffyrdd a lunwiyd yn ofalus wneud cyfraniad

14 www.dft.gov.uk/stellent/groups/dft_roads/documents/divisionhomepage/029709.hcsp

gwerthfawr at leihau effeithiau amgylcheddol ffyrdd a thraffig yn ogystal â’i brif nod

o reoli traffig i leihau tagfeydd.

Canfyddiad yr astudiaeth oedd y gallai cynllun a luniwyd yn dda helpu i leihau

gollyngiadau nwyon tþ gwydr yn ogystal â helpu i fynd i’r afael â gollyngiadau mwy

lleol, ond nid yw’r effaith yn gwbl eglur a byddai’n dibynnu ar union natur y cynllun.

Mae’r Llywodraeth yn cytuno ei bod yn bryd ystyried o ddifrif y rhan y gallai rhyw

fath o bolisi prisio ffyrdd ei chwarae a bydd yn edrych yn ofalus ar effeithiau

amgylcheddol posibl wrth i waith ar brisio ffyrdd gael ei ddatblygu, ochr yn ochr â’r

manteision a allai ddeillio o fesurau eraill i wella’r modd y caiff y rhwydwaith ffyrdd

ei reoli a’i ddefnyddio.

Mae’r Llywodraeth yn parhau i fireinio ei hymagwedd tuag at ddefnyddio offerynnau

economaidd. Ymhlith y materion penodol o ran methodoleg a dadansoddi y mae wedi

parhau i’w hadolygu mae:

� gwella’r cysylltiadau rhwng effeithiau amgylcheddol a thwf economaidd, yn

arbennig yr her i dwf byd-eang yn gysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd

� sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng trethi amgylcheddol, offerynnau economaidd

eraill ac ymyriadau polisi eraill, yn arbennig rôl offerynnau economaidd yn

seiliedig ar bris a maint

� rôl offerynnau economaidd wrth hyrwyddo arloesedd a thechnolegau newydd

� ymyrryd lle mae’n debygol o gael yr effaith fwyaf, er enghraifft sicrhau’r

cydbwysedd cywir rhwng cynnig cymhellion i leihau gwastraff i’r eithaf a’i

ailgylchu

� defnyddio cyfuniadau o wahanol ymyriadau polisi, megis rheoleiddio ar y cyd

ynghyd â chynlluniau cyfnewid

� ystyried rhai o effeithiau ehangach defnyddio offerynnau economaidd, megis

newid ymddygiad yn deillio o wneud cyhoeddiadau ynghylch y modd y

gweithredir polisi

� ni ddefnyddir ymyriadau ar eu pennau eu hunain ond fe’u defnyddir ar y cyd ag

addysg a chyfathrebu

� gwerthuso effeithiau mesurau yn barhaus ac ystyried y gwersi hyn

� Er mwyn deall rôl offerynnau economaidd yn well mae gwerthusiadau o’r

Ardoll Newid yn yr Hinsawdd a’r Ardoll Agregau yn mynd rhagddynt. Bydd

canlyniadau’r gwerthusiadau hyn yn helpu i roi darlun mwy cynhwysfawr o

effeithiolrwydd trethi amgylcheddol a bydd yn llywio adolygiadau eraill, gan

gynnwys yr adolygiad o’r Rhaglen Newid yn yr Hinsawdd a chloriannu

ymhellach ar y gwerthusiad o bolisi trethi amgylcheddol ar gyfer y Gyllideb.

[Table]

Enghreifftiau o Ymyriadau

Tax – Treth

Esgynnydd i’r Dreth Tirlenwi (cyfradd dreth safonol i gynyddu yn flynyddol o £3 o

fis Ebrill 2005 i gyrraedd cyfradd tymor canolig/hirdymor o £35 y dunnell.

Cyfradd Toll Ecseis Cerbydau is newydd ar gyfer y ceir sydd fwyaf eco-gyfeillgar

Trading scheme - Cynlluniau cyfnewid

Cynllun Cyfnewid Gollyngiadau’r UE Ionawr 2005.

Cynllun Cyfnewid Lwfans Tirlenwi, Ebrill 2005.

Mixed instruments – Offerynnau cymysg

Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy – offeryn cymysg yn cynnwys rheoliad a

thystysgrifau cyfnewid rhwymedigaeth ynni adnewyddadwy.

Mae rheolau o eiddo Cyllid y Wlad yn annog cyflogeion i feicio i’r gwaith mewn

nifer o ffyrdd gan gynnwys cynllun treth-effeithlon ar gyfer prynu beiciau o’u cyflog.

Tax credits…… - Credydau treth/gwariant cyhoeddus

Ailgylchu refeniw o Gymal Codi’r Dreth Tirlenwi i fyd busnes.

Voluntary…. – Cytundebau gwirfoddol

Derbyniwyd Menter Wirfoddol y Plaladdwyr gan y Llywodraeth ar 1 Ebrill 2001, yn

lle treth arfaethedig ar blaladdwyr a ddefnyddir ym myd amaethyddiaeth a

garddwriaeth.

Mae’r Fenter Masnachu Moesegol (ETI) yn gorff sy’n cynnwys corfforaethau,

sefydliadau anllywodraethol, ac Undebau Llafur sydd wedi ymrwymo i wella

amgylchiadau gweithwyr yng nghadwyni cyflenwi byd-eang aelodau corfforaethol

drwy gytundebau gwirfoddol a chodau ymarfer.

Mae’r system dreth yn gweithio ar lefel genedlaethol – ond mewn llawer o achosion

mae eisiau cymhellion wedi’u targedu’n well. Canolbwyntiodd gwaith diweddar ar

“gymhellion cadarnhaol” 15 lleol neu wedi’u targedu wrth gymell ymddygiad

cynaliadwy. Byddwn yn ystyried y posiblrwydd o ddefnyddio cymhellion o’r fath.

5. Dysgu arferion yn gynnar – rôl addysg

Mae gan addysg ffurfiol ran hollbwysig i’w chwarae i godi ymwybyddiaeth ymhlith

pobl ifanc o ddatblygu cynaliadwy, gan roi iddynt y sgiliau y mae eu hangen arnynt i

15 Maxine Holdsworth a David Boyle, Cyngor Defnyddwyr Cenedlaethol, 2004, ‘Carrots not sticks: the

possibilities of a sustainable consumption reward card for the UK’ yn www.ncc.org.uk

oi datblygu cynaliadwy ar waith yn ddiweddarach yn eu bywyd; ond hefyd wrth

ddysgu arferion da yn eu plentyndod.

“Y bobl a fydd yn llwyddo ymhen pymtheng mlynedd, y gwledydd a fydd yn llwyddo,

yw’r rheini sydd fwyaf seiliedig ar weledigaeth gynaliadwy o’r byd. Dyma beth y

dylem fod yn hyfforddi pobl i’w wneud.”

Y Gwir. Anrh. Charles Clarke AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a

Sgiliau, 2003

Rhaid i egwyddorion cynaliadwy fod wrth wraidd y system addysg, fel y bydd

ysgolion, colegau a phrifysgol yn mynd yn llwyfan i arddangos datblygu cynaliadwy

ymhlith y cymunedau a wasanaethir ganddynt

Mae ymgorffori datblygu cynaliadwy yn y system addysg yn dod â mantais ddwy

ffordd. Drwy gysylltu dysgu â materion sy’n ymwneud yn uniongyrchol â phobl ifanc

– eu hansawdd bywyd personol, a lles y cymunedau a’r amgylchedd o’u hamgylch –

mae eu haddysg yn dod yn fwy perthnasol ac yn fwy cymhellol, a cheir effeithiau

cadarnhaol ar safonau cyrhaeddiad ac ymddygiad. Gall gweithio tuag at nodau

datblygu cynaliadwy hefyd ennyn mwy o bwrpas ymhlith staff mewn ysgolion,

colegau a phrifysgolion, sy’n effeithio ar forâl staff newydd a gallu’r sefydliad hynny

i gadw a recriwtio staff newydd.

Ar ran y Llywodraeth, mae’r Adran Addysg a Sgiliau (DfES) yn ceisio sicrhau bod

datblygu cynaliadwy wedi’i ymgorffori yn yr agenda addysg graidd ar draws pob

sector addysg a sgiliau. Lansiwyd Cynllun Gweithredu Datblygu Cynaliadwy ar gyfer

Addysg a Sgiliau ym mis Medi 2003.

Ysgolion

Mae Strategaeth Pum Mlynedd yr Adran Addysg a Sgiliau ar gyfer Plant a Dysgwyr

yn cynnwys gweledigaeth sy’n nodi:

‘Dylai pob ysgol (hefyd) fod yn ysgol gynaliadwy o safbwynt yr amgylchedd, a

chanddi gynllun da ar gyfer cludiant ysgol sy’n hyrwyddo cerdded a beicio, polisi

ailgylchu gweithredol ac effeithiol (yn hyrwyddo symud o brosesau papur i brosesau

electronig lle bynnag y bo modd) a gardd ysgol neu gyfleoedd eraill i blant

ddarganfod byd natur. Mae’n rhaid i ysgolion ddysgu ein plant drwy esiampl yn

ogystal â thrwy hyfforddiant ’

Mae cyfle i ysgolion ddatblygu sgiliau byw’n gynaliadwy nid yn unig drwy’r

cwricwlwm, ond drwy’r esiamplau a osodir gan athrawon bob dydd, a thrwy brofiad

uniongyrchol y disgyblion o fyw ac astudio o fewn amgylchedd yr ysgol. Drwy rieni a

rhannau eraill o’r gymuned leol, gall arferion da a sefydlwyd mewn pobl ifanc gael

dylanwad ymhell y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Rydym yn awyddus i roi rhagor o

anogaeth i blant yn eu harddegau - y grðp sydd yn aml â’r ddiddordeb mwyaf yn yr

amgylchedd ond sydd leiaf tebygol o weithredu ar hynny - i weithredu eu credoau.

“Mae’r Llywodraeth wrthi’n datblygu dull o asesu amgylcheddol yn ymwneud yn

benodol ag ysgolion a fydd yn berthnasol i bob adeilad ysgol newydd. Ni fydd

datblygu cynaliadwy yn bwnc yn yr ystafell ddosbarth yn unig: bydd yn rhan o’r

adeilad ei hun a’r modd y mae’r ysgol yn defnyddio ac yn cynhyrchu hyd yn oed ei

hynni ei hun. Yn ogystal â chlywed am ddatblygu cynaliadwy, bydd ein myfyrwyr yn ei

weld ac yn gweithio y tu mewn iddo: man dysgu byw lle y gellir darganfod beth y mae

ffordd gynaliadwy o fyw yn ei olygu.”

Y Gwir. Anrh. Tony Blair AS, Prif Weinidog 14 Medi 2004

� Mae Defra a Gwasanaeth Cerdyn Connexions yr Adran Addysg a Sgiliau yn

lansio cydfenter beilot mewn ysgolion a cholegau i wobrwyo ymddygiad

myfyrwyr – yn unigol neu mewn grðp – sy’n cydnabod materion

amgylcheddol a chymunedol ac yn ymateb iddynt.

[picture caption]

Ffynhonnell: DfES

Drwy’r fenter Ysgolion Estynedig, rydym yn ymchwilio i ffyrdd y gall ysgolion

gefnogi datblygu cynaliadwy yn eu cymunedau lleol, gan arwain at welliannau

ymarferol mewn ansawdd bywyd lleol. Mae enghreifftiau da yn cynnwys cludiant

ysgol, lle mae’r Llywodraeth yn hyrwyddo ffyrdd iachach, gwyrddach a diogelach o

deithio i’r ysgol, a byw’n iach, lle mae prosiectau i wella bwyd ysgol ac atgyfnerthu

negeseuon am fwyta’n iach yn yr ystafell ddosbarthu yn mynd rhagddynt.

O ran y cwricwlwm, mae’r Llywodraeth yn gweithio i feithrin gallu mewn pynciau

megis dinasyddiaeth, daearyddiaeth, addysg grefyddol a gwyddoniaeth. Mae’r

pynciau eisoes yn cael eu defnyddio i edrych ar ddatblygu cynaliadwy mewn

gwahanol gyd-destunau, gan helpu disgyblion i ddatblygu’n bobl sy’n gwneud

penderfyniadau cyfrifol ac yn datrys problemau ar sail gwybodaeth. Rydym am ei

gwneud yn haws i athrawon ac arweinwyr ysgol wneud eu hysgolion yn fwy ecogyfeillgar

ac yn fwy cynaliadwy.

[picture caption]

Plant yn darganfod byd natur drwy bwll bywyd gwyllt yn Ysgol Gynradd y Mileniwm

Greenwich

� Yn 2005 bydd y Llywodraeth yn lansio fframwaith datblygu cynaliadwy ar

gyfer ysgolion, gwasanaeth ar y we o fewn www.teachernet.gov.uk, sy’n

darparu siop un stop ar gyfer athrawon ac arweinwyr ysgol

Dros y 10-15 mlynedd nesaf, mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i adnewyddu pob

ysgol uwchradd (ar hyn o bryd, tua 3,400), yn arbennig drwy’r rhaglen Adeiladu

Ysgolion ar gyfer y Dyfodol. Bydd angen i bob ysgol gael ei dosbarthu’n un ‘dda

iawn’ yn ôl system a luniwyd gyda’r Sefydliad Ymchwil Adeiladau.

Datblygu cynaliadwy gydol oes

Mae angen parhau â’r gwaith da a ddechreuwyd mewn ysgolion i addysg uwch a

datblygiad proffesiynol.

� Bydd y Cyngor Dysgu a Sgiliau (LSC) a Chyngor Cyllido Addysg Uwch

Lloegr (HEFCE) yn cyhoeddi eu strategaethau eu hunain ar gyfer datblygu

cynaliadwy yn ddiweddarach yn 2005

Mae’r strategaethau, sy’n cael eu datblygu ar ôl ymgynghori eang, yn ceisio annog

colegau a phrifysgolion i ymgorffori datblygu cynaliadwy wrth addysgu a dysgu, wrth

reoli ac arwain, ac yn eu hymwneud â’r gymuned ehangach.

Er mwyn sicrhau economi fwy cystadleuol, er mwyn cystadlu’n rhyngwladol ac

adeiladu cymunedau cynaliadwy i ni ein hunain, mae angen i ni wella sail

gwybodaeth a sgiliau pawb, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol ac eraill yn y

gweithle. Mae rhannau diweddarach o’r strategaeth yn nodi sut yr ydym yn bwriadu

gwella sgiliau datblygu cynaliadwy yn y sector cyhoeddus, helpu byd busnes gyda

chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol a datblygu strategaeth ar gyfer datblygu

cynaliadwy yn y gweithle, ond mae angen i ni wneud “sgiliau cynaliadwyedd” yn

gymhwysedd craidd ar gyfer graddedigion proffesiynol.

[picture caption]

DD, masgot gwefan ESD UNESCO

� Mae DfES yn gweithio gyda Forum for the Future i sicrhau y caiff

cynaliadwyedd ei hyrwyddo ar draws cyrff proffesiynol

Bydd y Llywodraeth yn gweithredu Strategaeth y Cenhedloedd Unedig ar gyfer

Addysg a Datblygu Cynaliadwy (ESD), sydd wrth wraidd Degawd y Cenhedloedd

Unedig ar gyfer Addysg a Datblygu Cynaliadwy o 2005-2015, a bydd yn chwilio am

ffyrdd o helpu gwledydd eraill i ddatblygu eu strategaethau addysg eu hunain ar gyfer

datblygu cynaliadwy.

Lansiodd DfES y Porth Byd-eang ym mis Chwefror 2004 16 . Gan weithio gyda’r

Cyngor Prydeinig Rhynwladol, mae’r wefan yn galluogi pobl sy’n gysylltiedig ag

addysg ledled y byd i gymryd rhan mewn partneriaethau creadigol. Bydd hyn yn

helpu i sicrhau bod addysg yn croesi ffiniau cenedlaethol a bod pobl ifanc yn

datblygu’n ddinasyddion byd-eang gwirioneddol.

[Chart]

Sgiliau ar gyfer datblygu cynaliadwy

[Column 1]

Gwnaeth DfES gryn dipyn i ymgorffori datblygu cynaliadwy yn y cwricwlwm

ysgol, ac mae ei Chynllun Gweithredu Datblygu Cynaliadwy yn ei rhwymo i

ymgorffori datblygu cynaliadwy ym mhob maes.

16 www.globalgateway.org.uk/

Mae DfES hefyd yn awyddus i sicrhau y bydd “Sgiliau Cynaliadwyedd” yn

gymhwysedd craidd ar gyfer graddedigion proffesiynol. Sefydlodd DfES, gyda’r

Forum for the Future a sefydliadau proffesiynol, y grðp Integreiddio

Cynaliadwyedd i godi proffil sgiliau cynaliadwyedd yn y cwricwla proffesiynol.

[Column 2]

Caiff datblygu cynaliadwy ei ymgorffori yng nghwricwlwm yr Ysgol Lywodraethu

Genedlaethol, mewn meysydd megis llunio polisi, arweiniad strategol, rheoli

rhaglenni a phrosiectau ac agweddau ymddygiadol ar faes rheoli datblygu.

Bydd hyn yn adeiladu ar y gweithdai presennol gydag uwch weision sifil ar ddatblygu

cynaliadwy a gynhelir gan y Ganolfan Astudiaethau Polisi a Rheoli.

[Column 3]

Bydd y Llywodraeth yn ceisio ychwanegu at y cyfleoedd dysgu ym maes datblygu

cynaliadwy sydd ar gael i bob ymarferydd cymunedol.

Bydd yn estyn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol i gynnwys Cymunedau

Cynaliadwy ac yn ymchwilio i’r posibilrwydd o ddatblygu uned achrededig

ychwanegol.

Bydd Community Action 2020 – Together We Can yn gwella sgiliau grwpiau

cymunedol ym maes datblygu cynaliadwy fel y byddant yn gallu cymryd rhan mewn

trafodaethau gyda Llywodraeth leol ac arweinwyr Partneriaethau Strategol Lleol.

[Column 1]

Yn ystod 2005 bydd y Llywodraeth yn sefydlu Academi Cymunedau Cynaliadwy

newydd a fydd yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cyfleoedd dysgu am faes

datblygu cynaliadwy ar gyfer Partneriaethau Strategol Lleol yn ogystal â

galwedigaethau craidd Syr John Egan fel y’u nodir yn ei adolygiad o sgiliau

cymunedau cynaliadwy.

[Column 2]

Lansiad gwefan newydd y Llywodraeth ar Gyfrifoldeb Cymdeithasol

Corfforaethol (CSR) yn nodi cefnogaeth y Llywodraeth i CSR, gyda chysylltiadau â

sefydliadau CSR eraill ac astudiaethau achos o arfer gorau.

Sefydlu Academi CSR i helpu i ddatblygu sgiliau yn y maes hwn.

Mae cymwyseddau datblygu cynaliadwy wedi’u hintegreiddio â phob un o’r prif

gyrff proffesiynol, gan gynnwys eu gofynion cofrestru a’u cymwysterau.

[Column 3]

Yn ystod 2005, bydd yr Asiantaeth Gwella a Datblygu (IDeA) yn cyflwyno modiwl

Cymunedau Cynaliadwy o fewn yr Academi Arweinyddiaeth i feithrin gallu

Arweinwyr a Phrif Weithredwyr awdurdodau lleol.

Caiff pecyn cymorth ar gyfer adolygiadau gan gymheiriaid ym maes cymunedau

cynaliadwy ei lansio hefyd.

Fel rhan o’r rhaglen Arweinwyr y Dyfodol ar gyfer rheolwyr canol awdurdodau

lleol, byddwn yn cyflwyno deunydd i godi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o

gyflawni cymunedau cynaliadwy.

Pennod 3

“Economi Un Blaned”:

Defnyddio a Chynhyrchu Cynaliadwy

Y ffeithiau

� Erbyn 2050, gallai’r galw byd-eang am ynni ddyblu wrth i boblogaethau gynyddu

a gwledydd sy’n datblygu ehangu eu heconomïau 1

� Ers 1950, mae treuliant dðr ledled y byd wedi treblu; o fewn 25 mlynedd, gallai

hanner poblogaeth y byd ei chael yn anodd i ddod o hyd i ddigon o ddðr i’w yfed

ac at ddibenion dyfrio 2

� Mae cost adnoddau naturiol a wastraffwyd i ddiwydiannau gweithgynhyrchu’r

DU yn cyfateb i tua 7% o’u helw 3 , a gallai gwelliannau effeithlonrwydd ynni gan

fusnesau ac unigolion arbed £12 biliwn bob blwyddyn ar draws economi’r DU 4

� Mae cynhyrchu, dosbarthu a bwyta bwyd yn y DU yn gyfrifol am tua 22% o’i

gollyngiadau nwyon tþ gwydr – mae ffynonellau pwysig eraill yn cynnwys offer

gwresogi, goleuo ac offer eraill yn y cartref, cludiant preifat a theithio drwy’r

awyr. 5

� Pennir mwy nag 80% o’r holl effeithiau amgylcheddol yn ymwneud â

chynhyrchion gan gynllun y cynnyrch 6

� Mae oergell-rewgistiau newydd a werthir yn y DU heddiw yn defnyddio ar

gyfartaledd 50% yn llai o ynni na’r rhai a werthwyd cwta 8 mlynedd yn ôl 7

Crynodeb

Mae ffyniant cynyddol, yn y DU a ledled y byd, wedi rhoi cyfle i lawer o bobl

fwynhau manteision nwyddau a gwasanaethau a arferai fod ar gael i’r ychydig rai

nifer fach o bobl yn unig. Serch hynny, mae ein patrymau defnyddio a chynhyrchu yn

dal i gael effaith drom ar yr amgylchedd, ac mae defnydd aneffeithlon o adnoddau yn

llesteirio economi a busnesau’r DU. Mae angen newid mawr i gyflwyno cynhyrchion

a gwasanaethau newydd sy’n cael llai o effaith ar yr amgylchedd yn ystod eu cylch

bywyd tra’n gwneud busnesau yn fwy cystadleuol. Ac mae angen i ni adeiladu ar

1

Sefydliad Ynni’r Byd yn www.worldenergy.org.wec-geis/edc/scenario.asp

2

Rhaglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig, 2003, Ffeithiau allweddol, yn

www.unep.org/wed/2003/keyfacts.htm

3

Cambridge Econometrics ac AEA Technology ar gyfer Asiantaeth yr Amgylchedd, ‘The benefits of

Greener Business’, yn www.environment-agency.gov.uk/business/

4

‘The Energy Review – performance and innovation report’, yn www.number-

10.gov.uk/su/energy/1.html

5

e2 Consulting, Bourne 2002 a’r Swyddfa Ystagedau Gwladol, 2004, ‘Achieving the UK’s climate

change commitments: the efficiency of the food cycle’.

6

Asiantaeth Amgylchedd Ffederal yr Almaen (gol), 2000, ‘Sut i wneud eco-gynlluniau: Canllaw ar

gynllunio sy’n gydweddol â’r amgylchedd ac yn synhwyrol o safbwynt yr economi’.

7

Rhaglen Trawsnewid Marchnadoedd yn www.mtprog.com

ymwybyddiaeth gynyddol pobl o faterion cymdeithasol ac amgylcheddol, ac o’u

pwysigrwydd fel dinasyddion a defnyddwyr.

[box]

Ymatebion i’r ymgynghoriad Ymlaen fo’r Nod

Gellir rhannu’r ymatebion i gwestiynau ar Ddefnyddio a Chynhyrchu Cynaliadwy

(SCP) ac ar gyfraniad byd busnes at ddatblygu cynaliadwy yn ddau gategori bras, sef

(i) gwell addysg ac ymwybyddiaeth a (ii) y defnydd o ‘gwobrwyo a chosbi’ ar gyfer

byd busnes a defnyddwyr.

Er enghraifft, cafwyd galwadau am: gwell gwybodaeth a labeli ar gyfer defnyddwyr;

defnyddio cymhellion/anghymelliadau ariannol; gwell rheoleiddio; rhagor o

adroddiadau amgylcheddol; mynd i’r afael â materion yn ymwneud â chynhyrchion,

gwasanaethau a defnyddio yn ogystal â chynhyrchu; arweiniad gan y Llywodraeth (yn

arbennig o ran ei phrosesau caffael); nodi blaenoriaethau clir er mwyn i fyd busnes

fynd i’r afael â hwy.

Hefyd tynnodd ymatebion sylw at feysydd defnyddio allweddol y credid eu bod yn

flaenoriaeth: ynni a thanwydd; trafnidiaeth/seilwaith; bwyd; gwastraff a phecynnau; y

defnydd o adnoddau; a hedfan.

1. Y weledigaeth a’r her: “Economi un blaned”

Mae defnyddio a chynhyrchu cynaliadwy yn ei gwneud yn ofynnol i ni gyflawni mwy

gan ddefnyddio llai. Ni ellid copïo’r patrymau defnyddio a chynhyrchu a welir ar hyn

o bryd mewn gwledydd datblygedig ledled y byd: mae rhai cyfrifiadau yn awgrymu y

byddai angen gwerth tair planed o adnoddau 8 .

Daw’r pwysau mwyaf ar amgylchedd y byd, a’r rhai sy’n tyfu gyflymaf, o feysydd

megis ynni cartref a threuliant dðr, bwyd, teithio a thwristiaeth. Canolbwyntiodd

polisi amgylcheddol y gorffennol yn bennaf ar lygredd yn deillio o weithgareddau

cynhyrchu domestig. Erbyn hyn mae angen ymagwedd ehangach a mwy datblygedig

arnom sy’n canolbwyntio ar draws holl gylch bywyd nwyddau, gwasanaethau a

deunyddiau, ac sydd hefyd yn cynnwys effeithiau economaidd a chymdeithasol, ac yn

arbennig sy’n cwmpasu effeithiau y tu allan i’r DU. Ni fyddai lleihau effeithiau

amgylcheddol o fewn y DU fawr o werth pe na bai hynny ond yn symud yr effeithiau

hynny dramor, neu’n rhwystro manteision gartref neu dramor.

Adlewyrchodd y bennod ar ddatblygu cynaliadwy yn Strategaeth 1999 yr ymagwedd

hon. Ers hynny, gosododd Uwchgynhadledd y Byd ar Ddatblygu Cynaliadwy

(WSSD) ymrwymiadau byd-eang newydd ar ddefnyddio a chynhyrchu cynaliadwy.

Mewn ymateb i hyn cyhoeddodd y Llywodraeth ei fframwaith ei hun ar ddefnyddio a

chynhyrchu cynaliadwy, ‘Changing Patterns’ 9 . Mae’r strategaeth bellach yn nodi sut

yr ydym yn datblygu hyn, drwy fesurau i hyrwyddo:

8 Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF), 2004, ‘Living Planet Report’ yn

www.panda.org/news_facts/publications/general/livingplanet/index.cfm

9 Defra, 2003, ‘Changing Patterns:’ ‘UK Government Framework for Sustainable Consumption and

Production’ yn www.defra.gov.uk/environment/business/scp/index.htm

� gwell cynhyrchion a gwasanaethau, sy’n lleihau’r effeithiau amgylcheddol yn

deillio o ddefnyddio ynni, adnoddau, neu sylweddau peryglus

� prosesau cynhyrchu glanach, mwy effeithlon, sy’n atgyfnerthu cystadleurwydd

� newidiadau mewn patrymau defnyddio tuag at nwyddau a gwasanaethau sy’n cael

llai o effaith.

� Bydd y Llywodraeth yn parhau i ddatblygu ei pholisïau ar ddefnyddio a

chynhyrchu cynaliadwy, a bydd yn llunio, erbyn diwedd 2006, adroddiad ar

gynnydd ynghyd â chynllun gweithredu wedi’i ddiweddaru yn y maes hwn

Er mwyn sicrhau llwyddiant bydd angen mynd i’r afael â ffactorau cymhleth sy’n

effeithio ar batrymau defnyddio a chynhyrchu. Mae dyheadau a dewisiadau pobl yn

deillio o werthoedd cymdeithasol a diwylliannol. Mae gweithgynhyrchwyr a

manwerthwyr yn cael dylanwad mawr ar ddefnyddwyr a chadwyni cyflenwi. Pennir

gweithredoedd unigol yn aml gan y seilwaith lleol, megis tai neu gysylltiadau

trafnidiaeth. Er mwyn sicrhau newid bydd angen arloesi o ran technolegau ac

ymddygiadau. Mae’r Llywodraeth a byd busnes yn gyfrifol am alluogi defnyddwyr i

wneud dewisiadau cynaliadwy.

[box]

Arloesi ar gyfer dyfodol cynaliadwy

Nododd adolygiad arloesi’r Llywodraeth yn 2003 fod yr amgylchedd yn ffactor

ysgogi pwysig ar gyfer arloesi yn y dyfodol. Mae angen datblygu gwell cynhyrchion a

gwasanaethau sy’n cael llai o effeithiau. Bydd rhai yn nwyddau ac yn wasanaethau

amgylcheddol penodol, megis technolegau i leihau llygrwyr i’r eithaf neu hyrwyddo

effeithlonrwydd adnoddau, neu ffynonellau ynni adnewyddadwy. Mae gan y rhain

farchnad fyd-eang gwerth dros $500 biliwn eisoes, ond mae’r cyfle i arloesi yn

ymestyn llawer ymhellach. Er enghraifft, bydd deunyddiau newydd, technolegau ynni

a gwaith cynllunio cynhyrchion i leihau gwastraff i’r eithaf i gyd yn bwysig yn y

dyfodol. Gall polisi amgylcheddol a luniwyd yn dda, yn cynnwys targedau hirdymor,

pendant, hyrwyddo arloesedd a chyfleoedd busnes.

Bydd mesurau i symbylu’r arloesedd hwn yn cynnwys:

� integreiddio datblygu cynaliadwy â strategaeth technoleg yr Adran Masnach a

Diwydiant (DTI) drwyddi draw, gyda chyllid o £150 miliwn dros y 3 blynedd

nesaf ar gyfer technolegau sy’n hanfodol bwysig i ddyfodol economi’r DU. Er

enghraifft, hyd at £2 filiwn o gymorth ariannol ar gyfer Rhwydwaith Trosglwyddo

Gwybodaeth am Effeithlonrwydd Adnoddau a Gwastraff yn cynnig porth i’r DU

ar gyfer gwybodaeth ac arbenigedd a chanolbwynt i alluogi byd busnes, y

llywodraeth a’r byd academaidd i ddod at ei gilydd i roi atebion integredig

� chwarae rhan flaenllaw yng nghynllun gweithredu technolegau amgylcheddol yr

UE

� defnyddio prosesau caffael cyhoeddus i adeiladu marchnadoedd ar gyfer

cynhyrchion a gwasanaethau newydd

� chwilio’r gorwelion i nodi tueddiadau a dangosyddion o ran datblygiadau arloesol.

Lansiodd yr adolygiad hefyd gyfres o brosiectau peilot ar reoleiddio ac arloesi

amgylcheddol. Dengys y rhain y gall rheoliadau a luniwyd yn dda, yn seiliedig ar

amcanion amgylcheddol hirdymor, hyrwyddo arloesedd a chyfleoedd busnes.

Defnyddir y canlyniadau hyn mewn canllaw ar gyfer llunwyr polisi ar ‘Think

Innovation’, a bydd y Llywodraeth hefyd yn cynnal gweithdy ar gyfer y

llywodraeth/byd busnes yn ddiweddarach eleni ar bolisi rheoleiddio amgylcheddol a’i

gysylltiadau ag arloesedd.

Gweledigaeth ryngwladol

Mae ein gweledigaeth yn dibynnu ar barodrwydd gwledydd eraill i gydweithredu.

Mae twf economaidd mewn gwledydd datblygedig a gwledydd sy’n datblygu yn

llywio masnachu mewn nwyddau a gwasanaethau ar draws y byd mewn cadwyni

cyflenwi cymhleth sy’n newid yn gyflym. Er enghraifft, yn ystod cylch bywyd oergell

neu gyfrifiadur, gall y prosesau o gloddio, gweithgynhyrchu, defnyddio a gwaredu

deunyddiau crai i gyd ddigwydd mewn gwahanol wledydd. Felly ni all y Llywodraeth

lunio polisi cenedlaethol ar ei phen ei hun. Eto i gyd mae camau gweithredu

rhyngwladol yn cyffwrdd â llawer o gwestiynau anodd am feysydd datblygu,

masnachu, yr amgylchedd ac anghydraddoldebau byd-eang.

Felly bydd y Llywodraeth yn pwyso am atgyfnerthu:

� ymdrechion yr Undeb Ewropeaidd (UE), drwy sicrhau bod defnyddio a

chynhyrchu cynaliadwy yn elfen ganolog o strategaeth datblygu cynaliadwy

newydd yr UE, a thrwy strategaeth thematig newydd ar adnoddau naturiol wedi’i

chysylltu â chamau gweithredu mewn meysydd allweddol megis cynhyrchion,

technolegau amgylcheddol, nwyddau a phrosesau caffael cyhoeddus.

� canlyniadau o ‘Broses Marrakech’ y Cenhedloedd Unedig 10 , a sefydlwyd i

weithredu ar ymrwymiad Uwchgynhadledd y Byd ar Ddatblygu

Cynaliadwy 11 (WSSD) ar ddefnyddio a chynhyrchu cynaliadwy. Mae’r DU yn

cydlynu â Rhaglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig (UNEP) a phartneriaid

rhyngwladol i sefydlu tasglu technegol i hyrwyddo cydweithredu a gwelliannau

mewn cynhyrchion cynaliadwy

� cydweithredu o fewn y G8, drwy adeiladu ar ei fenter ‘3Rs’ (sef lleihau,

ailddefnyddio, ac ailgylchu), a gynhelir gan lywodraeth Japan ym mis Ebrill 2005

� partneriaethau gyda’r prif wledydd sy’n datblygu.

10 Gweler www.un.org/esa/sustdev/sdissues/consumption/marratech.htm

11 Gweler www.un.org/events/wssd/

Dylai’r ymdrechion hyn arwain at greu rhaglen bendant i’r UE ar gyfer defnyddio a

chynhyrchu cynaliadwy, a datblygiad fframwaith rhyngwladol o raglenni y gellir

cytuno arnynt yn y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy yn 2011 – CSD19. Mae’r rhain

yn hanfodol i gyflawni ymrwymiad Uwchgynhadledd y Byd ar ddefnyddio a

chynhyrchu cynaliadwy ledled y byd.

Ategir cynnydd tuag at gyflawni nodau rhyngwladol gan bolisïau mewn meysydd

megis masnach, amaethyddiaeth, yr amgylchedd a thechnoleg. Un o amcanion

Sefydliad Masnach y Byd 12 (WTO) yw hyrwyddo datblygu cynaliadwy ac mae

Agenda Datblygu Doha 13 yn galw am i’r broses o lacio rheolau masnachu, diogelu’r

amgylchedd a datblygu cynaliadwy fod yn gydategol.

Bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda’r UE drwy Sefydliad Masnach y Byd i:

� leihau cymorthdaliadau i’r sectorau amaethyddiaeth a physgota sy’n

anghynaliadwy ac sy’n niweidio’r amgylchedd yng Nghylch Doha

� hyrwyddo natur gydategol y broses o lacio rheolau masnachu, diogelu’r

amgylchedd a datblygu cynaliadwy, er enghraifft drwy atgyfnerthu’r cysylltiadau

rhwng Sefydliad Masnach y Byd a’r Cytundebau Amgylcheddol Amlochrog

hynny sy’n cynnwys darpariaethau masnachu

� llacio rheolau masnachu mewn nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol.

[picture caption]

Plant yn casglu gwastraff oddi ar wyneb afon lygredig ym Mae Manila, Pilipinas

Ffynhonnell: Hartmut Schwarzbach/Unep/Still Pictures

Mae’r Papur Gwyn ar Fasnachu a Buddsoddi 14 yn ymdrin yn fwy cynhwysfawr â sut

y gallwn harneisio grym globaleiddio, nid yn unig yn y DU ond ym mhob gwlad, yn

arbennig yn y byd sy’n datblygu.

Gweledigaeth fusnes

Yn achos busnesau, mae defnyddio a chynhyrchu cynaliadwy yn ei gwneud yn

ofynnol iddynt ystyried y goblygiadau i’w model busnes ynghyd â’u cynnyrch a’r

ystod o wasanaethau a ddarperir ganddynt. Bydd eu llwyddiant yn dibynnu ar eu gallu

i fodloni disgwyliadau cynyddol defnyddwyr (cartref a chadwyn gyflenwi) o ran

safonau amgylcheddol a moesegol uwch a dileu’r effeithiau negyddol yn gysylltiedig

â’r defnydd cynyddol o adnoddau crai. Bydd busnesau sy’n rhagweld y duedd hon ac

yn datblygu nwyddau a gwasanaethau nad ydynt yn defnyddio llawer o ddeunyddiau

yn y sefyllfa orau i fanteisio ar y cyfleoedd hyn a mynd yn fwy cystadleuol.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ymagwedd busnesau tuag at gyfrifoldeb

corfforaethol ymestyn drwy eu cadwyni cyflenwi o’r naill ben i’r llall, o fynd i’r afael

12 Gweler www.wto.org/

13 Gweler www.wto.org/english/tratop_e/dda_e/dda_e.htm

14 DTI, 2004. ‘Trade and Investment White Papur 2004’ yn www.dti.gov.uk/ewt/whitepaper.htm

â’r materion sy’n codi wrth echdynnu eu deunyddiau crai, i gysylltu â defnyddwyr

ynghylch y cynhyrchion a’r gwasanaethau y maent yn eu prynu ac yn cael gwared â

hwy yn y pen draw. Ond nid yw dibynnu ar ddefnyddwyr i wneud penderfyniadau a

allai fod yn gymhleth hanner ddigon ynddo’i hun. Felly mae gan y Llywodraeth ran

allweddol i’w chwarae wrth ddatblygu’r achos busnes ar gyfer defnyddio a

chynhyrchu cynaliadwy – er enghraifft drwy safonau, cymhellion ariannol,

rheoleiddio, cytundebau gwirfoddol, rhaglenni cymorth i fusnesau, cyfathrebu a

pholisi defnyddwyr. Nodwn isod sut y bydd y Llywodraeth yn gweithredu ar y rhain,

a sut y bydd yn gweithio’n agos gyda byd busnes wrth wneud hynny.

Ar ben hynny, rydym am ddwyn ynghyd rwydwaith o arbenigedd busnes sydd wedi

ymrwymo i weithio gyda’r Llywodraeth i’n helpu i wneud cynnydd ar heriau o ran

defnyddio a chynhyrchu gyda’n gilydd.

� Bydd y Llywodraeth yn cynnull Tasglu Busnes Defnyddio a Chynhyrchu

Cynaliadwy newydd, y darperir adnoddau ar ei gyfer i ddatblygu syniadau

ar gyfer camau gweithredu ymarferol ar agweddau allweddol ar ddefnyddio

a chynhyrchu cynaliadwy

Bydd y Tasglu hwn yn fodd pwysig i adeiladu ar waith gwerthfawr y Pwyllgor

Cynghori ar Fusnes a’r Amylchedd 15 a’r Pwyllgor Cynghori ar Gynhyrchion

Defnyddwyr a’r Amgylchedd 16 , a bydd yn ategu gwaith y Ford Gron ar Ddefnyddio

Cynaliadwy.

2. Cynhyrchion Cynaliadwy – datrys problemau wrth iddynt godi

Rydym yn disgrifio ym Mhennod 2 yr her o ddarbwyllo pobl i ystyried gwneud

dewisiadau mwy cynaliadwy. Ond cyfyd her yr un mor fawr yn y ffaith bod llawer o

effeithiau osgoadwy’r pethau yr ydym yn eu prynu eisoes ‘wedi’u cynllunio i mewn’,

ymhell cyn i ni ddechrau eu defnyddio.

Felly bydd y Llywodraeth yn rhoi llawer mwy o flaenoriaeth i ymagwedd

gydlynol tuag at ‘bolisi cynnyrch’ drwy ddatblygu a chyhoeddi, erbyn diwedd

2006, set o fesurau ar gyfer datblygu polisi cynnyrch integredig, er mwyn:

� lleihau effeithiau amgylcheddol cynhyrchion pob dydd yn ystod eu cylch

bywyd

� gwella mesurau i gau’r bwlch o ran y modd yr ydym yn defnyddio adnoddau

(e.e. drwy ailgylchu, ailddefnyddio neu ail-weithgynhyrchu)

� hyrwyddo atebion cynllunio newydd mwy radical, sydd o fudd i’r

amgylchedd a’r economi

� datblygu’r wybodaeth a’r adnoddau sydd eu hangen i lywio gwelliannau ym

marchnadoedd cynhyrchion.

15 Gweler www.defra.gov.uk/environment/acbe/default.htm

16 Gweler www.defra.gov.uk/environment/consumerprod/accpe/index.htm

Gwella perfformiad cynhyrchion

Mae’r Llywodraeth yn ehangu ei Rhaglen Trawsnewid Marchnadoedd ar gyfer

cynhyrchion cynaliadwy, gan ddarparu mwy o adnoddau ar ei chyfer ac ymestyn ei

chwmpas y tu hwnt i’r ffocws presennol ar effeithiau ynni a dðr i faterion cylch

bywyd ehangach cynhyrchion allweddol, gan gynnwys cemegau, y defnydd o

adnoddau a gwastraff.

Bydd hyn yn helpu i wella perfformiad wrth ddefnyddio offerynnau polisi fel

manylebau caffael cyhoeddus, safonau gofynnol a gwybodaeth sydd ar gael i’r

cyhoedd am berfformiad amgylcheddol gwahanol gynhyrchion. Bydd hefyd yn helpu

i ymgorffori’r ‘asesiad o effaith amgylcheddol’ cynhyrchion fel un o nodweddion

arfer busnes da.

[picture caption]

‘Thermafleece’: Second Nature UK Ltd - enillwyr Gwobr Menter y Frenhines 2004 yn

y categori datblygu cynaliadwy, am ei gynnyrch insiwleiddio arloesol

Ffynhonnell: Second Nature UK Ltd

[box]

Codi safonau cynhyrchion

Mewn marchnad fyd-eang anaml y mae’n ymarferol pennu safonau unochrog ar gyfer

nwyddau a fasnachir. Yn y mwyafrif o achosion mae’n rhaid i ni osod safonau

gofynnol, p’un ai drwy ddeddfu, drwy gytundebau a wneir gyda diwydiant neu drwy

drafodaethau ar lefel yr UE.

Mae rhai llwyddiannau y gallwn adeiladu arnynt. Bu safonau gorfodol i gael gwared â

boeleri a rhewgelloedd aneffeithlon o’r farchnad yn effeithiol iawn (mae hyd yn oed

yr oergell-rewgist newydd leiaf effeithlon sydd ar werth heddiw yn defnyddio dim

ond hanner cymaint o ynni â’r cynhyrchion lleiaf effeithlon ar y farchnad wyth

mlynedd yn ôl). Bydd y gyfarwyddeb fframwaith arfaethedig ar gyfer Eco-gynllunio

Cynhyrchion sy’n Defnyddio Ynni (y Gyfarwyddeb EUP) yn gyfle i osod safonau

newydd ar gyfer unrhyw gynnyrch nad yw’n ymwneud â thrafnidiaeth sy’n defnyddio

ynni. Gallai mesurau o’r fath arbed tua 10 y cant o’r holl ynni a ddefnyddir yn yr UE

erbyn 2020. Bydd y Llywodraeth yn ceisio sicrhau y cytunir ar y Gyfarwyddeb hon

yn ddi-oed, a bydd yn ystyried a ddylid cymhwyso’r ymagwedd hon at grwpiau o

gynhyrchion nad ydynt yn defnyddio ynni.

Ochr yn ochr â hynny, negodwyd cytundebau gwirfoddol gyda diwydiant i’r UE

cyfan i wella perfformiad ynni gwasanaethau teledu digidol, unedau cyflenwi trydan,

setiau teledu a chwaraewyr DVD; ac i gael gwared â pheiriannau golchi a pheiriannau

golchi llestri domestig aneffeithlon o’r farchnad. Rydym yn amcangyfrif bod y

cytundeb ar wasanaethau teledu digidol ynddo’i hun wedi galluogi’r DU i atal

gollyngiadau carbon ychwanegol o tua 400000 o dunelli y flwyddyn.

Cynllunio arloesol ar gyfer yr amgylchedd

Mae gwell eco-gynllunio yn hanfodol er mwyn i ni gyflymu’r broses o wella

perfformiad cynhyrchion a symbylu newid sylweddol gwirioneddol. Gall y

Llywodraeth gynorthwyo’r broses hon, yn gyntaf, drwy sicrhau bod fframweithiau

perthnasol yn hyrwyddo gwaith cynllunio gwell – er enghraifft, defnyddir prosesau

caffael cyhoeddus ac offerynnau economaidd mewn ffyrdd sy’n gwobrwyo yn hytrach

na rhwystro arloesedd wrth lunio atebion sy’n cael llai o effaith. Yn ail, bydd y

Llywodraeth yn hyrwyddo eco-gynllunio fel un o elfennau prif ffrwd arfer cynllunio

da.

� Mae’r Llywodraeth yn bwriadu dwyn ynghyd arbenigedd drwy Fforwm

newydd ar Gynllunio Cynaliadwy i hyrwyddo eco-gynllunio ac addysgu pobl

amdano, a hyrwyddo dulliau gweithredu arfer gorau y gall cynllunwyr eu

mabwysiadu

[box]

Lleihau effeithiau cemegau i’r eithaf

[picture caption]

Ffynhonnell: Martin Bond/Still Pictures

Mae cemegau o waith dyn i’w cael mewn llwythi o gynhyrchion pob dydd. Defnyddir

rhyw 30,000 o fathau o gemegau mewn meintiau sylweddol, ond dim ond ychydig

gannoedd a ddeallwn yn dda. Yr her y cytunwyd arni gan y Llywodraeth yn WSSD

oedd lleihau’r effeithiau a gaiff cemegau ar iechyd a’r amgylchedd i’r eithaf, a helpu

gwledydd sy’n datblygu i reoli cemegau a gwastraff peryglus.

Caiff ein gallu i fynd i’r afael â’r her hon ei atgyfnerthu gan strategaeth newydd yr UE

ar gemegau, a elwir yn REACH. Byddwn yn parhau i weithio’n galed i sicrhau bod

REACH yn effeithiol ac yn ymarferol, fel y bydd yn sicrhau dealltwriaeth lawer gwell

o reoli, o gemegau yn yr amgylchedd ac o’u heffeithiau ar iechyd pobl.

Bydd angen rhagor o fesurau yn fyd-eang hefyd. Byddwn yn pwyso am i gytundeb ar

Ymagwedd Strategol tuag at Reoli Cemegau yn Rhyngwladol (SAICM) sydd ar y

gweill gael ei fabwysiadu’n fuan yn rhyngwladol.

Bydd y Llywodraeth hefyd yn gweithio gyda’r diwydiant cemegau i asesu

nodweddion peryglus cemegau a lleihau’r risg o andwyo’r amgylchedd lle y bo’n

briodol. Lle dangosir bod gan gemegau nodweddion parhaol, biogynyddol a

gwenwynig, bydd y Llywodraeth yn annog cynhyrchwyr a defnyddwyr i ddefnyddio

cemegau â nodweddion llai peryglus yn eu lle neu i ddod o hyd i brosesau eraill i

fodloni’r un gofyniad.

Meithrin y gallu a’r fframweithiau ar gyfer gweithredu ar gynhyrchion

Cynigiodd Pwyllgor Cynghori’r Llywodraeth ar Gynhyrchion Traul a’r Amgylchedd

(ACCPE) syniadau ar gyfer ddwyn ynghyd linynnau o wybodaeth am gynhyrchion ac

offerynnau polisi sydd wedi’u gwasgaru ar hyn o bryd ar draws nifer o adrannau,

asiantaethau a sefydliadau. Awgrymodd y dylid sefydlu asiantaeth cynhyrchion

newydd, a fyddai’n hyrwyddo cynaliadwyedd cynhyrchion, gan gynnwys cynnal

cronfa wybodaeth am effeithiau amgylcheddol cynhyrchion, a helpu manwerthwyr i

asesu effeithiau amgylcheddol eu cynhyrchion.

� Bydd y Llywodraeth yn ymgynghori ynghylch syniadau ACCPE yn

ddiweddarach yn 2005

Mae casglu gwybodaeth am effeithiau cynhyrchion yn hanfodol i redeg gwasanaeth

‘Environment Direct’ a ddisgrifir yn adran 4. Ar yr un pryd, ar lefel yr UE, bydd y

Llywodraeth yn pwyso am raglen fwy uchelgeisiol o dan fframwaith Polisi Cynnyrch

Integredig ac am ddulliau gweithredu sydd wedi’u targedu’n well megis y

Gyfarwyddeb Fframwaith Eco-gynllunio ddrafft. Yn rhyngwladol, bydd y

Llywodraeth yn parhau i weithio gyda llywodraethau mewn blociau masnachu pwysig

(megis Tsieina ac UDA) ar flaenoriaethau cyffredin ar gyfer cydweithredu ar safonau

cynhyrchion a chynllunio cynhyrchion. Byddwn hefyd yn gweithio o fewn

strwythurau’r Cenhedloedd Unedig i godi proffil safonau cynhyrchion a symbylu

mwy o gydweithredu.

3. Cynhyrchu Cynaliadwy – mwy o effeithlonrwydd a gwerth gan

ddefnyddio llai o adnoddau a chan greu llai o lygredd a gwastraff

Targedwyd prosesau cynhyrchu gan ddeddfwriaeth amgylcheddol ers amser maith, ac

yn fwy diweddar blaenoriaethwyd mesurau i fynd i’r afael ag effeithiau megis

gollyngiadau carbon a gwastraff. Oherwydd newidiadau yn yr economi mae angen i

ni fynd i’r afael â diwydiannu gwasanaeth hefyd yn ogystal â diwydiannau

gweithgynhyrchu traddodiadol.

Rhoddodd y Llywodraeth fesurau cryf ar waith i lywio cynhyrchu mwy cynaliadwy

yn y DU:

� sy’n hyrwyddo effeithlonrwydd ynni drwy’r ardoll newid yn yr hinsawdd a

chytundebau, a chynlluniau cyfnewid gollyngiadau

� sy’n hyrwyddo lleihau gwastraff i’r eithaf ac ailgylchu drwy’r dreth tirlenwi a’r

ardoll agregau

� gwaith atal a rheoli llygredd integredig mewn llawer o sectorau i wella’r modd y

rheolir gwastraff a gollyngiadau i’r awyr, y tir a gwastraff

� help a chefnogaeth i fyd busnes gan yr Ymddiriedolaeth Garbon, rhaglen

Envirowise ac Asiantaeth yr Amgylchedd.

Fodd bynnag, mae angen gwneud mwy er mwyn prif ffrydio cynhyrchu cynaliadwy

mewn arfer busnes. Er enghraifft, mae angen i ni ddeall yn well pam na fydd byd

busnes bob amser yn manteisio ar gyfleoedd ar gyfer effeithlonrwydd adnoddau nac

yn ymateb i bwysau amgylcheddol. Mae angen i ni hyrwyddo ailgynllunio prosesau,

gweithgynhyrchu diwastraff a ffyrdd o ddefnyddio gwastraff o un busnes fel adnodd

ar gyfer busnes arall, ac integreiddio datblygu cynaliadwy â phob rhaglen cynorthwyo

busnesau. Ac mae angen i ni ddefnyddio rheoleiddio ac offerynnau economaidd yn

ddeallus er mwyn hyrwyddo busnesau glanach, mwy cystadleuol.

Bydd ymagwedd y Llywodraeth yn seiliedig ar y meysydd allweddol canlynol:

Effeithlonrwydd adnoddau penodol

O fis Ebrill 2005, bydd derbyniadau o’r dreth tirlenwi yn ariannu’r Rhaglen

Effeithlonrwydd Adnoddau a Gwastraff Busnes newydd. Yn ystod y tair blynedd

nesaf, caiff cyllid o £284 miliwn ei dargedu i gynorthwyo byd busnes drwy:

� rhagor o gymorth gan Envirowise a’r Ymddiriedolaeth Garbon, ac ar gyfer

busnesau gwyrdd a chlybiau i leihau gwastraff i’r eithaf

� y Rhaglen Gweithredu ar Wastraff ac Adnoddau (WRAP), i ddatblygu

marchnadoedd newydd ar gyfer gwastraff busnes ‘anodd’, a thrwy’r Rhaglen

Symbiosis Diwydiannol Genedlaethol i alluogi gwastraff o un busnes i gael ei

ddefnyddio fel mewnbwn ar gyfer busnes arall

� cronfa technoleg yr Adran Masnach a Diwydiant (DTI), i gynorthwyo gwaith

ymchwil a datblygu sy’n ceisio lleihau gwastraff i’r eithaf a’i reoli, ac

effeithlonrwydd ynni

� y Rhaglen Trawsnewid Marchnadoedd, i hyrwyddo cynhyrchion sy’n creu llai o

wastraff

� Asiantaethau Datblygu Rhanbarthol, i gydlynu gweithredu’n lleol a chyflawni

prosiectau effeithlonrwydd adnoddau strategol

� Asiantaeth yr Amgylchedd, i fynd i’r afael â thipio sbwriel a sicrhau bod busnesau

yn cael chwarae teg.

[picture caption]

Cyfleusterau ailgylchu deunyddiau, y DU

Integreiddio gyda chymorth ehangach i fusnesau

Nid rhywbeth opsiynol mo cynhyrchu cynaliadwy, mae’n rhan hanfodol o fyd busnes.

� Felly bydd y Llywodraeth yn ei integreiddio’n fwy cadarn â phecyn

cyffredinol yr Adran Masnach a Diwydiant o gymorth i fusnesau ac arloesi:

er enghraifft, drwy gynorthwyo gwaith ymchwil a datblygu ac arfer busnes

gorau, a thrwy dimau ymchwil a datblygu arloesi a thwf yr Adran Masnach a

Diwydiant mewn meysydd allweddol megis deunyddiau

Cau’r bwlch o ran adnoddau

Mae ailddefnyddio, ailweithgynhyrchu ac ailgylchu cynhyrchion yn cynnig llawer o

gyfleoedd masnachol, yn ogystal â manteision amgylcheddol. Bydd y Llywodraeth yn

ffafrio polisïau sy’n hybu’r mathau hyn o farchnad, lle bynnag y mae hyn yn

synhwyrol o safbwynt busnes a’r amgylchedd. Er enghraifft, mae adnoddau

ychwanegol yn cael eu darparu ar gyfer mentrau megis WRAP a’r Rhaglen Symbiosis

Diwydiannol Genedlaethol o dan y rhaglen Effeithlonrwydd Adnoddau a Gwastraff

Busnes fel rhan o’r ymgyrch ehangach i gynyddu effeithlonrwydd adnoddau.

Gwell Rheoleiddio

Lansiodd y Llywodraeth, gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a rhanddeiliaid eraill,

raglen yn ddiweddar i foderneiddio trwyddedu amgylcheddol. Rydym yn anelu at

systemau symlach sy’n sicrhau gwell amgylchedd ac effeithlonrwydd economaidd ar

gyfer busnesau a rheolyddion. Bydd y Llywodraeth yn sicrhau lle bynnag y bo modd

y caiff gofynion eu cyflwyno yn raddol i gyd-fynd â chylchoedd bywyd cynhyrchion

er mwyn rhoi’r cyfle gorau posibl i arloesi i ateb heriau newydd a bodloni rheoliadau

amgylcheddol newydd.

Cyflwynwyd NetRegs 17 gan Asiantaeth yr Amgylchedd hefyd i helpu busnesau’r DU,

yn arbennig busnesau bach, i ddeall rheoliadau amgylcheddol. Mae hefyd yn rhoi

arweiniad ymarferol ar sut i gydymffurfio â’r gyfraith amgylcheddol yn ogystal â

chyngor ar arferion da.

4. Defnyddio Cynaliadwy

Mae potensial enfawr i gael gwell cynhyrchion a gwell prosesau cynhyrchu i sicrhau

gwelliannau heb yr angen am newid ymddygiad defnyddwyr eu hunain. Ond bydd

angen i dreuliant cartrefi, busnesau a’r sector cyhoeddus fod yn fwy effeithlon ac yn

wahanol hefyd, fel na fydd effeithiau amgylcheddol cynyddol nac anghyfiawnder

cymdeithasol yn codi ochr yn ochr â threuliant yn deillio o incymau cynyddol. Mae’r

her yn un fawr. Ond mae’r cyfleoedd i arloesi i adeiladu marchnadoedd, cynhyrchion

a gwasanaethau newydd yn rhai mawr hefyd.

Erys llawer o’n patrymau defnyddio presennol, a modelau busnes sy’n seiliedig

arnynt, yn anghynaliadwy yn y tymor hwy o dan dechnolegau a phatrymau cyflenwi

cyfredol. Gall fod yn gymharol gyfforddus siarad am ddefnyddio cynaliadwy o ran

ymddygiadau bach megis diffodd goleuadau diangen neu ailgylchu poteli. Ond mae

ein harferion defnyddio ar raddfa fwy yn codi problemau anos. Er enghraifft, ni allai’r

byd cyfan gynnal patrymau defnyddio yn debyg i’r rhai a welir yng Ngorllewin

Ewrop o ran teithio mewn awyrennau a cheir, treuliant dðr, neu ddeiet.

Mae angen i ni ddeall mwy am y dylanwadau cymdeithasol a diwylliannol sy’n llywio

ein dewisiadau, ein harferion a’n heffeithiau o ran treuliant. Er enghraifft, mae lefelau

cynyddol o ordewdra yn tynnu sylw at y rhyngweithio cymhleth rhwng pwysau

cymdeithasol a diwylliannol a sut y mae’r pwysau hynny, ynghyd â ffactorau eraill

megis incwm, yn pennu patrymau treuliant bwyd teuluoedd ac unigolion. Rhan o’r her

yw dysgu beth sydd wrth wraidd yr amrywiadau hyn. O bersbectif iechyd y cyhoedd

mae angen i ni fynd i’r afael â phroblem bwyta gormod o fwyd ‘afiach’ wrth i ni fynd

i’r afael ag achosion anghydraddoldebau mewn perthynas â bwyd. Ac mae angen i ni

fynd i’r afael â sut y mae patrymau defnyddio yn ymwneud ag effeithiau

amgylcheddol drwy gydol cylch bywyd cynhyrchion bwyd.

17 Gweler www.netregs.org

Mae cynllun gweithredu cyfredol y Llywodraeth yn seiliedig ar nifer o ffrydiau

pwysig o waith. Mae’r rhain yn cynnwys:

� datblygu sail tystiolaeth o amgylch yr effeithiau amgylcheddol yn deillio o gartrefi

a sut y gellir dylanwadu ar batrymau defnyddio (gweler hefyd Pennod 2)

� gweithio ar wasanaeth gwybodaeth newydd – ‘Environment Direct’ – a fydd yn

cynnig cyngor i’r cyhoedd ar effeithiau gwahanol nwyddau a gwasanaethau ac ar

sut i wneud y dewisiadau mwyaf cynaliadwy o ran treuliant. Bydd yn llenwi

bwlch gwybodaeth ar gyfer defnyddwyr unigol a gweithwyr proffesiynol ym maes

caffael, a chyflwyno’r gadwyn gyflenwi gyfan i wybodaeth am berfformiad

nwyddau a gwasanaethau. Byddwn yn ymgynghori ynghylch sut i weithredu ar

hyn, ac os ceir cytundeb cyffredinol rydym yn gobeithio rhoi gwasanaeth ar waith

yn 2006.

� drwy Gronfa Gweithredu Amgylcheddol â ffocws newydd, mae’r Llywodraeth yn

helpu mudiadau gwirfoddol gyda phrosiectau yn y gymuned sy’n dylanwadu ar

ymddygiad ac a fydd yn sicrhau canlyniadau o ran defnyddio cynaliadwy.

Byddwn yn ceisio defnyddio gwersi o’r prosiectau hyn i wella gweithgareddau

partneriaeth o’r fath sy’n llwyddo i newid patrymau defnyddio ac ehangu arnynt.

Mae hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth drwy raglen Community Action 2020 –

Together We Can, sef gyda’n gilydd gallwn newid patrymau defnyddio o ran

bwyd, trafnidiaeth a materion eraill

� cyflwyno fforwm trafod ar raddfa fawr i edrych ar farn y cyhoedd am ddefnyddio

cynaliadwy a ffyrdd cynaliadwy o fyw (gweler Pennod 2)

� y Ford Gron newydd ar Ddefnyddio Cynaliadwy, a arweinir ar y cyd gan y

Comisiwn Datblygu Cynaliadwy a’r Cyngor Defnyddwyr Cenedlaethol, sy’n

datblygu consensws am weledigaeth gyffredin o sut y gallem geisio symud

patrymau defnyddio yn y DU ac i ble, ac o’r goblygiadau i’r model busnes

traddodiadol. Disgwylir i’r Ford Gron gyflwyno adroddiad ym mis Mawrth 2006;

yn dilyn ei hargymhellion bydd y Llywodraeth yn amlinellu cynllun ar gyfer

gweithredu pellach ar ddefnyddio cynaliadwy

[box]

Y Gronfa Gweithredu Amgylcheddol (EAF)

Cynigiwyd cymorth ariannol gan y Llywodraeth i 36 o brosiectau ar gyfer y tair

blynedd 2005-2008, sef cyfanswm o £6.75 miliwn, yn dilyn y cylch diweddaraf o

gynigion cystadleuol am gymorth o’r Gronfa.

Mae’r prosiectau hyn yn cwmpasu pob rhan o Loegr, a byddant yn cynnwys gweithio

gyda chyfres amrywiol o gymunedau ar nifer fawr o faterion, a fydd yn helpu i

sicrhau canlyniadau defnyddio a chynhyrchu cynaliadwy.

Ymhlith y prosiectau y mae cymorth ariannol ar gael iddynt mae Rhaglen Ysgolion a

Cholegau Envision sy’n targedu pobl ifanc 16-18 oed, menter Ecoteam o eiddo

Global Action Plans sy’n cael ei hymestyn yn genedlaethol a rhaglen ‘Actions

Organic’ Cymdeithas y Pridd.

5. Arwain drwy esiampl o ran yr hyn a wnawn

Tanlinellodd ymgynghoreion pa mor bwysig ydyw i’r Llywodraeth fynd i’r afael â

defnyddio cynaliadwy yn ei phrosesau caffael nwyddau, gwasanaethau ac adeiladau

ac mae’r dystiolaeth sydd gennym ynghylch “newid ymddygiadau” (Pennod 2) yn

ategu’r farn hon. Mae’r Llywodraeth yn derbyn yr her hon.

[picture caption]

Ffynhonnell: 3rd Avenue

Caffael cyhoeddus cynaliadwy

Mae Llywodraeth y DU yn prynu nwyddau a gwasanaethau gwerth £13 biliwn bob

blwyddyn. O ran y sector cyhoeddus ehangach y ffigur yw £125 biliwn. Mae

graddfa’r gweithgarwch caffael hwn yn cynnig offeryn polisi ychwanegol at y dulliau

traddodiadol megis rheoleiddio ac offerynnau economaidd. Yn yr UE ac yn

rhyngwladol, mae pwysau cynyddol ar lywodraethau i wneud gwell defnydd o’u grym

caffael fel hyn i gyflawni eu nodau polisi, er enghraifft mewn meysydd megis

technolegau amgylcheddol a masnach deg.

Mae effeithlonrwydd yn nodwedd hanfodol o wariant y sector cyhoeddus: rhaid bod

arian cyhoeddus yn cael ei wario’n dda ac nid ei wastraffu. Mae sicrhau gwell

prosesau caffael a chyflwyno gwell gwasanaethau yn hanfodol i sicrhau arbedion

effeithlonrwydd yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol. Bydd gwella

proffesiynoldeb prosesau caffael ar draws y sector cyhoeddus a’r defnydd ehangach o

waith prisio bywyd cyfan o ryw gymorth i gyflawni hyn. Ond mae angen i ni edrych

ar ffyrdd o symbylu a galluogi gwaith cyfrifo bywyd cyfan hefyd – lle y bydd

gwariant yn ceisio sicrhau’r canlyniad gorau i’r cyhoedd yn gyffredinol, waeth pryd

na ble y ceir cost a budd.

Mae caffael cynaliadwy – sy’n ymgorffori ystyriaethau datblygu cynaliadwy mewn

penderfyniadau ar wario a buddsoddi ar draws y sector cyhoeddus – yn cynnig llawer

o gyfleoedd gan gynnwys:

� atal effeithiau amgylcheddol andwyol rhag codi ar ystad y llywodraeth ac yn y

gadwyn gyflenwi drwy leihau gwastraff a gollyngiadau, er enghraifft

� defnyddio adnoddau cyhoeddus yn fwy effeithlon, er enghraifft drwy ddefnyddio

llai o ynni a deunydd pecynnu

� symbylu’r farchnad i arloesi a chynhyrchu opsiynau mwy cost-effeithiol a

chynaliadwy ar gyfer pob prynwr

� bod yn esiampl i fyd busnes a’r cyhoedd a dangos bod y llywodraeth a’r sector

cyhoeddus ehangach o ddifrif ynghylch datblygu cynaliadwy.

Drwy achub ar y cyfleoedd hyn daw manteision yn amgylcheddol, yn gymdeithasol

ac yn economaidd ar draws y sector cyhoeddus, byd busnes a’r gymdeithas ehangach.

Yn y DU, mae’r Llywodraeth eisoes yn defnyddio caffael cyhoeddus i gyflawni

nodau polisi. Er enghraifft, mae pob un o adrannau ac asiantaethau llywodraeth

ganolog yn ceisio prynu cynhyrchion pren o ffynonellau cynaliadwy a chyfreithlon.

Rydym wedi gosod targedau o fewn y llywodraeth sifil ganolog ar gyfer caffael mwy

cynaliadwy mewn meysydd megis bwyd, adeiladu ac amrywiaeth o gynhyrchion pob

dydd sy’n cyrraedd safonau amgylcheddol gofynnol (y “quick-wins” fel y’u gelwir 18 ),

sy’n gweithredu Adroddiad y Grðp Caffael Cynaliadwy a gyflwynwyd yn 2003 19 .

� Wrth i ni barhau â’n hymdrechion i gyrraedd y targedau hyn ar draws

Whitehall, bydd y Llywodraeth hefyd yn edrych ar ffyrdd o annog

sefydliadau eraill i ymrwymo iddynt

� Bwriedir i’n nod newydd gael ei gydnabod fel un o’r rhai mwyaf blaenllaw

ym maes caffael cynaliadwy ar draws aelod wladwriaethau’r UE erbyn 2009

Er mwyn cyflawni’r nod hwn bydd y Llywodraeth yn:

� datblygu ac yn cynnal tystiolaeth gadarn ar feysydd blaenoriaeth lle y gall caffael

cynaliadwy sicrhau’r canlyniadau mwyaf sylweddol o ran yr amgylchedd a

chystadleurwydd erbyn 2006

� datblygu drwy ymgynghori ragor o dargedau caffael i’r sector cyhoeddus mewn

meysydd blaenoriaeth fel y’u datgelir gan y dystiolaeth; bwriadwn, er enghraifft,

wneud ymrwymiad i sicrhau y bydd ceir newydd a brynir gan y Llywodraeth yn

cydymffurfio â’r Cytundebau Gwirfoddol Ewropeaidd presennol (ac yn y dyfodol)

ar gyfer gollyngiadau carbon deuocsid

� ymestyn yr ystod o gynhyrchion mandadedig sy’n cyrraedd safonau amgylcheddol

gofynnol (rhestr y ‘quick wins’); yn gwella cydymffurfiaeth ar ran prynwyr yn y

sector cyhoeddus ac yn galluogi cyflenwyr i ddangos eu bod yn cydymffurfio â’r

safonau hyn

� ymgorffori datblygu cynaliadwy yn Swyddfa Masnach y Llywodraeth (OGC) ac

Asiantaeth Prynu a Chyflenwi’r GIG sy’n bodoli eisoes ac yn gweithio gyda

marchnadoedd allweddol ac yn gweithio gyda chyflenwyr allweddol yn y sector

cyhoeddus i’w helpu i ddeall cynaliadwyedd yn well a gwella eu perfformiad o

ran cynaliadwyedd, gan ddefnyddio rhaglenni cymorth i fusnesau sy’n bodoli

eisoes lle y bo’n briodol

� gweithio gyda sefydliadau proffesiynol ac academaidd, gan gynnwys y Sefydliad

Siartredig Prynu a Chyflenwi, i sicrhau y caiff ystyriaethau datblygu cynaliadwy

eu hymgorffori mewn cyrsiau a chymwysterau caffael, a bod caffaelwyr yn y

sector cyhoeddus yn cael hyfforddiant proffesiynol priodol

18 www,ogcbuyingsolutions.gov.uk/environmental/products/environmental_quickwins.asp

19 www.sustainable-development.gov.uk/sdig/improving/partf/report03/index.htm

� datblygu’r wefan beilot ‘OGCbuying.solutions’ ar gaffael cynaliadwy 20 yn adnodd

canolog cynhwysfawr ar gyfer prynwyr a chyflenwyr yn y sector cyhoeddus erbyn

2006 (i gyd-fynd â’r wefan arfaethedig i’r cyhoedd ‘Environment Direct’)

� datblygu dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer gweithgarwch caffael

cynaliadwy drwy weithio ar draws y sector cyhoeddus, byd busnes a phartïon

eraill â diddordeb

� gweithio’n agos gyda’r Comisiwn Ewropeaidd i fesur ac asesu caffael cyhoeddus

amgylcheddol yn yr UE, yn arbennig o ran technolegau amgylcheddol, gyda’r

bwriad o sefydlu targed meincnod i’r UE gyfan a fydd yn fodd i annog y

perfformiad cyfartalog yn 2010 i gyrraedd perfformiad yr aelod wladwriaeth sy’n

perfformio orau ar hyn o bryd

� gweithio gyda’r Grðp Cynghori ar Arloesi Amgylcheddol i ddangos sut y gall

prynwyr yn y sector cyhoeddus ymgorffori arloesi amgylcheddol yn y farchnad

drwy wneud blaenymrwymiad drwy’r broses gaffael

� gweithredu i ddileu rhwystrau i fwy o weithgarwch caffael cynaliadwy a rhoi

mwy o gyfle i ymgymryd â gweithgarwch o’r fath.

� Er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd cyflym yn y ffordd fwyaf

effeithiol, bydd y Llywodraeth yn penodi yng Ngwanwyn 2005 Tasglu Caffael

Cynaliadwy wedi’i arwain gan fyd busnes i ddatblygu cynllun gweithredu

cenedlaethol ar gyfer Caffael Cynaliadwy ar draws y sector cyhoeddus erbyn

mis Ebrill 2006. Bydd y asglu yn adeiladu ar waith cyrff eraill sy’n

weithredol yn y maes hwn, gan gynnwys y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy, y

Grðp Caffael Cynaliadwy a’r Grðp Cadwyni Cyflenwi Strategol.

6. Symbylu newid o fewn yr economi a sectorau allweddol

Defnyddir y mesurau uchod ym mhob maes allweddol o’r economi a byddant yn

dwyn goblygiadau pwysig i fyd busnes.

Nid oes modd yn y strategaeth hon fanylu ar gynhyrchion a gwasanaethau penodol

mewn sectorau unigol; fodd bynnag, nodwn isod sut y bydd y Llywodraeth yn

gweithio gyda byd busnes ar fesurau trawsbynciol, ehangach, i ategu’r rhai sy’n cael

effaith fwy uniongyrchol ar y cynhyrchion a’r gwasanaethau a ddarperir gan fusnesau.

Mae’r mesurau hyn yn cynnwys:

� polisïau i wella tryloywder, cyfrifoldeb corfforaethol a sgiliau ym myd busnes ac

mewn sefydliadau eraill

� sut y bwriadwn weithio gyda sectorau ag effeithiau amgylcheddol neu

gymdeithasol sylweddol iawn. Bydd y Ford Gron ar Ddatblygu Cynaliadwy hefyd

yn gwneud cyfraniad pwysig at ein gwaith gyda rhai o’r sectorau hyn

20 Gweler www.sustainable-solutions.gov.uk

Yn olaf, rydym yn esbonio sut y mae’r Llywodraeth yn adolygu ei strategaeth ar gyfer

ymdrin â gwastraff ar draws yr economi yn gyffredinol.

Sefydliadau, Gweithleoedd a Sgiliau Cynaliadwy

Gall sefydliadau cynaliadwy – busnesau, cyrff cyhoeddus, Sefydliadau

Anllywodraethol (NGO) neu undebau llafur – fod yn ffactorau pwerus i ysgogi

patrymau defnyddio a chynhyrchu mwy cynaliadwy.

O ran busnes, mae hyn yn llawer mwy na dyngarwch - mae busnesau cynaliadwy fel

arfer yn fwy proffidiol. Dengys tua 85 y cant o’r astudiaethau ar y pwnc fod

cydberthynas gadarnhaol rhwng rheoli a/neu ddigwyddiadau amgylcheddol, a

pherfformiad ariannol cwmnïau 21 . Gall rheoli perfformiad cwnni o safbwynt

cynaliadwyedd wella gweithgarwch rheoli risg, nodi arbedion cost, rhoi enw gwell i’r

cwnni a chynorthwyo cyfathrebu â chyfranddalwyr a rhanddeiliaid eraill. At hynny

mae’r her sydd ynghlwm wrth ddefnyddio cynaliadwy yn dwysáu’r ddadl ar

gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, lle mae’n rhaid i fusnesau ystyried y

goblygiadau, i’w model busnes a’r ystod o wasanaethau a ddarperir ganddynt, sydd

ynghlwm wrth symud tuag at arferion defnyddio moesegol sy’n defnyddio

adnoddau’n effeithlon.

[box]

Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol – Ymagwedd y Llywodraeth

Gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CSR)

yw “gweld busnesau’r DU yn ystyried eu heffeithiau economaidd, cymdeithasol ac

amgylcheddol, ac yn mynd i’r afael â’r heriau allweddol sydd ynghlwm wrth

ddatblygu cynaliadwy yn seiliedig ar eu cymwyseddau craidd lle bynnag y maent yn

gweithredu - yn lleol, yn rhanbarthol ac yn rhyngwladol.”

Rôl y Llywodraeth yw hyrwyddo a chynyddu cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol

gartref a thramor. Ym mis Mawrth 2004, cyhoeddwyd at ddibenion ymgynghori

fframwaith strategol drafft ar gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol yn rhyngwladol.

Yng ngoleuni’r ymatebion, bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi fersiwn terfynol yn

2005.

Er mwyn gweithredu’r Fframwaith, bydd y Llywodraeth yn sefydlu Grðp Cynghori ar

Gyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol Rhyngwladol i helpu i lunio a gweithredu

ymagwedd strategol tuag at y dasg hanfodol bwysig o asesu holl effeithiau cadarnhaol

a negyddol, economaidd, a chymdeithasol yn ogystal ag amgylcheddol,

gweithrediadau busnesau’r DU ledled y byd, ynghyd ag asesiad o effeithiolrwydd

gwaith y Llywodraeth wrth hyrwyddo gwelliannau.

Rydym yn parhau i ledaenu arfer gorau, drwy fentrau megis Compact Byd-eang y

Cenhedloedd Unedig, Canllawiau OECD ar gyfer Mentrau Rhyngwladol, yr

Egwyddorion Gwirfoddol ar Ddiogelwch a Hawliau Dynol, a thrwy’r Sefydliad

21

Asiantaeth yr Amgylchedd, 2004, ‘Corporate Environmental Governance’. Adroddiad gan Innovest

ac Asiantaeth yr Amgylchedd.

Llafur Rhyngwladol. Ceir mwy o fanylion ar wefan Cyfrifoldeb Cymdeithasol

Corfforaethol y Llywodraeth 22 .

Mae busnesau cynaliadwy fel arfer yn cael eu llywio’n helaeth gan werthoedd neu

egwyddorion arweiniol, megis y rhai sydd wrth wraidd Compact Byd-eang y

Cenhedloedd Unedig. Maent hefyd yn mesur, yn rheoli ac yn gwella eu perfformiad o

safbwynt cynaliadwyedd, a pherfformiad eu cadwyni cyflenwi a’u cynhyrchion yn y

DU a thramor. Gall metrigau meincnodi a dangosyddion perfformiad allweddol fod

yn fodd i gymharu sefydliadau.

Mae’r Llywodraeth yn herio cwmnïau Mynegai Can Cwmni’r FTSE a

chwmnïau preifat mawr i roi adroddiad am eu perfformiad yn dryloyw ac yn

ystyrlon. Gwnaed cynnydd da – mae 145 o gwmnïau ym Mynegai 250 y FTSE yn

cyflwyno adroddiadau i ryw raddau ar eu perfformiad o safbwynt cynaliadwyedd 23 . Er

mwyn cynyddu’r nifer hon a gwella ansawdd yr adroddiadau, mae’r Fenter Adrodd

Fyd-eang 24 yn darparu cyfres gynhwysfawr o ddangosyddion perfformiad, ac rydym

wedi llunio set ymarferol o Ganllawiau Adrodd Amgylcheddol 25 .

[box]

Yr Adolygiad Gweithredu ac Ariannol

O fis Ebrill 2005, mae’r Llywodraeth yn cyflwyno fframwaith galluogi – yr

Adolygiad Gweithredu ac Ariannol (OFR) – fel y bydd cwmnïau rhestredig yn

ystyried datblygu cynaliadwy ochr yn ochr â gwybodaeth ariannol. Lle bynnag y mae

cwmnïau yn wynebu risgiau ac ansicrwydd amgylcheddol, neu faterion cymdeithasol

a chymunedol neu faterion yn ymwneud â chyflogeion, rydym yn disgwyl i’w

Hadolygiadau Gweithredu ac Ariannol roi gwybod am bolisïau a pherfformiad i’r

graddau sydd eu hangen i gyfranddalwyr allu asesu strategaethau’r cwmni a’i

botensial i lwyddo.

Felly, er enghraifft, bydd angen i Gyfarwyddwyr ystyried sut y mae eu cwmni yn

ymbaratoi i weithredu mewn byd carbon-gyfyngedig, lle y bydd angen i ollyngiadau

carbon deuocsid y DU ostwng 60 y cant o leiaf dros yr hanner can mlynedd nesaf.

Ochr yn ochr â hynny, bydd y Gyfarwyddeb Moderneiddio Cyfrifon yn cyflwyno

gofynion yn mynnu bod cwmnïau preifat mawr yn rhoi gwybod am faterion

amgylcheddol neu faterion yn ymwneud â chyflogeion i’r graddau sydd eu hangen i

ddeall datblygiad, perfformiad neu sefyllfa’r cwmni.

Mae’r Llywodraeth yn ceisio galluogi buddsoddwyr i chwarae rhan fwy effeithiol i

lywio newidiadau ym myd busnes. Yn ogystal â’r OFR, rydym yn gweithio gyda

buddsoddwyr, benthycwyr ac yswirwyr sefydliadol mawr. Mae Prosiect Egwyddorion

22

Gweler www.csr.gov.uk

23

Salterbaxter/Context, 2004 ‘Directions: trends in CSR reporting 2003-2004’. Adroddiad ar y cyd gan

salterbaxter a Context.

24

Gweler www.globalreporting.org/

25

Gweler www.defra.gov.uk/environment/envrp/index.htm

Llundain 26 , sy’n gompendiwm o arfer gorau gan gynnwys set arfaethedig o saith

egwyddor sy’n fodd i systemau marchnadoedd ariannol hyrwyddo ariannu datblygu

cynaliadwy yn y ffordd fwyaf effeithiol, yn esiampl o arweiniad Dinas Llundain yn y

maes hwn.

Bydd y diwygiad i Ddeddf Pensiynau 1995 sy’n ei gwneud yn ofynnol i gynlluniau

pensiwn nodi i ba raddau y maent yn ystyried materion cymdeithasol, amgylcheddol

neu foesegol yn eu strategaeth fuddsoddi yn parhau i godi proffil buddsoddi

cymdeithasol-gyfrifol. Ac o fewn y Sector Elusennau mae’r Datganiad Arfer

Argymelledig newydd yn nodi bod angen i elusennau gyfleu i’w rhanddeiliaid a’r

cyhoedd sut y mae ystyriaethau moesegol, sy’n cynnwys ystyriaethau cynaliadwyedd,

yn dylanwadu ar eu penderfyniadau buddsoddi.

Bydd y Llywodraeth hefyd yn edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i rymuso unigolion i

wneud dewisiadau cynaliadwy o ran y modd y buddsoddir eu harian. Yn hyn o beth

efallai y byddai’n ddefnyddiol i sefydliadau gynnig dewis o gronfa amgylcheddol neu

foesegol i gyflogeion ar gyfer cyfraniadau pensiwn ychwanegol.

Yn achos sefydliadau yn gyffredinol, bydd y systemau sefydliadol, y systemau

atebolrwydd a systemau eraill yn amrywio, ond mae gwerthoedd cyfrifoldeb

corfforaethol a dinasyddiaeth yr un mor berthnasol. Mae’r Llywodraeth am weld mwy

o ddefnydd yn cael ei wneud o systemau rheoli amgylcheddol cadarn ac achrededig

(EMS), megis EMAS, ISO 14001 a BS8555. Mae gwella safon ardystio ac ansawdd

systemau rheoli amgylchedd yr un mor bwysig fel y byddant yn arwain yn fwy

rhagweladwy at welliannau mewn perfformiad. Mae sicrhau bod gweithdrefnau

gwirio annibynnol ac achrededig yn gadarn a’u bod yn cael eu defnyddio’n gyson yn

rhan o’r broses hon.

Cefnogodd y Llywodraeth brosiect SIGMA (Cynaliadwyedd – Canllawiau Integredig

ar gyfer Rheolwyr) 27 a’i nodau o ddarparu cyngor clir a dulliau i helpu sefydliadau i

reoli a gwella eu cyfraniad at ddatblygu cynaliadwy a gwella eu perfformiad

amgylcheddol. Mae Canllawiau SIGMA a lansiwyd ym mis Medi 2003 hefyd yn

elfen allweddol mewn prosiectau cyfredol sy’n cael eu harwain gan BSI 28 yn y DU ac

ISO yn rhyngwladol 29 i edrych ar safon bosibl yn darparu canllawiau ar gyfrifoldeb

cymdeithasol.

Nododd nifer o adroddiadau 30 fwlch yn yr economi yn gyffredinol o ran sgiliau sydd

eu hangen i sicrhau defnyddio a chynhyrchu mwy cynaliadwy. Eir i’r afael â’r bwlch

hwn drwy Gynllun Gweithredu Datblygu Cynaliadwy'r Adran Addysg a Sgiliau a

ddisgrifiwyd ym Mhennod 2. Sefydlodd y Llywodraeth Academi Cyfrifoldeb

Cymdeithasol Corfforaethol i hyrwyddo datblygu sgiliau ar gyfer cyfrifoldeb

corfforaethol, ac mae’n gweithio gyda chyrff proffesiynol i integreiddio

cymwyseddau datblygu cynaliadwy â’u safonau.

26 Gweler

www.cityoflondon.gov.uk/Corporation/living_environment/sustainability/sustainable_finance.htm#lp

27 Gweler www.projectsigmw.com/default.asp

28 Gweler www.bsi-global.com/British_Standards/sustainability/index.xalter

29 Gweler www.iso.org/iso/en/info/Conferences/SRCConference/nwip.htm

30 Adroddiad gan PIU, Papur Gwyn ar Ynni a Newid Patrymau

Caiff llawer o newidiadau parhaol eu gwneud yn y gweithle gan gyflogwyr, rheolwyr

a gweithwyr yn gweithio mewn partneriaeth 31 . Dangosodd arolygon o aelodau

undebau a wnaed gan Gyngres yr Undebau Llafur (TUC) 32 fod cefnogaeth o blaid

undebau yn hyrwyddo arfer amgylcheddol da.

� Er mwyn symbylu gweithredu, mae’r Llywodraeth yn gweithio gyda’r TUC a

Phwyllgor Cynghori’r Undebau Llafur ar Ddatblygu Cynaliadwy (TUSDAC)

i ddatblygu Strategaeth Cynaliadwyedd ar gyfer Undebau Llafur

Sectorau Busnes

Bydd y Llywodraeth hefyd yn gweithio yn fwy cyffredinol i adeiladu ar waith a

wnaed ers 1999 gyda’r Grðp Arloeswyr o gymdeithasau masnach a chyrff sector i’w

helpu i ddatblygu strategaethau cynaliadwyedd ar gyfer eu sectorau eu hunain. Erbyn

hyn mae 18 o sectorau wedi cyhoeddi strategaethau cychwynnol o leiaf ac mae nifer o

strategaethau eraill wrthi’n cael eu paratoi.

Mae’r Llywodraeth yn credu bod hyn yn sail dda i adeiladu arni ond erbyn hyn rydym

am ddwysáu ein gwaith gyda byd busnes i gynyddu ein cyd-ddealltwriaeth o sut i

sicrhau datgysylltu hirdymor mewn sectorau allweddol a rhoi mesurau ar waith i

hyrwyddo’r cyfnod pontio hwnnw. Bydd hyn yn cynnwys edrych ar yr ystod

ehangach o opsiynau sydd ar gael mewn sectorau penodol ar gyfer sicrhau

canlyniadau amgylcheddol a chynhyrchiant uwch drwy wneud pethau’n wahanol, gan

gynnwys:

� gwell sgiliau drwy hyfforddiant ffurfiol a/neu drwy godi ymwybyddiaeth

� mentrau yn y gweithle wedi’u hysbrydoli ac wedi’u harwain gan y gweithlu

� rhaglenni cymorth i fusnesau a chynlluniau grant ar gyfer eco-gynllunio,

defnyddio adnoddau’n effeithlon, arloesedd, a/neu reoli cadwyni cyflenwi

� meincnodi, cyflwyno adroddiadau a dangosyddion

� nodi cyfleoedd ar gyfer gwell rheoleiddio

� offerynnau ariannol sy’n benodol i sector, cytundebau gwirfoddol neu gynlluniau

cyfnewid

� polisïau caffael

� safonau cynhyrchion a/neu gynlluniau labelu.

Dylai strategaethau ddarparu fframwaith ar gyfer sectorau i nodi bygythiadau i’r

sector yn deillio o arferion anghynaliadwy, a chyfleoedd i fanteisio ar ffyrdd mwy

cynaliadwy o weithio.

31 Gweler www.sustainableworkplace.co.uk am ragor o wybodaeth

32 Gweler www.tuc.org.uk/sustainableworkplace/Prospect_Environ_lft.pdf

� Bydd y Llywodraeth yn lansio Her Cynaliadwyedd Sectorau newydd erbyn

haf 2005

Bydd y rhaglen hon yn cefnogi prosiectau cydweithredol dethol sy’n canolbwyntio ar

ddatblygu mentrau sectoraidd neu fentrau yn ymwneud â chadwyni cyflenwi i roi

Defnyddio a Chynhyrchu Cynaliadwy ar waith.

Mae’r sectorau a nodir isod ymhlith y rhai sy’n cael dylanwad cryf iawn ar

gynaliadwyedd nwyddau a gwasanaethau a ddefnyddir yn y DU.

Manwerthwyr

Mae manwerthwyr yn pennu cynaliadwyedd eu cadwyni cyflenwi a’r ystod o

gynhyrchion a gwasanaethau sydd ar gael i ddefnyddwyr. Mae gan fanwerthwyr ran

i’w chwarae hefyd i gwtogi ar ynni, y defnydd a wneir o ddðr a gwastraff yn eu

gweithrediadau eu hunain. Mae Consortiwm Manwerthu Prydain eisoes wedi

datblygu strategaeth i’r sector i nodi effeithiau, gosod targedau a monitro cynnydd.

Cymerodd rhai manwerthwyr gamau hefyd megis cynnig cynhyrchion o ffynonellau

cynaliadwy megis coed neu bysgod, hyrwyddo nwyddau masnach deg, lleihau

sylweddau peryglus mewn cynhyrchion, lleihau deunydd pecynnu neu gymryd rhan

mewn ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth.

Dywedodd y Prif Weinidog y dylai defnyddwyr, yn y dyfodol, ddisgwyl bod

cyfrifoldeb amgylcheddol yr un mor hanfodol i’r cynhyrchion a brynant ag yw iechyd

a diogelwch yn awr 33 . Dylai Environment Direct helpu i dynnu sylw at arfer da a

gwael. Byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda manwerthwyr drwy, er enghraifft:

� WRAP a Defra yn gweithio gyda manwerthwyr ac awdurdodau lleol i dreialu

ffyrdd newydd o annog deiliaid cartrefi i ailgylchu eu gwastraff mewn

archfarchnadoedd

� gweithio gyda manwerthwyr ar asesiadau o effeithiau amgylcheddol eu

cynhyrchion

� cymorth gan Envirowise i helpu manwerthwyr i weithio mewn partneriaethau

gyda chyflenwyr allweddol i wneud busnesau yn fwy effeithlon a lleihau

gwastraff

� gweithio gyda manwerthwyr a chyflenwyr i baratoi ar gyfer strategaeth cemegau

newydd Ewrop.

Twristiaeth

Mae twristiaeth yn un o ddiwydiannau mwyaf y byd, sy’n cyfrif am bron wythfed ran

o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth y byd. Mae’n un o’r meysydd mwyaf cymhleth a

thawsbynciol o weithgarwch economaidd, lle y ceir rhyngweithio cymdeithasol ac

amgylcheddol ar raddfa enfawr, y mae angen ymdrin ag ef o berspectif defnyddio a

chynhyrchu cynaliadwy. Er enghraifft, mae ganddo botensial enfawr i hyrwyddo

33 Araith y Prif Weinidog ar y Newid yn yr Hinsawdd, 14 Medi 2004.

datblygiad economaidd a chymdeithasol gwledydd tlotach. Ar yr un pryd, mae angen

lleihau’r potensial sydd gan dwristiaeth hefyd i niweidio’r amgylchedd a diwylliannau

brodorol.

[picture caption]

Cerddwyr ar lechwedd yn edrych dros ddyffryn

Ffynhonnell: 3rd Avenue

Nod y Llywodraeth yw ceisio meithrin mwy o gydweithredu gyda diwydiant

twristiaeth allanol y DU a chyda phartneriaid rhyngwladol i hyrwyddo patrymau mwy

cynaliadwy o dwristiaeth ledled y byd. Fel cam cyntaf rydym wedi helpu’r Sefydliad

Teithio, sy’n datblygu dulliau y gall y diwydiant twristiaeth eu defnyddio i wneud

cyfraniad cadarnhaol at bobl leol a’r amgylchedd.

Rydym hefyd yn cydnabod bod angen ymagwedd fwy cydgysylltiedig a strategol ar

draws y llywodraeth a’r diwydiant. Mae’r Llywodraeth yn sefydlu trefniadau newydd

ar draws adrannau fel y gellir mynd i’r afael yn fwy effeithiol â’r nifer fawr o

agweddau ar dwristiaeth gynaliadwy, ar gyfer y diwydiant twristiaeth yn y DU a

thwristiaeth o’r DU dramor.

Yn y DU rydym yn ceisio sicrhau sector twristiaeth sy’n tyfu ac yn ffynnu drwy

goleddu egwyddorion datblygu cynaliadwy. Mae Asiantaethau Datblygu Rhanbarthol

yn datblygu ac yn gweithredu Strategaethau Twristiaeth Gynaliadwy Rhanbarthol

gyda’r bwriad o brif ffrydio twristiaeth i’w gweithredoedd ehangach i sicrhau twf

economaidd cynaliadwy, drwy eu Strategaethau Economaidd Rhanbarthol. Byddwn

yn cefnogi’r camau a gymerir ganddynt gyda chymorth Cynghorau Disglair

awdurdodau lleol a mentrau yn y sector preifat megis y Cynllun Busnes Twristiaeth

Werdd.

Adeiladu a mwynau adeiladu

Mae’r sector adeiladu yn gwneud cyfraniad pwysig nid yn unig wrth ddefnyddio a

rheoli adnoddau, gan gynnwys mwynau a choed, ond hefyd wrth bennu sut yr ydym

yn eu defnyddio yn ein bywydau pob dydd.

Bydd y Cod ar gyfer Adeiladau Cynaliadwy (gweler Pennod 4) yn sefydlu safonau

gwirfoddol newydd ar gyfer defnyddio adnoddau’n effeithlon. Ar ben hynny, bydd y

Llywodraeth yn parhau i ddangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy waith cynllunio a

rheoli da drwy ein rhaglen Cymunedau’r Mileniwm. Drwy ein gwaith gyda’r Fforwm

Tai, English Partnerships, ac eraill, bydd y Llywodraeth yn parhau i hyrwyddo

defnyddio Dulliau Adeiladu Modern o safon a all gynnig effeithlonrwydd adnoddau

drwy leihau gwastraff, cynhyrchiant uwch, effeithlonrwydd ynni, a gwell iechyd a

diogelwch.

Mae hefyd yn bwysig annog sectorau unigol i ddatblygu cynlluniau i weithio tuag at

sicrhau datblygu cynaliadwy. Datblygwyd strategaethau cynaliadwyedd ar gyfer

sectorau unigol eisoes yn y sectorau peirianneg sifil, brics, dur, sment a choncrid.

Mae’r Ardoll Agregau yn hyrwyddo defnyddio agregau adeiladu yn gynnil a mwy o

ailgylchu gwastraff adeiladu a dymchwel yn lle gwaith cloddio newydd. Mae polisi

cynllunio yn ceisio lleihau i’r eithaf yr effeithiau a gaiff gwaith cloddio angenrheidiol

ar y dirwedd.

Trafnidiaeth

Mae’r modd y cynllunnir ac y defnyddir trafnidiaeth yn elfen bwysig o hyrwyddo

Defnyddio a Chynhyrchu mwy Cynaliadwy. Mae Pennod 4 yn nodi llawer o gamau

gweithredu a gymerir ym maes trafnidiaeth a fydd yn cyfrannu llawn cymaint at

Ddefnyddio a Chynhyrchu Cynaliadwy. Er enghraifft, gwaith y Strategaeth Pweru

Cerbydau’r Dyfodol 34 ar gerbydau a thanwydd glân a charbon isel, a

gweithgareddau’r Bartneriaeth Cerbydau Carbon Isel 35 . Bydd datblygiad ein

syniadaeth am ddefnyddio cynaliadwy, a ddisgrifiwyd yn gynharach yn y bennod hon,

hefyd yn ein helpu i ddeall yr hyn y gallwn ei wneud i ddylanwadu ar ddewisiadau

trafnidiaeth yng nghyd-destun annog ffyrdd o fyw ac arferion busnes sy’n fwy

cynaliadwy.

[box]

Dewisiadau callach – Newid ein ffordd o deithio

Cyhoeddodd yr Adran dros Drafnidiaeth ganllaw ‘Making Smarter Choices Work’ ym

mis Rhagfyr 2004 i helpu ac annog awdurdodau lleol i gydnabod manteision posibl

mesurau trafnidiaeth “meddal” a’u gwneud yn rhan annatod o’u strategaethau

trafnidiaeth, a thrwy hynny leihau tagfeydd a rhoi dewisiadau teithio gwirioneddol i

bobl.

Cyhoeddwyd yr ymchwil yr oedd y ddogfen yn seiliedig arni, sef ‘Smarter Choices -

Changing the way we travel’ ym mis Gorffennaf 2004 a dangosodd y manteision sy’n

dod o nifer o fesurau megis cynlluniau teithio i’r gweithle ac i’r ysgol, cynllunio

teithiau personol, gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus a marchnata trafnidiaeth

gyhoeddus, ymgyrchoedd ymwybyddiaeth teithio, clybiau ceir a chynlluniau rhannu

ceir, teleweithio, telegynadledda a siopa gartref 36 .

Mae’r Llywodraeth wedi rhoi dwy fenter allweddol ar waith eisoes i weithredu ar

‘smarter choices’:

� £50 miliwn ar gyfer 2004/5 a 2005/6 i helpu ysgolion i ddatblygu a gweithredu

cynlluniau teithio

� £10 miliwn dros 5 mlynedd i drawsnewid Darlington, Peterborough a

Chaerwrangon yn drefi arddangos teithio cynaliadwy.

Bydd y Llywodraeth hefyd yn parhau i hyrwyddo datblygu Partneriaethau Ansawdd

Cludo Nwyddau (FQP) gan awdurdodau lleol. Mae’r rhain yn dempled ar gyfer

diwydiant a llywodraeth leol yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu dulliau mwy

34

Gweler www.dft.gov.gov.uk/stellent/groups/dft_roads/documents/page/dft_roads_506885.hcsp

35

Gweler www.lowcvp.org.uk

36

DfT, 2004. ‘Smarter Choices’ yn www.dft.gov.uk

effeithlon, diogelach a glanach o ddosbarthu nwyddau yn lleol. Sefydlwyd dros 40

ohonynt yn Lloegr hyd yma.

Byddwn hefyd yn gweithio gyda’r diwydiant cludo nwyddau i fabwysiadu arferion

sy’n defnyddio tanwydd yn fwy effeithlon. Er enghraifft, cyhoeddodd y Llywodraeth

flwyddyn arall o gyllid (£3 miliwn) ar gyfer rhai o’r rhaglenni mwyaf llwyddiannus o

dan Gronfa Moderneiddio Cludo Nwyddau ar Ffyrdd.

Bwyd

Mae sicrhau patrymau mwy cynaliadwy o ddefnyddio a chynhyrchu bwyd yn her

fawr. Mae’r broses o gynhyrchu bwyd yn cynnwys cynhyrchu amaethyddol,

gweithgynhyrchu, cludo cnydau a chynhyrchion, storio, manwerthu a gwasanaethau

bwyd. O ran deiliaid tai mae prosesau defnyddio bwyd yn cynnwys teithiau siopa,

rheweiddio/rhewi, coginio a chael gwared â gwastraff.

Pan gymerir yr holl effeithiau amgylcheddol i ystyriaeth yn ystod cylch bywyd

nwyddau a gwasanaethau, boed hynny yn y DU neu dramor, gall bwyd fod yn un o’r

agweddau pwysicaf ar dreuliant o safbwynt yr amgylchedd. Er enghraifft, mae

treuliant bwyd yn y DU yn gyfrifol am ollyngiadau nwyon tþ gwydr byd-eang sy’n

cyfateb i 22 y cant o gyfanswm y DU.

Mae ein strategaeth ar gyfer bwyd a ffermio cynaliadwy 37 yn nodi sut y gall

diwydiant, y Llywodraeth a defnyddwyr weithio gyda’i gilydd i sicrhau dyfodol

cynaliadwy i’n diwydiant ffermio a’n diwydiant bwyd, fel diwydiannau hyfyw sy’n

cyfrannu at well amgylchedd a chymunedau iach a ffyniannus.

Ochr yn ochr â hyn, mae’r Llywodraeth yn gweithio gyda diwydiant ar

strategaeth cynaliadwyedd i sicrhau gwelliannau economaidd, amgylcheddol a

chymdeithasol yn y diwydiant bwyd ehangach. Bydd hyn yn sail i amcanion tymor

hwy ar gyfer cynaliadwyedd yn y diwydiant bwyd.

Diwydiannau amgylcheddol

Gall technolegau amgylcheddol arloesol greu cyfleoedd busnes newydd, agor

marchnadoedd sy’n datblygu a gwella cystadleurwydd, ac ar yr un pryd helpu i

gyflawni amcanion amgylcheddol. Mae eu potensial i gyfrannu at economi

gynaliadwy ac ysgogi busnesau a swyddi newydd yn cael ei gydnabod fwyfwy ledled

y byd.

Yn 2002, amcangyfrifwyd bod y farchnad fyd-eang ar gyfer nwyddau a gwasanaethau

amgylcheddol yn werth $515 biliwn – yn cyfateb i’r farchnad aerofod neu’r farchnad

fferyllol yn rhyngwladol – a rhagwelwyd y byddai’n werth $688 biliwn erbyn 2010.

Rydym am i’r DU chwarae rhan flaenllaw yn y farchnad bwysig hon sy’n tyfu’n

gyflym.

37 Defra, 2002, ‘Strategy for Sustainable Farming and Food: Facing the Future’ yn

www.defra.gov.uk/farm/sustain/default.htm

Mae diwydiant amgylcheddol y DU yn sector deinamig sy’n tyfu ac mae’n gwneud

cyfraniad pwysig – a chynyddol – at yr economi. Dangosodd data a gasglwyd yn 2004

fod gan gwmnïau a nododd eu bod yn gweithio yn y sector technoleg amgylcheddol

drosiant o tua £25 biliwn erbyn hyn, a’u bod yn cyfrif am tua 400 000 o swyddi.

Ond mae’r sector yn wynebu cystadleuaeth fwyfwy brwd gan gyflenwyr gartref a

thramor. Er mwyn iddo barhau i dyfu yn y degawd nesaf, mae’n rhaid i’r DU wella ei

gallu i droi syniadau newydd a thechnolegau sy’n datblygu yn gynhyrchion, yn

brosesau ac yn wasanaethau mwy arloesol, uchel eu gwerth. Lansiwyd Uned

Diwydiannau Amgylcheddol ac iddi ffocws newydd ar y cyd gan y DTI/Defra a

rhoddwyd iddi’r dasg o hyrwyddo anghenion y sector drwy annog arloesedd.

� Bydd y Llywodraeth yn rhoi pecyn o fesurau ar waith i fynd i’r afael â

rhwystrau i fasnacheiddio arloesi amgylcheddol a nodwyd gan y Grðp

Cynghori ar Arloesi Amgylcheddol a arweinir gan fyd busnes erbyn mis

Mawrth 2006

7. Rheoli Gwastraff Cynaliadwy

Amcan cyffredinol polisi’r llywodraeth ar wastraff yw diogelu iechyd pobl a’r

amgylchedd drwy gynhyrchu llai o wastraff a thrwy ei ddefnyddio fel adnodd lle

bynnag y bo modd. Drwy reoli gwastraff yn fwy cynaliadwy – lleihau, ailddefnyddio,

ailgylchu, compostio a defnyddio gwastraff fel ffynhonnell ynni – mae’r Llywodraeth

yn ceisio torri’r cysylltiad rhwng twf economaidd ac effaith amgylcheddol gwastraff.

Mae gan fyd busnes, defnyddwyr, mudiadau gwirfoddol ac awdurdodau lleol i gyd

ran i’w chwarae.

Roedd ‘Strategaeth Ynni 2000’ 38 yn cynnwys ymrwymiad i gynnal adolygiad

‘gwraidd a brig’ yn 2010, ac adolygiadau llai o faint yn 2005 a 2015.

� Mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno casgliadau’r adolygiad cyntaf

erbyn diwedd 2005.

Mae’r adolygiad hwn yn rhoi cyfle i asesu polisïau a dulliau cyflawni cyfredol a

gwerthuso cynnydd ar ganlyniadau. Drwy’r adolygiad, bydd y Llywodraeth yn gallu

ailasesu rhagdybiaethau a wnaed ynghylch costau, cynnydd mewn gwastraff a

chyfraddau adfer ac ailgylchu y gellid eu cyflawni yn seiliedig ar ddata newydd,

datblygiadau technolegol a gwell dealltwriaeth o’r effeithiau amgylcheddol,

economaidd a chymdeithasol yn gysylltiedig â delio â gwastraff.

Gwnaed cynnydd eisoes mewn nifer o feysydd, ond mae llawer mwy y gallwn ei

wneud i atal gwastraff rhag cael ei greu yn y lle cyntaf ac i wneud y defnydd gorau

ohono fel adnodd. Bydd y Rhaglen Gweithredu Gwastraff ac Adnoddau yn parhau â’i

gwaith gyda manwerthwyr ar leihau gwastraff i’r eithaf a bydd yn datblygu ei

mentrau ar symbylu’r farchnad ar gyfer deunydd ailgylchu.

38 Defra, 2000, ‘Waste Strategy 2000’ yn

www.defra.gov.uk/environment/waste/strategy/cm4693/index.htm

� Bydd y Llywodraeth yn cysylltu â rhanddeiliaid yng Ngwanwyn 2005

ynghylch canllawiau diwygiedig ar y diffiniad o wastraff.

Un o amcanion allweddol y canllawiau diwygiedig fydd helpu diwydiant a

rheolyddion i nodi’n fwy effeithiol pryd y mae gwastraff wedi’i adfer yn llawn fel ei

fod yn peidio â bod yn “wastraff” ac yn cael ei droi’n adnodd.

[Chart]

Ein hymagwedd integredig ar gyfer defnyddio a chynhyrchu cynaliadwy

Enable – Galluogi

• Environment Direct

• Envirowise a rhaglenni trawsnewid marchnadoedd

• Academi Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol

• Fforwm Cynllunio Cynaliadwy

• Cronfa Dechnoleg yr Adran Masnach a Diwydiant

• Cymorth i fentrau cymdeithasol

Encourage – Annog

• Treth tirlenwi

• BREW

• Cronfa Gweithredu Amgylcheddol

• Ardoll Agregau

• Menter Masnachu Moesegol

• Cyfraddau treth gwahaniaethol ar gerbydau

• Adolygiad Gweithredu ac Ariannol

Engage – Ymgysylltu

• Y Ford Gron ar Ddefnyddio Cynaliadwy

• Fforwm Trafod ar ffyrdd cynaliadwy o fyw

• Partneriaethau â sectorau allweddol

• Strategaeth Datblygu Cynaliadwy'r Undebau Llafur

• Timau Arloesedd a Thwf

• Heriau Cynaliadwyedd Sectorau

Exemplify – Bod yn esiampl

• Y nod yw bod yn un o’r rhai mwyaf blaenllaw yn yr UE ym maes caffael

cynaliadwy erbyn 2009

• Cynllun gweithredu cenedlaethol drafft ar gyfer Caffael Cynaliadwy ar draws y

sector cyhoeddus

8. Tystiolaeth a dangosyddion

Mae polisïau ar ddefnyddio a chynhyrchu cynaliadwy yn gofyn am amrywiaeth o

dystiolaeth – er enghraifft, am effeithiau cylch bywyd nwyddau a gwasanaethau, am y

cysylltiadau rhwng yr amgylchedd a chystadleurwydd, am werthoedd ac ymddygiad

unigol, am effeithiau treuliant y DU a’r UE ar wledydd eraill, ac am effeithiau

mesurau polisi. O gymharu â rhai meysydd mwy penodol, megis y newid yn yr

hinsawdd, mae ein dealltwriaeth o’r materion hyn yn elfennol iawn. Felly un o

elfennau allweddol ein strategaeth fydd gwella ein sail tystiolaeth, mewn partneriaeth

ag eraill gan gynnwys y gymuned ymchwil, byd busnes, cyrff defnyddwyr a

sefydliadau amgylcheddol. Bydd hyn yn cynnwys ddwyn ynghyd yr holl ymchwil

sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys gwaith y grðp o arbenigwyr sydd i’w sefydlu ochr

yn ochr â’n fframwaith Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol rhyngwladol, yn

ogystal â dysgu o brosiectau lleol ar lawr gwlad.

� Bydd y Llywodraeth yn trafod ac yn datblygu ein cynlluniau gyda’r

rhanddeiliaid hyn, gan ddechrau yng ngwanwyn 2005

Mae dangosyddion defnyddio a chynhyrchu cynaliadwy allweddol yn cynnwys y rhai

sy’n dangos i ba raddau y mae ‘datgysylltu’ wedi digwydd – pa mor llwyddiannus

ydym o ran torri’r cysylltiad rhwng twf economaidd a niwed amgylcheddol. Mae nifer

o Ddangosyddion Strategaeth Llywodraeth y DU ar ffurf ‘dangosyddion datgysylltu’

a ddewiswyd o set ddiwygiedig o ddangosyddion datgysylltu defnyddio a chynhyrchu

cynaliadwy yr ymgynghorwyd yn eu cylch y llynedd. Bydd y set lawn o

‘ddangosyddion datgysylltu’ diwygiedig, y bwriedir eu cyhoeddi ar wahân, yn

darparu adroddiadau manylach nag sy’n bosibl gyda’r dangosyddion a ddewiswyd

yma i gefnogi Strategaeth Llywodraeth y DU.

Mae’r dangosyddion a restrir isod yn cynnwys pob dangosydd o fewn set Fframwaith

y DU sy’n berthnasol i ddefnyddio a chynhyrchu cynaliadwy yn ogystal â

dangosyddion ‘datgysylltu’ a dangosyddion eraill sy’n berthnasol i flaenoriaethau

Strategaeth Llywodraeth y DU.

Mesur ein Cynnydd – Effeithiau datgysylltu

� Gollyngiadau nwyon tþ gwydr* 2 : Targed Kyoto a gollyngiadau CO2

� Gollyngiadau CO2 erbyn y defnyddiwr olaf: diwydiant, cartrefi, trafnidiaeth (ac

eithrio’r sector hedfan rhyngwladol), arall

� Gollyngiadau o awyrennau a llongau 1 : nwyon tþ gwydr o fynceri tanwydd

awyrennau a llongau wedi’u lleoli yn y DU, a Chynnyrch Mewnwladol Crynswth

� Treuliant Ynni Cartrefi 2 : gollyngiadau CO2 a gwariant cartrefi ar dreuliant

terfynol

� Trafnidiaeth ar ffyrdd: Gollyngiadau CO2, NOx, PM10 a Chynnyrch Mewnladol

Crynswth

� Cerbydau preifat 1 : Gollyngiadau CO2 a gwariant ar geir fesul cilomedr a

gwariant cartrefi ar dreuliant terfynol

� Cludo nwyddau ar ffyrdd: Gollyngiadau CO2 a thunelli fesul cilomedr, tunnelli

a CMC

� Sector gweithgynhyrchu 1 : Gollyngiadau CO2, NOx, SO2, PM10 a Gwerth

Ychwanegol Crynswth

� Sector amaethyddol 1 : cyfraniad gwrteithiau, poblogaeth adar tir amaeth, a

gollyngiadau amonia a methan ac allbwn

� Sector gwasanaethau 1 : Gollyngiadau CO2, NOx a Gwerth Ychwanegol Crynswth

� Sector cyhoeddus 1 : Gollyngiadau CO2, NOx a Gwerth Ychwanegol Crynswth

� Gollyngiadau llygryddion awyr 1 : Gollyngiadau SO2, NOx, NH3 a PM10 a CMC

� Ansawdd Afonydd 2 : afonydd o ansawdd (a) biolegol (b) cemegol da

Y defnydd o adnoddau

� Y defnydd o adnoddau* 1 : Treuliant Deunyddiau Mewnwladol a CMC

� Stociau pysgod 1 : stociau pysgod o amgylch y DU o fewn terfynau cynaliadwy

� Y defnydd o adnoddau dðr 1 : cyfanswm yr echdyniadau o ffynonellau dðr

wyneb a daear anlanwol a CMC

� Treuliant dðr mewnwladol 2 : treuliant dðr mewnwladol y pen

� Ailgylchu tir 2 : (a) anheddau newydd a adeiledir ar dir a ddatblygwyd yn flaenorol

neu drwy waith addasu (b) pob datblygiad newydd ar dir a ddatblygwyd yn

flaenorol

Gwastraff

� Gwastraff 1 : croniadau yn ôl y (a) sector (b) dull gwaredu

� Gwastraff cartrefi 2 : (a) croniadau (b) wedi’i ailgylchu neu wedi’i gompostio

Dangosyddion cyd-destunol eraill

� Allbwn economaidd*: Cynnyrch Mewnwladol Crynswth

� Cynhyrchiant: Allbwn y DU fesul gweithiwr

� Buddsoddi: (a) cyfanswm y buddsoddiadau (b) buddsoddi cymdeithasol mewn

perthynas â CMC

� Demograffeg: y boblogaeth a’r boblogaeth o oedran gweithio (dangosydd cyddestunol)

� Cartrefi ac anheddau: cartrefi, cartrefi un person, a stoc anheddau (dangosydd

cyd-destunol)

Noder bod rhai dangosyddion yn berthnasol i rannau eraill o’r Strategaeth ac fe’u

rhestrir mewn penodau eraill hefyd

* Cynhwysir y dangosydd yn Nangosyddion Fframwaith y DU

1 Mae’r dangosydd o fewn y set ddiwygiedig o ‘ddangosyddion datgysylltu’

Defnyddio a Chynhyrchu Cynaliadwy

2 Mae’r dangosydd yn debyg ond yn wahanol i ddangosydd o fewn y set ddiwygiedig

o Ddangosyddion Defnyddio a Chynhyrchu Cynaliadwy

[box]

Rôl Busnesau o ran Datblygu Cynaliadwy

Mae gan fusnesau ran allweddol i’w chwarae o ran sicrhau datblygu cynaliadwy –

drwy ystyried eu heffeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol, mynd i’r

afael â’r heriau datblygu cynaliadwy allweddol, a chreu cyfoeth a swyddi. Mae hyn

yn rhan o bob un o’r pedair blaenoriaeth ac fe’i pwysleir ym mhob un o’r penodau.

Mae buddsoddi, mentro a masnachu gan fusnesau yn hollbwysig wrth greu’r cyfoeth i

fynd i’r afael â thlodi a heriau cymdeithasol eraill gartref a thramor. Mae gan y

Llywodraeth ran bwysig i’w chwarae drwy bolisïau economaidd, cymdeithasol ac

amgylcheddol gweithredol sy’n cefnogi neu’n symbylu camau gweithredu. Ond yn y

pen draw y camau a gymerir gan fusnesau eu hunain fydd yn sicrhau cyflenwad o

gynhyrchion a gwasanaethau sy’n lân, sy’n defnyddio adnoddau’n effeithlon, ac sy’n

deg i gyflogeion a chymunedau. Mae’r rhain yn cynnwys:

� rheoli effeithiau eu cynhyrchion a’u prosesau, eu gweithrediadau cludo a

dosbarthu, a’u cadwyni cyflenwi yn fwy systematig

� ennyn hyder rhanddeiliaid drwy fod yn fwy agored a thryloyw drwy gyflwyno

adroddiadau yn erbyn dangosyddion a thargedau perfformiad allweddol ystyrlon

� rhoi gwybodaeth i gwsmeriaid drwy ddatganiadau am gynhyrchion a labeli

cynhyrchion

� drwy gyfleu nodau cynaliadwyedd i’r gweithle a’r gymuned leol.

Gall datblygu cyfleoedd posibl ar gyfer modelau busnes newydd ddod â manteision i

sefydliadau, unigolion a’r amgylchedd hefyd. Gall arloesi o ran gwasanaethau, er

enghraifft, gynnig arbedion effeithlonrwydd posibl. Yn draddodiadol, mae elw

busnesau yn gysylltiedig â gwerthu mwy o gynnyrch. Os bydd cyflenwyr yn lle hynny

yn cyflenwi gwasanaeth, yn hytrach na chynnyrch, crëir cyfleoedd amgen i wneud

elw a chwtogi ar y defnydd o adnoddau. Gallai cwmni symud o werthu barilau o

gemegau, i werthu’r gwasanaeth y defnyddir y cemegyn hwnnw ar ei gyfer, megis

glanhau neu ddiseimio. Gallai cyflenwr ynni symud o werthu ynni i ddarparu

gwasanaeth cartref cynnes. Mae’r ymagwedd yn seiliedig ar gysoni cymhellion y

cwsmer a’r cyflenwr. Gall y ddau elwa ar ostyngiadau cost yn deillio o ddefnyddio

adnoddau’n fwy effeithlon.

Nwy Prydain – ‘yma i HELPU’

Gwobrau Busnes yn y Gymuned (BITC) am Ragoriaeth 2004 – enillydd y Big Tick.

Dyma’r rhaglen tlodi cartrefi a thanwydd integredig genedlaethol gyntaf, yn cynnwys

partneriaid yn y sector preifat, cyhoeddus a gwirfoddol, sydd wedi’i datblygu gan

gyflenwr ynni.

Mae’r rhaglen ‘yma i HELPU’, a sefydlwyd gan Nwy Prydain ym mis Gorffennaf

2002, yn dod ag awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a saith elusen genedlaethol

bwysig at ei gilydd i roi ateb siop ‘Un Stop’. Mae’r rhaglen, sy’n anelu at gyrraedd

hanner miliwn o gartrefi, yn darparu ystod gynhwysfawr o gymorth ar gyfer cartrefi

tlotach. Mae’r rhaglen 3 blynedd gwerth £150 miliwn ar y trywydd iawn i gyflawni

40 y cant o darged arbed ynni rhaglen tlodi tanwydd Nwy Prydain ar gyfer 2002-

2005. Mae’r ymagwedd ariannu integredig a’r arbedion maint yn deillio o weithio

mewn meysydd cyfyngedig yn ei gwneud yn bosibl i gyrraedd y targed am gost lai o

dipyn na rhaglenni traddodiadol.

Hyd yn hyn, nodwyd 295 000 o gartrefi, a chynhaliwyd arolwg o 80 000 o gartrefi. O

ganlyniad nododd asesiadau budd-dâl fod budd-daliadau gwerth £3.6 miliwn heb eu

hawlio; sy’n gynnydd cyfartalog posibl o £1 400 fesul cartref cymwys y flwyddyn. A

chododd canfyddiad y cyhoedd o Nwy Prydain fel cwmni sy’n gymdeithasol-gyfrifol

o 53 y cant (ym mis Mawrth 2003) i 71 y cant (erbyn mis Tachwedd 2003). –

ffynhonell: TNS SR Tracker.

Yn y DU, mae busnesau o bob math yn wynebu cystadleuaeth economaidd gynyddol i

ddatblygu syniadau newydd, cynyddu eu cynhyrchiant, a chreu cynhyrchion newydd a

gwasanaethau gwerth uchel. Ac mae enw da cwmni, sy’n ased anghyffwrddadwy,

bellach yn rhan hanfodol o ddatblygu a chadw gwerth cwmni ar y farchnad, ac mae’n

methiannau canfyddedig o ran cyfrifoldeb cymdeithasol ac amgylcheddol yn effeithio

arno’n gynyddol. Wrth gwrs mae gwneud elw yn bwysig - rhaid mai dyna beth yw

nod sylfaenol unrhyw fusnes. Ond fel y dengys yr astudiaethau achos o enillwyr

gwobrau Busnes yn y Gymuned 39 gall camau gweithredu o’r fath ddod â manteision

pwysig o ran gwell enw corfforaethol, gwell cyfraddau recriwtio a chadw staff, costau

llai a gallant gynnig mantais gystadleuol gynaliadwy i wahaniaethu rhwng busnesau

ar y farchnad.

Kent Art Printers Ltd (KAP)

Gwobrau Busnes yn y Gymuned am Ragoriaeth 2004 – enillydd y Big Tick.

Mae Kent Art Printers (KAP) yn gwmni argraffu teuluol yn Chatham, Swydd Gaint

sy’n cyflogi 35 o staff. Dros y 15 mlynedd diwethaf mae wedi:

� cyflwyno argraffu di-alcohol, inciau a wneir o lysiau, a gwasanaeth darllen

proflenni dros y rhyngrwyd

� ymestyn gweithgarwch ailgylchu/ailddefnyddio gwastraff, a chael trydan o ynni

adnewyddadwy

� hyrwyddo cydbwysedd gwaith iach gydag un sifft waith a dibyniaeth isel ar

oramser

� trefnu ymweliadau ysgol rheolaidd â’r safle fel rhan o faes llafur gwyddoniaeth

� rhoi cyfleoedd am leoliadau gwaith i ysgolion lleol, a Lycée yn Poiters, Ffrainc

� noddi cynlluniau gwobrwyo – megis y rhai yn y coleg celfyddydau lleol

� cefnogi elusennau lleol drwy roi amser staff, adnoddau argraffu ac adnoddau

eraill.

Mae KAP wedi elwa ar ei gweithredoedd sy’n gyfrifol yn gymdeithasol ac yn

amgylcheddol, drwy greu troedle iddo’i hun yn y farchnad fel argraffydd gwyrdd sy’n

gymdeithasol gyfrifol, y mae pobl am weithio iddo ac y mae cwsmeriaid am weithio

gydag ef, ac fel sefydliad sy’n cael effaith gadarnhaol ar y gymuned leol sy’n

anghymesur â’i faint cymharol fach.

Mae camau gweithredu allweddol a’r hyn y bydd y Llywodraeth yn ei wneud i

sicrhau eu bod yn digwydd yn cynnwys:

39 Ceir rhagor o wybodaeth yn www.bitc.org.uk ar fudiad unigryw o 700 o gwmnïau sy’n ceisio

ysbrydoli a chynorthwyo byd busnes i gynyddu ei effaith gadarnhaol ar gymdeithas.

� Cynllunio cynaliadwy – galluogi defnyddwyr i wneud dewisiadau mwy

cynaliadwy drwy “ei gynllunio i mewn”. Byddwn yn sefydlu Fforwm Cynllunio

Cynaliadwy i brif ffrydio cynaliadwyedd i weithgarwch cynllunio cynhyrchion

� Ymestyn y Rhaglen Trawsnewid Marchnadoedd i faterion cylch bywyd ehangach

cynhyrchion allweddol

� Rhoi gwybodaeth i randdeiliaid am effeithiau – bydd Environment Direct yn rhoi

gwybodaeth i ddefnyddwyr am gynhyrchion, a bydd yr Adolygiad Gweithredu ac

Ariannol yn golygu y rhoddir gwybod am effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol

a chymunedol busnesau ynghyd â gwybodaeth ariannol os bydd angen.

� Arloesi er mwyn mynd i’r afael â heriau cynaliadwyedd a gofynion rheoliadol

newydd – byddwn yn integreiddio cynaliadwyedd â’n rhaglenni cynorthwyo

busnes, a chyflwyno rheoleiddio yn raddol i gyd-fynd â chylchoedd cynhyrchion

� “Hybu Cynaliadwyedd” – byddwn yn lansio her cynaliadwyedd sectorau newydd i

gymdeithasau masnachol a chwmnïau blaenllaw

� Buddsoddi cynaliadwy – byddwn yn ymgysylltu â sefydliadau ariannol i helpu i

lywio newid mewn busnesau

� Gweithleoedd cynaliadwy - bydd Cynllun Gweithredu Datblygu Cynaliadwy'r

Adran Masnach a Diwydiant, Strategaeth Cynaliadwyedd yr Undebau Llafur a

gwaith gyda Cynghorau Sgiliau Sector yn gwella ymwybyddiaeth, cyfranogiad a

sgiliau yn y gweithle

� Lleihau gollyngiadau nwyon tþ gwydr. Byddwn yn cynorthwyo hyn drwy fesurau

yn cynnwys hyrwyddo effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy

� Effeithiau cymunedol – cynnwys busnesau mewn strategaethau cymunedol drwy

fentrau megis cynllun y Broceriaid Busnes a Her Gorfforaethol

� Cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy rhanbarthol – bydd canllawiau i awdurdodau

datblygu rhanbarthol ar baratoi Strategaethau Economaidd Rhanbarthol yn ymdrin

â datblygu cynaliadwy

� Effeithiau rhyngwladol – manteisio i’r eithaf ar y cyfraniad cadarnhaol y gall byd

busnes ei wneud at ddatblygu cynaliadwy rhyngwladol. Byddwn yn sefydlu Grðp

Ymgynghorol ar fesur effeithiau cwmnïau yn y DU ac yn ymgyrchu dros

ganlyniad llwyddiannus o ran yr elfennau hynny o Agenda Datblygu Doha sy’n

ymwneud â masnachu a’r amgylchedd a masnachu a datblygu, a thros gynnwys

datblygu cynaliadwy mewn cytundebau masnach dwyochrog yn yr UE

Grðp Strategaeth Cadwyni Cyflenwi (SSSG)

Llywio cynhyrchu a defnyddio cynaliadwy drwy weithgarwch caffael strategol a

rheoli cadwyni cyflenwi

Mae’r Grðp Cadwyni Cyflenwi Strategol yn dod ag Uwch Weithredwyr a

chynrychiolwyr lefel Bwrdd, o amrywiaeth eang o sefydliadau, at ei gilydd i ystyried

materion amgylcheddol a materion cynaliadwyedd yn ymwneud â chadwyni cyflenwi.

Ei nod yw lledaenu arfer gorau drwy rwydweithiau cyflenwi ei aelodau ac mae

wrthi’n creu cysylltiadau â sefydliadau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae camau gweithredu a chanlyniadau’r grðp yn cynnwys:

� achos busnes ar gyfer Rheoli Cadwyni Cyflenwi Cynaliadwy – ar gyfer Prif

Weithredwyr

� ymagwedd rheoli risg at reoli cadwyni cyflenwi cynaliadwy – dogfen ganllaw ar

gyfer ymarferwyr

� Hyfforddiant Caffael Cynaliadwy – cyfres o weithdai undydd ar gyfer busnesau a

sefydliadau yn y sector cyhoeddus

� astudiaethau achos o arfer da o ran rheoli cadwyni cyflenwi cost-effeithiol,

cynaliadwy sy’n nodi materion datblygu cynaliadwy allweddol yn ymwneud â

chadwyni cyflenwi byd-eang aelodau’r grðp

� datblygu dulliau a thechnegau i reoli materion pwysig, gan gynnwys:

strategaethau CO2, rheoli fflydau, lleihau gwastraff drwy gaffael, adeiladu

cynaliadwy, arloesi ym maes cynllunio cynhyrchion cynaliadwy a meincnodi

caffael cynaliadwy.

Mentrau Cymdeithasol

Mae Mentrau Cymdeithasol yn fusnesau ac iddynt amcanion cymdeithasol yn bennaf

yr ail-fuddsoddir eu gwargedion yn bennaf i’r diben hwnnw yn y busnes neu yn y

gymuned, yn hytrach na theimlo bod angen iddynt wneud cymaint o elw â phosibl ar

gyfer cyfranddalwyr a pherchnogion. Gall mentrau cymdeithasol llwyddiannus

chwarae rhan bwysig i helpu i gyflawni llawer o amcanion polisi allweddol y

Llywodraeth drwy:

� helpu i wella cynhyrchiant a chystadleurwydd

� cyfrannu at greu cyfoeth cymdeithasol-gynhwysol

� galluogi unigolion a chymunedau i weithio tuag at adfywio eu cymdogaethau lleol

� dangos ffyrdd newydd o gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus

� helpu i ddatblygu cymdeithas gynhwysol a dinasyddiaeth weithredol.

Gweledigaeth y Llywodraeth yw gweld mentrau cymdeithasol deinamig a

chynaliadwy yn atgyfnerthu economi gynhwysol sy’n tyfu. Maent eisoes yn gwneud

cyfraniad gwerthfawr drwy fentrau bwyd lleol, cynlluniau trafnidiaeth gymunedol,

cynhyrchion masnach deg a chynlluniau ailgylchu.

Mae Bulky Bob’s yn enghraifft wirioneddol o gyflwyno gwasanaethau

‘cydgysylltiedig’. Dengys sut y gall awdurdod lleol sicrhau gwerth gorau, gwella

gwasanaethau, mynd i’r afael â thlodi a chefnogi twf a chynaliadwyedd mentrau

cymdeithasol. Mae Bulky Bob’s, a lansiwyd yn 2000, yn is-gwmni un perchennog i

elusen y FRC Group, ac enillodd gontract gyda Chyngor Dinas Lerpwl i gasglu

gwastraff cartref swmpus. Mae’r fenter yn galw heibio i fwy na 60,000 o gartrefi bob

blwyddyn ac mae’n ceisio ailddefnyddio, ailgylchu ac adnewyddu o leiaf 30 y cant yn

ôl tunelli o’r eitemau a gesglir. Mae’r fenter wedi ymrwymo i greu cyflogaeth a

darparu hyfforddiant ac mae ganddi gyfradd lwyddo o 89 y cant o ran cael swyddi i

bobl a fu’n ddi-waith ers amser hir.

Mike Storey – arweinydd Cyngor Dinas Lerpwl

“Mae Bulky Bob’s yn dangos sut y gall busnes cymdeithasol newydd wir gysylltu

pethau. Mae trigolion yn cael gwasanaeth casglu llawer gwell a dibynadwy. Mae

teuluoedd mewn angen yn cael dodrefn rhad boddhaol. Mae pobl ddi-waith yn cael

swyddi yn casglu, yn didoli, yn ailgylchu ac yn gwerthu nwyddau. Mae pawb ar ei

ennill”.

Pennod 4

Wynebu’r Bygythiad Mwyaf:

Newid yn yr Hinsawdd ac Ynni

Y ffeithiau

Dengys amcanestyniadau o newidiadau yn yr hinsawdd yn y dyfodol y gallai

tymheredd cyfartalog y byd godi rhwng 1.4 o C a 5.8 o C rhwng 1990 a 2100 yn

dibynnu ar ollyngiadau 1

Erbyn y 2080au gallai’r nifer flynyddol o bobl sydd mewn perygl o lifogydd

arfordirol oherwydd ymchwyddiadau gynyddu o tua 10 miliwn i gymaint ag 80

miliwn ledled y byd, gyda thua hanner y cynnydd yn y rhannau tlotaf o Asia 2

Ar ôl gwneud addasiadau ar gyfer symudiadau tir naturiol, mae lefel gyfartalog y môr

o amgylch y DU bellach tua 10cm yn uwch nag ydoedd yn 1900 3

Awgrymodd rhagolygon erbyn 2030 y gallai gollyngiadau o awyrennau gyfateb i tua

chwarter cyfanswm cyfraniad y DU at y newid yn yr hinsawdd 4

Mae pob cartref yn y DU yn creu tua chwe thunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn

– digon i lenwi chwe balðn awyr boeth 10 metr ar ei draws. Drwy gymryd mesurau

effeithlonrwydd ynni gallai’r cartref cyffredin leihau hyn o draean (2 dunnell) ac

arbed £200 y flwyddyn 5

Crynodeb

Mae effeithiau hinsawdd sy’n newid eisoes i’w gweld. Mae tymereddau a lefelau môr

yn codi, mae gorchudd iâ ac eira yn crebachu. Gallai’r canlyniadau fod yn

drychinebus i’r byd naturiol a chymdeithas. Y consensws ymhlith gwyddonwyr yw y

gellir priodoli’r rhan fwyaf o’r cynhesu a welwyd yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf

i weithgarwch dynol, drwy ollyngiadau nwyon tþ gwydr - megis carbon deuocsid a

methan - i’r awyrgylch. Mae’n rhaid i ni newid yn llwyr y defnydd yr ydym yn ei

wneud o ynni a gweithgareddau eraill sy’n rhyddhau’r nwyon hyn. Ac mae’n rhaid i

ni baratoi ar gyfer y newidiadau yn yr hinsawdd nad oes modd eu hosgoi bellach.

[box]

Ymatebion i’r ymgynghoriad Ymlaen fo’r Nod

1

Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC), 2001, Trydydd Adroddiad Asesu yn

www.ipcc.ch

2

Ymchwil Garlam wedi’i hariannu gan Defra Nicholls R. J., 2004, ‘Coastal flooding and wetland loss

in the 21 st century Global Environmental Change’, Cyfrol 14, tudalennau 69-86

3

Rhaglen Effeithiau Newid yn yr Hinsawdd y DU yn

www.ukcip.org.uk/climate_change/how_uk_change.asp

4

DfT, 2003, ‘The Future of Air Transport’. Yn y cyd-destun hwn, diffinnir y sector hedfan yn y DU fel

pob gwasanaeth mewnwladol, ynghyd â phob ymadawiad rhyngwladol o’r DU. Nid oes unrhyw

gytundeb rhyngwladol eto ar ddyrannu gollyngiadau’r sector hedfan rhyngwladol i wladwriaethau

unigol.

5

Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, 2004, yn

www.est.org.uk/myhome/climatechange/stats/homeenvironment/

At ei gilydd mae’r ymatebion i’r cwestiynau am newid yn yr hinsawdd ac ynni ar

gyfer yr ymgynghoriad ‘Ymlaen fo’r Nod - datblygu strategaeth datblygu cynaliadwy

i’r DU gyda’n gilydd’, yn rhannu’n dri chategori yn awgrymu (i) defnydd helaethach

o drethi a mesurau ariannol eraill, (ii) mwy o addysg a gweithgareddau codi

ymwybyddiaeth a (iii) y Llywodraeth yn arwain drwy esiampl. Cafodd dau faes polisi

penodol sylw arbennig: cynllunio defnydd tir - a nodwyd fel cyfrwng allweddol i

sicrhau’r newidiadau sydd eu hangen, a hedfan fel sector y mae angen ei reoleiddio’n

fwy effeithiol i reoli ei gyfraniad at gyfanswm y gollyngiadau nwyon tþ gwydr.

1. Ein hymagwedd

Mae datblygu cynaliadwy a’r newid yn yr hinsawdd yn ddwy her hanfodol bwysig a

chysylltiedig sy’n ein hwynebu yn yr 21ain ganrif. Bydd ein gallu i ddatblygu yn fwy

cynaliadwy yn pennu pa mor gyflym ac i ba raddau y bydd yr hinsawdd yn newid. Ac

wrth i’r hinsawdd newid bydd y dewisiadau sydd ar gael i ni i sicrhau ein bod yn

datblygu yn gynaliadwy yn newid.

Mae angen i ni leihau ein gollyngiadau nwyon tþ gwydr yn sylweddol – gartref, yn y

gwaith a phan fyddwn yn teithio, fel y gallwn newid cwrs y newid yn yr hinsawdd. Ar

ben hynny, mae’n anochel bellach y bydd yr hinsawdd yn newid rywfaint o ganlyniad

i’n gollyngiadau nwyon tþ gwydr yn y gorffennol. Mae angen i ni addasu – wrth i ni

weithredu i leihau gollyngiadau – i reoli’n fwy effeithiol effeithiau newidiadau yn yr

hinsawdd yn y dyfodol ar yr amgylchedd, yr economi a chymdeithas.

“Y Newid yn yr Hinsawdd yw’r broblem fwyaf difrifol yr ydym yn ei hwynebu

heddiw”

Syr David King, prif gynghorydd gwyddonol Llywodraeth y DU, 2004

[picture caption]

Llifogydd yn Chertsey, Surrey

Ffynhonnell: 3rd Avenue

[box]

Beth fydd newid yn yr hinsawdd yn ei olygu i’r byd yn yr 21ain ganrif?

Byddai tymereddau uwch yn achosi i gyfaint y cefnforoedd fynd yn fwy, a byddai

rhewlifau a chapanau iâ sy’n toddi yn ychwanegu mwy o ddðr. Os cyrhaeddir pen

uchaf y codiad mewn lefelau môr a ragwelir gennym, câi arfordiroedd tra phoblog

gwledydd megis Bangladesh eu gorlifo, efallai y bydd rhai gwledydd yn diflannu yn

gyfan gwbl (megis gwladwriaeth ynys y Maldives), gallai cyflenwadau dðr croyw ar

gyfer biliynau o bobl gael eu difwyno, a gallai’r effaith ysgogi ymfudo torfol.

Disgwylir i gynnyrch amaethyddol ostwng yn y mwyafrif o ranbarthau trofannol ac

isdrofannol ar gyfer pob codiad gradd yn y tymheredd amgylchynol. Rhagwelir y

bydd mewndiroedd cyfandirol, megis canolbarth Asia, rhanbarth Sahel yn Affrica, a

Gwastadeddau Mawr yr Unol Daleithiau yn mynd yn sych hefyd. Gallai’r newidiadau

hyn amharu ar y defnydd a wneir o dir a chyflenwadau bwyd o leiaf. Ac efallai y bydd

yr ystod o glefydau megis malaria yn ymestyn ac yn lledaenu.

Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, www.unfccc.int

Beth fydd newid yn yr hinsawdd yn ei olygu i’r DU yn yr 21ain ganrif?

Bydd lefel gymharol y môr yn parhau i godi o amgylch y rhan fwyaf o draethlin y

DU. Erbyn y 2080au efallai y bydd lefelau môr yn Aber Afon Tafwys wedi codi

cymaint â 86 cm. a

Bydd gaeafau yn mynd yn wlypach ac efallai y bydd hafau’n mynd yn fwy sych ym

mhob man. Erbyn y 2050au efallai y bydd lleithder cyfartalog pridd yn yr haf wedi

gostwng o hyd at 30 y cant dros rannau helaeth o Loegr. Erbyn y 2080au gallai hyn

gyfateb i ostyngiad o 40 y cant neu ragor. a

Bydd tymereddau uchel yn yr haf yn amlach a bydd gaeafau oer iawn yn mynd yn

fwyfwy anghyffredin a . Efallai y cawn haf poeth iawn, fel yr un a gafwyd ledled Ewrop

yn 2003, mor aml â phob yn ail flwyddyn yn y 2040au, a gellid ystyried ei fod yn haf

‘oer’ erbyn diwedd y ganrif. b

Mwy o farwolaethau yn gysylltiedig â gwres, achosion o wenwyn bwyd a chanser y

croen a mwy o risg o drychinebau mawr wedi’u hachosi gan wyntoedd mawr a

llifogydd difrifol yn y gaeaf. Erbyn y 2050au, efallai y bydd marwolaethau yn

gysylltiedig â gwres yn cynyddu 2,000 o achosion y flwyddyn, achosion o wenwyn

bwyd 10,000 y flwyddyn efallai ac mae’n bosibl y bydd canser y croen yn cynyddu

5,000 o achosion y flwyddyn. Fodd bynnag, efallai y bydd marwolaethau yn

gysylltiedig ag oerfel yn lleihau 20,000 y flwyddyn o bosibl. c

a: Ffigurau o: ‘Climate Change Scenarios for the United Kingdom: the UKCIP02

Briefing Report’, 2002, Canolfan Ymchwil Newid yn yr Hinsawdd Tyndall, Prifysgol

East Anglia. Gwerthoedd cyfredol yn seiliedig ar gyfartaledd ar gyfer 1961-1990,

gwerthoedd rhagweledig yn seiliedig ar y senario lle y ceir lefelau uchel o

ollyngiadau. Ar gael o http://www.ukcip.org.uk

b: Stott, P. A., Stone D. A., ac Allen M. R., 2004 ‘Human Contribution to the

European heatwave of 2003’, Nature, cyfrol 432, tudalennau 610-614

c: Ffigurau o: ‘Health effects of Climate Change,’ 2001, a gynhyrchwyd ar gyfer yr

Adran Iechyd. Niferoedd rhagweledig o achosion yn seiliedig ar y senario lle y ceir

lefelau canolig-uchel o ollyngiadau

2. Targedau ar gyfer gollyngiadau a’r cynnydd a wnaed hyd yma

Yn 2003, ymrwymodd Llywodraeth y DU i’r nod hirdymor o leihau gollyngiadau

carbon deuocsid tua 60 y cant erbyn tua 2050 gan wneud cynnydd gwirioneddol erbyn

2020. Roedd y DU yn un o’r gwledydd cyntaf i gyhoeddi nod mor uchelgeisiol a

phellgyrhaeddol.

Roedd y nod hwn yn ychwanegol at ddau darged a oedd wedi’u gosod eisoes ar gyfer

y DU, sef:

[box]

targed Protocol Kyoto i leihau gollyngiadau nwyon tþ gwydr y DU 12.5 y cant

yn is na lefelau’r flwyddyn sylfaenol yn ystod y cyfnod 2008-12 6

y nod cenedlaethol o leihau gollyngiadau carbon deuocsid 20 y cant yn is na

lefelau 1990 erbyn 2010

Pam y mae gennym dargedau ar gyfer gollyngiadau nwyon tþ gwydr a charbon

deuocsid

Mae ein targed o dan Brotocol Kyoto yn ymwneud â lleihau gollyngiadau’r chwe

phrif nwy tþ gwydr – sef carbon deuocsid (CO2), methan (CH4), ocsid nitraidd (NO2),

hydrofflworocarbonau (HFCau), perfflworocarbonau (PFCau) a sylffwr hecsafflworid

(SF6).

Hefyd penderfynodd Llywodraeth y DU osod nodau cenedlaethol ar gyfer un o’r

nwyon hyn yn unig - sef carbon deuocsid - am mai carbon deuocsid yw’r pwysicaf o’r

chwe nwy o bell ffordd, a bydd yn gyfrifol am tua dwy ran o dair o’r newid yn yr

hinsawdd a ddisgwylir yn y dyfodol. Mae’n un o’r nwyon sy’n anos ei reoli hefyd.

Dengys yr amcanestyniadau diweddaraf fod y DU ar ben y ffordd i gyrraedd ei

tharged o dan Brotocol Kyoto, sy’n gryn lwyddiant. Fodd bynnag, mae angen gwneud

mwy i gyflawni ein nod cenedlaethol o leihau gollyngiadau carbon deuocsid erbyn

2010. Dengys amcanestyniadau cyfredol, gan gymryd i ystyriaeth fesurau yn Rhaglen

Newid yn yr Hinsawdd y DU (CCP), y disgwylir i ollyngiadau carbon deuocsid fod

tua 14 y cant yn is lefelau 1990 erbyn 2010 yn hytrach nag 20 y cant. Drwy’r

adolygiad presennol o Raglen Newid yn yr Hinsawdd y DU mae’r Llywodraeth wedi

ymrwymo i werthuso mesurau a nodau’r rhaglen bresennol ac mae’n bwriadu

cyhoeddi rhaglen ddiwygiedig yn haf 2005. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n gilydd

yn y Llywodraeth i sicrhau ein bod yn ystyried pob agwedd ar gost a budd lleihau

gollyngiadau ar draws pob sector, ac i sicrhau y gallwn barhau i wneud cynnydd tuag

at gyflawni ein targedau a’n nodau hirdymor.

[Chart]

Emissions of carbon dioxide …. – Gollyngiadau carbon deuocsid a basged Protocol

Kyoto o nwyon tþ gwydr rhwng 1990 a 2003.

Emissions of ….. – Gollyngiadau nwyon tþ gwydr 1990-2003

Basket of greenhouse gases – Basged o nwyon tþ gwydr

Carbon dioxide – carbon deuocsid

Kyoto target by 2008-2012 – Targed Kyoto erbyn 2008-2012

Domestic carbon dioxide goal…- Nod carbon deuocsid y DU erbyn 2010

6 O dan Brotocol Kyoto, mesurir gostyngiadau yn y tri phrif nwy –carbon deuocsid, methan ac ocsid

nitraidd yn erbyn blwyddyn sylfaen, sef 1990. Mesurir gostyngiadau mewn hydrofflworocarbonau,

perfflworocarbonau a sylffwr hecsafflworid yn erbyn llinell sylfaen, sef 1995.

Million tonnes (carbon equivalent) – miliwn o dunelli (yn cyfateb i garbon)

Million tonnes (carbon dioxide equivalent) – miliwn o dunelli (yn cyfateb i garbon

deuocsid)

Note: estimates for 2003 are provision – Noder: mae’r amcangyfrifon ar gyfer 2003

yn rhai dros dro

Ffynhonnell: Technoleg Amgylcheddol Genedlaethol

3. Fframwaith rhyngwladol

Gall y DU ddangos arweiniad wrth fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a dylai

wneud hynny, ond am mai dim ond 2.2 y cant o ollyngiadau’r byd yr ydym yn

gyfrifol amdanynt mae angen i ni sicrhau bod gwledydd eraill yn gweithio gyda ni.

Bydd Llywodraeth y DU yn parhau i weithio gyda gwledydd eraill i greu

consensws ynghylch yr angen am newid ac ymrwymiadau cadarn i leihau

gollyngiadau carbon, gan ddefnyddio Confensiwn Fframwaith y

Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd (UNFCCC)

Bydd hyn yn dwyn manteision i ddatblygu economaidd byd-eang hirdymor a lles

dynol, a bydd yn diogelu rhag y posibilrwydd y gallai camau gweithredu a gymerir

gan y DU ar ei phen ei hun i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ei gwneud yn llai

cystadleuol.

Confensiwn Fframwaith y CU ar Newid yn yr Hinsawdd a Phrotocol Kyoto

Daeth Protocol Kyoto i rym ar 16 Chwefror 2005. Hwn yw’r fframwaith cyntaf erioed

ar gyfer camau gweithredu rhyngwladol ac mae’n cynnwys targedau ac amserlenni

gyfrwymol ar gyfer lleihau gollyngiadau nwyon tþ gwydr. Fe’i cadarnhawyd gan dros

140 o wledydd. Mae’r Protocol yn garreg filltir bwysig iawn o ran mynd i’r afael â’r

newid yn yr hinsawdd.

Ond dim ond cam cyntaf yw Protocol Kyoto, sy’n nodi camau gweithredu ar gyfer

cyfnod yr ymrwymiad cyntaf yn unig (tan 2012). Mae gollyngwr mwyaf y byd – sef

UDA – a nifer o wledydd eraill wedi’i gwneud yn glir na fyddant yn cymryd rhan ym

Mhrotocol Kyoto, ac mae’n hanfodol bwysig ein bod yn cychwyn trafodaethau gyda

phob parti ynghylch pa gamau y dylid eu cymryd ar ôl 2012.

[box]

Protocol Kyoto

Ym mis Rhagfyr 1997, cyfarfu dros 160 o wledydd yn Kyoto, Japan i drafod

Confensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd

(UNFCCC). Ffrwyth y cyfarfod oedd Protocol Kyoto, lle y gosododd gwledydd

datblygedig dargedau ar gyfer cyfyngu ar eu gollyngiadau nwyon tþ gwydr. Gallai

gwledydd a gadarnhaodd y Protocol gyfnewid gollyngiadau gyda’i gilydd, a fyddai’n

gwobrwyo gwledydd sy’n llwyddo i leihau eu gollyngiadau y tu hwnt i’w targedau.

Yn 2005, mae’r DU yn dal llywyddiaeth y G8 a llywyddiaeth yr UE, ac mae’r Prif

Weinidog wedi gosod newid yn yr hinsawdd ar frig yr agenda yn y ddwy arena, gan

roi cyfle gwerthfawr i ni godi proffil y mater hwn ledled y byd ac ategu ac atgyfnerthu

proses UNFCCC.

[box]

Llywyddiaethau’r G8 a’r UE

Nododd y Prif Weinidog, yn ei araith i Raglen Busnes a’r Amgylchedd Tywysog

Cymru yn 2004, dri nod cyffredinol ar gyfer llywyddiaeth y DU ar y G8 i fynd i’r

afael â’r newid yn yr hinsawdd, sef:

adeiladu sylfaen gadarn ar y wyddoniaeth er mwyn i ni fod mewn sefyllfa i

ddod i gytundeb byd-eang ar natur frys y broblem. Cafwyd llawer o

wybodaeth wyddonol newydd ar y newid yn yr hinsawdd ers i 3ydd

Adroddiad Asesu’r Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd gael

ei gyhoeddi yn 2001

dod i gytundeb ar broses i gyflymu’r wyddoniaeth, y dechnoleg a mesurau

eraill sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r bygythiad

mynd i’r afael â gwledydd y tu allan i’r G8 a chanddynt anghenion ynni sy’n

tyfu, megis Tsieina ac India, ynghylch sut y gellir diwallu’r anghenion hynny

yn gynaliadwy a sut y gallant addasu i’r effeithiau sydd eisoes yn anochel.

Bydd y DU yn defnyddio ei Llywyddiaeth ar yr Undeb Ewropeaidd yn ail hanner

2005 i barhau â’r gwaith o ddatblygu strategaeth tymor canolig a hirdymor i’r UE ar

gyfer mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Bydd hyn yn ategu trafodaethau yn

11eg Gynhadledd y Partïon i Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig yn 2005

ynghylch rhagor o gamau gweithredu rhyngwladol i fynd i’r afael â’r newid yn yr

hinsawdd. Blaenoriaeth allweddol arall fydd codi proffil problem gynyddol

gollyngiadau o awyrennau.

Cymorth ariannol a throsglwyddo technoleg

Mae cydweithredu rhyngwladol yn chwarae rhan hollbwysig wrth fynd i’r afael â’r

newid yn yr hinsawdd. Bydd y DU yn parhau i weithio gyda gwledydd sy’n datblygu i

fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, ac i hyrwyddo trosglwyddo technoleg a

gwella mynediad i gymorth ariannol perthnasol. Bydd y Llywodraeth yn edrych ar

ffyrdd o sicrhau bod cymorth ariannol y DU i wledydd sy’n datblygu yn rhoi cymaint

o gyfleoedd â phosibl i fabwysiadu technolegau carbon isel a dim carbon a bydd yn

annog sefydliadau rhyngwladol megis Banc y Byd i wneud yr un peth.

Mewn llawer o wledydd, yn arbennig yn Affrica a De Asia, nid oes gan y mwyafrif o

bobl fynediad i drydan na thanwydd modern ar gyfer coginio, gwresogi a mentrau

cynhyrchiol 7 . Mae hyn yn cyfyngu’n ddirfawr ar dwf economaidd y gwledydd hynny

7 Nododd yr Asiantaeth Ynni Ryngwladol (2004) fod 1.6 biliwn o bobl, sef chwarter poblogaeth y byd,

yn byw heb drydan a bod 2.4 biliwn yn defnyddio bio-mas traddodiadol yn unig at ddibenion coginio a

gwresogi.

ac ar eu hymdrechion i leihau tlodi ac effeithiau tlodi. Fel rhan o’r cymorth a roddir

gennym i wledydd llai datblygedig, mae’r DU yn gweithio gyda phartneriaid

rhyngwladol i wella mynediad i fathau modern o ynni.

Er y bydd mwy o fynediad i ynni modern yn cynyddu gollyngiadau carbon o wledydd

sy’n datblygu, bydd hyn yn disodli dulliau aneffeithlon a gwastraffus o ddefnyddio

ynni, megis llosgi coed ar stofiau cyntefig a defnyddio canhwyllau a cherosin at

ddibenion goleuo. Bydd manteision iechyd pwysig a manteision cymdeithasol eraill

yn ogystal â mwy o gyfleoedd ar gyfer cyflogaeth ac incwm. Mae’n rhaid i

ymdrechion i leihau gollyngiadau carbon ledled y byd gydnabod bod angen

gwasanaethau ynni digonol, dibynadwy a fforddiadwy ar wledydd sy’n datblygu i’w

galluogi i sicrhau safonau byw derbyniol ar gyfer eu dinasyddion eu hunain.

Gall cydweithredu rhyngwladol gyflymu’r broses o ddatblygu a defnyddio

technolegau carbon isel newydd a fydd yn hanfodol i leihau ein dibyniaeth ar

danwydd ffosil a gall leihau’r costau sydd ynghlwm wrth y broses honno. Yn

arbennig, bydd y DU yn gweithio gyda Sefydliadau Ariannol Rhyngwladol (IFI) –

megis Banc y Byd – i leihau rhwystrau yn y farchnad i fuddsoddi a chynyddu lefelau

benthyca gan fanciau datblygu ar gyfer technolegau carbon isel.

Ynni ac effeithlonrwydd ynni rhyngwladol

Mae’r Strategaeth Ynni Ryngwladol (2004) yn nodi sut y mae’r Llywodraeth yn

bwriadu mynd i’r afael â’r her ryngwladol o sicrhau mynediad i gyflenwadau ynni

diogel a fforddiadwy a lliniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.

Mae’r Bartneriaeth Ynni Adnewyddadwy ac Effeithlonrwydd Ynni (REEEP) yn

bartneriaeth fyd-eang yn deillio o Uwchgynhadledd y Byd ar Ddatblygu Cynaliadwy

(WSSD) ar gyfer cyflymu ac ymestyn y farchnad fyd-eang am ynni adnewyddadwy a

systemau/technolegau effeithlonrwydd ynni. Mae’n canolbwyntio ar bolisi a

rheoleiddio, ac ariannu arloesol yn y byd datblygedig a’r byd sy’n datblygu, i godi

ymwybyddiaeth a datblygu a lledaenu arfer gorau.

[picture caption]

Menter ffotofoltäeg yn Qinghai, Tsieina

Ym mis Rhagfyr 2004, clustnododd Llywodraeth y DU £2.5 miliwn ychwanegol ar

gyfer REEEP ar gyfer 2005/06. Dyma’r swm mwyaf o arian a glustnodwyd gan

unrhyw wlad hyd yma ac mae’n ychwanegol at y £1 filiwn o arian newydd a

glustnodwyd eisoes gan y DU ar gyfer 2005/06.

[box]

Y Ford Gron Ryngwladol

Mae Defra a’r Adran Masnach a Diwydiant yn cynnal Bord Gron ar y cyd yn

Llundain (15-16 Mawrth 2005) i ystyried yr her o sicrhau dyfodol ynni cynaliadwy a

diogel i bawb mewn byd carbon isel rhwng nawr a 2050. Mynychir y Ford Gron gan

weinidogion Ynni a’r Amgylchedd o tua 20 o wledydd a chanddynt anghenion ynni

sylweddol dros yr hanner canrif nesaf, ynghyd â rhai ffigyrau pwysig o fyd busnes ac

o’r sefydliadau amlochrog allweddol sy’n ymwneud â materion ynni a materion

amgylcheddol.

Bydd y Ford Gron yn canolbwyntio ar y ffactorau rhyngwladol sy’n llywio sut y gall

polisi ynni yn ystod yr hanner canrif nesaf sicrhau economïau carbon isel. Rydym yn

bwriadu hyrwyddo deialog ddefnyddiol ac anffurfiol ynghylch y fframweithiau polisi

sydd eu hangen i gydbwyso mynediad i ynni, diogelwch ynni a phryderon

amgylcheddol; ac yn arbennig, sut y gellir gweithredu ar yr heriau technolegol a

datblygu’r dulliau ariannu posibl ar gyfer systemau carbon isel.

4. Fframwaith polisi’r DU

Cyhoeddwyd Rhaglen Newid yn yr Hinsawdd y DU (CCP) yn 2000. Mae’n nodi

pecyn o bolisïau i helpu i gyrraedd ein targed o dan Brotocol Kyoto a’n symud tuag at

ein nod cenedlaethol ar gyfer 2010.

Mae’r polisïau hyn yn cynnwys mesurau i hyrwyddo effeithlonrwydd ynni mewn

cartrefi a busnesau, cyflwyno diwydiant i fanteision cyfnewid gollyngiadau, cynyddu

cyfran y trydan a gynhyrchir gan ynni adnewyddadwy, hyrwyddo defnyddio cerbydau

sy’n creu llai o lygredd, ac annog unigolion a chymunedau i ystyried sut y gellir

lleihau gollyngiadau carbon deuocsid er enghraifft drwy waith yr Ymddiriedolaeth

Arbed Ynni.

Mae datblygiadau pellach ers cyhoeddi’r Rhaglen yn cynnwys:

[box]

y Papur Gwyn ar Ynni (2003) a nododd fod mynd i’r afael â’r newid yn yr

hinsawdd yn un o’r pedwar nod ar gyfer polisi ynni

cynllun cyfnewid gollyngiadau’r UE, a lansiwyd yn gynharach eleni

y Cynllun Gweithredu Effeithlonrwydd Ynni (2004)

gofyniad bod y Llywodraeth yn gwneud asesu effaith carbon yn rhan annatod

o’r gwaith o asesu effeithiau amgylcheddol polisïau newydd fel rhan o’r

Asesiadau Effaith Reoliadol cyffredinol (RIA) a gyflawnir cyn y caiff polisïau

eu gweithredu.

Y Papur Gwyn ar Ynni

Nododd y Llywodraeth ei strategaeth ar gyfer mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu

ein system ynni yn 2003: ‘Dyfodol ein hynni: creu economi carbon-isel’. Mae’r papur

gwyn yn rhoi fframwaith hirdymor ar gyfer datblygu polisïau i sicrhau bod gan y DU

fynediad i ynni cynaliadwy, dibynadwy a fforddiadwy, drwy farchnadoedd

cystadleuol. Mae’n nodi pedwar nod ar gyfer polisi ynni, sef:

ein rhoi ein hunain ar lwybr tuag at leihau gollyngiadau carbon deuocsid y DU

– sef y prif ffactor sy’n cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd – tua 60 y cant

erbyn tua 2050, gan wneud cynnydd gwirioneddol erbyn 2020

sicrhau bod cyflenwadau ynni yn parhau i fod yn ddibynadwy

hyrwyddo marchnadoedd cystadleuol yn y DU a thu hwnt, gan helpu i

gynyddu cyfradd twf economaidd cynaliadwy a gwella ein cynhyrchiant

sicrhau bod pob cartref yn cael ei wresogi yn ddigonol ac yn fforddiadwy.

Cred y Llywodraeth y gellir cyflawni’r pedwar nod hyn gyda’i gilydd. Mae’n debyg

mai effeithlonrwydd ynni yw’r ffordd rataf a mwyaf diogel o fynd i’r afael â phob un

o’r pedwar amcan. Bydd ynni adnewyddadwy hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth

leihau gollyngiadau carbon deuocsid, tra’n atgyfnerthu diogelwch ynni ac yn gwella

ein cystadleurwydd diwydiannol hefyd wrth i ni ddatblygu technolegau, cynhyrchion

a phrosesau glanach.

[box]

Costau cymdeithasol gollyngiadau carbon a phrosesau llunio polisïau

Mae’r Llywodraeth yn chwarae rhan allweddol i hyrwyddo ymchwil i gost peidio â

gweithredu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys gwaith arloesol

sy’n ceisio llunio amcangyfrifon enghreifftiol o gost gymdeithasol carbon (SCC) er

mwyn eu defnyddio wrth wneud arfarniadau economaidd a dadansoddiadau cost a

budd.

Mae llunio amcangyfrifon o gost gymdeithasol carbon yn dipyn o her. Mae’r modelau

y maent yn seiliedig arnynt yn gwella ond maent yn dal i gynnig darlun bras ac

anghyflawn braidd o gostau niwed. Mae pryder cynyddol hefyd ynghylch yr effeithiau

sylweddol posibl nas cynhwysir yn yr astudiaethau modelu sylfaenol, yn arbennig

newidiadau sydyn yn yr hinsawdd ac effeithiau economaidd-gymdeithasol ar raddfa

fawr mewn rhanbarthau neu wledydd diamddiffyn.

Ym mis Ionawr 2004 comisiynodd y Llywodraeth ddau brosiect ymchwil sy’n ceisio

gwella’r amcangyfrifon sydd ar gael o gost gymdeithasol carbon, ac edrych ar sut y

gellid eu defnyddio wrth asesu polisïau.

Mae polisïau i leihau gollyngiadau yn rhannu’n chwe sector bras:

y diwydiant cyflenwi ynni

busnes

trafnidiaeth

cartrefi

amaethyddiaeth, coedwigaeth a defnydd tir

y sector cyhoeddus.

Fodd bynnag, mae nifer o bolisïau a mentrau yn cyflawni ar draws pob sector – er

enghraifft cynllun cyfnewid gollyngiadau’r UE, diwygio rheoliadau adeiladu, a’n

Menter Cyfathrebu newydd ynglyˆ n â Newid yn yr Hinsawdd.

Ym mis Medi 2004 lansiodd Llywodraeth y DU adolygiad o Raglen Newid yn yr

Hinsawdd y DU. Mae’r adolygiad yn edrych ar sut y mae polisïau sy’n bodoli eisoes

yn perfformio a’r ystod o bolisïau y gellid eu rhoi ar waith yn y dyfodol i leihau

gollyngiadau nwyon tþ gwydr a charbon deuocsid ymhellach.

Mae’r Llywodraeth yn bwriadu lansio’r fersiwn diwygiedig o Raglen

Newid yn yr Hinsawdd y DU yn haf 2005

Y chwe sector allweddol

i. Cyflenwi ynni

Mae datblygiad y sector cyflenwi ynni yn y dyfodol yn hollbwysig i allu’r DU i

gyflawni ei nodau ar gyfer gollyngiadau nwyon tþ gwydr a charbon deuocsid.

Mae’r Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy, a lansiwyd ym mis Ebrill 2002, yn ei

gwneud yn ofynnol i gyflenwyr trydan gael canran o’u gwerthiannau trydan o

ffynonellau ynni adnewyddadwy cymwys. Y targed cyfredol yw sicrhau y bydd 10 y

cant o’n trydan yn cael ei gyflenwi o ffynonellau ynni adnewyddadwy erbyn 2010/11,

ac mae’r Llywodraeth yn awyddus iawn i weld y ganran honno’n dyblu erbyn 2020.

Hefyd cyhoeddodd y Llywodraeth ei bod yn bwriadu ymestyn y rhwymedigaeth i 15

y cant yn 2015/16.

Cyhoeddir ymgynghoriad statudol ar newidiadau arfaethedig yn y

Rhwymedigaeth yn haf 2005, a’r bwriad yw y bydd unrhyw newidiadau

yn y ddeddfwriaeth yn deillio o’r ymgynghoriad hwnnw yn dod i rym ar 1

Ebrill 2006

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi ymrwymo i ymchwilio i’r cyfraniad y gall ffynonellau

gwres adnewyddadwy megis ‘biomas’ - cynhyrchion ynni yn deillio o goed a chnydau

a dyfir yn arbennig - ei wneud.

Cyhoeddir astudiaeth gwmpasu ar y farchnad wres, arbedion carbon

tebygol a’r ffordd orau o helpu i sicrhau’r manteision yn ddiweddarach

yn 2005

Gallai Gwres a Phðer Cyfunedig 8 (CHP) fod yn ddull mwy effeithlon o gyflenwi ynni

sy’n darparu gwres a thrydan ar yr un pryd. Gosododd y Llywodraeth darged o

sicrhau o leiaf 10 gigawatt (GW) o ‘gapasiti Gwres a Phðer Cyfunedig o Ansawdd

Da’, h.y. capasiti sy’n cyrraedd safonau a osodwyd neu’n rhagori arnynt, erbyn 2010.

Yn 2004, cyhoeddodd y Llywodraeth strategaeth ar gyfer Gwres a Phðer Cyfunedig

hyd 2010, a nododd fframwaith i hyrwyddo cynyddu capasiti Gwres a Phðer o

Ansawdd Da.

8 Mae Gwres a Phðer Cyfunedig yn dechnoleg sy’n cynnig cryn fanteision o ran effeithlonrwydd ynni

a’r amgylchedd o gymharu â dulliau cymaradwy, confensiynol, ar wahân o gynhyrchu gwres a thrydan.

Nododd y Papur Gwyn ar Ynni weledigaeth ar gyfer 2020 sy’n cynnwys systemau

cynhyrchu trydan lleol, llawer mwy amrywiol yn defnyddio gwahanol dechnolegau

microgynhyrchu, sy’n diwallu anghenion defnyddwyr ac adeiladau unigol, ac sy’n

cyflenwi unrhyw drydan dros ben yn ôl i’r Rhwydwaith Cenedlaethol. Cafwyd

trafodaethau cychwynnol eisoes gyda’r diwydiant microgynhyrchu.

Caiff ymgynghoriad ar strategaeth i hyrwyddo microgynhyrchu ei lansio

yn 2005.

Cydnabuwyd hefyd botensial hirdymor technolegau dal a storio carbon (CCS), sy’n

dal carbon deuocsid o orsafoedd trydan sy’n cael eu tanio â thanwydd ffosil a

defnyddwyr ynni mawr iawn eraill ac yn ei storio, yn y Papur Gwyn ar Ynni. Mae

Llywodraeth y DU wrthi’n datblygu Strategaeth Technoleg Lleihau Carbon (CAT).

Bydd y strategaeth hon yn cynnwys targed ar gyfer cyflwyno technolegau dal a storio

carbon i’r farchnad erbyn 2020.

Bwriedir cyhoeddi’r Strategaeth Technoleg Lleihau Carbon yn 2005.

Eglurodd y Papur Gwyn ar Ynni mai ein blaenoriaeth ni, wrth leihau gollyngiadau

carbon deuocsid, yw atgyfnerthu’r cyfraniad a wneir gan effeithlonrwydd ynni a

chyrsiau ynni adnewyddadwy. Ar hyn o bryd mae ynni niwclear yn ffynhonnell

bwysig o drydan di-garbon. Fodd bynnag, oherwydd ei gost nid yw’n opsiwn deniadol

ar gyfer capasiti newydd. Mae materion pwysig i’w datrys hefyd o ran rheoli

gwastraff niwclear. Felly, nid yw’r Papur Gwyn yn cynnwys cynigion penodol ar

gyfer adeiladu gorsafoedd ynni niwclear newydd. Nid ydym yn diystyru’r

posibilrwydd, rywbryd yn y dyfodol, y bydd angen adeiladu gorsafoedd niwclear

newydd er mwyn i ni gyrraedd ein nodau ar gyfer lleihau gollyngiadau. Cyn gwneud

unrhyw benderfyniad i adeiladu gorsafoedd newydd, byddai angen ymgynghori’n

llawn â’r cyhoedd a chyhoeddi papur gwyn arall yn nodi ein cynigion.

ii. Byd Busnes

Mae ymrwymiad byd busnes i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd yn cynyddu yn

y DU. Gall mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ddwyn manteision

pellgyrhaeddol gan gynnwys costau is, gwell cystadleurwydd a chyfleoedd mewn

marchnadoedd newydd. Mae’r fframwaith polisi ar gyfer y sector busnes yn cydnabod

ei natur amrywiol a’r ffaith y bydd rhai meysydd yn ei chael yn haws i ymateb i’r

newid yn yr hinsawdd nag eraill. Mae hefyd yn cydnabod bod rhai sectorau diwydiant

yn gyfrifol am lawer mwy o ollyngiadau nag eraill, ac mae wedi’i strwythuro i ennyn

cefnogaeth y gollyngwyr mwyaf yn gyntaf.

Mae polisïau ar gyfer y sector hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar leihau gollyngiadau

carbon deuocsid drwy wella effeithlonrwydd ynni diwydiannol. Gostyngodd

gollyngiadau nwyon tþ gwydr busnesau ers 1990, ac erbyn 2010 rhagwelir y byddant

wedi gostwng tua 26 y cant o gymharu â 1990.

Cyflwynwyd yr ardoll newid yn yr hinsawdd (CCL) yn 2001 fel treth ar y defnydd o

ynni gan fusnesau gan roi cymhelliant i gwtogi ar yr ynni a ddefnyddir. Cyflwynwyd

cytundebau newid yn yr hinsawdd ar yr un pryd. O dan y cytundebau, rhoddwyd

cyfle i sectorau ynni dwys a gwmpesir gan yr ardoll - megis gweithgynhyrchu dur -

lofnodi cytundebau 10 mlynedd yn cwmpasu’r defnydd o ynni a/neu ostyngiadau

mewn gollyngiadau yn gyfnewid am ddisgownt o 80 y cant ar yr ardoll newid yn yr

hinsawdd. Ar hyn o bryd mae 44 o sectorau a chanddynt dros 10 000 o safleoedd a

gwmpesir gan y cytundebau. Gwnaed arbedion carbon sylweddol eisoes ac mae rhai

sectorau wedi cyrraedd eu targedau ar gyfer 2010. Ar ôl ymgynghori â busnesau, yng

Nghyllideb 2004, cyhoeddodd y Llywodraeth y câi’r cytundebau eu hestyn i’r

sectorau hynny sy’n mynd yn uwch na throthwy dwysedd ynni, ac a all amlygu

materion yn ymwneud â chystadleuaeth ryngwladol mewn rhai achosion.

[box]

Mae’r Llywodraeth yn aros i’r Comisiwn Ewropeaidd gymeradwyo

Cymhorthion Gwladwriaethol ac yn rhagweld y bydd y sectorau newydd

yn ymgynnig am y cytundebau yn ystod 2005

Yr Ymddiriedolaeth Garbon

Lansiwyd yr Ymddiriedolaeth Garbon yn 2002, i helpu i weithredu effeithlonrwydd

ynni yn y sector busnes a’r sector cyhoeddus yn ogystal â hyrwyddo datblygu sector

carbon isel yn y DU. Mae’n rhedeg prif raglen gwybodaeth, cyngor ac ymchwil y DU

ar gyfer sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae ei rhaglenni yn cynnwys

y Rhaglen Rheoli Carbon i gynorthwyo sefydliadau yn y DU wrth iddynt ddechrau

gwneud y risgiau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd yn rhan

o’u gweithgareddau craidd. Mae hefyd yn gweinyddu ac yn hybu’r Rhestr

Technolegau Ynni o dechnolegau ynni effeithlon sy’n gymwys i gael lwfansiau

cyfalaf o 100 y cant yn ystod y flwyddyn gyntaf o dan y Cynllun Lwfansiau Cyfalaf

Uwch.

Yn ystod y tair blynedd nesaf bydd y Llywodraeth yn buddsoddi o leiaf £192 miliwn

yn rhaglenni’r Ymddiriedolaeth Garbon i ateb y galw cynyddol am ei gwasanaethau, a

datblygu rhaglenni sy’n bodoli eisoes. Yn Adroddiad Rhag-gyllidebol 2004,

cyhoeddodd y Canghellor gronfa newydd o £20 miliwn, i’w rheoli gan yr

Ymddiriedolaeth Garbon, i gyflymu’r broses o ddatblygu a defnyddio technolegau

ynni effeithlon.

Mae cyfnewid gollyngiadau yn ddull allweddol o leihau gollyngiadau nwyon tþ

gwydr.

Mae cynllun cyfnewid gollyngiadau’r DU (UK ETS) yn gynllun gwirfoddol sy’n

ceisio lleihau gollyngiadau mewn ffordd gost-effeithiol a sicrhau bod busnesau’r DU

yn ennill y blaen ym maes cyfnewid gollyngiadau, cyn i gynlluniau cyfnewid

rhyngwladol yn y dyfodol ddechrau dod i rym. Mewn arwerthiant yn 2002, cynigiodd

sefydliadau ostyngiadau mewn gollyngiadau dros bum mlynedd hyd 2006 yn

gyfnewid am gyfran o arian cymhelliant. Ymrwymodd cyfranogwyr i leihau eu

gollyngiadau sylfaenol 11.88 miliwn o dunelli yn gyfwerth â charbon deuocsid yn

ystod oes y cynllun. Addawyd gostyngiadau pellach o 8.9 miliwn o dunelli o

ostyngiadau mewn gollyngiadau yn gyfwerth â charbon deuocsid gan chwe

chyfranogwr sydd wedi rhagori ar eu targedau o dipyn yn ystod y ddwy flynedd

gyntaf. Drwy adolygiad y Rhaglen Newid yn yr Hinsawdd bydd y Llywodraeth yn

edrych ar y potensial sydd ar gyfer parhau â’r cynllun ar ôl 2006 a ph’un a oes modd

ei hymestyn.

Mae cynllun cyfnewid gollyngiadau’r UE (EU ETS), a gyflwynwyd ym mis Ionawr

2005, yn un o elfennau allweddol ymgyrch yr UE i leihau gollyngiadau nwyon tþ

gwydr. O ran cynllun cyfnewid gollyngiadau’r UE mae’r Llywodraeth yn ceisio

cydbwyso’r dasg o gyflawni ein nodau amgylcheddol a’r angen am gyflenwad ynni

sefydlog a’r angen i sicrhau cystadleurwydd diwydiant yn y farchnad ryngwladol.

Credwn y dylai’r Cynllun fod yn rhan ganolog o bolisi lleihau gollyngiadau’r DU yn

y dyfodol.

Mae’r DU yn dangos ei hymrwymiad i’r cynllun drwy osod terfyn uchaf ar lwfansiau

yn y cyfnod cyntaf (2005-2007) sy’n mynd â ni y tu hwnt i’n targed ar gyfer

gollyngiadau o dan Brotocol Kyoto. Bydd ail gyfnod o gynllun cyfnewid

gollyngiadau’r UE yn dechrau yn 2008 a bydd yn parhau tan 2012 i gyd-fynd â

chyfnod ymrwymiad Kyoto; bydd yn ofynnol i bob Aelod wladwriaeth ddefnyddio’r

cynllun i gyfrannu at gyrraedd eu rhan o darged cyffredin yr UE o dan Brotocol

Kyoto.

Megis cychwyn y mae’r Llywodraeth o ran datblygu ei hymagwedd at gyfnod II, ond

mae’n ymwybodol bod byd busnes yn awyddus i gael ei hysbysu’n gynnar o’i

chynlluniau i’w weithredu. Drwy adolygiad y Rhaglen Newid yn yr Hinsawdd rydym

yn ystyried i ba raddau y gallwn wneud hynny.

[box]

Sut y mae cynlluniau cyfnewid gollyngiadau yn gweithio

Mae cyfnewid gollyngiadau yn cynnwys prynu a gwerthu “lwfansiau” gollyngiadau, a

fesurir mewn unedau yn gyfwerth â thunelli o garbon deuocsid. Bob blwyddyn,

dyrennir nifer osod o lwfansiau ar gyfer pob cyfranogwr, y gellir eu cyfnewid o fewn

y gymuned. Ar ddiwedd pob blwyddyn, mae’n rhaid i’r cyfranogwr roi gwybod am ei

ollyngiadau blynyddol. Os nad oes digon o lwfansiau yng nghyfrif y cyfranogwr

hwnnw i ddarparu ar gyfer ei ollyngiadau, mae’n agored i gosbau ariannol.

Os bydd cyfranogwr yn lleihau ei ollyngiadau yn is na’i lwfans, gall gadw ei warged

i’w ddefnyddio yn y dyfodol neu ei werthu. Neu, gall brynu lwfansiau ychwanegol i

ddarparu ar gyfer unrhyw ddiffyg. Felly mae cyfnewid gollyngiadau yn gymhelliant i

gyfranogwyr leihau eu gollyngiadau am y gallant werthu’r gwared i eraill a gwneud

elw.

Mae’r penderfyniad i gyflwyno cynllun cyfnewid gollyngiadau’r UE yn golygu bod

mesurau polisi sy’n cwmpasu rhai gollyngiadau’r sector busnes yn gorgyffwrdd â’i

gilydd. Felly, caiff y cymysgedd o fesurau sy’n effeithio ar fusnesau yn y dyfodol ei

ystyried fel rhan o’r adolygiad o’r Rhaglen Newid yn yr Hinsawdd.

Yn ogystal â chyfnewid gollyngiadau tþ gwydr, cred y Llywodraeth fod potensial ar

gyfer cyflwyno cynllun cyfnewid i faes effeithlonrwydd ynni. Gelwir hyn yn

gyfnewid tystysgrifau gwyn. Byddai’r Gyfarwyddeb Effeithlonrwydd Defnyddio

Ynni a Gwasanaethau Ynni arfaethedig yn creu fframwaith lle y gellid ystyried

cynllun o’r fath ar lefel Ewropeaidd. Fodd bynnag, mae llawer o faterion y byddai

angen eu hystyried yn ofalus, gan gynnwys monitro a gwirio manteision

effeithlonrwydd a sefydlu llinellau sylfaen ar gyfer mesur gwelliant.

[box]

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i asesu’r rhan y gallai cynllun o’r

fath ei chwarae erbyn 2007

Sut y mae cyfnewid tystysgrifau gwyn yn gweithio

Mae “tystysgrif wen” yn cyfeirio at y cysyniad o nwydd cyfnewidiadwy sy’n

cynrychioli ynni a arbedwyd, neu ddefnydd o ynni a osgowyd. Câi targed ar gyfer

gwella effeithlonrwydd ynni ei osod ar gyfer cwmnïau, a gallent gyrraedd y targed

hwnnw naill ai drwy wella eu heffeithlonrwydd ynni neu drwy brynu tystysgrifau gan

gyfranogwyr eraill a oedd wedi creu gwarged.

Mae’r broses rheoli gwastraff hefyd yn gollwng nwyon tþ gwydr, methan yn bennaf.

Mae gollyngiadau tirlenwi yn y DU yn gostwng, yn bennaf am fod mwy o nwy

tirlenwi yn cael ei gasglu at ddibenion adfer ynni a rheolaeth amgylcheddol. Ceir

hefyd nifer o bolisïau o eiddo’r Llywodraeth i leihau gwastraff bioddiraddadwy sy’n

cael ei waredu mewn safleoedd tirlenwi, e.e. codiadau yn y dreth tirlenwi.

Caiff Cyfarwyddeb Tirlenwi’r Gymuned Ewropeaidd gryn effaith ar ollyngiadau

drwy osod gofynion peirianyddol llym ar safleoedd tirlenwi, drwy fynnu bod nwy o’r

safleoedd hyn yn cael ei ddal, a thrwy osod terfynau ar y gwastraff trefol

bioddiraddadwy sy’n cael ei gludo i safleoedd tirlenwi.

Cyflwynir Cynllun Cyfnewid Lwfansiau Tirlenwi yn Lloegr o 1 Ebrill

2005 i helpu awdurdodau lleol i gyfyngu ar y gwastraff trefol

bioddiraddadwy y ceir gwared ag ef mewn safleoedd tirlenwi i sicrhau y

cyrhaeddir targed y DU o dan y Gyfarwyddeb

iii. Trafnidiaeth

Mae’r Llywodraeth yn cydnabod bod yn rhaid i’r sector trafnidiaeth wneud cyfraniad

at leihau gollyngiadau carbon deuocsid. Mae’r sector trafnidiaeth - heblaw am y

sector hedfan rhyngwladol - yn gyfrifol ar hyn o bryd am tua chwarter holl

ollyngiadau carbon deuocsid y DU, a chyfrennir 80 y cant o’r gollyngiadau hyn gan

ddefnyddwyr y ffyrdd. Disgwylir i’r cyfraniad y mae trafnidiaeth ddomestig yn ei

wneud at gyfanswm gollyngiadau carbon deuocsid y DU aros yn ddigyfnewid fwy

neu lai tan 2020 am y rhagwelir y bydd gollyngiadau o sectorau eraill yn gostwng.

Mae’r Papur Gwyn ar Ddyfodol Trafnidiaeth (2004) 9 yn cydnabod bod angen i ni

sicrhau y gallwn fanteisio ar symudedd a mynediad tra’n lleihafu i’r eithaf yr effaith

9 Gweler www.dft.gov.uk/stellent/group/dft_about/documents/divisionhomepage/031259.hcsp

ar bobl eraill a’r amgylchedd. Mae’n nodi, er mwyn sicrhau bod y sector trafnidiaeth

yn gwneud ei gyfraniad llawn at leihau gollyngiadau carbon deuocsid yn gosteffeithiol,

fod angen i ni ehangu’r drafodaeth ynghylch:

y gwerth yr ydym yn ei roi ar symud pobl a nwyddau

pris cyffredinol trafnidiaeth

costau lleihau carbon ar draws pob sector o’r economi.

Mae’r Llywodraeth yn mynd i’r afael â’r angen i leihau gollyngiadau carbon deuocsid

a gollyngiadau eraill o sector trafnidiaeth y ffyrdd mewn sawl ffordd.

[box]

Cymhellion ariannol

Mae cymhellion ariannol wedi bod yn llwyddiannus wrth hyrwyddo’r newid i brif

fathau o danwydd sy’n creu llai o lygredd, tra’n hyrwyddo twf mathau eraill o

danwydd. Mae’r llwyddiannau allweddol yn cynnwys:

cyflwyno petrol a diesel â lefelau tra isel o sylffwr drwy dollau gwahaniaethol

defnyddio ardollau i hyrwyddo datblygu’r farchnad LPG – ac mae dros 200m

o litrau yn cael eu gwerthu bob blwyddyn

defnyddio cymhellion i gynyddu cyfran biodanwydd o’r farchnad.

Diwygiwyd cyfundrefnau’r Dreth ar Geir Cwmni a’r Doll Ecseis Cerbydau i

gysylltu’n uniongyrchol â phroffil gollyngiadau cerbydau. Disgwylir i’r newid yng

nghyfundrefn y Dreth ar Geir Cwmni gyfrannu rhwng 0.5-1.0 miliwn o dunelli o

arbedion carbon y flwyddyn yn y tymor canolig.

Mae’r Strategaeth Pweru Cerbydau’r Dyfodol (PFV) 10 , a lansiwyd ym mis

Gorffennaf 2002, yn rhoi fframwaith ar gyfer newid marchnad gerbydau’r DU i

gerbydau a thanwydd glân, carbon-isel. Mae’r broses weithredu wedi cynnwys:

cymhellion grant ar gyfer cerbydau glanach sy’n defnyddio tanwydd yn fwy

effeithlon

adeiladu ar y cymhellion toll tanwydd presennol i hyrwyddo cyflwyno

tanwydd carbon-isel

ariannu ymchwil, gwaith datblygu ac arddangosiadau i hyrwyddo cerbydau

effeithlon a thechnolegau tanwydd carbon-isel

10 Gweler www.dft.gov.uk/stellent/group/dft_about/documents/dft_roads_506885.hcsp

Cyhoeddodd yr Adroddiad Rhag-Gyllidebol ym mis Rhagfyr astudiaeth dichonoldeb

a phroses ymgynghori ar Rwymedigaeth Tanwydd Trafnidiaeth Adnewyddadwy

bosibl hefyd.

Bu’r Bartneriaeth Cerbydau Carbon-Isel 11 , a sefydlwyd fel rhan o’r Strategaeth

Pweru Cerbydau’r Dyfodol, yn allweddol i ddatblygu label effeithlonrwydd ynni côd

lliwiau gwirfoddol ar gyfer ceir newydd - yn debyg i’r rhai a ddefnyddir erbyn hyn ar

gyfer nwyddau gwyn (offer mawr yn y cartref) - i ddarparu gwybodaeth glir, syml ar

gyfer defnyddwyr am effeithiau newid hinsawdd wahanol gerbydau. Lansiodd y

Llywodraeth y label hon ym mis Chwefror 2005.

Dylai’r label fod ym mhob ystafell arddangos ceir yn y DU erbyn mis

Medi 2005

Mae cytundebau gwirfoddol rhwng y Comisiwn Ewropeaidd a’r diwydiant moduron

yn rhwymo gweithgynhyrchwyr ceir i wella effeithlonrwydd ynni ceir newydd a

werthir yn yr UE 25 y cant rhwng 1995 a 2008/9.

Rydym yn pwyso ar y Comisiwn Ewropeaidd i gwblhau cylch newydd o

gytundebau gwirfoddol ar effeithlonrwydd ynni ceir newydd gyda’r

diwydiant

Ar hyn o bryd mae gan raglen caffael ceir fflyd y Llywodraeth darged o sicrhau bod

10 y cant o’r ceir yn defnyddio tanwydd amgen erbyn mis Mawrth 2006. Nid yw’r

diffiniad hwn sy’n seiliedig ar dechnoleg bellach yn ymarferol am nad yw’n rhoi

cyfrif am welliannau o ran gollyngiadau yn y sector diesel. Ar gyfer y dyfodol, bydd y

Llywodraeth yn caffael ar sail gollyngiadau (nid technoleg), ac o fewn adolygiad o’r

Fframwaith Datblygu Cynaliadwy wrth Lywodraethu (SDiG) byddwn yn datblygu

ymrwymiad i sicrhau mai dim ond y cerbydau glanaf a gaiff eu caffael gan y

Llywodraeth.

Gosododd Strategaeth Pweru Cerbydau’r Dyfodol yr Adran dros Drafnidiaeth darged

o sicrhau, erbyn 2012, y byddai 10 y cant o’r holl geir newydd wedi’u diffinio fel rhai

carbon-isel 12 .

Bydd y Llywodraeth yn gweithredu ar hyn gyda’r bwriad y bydd 10 y cant o’i

holl gerbydau newydd yn rhai carbon-isel erbyn 2012

[picture caption]

Traffig ar yr M25 ar doriad gwawr

Ffynhonnell: Martin Bond/Still Pictures

Cyfrannodd sector hedfan 13 y DU tua 5.5 y cant o ollyngiadau carbon deuocsid y DU

yn 2000, ac o ganlyniad i effeithiau gollyngiadau ymbelydrol 14 (RF) 11 y cant o holl

11

Gweler www.lowcvp.org.uk

12

Fe’i diffinnir fel gollyngiadau CO2 o 100g/km neu lai wrth y bibell fwg.

13

Amcangyfrifwyd yr holl wasanaethau mewnwladol a phob ymadawiad rhyngwladol o’r DU gyda’i

gilydd i gyfrannu’r swm hwn.

effaith newid hinsawdd y DU. Gallai’r cynnydd mewn cludiant awyr yn y dyfodol

olygu y bydd y sector hedfan yn cyfrannu rhwng 33-35 y cant o holl effaith newid

hinsawdd y DU erbyn 2050, a bwrw bod pob sector arall yn cyrraedd y targedau a

nodwyd yn y Papur Gwyn ar Ynni. 15

Mae’r Papur Gwyn ar Ddyfodol Cludiant Awyr (2003) yn cynnwys ymrwymiad i

bwyso am i wasanaethau awyr o fewn yr UE gael eu cynnwys yng nghynllun

cyfnewid gollyngiadau’r UE

Mae’r diwydiant teithiau awyr masnachol yn un gwirioneddol fyd-eang, lle mae

llawer o’r cyflenwyr mawr yn gweithredu ar draws cyfandiroedd, ac y gall

cwsmeriaid gyfnewid cyflenwyr yn gyflym ac yn hawdd. Felly yr ateb gorau yw

cyfundrefn cyfnewid gollyngiadau ryngwladol. Mae Llywodraeth y DU yn ymgyrchu

dros ddatblygu a gweithredu cyfundrefn o’r fath, drwy’r Sefydliad Hedfan Sifil

Rhyngwladol (ICAO).

Un o’r prif flaenoriaethau ar gyfer Llywyddiaeth y DU ar yr UE yw paratoi’r ffordd

i’r sector hedfan ymuno â chynllun cyfnewid gollyngiadau’r UE erbyn 2008 (neu cyn

gynted ag y bo modd ar ôl hynny) am fod y DU o’r farn mai cyfnewid gollyngiadau

yw’r offeryn economaidd mwyaf effeithiol i fynd i’r afael ag effeithiau newid

hinsawdd y sector hedfan 16 . Ond rydym yn cydnabod efallai na fydd yn rhoi’r ateb i

gyd. Felly bydd y Llywodraeth yn parhau i edrych ar ddefnyddio offerynnau

economaidd eraill gan adeiladu ar y gwaith yn yr adroddiad ym Mawrth 2003

‘Aviation and the Environment: Using Economic Instruments’ a luniwyd gan yr

Adran dros Drafnidiaeth/Trysorlys EM ar y cyd.

Mae’r Llywodraeth yn annog y diwydiant wrth iddo ddatblygu ei strategaeth

cynaliadwyedd hedfan masnachol y disgwylir iddi gael ei lansio yn ddiweddarach

eleni. Mae’r strategaeth yn cynnwys pob sector o’r diwydiant – gweithgynhyrchwyr,

cwmnïau awyrennau a meysydd awyr yn bennaf – a bwriedir iddi osod nodau â

cherrig milltir a phethau y gellir eu cyflawni. Mae’r Llywodraeth yn disgwyl i’r

diwydiant fachu ar y cyfle hwn i gymryd cam ystyrlon ymlaen tuag at gynaliadwyedd.

iv. Cartrefi ac effeithlonrwydd ynni

Cyflwynodd y Llywodraeth nifer o fesurau i ysgogi defnyddio mesurau ynni

effeithlonrwydd yn y tþ, yn ogystal ag ym myd busnes. Mae’r rhain yn cynnwys

polisïau rheoliadol a pholisïau yn seiliedig ar gymhellion, grantiau a chymhellion

economaidd eraill, a darparu gwybodaeth a chyngor. Mae’r wybodaeth hon yn cynnig

man cychwyn ar gyfer y gweithredu cymunedol ehangach ar y newid yn yr hinsawdd

a gefnogir drwy Community Action 2002 – Together We Can.

14

Mae Gwthio Ymbelydrol (RF) yn adlewyrchu newidiadau yn yr hinsawdd wedi’u hysgogi gan

awyrennau a achoswyd gan yr holl ollyngiadau, nid dim ond y cyfraniad yn deillio o ryddhau carbon

ffosil ar ei ben ei hun.

15

Adroddiad y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol, ‘Aviation: Sustainability and the Government’s

second response’.

16

Cychwynnodd y Comisiwn Ewropeaidd astudiaeth i edrych yn fanwl ar sut y gallai cynllun cyfnewid

gollyngiadau weithio ar gyfer y sector hedfan.

Cyhoeddwyd Effeithlonrwydd Ynni: Cynllun Gweithredu’r Llywodraeth ym mis

Ebrill 2004, gan nodi fframwaith clir ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni ar raddfa

na welwyd mo’i thebyg o’r blaen, a chan ganolbwyntio’n arbennig ar y cyfnod hyd

2010. Mae’r cynllun gweithredu yn un manwl a fydd yn arbed dros 12 miliwn o

dunelli o garbon y flwyddyn erbyn 2010 - mwy na hanner targed arbed carbon

cyffredinol y DU ar gyfer 2010. Mae’r ffigur hwn yn 20 y cant yn fwy na’r hyn y

credwn ei bod yn bosibl adeg cyhoeddi’r Papur Gwyn a bydd yn arbed dros £3 biliwn

y flwyddyn i fusnesau a chartrefi ar eu biliau ynni.

Mae mesurau allweddol yn cynnwys y bwriad i ddyblu lefel y gweithgarwch yn

gysylltiedig â’r Ymrwymiad Effeithlonrwydd Ynni o 2005 hyd 2011 yn

ddarostyngedig i adolygiad yn 2007, gwella safonau ynni adeiladau drwy

ddiwygiadau i’r Rheoliadau Adeiladau, swm ychwanegol o £140m ar gyfer mynd i’r

afael â thlodi tanwydd yn Lloegr, gan gynnwys ‘Warm Front’, yn ystod y cyfnod

2005-08, cymhellion economaidd ychwanegol ar gyfer effeithlonrwydd ynni, a

gyhoeddwyd yng nghyllideb 2004, gan gynnwys rhyddhad treth ar gyfer landlordiaid

sy’n gosod deunydd insiwleiddio, a chynlluniau prawf ar gyfer gwasanaethau ynni

newydd.

[Chart]

Agriculture – Amaethyddiaeth

Transport – Trafnidiaeth

Domestic – Cartrefi

Industrial Process – Proses Ddiwydiannol

Commercial and Public – Masnachol a Chyhoeddus

Industrial Buildings – Adeiladau Diwydiannol

Breakdown of annual UK carbon emissions (2000) – Dadansoddiad o ollyngiadau

carbon blynyddol y DU (2000) 17

Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i gynyddu effeithlonrwydd ynni

cyfartalog cartrefi o bumed ran erbyn 2010 o gymharu â 2000

Bydd y gwelliannau yn safonau ynni cartrefi newydd gyda’i gilydd yn sicrhau

gostyngiad mewn gollyngiadau carbon o 1.4 miliwn o dunelli bob blwyddyn.

Mae’r Gyfarwyddeb Perfformiad Ynni Adeiladau yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod

wladwriaethau osod gofynion sylfaenol ar gyfer perfformiad ynni adeiladau newydd

ac adeiladau mawr sy’n cael eu hadnewyddu ar raddfa fawr, ac ardystio pob adeilad

adeg ei werthu neu ei renti, o fewn y Gymuned Ewropeaidd.

Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i weithredu’r Gyfarwyddeb hon

erbyn 2006

Disgwylir i ddarpariaethau presennol Rhan L o’r Rheoliadau Adeiladau, a ddaeth i

rym yn 2002, sicrhau arbedion carbon sylweddol erbyn 2010.

17 BRE, 2003, ‘Gollyngiadau carbon deuocsid o adeiladau annomestig 2000 ac ar ôl hynny.’

Cyhoeddir diwygiad pellach i Ran L o’r Rheoliadau Adeiladu yn 2005

gan sicrhau cynnydd o tua 25 y cant mewn effeithlonrwydd ynni mewn

adeiladau newydd, a chan gynyddu gryn dipyn yr effaith ar

effeithlonrwydd ynni adeiladau sy’n bodoli eisoes

Rhwng 2010 a 2020 mae’r Llywodraeth yn bwriadu diweddaru’r

Rheoliadau Adeiladau bob pum mlynedd a bydd pob cam yn nodi’r cam

sy’n debygol o’i ddilyn. Dylai hyn arwain at godiadau cynyddrannol yn

safonau ynni adeiladau newydd ac adeiladau a adnewyddwyd.

Bydd y Ddeddf Adeiladau Cynaliadwy a Diogel (a basiwyd yn 2004) yn caniatáu i

reoliadau adeiladau fynd i’r afael â natur gynaliadwy adeiladau newydd yn ogystal â

mynd i’r afael ag arbed tanwydd ac ynni, neu atal neu leihau gollyngiadau nwyon tþ

gwydr o ran adeiladau sy’n bodoli eisoes.

Erbyn hyn mae’r Llywodraeth yn gweithio gyda’r Comisiwn Datblygu

Cynaliadwy i astudio sut y gellid defnyddio’r pwerau newydd hyn yn

fwyaf effeithiol. Mae’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy yn ymchwilio i’r

technegau, y costau, y manteision a’r systemau cymorth sydd eu hangen i

wella effeithlonrwydd ynni’r stoc adeiladau sy’n bodoli eisoes.

Mae’r Llywodraeth yn datblygu gyda diwydiant God ar gyfer Adeiladau

Cynaliadwy. Bydd y cod hwn yn sefydlu safonau gwirfoddol ymestynnol ar gyfer

effeithlonrwydd ynni ar faterion allweddol megis ynni, dðr, gwastraff a deunyddiau, a

allai gyda’i gilydd sicrhau arbedion carbon sylweddol. Bydd y cod yn annog

adeiladwyr i fynd ymhellach na llythyren y rheoliadau a lleihau’r defnydd a wneir o

adnoddau o’r cychwyn cyntaf, a chaiff ei ddiweddaru wrth i dechnoleg ddatblygu.

Mae’r Cod wrthi’n cael ei ddatblygu fel y bydd yn cynnwys pob adeilad newydd, gan

ganolbwyntio i ddechrau ar stociau tai newydd. Maes o law nod y Llywodraeth yw

cymhwyso’r Cod hefyd at waith adnewyddu ar raddfa fawr a wneir i’r stoc dai sy’n

bodoli eisoes. Lluniwyd amlinelliad cychwynnol o’r Cod ar ddiwedd mis Ionawr

2005.

Mae’r Llywodraeth yn bwriadu ymgynghori ynghylch y Cod yn ystod

2005, gan gynnwys sesiynau arddangos ymarferol maint llawn o’r modd y

cymhwysir y Cod mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys Porth Afon

Tafwys. Bwriedir dechrau cyflwyno’r Cod yn genedlaethol yn 2006.

Lle y bydd y Llywodraeth yn cymryd rhan mewn partneriaethau

cyhoeddus-preifat i ddatblygu safleoedd newydd byddwn yn sicrhau y

caiff y safonau uwch hyn eu cymhwyso at bob cartref newydd

Mae deunyddiau, cydrannau ac offer arbed ynni wrthi’n cael eu hyrwyddo drwy

gynlluniau labelu a chymhellion ariannol. Cynigir arbedion ynni posibl gan

dechnolegau Micro-CHP (mCHP) a phympiau gwres. Mae Micro-CHP yn darparu ar

gyfer cynhyrchu gwres a thrydan carbon-effeithlon ar yr un pryd mewn uned tua’r un

maint â boeler domestig. Mae pympiau gwres yn defnyddio gwres amgylchynol (a

geir o’r ddaear, dðr neu’r awyr hyd yn oed) i gynyddu potensial gwresogi trydan

bedair gwaith yn fwy.

[box]

Cyflwynodd Cyllideb 2004 gyfradd TAW ostyngedig ar mCHP o 2005, yn

ddarostyngedig i brofion, a chyfradd TAW ostyngedig ar bympiau yn

defnyddio gwres o’r ddaear, dull carbon-effeithlon ymarferol o wresogi

adeiladau nad ydynt yn gysylltiedig â’r grid nwy.

Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni

Mae’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn sefydliad preifat nad yw’n gwneud elw, a

ariennir gan Defra, yr Adran Masnach a Diwydiant, yr Adran dros Drafnidiaeth, y

gweinyddiaethau datganoledig a’r sector preifat. Mae ganddi ddau brif weithgaredd

sydd wedi’u hanelu at gartrefi: sef rhedeg rhwydwaith o 52 o Ganolfannau Cyngor ar

Effeithlonrwydd Ynni i roi cyngor i ddefnyddwyr ac awdurdodau lleol; ac ymgyrch

Effeithlonrwydd Ynni i annog defnyddwyr i leihau’r ynni a ddefnyddir ganddynt a

gosod offer effeithlonrwydd ynni.

Ar ben hynny, mae’r Rhaglen Arddangos Ffotofoltäig Fawr (a gynhelir gan EST, ac a

ariennir gan yr Adran Masnach a Diwydiant) yn rhoi grantiau i ariannu’r defnydd

arloesol o gyfarpar ffotofoltäig, ar gyfer adeiladau domestig ac annomestig. Ac mae’r

Rhaglen Ynni Cymunedol (a gynhelir gan EST a’r Ymddiriedolaeth Garbon) yn rhoi

grantiau i ariannu’r gwaith o osod systemau gwresogi dosbarth/cymunedol. Lle na

fydd y rhain yn garbon-niwtral yn y lle cyntaf, bydd y buddsoddiad gwerthfawr yn y

seilwaith yn ei gwneud yn bosibl i weithfeydd CHP/biomas gael eu defnyddio ar

gyfer systemau gwresogi ac oeri carbon-effeithlon ar raddfa fawr yn y tymor canolig.

Dyrannodd y Llywodraeth swm ychwanegol o £10 miliwn i EST ar gyfer

2005-2008 i ymestyn y Rhaglen Ynni Cymunedol.

Fel rhan o’r rhaglen Decent Homes mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau

ymhlith pethau eraill, fod gan bob cartref cymdeithasol (h.y. y rhai sy’n eiddo i

awdurdodau lleol neu Gymdeithasau Tai) systemau insiwleiddio a gwresogi effeithiol

erbyn 2010. Mae canllawiau ‘Decent Homes’ hefyd yn annog landlordiaid i gymryd

mesurau effeithlonrwydd ynni eraill wrth weithio ar eu heiddo. Yn achos y sector

preifat, bydd y lwfans arbed ynni newydd ar gyfer landlordiaid, a gyhoeddwyd yng

Nghyllideb 2004 yn annog landlordiaid preifat i fuddsoddi yn y gwaith o insiwleiddio

eu heiddo.

[picture caption]

BedZed - ystad eco-gyfeillgar arloesol, Wallington, Surrey

v. Defnydd Tir, Amaethyddiaeth a Choedwigaeth

Mae’r system cynllunio defnydd tir yn rhoi’r fframwaith allweddol ar gyfer rheoli

datblygiadau a’r defnydd a wneir o dir mewn ffyrdd sy’n cymryd i ystyriaeth y

defnydd cynaliadwy o’n hadnoddau naturiol; er enghraifft, drwy hyrwyddo’r defnydd

o ynni adnewyddadwy mewn datblygiadau newydd a lleihau’r defnydd a wneir o

adnoddau anadnewyddadwy (a gollyngiadau) drwy leoli datblygiadau lle y gellir eu

cyrraedd drwy ddulliau ac eithrio’r car preifat. Mae datganiad polisi cynllunio

newydd y Llywodraeth ‘Sicrhau Datblygu Cynaliadwy’ (PSS 1) yn nodi ein

gweledigaeth ar gyfer y system gynllunio a’r polisïau allweddol a fydd yn sylfaen

iddi. Disgrifir hyn yn fanwl yn yr adran rhwng penodau 5 a 6.

Mae prosesau amaethyddol yn gollwng ac yn amsugno nwyon tþ gwydr. Caiff carbon

ei amsugno o’r atmosffer pan fydd y tir a orchuddir gan goedwigoedd neu’r deunydd

organig yn y pridd yn cynyddu. Gall gollyngiadau ddeillio’n bennaf o brosesau treulio

anifeiliaid, gwastraff anifeiliaid, defnyddio gwrteithiau a newid yn y defnydd tir. Nid

oes llawer o bolisïau uniongyrchol ar gyfer lleihau gollyngiadau nwyon tþ gwydr yn y

sector hwn. Fodd bynnag, mae llawer o bolisïau eraill yn arwain at ostyngiadau

anuniongyrchol. Mae’r rhain yn cynnwys diwygiadau i’r Polisi Amaethyddol

Cyffredin a wahanodd daliadau i ffermwyr oddi wrth gymhellion ar gyfer cynhyrchu,

ac a wnaeth daliadau yn amodol ar gyrraedd safonau amgylcheddol gofynnol.

Mae Rhaglen Datblygu Gwledig Lloegr (ERDP) – sy’n gweithredu Rheoliad

Datblygu Gwledig yr UE (RDR) yn Lloegr – yn mynd i’r afael â’r newid yn yr

hinsawdd yn uniongyrchol drwy gynlluniau megis y Cynllun Cnydau Ynni, ac yn llai

uniongyrchol drwy’r cynlluniau amaeth-amgylchedd. Dylai Stiwardiaeth

Amgylcheddol, a lansiwyd ym mis Mawrth 2005, hefyd hyrwyddo gweithgarwch

sy’n helpu i leihau gollyngiadau.

Cred Llywodraeth y DU y dylai polisi datblygu gwledig yr UE yn y dyfodol

ganolbwyntio’n fwy effeithiol ar flaenoriaethau amgylcheddol allweddol ar gyfer yr

UE, gan gynnwys cyfraniad at liniaru’r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo. Mae

Rheoliad Datblygu Gwledig (RDR) newydd yr UE wrthi’n cael ei negodi ar gyfer y

cyfnod 2007-2013.

Gall cnydau nad ydynt yn fwyd leihau gollyngiadau drwy gael eu defnyddio yn lle

petrocemegion. Gall tanwydd yn deillio o gnydau gymryd lle tanwydd trafnidiaeth a

gellir defnyddio bio-mas o gnydau i gynhyrchu gwres a thrydan. Gellir defnyddio

cnydau hefyd yn lle cynhyrchion eraill sy’n seiliedig ar betrocemegion, e.e. plastigau.

Mae cymorth ar gyfer plannu cnydau nad ydynt yn fwyd ar gael drwy’r Cynllun

Cnydau Ynni. Mae’r Cynllun Seilwaith Bio-ynni, a lansiwyd y llynedd, yn rhoi

cymorth ar gyfer datblygu cadwyni cyflenwi ledled y DU. Fodd bynnag, cyfyngedig

fu twf yn y maes hwn hyd yma.

Sefydlodd y Llywodraeth dasglu i ddadansoddi rhwystrau i ddatblygu

cnydau ynni a gwneud argymhellion ar gyfraniad bio-mas, gan gymryd i

ystyriaeth y goblygiadau i’r economi wledig a defnydd tir.

Gall arferion coedwigaeth wneud cryn gyfraniad drwy leihau gollyngiadau tþ gwydr

drwy gynyddu lefel y carbon a ddilëir o’r atmosffer drwy’r ystad coedwigoedd

genedlaethol, drwy losgi coed ar gyfer tanwydd, a thrwy ddefnyddio coed yn lle

deunyddiau ynni dwys megis concrid a dur. Mae nifer o gynlluniau cymhelliant ar

gyfer plannu coed a fydd yn helpu i leihau gollyngiadau carbon. Mae’r rhain yn

cynnwys y Cynllun Premiwm Coetir Fferm (rhan o’r ERDP) sy’n annog plannu

coed ar dir sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd at ddibenion cynhyrchu

amaethyddol.

vi. Y Sector Cyhoeddus

Mae gan y sector cyhoeddus ran bwysig i’w chwarae o ran rhoi arweiniad a ysgogi

newid mewn sectorau eraill.

O dan y Fframwaith ar gyfer Datblygu Cynaliadwy ar Ystad y Llywodraeth mae

nifer o dargedau ar gyfer adrannau canolog a’u hasiantaethau gweithredol yn

ymwneud â’r newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys:

[box]

Lleihau gollyngiadau carbon absoliwt, o danwydd a thrydan a ddefnyddir

mewn adeiladau ar ei hystad, 12.5 y cant erbyn 2010-11, o gymharu â

1999-2000

Gwella effeithlonrwydd ynni adeiladau ar ei hystad 15 y cant erbyn 2010-

11, o gymharu â 1999-2000

Cael o leiaf 10 y cant o’i thrydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn mis

Mawrth 2008

Cael o leiaf 15 y cant o’i thrydan o systemau CHP Ansawdd Da erbyn

2010

Ymrwymiad newydd gan Lywodraeth ganolog i brynu a rhentu adeiladau

â pherfformiad ynni yn y 25 y cant uchaf

Mae’r Llywodraeth hefyd yn bwriadu datblygu strategaeth hirdymor,

hyd 2020, ar gyfer cael ynni adnewyddadwy ar Ystad y Llywodraeth

Cynllun peilot gwrthbwyso carbon

Mae rhai busnesau ac unigolion eisoes yn cymryd camau i ‘wrthbwyso’ effeithiau

carbon eu teithiau awyr. Er na all unrhyw beth gymryd lle camau gweithredu polisi ar

y sector hedfan, mae’r Llywodraeth eisoes wedi ymrwymo i wrthbwyso effeithiau

teithio digwyddiadau sy’n gysylltiedig â’i Llywyddiaeth ar yr UE a’r G8.

Yn 2005, bydd Defra, DFID a FCO, sy’n cyfrif am y mwyafrif o holl deithiau awyr y

llywodraeth, yn gweithio gyda’i gilydd i dreialu gwrthbwyso gollyngiadau carbon

deuocsid o deithiau awyr swyddogol. Bydd y gweithredu hwn ar y cyd yn dechrau

drwy gynnal hunan-asesiad o ollyngiadau o deithiau awyr a datblygu ymagwedd

gydgysylltiedig tuag at fuddsoddi mewn prosiectau gwrthbwyso addas sy’n

gwrthbwyso’r gollyngiadau hyn drwy ddileu lefel gyfatebol o nwyon tþ gwydr sydd

wedi’i gollwng neu drwy ei hatal rhag cael ei gollwng. Mae’r Adran dros Drafnidiaeth

yn helpu i ddatblygu’r cynllun.

Ni fydd y fenter gwrthbwyso carbon yn amharu ar ein hamcanion ehangach o ran

lleihau gollyngiadau, ond dylid ystyried ei bod yn fesur interim ategol ar gyfer mynd

i’r afael â gollyngiadau newid hinsawdd o’r sector hedfan ar sail wirfoddol.

Fel y disgrifiwyd yn gynharach, mae’r Llywodraeth yn dal yn argyhoeddedig y dylai’r

DU flaenoriaethu lleihau gollyngiadau ac mai’r ffordd orau o sicrhau bod y sector

hedfan yn cyfrannu at y nod o sefydlogi’r hinsawdd yw drwy gynllun cyfnewid

gollyngiadau a luniwyd yn dda.

Mae’r ymagwedd drwy ysgolion yn ddyblyg. Mae’r sector addysg yn bwysig o ran y

cyfleoedd sydd i hysbysu pobl ifanc am y newid yn yr hinsawdd, ond hefyd am ei fod

yn gyfrifol am 10 y cant o’r holl ollyngiadau carbon o bob adeilad masnachol a

chyhoeddus.

“Ni fydd datblygu cynaliadwy yn bwnc yn yr ystafell ddosbarth yn unig: bydd yn ei

brics a’i morter ac yn y modd y mae’r ysgol yn defnyddio ac yn cynhyrchu hyd yn oed

ei hynni ei hun. Nid dim ond clywed am ddatblygu cynaliadwy a wnaiff ein disgyblion,

byddant yn ei weld ac yn gweithio y tu mewn iddo: man dysgu byw lle y gellir

ymchwilio i’r hyn a olygir wrth ddatblygu cynaliadwy.”

Y Prif Weinidog, Medi 2004

Hyrwyddir ymagwedd ysgol gyfan drwy’r Ardystiad Effeithlonrwydd Ynni ar gyfer

Ysgolion, ac mae’r rhaglen Adeiladu Ysgolion ar gyfer y Dyfodol yn rhoi cyfle

gwerthfawr i wneud y stoc adeiladau ysgol yn fwy effeithlon. Yn ogystal, mae’r

Ymddiriedolaeth Garbon yn hyrwyddo’r Rhaglen Ynni ‘Turnkey’ Ysgolion i annog

ysgolion i weithredu ymagwedd gyfan tuag at reoli ynni.

Mae’r Llywodraeth yn ceisio datblygu dull asesu amgylcheddol ar gyfer pob

ysgol newydd a gwaith adnewyddu mawr a fframwaith ar gyfer datblygu

cynaliadwy ar gyfer ysgolion sy’n bodoli eisoes

[box]

Rhaglen Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol y GIG

Mae gan y GIG y portffolio eiddo mwyaf yn Ewrop ac mae’n gollwng tua miliwn o

dunelli o garbon o’r ynni a ddefnyddir ganddo. Mae gan y GIG ddau darged yn

Lloegr:

lleihau treuliant ynni sylfaenol 15 y cant erbyn 2010, o gymharu â lefelau

2000

cyrraedd targed o 35-55 Gj/100m 3 perfformiad effeithlonrwydd ynni ar gyfer

yr ystad gofal iechyd ar gyfer pob datblygiad cyfalaf newydd a phob gwaith

ailddatblygu neu adnewyddu mawr; ac y dylai pob cyfleuster sy’n bodoli

eisoes gyrraedd targed o 55-65 Gj/100m.

Er mwyn helpu i gyrraedd y targedau hyn mae’r Adran Iechyd wrthi’n cwblhau

canllaw ar garbon ynni ar gyfer y GIG yn Lloegr. Yn ogystal, mae eisoes yn ofynnol i

bob Ymddiriedolaeth GIG asesu ei pherfformiad amgylcheddol gan ddefnyddio Dull

Asesu Amgylcheddol y GIG (NEAT).

Mae’r camau gweithredu hyn i gyd yn rhan o Raglen Cyfrifoldeb Cymdeithasol

Corfforaethol y GIG sy’n dangos sut y gall y GIG, fel cyflogwr mwyaf y wlad, wneud

cyfraniad pwysig at iechyd a chynaliadwyedd y cymunedau a wasanaethir ganddo 18 .

Ceir rhagor o fanylion am gaffael cyhoeddus ym Mhenodau 3 a 7.

Menter Cyfathrebu ynglyˆ n â Newid yn yr Hinsawdd (CCCI)

Bwriedir i’r Fenter Cyfathrebu ynglyˆ n â Newid yn yr Hinsawdd ymdrin ag

ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r newid yn yr hinsawdd a’i agweddau ato. Mae

agweddau allweddol yn cynnwys cydnabod bod y newid yn yr hinsawdd yn fater y

mae angen rhoi sylw iddo ar unwaith, bod pob unigolyn yn gyfrifol am gymryd y

camau gweithredu cyntaf a bod y newid yn yr hinsawdd yn gyfle yn ogystal â

bygythiad, yn ogystal â meithrin gwell dealltwriaeth o achosion ac effeithiau

newidiadau yn yr hinsawdd.

Bwriedir i’r fenter hon ategu’r ymgyrchoedd newid ymddygiad â ffocws mwy

penodol, megis y rhai ar effeithlonrwydd ynni a arweiniwyd gan yr Ymddiriedolaeth

Arbed Ynni a’r Ymddiriedolaeth Garbon. Fel rhan o raglen Community Action 2020 -

Together We Can, bydd y fenter yn canolbwyntio’n gryf ar gyfathrebu â phobl yn

lleol ac yn rhanbarthol, lle mae’r dystiolaeth yn awgrymu y gall fod yn fwyaf

effeithiol. Bydd y Llywodraeth yn sefydlu cronfa newydd, gan ddechrau yn y

flwyddyn ariannol nesaf, i ategu cyfathrebu ynglyˆ n â newid yn yr hinsawdd yn

rhanbarthol ac yn lleol.

Lansiodd y Llywodraeth y Fenter Cyfathrebu ynglyˆ n â Newid yn yr

Hinsawdd ym mis Chwefror 2005, gan gadarnhau cyllid ategol o £12

miliwn yn ystod y cyfnod 2005-2008

5. Addasu i’r newid yn yr hinsawdd

Oherwydd ein gollyngiadau nwyon tþ gwydr yn y gorffennol ac yn y presennol mae’n

anochel bellach y bydd yr hinsawdd yn newid rywfaint. Mae’r newid yn yr hinsawdd

a welwn yn ystod y tri degawd nesaf eisoes wedi’i bennu i raddau helaeth, ni waeth

sut yr ydym yn lleihau ein gollyngiadau yn awr. Felly mae angen i ni ddeall yr

effeithiau anochel, ar yr amgylchedd, ar gymunedau, ac ar fusnesau, fel y gallwn

ymbaratoi ar eu cyfer, er mwyn lleihau risgiau a manteisio ar gyfleoedd.

Gall addasu i’r effeithiau hyn olygu penderfyniadau anodd a chryn fuddsoddi, a bydd

yn rhaid i benderfyniadau ddarparu ar gyfer ansicrwydd cynhenid ynghylch sut y

mae’r hinsawdd yn newid. Bydd yn rhaid addasu ym mhob agwedd ar ddatblygu

cynaliadwy ac ystyriwyd newid yn yr hinsawdd mewn perthynas â phob agwedd ar y

strategaeth hon.

Mae Defra yn ariannu Rhaglen Effeithiau Hinsawdd y DU (UKCIP) i helpu

rhanddeiliaid cyhoeddus a phreifat i asesu pa mor agored ydynt i effeithiau hinsawdd,

fel y gallant ddatblygu eu hymatebion eu hunain. Mae pedwar maes dan sylw: creu

18 Gweler DH, 2004, ‘Choosing Health: making healthier choices easier’, TSO.

darlun cenedlaethol o effeithiau; bod yn rhyngwyneb rhwng gwaith ymchwil a

rhanddeiliaid; helpu rhanddeiliaid i gymryd camau tuag at addasu a hyrwyddo arfer

gorau.

Senarios newid yn yr hinsawdd

Mae angen dealltwriaeth dda o’r newid yn yr hinsawdd y gellir ei ddisgwyl i ategu’r

ffordd y byddwn yn dewis addasu. Cyhoeddwyd senarios newid yn yr hinsawdd yn y

dyfodol yn y DU yn 2002.

Yn ystod y 2-3 blynedd nesaf, caiff y wybodaeth hon am senarios newid

yn yr hinsawdd ei hadolygu, ei hymestyn a’i datblygu er mwyn diwallu

anghenion rhanddeiliaid yn fwy effeithiol

Deall effeithiau’r newid yn yr hinsawdd

Cwblhawyd astudiaethau cwmpasu wedi’u harwain gan randdeiliaid (a hwyluswyd

gan UKCIP) yn ymchwilio i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ym mhob rhanbarth o

Loegr a’r Gweinyddiaethau Datganoledig. Gwnaed ymchwil fanwl, neu mae ymchwil

fanwl ar y gweill, mewn nifer o sectorau â blaenoriaeth, a chan nifer o sefydliadau, yn

arbennig yn y sectorau adnoddau dðr a rheoli llifogydd/arfordiroedd, ond hefyd gan

gynnwys amrywiaeth anifeiliaid a phlanhigion, amaethyddiaeth,

twristiaeth/adloniant/hamdden, iechyd, cynllunio gofodol a’r amgylchedd adeiledig, a

byd busnes.

Bydd adroddiad sydd i’w gyhoeddi yn 2005 yn integreiddio canfyddiadau

o bob un o astudiaethau UKCIP i roi darlun cenedlaethol o effeithiau’r

newid yn yr hinsawdd ac opsiynau addasu sy’n ymddangos y gwyddys

amdanynt ar hyn o bryd

Gweithio gyda rhanddeiliaid

Mae camau gweithredu i addasu at y newid yn yr hinsawdd yn aml yn cael eu cymryd

yn rhanbarthol ac yn lleol a chan sefydliadau rhanddeiliad cyhoeddus a phreifat.

Sefydlwyd partneriaethau newid yn yr hinsawdd ranbarthol mewn 7 o 9 rhanbarth

Lloegr yn ystod y pedair blynedd diwethaf, gan gynnwys Swyddfeydd Llywodraeth

yn y Rhanbarthau, cynrychiolwyr llywodraeth ranbarthol a lleol, Asiantaeth yr

Amgylchedd, ac amrywiaeth o randdeiliaid ehangach. Mae’r partneriaethau hyn yn

ganolbwynt allweddol i gamau addasu.

Mae angen cydlynu ymdrechion yn y Llywodraeth ac ymhlith rhanddeiliaid bellach i

sicrhau ymateb cynhwysfawr a chyson i’r newid yn yr hinsawdd ledled y DU.

Yn 2005 bydd y Llywodraeth yn lansio Fframwaith Polisi Addasu.

Bydd y Fframwaith hwn yn dwyn ynghyd y polisïau a’r gweithgareddau addasu ar

draws y Llywodraeth. Bydd gan sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat yn lleol, yn

rhanbarthol ac yn genedlaethol, gan gynnwys yr Asiantaeth Integredig newydd ac

Asiantaeth yr Amgylchedd, ran allweddol i’w chwarae i weithredu’r hyn a nodir o dan

y Fframwaith.

[box]

Addasu i leihau’r risg gynyddol o lifogydd

Mae’r Llywodraeth yn parhau â’i rhaglen rheoli risg llifogydd ac erydu arfordirol

helaeth, gan gynnwys adeiladu gwell amddiffynfeydd a gwell systemau rhybuddio am

lifogydd. Cyflwynwyd dulliau arloesol eisoes drwy gyflwyno amddiffynfeydd

‘meddal’ rhag llifogydd a thrwy fynd ati i reoli’r broses o adlinio morlinau.

Yn hydref 2004, ceisiodd ymgynghoriad The Making Space for Water farn pobl am

gynigion ar gyfer strategaeth trawslywodraethol newydd i Loegr. Mae’r strategaeth

hon yn canolbwyntio ar reoli risg llifogydd ac erydu arfordirol o bob ffynhonnell yn

gynaliadwy. Un o’r prif flaenoriaethau yw lleihau’r risg yn gysylltiedig â llifogydd i

gyfran helaethach o eiddo diamddiffyn tra’n sicrhau bod polisïau rheoli risg llifogydd

ar draws y Llywodraeth yn edrych tuag at y dyfodol, a’u bod yn cyfrannu at ddatblygu

cynaliadwy gan gynnwys bioamrywiaeth, ansawdd dðr, systemau draenio trefol ac

adfywio trefol. Rydym yn bwriadu cyhoeddi’r strategaeth newydd yn 2005.

[picture caption]

Gwahanfur Llifogydd Afon Tafwys

Bydd angen cymorth ar wledydd diamddiffyn er mwyn iddynt addasu i effeithiau’r

newid yn yr hinsawdd. Mae’r DU yn ceisio prif ffrydio risgiau ac effeithiau yn

gysylltiedig â’r newid yn yr hinsawdd o fewn cynlluniau cymorth datblygu a datblygu

cenedlaethol, ac mae wedi ariannu astudiaethau ar y newid yn yr hinsawdd yn India,

Tsieina ac Affrica. Rydym hefyd yn bwriadu cefnogi gwaith ymchwil a wneir yn

Tsieina, India a De Affrica – i atgyfnerthu gallu dadansoddwyr a swyddogion

allweddol i ddatblygu eu cynigion eu hunain. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y

gwledydd hyn mewn sefyllfa i integreiddio camau lliniaru yn llwyddiannus â’u

cynlluniau datblygu eu hunain, ac yn helpu i’w paratoi ar gyfer trafodaethau

rhyngwladol yn y dyfodol ynghylch y newid yn yr hinsawdd.

Bydd canlyniadau astudiaeth Affrica Llywodraeth y DU, a gyhoeddwyd yn

Negfed Gynhadledd y Partïon yng Nghonfensiwn UNFCC ar y Newid yn yr

Hinsawdd (COP 10), yn hyrwyddo datblygu rhagor o bolisïau yn ymwneud â

gweithio gyda sefydliadau a llywodraethau yn Affrica, a’n partneriaid yn y G8.

[Chart]

Ein hymagwedd integredig at y newid yn yr hinsawdd ac ynni

Enable – Galluogi

• Rhaglenni’r Ymddiriedolaeth Garbon ar gyfer byd busnes a’r sector cyhoeddus

• Rhaglenni’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ar gyfer defnyddwyr

• Fframwaith Addasu i’r Newid yn yr Hinsawdd

• Darparu senarios ar gyfer newidiadau yn yr hinsawdd

Encourage – Annog

• cynllun cyfnewid gollyngiadau’r DU

• cynllun cyfnewid gollyngiadau’r UE

• Ardoll newid yn yr hinsawdd

• Cytundebau newid yn yr hinsawdd

• Cymhellion ariannol

• Cod Adeiladau Cynaliadwy

• Diwygio Rhan L o’r rheoliadau adeiladu

• Cyfnewid Tystysgrifau Gwyn

• Cytundebau gwirfoddol ar effeithlonrwydd ynni gyda’r diwydiant moduron

• Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy

• Ymrwymiad Effeithlonrwydd Ynni

• Cynllun Gweithredu Effeithlonrwydd Ynni

• CHP

Engage – Ymgysylltu

• Adolygiad o Raglen Newid yn yr Hinsawdd y DU

• Menter Cyfathrebu ynglyˆ n â Newid yn yr Hinsawdd (CCCI)

• Trafodaethau rhyngwladol yn ystod llywyddiaethau’r UE a’r G8

• REEEP

Exemplify – Bod yn esiampl

• Ymrwymiad i brynu cerbydau glân

• Cynllun gwrthbwyso carbon peilot

• Rhaglen adeiladu ysgolion ac ysbytai

• Targedau’r Llywodraeth ar gyfer lleihau gollyngiadau

6. Mesur ein cynnydd

Mae’r dangosyddion a restrir isod yn cynnwys pob dangosydd o fewn set Fframwaith

y DU sy’n berthnasol i’r newid yn yr hinsawdd ac ynni a hefyd ‘datgysylltu’ (gweler

Pennod 3) a dangosyddion eraill sy’n berthnasol i flaenoriaethau Strategaeth

Llywodraeth y DU.

Ymhlith y dangosyddion i’w defnyddio i gofnodi cynnydd bydd:

Gollyngiadau nwyon tþ gwydr*: Targed Kyoto a gollyngiadau CO2

Gollyngiadau CO2 gan y defnyddiwr olaf: diwydiant, cartrefi, trafnidiaeth

(ac eithrio’r sector hedfan rhyngwladol), arall

Gollyngiadau o awyrennau a llongau: nwyon tþ gwydr o fynceri tanwydd

awyrennau a llongau rhyngwladol a leolir yn y DU, a CMC

Trydan adnewyddadwy: trydan adnewyddadwy a gynhyrchir fel canran o’r

holl drydan

Cyflenwad ynni: Cyflenwad ynni sylfaenol y DU a threuliant ynni mewndirol

crynswth

Cynhyrchu trydan: y trydan a gynhyrchir, gollyngiadau CO2, NOx ac SO2 yn

deillio o generaduron trydan a CMC

Yr ynni a ddefnyddir mewn cartrefi: gollyngiadau CO2 a gwariant cartrefi

ar dreuliant terfynol

Trafnidiaeth ar ffyrdd: Gollyngiadau CO2, a CMC

Cerbydau preifat: Gollyngiadau CO2 a gwariant ar geir fesul cilomedr a

gwariant cartrefi ar dreuliant terfynol

Cludo nwyddau ar ffyrdd: Gollyngiadau CO2 a thunelli fesul cilomedr,

tunnelli a CMC

Sector gweithgynhyrchu: Gollyngiadau CO2 a Gwerth Ychwanegol

Crynswth

Sector amaethyddol: gollyngiadau methan ac allbwn

Sector gwasanaethau: Gollyngiadau CO2 a Gwerth Ychwanegol Crynswth

Sector cyhoeddus: Gollyngiadau CO2 a Gwerth Ychwanegol Crynswth

Noder bod rhai dangosyddion yn berthnasol i rannau eraill o’r Strategaeth ac fe’u

rhestrir mewn penodau eraill hefyd

• Cynhwysir y dangosydd yn Nangosyddion Fframwaith y DU

Pennod 5

Dyfodol heb edifarhau:

Diogelu ein Hadnoddau Naturiol

a Gwella’r Amgylchedd

Y ffeithiau

Mae 72 y cant o stociau morol y byd yn cael eu cynaeafu yn gynt nag y gallant

atgenhedlu 1

Crynodeb

Mae rhai arbenigwyr yn asesu bod rhywogaethau yn diflannu yn ôl cyfradd

sydd 1,000 i 10,000 gwaith yn uwch na’r gyfradd naturiol 2

Mae dros 90% o’r 1.2 biliwn o bobl sy’n byw mewn tlodi eithafol yn dibynnu

ar goedwigoedd ar gyfer rhan o’u bywoliaeth. Lleihaodd gorchudd

coedwigoedd y byd 4% rhwng 1990 a 2000 3

Mae’r cymunedau tlotaf yn tueddu i ddioddef yr ansawdd aer gwaethaf - yn

Lloegr, mae’r wardiau mwyaf difreintiedig yn dioddef y crynoadau mwyaf o

lygredd sy’n niweidio iechyd pobl. Mae pobl mewn wardiau difreintiedig yn

dod i gysylltiad â chrynoadau o garbon deuocsid sydd 41% yn fwy na’r rhai a

brofir gan y bobl hynny sy’n byw mewn wardiau cyffredin 4

Mae gweithgareddau o fewn sectorau sy’n cyfrannu’n gadarnhaol at reoli’r

amgylchedd naturiol yn cynnal 299,000 o swyddi gyfwerth â llawn amser yn

Lloegr, ac yn cyfrannu £7.6 biliwn mewn gwerth ychwanegol crynswth 5

Mae adnoddau naturiol yn hanfodol bwysig i’n bodolaeth ac i ddatblygiad cymunedau

ledled y byd.

Y materion a wynebwn yw’r angen i ddeall terfynau amgylcheddol yn well, yr angen i

wella’r amgylchedd lle mae’r amgylchedd yn fwyaf diraddedig i sicrhau amgylchedd

boddhaol i bawb, a’r angen am fframwaith polisi mwy integredig i gyflawni hynny.

[box]

Ymatebion i’r ymgynghoriad Ymlaen fo’r Nod

Ym mhapur ymgynghori ‘Ymlaen fo’r Nod’, triniwyd materion adnoddau naturiol yn

is-set i’r flaenoriaeth yn ymwneud â defnyddio a chynhyrchu cynaliadwy.

Beirniadwyd hyn gan nifer o ymatebwyr, a oedd o’r farn bod adnoddau naturiol yn

haeddu proffil llawer uwch yn y strategaeth newydd, un a gwmpasai reoli yn ogystal â

1

Gwasanaeth ystadegol ar-lein y Sefydliad Bwyd ac Amaethyddol yn apps.fao.org

2

Y Comisiwn Ewropeaidd ‘Biodiversity loss: facts and figures’ yn europa.eu.int

3

www.Inweb18.worldbank.org

4

Asiantaeth yr Amgylchedd.

5

GHK Consulting Ltd, 2004, ‘Revealing The Value Of The Natural Environment in England’

defnyddio adnoddau naturiol. Felly mae’r strategaeth newydd yn nodi diogelu

adnoddau naturiol fel blaenoriaeth ar wahân. Mewn ymateb i’r ymgynghoriad ac

adborth arall, mae’r egwyddorion datblygu cynaliadwy newydd yn gosod byw o fewn

terfynau amgylcheddol wrth graidd y strategaeth newydd.

1. Ein hymagwedd

Mae adnoddau naturiol yn hanfodol bwysig i’n bodolaeth. Mae cyswllt anorfod rhwng

ein hiechyd a’n lles ac ansawdd ein haer, ein dðr, ein priddoedd a’n hadnoddau

biolegol. Mae defnyddio eu cyfoeth amgylcheddol yn hanfodol bwysig ar gyfer

datblygu economaidd a lleihau tlodi yn y wlad hon a thramor. Mae ein heconomi a’n

sectorau diwydiannol allweddol yn dibynnu yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol ar

ecosystemau gweithredol, sy’n hanfodol bwysig ar gyfer cylchu maetholion,

rheoleiddio’r atmosffer a’r hinsawdd, a threulio a lleihau gwastraff. Mae ein

tirweddau, ein morluniau a’n bywyd gwyllt yn rhan annatod o’n diwylliant a’n

hunaniaeth. I lawer o bobl mae i’r byd naturiol ei werth cynhenid ei hun.

Mae’r galwadau ar adnoddau naturiol yn parhau i gynyddu wrth i awydd pobl i

ddefnyddio mwy fynd law yn llaw â chynnydd yn y boblogaeth. Yma yn y DU, un o

economïau mwyaf y byd, mae gennym lefelau uchel o dreuliant a welir ledled y byd

datblygedig. Mewn gwledydd eraill, mewn gwledydd sy’n llai datblygedig yn

economaidd, mae twf economaidd hefyd yn ysgogi treuliant cynyddol.

Yn y DU gwyddom sut i leihau llawer o’r ffynonellau llygredd traddodiadol yn

sylweddol a gwnaed cynnydd pwysig tuag at gyflawni hynny e.e. llygredd organig o

weithfeydd carthion, sylffwr deuocsid o orsafoedd trydan, cemegau o ddiwydiant.

Mae’r problemau mwyaf difrifol sydd ar ôl yn fwy anodd eu datrys – maent yn

broblemau cronig, gwasgaredig a chyson – ac maent yn effeithio ar gymunedau

difreintiedig yn anghymesur. Er mwyn i ni fynd i’r afael â’r materion hyn yn

effeithiol mae angen i ni fabwysiadu ymagwedd yn seiliedig ar ecosystemau a dod i

ddeall y terfynau amgylcheddol a ddisgrifir yn y bennod hon yn well.

Mae angen polisïau cyson i ddiogelu a gwella’r adnoddau naturiol hynny yr ydym yn

dibynnu arnynt. Mae datblygu cysylltiadau rhwng polisïau unigol yng nghyd-destun

yr amgylchedd ehangach yn hollbwysig i’n hymagwedd tuag at ddiogelu adnoddau

naturiol yn gyffredinol. Fel cam cyntaf tuag at yr ymagwedd fwy cynhwysfawr hon:

Bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu

gweledigaeth glir ac ymagwedd gydlynol ar gyfer y DU at ddiogelu a

chynyddu adnoddau naturiol erbyn diwedd 2005

Mae tair sylfaen gyffredinol y byddwn yn adeiladu’r ymagwedd newydd hon arnynt i

ddiogelu adnoddau naturiol, sef:

datblygu’r sail tystiolaeth

integreiddio polisi

mynd i’r afael ag adnoddau diraddedig ac anghydraddoldebau amgylcheddol.

[box]

Beth rydym yn ei olygu wrth adnoddau naturiol?

Mae adnoddau naturiol yn darparu gwasanaethau amgylcheddol (e.e. cylchu

maetholion, rheoleiddio hinsawdd a’r atmosffer, ac amddiffyn rhag llifogydd) a gellir

meddwl amdanynt mewn pum ffordd sy’n gorgyffwrdd â’i gilydd 6 . Mae pob un o’r

rhain yn adlewyrchu gwerthoedd yr ydym yn eu cysylltu â hwy:

Deunyddiau crai megis mwynau a bio-mas – nid yw mwynau megis tywod, gro a

cherrig, tanwydd ffosil, mwynau metel, gypswm a chlai yn adnoddau

anadnewyddadwy am na ellir eu hadnewyddu o fewn terfynau amser dynol 7 . Mewn

gwrthgyferbyniad, mae modd adnewyddu bio-mas mewn egwyddor o fewn terfynau

amser dynol, ac mae’n cynnwys ffynonellau y gellir eu hadnewyddu yn gyflym,

megis cnydau amaethyddol a ffynonellau y gellir eu hadnewyddu yn araf megis coed.

Fodd bynnag, gellir gwthio’r ddau y tu hwnt i’w terfynau adfer os cânt eu

gorddefnyddio.

Cyfryngau amgylcheddol megis aer, dðr a phridd – mae’r adnoddau hyn yn cynnal

bywyd a’r adnoddau biolegol yr ydym yn dibynnu arnynt.

Adnoddau llifo megis ynni gwynt, ynni daearwresol, ynni llanw ac ynni’r haul -

ni ellir dihysbyddu’r adnoddau hyn, ond mae angen adnoddau eraill i’w defnyddio. Er

enghraifft, mae angen ynni, deunyddiau a lle i adeiladu tyrbinau gwynt neu gelloedd

haul.

Mae angen lle i gynhyrchu neu gynnal pob un o’r uchod – mae lle yn darparu tir ar

gyfer ein dinasoedd a’n trefi, seilwaith, diwydiant ac amaethyddiaeth. Mae angen lle

ar fywyd gwyllt, afonydd a phrosesau naturiol er mwyn iddynt weithredu’n iach.

Mae adnoddau biolegol yn cynnwys ecosystemau deinamig, rhywogaethau a

gwybodaeth enynnol – mae planhigion, anifeiliaid ac organeddau eraill yn cynnal

systemau’r ddaear sy’n cynnal bywyd. Mae eu natur amrywiol (eu bioamrywiaeth)

hefyd yn adnodd ac mae’n cynnwys yr amrywiaeth o fewn rhywogaethau, rhwng

rhywogaethau ac amrywiaeth ecosystemau.

[box]

Datblygu ein gweledigaeth ar gyfer adnoddau naturiol

Mae llawer o bolisïau eisoes, sy’n ceisio diogelu neu wella’r amgylchedd. Mae angen

gweledigaeth hirdymor glir i farnu a yw’r polisïau hyn yn gwneud synnwyr. Rydym

wedi dechrau datblygu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, sy’n adlewyrchu’r

ymagweddau a’r blaenoriaethau newydd sy’n codi o’n polisïau. Bydd ein gwaith gyda

rhanddeiliaid yn cynnwys profi a datblygu’r weledigaeth hon ymhellach:

6

Yn seiliedig ar y ddogfen: ‘Towards a thematic strategy on the sustainable use of natural resources’, a

luniwyd gan yr UE 2003.

7

Mae Pennod 3 yn ymdrin ag adnoddau mwynau.

ni fydd twf economaidd yn gyfyngedig mwyaf i ddiraddio amgylcheddol

gartref neu dramor

bydd ecosystemau daearol a morol iach a gwydn yn ddangosydd clir ein bod

yn rheoli pwysau lluosog yn deillio o weithgarwch dynol yn briodol a’n bod

yn diogelu adnoddau naturiol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

byddwn wedi nodi’n glir lle mae terfynau amgylcheddol yn bodoli a byddwn

wedi cymryd camau i beidio â’u torri

cydnabyddir yn eang y gyd-ddibyniaeth rhwng nodau amgylcheddol, yn

arbennig newid yn yr hinsawdd, cefnforoedd a bioamrywiaeth,

byddwn yn gwerthfawrogi’r ffaith bod iechyd pobl a’r economi fyd-eang yn

dibynnu yn y bôn ar amgylchedd iach

Wrth ymdrin â chanlyniadau gweithgarwch dynol a all effeithio ar adnoddau naturiol

(e.e. gollyngiadau, gwastraff, cemegau, organeddau a addaswyd yn enetig (GMO)),

rydym yn:

mabwysiadu ymagwedd integredig tuag at nodi’r hyn sy’n achosi diraddio

amgylcheddol ac yn cymryd camau i fynd i’r afael â phroblemau mor agos at y

ffynhonnell â phosibl

mynd i’r afael â llygredd gwasgaredig yn ogystal â llygredd o ffynonellau y

gellir eu nodi’n glir

integreiddio’r egwyddor ragofalus – sef lleihau’r risg i’r amgylchedd yn

gysylltiedig â gollyngiadau niweidiol i’r eithaf drwy well gwybodaeth am

effeithiau posibl a gwell rheoli.

2. Datblygu’r sail tystiolaeth

Mae angen i ni ystyried ecosystemau yn gyffredinol, gan gymryd i ystyriaeth

amcanion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Er mwyn gwneud hynny, mae

angen i ni ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r modd y mae ecosystemau yn gweithio, eu

gwytnwch a’u natur fregus, sut yr effeithir arnynt gan bwysau cronnol a chyfunedig, a

gwerth nwyddau a gwasanaethau ecosystem a ddarperir ganddynt. Mae hyn yn

cynnwys cadarnhau terfynau amgylcheddol.

Yr ymagwedd yn seiliedig ar ecosystemau

Mae ffocws ar iechyd ecosystemau wedi datblygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf

ar draws polisi morol, dðr croyw, bioamrywiaeth a phridd. Mae’r newid hwn yn

arwydd o ymagwedd lawer mwy integredig tuag at ddatblygu polisïau. Mae’n darparu

ar gyfer lles dynol yn ogystal â lles ecosystemau ac mae’n ein galluogi i ystyried

amcanion croes. Mae’n gofyn am ymagwedd ragofalus, sy’n osgoi niwed drwy roi

mesurau ar waith i ddiogelu ecosystemau cyn iddynt gael eu niweidio, yn hytrach na

cheisio dadwneud niwed (a all fod yn ddiwrthdro) ar ôl iddo ddigwydd.

Mae’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dðr yn enghraifft o’r ffordd yr ydym yn symud

tuag at ymagwedd yn seiliedig ar ecosystemau. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn ei

gwneud yn ofynnol i reoli basnau afonydd fel endid i sicrhau canlyniadau

amgylcheddol da mewn dðr wyneb a dðr daear. Am y tro cyntaf pennir amcanion

ecolegol ar gyfer dyfroedd wyneb. Byddwn yn disgwyl i’r rhai sy’n defnyddio dðr

neu a allai ei lygru gyfrannu’n decach at gost cyflawni amcanion amgylcheddol y

Gyfarwyddeb. Mae i hyn oblygiadau o ran amaethyddiaeth, defnydd tir a

gweithgareddau eraill, a bydd gwaith partneriaid yn fuddiol. Cychwynnodd yr

Asiantaeth Priffyrdd, er enghraifft, brosiect ymchwil integredig hirdymor i ansawdd

dðr sy’n ceisio datblygu gweithdrefn asesu amgylcheddol sy’n cydymffurfio â’r

Gyfarwyddeb Fframwaith Dðr.

Mae gweithio tuag at reoli adnoddau naturiol ar sail ecosystemau yn golygu y bydd

angen i ni gydnabod, er mwyn sicrhau cynnydd economaidd cynaliadwy a gwell

safonau byw, fod angen cynnal a chynyddu adnoddau naturiol. Er mwyn gwneud

hynny, byddwn yn crynhoi ein dealltwriaeth well o derfynau amgylcheddol ac yn

sicrhau yr ystyrir gwir gostau'r amgylchedd mewn penderfyniadau economaidd.

Terfynau amgylcheddol

Er yr ystyrir bod adnoddau megis bioamrywiaeth a phriddoedd yn ‘adnewyddadwy’,

gellir eu defnyddio i’r fath raddau ag yr achosir niwed diwrthdro hirdymor, sy’n

esbonio pam y datblygwyd y cysyniad o ‘derfynau amgylcheddol’. Terfynau

amgylcheddol yw’r lefel lle na all yr amgylchedd ddarparu ar gyfer gweithgaredd

penodol neu weithgareddau ar raddfa benodol heb gael ei niweidio yn annerbyniol

neu’n ddiwrthdro.

Mae tystiolaeth bod hyn eisoes yn digwydd mewn llawer o leoedd, ac mae darfyddiad

pysgodfeydd penfras Newfoundland at ddibenion masnachol yn enghraifft nodedig.

Mae angen i benderfyniadau sy’n cynnwys y defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol

roi sylw priodol i’r terfynau hyn fel y gellir rhoi mesurau rheoli addas ar waith.

Bydd y Llywodraeth yn coladu ymchwil sy’n bodoli eisoes ac yn nodi

diffygion o ran ein dealltwriaeth o derfynau amgylcheddol, a lle y maent

yn cael eu torri. Wedyn byddwn yn cynnal asesiad strategol o anghenion

ymchwil yn y dyfodol ym mhob maes polisi.

Un o ganlyniadau cynnar y gwaith hwn fydd datblygu protocolau ar gyfer monitro

amgylcheddau sensitif.

Bydd y datblygiadau hyn yn ategu ymchwil a mentrau monitro sy’n bodoli eisoes a

arweinir gan yr adrannau o’r Llywodraeth, yr asiantaethau a’r cynghorau ymchwil

sy’n darparu gwybodaeth gyfoes a dibynadwy am statws ein hadnoddau. Mae’r rhain

yn cynnwys:

y gronfa ddata ar fannau gwyrdd a fydd yn dwyn ynghyd wybodaeth am

barciau, rhandiroedd, ffermydd dinas, meysydd chwarae a mynwentydd, sydd

wrthi’n cael ei datblygu gan Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog (ODPM)

yr ‘Arolwg o Gefn Gwlad’ 8 sy’n edrych ar gyflwr priddoedd, llystyfiant,

cynefinoedd bywyd gwyllt a gorchudd tir

y ‘Datganiad ar Gyflwr yr Amgylchedd’ gan Asiantaeth yr Amgylchedd 9

adroddiadau English Nature ar ‘Gyflwr Natur’ yn yr Ucheldiroedd, yr

Iseldiroedd ac Amgylcheddau Morol, a chyflwr Safleoedd o Ddiddordeb

Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). 10

Er mwyn adeiladu ar y deunydd hwn bydd y Llywodraeth yn:

Ymgymryd ag arolwg newydd o gefn gwlad yn 2006 a 2007 i asesu statws

adnoddau naturiol yng nghefn gwlad y DU

Cyhoeddi adroddiad ar gyflwr y moroedd ym mis Mawrth 2005

Cefnogi gwaith ar y Rhagolygon ar gyfer Bioamrywiaeth Fyd-eang sy’n

mynd rhagddo o dan y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol

Mae’r DU gyda’r goreuon yn y byd o ran gwybodaeth am adnoddau naturiol. Fodd

bynnag, ceir achosion o hyd pan fydd yn rhaid gwneud penderfyniadau ynghylch

rheoli adnoddau naturiol yn seiliedig ar wybodaeth rannol. Yn yr achosion hyn, ac

mewn achosion lle mae risg o effeithiau amgylcheddol andwyol sylweddol ac yr

ymddengys fod unrhyw gamau lliniaru posibl yn annhebygol o ddiogelu rhag yr

effeithiau hyn, caiff yr egwyddor ragofalus ei mabwysiadu. Pan fydd tystiolaeth bod

ecosystemau neu fioamrywiaeth yn debygol o gael eu niweidio, byddwn yn

mabwysiadu arferion sy’n osgoi niwed diwrthdro.

3. Integreiddio polisi

Llywir ein hymrwymiadau i ddiogelu adnoddau naturiol gan amrywiaeth o

gytundebau, amcanion polisi a thargedau a osodwyd ar lefel rhyngwladol,

Ewropeaidd a chenedlaethol. Mae’r fframwaith polisi hwn yn dameidiog, yn

gymhleth a gall arwain at flaenoriaethau croes. Er mwyn i ni allu gweithredu mewn

ffordd fwy strategol byddwn yn mynd i’r afael â natur dameidiog y fframwaith polisi

drwy symud tuag at brosesau llunio polisi mwy integredig.

Mae angen i ni fynd i’r afael â phwysau byd-eang a lleol drwy gydweithredu

rhyngwladol yn ogystal â gweithredu yn y DU. Yn rhyngwladol mae hyn yn golygu

rhoi arweiniad ar ddiogelu’r amgylchedd byd-eang drwy weithio drwy sefydliadau

8 Defra, 2000, ‘Country Survey’ yn www.defra.gov.uk/wildlife-countryside/cs2000/index.htm

9 Asiantaeth yr Amgylchedd, ‘State of the Environment Report’ yn www.environment-agency.gov.uk

10 English Nature, adroddiadau ar Gyflwr Natur

• ‘Upland Challenge’ yn www.english-nature.org.uk/pubs/publication/pdf/wildnat.pdf

• ‘Future landscapes for wildlife’ yn www.englishnature.org.uk/pubs/publication/pdf/sonlow.pdf

• ‘Getting on an even keel’ yn ‘Getting on an even keel' yn www.englishnature.org.uk/pubs/publication/pdf/sonmarsum.pdf

• ‘England’s best wildlife and geological sites’ yn www.englishnature.org.uk/news/news_photo/SSSI_Condition_Report.pdf

megis y Cenhedloedd Unedig. Mae hefyd yn golygu helpu gwledydd sy’n datblygu i

integreiddio egwyddorion datblygu cynaliadwy â pholisïau a rhaglenni cenedlaethol.

Yn Ewrop byddwn yn cydweithio â’n partneriaid ar ddiwygio polisïau amaethyddol

ac amgylcheddol.

Yn y DU mae ystod o strategaethau ar gyfer diogelu a chynyddu adnoddau naturiol.

Atgyfnerthir y rhain gan ddeddfwriaeth newydd ar gyfer yr amgylchedd morol ac ar

gyfer tir comin, a thrwy foderneiddio ein dulliau cyflawni.

Rhestrir ymrwymiadau polisi rhyngwladol, Ewropeaidd a chenedlaethol a

datblygiadau newydd allweddol yn y bennod hon. Paratowyd crynodebau manylach o

amcanion amgylcheddol y Llywodraeth i helpu pobl i ddeall yr amrywiaeth o bolisïau

sy’n cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy.

Mae’r adnodd gwefan diweddaredig a diwygiedig www.sustainabledevelopment.gov.uk

yn nodi nid yn unig ein dangosyddion, a’r targedau

ar gyfer pob un o’n polisïau, ond y fframweithiau polisi a rheoliadol

rhyngwladol, Ewropeaidd a domestig sy’n ein helpu i gyrraedd y

targedau hyn

Diogelu’r amgylchedd byd-eang

Rydym yn ceisio gwrthdroi’r broses o golli adnoddau amgylcheddol yn rhyngwladol

drwy gefnogi asiantaethau amgylcheddol amlochrog. Mae’r Cenhedloedd Unedig, yr

Undeb Ewropeaidd a chyrff rhyngwladol eraill, gyda chymorth dulliau ariannu megis

y Cyfleuster Amgylcheddol Byd-eang, yn foddion i bennu a chyflawni amcanion

amgylcheddol ar draws ffiniau cenedlaethol. Er mwyn cyflawni’r amcanion hyn mae

angen cydnabod anghenion amgylcheddol ym mhob polisi: ni ellir eu hystyried ar eu

pennau eu hunain.

[box]

Y fframwaith polisi rhyngwladol

Gall Confensiynau’r Cenhedloedd Unedig a chytundebau rhyngwladol eraill osod

targedau a chael effaith fawr o bosibl. Maent yn dibynnu’n fawr ar weithredu

effeithiol yn genedlaethol. Mae’r DU wedi llofnodi llawer o gonfensiynau a

chytundebau amgylcheddol (y Cytundebau Amgylcheddol Amlochrog fel y’u gelwir)

gan gynnwys rhai ar:

amrywiaeth biolegol (CBD)

rhywogaethau mewn perygl y mae masnach ryngwladol ynddynt

rhywogaethau ymfudol

gwlyptiroedd (RAMSAR)

llygredd morol (MARPOL)

cyfraith y môr (UNCLOS)

newid yn yr hinsawdd (Kyoto)

llygredd aer trawsffiniol pellgyrhaeddol (CLRT AP)

treftadaeth y byd

diogelu amgylchedd morol Gogledd-ddwyreiniol Môr Iwerydd (OSPAR)

mynediad i wybodaeth, cyfranogiad y cyhoedd mewn prosesau gwneud

penderfyniadau a mynediad i gyfiawnder mewn materion amgylcheddol

(Aarhus)

asesiadau trawsffiniol o’r effaith amgylcheddol (Espoo)

asesiadau amgylcheddol strategol (UNECE Protocol)

llygrwyr organig parhaol (Confensiwn Stockholm)

Daw rhagor o ganllawiau a chyngor drwy Raglen Amgylchedd y Cenhedloedd

Unedig (UNEP) ac asiantaethau arbenigol megis y Sefydliad Bwyd ac

Amaethyddiaeth (FAO). Datblygodd y Sefydliad hwn er enghraifft Gynlluniau

Gweithredu Rhyngwladol megis y rhai ar gyfer adar y môr, morgwn a physgota

Anghyfreithlon Heb ei Reoleiddio na’i Gofnodi (IUU), sy’n dod o dan y Cod Ymarfer

ar gyfer Pysgodfeydd Cyfrifol.

Mae’r DU hefyd wedi ymrwymo i Nodau Datblygu’r Mileniwm y Cenhedloedd

Unedig gan gynnwys sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol gan anelu at gwtogi ar

lefel yr adnoddau amgylcheddol sy’n cael eu colli. Cytunwyd ar ragor o

ymrwymiadau yn Uwchgynhadledd y Byd ar Ddatblygu Cynhaliwyd a gynhaliwyd

gan y Cenhedloedd Unedig yn Johannesburg yn 2002. Mae ein targedau a’n

hymrwymiadau rhyngwladol allweddol yn cynnwys:

lleihau’n sylweddol y gyfradd bresennol o golli bioamrywiaeth erbyn 2010

adfer stociau pysgod sydd wedi’u dihysbyddu

sefydlu rhwydweithiau o ardaloedd morol gwarchodedig erbyn 2012

haneru nifer y bobl nad oes ganddynt fynediad i gyfleusterau glanweithdra

sylfaenol a dðr erbyn 2015

atgyfnerthu gweithgarwch gorfodi ar gyfraith coedwigoedd a’u rheoli

integreiddio egwyddorion datblygu cynaliadwy â pholisïau a rhaglenni

gwledydd

Rhaglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig (UNEP) yw’r prif awdurdod

amgylcheddol byd-eang strategol a’r canolbwynt i gamau gweithredu a chydlynu

amgylcheddol yn y Cenhedloedd Unedig. Y DU fu’r cyfrannwr unigol mwyaf at

UNEP ar gyfer y ddwy flynedd diwethaf, a rhoddodd £4.2 miliwn bob blwyddyn i’w

Chronfa Amgylchedd. Mae’r DU yn gyfrannwr pwysig at y Confensiwn ar

Amrywiaeth Fiolegol, Cronfa Protocol Montreal, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig

ar Wrthsefyll Diffeitheiddio a Fforwm y Cenhedloedd Unedig ar Goedwigoedd.

Mae’r DU hefyd yn cefnogi’r Cyfleuster Amgylcheddol Byd-eang, sy’n rhoi grantiau

i wledydd sy’n datblygu ar gyfer prosiectau sydd o les i’r amgylchedd byd-eang ac

sy’n hyrwyddo bywoliaethau cynaliadwy.

Bydd y DU yn cefnogi’r alwad am swm sylweddol newydd o arian ar

gyfer y Cyfleuster Amgylcheddol Byd-eang a bydd yn hyrwyddo

gwelliannau parhaus i’w symleiddio – i sicrhau canlyniadau cyflymach ar

gyfer datblygu cynaliadwy

Er bod cytundebau rhyngwladol yn darparu agenda y cytunwyd arni, mae’n rhaid i

gamau gweithredu gael eu cymryd o fewn gwladwriaethau unigol. Yn achos y DU

mae hyn yn cynnwys gweithio gyda’i Thiriogaethau Tramor, sy’n llawn adnoddau

naturiol a bioamrywiaeth, ond sydd mewn perygl mewn llawer achos. Mae’r Swyddfa

Dramor a Chymanwlad (FCO) a’r Adran Datblygu Rhyngwladol (DFID) yn

cydariannu Rhaglen Amgylchedd Tiriogaethau Tramor, sy’n werth £3 miliwn tan

2006-07, i fynd i’r afael â hyn.

Mae Menter Darwin yn defnyddio arbenigedd y DU ym maes bioamrywiaeth i

ariannu prosiectau cydweithredol gan ffurfio partneriaethau â gwledydd lle y cynhelir

ei phrosiectau. Ers cael ei lansio yn 1992 mae Menter Darwin wedi rhoi dros £35

miliwn i fwy na 350 o brosiectau bioamrywiaeth mewn 100 o wledydd.

[box]

Menter Darwin

Mae prosiect cadwraeth ac ecodwristiaeth a lywir gan gymunedau o dan arweiniad

Sefydliad Cadwraeth ac Ecoleg Durrell, Prifysgol Swydd Gaint, wedi chware rhan

allweddol i hyrwyddo’r defnydd cynaliadwy o adnoddau bywyd gwyllt yn rhanbarth

Mara yn Kenya.

[picture caption]

Stephen Kisolu Darwin Scholar, drwy garedigrwydd Matt Walpole

Bydd y DU yn parhau i hyrwyddo bioamrywiaeth yn rhyngwladol drwy

Fenter Darwin, y Gronfa Rhywogaethau Flaenllaw a’r Gronfa Cyfleoedd

Byd-eang

Mae pysgota Anghyfreithlon Heb ei Reoleiddio na’i Gofnodi (IUU) yn broblem fydeang.

Mae’n bosibl y collir $20-30 biliwn o refeniw bob blwyddyn. Mae’r math hwn

o bysgota yn amharu’n ddirfawr ar stociau pysgod ac ecosystemau. Mae’r gost

gymdeithasol ac economaidd yn fawr a thelir y gost honno yn anghymesur gan bobl

dlawd mewn gwledydd sy’n datblygu y daw dros 50 y cant o gynhyrchion

pysgodfeydd a brynir ac a werthir yn rhyngwladol ohonynt.

[box]

Bydd y Llywodraeth yn hyrwyddo camau gweithredu rhyngwladol i fynd

i’r afael â’r math hwn o bysgota drwy Gynllun Gweithredu Rhyngwladol

y Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth, Tasglu Cefnforoedd y

Gweinidogion a mesurau eraill

Coedwigoedd

Mae’r DU yn cefnogi’r rhaglen Gorfodi Cyfraith Coedwigoedd a’u Rheoli sy’n

hyrwyddo mentrau rhanbarthol yn Affrica ac Asia i helpu gwledydd sy’n datblygu i

atgyfnerthu eu harferion rheoli a masnachu o ran coedwigoedd. Mae DFID wrthi’n

ceisio datblygu marchnadoedd ar gyfer gwasanaethau diogelu cefnau deuddwr.

Chwaraeodd y DU ran bwysig hefyd i ddatblygu cynllun gweithredu arloesol gan yr

UE ar Orfodi Cyfraith Coedwigoedd i Lywodraethau a Masnach. Mae’r cynllun hwn

yn cynnwys datblygu rheoliad newydd i’r UE i atal coed anghyfreithlon rhag dod i

mewn i’r farchnad Ewropeaidd.

Mae 15 miliwn o bobl yn ennill incwm uniongyrchol o goedwigoedd yn Affrica ac

mae dros 70 y cant o boblogaeth Affrica Is-sahara yn dibynnu i raddau helaeth ar

goedwigoedd a choetiroedd ar gyfer eu bywoliaeth. Roedd Affrica yn cyfrif am 56 y

cant o’r datgoedwigo byd-eang rhwng 1990 a 2000 11 .

Nodir camau eraill a gymerwyd gan y DU i helpu i ymdrin â cholli bioamrywiaeth

rhyngwladol, cynnal yr amgylchedd morol a sicrhau pysgodfeydd cynaliadwy yn

fanylach yn y cynlluniau cyflawni perthnasol yn deillio o Uwchgynhadledd y Byd ar

Ddatblygu Cynaliadwy a gyhoeddwyd ym mis Mai 2004 12 .

Nod Datblygu’r Mileniwm (MDG) 7 yw sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol drwy

integreiddio egwyddorion datblygu cynaliadwy â pholisïau a rhaglenni gwledydd, a

thrwy wrthdroi’r broses o golli adnoddau amgylcheddol. Mae’r nod hefyd yn

cynnwys targedau ar gyfer haneru, erbyn 2015, nifer y bobl heb fynediad i ddðr yfed

diogel a chyfleusterau glanweithdra sylfaenol, ac ar gyfer gwella bywydau 100

miliwn o bobl sy’n byw mewn slymiau erbyn 2020.

Y ffordd orau o gyflawni hynny yw drwy gael gwledydd i nodi eu blaenoriaethau

datblygu eu hunain a thrwy ddarparu cymorth rhyngwladol i helpu i reoli adnoddau

yn gynaliadwy. Bydd Strategaethau Lleihau Tlodi (PRS) neu brosesau cynllunio

cenedlaethol cyfatebol, sy’n hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol, yn fwy

effeithiol wrth ddileu tlodi 13 . Fodd bynnag, mae gweithgarwch monitro ac asesu Banc

y Byd yn dangos bod angen gwneud mwy i fynd i’r afael â chyfleoedd a risgiau

amgylcheddol ym mhrosesau strategaethau lleihau tlodi cenedlaethol.

Bydd y Llywodraeth yn ceisio sicrhau y caiff cyfleoedd amgylcheddol yn

ogystal â risgiau amgylcheddol eu hadlewyrchu mewn Strategaethau

Lleihau Tlodi a chynlluniau datblygu cenedlaethol a bydd yn annog pob

cyfrannwr i wneud yr un peth

Bydd y Llywodraeth hefyd yn ceisio sicrhau y rhoddir y pwyslais priodol ar ddðr a

chyfleusterau glanweithdra mewn Strategaethau Lleihau Tlodi. Mae ‘Cynllun

Gweithredu Dðr’ DFID 14 yn nodi sut yr ydym yn bwriadu cyfrannu i gyrraedd targed

Nod Datblygu’r Mileniwm ar gyfer dðr a chyfleusterau glanweithdra.

[box]

Comisiwn Affrica

Mae bioamrywiaeth Affrica yn rhan allweddol o’r fantais gymharol sydd ganddi o ran

twristiaeth a hefyd o ran y diwydiant fferyllol. Defnyddir tua 20,000 o rywogaethau

11 FAO, 2003, ‘IEA World Energy Outlook 2003’.

12 www.sustainable-development.gov.uk/wssd/08.htm

13 Datblygwyd strategaethau lleihau tlodi interim neu lawn mewn 53 o wledydd – gweler

www.sustainable-development.gov.uk/taking-it-on/taskforce/sdtf6-0715-3.htm

14 DFID, 2004, bwriedir diweddaru ‘Water Action Plan’ yn

www.dfid.gov.uk/pubs/files/wateractionplan.pdf yn 2005 yn dilyn 13eg sesiwn Comisiwn y

Cenhedloedd Unedig ar Ddatblygu Cynaliadwy sy’n canolbwyntio ar nodau dðr a glanweithdra, yn

www.un.org/esa/sustdev/csd.htm

mewn meddyginiaeth draddodiadol, gan ffurfio’r sail i ofal iechyd sylfaenol ar gyfer

tua 75 y cant o’r boblogaeth.

Pwysleisir pwysigrwydd polisïau i hyrwyddo twf economaidd cynaliadwy ac i

atgyfnerthu gallu pobl dlawd i gymryd rhan lawn yn y twf hwnnw yn yr adroddiad

gan Gomisiwn Affrica y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2005. Bydd

yn argymell y dylai ystyriaethau amgylcheddol fod yn rhan annatod o ymyriadau

cyfranwyr erbyn diwedd 2006 a bydd yn hyrwyddo cynnwys cynaliadwyedd

amgylcheddol mewn Strategaethau Lleihau Tlodi a luniwyd gan wledydd unigol.

Sefydlwyd Comisiwn Affrica ym mis Chwefror 2004 i ddarparu set gydlynol o

bolisïau i gyflymu’r broses o greu Affrica gref a llewyrchus. Mae meysydd eraill y

bwriedir mynd i’r afael â hwy yn yr adroddiad yn cynnwys lliniaru’r newid yn yr

hinsawdd ac addasu iddo; mwy o gymorth ariannol ar gyfer cyflenwadau dðr a

glanweithdra; a mesurau i fynd i’r afael â chymynu coed anghyfreithlon a gwella’r

modd y rheolir refeniw adnoddau naturiol.

[box]

Polisi Ewropeaidd

Y fframwaith polisi Ewropeaidd

Mae llawer o ddeddfwriaeth y DU ynglyˆ n â’r amgylchedd yn deillio o

Gyfarwyddebau a gyhoeddwyd gan yr UE. Mae’r rhain yn ymdrin ag ansawdd aer,

sðn, adar, cynefinoedd, asesiadau amgylcheddol a diogelu’r amgylchedd, dðr a

gwastraff. Mae llawer o’r Cyfarwyddebau hyn yn cynnwys targedau cenedlaethol. Er

enghraifft mae gan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dðr dargedau i:

gyhoeddi cynlluniau rheoli basnau afonydd erbyn 2009

sicrhau statws ‘ansawdd ecolegol da’ ar gyfer yr holl ddyfroedd mewndirol ac

arfordirol erbyn 2015

Mae prosiectau sy’n effeithio ar yr amgylchedd yn ddarostyngedig i’r Gyfarwyddeb

Asesu Effaith Amgylcheddol (EIA) ac o dan y Gyfarwyddeb Asesiad Amgylcheddol

Strategol (SEA) rhaid canfod ac ystyried effeithiau amrywiaeth eang o gynlluniau a

rhaglenni wrth wneud penderfyniadau. Mae Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog yn

darparu amrywiaeth o ganllawiau ar asesu’r effaith amgylcheddol ac asesiadau

amgylcheddol strategol ar ei gwefan 15 .

Mae’r DU wedi’i rhwymo gan gytundebau Ewropeaidd megis ymrwymiad Ewrop i

Gonfensiwn Aarhus y CU a Sefydliad Masnach y Byd. Mae polisïau amaethyddiaeth

a physgodfeydd yn ddarostyngedig i bolisïau cyffredin yr UE lle rydym yn mynd ati i

negodi diwygiadau y bwriedir iddynt sicrhau mwy o ganlyniadau cynaliadwy. Mae’r

UE hefyd yn llunio fframweithiau a chanllawiau ar gyfer polisïau amgylcheddol

cenedlaethol y cytunir arnynt gan aelod wladwriaethau ac sy’n defnyddio canllawiau

a gyhoeddir gan yr UE a’r Cenhedloedd Unedig. Mae’r rhain yn cynnwys Strategaeth

15 www.odpm.gov.uk

Datblygu Cynaliadwy’r UE a lansiwyd yn Uwchgynhadledd Gothenburg yn 2001, a

rwymodd yr UE i atal y gyfradd colli bioamrywiaeth erbyn 2010.

Y prif fframwaith ar gyfer datblygu polisi amgylcheddol yr UE yw 6ed Raglen

Gweithredu Amgylcheddol yr UE (EAP), sy’n parhau tan 2012. Mae’n pennu

amcanion o dan bedwar pennawd blaenoriaeth (newid yn yr hinsawdd, natur a

bioamrywiaeth, yr amgylchedd ac iechyd ac ansawdd bywyd, adnoddau naturiol a

gwastraff). Mae datblygu cynaliadwy yn un o egwyddorion allweddol y 6ed Raglen

Gweithredu Amgylcheddol. Yn yr un modd, mae’r 6ed Raglen Gweithredu

Amgylcheddol yn nodi blaenoriaethau ar gyfer dimensiwn amgylcheddol Strategaeth

Datblygu Cynaliadwy’r UE. Bydd y DU yn ceisio sicrhau bod strategaethau a

pholisïau a ddatblygir o dan y 6ed Raglen Gweithredu Amgylcheddol yn helpu i

gyflawni strategaeth datblygu cynaliadwy’r UE a strategaeth datblygu cynaliadwy’r

DU.

Mae’r saith Strategaeth Thematig (ansawdd aer, pridd, defnydd cynaliadwy o

adnoddau, atal gwastraff ac ailgylchu, yr amgylchedd morol, yr amgylcheddol trefol a

phlaladdwyr) yn set bwysig o fframweithiau sydd wrthi’n cael eu datblygu gan y

Comisiwn Ewropeaidd yn 2005 o dan y 6ed Raglen Gweithredu Amgylcheddol.

Byddant yn nodi ymagwedd strategol ar sail canlyniadau tuag at roi cyfeiriad

hirdymor yn y meysydd pwysig hyn o bolisi amgylcheddol yr UE a byddant yn

foddion i ddatblygu’r agenda cynaliadwyedd.

Yn ystod ei Llywyddiaeth ar yr UE, bydd y DU yn ceisio cynnwys Gweinidogion yr

UE mewn trafodaethau strategol ynghylch y strategaethau thematig a gweithredu ar yr

agenda amgylcheddol a etifeddwyd. Mae amcanion penodol ar gyfer Llywyddiaeth y

DU yn cynnwys:

[box]

parhau â’r arweiniad y mae’r UE yn ei roi yn rhyngwladol ar y newid yn yr

hinsawdd; yn benodol, datblygu trafodaethau ynghylch ymestyn y Cynllun

Cyfnewid Gollyngiadau i gynnwys y sector hedfan ac ynghylch mandad yr UE

ar gyfer trafodaethau ar lefel y Cenhedloedd Unedig ynghylch gweithredu

wedi Kyoto

dod i gytundeb cam cyntaf ar Reoliad Cemegau (REAH) gan sicrhau bod

cydbwysedd cywir rhwng manteision i iechyd a’r amgylchedd ac ystyriaethau

cystadleurwydd

datblygu cynigion ar gyfer cyfarwyddeb newydd ar safonau ansawdd aer

hyrwyddo defnyddio a chynhyrchu cynaliadwy, a’n hamcanion o ran y newid

yn yr hinsawdd, drwy wneud cynnydd gwirioneddol ar gaffael cyhoeddus

gwyrdd, er mwyn symbylu arloesedd a marchnadoedd ar gyfer technolegau a

chynhyrchion amgylcheddol.

Ffermio, bwyd a physgodfeydd – achos arbennig ac ymagwedd newydd

Mae Strategaeth Ffermio a Bwyd Cynaliadwy'r Llywodraeth (2003) yn nodi

gweledigaeth ar gyfer amaethyddiaeth yn Lloegr sy’n cefnogi cymunedau iach a

llewyrchus a diwydiant proffidiol a chystadleuol tra’n parchu terfynau biolegol

adnoddau naturiol. Mae’r Llywodraeth yn gweithio gyda’r gweinyddiaethau

datganoledig a rhanddeiliaid i ddatblygu polisi pysgodfeydd cynaliadwy gan adeiladu

ar adroddiad Uned Strategaeth y Prif Weinidog ar ddyfodol y diwydiant pysgota, sef

‘Net Benefits’.

Mae diwygiadau i’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (CFP), y cytunwyd arnynt yn 2002,

yn fodd i reoli pysgodfeydd yn gynaliadwy, gan gynnwys cynlluniau i adfer stociau

wedi’u dihysbyddu; Cynghorau Rhanbarthol newydd a fydd galluogi rheoli sy’n cael

ei arwain yn fwy gan randdeiliaid ac sy’n canolbwyntio’n fwy ar y rhanbarthau, a

fframwaith newydd ar gyfer cytundebau ar bysgodfeydd gyda gwledydd nad ydynt yn

rhan o’r UE.

O dan drefniadau newydd y Polisi Amaethyddol Cyffredin (CAP), bydd gan ffermwyr

fwy o ryddid i ymateb i alwadau’r farchnad, am fod y cysylltiad rhwng

cymorthdaliadau a chynhyrchu wedi’i dorri. Mae hyn yn sicrhau bod y trethdalwr yn

cael gwell gwerth am arian drwy leihau’r cymhelliant i orgynhyrchu a niweidio’r

amgylchedd, yn ogystal â lleihau’n sylweddol y baich biwrocrataidd ar ffermwyr.

Ond mae’r rheolau newydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob ceisydd gadw’r tir mewn

cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da a bodloni rhai gofynion a gynhwysir mewn

gofynion rheoli statudol fel un o amodau talu’r cymhorthdal.

Ceir meysydd o hyd, yn arbennig y sectorau siwgr a llaeth, lle mae prisiau sy’n

artiffisial o uchel, cwotâu cynhyrchu neu fesurau eraill sy’n ystumio masnach, yn dal i

fod ar waith. Yng nghyd-destun Agenda Datblygu Doha, mae angen torri rhwystrau

tariff uchel yr UE a gwledydd datblygedig eraill a gwella mynediad i farchnadoedd yn

gyffredinol, yn arbennig er lles gwledydd sy’n datblygu.

Bydd y Llywodraeth yn parhau i geisio diwygio’r CAP ymhellach, yn

arbennig y gyfundrefn siwgr, i gynyddu’r manteision i’r cyhoedd

ehangach sy’n deillio ohono a lleihau costau. O fewn Sefydliad Masnach y

Byd bydd yn ceisio sicrhau cytundeb amaethyddol sy’n lleihau

cymorthdaliadau, yn gwella mynediad i farchnadoedd ac yn dileu

cymorth allforio.

Bydd y Llywodraeth yn adeiladu ar y diwygiadau i’r CFP drwy ymestyn

rhanbartholi, cynyddu cyfranogiad rhanddeiliaid, mabwysiadu

ymagwedd yn seiliedig ar ecosystemau ac integreiddio gweithgarwch

rheoli pysgodfeydd yn agosach â gweithgarwch rheoli’r amgylchedd

morol yn gyffredinol

Yr ymagwedd genedlaethol

Yn y DU, mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn arwain

ar faterion diogelu a chynyddu adnoddau naturiol. Mae Defra yn gweithio’n agos

gyda Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog (ODPM) ar faterion megis cynllunio defnydd

tir a chymunedau glanach, diogelach a gwyrddach; gyda Swyddfa’r Dirprwy Brif

Weinidog a’r Adran Masnach a Diwydiant ar faterion megis mwyngloddio, ynni a

masnach, a chyda’r Adran dros Drafnidiaeth ar atebion yn cynnwys trafnidiaeth

gynaliadwy. Datblygodd y Llywodraeth nifer o strategaethau sy’n ymdrin â’r pwysau

sydd ar adnoddau naturiol fel y nodir isod.

[box]

Y fframwaith polisi yn y DU

Mae’r datganiadau cenedlaethol canlynol o amcanion allweddol y Llywodraeth ar

gyfer yr amgylchedd yn nodi sut i gyflawni cyfrifoldebau statudol, y mae rhai

ohonynt yn seiliedig ar ganllawiau’r CU a’r UE 16 :

Gosododd ‘Strategaeth Ansawdd Aer 2000’ ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban

a Gogledd Iwerddon a’r Atodiad iddi a gyhoeddwyd yn 2003 dargedau

ymestynnol ar gyfer naw llygrydd allweddol i ddiogelu iechyd pobl a dau

darged ar gyfer diogelu ecosystemau

Mae’r Strategaeth Bioamrywiaeth ar gyfer Lloegr ‘Working with the Grain of

Nature’ yn nodi rhaglen a fydd yn integreiddio bioamrywiaeth â phrosesau

llunio polisi ac ag arfer, yn arbennig o ran amaethyddiaeth, dðr, coetiroedd,

rheoli’r môr a’r arfordir, a materion trefol

‘First Soil Action Plan for England: 2004-2006’ yw rhan gyntaf rhaglen sy’n

anelu at ymgorffori gweithgarwch rheoli pridd yn yr agenda diogelu adnoddau

naturiol

Mae ‘Directing the Flow – priorities for future water policy’ yn nodi

blaenoriaethau ar gyfer polisi dðr yn Lloegr yn y dyfodol. Ac rydym yn

ymgynghori ynghylch strategaeth drawslywodraethol newydd ar gyfer rheoli

risg llifogydd, sef Making Space for Water, y bwriadwn ei chyhoeddi yng

Ngwanwyn 2005

Mae rheoli tir yn agwedd graidd ar Strategaeth Lloegr ar gyfer Ffermio

Cynaliadwy a Bwyd, sef ‘Facing the Future’

Ceir polisïau ar gyfer diogelu a gwella’r dirwedd, a rhoi mwy o gyfleoedd ar

gyfer hamdden yn y Papur Gwyn ‘Our Countryside: the future’

Mae’r Adroddiad Stiwardiaeth Forol ‘Safeguarding Our Seas’ yn nodi

strategaeth ar gyfer diogelu ein hamgylchedd morol a’i ddatblygu’n

gynaliadwy. Byddwn hefyd yn adeiladu ar adolygiadau sylfaenol diweddar,

gan gynnwys adroddiad Uned Strategaeth y Prif Weinidog ‘Net Benefits – a

sustainable and profitable future for the UK fishing industry’, Adolygiad

Bradley o Bysgodfeydd Morol a Gorfodi Amgylcheddol, yr Adolygiad o

Gadwraeth Natur Forol, adroddiad y Comisiwn Brenhinol ar Lygredd

Amgylcheddol ‘Turning the Tide’, ar effaith pysgodfeydd morol ar yr

16

Cyhoeddodd Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon eu hamcanion, eu targedau a’u canllawiau polisi

eu hunain.

amgylchedd, ac Adolygiad o Ddatblygiadau mewn Dyfroedd Arfordirol a

Morol

Mae Datganiadau Polisi Cynllunio yn fframwaith ar gyfer cynllunio defnydd

tir yn rhanbarthol ac yn lleol yn rhanbarthau Lloegr. Mae Strategaethau

Gofodol Rhanbarthol yn rhoi’r fframwaith statudol ar gyfer datblygu

cynaliadwy yn rhanbarthau Lloegr, ac yn nodi’r cyd-destun y mae angen

llunio math newydd o ddogfennau datblygu yn lleol o’i fewn

Mae ‘Living Places: Cleaner, Safer, Greener’ yn darparu’r cynllun gweithredu

ar gyfer gwella ansawdd mannau cyhoeddus, gan gynnwys mannau gwyrdd

trefol

Mae Partneriaethau Bioamrywiaeth Rhanbarthol yn cynghori’r rhai sy’n

gwneud penderfyniadau yn rhanbarthol ar faterion bioamrywiaeth

Mae’r ‘Strategaeth Sðn Amgylchynol Genedlaethol’ ar gyfer Lloegr gyda’r

nod o fynd i’r afael â sðn trafnidiaeth a diwydiant wrthi’n cael ei datblygu

Adolygir a diwedderir y strategaethau hyn yn rheolaidd. Er enghraifft mae’r

Llywodraeth wedi ymrwymo i adolygu:

y Strategaeth Ansawdd Aer yn 2005

rhywogaethau â blaenoriaeth, y rhestr o gynefinoedd a thargedau o dan y

Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth.

Un o flaenoriaethau allweddol y Llywodraeth o ran bioamrywiaeth yw sicrhau bod 95

y cant o’r Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn Lloegr mewn

cyflwr da erbyn 2010; dim ond dau o bob tri o’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol

Arbennig sy’n cyrraedd y targed hwn ar hyn o bryd. Mae rhannau helaeth o’r

Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn Lloegr yn dir comin ac mae’r tir

comin hwn mewn cyflwr anghymesur o wael.

Mae’r Llywodraeth yn cyflwyno Mesur yn Nhþ’r Cyffredin i alluogi

rheoli tir comin yn gynaliadwy yn lleol, ac i roi diogelwch ychwanegol ar

gyfer tiroedd comin i atal pobl rhag eu camddefnyddio, tresmasu arnynt

a’u datblygu heb awdurdod. Rydym yn bwriadu cyhoeddi Mesur drafft

yn ystod haf 2005.

Un o elfennau allweddol Strategaeth Ffermio a Bwyd Cynaliadwy y Llywodraeth

(SFFS) yw diogelu adnoddau naturiol. Er enghraifft, mae mynd i’r afael â llygredd

dðr gwasgaredig yn rhoi’r cyfle unigol mwyaf i wella ansawdd dðr y wlad. Yn dilyn

ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Defra/Trysorlys EM ar y cyd mae’r Llywodraeth yn

gweithio gyda rhanddeiliaid i hyrwyddo gweithredu gwirfoddol sy’n canolbwyntio ar

anghenion pob dalgylch, i godi ymwybyddiaeth a mesur pa mor effeithiol yw’r

ymagwedd hon.

[picture caption]

SoDdGA yn Ardal y Llynnoedd: mae olion gorbori i’w gweld ar y dde a chlystyrau

grug ar y chwith sydd mewn cyflwr da

EN/ffotograffydd Peter Wakeley

Un o elfennau pwysig y Strategaeth hon yw’r Cynllun Stiwardiaeth Amgylcheddol

newydd a lansiwyd gan Defra yn Lloegr. Bwriedir i’r strategaeth hon annog ffermwyr

i ystyried ffermio yn rhywbeth sy’n gwella’r amgylchedd fel ffordd ymarferol a

gwerthfawr ymlaen. Mae’n cynnwys:

Lefel mynediad: sy’n ceisio cael y mwyafrif o ffermwyr i ymuno â chynlluniau ag

opsiynau syml, rhad. Mae’r rhain yn ymdrin â phroblemau megis ansawdd dðr,

dirywiad adar, gloÿnnod byw a gwenyn tir amaeth, a cholli neu niweidio nodweddion

tirwedd neu safleoedd archeolegol.

Lefel mynediad organig: sy’n ceisio cynyddu maint y sector ffermio organig a

chynyddu’r manteision presennol i fioamrywiaeth sy’n deillio o ffermio organig.

Lefel uwch: sydd wedi’i thargedu at y meysydd mwyaf gwerthfawr neu’r meysydd

lle mae anghenion penodol, gan gynnwys cynefinoedd a rhywogaethau lleol a

chanddynt anghenion rheoli cymhleth.

Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i ddod â 43,000 o ffermwyr i mewn

i’r Cynllun Stiwardiaeth Amgylcheddol ar lefel mynediad yn ystod ei

blwyddyn weithredol gyntaf

Bydd y Llywodraeth yn darparu mwy o fynediad caniataol i dir amaeth o

dan y Cynllun Stiwardiaeth Amgylcheddol newydd

Caiff y Cynllun Stiwardiaeth Amgylcheddol Lefel Uwch ei dargedu at

flaenoriaethau amgylcheddol yn arbennig at gyrraedd targedau’r

Llywodraeth ar gyfer bioamrywiaeth a mynd i’r afael â llygredd dðr

gwasgaredig

Yn 2004, cyhoeddodd Defra a’r Adran Masnach a Diwydiant (DTI) strategaeth ar

gyfer cnydau nad ydynt yn fwyd i hyrwyddo a chynyddu’r cyfraniad y gall y cnydau

hyn ei wneud at ffermio cynaliadwy ac i amcanion ehangach gan gynnwys diogelu

adnoddau naturiol. Mae Defra yn ariannu Canolfan Cnydau Difwyd Genedlaethol

newydd fel canolbwynt ar gyfer arbenigedd ar gyfer adeiladu cadwyni cyflenwi

difwyd a chyflwynodd Gynllun Seilwaith Bioynni i ysgogi cyflenwi bio-mas ar gyfer

ynni.

Bydd y Llywodraeth yn parhau i weithio ar ddarparu cymorth ar gyfer

biodanwydd ym maes trafnidiaeth a mesurau i symbylu bioynni, gan

gynnwys astudiaeth dichonoldeb ar y posibilrwydd o gyflwyno

rhwymedigaeth tanwydd trafnidiaeth adnewyddadwy a gwaith i ategu’r

hyn a wnaed gan dasglu a sefydlwyd i gynorthwyo’r Llywodraeth a

diwydiant i gynyddu cymaint â phosibl ar y cyfraniad y mae ynni bio-mas

yn ei wneud at gyrraedd targedau ynni adnewyddadwy

Moderneiddio dulliau cyflawni

Mae’r system gynllunio yn darparu fframwaith ar gyfer rheoli datblygu a defnyddio

tir mewn ffyrdd sy’n ystyried y defnydd cynaliadwy o’n hadnoddau naturiol, er

enghraifft drwy ymgorffori o’r cychwyn cyntaf fesurau i fynd i’r afael â materion

megis perygl llifogydd, lleihau gwastraff i’r eithaf ac ailgylchu gwastraff,

effeithlonrwydd adnoddau dðr ac ynni. Mae hefyd yn darparu ar gyfer ystyried barn y

rhai yr effeithir arnynt gan ddatblygiadau arfaethedig. Disgrifir rôl y system gynllunio

wrth sicrhau datblygu cynaliadwy yn yr adran rhwng Penodau 5 a 6.

Bydd canllawiau cynllunio newydd ar ddefnydd tir yn helpu i ddatblygu ymagwedd

fwy integredig at reoli adnoddau.

Bydd y Llywodraeth yn sicrhau y caiff trefniadau newydd ar gyfer

diogelu’r amgylchedd hanesyddol eu hintegreiddio’n llawn â’r prosesau

cynllunio hyn a Chynlluniau Stiwardiaeth Amgylcheddol

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd eisoes yn helpu i sicrhau y defnyddir adnoddau’n

gynaliadwy drwy reoleiddio, darparu cyngor a gweithio gyda phartneriaid. Mae ei

gwaith yn hanfodol bwysig i amrywiaeth o fentrau polisi gan gynnwys Cyfarwyddeb

Fframwaith Dðr yr UE a’r system Atal a Rheoli Llygredd Integredig ar gyfer

safleoedd diwydiannol. Ar ben hynny Asiantaeth yr Amgylchedd yw prif ddarparwr

seilwaith rheoli risg llifogydd.

Mae Asiantaeth Integredig newydd wrthi’n cael ei sefydlu, gan ddwyn ynghyd

English Nature, swyddogaethau amgylcheddol y Gwasanaeth Datblygu Gwledig a

rhan helaeth o’r Asiantaeth Cefn Gwlad. Bydd yr asiantaeth newydd yn gyfrifol am

hyrwyddo rheoli adnodd natur yn integredig, cadwraeth natur, bioamrywiaeth, y

dirwedd, mynediad a hamdden.

Cyflwynodd y Llywodraeth ddrafft Mesur Amgylchedd Naturiol a

Chymunedau Gwledig i’r Senedd er mwyn proses craffu arno cyn deddfu

i sefydlu Asiantaeth Integredig newydd. Bydd yr Asiantaeth yn

gweithredu o fewn cyd-destun datblygu cynaliadwy.

Mae pob rhanbarth yn gosod ei amcanion a’i flaenoriaethau ei hun ar gyfer diogelu a

chynyddu adnoddau naturiol yn ei fframwaith datblygu cynaliadwy rhanbarthol

(gweler Pennod 7). Mae’r fframweithiau hyn yn llywio strategaethau rhanbarthol ac

isranbarthol. Ar lefel y gymuned, dangosodd Asiantaeth yr Amgylchedd, English

Nature a’r Asiantaeth Cefn Gwlad i gyd yr hyn y gellir ei wneud drwy harneisio egni

ac ymrwymiad cymunedau. Caiff gwaith sy’n cynnwys cymunedau yn y broses o

ddiogelu adnoddau naturiol a gwella eu hamgylchedd ei hyrwyddo drwy raglen

Community Action 2020 – Together We Can.

Yn yr amgylchedd morol, mae angen i ni gael fframwaith mwy integredig ar gyfer

rheoli a diogelu ein hamgylchedd morol ac arfordirol. Mabwysiadodd Adroddiad

Stiwardiaeth Forol 17 gyntaf y Llywodraeth ymagwedd yn seiliedig ar ecosystemau i

wireddu ei gweledigaeth o gefnforoedd a moroedd glân, iach, diogel a chynhyrchiol

sy’n amrywiol yn fiolegol.

[box]

Rheoli Morol Integredig

Sefydlwyd yr Adolygiad o Gadwraeth Natur y Môr yn 1999 a chasglodd gyngor o bob

rhan o’r Llywodraeth, y gweinyddiaethau datganoledig a grwpiau diddordeb. Gan

ddefnyddio Cynllun Peilot ym Môr Iwerddon datblygodd yr Adolygiad gynigion sy’n

nodi, o’u cymryd gyda’i gilydd, ymagwedd yn seiliedig ar ecosystemau ar gyfer yr

amgylchedd morol. Bydd angen cymhwyso ymatebion y Llywodraeth i’r Adolygiad

ar nifer o wahanol raddfeydd gweinyddol a gwleidyddol. Mae hyn yn ddatblygiad

pwysig yn ein hymagwedd at yr amgylchedd morol, a fydd yn seiliedig ar fwy o

ranbartholi a mwy o gyfranogiad gan randdeiliaid.

Mae prosiect peilot ym Môr Iwerddon yn astudio pa mor ymarferol yw Cynllunio

Gofodol Morol fel ffordd o helpu i weithredu’r ymagwedd yn seiliedig ar

ecosystemau, hyrwyddo datblygu cynaliadwy a chyfrannu at weithgarwch rheoli

parthau arfordirol integredig. Bydd y prosiect peilot yn terfynu tua diwedd y

flwyddyn.

Bydd y Llywodraeth yn cyflwyno Mesur Morol i’r Senedd nesaf i wella’r

fframwaith presennol y gall y rhai sy’n rheoleiddio gweithgareddau

morol sicrhau y caiff ein hadnoddau morol eu defnyddio’n gynaliadwy

a’u diogelu y tu mewn iddo. Bydd y fframwaith hwn yn fodd i’r gwahanol

ddefnydd a wneir o’r môr – gan gynnwys diogelu bywyd gwyllt a

gweithgareddau dynol – ddatblygu’n gytûn 17 .

4. Mynd i’r afael ag adnoddau ac anghydraddoldebau amgylcheddol

Yn ogystal â mynd i’r afael â’r pwysau sydd ar yr amgylcheddol heddiw, mae angen i

ni fynd i’r afael â’r effeithiau negyddol ar blanhigion ac anifeiliaid, ansawdd aer, dðr

a phridd o ganlyniad i weithgareddau dynol yn dyddio mor bell yn ôl â dechrau’r

chwyldro diwydiannol. Arweiniodd y dreftadaeth hon o adnoddau diraddedig at

amddifadedd cymdeithasol ac economaidd, yn ogystal ag amgylchedd gwaeth ac

iechyd gwael. Felly mae gwella’r amgylchedd lleol yn aml yn fan cychwyn ar gyfer

gweithgareddau adfywio ehangach.

[picture caption]

Llygredd daear yn aber Afon Tafwys, Llundain

Julio Etchart/Still Pictures

[box]

Pwll glo Rawdon lle mae tir diffaith yn dechrau cael ei ddefnyddio at ddibenion

gwyrdd

17

Defra, 2002, ‘Safeguarding our Seas: a strategy for the conservation and sustainable development of

our marine environment’.

Mae Pwll Glo Rawdon ym Moira, Swydd Gaerlþr tua 3 milltir i’r gogledd o gyffordd

11 ar yr M42. Mae’r safle yn cynnwys hen domen lo, tomenni rwbel, cilffyrdd

rheilffordd a phrif adeiladau’r pwll glo. Fe’i trosglwyddwyd o gwmni Glo Prydain i

English Partnerships ym mis Rhagfyr 1996 ac ar ôl hynny i Awdurdod Datblygu

Dwyrain Canolbarth Lloegr ym mis Ebrill 1999. Bu adfywio Pwll Glo Rawdon yn

bartneriaeth unigryw yn cynnwys adfer a gwasanaethu 58 hectar o dir - 7 hectar ar

gyfer datblygiadau diwydiannol a’r gweddill ar gyfer plannu coetir ac adeiladu

Canolfan Darganfod Mileniwm y Goedwig Genedlaethol (Conkers) gan Sefydliad

Calon y Goedwig Genedlaethol. Ategwyd y gwaith adfer a wnaed gan Asiantaeth

Datblygu Dwyrain Canolbarth Lloegr drwy Raglen Meysydd Glo Cenedlaethol

English Partnerships (£3.8 miliwn) gan wahanol ffynonellau ariannu. Mae’r safle yn

rhan o economi led-wledig a chreodd y prosiect ragor o swyddi drwy arallgyfeirio i

weithgarwch diwydiannol o safon, twristiaeth a hamdden.

Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid yn y

sector preifat a’r sector cymunedol i adfer a gwella adnoddau diraddedig drwy

gynlluniau megis Newlands.

[box]

Mynd i’r afael â diraddiant a etifeddwyd - Newlands

Mae Newlands yn gynllun gwerth £23 miliwn a ddatblygwyd gan Awdurdod

Datblygu Gogledd-orllewin Lloegr a’r Comisiwn Coedwigaeth i adfer darnau helaeth

o dir diffaith, tir nas defnyddir ddigon a thir sydd wedi’i esgeuluso ar draws Gogleddorllewin

Lloegr. Bydd yn mabwysiadu ymagwedd integredig ac arloesol at greu

coetiroedd cymunedol sy’n darparu mannau hamdden, manteision ar gyfer busnesau,

hwb i ffyrdd iach o fyw a chynnydd sylweddol o ran gorchudd coetir. Cyflawnir hyn

drwy amrywiaeth o bartneriaid preifat a gwirfoddol. Bydd cyfnod pum mlynedd

cyntaf y cynllun yn targedu ardaloedd yn Llain Afon Mersi gan geisio adfer 435

hectar o dir llwyd. Bydd cyfnod dau yn ymestyn ar draws y rhanbarth i gynnwys

Cumbria, Swydd Gaerhirfryn a gweddill Swydd Gaer.

Ledled y byd ac yn y DU, effeithir ar gymunedau difreintiedig a chymunedau wedi’u

hallgáu yn anghymesur gan adnoddau naturiol diraddedig a’r risgiau sy’n gysylltiedig

â hwy. Gosodir safonau gofynnol ar gyfer amgylchedd boddhaol ac iach drwy

fabwysiadu a gorfodi’r fframweithiau polisi a rheoliadol rhyngwladol, Ewropeaidd a

chenedlaethol. Bydd modd i bobl weld yr hyn y gallant ei ddisgwyl o’u hamgylchedd

a phwy sy’n gyfrifol am sicrhau ei fod o safon dda. Ar ben hynny gallant helpu i roi

gwybod am fethiannau i gyrraedd y safonau hyn.

Bydd y Llywodraeth yn dwyn y wybodaeth hon ynghyd mewn fframwaith

integredig ac yn cyhoeddi manylion amdano yn www.sustainabledevelopment.gov.uk

Yn y DU, mae diraddiant amgylcheddol yn broblem wirioneddol ar gyfer llawer o’r

cymunedau mwyaf difreintiedig. Mae hyn oherwydd y dreftadaeth hanesyddol y

cyfeiriwyd ati uchod a hefyd am ei bod yn anodd dod o hyd i ffyrdd effeithiol y gall

asiantaethau a chymunedau nodi blaenoriaethau a gweithio gyda’i gilydd i fynd i’r

afael â hwy. Ar ben hynny, mae’n bwysig sicrhau bod digon o anghymhellion i atal

llygredd amgylcheddol.

Bydd y Llywodraeth yn cydweithredu ag Asiantaeth yr Amgylchedd ac

eraill i edrych ar gynigion i ddatblygu cynllun o gosbau sifil ar gyfer rhai

troseddau amgylcheddol i sicrhau bod gennym ddulliau mwy effeithiol o

fynd i’r afael â llygredd amgylcheddol ac anghydraddoldebau

amgylcheddol

Manylir ar y ffordd yr ydym yn bwriadu mynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn

lleol ym Mhennod 6.

Er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau amgylcheddol nid yn unig y mae

angen diogelu a chynyddu adnoddau naturiol yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn

amgylcheddol ond hefyd mae angen gweithredu i roi mynediad ehangach, a rhoi

manteision cymdeithasol megis gwell iechyd. Mae’r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau

Tramwy (2000) yn rhoi hawliau newydd i bobl gerdded yng nghefn gwlad agored ac

ar dir comin cofrestredig. Fodd bynnag cyn i’r hawl newydd ddod i rym mae’n rhaid

mapio’r tir fel y bydd pawb yn gwybod lle y gallant gerdded.

Caiff yr holl dir mynediad yn Lloegr ei fapio erbyn 2006

Bydd y Llywodraeth yn cymryd camau pellach i gyflawni ein nod, sef y dylai

pawb gael cyfleoedd da i fwynhau’r amgylchedd naturiol. Gweithredu i wella

mynediad i dir arfordirol fydd ein blaenoriaeth gyntaf

Mae cysylltiadau pwysig rhwng mynediad i amgylchedd diogel, glân a deniadol a

gallu unigolion i fyw bywydau iach a gweithgar. Er enghraifft, dewiswyd

Ymddiriedolaeth Gwirfoddolwyr Cadwraeth Prydain yn y cylch cynnig ar gyfer

Rhaglen Grantiau Arbennig Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog eleni (2005/06) i gael

arian ar gyfer ei rhaglen waith strategol sy’n cefnogi rhaglenni hyfforddiant campfa

‘gwyrdd’, sy’n hybu iechyd a gweithio mewn partneriaeth.

Er mwyn sicrhau’r manteision llawn o ran hamdden ac iechyd a ddylai ddeillio o well

mynediad, mae’r Asiantaeth Cefn Gwlad yn cynnal Adolygiad Amrywiaeth i

ymchwilio i’r modd y gallwn roi mwy o gyfleoedd i drawstoriad ehangach o

gymdeithas fwynhau cefn gwlad.

[picture caption]

Cyfeillion Park Phoenix, Wolverhamption

Llunnir cynllun gweithredu amrywiaeth ar sail yr Adolygiad, ac fe’i rhoddir ar

waith yn 2005/06

Mae’r Llywodraeth am i bob plentyn a pherson ifanc weld a deall y byd sydd o’u

hamgylch hefyd, o diroedd eu hysgolion eu hunain i’r llu o dirweddau amrywiol yn y

DU a thramor. Byddwn yn gweithio gydag ysgolion a darparwyr profiadau addysgol y

tu allan i’r ystafell ddosbarth i lansio ‘Maniffesto ar gyfer addysg y tu allan i’r ystafell

ddosbarth’ i nodi pa gyfleoedd y gall rhieni a phobl ifanc eu disgwyl.

Mae ein tirweddau a’n morluniau yn rhan annatod o’n diwylliant, ac ynddynt gwelir

olion cenedlaethau o ddefnydd tir. Mae ein hiechyd corfforol a’n hiechyd meddwl yn

dibynnu ar ansawdd yr amgylchedd. Hefyd mae’n rhaid sicrhau bod mynediad i

amrywiaeth o fannau gwyrdd wedi’u rheoli ac wedi’u cadw yn dda at ddibenion

hamdden, chwaraeon, adloniant ac er budd y cyhoedd yn gyffredinol i helpu pobl i

ddewis ffyrdd iach o fyw, mewn ardaloedd trefol ac yn ogystal ag ardaloedd gwledig.

Mae anweithgarwch corfforol yn cael effeithiau difrifol ar iechyd pobl, effeithiau sy’n

costio mwy na £8 biliwn y flwyddyn i economi’r DU yn ôl ymchwil ddiweddar. 18

[chart]

Bydd Defra a’r Adran Iechyd yn llunio Cytundeb Partneriaeth Strategol

yn 2005 i helpu i sicrhau gwell amgylchedd i wella iechyd a fydd yn dwyn

manteision i’r ddwy ochr

Bydd y Llywodraeth yn cyflwyno adroddiad ar hynt ei Chynllun

Gweithredu Iechyd Plant a’r Amgylchedd erbyn 2007

Fel rhan o raglen Community Action 2020 – Together We Can byddwn

yn hyrwyddo ffyrdd o helpu cymunedau i wella eu hamgylchedd a

chymryd rhan mewn cynlluniau sy’n llywio dyfodol eu hardal

Ein hymagwedd integredig at ddiogelu adnoddau naturiol a gwella’r amgylchedd

Enable – Galluogi

• Datblygu’r sail tystiolaeth ar gyfer terfynau amgylcheddol

• Deunydd ar y we am fframwaith amgylcheddol y DU

• Y Mesur Morol

• Mesur Tþ’r Cyffredin

• Meithrin gallu cryf gan yr asiantaeth integredig newydd ac Asiantaeth yr

Amgylchedd

• Ariannu’r Cyfleuster Amgylcheddol Byd-eang

Encourage – Annog

• Stiwardiaeth Amgylcheddol

• Fframwaith rheoliadol

• Cyfarwyddeb Fframwaith Dðr

• Diwygiadau Pellach i CAP

• Diwygiadau Pellach i CFP

• Menter Darwin

• Cronfa Rhywogaethau Flaenllaw

• Cronfa Cyfleoedd Byd-eang

• Opsiynau o ran cosbau sifil ar gyfer Asiantaeth yr Amgylchedd

Engage – Ymgysylltu

18 Dr William Bird, RSPB a’r Gyfadran Iechyd Cyhoeddus, 2004, ‘Natural Fit – can biodiversity and

greenspace increase levels of physical activity?’.

• Cysylltu â’r gymuned i roi gwell mynediad i gefn gwlad

• Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth lleol

• Digwyddiadau ar gyfer rhanddeiliaid i ddatblygu gweledigaeth adnoddau naturiol

• Y Cynllun Gweithredu Amrywiaeth

Exemplify – Bod yn esiampl

• Materion amgylcheddol wedi’u hintegreiddio â strategaethau lleihau tlodi

• Ymagwedd polisi integredig

• Partneriaeth strategol gryf rhwng yr Adran Iechyd a Defra i gysylltu canlyniadau

iechyd ac amgylcheddol

5. Mesur ein cynnydd

Mae llawer ffordd o fesur sut yr ydym yn diogelu ein hadnoddau naturiol a’r cynnydd

a wnaed gennym o ran gwella’r amgylchedd. Yn rhyngwladol rydym yn cefnogi

gwaith i ddatblygu dangosyddion ar gyfer bioamrywiaeth fyd-eang o dan y

Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol, ac rydym yn ymchwilio i ddangosyddion ar

gyfer yr amgylchedd ac iechyd.

Byddwn yn diwygio ein dangosyddion datblygu cynaliadwy ar gyfer ansawdd

afonydd maes o law i gymryd i ystyriaeth yr amcanion amgylcheddol a bennir ar

gyfer cyrff dðr o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dðr.

Ymhlith y dangosyddion y bwriedir eu defnyddio i nodi cynnydd bydd pob

dangosydd o fewn set Fframwaith y DU sy’n berthnasol i adnoddau naturiol yn

ogystal â dangosyddion eraill sy’n berthnasol i flaenoriaethau Strategaeth

Llywodraeth y DU:

Poblogaethau adar*: mynegrifau poblogaethau adar (a) adar tir amaeth* (b)

adar coetir* (c) adar arfordiroedd ac aberoedd* (ch) adar gwlyptir sy’n gaeafu

Diogelu bioamrywiaeth: (a) statws rhywogaeth flaenoriaeth (b) statws

cynefin blaenoriaeth

Stiwardiaeth ffermio ac amgylcheddol: (i’w ddatblygu i fonitro cynnydd

mewn cynlluniau stiwardiaeth newydd)

Sector amaethyddol: cyfraniad gwrteithiau, poblogaethau adar tir amaeth a

gollyngiadau ac allbwn amonia a methan

Defnydd tir: darn o dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, coetir, dðr neu

afon, trefol (dangosydd cyd-destunol)

Ailgylchu tir: (a) anheddau newydd wedi’u hadeiladu ar dir a ddatblygwyd yn

flaenorol neu drwy waith addasu (b) pob datblygiad newydd ar dir a

ddatblygwyd yn flaenorol

Cydraddoldeb amgylcheddol*: (mesurau i’w datblygu)

Dwysedd anheddau: dwysedd cyfartalog tai newydd

Cartrefi ac anheddau: cartrefi, cartrefi un person a stoc anheddau

(dangosydd cyd-destunol)

Stociau pysgod*: stociau pysgod o amgylch y DU o fewn terfynau

cynaliadwy

Effeithiau ecolegol llygredd aer*: rhan o gynefin y DU sy’n sensitif i

brosesau asideiddio ac ewtroffeiddio lle y ceir gormodiannau uwchlaw’r

llwyth critigol

Gollyngiadau llygrwyr aer: gollyngiadau SO2, NOx, NH3 a PM10 a CMC

Ansawdd afonydd*: afonydd o ansawdd (a) biolegol (b) cemegol da

Pwysau dðr: (i’w ddatblygu i fonitro effeithiau prinder dðr)

Llifogydd: (i’w ddatblygu i fonitro ymagweddau cynaliadwy at reoli llifogydd

yn barhaus)

Noder bod rhai dangosyddion yn berthnasol i rannau eraill o’r Strategaeth ac fe’u

rhestrir mewn penodau eraill hefyd

* Cynhwysir y dangosydd yn Nangosyddion Fframwaith y DU

System Gynllunio – lle mae datblygu cynaliadwy yn elfen ganolog

Mae’r system gynllunio yn allweddol i sicrhau datblygu cynaliadwy. Mae datganiad

polisi cynllunio newydd y Llywodraeth ‘Sicrhau Datblygu Cynaliadwy’ (PPS 1) yn

nodi ein gweledigaeth ar gyfer y system gynllunio yn Lloegr a’r polisïau allweddol a

fydd yn sylfaen iddi. Mae PPS 1 yn nodi’n glir bod datblygu cynaliadwy yn ganolog

i’r system gynllunio. Mae’n nodi’r fframwaith ar gyfer adlewyrchu’r ddyletswydd yn

Neddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 bod cynlluniau rhanbarthol a lleol yn cael

eu paratoi gyda’r bwriad o gyfrannu at ddatblygu cynaliadwy.

Mae polisïau cynllunio eraill, a nodir yn Natganiadau Polisi Cynllunio’r Llywodraeth

a nodiadau Canllawiau Polisi Cynllunio, yn ategu PPS 1 wrth sicrhau datblygu

cynaliadwy:

Mae polisïau cynllunio ar gyfer tai yn sicrhau y datblygir tir llwyd yn gyntaf ar

gyfer tai, ac yr adeiledir tai newydd ar ddwyseddau uwch na chynt, gan

leihau’r angen am ddatblygiadau ar safleoedd meysydd glas

Mae polisïau cenedlaethol eraill yn sicrhau y lleolir datblygiadau newydd

mewn ardaloedd megis canol trefi y gellir eu cyrraedd ar droed, ar feic ac ar

drafnidiaeth gyhoeddus gan leihau’r ddibyniaeth ar geir preifat

Mae polisïau ar gyfer yr amgylchedd naturiol a hanesyddol yn sicrhau y

diogelir ac yr ailddefnyddir adeiladau ac y diogelir adnoddau bywyd gwyllt

Mae polisïau ar gyfer ardaloedd gwledig yn sicrhau bod rheolaethau llym ar

ddatblygiadau yng nghefn gwlad agored ac y diogelir y rhannau mwyaf

godidog o gefn gwlad y DU a’n tirweddau mwyaf godidog er lles pawb

Bydd y Llywodraeth hefyd yn diwygio ei pholisi ar “rwymedigaethau cynllunio” yng

Ngwanwyn 2005, i nodi’n gliriach sut y gall fod yn ofynnol i ddatblygwyr drwy’r

system gynllunio gymryd rhai camau er mwyn sicrhau bod datblygiadau yn

dderbyniol ac yn gyson â pholisïau ar gyfer cymunedau cynaliadwy. Er enghraifft,

bydd y polisi diwygiedig yn nodi sut y gellir defnyddio rhwymedigaethau cynllunio i

fynnu bod datblygwr yn cyfrannu at dai fforddiadwy neu wneud yn iawn am gynefin a

gollwyd neu niwed a wnaed i’r amgylchedd.

Ymgorfforir datblygu cynaliadwy ym mhob cam o’r broses gynllunio. Llunnir

cynlluniau rhanbarthol, a elwir yn Strategaethau Gofodol Rhanbarthol (RSS), gan

Gynulliadau Rhanbarthol (y corff cynllunio rhanbarthol). Mae’r Strategaeth Ofodol

Ranbarthol, sy’n ymgorffori Strategaeth Trafnidiaeth Ranbarthol (RTS), yn darparu

fframwaith gofodol ar gyfer llywio’r gwaith o baratoi Dogfennau Datblygu Lleol

(LDD). Mae’r dogfennau hyn yn ffurfio’r portffolio sy’n cyflawni ar y cyd y

strategaeth cynllunio gofodol ar gyfer ardal awdurdod cynllunio lleol. Mae’r

Strategaeth Ofodol Ranbarthol hefyd yn llywio’r gwaith o baratoi Cynlluniau

Trafnidiaeth Leol (LTP), a strategaethau a rhaglenni rhanbarthol ac isranbarthol sy’n

effeithio ar y defnydd a wneir o dir.

Dylai’r Strategaeth Ofodol Ranbarthol nodi gweledigaeth ar gyfer y rhanbarth ar

gyfer cyfnod o 15-20 mlynedd a dangos sut y bydd hynny’n cyfrannu at sicrhau

amcanion datblygu cynaliadwy. Dylid datblygu strategaethau gofodol rhanbarthol a

dogfennau datblygu lleol mewn partneriaeth ag ystod eang o randdeiliaid, gan

gynnwys y gymuned ym mhob cam o’r broses ddatblygu.

Dylai strategaethau gofodol rhanbarthol gynnwys polisïau gofodol ar gyfer:

nifer y tai newydd a ddarperir a’u dosbarthiad

blaenoriaethau ar gyfer yr amgylchedd, megis cefn gwlad a diogelu

bioamrywiaeth

trafnidiaeth, seilwaith, datblygu economaidd, amaethyddiaeth, mwyngloddio a

thrin a gwaredu gwastraff.

Fel rhan annatod o’r gwaith o adolygu a diweddaru’r strategaeth ofodol ranbarthol a

dogfennau datblygu lleol, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol gynnal Arfarniad

Cynaliadwyedd (SA). Yn dilyn ymgynghoriad yn 2004, bydd y Llywodraeth yn

cyhoeddi canllawiau terfynol ar gyfer yr arfarniadau hyn yn 2005. Cyn cyhoeddi’r

canllawiau hyn, bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi cyngor interim ar y pynciau

allweddol yn ymwneud ag arfarniadau cynaliadwyedd a godwyd yn ystod yr

ymgynghoriad ac ar ôl hynny. Cyhoeddir enghreifftiau o arfer da wrth gynnal

arfarniadau cynaliadwyedd ar wefan Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog.

Bydd arfarniadau cynaliadwyedd yn cydymffurfio’n llawn â Chyfarwyddeb Ewrop ar

Asesiadau Amgylcheddol Strategol.

[picture caption]

Cartrefi newydd yn cael eu hadeiladu ym Mhorth Afon Tafwys.

Pennod 6

O’r Lleol i’r Byd-eang: Creu

Cymunedau Cynaliadwy a

Byd Tecach

Y ffeithiau

Crynodeb

Mae 79% o’r bobl sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yn y DU

yn mwynhau’r ardal lle maent yn byw o gymharu â 46% yn yr ardaloedd

mwyaf difreintiedig. Ar ben hynny y bobl sy’n byw mewn ardaloedd

difreintiedig yw’r rhai sydd leiaf tebygol o gymryd rhan mewn

gweithgareddau cymunedol 1

Mae’r bwlch rhwng disgwyliad einioes gwrywod adeg eu geni rhwng

Manceinion a Dwyrain Dorset bron wyth mlynedd a hanner 2

Mae dros chwarter y plant a phumed ran o’r pensiynwyr yn y DU yn byw

mewn tlodi cymharol (ar ôl costau tai) 3

Disgwyliad einioes cyfartalog pobl yn y DU adeg eu geni yw 78 mlynedd

ar hyn o bryd a’r cyfartaled byd-eang yw 65 mlynedd 4

Amcangyfrifir bod 114 miliwn o blant oed cynradd yn y byd heb eu

cofrestru mewn ysgol, sy’n golygu nad oes gan un ym mhob pum plentyn

fynediad i hyd yn oed yr addysg fwyaf sylfaenol 5

Mae dros 800 miliwn o oedolion yn anllythrennog yn y byd, y mae 90 y

cant ohonynt yn byw mewn gwledydd sy’n datblygu 6

Mae mwy nag 800 miliwn o bobl yn mynd i’r gwely heb gael digon i’w

fwyta bob dydd…mae 300 miliwn yn blant. O’r 300 miliwn o blant, dim

ond wyth y cant sy’n dioddef newyn neu sefyllfaoedd argyfyngus eraill:

mae mwy na 90 y cant yn dioddef gan ddiffyg maeth a microfaethynnau

hirdymor 7

Mae creu cymunedau cynaliadwy ym mhob man yn dasg heriol. Mae’n mynnu ein

bod yn integreiddio nodau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, yn

mabwysiadu ymagwedd gydgysylltiedig at gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus sy’n

1 Arolwg Dinasyddiaeth y Swyddfa Gartref 2001

2 Y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn www.statistics.gov.uk

3 ODPM, 2004, o ‘Breaking the Cycle’ yn www.odpm.who.int/ên/

4 Sefydliad Iechyd y Byd yn www.who.int/ên/

5 Y Cenhedloedd Unedig yn www.un.org/

6 Ffigurau UNESCO yn ei adroddiad ar gyfer 2005 yn www.unesco.org

7 CU

gweithio i bawb, gan gynnwys y mwyaf difreintiedig, ac yn meddwl yn strategol ar

gyfer yr hirdymor.

[box]

Ymatebion i ymgynghoriad Ymlaen fo’r Nod

Un o’r negeseuon allweddol o’r ymgynghoriad ‘Ymlaen fo’r Nod’ oedd bod angen i’r

sector cyhoeddus weithio gyda’i gilydd yn well i fynd i’r afael â chyfiawnder

cymdeithasol ac amgylcheddol a defnyddio strwythurau sy’n bodoli eisoes i ddarparu

gwasanaethau a gweithgarwch cynllunio ac adfywio lleol.

Nododd ymgynghoreion y gall negeseuon cymysg gan y llywodraeth genedlaethol, er

enghraifft am ‘gymunedau cynaliadwy’, ‘datblygu cynaliadwy’ ‘lles’ a

‘chynaliadwyedd’ ei gwneud yn anodd iawn i sicrhau datblygu cynaliadwy yn lleol.

Awgrymwyd bod angen mwy o arweiniad, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o

ddatblygu cynaliadwy yn lleol ac nad yw arweiniad clir yn cael ei roi yn genedlaethol.

Mae gan Strategaethau Cymunedol a Phartneriaethau Strategol Lleol ran allweddol

i’w chwarae i sicrhau datblygu cynaliadwy yn arbennig mewn perthynas â thai,

adfywio, trafnidiaeth, gwastraff, bwyd lleol, llifogydd, partneriaethau busnes lleol, ac

iechyd y cyhoedd. Ond gellid eu defnyddio’n well.

Ystyriwyd bod Agenda 21 Leol yn fenter gadarnhaol ond dywedodd ymatebwyr fod y

ffaith ei bod naill ai ‘wedi’i cholli’ neu ‘wedi’i glastwreiddio’ gan brosesau newydd

yn peri rhwystredigaeth iddynt.

Roedd ymatebwyr o’r farn ei bod yn bwysig gosod esiampl dda wrth hyrwyddo a

sicrhau datblygu cynaliadwy yn rhyngwladol. Dylid dangos hyn drwy rannu

gwybodaeth ac arfer gorau, a thrwy gymhwyso neu ddiwygio cytundebau

rhyngwladol. Roedd cefnogaeth gref o blaid defnyddio cymorth rhyngwladol i

hyrwyddo datblygu cynaliadwy.

1. Ein hymagwedd

Yn y bennod hon dangoswn sut y bydd y Llywodraeth, o’r lefel leol i’r lefel fyd-eang,

yn gweithio i greu cymunedau cynaliadwy. Bydd y canlyniadau a ddymunir yn

amrywio o le i le. Ond ym mhob achos ein nod yw rhoi mwy o reolaeth i bobl dros

benderfyniadau sy’n effeithio arnynt, canolbwyntio ar roi atebion i broblemau a

nodwyd yn lleol, a gweithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â materion

cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

“Mae Creu Cymunedau Cynaliadwy yn golygu rhoi datblygu cynaliadwy ar waith.

Mae’n rhaid i Gymunedau Cynaliadwy gyfuno cynhwysiant cymdeithasol, cartrefi,

swyddi, gwasanaethau, seilwaith a pharch at yr amgylchedd i greu lleoedd y bydd

pobl am fyw a gweithio ynddynt yn awr ac yn y dyfodol.”

Y Gwir. Anrh. John Prescott AS, Dirprwy Brif Weinidog, Chwefror 2005

Yn lleol, mae’r strategaeth yn nodi sut y bydd agenda Cymunedau Cynaliadwy’r

Llywodraeth yn gwella bywydau pobl drwy sicrhau cymdogaethau gwell; cymunedau

glanach, diogelwch, gwyrddach, iachach; cartrefi i bawb; cynyddu cyfranogiad

cymdogaethau; a bydd yn symbylu gweithredu ar ddatblygu cynaliadwy mewn

ardaloedd trefol a gwledig yn Lloegr. Mae’r strategaeth hon hefyd yn nodi sut y

byddwn yn gwneud hynny drwy weithio gyda llywodraeth leol, a hwylusir gan y

gwaith i hyrwyddo arweinyddiaeth a sgiliau lleol fel y nodir ym Mhennod 7.

Yn genedlaethol, mae’n rhaid i ni roi cyfleoedd i bawb wireddu ei botensial. Mae’n

rhaid i ni sicrhau bod polisi’r Llywodraeth yn gwella cyfleoedd bywyd y grwpiau

mwyaf diamddiffyn mewn cymdeithas.

Yn fyd-eang, y mater allweddol yw sut i gyflawni Nodau Datblygu’r Mileniwm

(MDG). Mae’r strategaeth yn edrych ar sut y byddwn yn cymhwyso egwyddorion

rheolaeth dda a phartneriaeth, gan weithio ar flaenoriaethau a nodwyd yn lleol, i allu

mynd i’r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

2. Yn lleol yn Lloegr: Cymunedau Cynaliadwy

Mae’r ymgyrch i gynyddu cyfranogiad cymdogaethau, mynd i’r afael ag

anghydraddoldebau a helpu pobl i gyflawni’n lleol yn elfen ganolog o agenda

Cymunedau Cynaliadwy.

[box]

Ein nod yw creu cymunedau cynaliadwy yn Lloegr sy’n ymgorffori egwyddorion

datblygu cynaliadwy yn lleol, sef: 8

cydbwyso ac integreiddio elfennau cymdeithasol, economaidd ac

amgylcheddol eu cymuned

diwallu anghenion y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol

parchu anghenion cymunedau eraill yn y rhanbarth ehangach neu’n

rhyngwladol i sicrhau bod eu cymunedau yn gynaliadwy.

Mae cymunedau cynaliadwy yn lleoedd y mae pobl am fyw a gweithio ynddynt, yn

awr ac yn y dyfodol. Maent yn diwallu anghenion amrywiol y bobl sy’n byw ynddynt

eisoes a’r bobl a fydd yn byw ynddynt yn y dyfodol, maent yn sensitif i’w

hamgylchedd ac yn cyfrannu at fywyd o safon dda. Maent yn ddiogel ac yn

gynhwysol, maent wedi’u cynllunio ac wedi’u hadeiladu’n dda ac maent yn cael eu

rhedeg yn dda, ac maent yn cynnig cyfleoedd cyfartal a gwasanaethau da i bawb.

Dylai cymunedau cynaliadwy fod yn gymunedau:

8 ODPM, 2005. ‘Sustainable Communities: People, Places and Prosperity’ a ‘Sustainable

Communities: Homes for All’ yn www.odpm.gov.uk/fiveyearstrategy

GWEITHGAR, CYNHWYSOL A DIOGEL – cymunedau teg, goddefgar a

chydlynol a chanddynt ddiwylliant lleol cryf a gweithgareddau cymunedol

eraill a rennir

WEDI’U RHEDEG YN DDA – â chyfranogiad, cynrychiolaeth ac

arweinyddiaeth effeithiol a chynhwysol

AMGYLCHEDDOL SENSITIF – sy’n rhoi lleoedd i bobl fyw ynddynt sy’n

ystyriol o’r amgylchedd

WEDI’U CYNLLUNIO AC WEDI’U HADEILADU’N DDA – sy’n

cynnwys amgylchedd adeiledig a naturiol o safon

GYDA CHYSYLLTIADAU DA – lle y ceir gwasanaethau trafnidiaeth a

chysylltiadau da yn cysylltu pobl â swyddi, ysgolion, gwasanaethau iechyd a

gwasanaethau eraill

FFYNIANNUS – a chanddynt economi ffyniannus ac amrywiol

GYDA GWASANAETHAU DA – a chanddynt wasanaethau cyhoeddus,

preifat, cymunedol a gwirfoddol sy’n briodol i anghenion pobl ac sydd ar gael

i bawb

TEG I BAWB – gan gynnwys y bobl hynny mewn cymunedau eraill, yn awr

ac yn y dyfodol

* Am ddatganiad cynhwysfawr o’r hyn sy’n gwneud cymuned gynaliadwy ym marn y

Llywodraeth, gweler Atodiad A.

Gwell cymdogaethau

Mae cymdogaethau lleol pobl yn bwysig iddynt ac maent yn cael cryn effaith ar

ansawdd eu bywydau – p’un a ydynt yn byw, yn gweithio neu’n chwarae yno. Mae

pobl am gael dweud eu barn am y modd y rheolir eu hardal a’u gwasanaethau lleol a

gwneud cyfraniad mwy sylweddol at y broses honno.

Ein nod yw sicrhau bod gwasanaethau lleol yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod

gennym gymdogaethau glanach, diogelach, gwyrddach ac iachach i bawb, lle mae

pobl leol yn cael dweud eu barn.

[box]

Yr hyn a gyflawnwyd ers 1999

Mae lleoedd yn dod yn lanach:

dangosodd yr arolwg cenedlaethol o ansawdd amgylcheddol lleol (LEQSE) a

ddechreuwyd dair blynedd yn ôl fod canran yr ardaloedd â safonau glendid

annerbyniol wedi gostwng wyth y cant mewn dwy flynedd

mae cyflwyno’r Dangosyddion Perfformiad Gwerth Gorau ar gyfer ysbwriel a

malurion eisoes yn sicrhau gwelliannau mewn gweithgarwch rheoli

gwasanaethau ac yn canolbwyntio camau gweithredu ar feysydd problem

buom yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac eraill i atgyfnerthu deddfwriaeth

a darparu’r pwerau a’r cyfrifoldebau cywir, yn arbennig drwy Ddeddf

Llywodraeth Leol 2003, Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 a

chynigion yn y Mesur Cymdogaethau Glân a’r Amgylchedd.

Mae lleoedd yn dod yn ddiogelach:

Dengys Arolwg Troseddu Prydain fod troseddu wedi gostwng 30 y cant ers

1997 a bod pryder ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ôl cynyddu yn

ystod y 1990au wedi gostwng pump y cant ers 2002/03, yn dilyn mwy o

gydweithredu ac offerynnau gwell newydd megis Gorchmynion Ymddygiad

Gwrthgymdeithasol

mae wardeiniaid cymdogaeth yn rhoi hyder i bobl am eu cymuned. Sicrhaodd

y 500 o gynlluniau warden cymdogaeth, yn cynnwys dros 3000 o wardeiniaid,

ostyngiad o 28 y cant mewn troseddu o gymharu ag ardaloedd eraill. Bydd

cynigion ar gyfer cynlluniau plismona cymdogaeth a 25 000 o swyddogion

cymorth cymunedol yn adeiladu ar y sylfaen hon.

Mae lleoedd yn dod yn fwy atyniadol:

gwelwyd dadeni yn ein prif ddinasoedd a gwrth-drowyd yr all-lif o bobl a

buddsoddiadau, gyda chymorth gwelliannau enfawr yn nhir y cyhoedd ac

ansawdd gweithgarwch dylunio, bywiogrwydd ac egni a buddsoddiadau a

rhaglenni cyhoeddus i ailadeiladu ein hysgolion, ein hysbytai a’n seilwaith ar

gyfer yr 21ain ganrif

ers cyflwyno ein rhaglen gwerth £200 miliwn i gefnogi mwy o weithredu ym

maes rheoli ansawdd amgylcheddau lleol mae nifer y parciau a mannau

gwyrdd y dyfarnwyd Gwobr y Faner Werdd iddynt wedi dyblu ers 2002 i

gydnabod safon y gweithgarwch rheoli a chynnal a gyflawnir yno. Cynyddodd

boddhad y cyhoedd â pharciau a mannau agored o 62.5 y cant i 71 y cant yn

ystod y tair blynedd diwethaf

datblygodd rhaglen Cydlyniant Cymunedol Arloesol y Swyddfa Gartref/Uned

Adnewyddu Cymdogaethau sy’n werth £6 miliwn (2001-2004) amrywiaeth o

dulliau o greu cydlyniant mewn cymdogaethau.

Blaenoriaethau’r Llywodraeth yw:

creu parciau, lleoedd chwarae a mannau cyhoeddus atyniadol

ymgysylltu â phobl a chymunedau lleol a’u grymuso

gwella seilwaith ffisegol lleoedd

gwneud lleoedd yn lanach a’u cynnal yn well

gwneud lleoedd yn ddiogelach a mynd i’r afael ag ymddygiad

gwrthgymdeithasol

gwella iechyd drwy hyrwyddo a chefnogi ffyrdd iach o fyw

mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a chefnogi anghenion plant a phobl

ifanc.

Gosododd y Llywodraeth darged newydd o sicrhau mannau cyhoeddus glanach,

diogelach a gwyrddach a gwella ansawdd yr amgylchedd adeiledig mewn ardaloedd

difreintiedig a ledled y wlad gan sicrhau gwelliannau mesuradwy erbyn 2008.

Mae ein strategaeth i sicrhau cymunedau glanach, diogelach a gwyrddach wrthi’n cael

ei chyflawni drwy raglen drawslywodraethol sy’n cefnogi ymarferwyr ar bob lefel.

Mae helpu awdurdodau lleol i godi safonau yn un o elfennau canolog y rhaglen. Mae

pobl yn disgwyl i awdurdodau lleol gynna ansawdd eu hamgylcheddau lleol – maent

yn disgwyl llai o ysbwriel, graffiti, posteri wedi’u glynu mewn lleoedd yn

anghyfreithlon a baw cðn, a llai o gerbydau gadawedig. Bydd awdurdodau lleol yn

cael tua £7 biliwn ar gyfer gwasanaethau amgylcheddol lleol yn ystod y tair blynedd

nesaf a £3 biliwn ar gyfer gwaith cynnal a chadw priffyrdd a goleuadau stryd. Ar ben

hynny, bydd rhaglenni penodol i sicrhau cartrefi boddhaol, adnewyddu

cymdogaethau, adnewyddu’r farchnad dai a chynyddu nifer y tai newydd a adeiledir

yn cynnwys cyfraniadau at wella’r amgylchedd lleol. Gall awdurdodau lleol, yn eu rôl

arweiniol, hefyd ddylanwadu ar adnoddau a gweithredoedd cyrff cyhoeddus eraill,

busnesau, cyrff elusennol, a mudiadau gwirfoddol a chymunedol, yr amcangyfrifir eu

bod yn werth cyfanswm o £8 biliwn y flwyddyn, i gyflawni gweledigaeth a rennir ar

gyfer trawsnewid amgylcheddau lleol.

Bydd y Llywodraeth hefyd yn darparu pwerau ychwanegol i ymdrin ag ymddygiad

gwrthgymdeithasol, yn arbennig achosion lefel isel o anhrefn a throseddau

amgylcheddol a all ddiraddio’r amgylchedd lleol drwy’r Mesur Cymdogaethau Glân

a’r Amgylchedd. Byddwn yn rhoi cymhelliant i awdurdodi lleol i gymryd camau

effeithiol i wella eu hamgylchedd lleol, drwy roi arno y pwys y mae’n ei haeddu wrth

fesur ac asesu perfformiad awdurdodau lleol yn y maes hwn.

Bydd y rhaglen Cymunedau Glanach, Diogelach, Gwyrddach yn cynnwys pobl leol

mewn penderfyniadau ynghylch y gwasanaethau a gânt, eu grymuso i ysgogi

gweithredu a sicrhau bod darparwyr gwasanaethau yn ymateb i’w hanghenion, a rhoi

cyfleoedd iddynt lywio gwelliannau drwy drefniadau cymdogaeth. Bydd y rhaglen yn

gweithio’n agos gyda’n rhaglenni Adnewyddu Cymdogaethau i ganolbwyntio camau

gweithredu ar ardaloedd difreintiedig, drwy hyrwyddo cyrraedd ein targed sylfaen i

leihau’r bwlch rhwng yr ardaloedd a’r bobl dlotaf a’r gweddill.

Yr her i awdurdodau lleol ac eraill yw gwario’r adnoddau sydd eisoes ar gael drwy

gydgysylltu prosesau cyflwyno gwasanaethau a gweithio’n fwy effeithiol mewn

partneriaeth â chyrff cyhoeddus eraill, busnesau a phobl leol. Byddwn yn cefnogi hyn

drwy symleiddio ffrydiau ariannu Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Swyddfa

Gartref i greu un ‘Gronfa Cymunedau Diogelach a Chryfach’ gwerth £660 miliwn yn

ystod y tair blynedd nesaf. Defnyddir y gronfa hon i leihau troseddu ac ofn troseddu,

gwella mannau cyhoeddus, meithrin gallu cymunedau lleol i ddylanwadu ar

benderfyniadau ynghylch gwasanaethau ac ar y modd y’u cyflwynir a gwella ansawdd

bywyd ar gyfer pobl sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig. Mae’r gronfa yn cael ei

chyflwyno i awdurdodau lleol yn Lloegr a bydd yn sail i un o dri bloc o Gytundebau

Ardal Lleol (LAA).

Bydd y Llywodraeth yn clustnodi £5 miliwn yn ystod y tair blynedd nesaf i

sefydlu rhaglen ‘How To’ sy’n gweithio gydag ymarferwyr a throstynt i roi

arweiniad, dysgu gweithredol a chymorth gan gymheiriaid ynghylch gwella

cyflwr canol trefi, ardaloedd preswyl a strydoedd a pharciau a mannau agored

fel eu bod yn lleoedd mwy dymunol i fyw ynddynt

[picture caption]

Plant yn plannu coed i gefnogi prosiect y Goedwig Genedlaethol

Ffynhonnell: Cwmni’r Goedwig Genedlaethol

Mae gwaith sy’n ychwanegol at y rhaglen hon yn cynnwys y canlynol:

Bydd CABE Space, y corff cenedlaethol sy’n hyrwyddo parciau a mannau

cyhoeddus, yn gweithio gyda llywodraeth ganolog a llywodraeth leol a chyrff

eraill sy’n ymwneud â mannau cyhoeddus i gynghori ar weithgarwch

cynllunio, dylunio, rheoli a chynnal a chadw o safon

Bydd fersiwn estynedig o’r cynllun Gwobrau Baner Werdd yn helpu i

gydnabod a gwobrwyo cynnydd mewn mannau gwyrdd a gynhelir ac a gedwir

yn dda ac a reolir yn dda 9

Bydd mesurau trafnidiaeth gynaliadwy yn fodd i bobl weld opsiynau amgen

yn lle’r car fel dewisiadau deniadol ac ymarferol. Mae mesurau yn cynnwys

cynlluniau gweithredu cerdded a beicio, cynlluniau teithio i’r ysgol a

chynlluniau teithio gwyrdd 10 , a rhoi cyhoeddusrwydd a gwybodaeth am

wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus. Er enghraifft mae cynlluniau teithio i’r

ysgol yn annog ysgolion ac awdurdodau lleol i weithio gyda’i gilydd i

hyrwyddo cerdded, beicio, trafnidiaeth gyhoeddus a chynlluniau rhannu ceir.

Bwriedir cyflwyno cynlluniau teithio i bob ysgol yn Lloegr erbyn 2010.

Gyda’i gilydd mae mesurau trafnidiaeth gynaliadwy yn ceisio lleihau llygredd

aer a thagfeydd, gwella mynediad i wasanaethau, cynyddu gweithgarwch

corfforol a gwella diogelwch ar gyfer cerddwyr a beicwyr

Hyrwyddir mesurau i hybu defnyddio mannau cyhoeddus i sicrhau ffyrdd

iach o fyw megis ‘Walking your way to health’ a Choedwigoedd Cymunedol

9 Gweler www.greenflagaward.org.uk

10 DfES a Dft, 2003, ‘Travelling to school: an action plan’

Bydd ‘Ysgolion Estynedig’ yn gweithio mewn partneriaeth gydag

asiantaethau lleol i roi amrywiaeth o wasanaethau lleol gan gynnwys, er

enghraifft, sesiynau Rhoi’r Gorau i Smygu a gwasanaethau iechyd rhywiol

wedi’u darparu gan y GIG. Mae’r ysgolion yn arbennig o bwysig i ardaloedd

gwledig ac ardaloedd dan anfantais, lle maent yn cynnig man cysylltu cyntaf

ar gyfer plant a theuluoedd

Mae’r Cynllun Ffrwythau a Llysiau i Ysgolion yn rhan o raglen ‘5 Y

DYDD’ i hyrwyddo bwyta mwy o ffrwyth a llysiau. O dan y Cynllun, bydd

gan bob plentyn pedair i chwe blwydd oed mewn ysgolion babanod, cynradd

ac arbennig a gynhelir gan awdurdodau lleol, yr hawl i gael un darn o ffrwyth

neu gyfran o lysieuyn am ddim ar bob diwrnod ysgol.

Mae cymunedau hefyd yn cael eu hannog i wella diogelwch ac iechyd y gymuned a’r

amgylchedd lleol drwy:

Community Action 2020: Together We Can

gweithgareddau Groundwork ac ymddiriedolaethau datblygu eraill

y cynllun Mannau Byw

rhaglenni adfywio diwylliannol

‘Parthau Cartrefi’ – mentrau gofod ffordd a rennir

plismona cymdogaeth

y rhaglen ‘Cymunedau dros Iechyd’

cynllun gweithredu ‘Together’ i fynd i’r afael ag ymddygiad

gwrthgymdeithasol

[picture caption]

Ffynhonnell y ffotograff: 3 rd Avenue

[box]

Yn 2003, lansiodd y Llywodraeth y prosiect Trefi Teithio Cynaliadwy. Yn ystod y

pum mlynedd nesaf, mae’r Llywodraeth yn darparu £10 miliwn i weithio gyda

Darlington, Peterborough a Chaerwrangon i gyflwyno pecyn dwys, cynhwysfawr a

strategol i hyrwyddo cyfleoedd diogel a dymunol i gerdded, beicio a defnyddio bysiau

ar gyfer pob math o daith ar draws trefi. Y nod yw creu tair tref arddangos teithio

cynaliadwy i weithredu fel patrymau ar gyfer awdurdodau lleol eraill a dangos yr hyn

y gellir ei gyflawni drwy becyn cyfunedig o fesurau i gynyddu dewisiadau teithio.

Cartrefi i Bawb

Mae cartref boddhaol, fforddiadwy yn un o brif ofynion cymuned gynaliadwy. Mae’r

Llywodraeth yn anelu at ddiwallu’r angen sylfaenol hwn. Ond mae’n bwysig ein bod

yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n parchu egwyddorion datblygu cynaliadwy, gan

greu tai mewn cymunedau sydd â’r seilwaith, y swyddi a’r gwasanaethau sydd eu

hangen i’w cynnal, a chan fod yn sensitif i anghenion yr amgylchedd.

Mae maint yr her yn amlwg: disgwylir i gyfanswm y cartrefi yn Lloegr gynyddu o

bron 190 000 y flwyddyn hyd 2021. Bydd llawer ohonynt yn gartrefi un person, gan

adlewyrchu tueddiadau ehangach mewn cymdeithas megis cydberthnasau teuluol sy’n

newid, bywydau hwy a mwy o gyfoeth personol. Ac eto ers y 1960au fel gwlad

rydym wedi methu ag adeiladu digon o gartrefi i ddiwallu’r anghenion hyn, ac o

ganlyniad mae cartref boddhaol wedi mynd yn llai fforddiadwy ar gyfer llawer o bobl.

Mae’n rhaid i unrhyw lywodraeth gyfrifol gynllunio i fynd i’r afael â’r her hon. Mae

cynllun pum mlynedd y Llywodraeth, ‘Cymunedau Cynaliadwy: Cartrefi i Bawb’ 11 ,

yn nodi sut y mae’r Llywodraeth yn gweithio i gynyddu’r cyflenwad o gartrefi

newydd mewn ffordd gyfrifol, drwy’r canlynol:

Gwneud y defnydd gorau o dir: Ers 1997 mae’r Llywodraeth eisoes wedi

cynyddu canran y datblygiadau tai ar dir llwyd o 56 y cant i 67 y cant, a

chynyddu dwyseddau datblygiadau newydd o 25 o anheddau fesul hectar i 33

o anheddau fesul hectar. O ganlyniad gellir cyrraedd y targed arfaethedig o 1.1

filiwn o gartrefi newydd yn rhanbarth ehangach De-ddwyrain Lloegr erbyn

2016 gan ddefnyddio 3300 hectar yn llai o dir maes glas nag y buasai eu

hangen ar y cynlluniau blaenorol ar gyfer 900 000 o gartrefi ar gyfraddau

dwysedd 1997 – gan arbed ardal o’r un faint â Rhydychen. Bydd y

Llywodraeth yn mynd ymhellach: ymestynnwyd y Gyfarwyddeb Dwyseddau

– sy’n galluogi’r Ysgrifennydd Gwladol i alw i mewn gynigion ar gyfer

datblygiadau dwysedd isel – i gynnwys ardaloedd eraill lle mae galw mawr am

dai yn Ne-orllewin a Dwyrain Lloegr. Byddwn yn ymgynghori ynghylch

Cyfarwyddeb Lleiniau Glas newydd i atgyfnerthu’r diogelwch a roddir i’r llain

las. Mae canllawiau cynllunio newydd 12 yn nodi fframwaith y gellir trin hen

dir diwydiannol a’i adfer yn ddiogel fel y gellir ei ddefnyddio at ddibenion

newydd, gan gynnwys tai, i ategu’r amcan “tir llwyd yn gyntaf”

Rheoli perygl llifogydd yn gywir: Yn unol â chanllawiau polisi cynllunio

cenedlaethol cynhelir asesiadau o berygl llifogydd ar gyfer datblygiadau a

ariannir drwy arian cyhoeddus ym Mhorth Afon Tafwys a chynlluniau

amddiffyn rhag llifogydd newydd; ac astudiaethau rheoli dðr integredig yn

Ashford, wedi’u hategu gan berthynas waith newydd ag Asiantaeth yr

Amgylchedd fel ein prif gynghorwr

Buddsoddi mewn seilwaith: Lle mae angen cartrefi newydd, mae’r

Llywodraeth yn buddsoddi i sicrhau y cânt eu hategu gan y drafnidiaeth, yr

ysgolion a’r ysbytai sydd eu hangen i sicrhau bod cymunedau yn hyfyw yn yr

hirdymor - er enghraifft £3.1 biliwn ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth newydd

mewn pedair Ardal Dwf yn rhanbarth ehangach De-ddwyrain Lloegr

11 ODPM, 2005, ‘Sustainable Communities: Homes for All’ yn

www.odpm.gov.uk/odpm/fiveyearstrategy/homes_for_all.htm

12 ODPM, 2004, ‘Planning policy statement 23’ yn www.odpm.gov.uk

Hyrwyddo gwaith adeiladu a dylunio o safon dda: Bydd y Llywodraeth yn

arddangos Cod newydd ar gyfer Adeiladau Cynaliadwy mewn amrywiaeth o

leoliadau, gan gynnwys Porth Afon Tafwys, sy’n ceisio sicrhau arbedion

sylweddol drwy ddefnyddio adnoddau’n effeithlon. Byddwn yn parhau i godi

safonau ar gyfer effeithlonrwydd ynni cartrefi newydd. Erbyn 2010 ein nod

yw gwella effeithlonrwydd ynni cyfartalog y stoc dai domestig 20% o

gymharu â 2000 (mae Pennod 4 yn disgrifio’r gwaith hwn yn fanylach).

Mewn mannau eraill, yr her yw adfywio cymunedau sy’n dirywio. Mae’r

Llywodraeth yn buddsoddi £1.2 biliwn drwy ei rhaglen Adnewyddu Marchnad i fynd

i’r afael â’r galw bach am dai mewn rhannau o Ogledd a Chanolbarth Lloegr, drwy

raglenni adfywio cyfannol a all gynnwys rhywfaint o waith dymchwel. Er mwyn

cydnabod y manteision amgylcheddol a chymdeithasol sy’n deillio o osgoi gwaith

dymchwel diangen, mae’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy (SDC) a Swyddfa’r

Dirprwy Brif Weinidog yn edrych ar gyfleoedd i wella ac ailwampio tai sy’n bodoli

eisoes mewn ardaloedd lle mae’r galw am dai yn isel. Yn yr un modd mewn

ardaloedd twf, bydd y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy yn edrych ar y cyfleoedd sydd

i wella ac adfywio cymunedau dwysedd isel sy’n bodoli eisoes i leihau’r pwysau ar

dir ac adnoddau. Ac mewn ardaloedd gwledig, galluogodd y Llywodraeth

awdurdodau lleol i ddefnyddio’r system gynllunio i ddyrannu safleoedd ar gyfer tai

fforddiadwy yn unig i ddiwallu anghenion gweithwyr allweddol a phobl leol yn

barhaol.

Sicrhau newid – drwy ymgysylltu â chymunedau

Mae dwy fenter yn gweithio ar y cyd i annog pobl leol i gymryd mwy o ran yn y

cymunedau lle maent yn byw, yn gweithio, ac yn chwarae.

Fel y disgrifiwyd ym Mhennod 2, mae cynllun gweithredu trawslywodraethol ,

‘Together We Can’ wrthi’n cael ei ddatblygu i gynyddu cyfranogiad dinasyddion a

chymunedau yn y gwaith o ddatrys problemau cyhoeddus a gwella eu hansawdd

bywyd.

Ac fel rhan o’r gwaith o ddatblygu ‘local:vision’ – y strategaeth ddeng mlynedd ar

gyfer dyfodol llywodraeth leol – nododd y Llywodraeth gynigion i gynnig cyfleoedd

newydd i bobl ym mhob cymdogaeth i helpu i lywio’r gwasanaethau cyhoeddus y

maent yn eu derbyn a chymryd mwy o ran ym mywyd democrataidd eu cymunedau.

Mae’r Llywodraeth am sicrhau bod pob cymdogaeth yn cael cyfle i ddweud ei barn –

heb osod un model addas at bob diben – a bod trefniadau yn gweithio drwy

gynghorau a chynghorwyr lleol.

[picture caption]

Staff cyngor yn mynd ar daith gyda phlant ysgol, yn gwneud arolwg o’u hamgylchedd

lleol ac yn rhestru problemau yn Newham

Ffynhonnell: 3 rd Avenue

Mae ‘Citizen Engagement and Public Services: Why Neighbourhoods Matter’ 13 yn

cynnig y dylid datblygu fframwaith cenedlaethol gyda llywodraeth leol ac eraill sy’n

nodi egwyddorion ar gyfer trefniadau cymdogaeth. Bydd y fframwaith yn seiliedig ar

‘Siarter Cymdogaethau’ yn nodi’r hyn y dylai pobl leol ei ddisgwyl, o ran canlyniadau

- er enghraifft, strydoedd diogel, glân - ac o ran y rheolaeth neu’r dylanwad a arferir

arnynt. Gallai’r Siarter gynnwys dewislen o opsiynau y byddai cymdogaethau yn

dewis ohoni - gan gynnwys ysgogwyr gweithredu mewn ymateb i achosion pan fydd

gwasanaethau yn methu neu’n tangyflawni. Byddai’r Siarter hefyd yn annog pob

cyngor i sefydlu cronfeydd bach i gynghorwyr eu gwario yn ôl eu disgresiwn i wella

eu hardaloedd mewn ffyrdd a awgrymir gan gyrff cymdogaeth.

Gyda’i gilydd, bydd y cynigion hyn yn adeiladu ar waith sydd eisoes yn cael ei wneud

ar lefel y gymdogaeth, gan sicrhau bod pobl leol a chymunedau yn cymryd mwy o ran

yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, ac atgyfnerthu ac ailfywiogi democratiaeth

leol.

Cydnabyddwn er mwyn i bobl fanteisio ar y cyfleoedd i gyfranogi, ei bod yn bwysig

buddsoddi mewn cynyddu eu sgiliau, eu galluoedd, eu gwybodaeth a’u hyder, yn

ogystal ag ymestyn cyfleoedd dysgu a datblygu o fewn y gwasanaethau cyhoeddus,

fel y bydd gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr a llunwyr polisi yn fwy cymwys i

ymgysylltu â dinasyddion a chymunedau. Mae ‘Firm Foundations’ (Swyddfa Gartref,

2004) yn nodi fframwaith y Llywodraeth ar gyfer meithrin gallu cymunedau, ac yn

nodi blaenoriaethau ar gyfer gweithredu, a adlewyrchir yng nghynigion Community

Action 2020 – Together We Can ac mewn agweddau eraill ar y strategaeth hon.

Dylai ymgysylltu â chymunedau fod yn ganolog i’r broses o lunio’r cynlluniau

strategol statudol lleol ar gyfer yr ardal, megis y dogfennau datblygu lleol, gan

gynnwys cynlluniau gweithredu ardal yn y Fframwaith Datblygu Lleol (LDF), y

Strategaeth Datblygu Cynaliadwy, a’r Cytundeb Ardal Lleol (LAA) yn ogystal â

datrys problemau cyhoeddus. Mae cefnogaeth cymunedau yn hanfodol bwysig i

sicrhau perchenogaeth leol o’r cynlluniau hyn, a fydd yn llywio’r weledigaeth

hirdymor a dosbarthiad tir a datblygiadau yn y dyfodol yn ardal awdurdod, ac i

sicrhau dilysrwydd y cynlluniau. Mae gweithgarwch llunio cynlluniau gweithredu

lleol, er enghraifft gan grwpiau gwirfoddol, ar ffurf cynlluniau plwyf, cynlluniau

gweithredu cymdogaeth, a mathau eraill o gyfranogiad, yn cynnig ffordd effeithiol o

gael dinasyddion a chymunedau lleol i gyfrannu at y prosesau hyn.

Bydd awdurdodau cynllunio lleol yn nodi yn eu Datganiad Cyfranogiad Cymunedol

(SCI) sut y cynhwysir cymunedau yn y gwaith o baratoi ac adolygu fframweithiau

datblygu lleol, a sut yr ymgynghorir â hwy ynghylch ceisiadau cynllunio. Bydd

datganiadau cyfranogiad cymunedol hefyd yn gysylltiedig â rhaglen ehangach

Community Action 2020 – Together We Can.

Caiff Strategaethau Cymunedau Cynaliadwy sy’n hanfodol bwysig i wireddu’r

weledigaeth o gymunedau cynaliadwy a nodir ar ddechrau’r bennod, eu llunio gan yr

awdurdod lleol a’r Bartneriaeth Strategol Leol (LSP), gan ymgynghori â’r gymuned 14 .

Bydd y rhain yn datblygu o Strategaethau Cymunedol i roi mwy o bwyslais ar

13

ODPM a’r Swyddfa Gartref, 2005, ‘Citizen Engagement and Public Services: Why Neighbourhoods

Matter’ yn www.odpm.gov.uk

14

ODPM, 2005, ‘Government Vibrant Leadership'

amcanion datblygu cynaliadwy sydd eu hangen i greu ardal y mae pobl yn

wirioneddol am fyw ynddi am gyfnod hir.

Bydd y Llywodraeth yn ystyried gyda’n partneriaid sut i adolygu’r canllawiau

presennol a datblygu pecynnau cymorth a deunyddiau eraill i gynorthwyo

awdurdodau lleol a phartneriaethau strategol lleol i adolygu a pharatoi eu

Strategaethau Cymunedau Cynaliadwy

Fel rhan o Community Action 2020 - Together We Can, bydd y Llywodraeth yn

dathlu Strategaethau Cymunedau Cynaliadwy, cynlluniau plwyfi a chynlluniau

cymdogaethau llwyddiannus, gan chwilio yn arbennig am y rhai sy’n gwneud eu

gorau i adeiladu ar Agenda 21 Leol, sy’n mabwysiadu ymagwedd arloesol ac

sy’n helpu i sicrhau newid sylweddol ym maes datblygu cynaliadwy

[picture caption]

Gwefan Ystadegau Cymdogaethau

Er mwyn hyrwyddo paratoi cynlluniau plwyf sy’n cwmpasu nodau cymdeithasol,

economaidd ac amgylcheddol mewn cymunedau gwledig, bydd y Llywodraeth yn

rhoi cymorth ymarferol ar gyfer maes datblygu cynaliadwy a bydd yn meithrin gallu’r

rhai sy’n helpu cymunedau i ymdrin â’r ystod lawn o faterion datblygu cynaliadwy.

Yn ‘Firm Foundations’ nododd y Llywodraeth hefyd yr angen i ddatblygu canllawiau

arfer da i gynorthwyo’r gwaith o lunio cynlluniau gweithredu lleol yn gyffredinol a

sut y gall gyfrannu at ddatblygu cynaliadwy.

Mae gwireddu’r weledigaeth leol o gymunedau cynaliadwy fel y’i nodir yn y

dogfennau hyn yn gofyn am ymagwedd gydgysylltiedig yn lleol, ac arweiniad lleol

cryf gan yr awdurdod lleol. Nododd y Llywodraeth, wrth ddatblygu local:vision,

weledigaeth o awdurdodau lleol hunanhyderus, cryf, yn gweithio’n agos â’u

partneriaid lleol, i arwain y gwaith o ddatblygu cymunedau cynaliadwy a chynnwys

eu dinasyddion 15 .

Mae’n hollbwysig sicrhau bod y cyhoedd yn cael mynediad i well gwybodaeth leol er

mwyn i gymunedau ymgysylltu â darparwyr gwasanaethau lleol.

Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl yn cael y

mynediad hwn er mwyn iddynt gyfrannu yn effeithiol at brosesau gwneud

penderfyniadau ac i wella tryloywder y Llywodraeth ac awdurdodau

cyhoeddus eraill. Gall pobl gael mynediad i wybodaeth a ddelir gan

awdurdodau cyhoeddus o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 16 a

Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 17 .

15 ODPM, 2004, ‘The future of local government: developing a ten year vision’

16 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

17 Mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 ynghylch mynediad y cyhoedd i wybodaeth

amgylcheddol yn ceisio sicrhau y gwneir pob penderfyniad i ryddhau neu atal gwybodaeth

amgylcheddol er lles y cyhoedd a bod cyfleustodau cyhoeddus, contractwyr gwastraff, meysydd awyr,

a busnesau eraill yn lledaenu gwybodaeth amgylcheddol yn rhagweithiol ac yn ymateb i geisiadau yn

briodol.

Mae gwasanaethau megis ystadegau cymdogaethau 18 a ‘beth sydd yn eich iard gefn’ 19

a ddarpeir gan Asiantaeth yr Amgylchedd eisoes yn darparu ar gyfer pawb wybodaeth

leol fanwl am sut y mae eu cymdogaethau yn cymharu ag ardaloedd eraill o ran nifer

o faterion allweddol. Mae ein gwefannau yn nodi pa mor dda y mae darparwyr

gwasanaethau lleol yn diwallu anghenion eu cymunedau. Er enghraifft dengys y

wefan www.auditcommission.gov.uk/cpa pa mor dda y mae eich cyngor lleol yn

diwallu anghenion eich ardal, gan gynnwys set gyffredinol iawn o flaenoriaethau a

rennir sydd wedi’u cysylltu â nodau cymunedau cynaliadwy. Gyda’r wybodaeth hon,

gall unrhyw un feithrin gwell dealltwriaeth o’r prif flaenoriaethau sy’n debygol o godi

mewn ardal.

Fodd bynnag, mae diffyg data cymaradwy cyson am yr amgylchedd lleol felly mae’r

Llywodraeth yn gwneud yr ymrwymiad hwn i:

Ddarparu gwybodaeth gyhoeddus wedi’i chydgysylltu’n well yn lleol ar

ffurf ystadegau a thrwy wasanaethau mapio hawdd eu deall. Bydd hyn yn

cynnwys darparu yn ystod y pum mlynedd nesaf ddarlun cyson a

chymaradwy o’r amgylchedd lleol ar lefel y gymdogaeth fel rhan o’r

wefan ystadegau cymdogaethau, a gwella mynediad i wybodaeth am yr

amgylchedd drwy hyrwyddo gwefannau megis ‘beth sydd yn eich iard

gefn’ a noisemapping.org

Gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd, awdurdodau lleol ac eraill i

greu a chynnal porth electronig unigol i gofrestrau amgylcheddol o

wybodaeth amgylcheddol yn 2005

Mae’r ymrwymiadau uchod hefyd yn cefnogi gweithredu Confensiwn Aarhus a fydd

yn atgyfnerthu mynediad y cyhoedd i wybodaeth amgylcheddol a chyfranogiad y

cyhoedd mewn prosesau gwneud penderfyniadau amgylcheddol, y mae’r Llywodraeth

wedi ymrwymo’n llawn iddo. Cadarnhaodd y DU Gonfensiwn Aarhus yn ddiweddar

fel arwydd o’r ymrwymiad hwn.

Sicrhau newid – llywodraeth ganolog a llywodraeth leol yn gweithio gyda’i

gilydd

Cytunodd llywodraeth ganolog a llywodraeth leol eisoes ar saith ‘Blaenoriaeth

Gyffredin’ lle y bydd llywodraeth leol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i

gymunedau lleol ac yn helpu i gyflawni blaenoriaethau cenedlaethol y Llywodraeth.

Y Blaenoriaethau Cyffredin hyn yw:

Creu cymunedau diogelach a chryfach

Gwella ansawdd bywyd pobl hþn a phlant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n

agored i risg

Diwallu anghenion trafnidiaeth yn fwy effeithiol

18 www.neighbourhood.statistics.gov.uk

19 www.environment-agency.gov.uk

Hyrwyddo cymunedau iachach a lleihau anghydraddoldebau iechyd

Hyrwyddo hyfywedd economaidd cymdogaethau

Codi safonau ar draws ein hysgolion

Trawsnewid yr amgylchedd lleol.

[picture caption]

Ffynhonnell y ffotograffau: 3 rd Avenue

Bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi canllaw newydd ar gyflawni’r Blaenoriaethau

Cyffredin yn 2005 a fydd yn nodi’r gwahanol ganlyniadau ar gyfer pob

Blaenoriaeth yn gysylltiedig â datblygu cynaliadwy

Caiff perfformiad o ran pa mor dda y mae’r Blaenoriaethau Cyffredin yn cael eu

cyflawni yn lleol ei fesur drwy’r Asesiad Perfformiad Cynhwysfawr ar gyfer pob

awdurdod lleol. Er mwyn ategu hyn:

Bydd y Comisiwn Archwilio yn lansio set ddiwygiedig o Ddangosyddion

Ansawdd Bywyd Lleol gwirfoddol yn 2005 a all helpu i fonitro cynnydd

lleol o ran sicrhau cymunedau cynaliadwy. Bydd y cyhoeddiad hefyd yn

cynnwys gwybodaeth am ddangosyddion eraill megis olion troed ecolegol

a chysylltiadau ag offerynnau.

Bydd y dangosyddion hyn yn helpu Partneriaethau Strategol Lleol ac eraill yn lleol i

gysylltu eu blaenoriaethau â nodau rhanbarthol a rhyngwladol ehangach a bydd hefyd

yn ategu Proffiliau Ardal pob awdurdod lleol sydd wrthi’n cael eu datblygu gan y

Comisiwn Archwilio.

Er mwyn rhoi mwy o ryddid i awdurdodau lleol a’u partneriaethau strategol lleol

ymchwilio i atebion lleol i broblemau lleol, mae Cytundebau Ardal Lleol (LAA)

wrthi’n cael eu treialu mewn 21 o ardaloedd a bwriedir cychwyn cyfnod pellach o 40

o gytundebau erbyn mis Ebrill 2006. Bydd cytundebau ardal lleol yn elwa ar lai o

glustnodi arian yn benodol, llai o fiwrocratiaeth a mwy o hyblygrwydd o ran y modd

y maent yn gweithio. Bydd awdurdodau a’u partneriaid yn negodi canlyniadau

allweddol cyffredin â swyddfeydd y llywodraeth, gan adlewyrchu blaenoriaethau lleol

a chenedlaethol y cytunwyd arnynt. Bydd Partneriaethau Strategol Lleol yn cydlynu

cyfraniad partneriaid lleol, gan gynnwys y sector cymunedol a gwirfoddol i sicrhau eu

bod yn cymryd rhan lawn. Rydym yn annog ardaloedd lleol peilot i fod yn

uchelgeisiol wrth feddwl am eu canlyniadau arfaethedig a’r partneriaethau a fydd yn

eu cefnogi.

Gallai Cytundebau Ardal Lleol fod yn gyfrwng i fynd i’r afael â llawer o’r mentrau a

nodir yn y bennod hon – megis y rhai yn ymwneud ag iechyd, anghydraddoldebau,

trafnidiaeth a chyflogaeth – mewn ffordd gydgysylltiedig yn lleol. Dewiswyd rhai

ardaloedd, lle y ceir prosiectau arloesol yn ymchwilio i sut i wella’r modd y cydlynir

gweithgarwch cyflwyno gwasanaethau gwledig yn lleol, fel cynlluniau peilot hefyd ar

gyfer Cytundebau Ardal Lleol. Rydym yn awyddus i edrych ar y cysylltiadau rhwng y

ddwy fenter, a bydd y penderfyniad i ddewis Dorset fel cynllun peilot ar gyfer

Cytundeb Ardal Lleol ac fel prosiect arloesol, yn arbennig, yn rhoi cyfle i ni wneud

hynny.

Bydd Cytundebau Ardal Lleol yn crynhoi nifer o ffrydiau ariannu o adrannau

llywodraeth ganolog. Mae Cytundebau Ardal Lleol wedi’u strwythuro o amgylch tair

prif thema – Plant a Phobl Ifanc; Cymunedau Diogelach a Chryfach; a Chymunedau

Iachach a Phobl Hþn. Byddant yn cynnig cyfleoedd gwirioneddol i awdurdodau a’u

partneriaid weithio gyda’i gilydd i gytuno ar flaenoriaethau ac ymateb yn hyblyg i

well canlyniadau, gan gynnwys hyrwyddo datblygu cynaliadwy.

Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau lleol

Mae gan y Llywodraeth hon weledigaeth glir na ddylai neb, o fewn 10-20 mlynedd,

fod o dan anfantais ddifrifol oherwydd y lle mae’n byw ynddo. 20 Bydd y dulliau a

nodwyd uchod yn creu cymunedau cynaliadwy mewn llawer o leoedd, ond bydd

angen rhagor o gymorth ar rai cymdogaethau.

[box]

Yr hyn a gyflawnwyd o ran mynd i’r afael ag anghydraddoldebau ers 1999

Buddsoddwyd dros £1.6 biliwn ers 1997 mewn prosiectau adnewyddu cymdogaethau

ar gyfer yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn y wlad. Mae’r Fargen Newydd i

Gymunedau wedi gwella argraffiadau pobl o’u hardal ac mae’r Strategaeth

Genedlaethol ar gyfer Adnewyddu Cymdogaethau wedi helpu i leihau’r bwlch rhwng

ardaloedd difreintiedig a’r gweddill ohonom o ran dangosyddion addysg, troseddu, a

diweithdra allweddol.

Bu ymagwedd gydgysylltiedig at gydlyniant cymunedol, i sicrhau y caiff ei

ymgorffori yn gynnar yn y broses adfywio 21 .

Lleihaodd tlodi plant ers 1997. Yn 2002/03 roedd 700 000 yn llai o blant yn byw

mewn tlodi cymharol nag yn 1996/97. Amcangyfrifir erbyn 2004/05, pe na fyddai’r

Llywodraeth wedi gweithredu y byddai 1.5 miliwn yn fwy o blant mewn tlodi.

Cynyddodd cyrhaeddiad addysgol ar bob lefel, yn arbennig mewn ysgolion cynradd.

Yng nghyfnod allweddol 2 (plant 11 mlwydd oed) cododd canran y disgyblion a

gyrhaeddodd y lefel ddisgwyliedig mewn Saesneg o 63 y cant yn 1997 i 77 y cant yn

2004. Cododd canran y disgyblion a gyrhaeddodd y lefel ddisgwyliedig mewn

Mathemateg o 62 y cant i 74 y cant yn ystod yr un cyfnod.

Bu gostyngiad yn y gyfradd beichiogi ymhlith merched yn eu harddegau. Gostyngodd

cyfraddau beichiogi ymhlith merched dan 18 oed 9.4 y cant rhwng 1998 a 2002.

20 ODPM, 2005, ‘Making it happen in neighbourhoods’, yn www.neighbourhood.gov.uk

21 Y Swyddfa Gartref ac ODPM, 2003 ‘Community Cohesion Advice for those designing, developing

and delivering Area Based Initiatives’ a’r Swyddfa Gartref ac ODPM, 2004, ‘Building Cohesion into

Area Baes Initiatives’, yn www.homeoffice.gov.uk

Cynyddodd nifer y bobl mewn gwaith ers 1997. Yn 2004, roedd 1.85 miliwn yn fwy o

bobl mewn gwaith nag yr oedd yn 1997. Mae cyflogaeth wedi cynyddu yn gyflymach

na’r cyfartaledd ymhlith grwpiau difreintiedig megis rhieni unigol, pobl ag

anableddau a’r rhai dros 50 mlwydd oed.

Lleihaodd tlodi ymhlith pensiynwyr. Ers 1997 gostyngodd nifer y pensiynwyr sy’n

byw ar incwm cymharol isel o 500 000. Gostyngodd nifer y pensiynwyr sy’n byw

mewn tlodi mawr 1.8 miliwn.

Bu gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl sy’n cysgu ar y stryd. Gostyngodd nifer y

bobl sy’n cysgu ar y stryd dros 70 y cant ers 1998.

Nododd yr adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan Uned Strategol y Prif Weinidog 22

a Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog ar y cyd y ddadl o blaid y Llywodraeth yn

parhau i gymryd camau mewn ardaloedd tlawd. Mae’r Llywodraeth yn cydnabod bod

llawer i’w wneud o hyd – ac ar y cyd ag asiantaethau rhanbarthol, a phartneriaid lleol

a chymdogaeth, bydd yn parhau i wella bywyd ar gyfer y rhai sy’n byw yn yr

ardaloedd tlotaf yn Lloegr.

Wrth fwrw ymlaen â’n gwaith i fynd i’r afael â lleoedd difreintiedig bydd y

Llywodraeth yn:

Parhau i ddarparu cymorth ychwanegol ar gyfer Partneriaethau

Strategol Lleol yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig drwy’r Gronfa

Adnewyddu Cymdogaethau a chanolbwyntio ar godi safonau mewn

gwasanaethau prif ffrwd ym mhob cymuned ddifreintiedig

Annog busnesau i weithio drwy’r Partneriaethau Strategol Lleol i helpu i

nodi cyfleoedd busnes mewn ardaloedd difreintiedig ac i gefnogi datblygu

eu gweithlu

Darparu, o 2006, drwy’r Gronfa Cymunedau Diogelach a Chryfach,

arian craidd ar gyfer Rhwydweithiau Grymuso Cymunedau i gydlynu, ar

ran pob partner, weithgareddau grymuso cymunedau’r Bartneriaeth

Strategol Leol. Bydd gan y rhwydweithiau fynediad i fentoriaid y rhaglen

Community Action 2020 - Together We Can

Sicrhau bod prosesau arfarnu cynigion polisi yn cymryd i ystyriaeth eu

heffaith leol a dosbarthiadol i osgoi amharu ar yr ardaloedd a’r grwpiau

cymdeithasol mwyaf difreintiedig

Parhau i bennu “targedau sylfaen” fel rhan o Gytundebau Gwariant

Cyhoeddus (PSA) mewn Adolygiadau Gwariant. Mae’r rhain yn sicrhau

y mesurir perfformiad y Llywodraeth yn erbyn pa mor dda yr ydym yn

lleihau’r bwlch rhwng yr ardaloedd a’r grwpiau cymdeithasol mwyaf

22

PMSU ac ODPM, 2005, ‘Improving the prospects of people living in areas of multiple deprivation in

England’.

difreintiedig, a gweddill y wlad. 23 Mae gan dargedau sylfaen wedi’u

mireinio, a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2005, darged newydd ar gyfer

cyfanedd-dra

Mae tystiolaeth o nifer o astudiaethau (a wnaed yng Ngogledd America yn bennaf)

fod iechyd pobl lai cyfoethog yn well a’u bod yn cael gwell canlyniadau o ran

ansawdd bywyd pan fyddant yn rhannu cymdogaethau gydag unigolion mwy

cyfoethog, mwy addysgedig 24 .

Er bod deddfwriaeth cynllunio bellach yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygiadau tai

newydd gynnwys cymysgedd o fathau o ddeiliadaeth ac eiddo sy’n amrywio o ran ei

werth, mae tlodi yn parhau i fod wedi’i ganolbwyntio ar lefel y gymdogaeth: mae

rhwng 10 a 30 y cant o’r rhai sy’n hawlio Cymhorthdal Incwm a Lwfans Ceisio

Gwaith yn byw yn y pump y cant o’r wardiau mwyaf difreintiedig o ran incwm. Bu

rhai o’r cymdogaethau hyn erioed yn ddifreintiedig ond bu cynnydd hefyd mewn

gwahanu economaidd ers y 1970au wedi’i ganolbwyntio ar ardaoedd gyda thai

cymdeithasol.

Gellid lleihau gwahaniaethau mewn iechyd a chanlyniadau bywyd eraill ar gyfer

gwahanol ddosbarthiadau cymdeithasol ymhellach drwy fynd i’r afael â’r ‘gwahanu

economaidd’ hwn.

Bydd y Llywodraeth yn ymchwilio i effeithiau polisïau i leihau gwahanu

economaidd yn fanylach, a bydd ei gweithgarwch cychwynnol yn canolbwyntio

ar:

Ymchwil yn y DU gan ddefnyddio ffynonellau data sy’n bodoli eisoes i

gysylltiadau cyfredol rhwng gwahanol economaidd ac iechyd a

chanlyniadau eraill

Datblygu dangosyddion gwahanu economaidd sensitif

Asesu’r effeithiau cadarnhaol (ac unrhyw rai negyddol) yn deillio o

chwalu crynoadau o dlodi a ddewiswyd yn ofalus

Cymharu effaith gymharol gwahanol ffyrdd o wella’r amgylchiadau ar

gyfer y trigolion presennol i weld a ydynt yn lleihau gwahanu.

Mae adroddiad y Rhwydwaith Ymchwil Datblygu Cynaliadwy 25 , a gomisiynwyd ar

gyfer y Strategaeth hon, a ategir gan dystiolaeth o’r Alban ac adroddiad a luniwyd gan

23

Ceir manylion am gynnydd eich ardal leol yn erbyn targedau sylfaen yn

www.neighbourhood.gov.uk/fti.asp

24

Hou F, Myles J. ‘Neighbourhood inequality, neighbourhood affluence and population health’. Social

Science & Medicine 2005; 60: 1557-1569.

25

PSI, Lucas ac eraill, 2004, ‘Environmental and Social Justice: Rapid Research and Evidence Review’

yn www.sd-research.org.uk

Asiantaeth yr Amgylchedd 26 , yn tynnu sylw at anghydraddoldeb arall sy’n dod yn

fwyfwy pwysig,

“Mae ansawdd amgylcheddol lleol gwael a mynediad amrywiol at nwyddau a

gwasanaethau amgylcheddol yn amharu ar ansawdd bywyd cymunedau difreintiedig

a grwpiau wedi’u hallgáu yn gymdeithasol a gall atgyfnerthu amddifadedd os nad eir

i’r afael â hwy ar y cyd â mynediad i gyflogaeth, iechyd a mynd i’r afael â

throseddu.”

Mae’r ymchwil yn dwyn ynghyd dystiolaeth newydd ar gyfer achos ac effaith

anghydraddoldebau amgylcheddol ar gyfer un mater ar hugain, megis graffiti a

fandaliaeth, mynediad i wasanaethau trafnidiaeth, a llygredd aer. Dengys pa mor

gymhleth a pha mor amrywiol yw patrymau o anghydraddoldeb amgylcheddol, a

dengys ei bod yn broblem wirioneddol o fewn y DU sy’n effeithio ar y cymunedau

mwyaf difreintiedig. Mae’r ymchwil hefyd yn tynnu sylw at yr angen am ragor o

waith ar achosion, cost ac effeithiolrwydd ymyriadau polisi.

O werthusiadau o Strategaethau Cymunedol, roedd y Llywodraeth eisoes yn

ymwybodol bod y rhain yn faterion allweddol mewn ardaloedd difreintiedig felly

sefydlodd darged sylfaen newydd i sicrhau mannau cyhoeddus glanach, diogelach a

gwyrddach a gwella ansawdd yr amgylchedd adeiledig mewn ardaloedd difreintiedig

a ledled y wlad erbyn 2008. Mae rhaglenni o fewn y blaenoriaethau ar gyfer

Cymunedau Glanach, Diogelach a Gwyrddach 27 yn mynd i’r afael â’r materion hyn,

ond mae angen rhagor o ymchwil i ba ddulliau o fynd i’r afael ag anghydraddoldeb

amgylcheddol sy’n debygol o fod yn fwyaf effeithiol. 28

Bydd y Llywodraeth yn ariannu rhagor o ymchwil i achosion

anghydraddoldeb amgylcheddol ac effeithiolrwydd mesurau i fynd i’r

afael ag ef er mwyn nodi’r ffyrdd gorau o fynd i’r afael â’r materion hyn

mewn cymunedau

Yn achos rhai materion, mae’n bosibl nodi cysylltiadau rhwng amddifadedd ac

amgylchedd lleol gwael, megis mynediad i fannau gwyrdd, tipio sbwriel ac ansawdd

aer gan ddefnyddio data ystadegol a luniwyd yn ddiweddar.

[map]

Map yn dangos lefelau cefndir NO2 yn 2001 a ffiniau ardaloedd y Gronfa

Adnewyddu Cymdogaethau.

Neighbourhood Renewal … - Ardaloedd y Gronfa Adnewyddu Cymdogaethau

26 Walker, G.P, Mitchell, G., Fairburn, J. a Smith, G., 2003 ‘Environmental Quality and Social

Deprivation. Phase II: National Analysis of Flood Hazard, IPC Industries and Air Quality’. Prosiect

Ymchwil a Datblygu Cofnod E2-067/1/PR1, Asiantaeth yr Amgylchedd, Bryste.

27 www.cleanersafergreener.gov.uk

28 Ceir rhagor o fanylion am fynd i’r afael ag anghydraddoldeb amgylcheddol o ganllaw polisi ac arfer

yn www.renewal.net y byddwn yn ei ddiweddaru yn unol â’r strategaeth

hon, a cheir rhagor o gyngor yn lleol gan Asiantaeth yr Amgylchedd, er enghraifft ar lifogydd, yr

Asiantaeth Diogelu Iechyd, er enghraifft ar ddod i gysylltiad â chemegau, a’r Asiantaeth Integredig, er

enghraifft ar fynediad i wasanaethau yng nghefn gwlad.

Crynhoad cymedrig blynyddol NO2

Less than 10 – Llai na 10

More than 40 – Mwy na 40

©Hawlfraint y Goron 2004, Trwydded AO rhif 100018386. Lluniwyd gan ODPM o

fapiau yn dangos llygredd cefndir a luniwyd ar gyfer Defra gan netcen.

Bydd y Llywodraeth yn mynd i’r afael ag ansawdd aer gwael yn unol â chanlyniadau

adolygiad o’r Strategaeth Ansawdd Aer a thrwy gynghori awdurdodau lleol i

ymgorffori cynlluniau gweithredu ansawdd aer yn eu cynlluniau trafnidiaeth lleol pan

fydd trafnidiaeth yn ffactor cyfrannol.

Ond ar draws yr ystod o faterion amgylcheddol, mae angen i ni sicrhau bod camau

gweithredu yn canolbwyntio ar yr ardaloedd mwyaf anghenus. Mae gennym system

gynhwysfawr o ddynodiadau statudol eisoes sy’n fodd i nodi a diogelu’r

amgylcheddau naturiol mwyaf bregus, ond nid oes gennym unrhyw system ar gyfer

nodi’r amgylcheddau lleol gwaethaf y mae angen eu gwella fwyaf er mwyn gwella

iechyd ac ansawdd bywyd pobl. Mae’r Llywodraeth yn bwriadu rhoi’r system hon ar

waith a’i defnyddio fel sail ar gyfer annog pob darparwr gwasanaethau lleol drwy’r

awdurdodau lleol a Phartneriaethau Strategol Lleol i ganolbwyntio ar yr ardaloedd

hyn, gan ymgynghori â’r cymunedau sy’n byw yno, er enghraifft drwy Gytundebau

Ardal Lleol.

Tra byddwn yn gwneud ymchwil i helpu i nodi’r ardaloedd â’r

amgylchedd lleol gwaethaf, bydd y Llywodraeth yn y byrdymor yn

canolbwyntio ar wella’r amgylchedd yn yr ardaloedd a nodwyd eisoes fel

y rhai mwyaf difreintiedig gan y Mynegrif Amddifadedd Lluosog.

Mae materion anghydraddoldeb wrth graidd agenda’r Llywodraeth. Bydd yn

defnyddio’r mentrau canlynol i roi cymhelliant i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau

yn lleol, mewn ffordd gydgysylltiedig:

[chart]

ISSUE – MATER

[Column 1]

Anghydraddoldebau iechyd

Mewn rhai rhannau o’r wlad, mae cyfraddau marwolaeth cyfartalog ar yr un lefel yn

awr ag yr oeddynt yn y 1950au

Bydd Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol (PCT) Arloesol y Llywodraeth yn mynd i’r

afael ag anghydraddoldebau iechyd gydag adnoddau ychwanegol a rhaglenni newydd

megis y ‘Healthier Communities Collaborative’ o 2006. Rydym hefyd yn rhoi i

Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol yr adnoddau i fynd i’r afael ag

anghydraddoldebau iechyd a gwella iechyd drwy: ddarparu arian i roi mwy o

flaenoriaeth i ardaloedd ag anghenion iechyd mawr, buddsoddiadau newydd mewn

cyfleusterau gofal sylfaenol ar gyfer rhyw 50 y cant o’r boblogaeth erbyn 2008 gan

ganolbwyntio ar y rhannau mwyaf difreintiedig o’n cymunedau, a datblygu dull o

asesu iechyd a lles lleol a fydd yn helpu Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol ac

awdurdodau lleol i gynllunio gwasanaethau ar y cyd a monitro’r cynnydd a wnaed o

ran lleihau anghydraddoldebau, a elwir yn archwiliad tegwch iechyd a lles.

www.dh.gov.uk/PublicationsAndStatistics/

[Column 2]

Diogelwch y Ffordd

Mae plant sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn Lloegr bum gwaith yn

fwy tebygol o gael eu lladd mewn damwain ffordd na phlant mewn ardaloedd mwy

cyfoethog

Mae nifer o gamau yn cael eu cymryd a nifer o raglenni ar y gweill i wella diogelwch

y ffordd ar gyfer y rhai sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig, sy’n cyfrannu at

gyrraedd targed cenedlaethol yr Adran dros Drafnidiaeth. Ymhlith y rhain mae

Menter Diogelwch Ffyrdd Cymdogaethau'r Llywodraeth sy’n werth £17.6 miliwn yn

cynorthwyo pymtheg awdurdod lleol yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig i fynd i’r

afael â’r nifer fawr o bobl sy’n cael eu hanafu neu eu lladd ar eu ffyrdd.

www.nrsi.rog.uk

[Column 3]

Addysg a gofal plant

Sicrhau addysg o safon i bawb, a chyfleusterau gofal plant addas

Dengys strategaeth y Llywodraeth ar gyfer sicrhau gwelliannau cynaliadwy mewn

ysgolion sut y bydd y Llywodraeth yn cyflawni ei hymrwymiadau allweddol i wella

cyrhaeddiad mewn ysgolion a mynd i’r afael â gwahaniaethau mewn cyrhaeddiad

sy’n codi rhwng y rhywiau, grwpiau ethnig, dosbarthiadau cymdeithasol a lleoliad (yr

ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig).

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi nodi ei hymrwymiad i fuddsoddi mewn gofal plant,

addysg gynnar a chydbwysedd gwaith-bywyd teuluol fel y gall teuluoedd sicrhau fod

eu plant yn cael y cychwyn gorau mewn bywyd.

www.dfes.gov.uk/achievingsuccess/download.shtml

www.hmtreasury.gov.uk/pre_budget_report/prebud_pbr04/assoc_docs/prebud_pbr04_adchildc

are.cfm

[Column 4]

Tlodi Tanwydd

Tlodi tanwydd: cyfuniad o effeithlonrwydd ynni gwael mewn cartrefi ac incymau isel

O dan y safon cartrefi boddhaol mae’n ofynnol bod gan gartrefi systemau gwresogi ac

insiwleiddio effeithiol. Yn y sector preifat, caiff rhaglen Warm Front Defra ei

hatgyfnerthu, felly erbyn 2010, bydd tlodi tanwydd yn Lloegr yn achos cartrefi

diamddiffyn i bob pwrpas wedi’i ddileu.

www.odpm.gov.uk a

www.defra.gov.uk/environment/energy/hees/

[caption]

Ffynhonnell y ffotograff: 3rd Avenue

[Column 1]

Tai

Fforddiadwyedd a digartrefedd

Rydym wedi dyblu’r buddsoddiad mewn tai cymdeithasol ers 1997.

Bydd y Llywodraeth:

- yn helpu 80,000 o bobl i ddod yn berchenogion ar gartrefi cost isel erbyn 2010

- yn helpu sicrhau 1.1 m o dai newydd yn rhanbarth ehangach y De-ddwyrain erbyn

2016

- yn gosod nod fforddiadwyedd ar gyfer y farchnad genedlaethol erbyn diwedd 2005

- yn canolbwyntio ar haneru nifer y bobl sy’n byw mewn llety dros dro erbyn 2010.

www.odpm.gov.uk/odpm/fiveyearstrategy/homes_for_all.htm

[Column 2]

Swyddi

Mae diweithdra yn y ddegfed ran waethaf o strydoedd 23 gwaith yn uwch nag yn y

ddegfed ran orau 29

Caiff rheolwyr y Ganolfan Byd Gwaith rym cynyddol i deilwra polisïau wedi’u

targedu ar gyfer grwpiau neu ardaloedd sydd o dan anfantais arbennig.

Bydd cymorth drwy waith Busnes yn y Gymuned yn helpu i ddarparu swyddi mewn

rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig.

Bydd y Llywodraeth yn cefnogi:

- mesurau i hyrwyddo hunangyflogaeth mewn ardaloedd difreintiedig

- rhoi mwy o bwyslais ar gymunedau cymysg i leihau crynoadau o ddiweithdra.

www.dwp.gov.uk/lifeevent/workage/index.asp

[Column 3]

29 ODPM, 2004, ‘Jobs and Enterprise in Deprived Areas’.

Trafnidiaeth a Hygyrchedd

Pobl, er enghraifft, yr henoed neu’r anabl, na allant gael y gwasanaethau y mae eu

hangen arnynt 30

Mae cynllunio hygyrchedd 31 yn rhoi fframwaith ar gyfer nodi’r rhwystrau a wynebir

gan bobl, yn arbennig pobl o grwpiau ac ardaloedd o dan anfantais, wrth gael gafael

ar swyddi a gwasanaethau hanfodol, a mynd i’r afael â’r rhwystrau hynny. Gall

mesurau i wella hygyrchedd hefyd gyfrannu at wella’r amgylchedd lleol ac ansawdd

bywyd. Mae cynllunio hygyrchedd yn ystyried anghenion y rhai mewn ardaloedd

trefol a gwledig.

Bydd yn rhaid i awdurdodau lleol sy’n llunio Cynlluniau Trafnidiaeth Lleol (LTP) 32

lunio strategaethau hygyrchedd fel rhan ohonynt o fis Gorffennaf 2005 (i’w cwblhau

ym mis Mawrth 2006).

Dylai’r strategaethau hyn nodi gweledigaeth ac amcanion awdurdod ar gyfer

hygyrchedd a chynnwys targedau lleol ar gyfer gwella hygyrchedd. Gall Cynlluniau

Trafnidiaeth Lleol helpu i wella mynediad i gefn gwlad drwy gynnwys Cynlluniau

Gwella Hawliau Tramwy statudol. Mae llawer o Gynlluniau Trafnidiaeth Lleol yn

cyfeirio at ddatblygu mentrau cynllunio teithio yng nghyfleusterau’r GIG (ar gyfer

staff, cleifion ac ymwelwyr). Bydd yn rhaid i bob ysgol yn Lloegr feddu ar gynllun

teithio i’r ysgol erbyn 2010, fel y nodir yn y fenter ‘Teithio i’r Ysgol’. Mae’r

Llywodraeth yn darparu £50 miliwn yn ystod y cyfnod 2004-2006 i gefnogi’r prosiect

hwn.

www.dft.gov.uk/stellent/groups/dft_localtrans/document/page/dft_localtrans_504005.

hcsp

[Column 4]

Trosedd

Cyflawnir bron hanner yr holl droseddau (yn seiliedig ar ystadegau’r Swyddfa Gartref

ar gyfer 2003/04) mewn 23 y cant o ardaloedd Awdurdodau Lleol yn unig – yr 88 o

ardaloedd mwyaf difreintiedig yn Lloegr. Mae defnyddwyr heroin, crac a chocên yn

gyfrifol am 50 y cant o droseddau megis byrgleriaeth, troseddau yn ymwneud â

cherbydau, dwyn o siopau a lladrad.

Bydd y Llywodraeth yn canolbwyntio ar blismona ac yn ei flaenoriaethu, gan

gynnwys plismona cymdogaethau, yn yr ardaloedd hynny lle y ceir y troseddu mwyaf,

sef yr ardaloedd mwyaf difreintiedig (cydberthyniad o 85 y cant yn 2003/04). Mae’r

Rhaglen Ymyriadau Cyffuriau, a lansiwyd ym mis Ebrill 2003, yn ‘rhaglen gymorth

o’r dechrau i’r diwedd’ sy’n ceisio perswadio defnyddwyr cyffuriau i roi’r gorau i

droseddu a derbyn triniaeth. Mae’n gweithredu yn yr ardaloedd hynny lle y ceir y

lefelau uchaf o droseddau yn ymwneud â dwyn sy’n cyfateb yn agos i’r cymunedau

tlotaf.

Ffynhonnell y ffotograff: 3 rd Avenue

30 ODPM, 2003, ‘Making the connections’.

31 DfT, 2004, ‘Full Guidance on Accessibility Planning’.

32 DfT, 2004, ‘Full Guidance on Local Transport Plans: Second Edition’.

3. Rhoi cyfle i bawb yn genedlaethol

Nid yw pob person difreintiedig yn byw mewn ardal ddifreintiedig, ac mae rhai o’r

bobl fwyaf difreintiedig heb wreiddiau, heb fawr ddim cysylltiad ag unrhyw

gymuned. Mae angen i ni sicrhau, ar gyfer pobl a lleoedd, ein bod yn mynd i’r afael â

ffactorau allweddol amddifadedd sy’n codi’r perygl y caiff pobl eu gwthio i mewn i

ddirywiad troellog.

Yn Lloegr, cloriannodd adroddiad yr Uned Allgáu Cymdeithasol (SEU) ‘Breaking the

cycle: taking stock of progress and priorities’ 33 effaith polisi’r Llywodraeth ers 1997

ac asesu’r sefyllfa genedlaethol o ran amddifadedd. Dangosodd i raglen buddsoddi a

diwygio’r Llywodraeth sicrhau cynnydd gwirioneddol. Er enghraifft, dechreuwyd

gwneud cynnydd o ran datrys rhai o broblemau cymdeithasol mwyaf sylfaenol ein

cymdeithas megis cysgu ar y stryd. Ond dangosodd hefyd fod angen i wasanaethau

weithio’n galetach i helpu’r rhai sy’n dal i fod mewn perygl - sy’n cynnwys yn aml y

bobl fwyaf diamddiffyn. Nododd hefyd fod angen parhau i weithredu i atal anfantais

rhag cael ei throsglwyddo o’r naill genhedlaeth i’r llall. Nododd yr adroddiad bum

ffactor allweddol penodol sy’n effeithio ar allgáu cymdeithasol y mae angen mynd i’r

afael â hwy: diweithdra, digartrefedd, cyrhaeddiad addysgol isel, anghydraddoldebau

iechyd a throseddu.

Trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus i bawb

Mae hyn yn rhan o ymgyrch ehangach y Llywodraeth i greu gwasanaethau cyhoeddus

mwy ymatebol a mwy personol. Yn aml y bobl fwyaf difreintiedig yw’r rhai a

wasanaethir waethaf gan wasanaeth ‘safonol’. Bydd gwasanaethau a gynlluniwyd o

amgylch defnyddwyr yn fwy cymwys i helpu’r rhai ag anghenion cymhleth a lluosog.

Felly mae rhaglen waith newydd yr Uned Allgáu Cymdeithasol yn edrych ar sut y

gallai gwasanaethau prif ffrwd weithio’n well i ddiwallu anghenion y 10 y cant isaf,

er mwyn gwella cyfleoedd bywyd ar gyfer y rhai mwyaf difreintiedig. Yn arbennig

bydd yn canolbwyntio ar:

oedolion ifanc â bywydau cythryblus

oedolion o oedran gweithio sydd o dan anfantais (yn arbennig y rhai â sgiliau

sylfaenol gwael, grwpiau ethnig dan anfantais a’r rhai â phroblemau iechyd)

pobl hþn wedi’u hallgáu

pobl dan anfantais sy’n symud yn aml.

[picture caption]

Ffynhonnell: 3rd Avenue

33 ODPM, 2004, ‘Breaking the cycle: taking stock of progress and priorities’ yn

www.crimeeducation.gov.uk/socialexclusion01.htm

Bydd hefyd yn edrych ar waith trawsbynciol ar sut y mae asedau yn effeithio ar

gyfleoedd bywyd a sut y gellir mynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol drwy

dechnolegau newydd.

Cred Llywodraeth y DU, yn achos y bobl hynny a all weithio, mai cyflogaeth yw’r

ffordd orau allan o dlodi, am ei bod yn cynnig i bob unigolyn gyfle i wireddu ei

botensial/photensial, yn hybu ei hunanhyder, ac yn cyfrannu at gyfiawnder

cymdeithasol. Felly mae polisi marchnad waith effeithiol yn helpu i sicrhau bod

manteision economaidd a chymdeithasol yn dod i nifer fawr o bobl yn hytrach nag i

ambell un.

Gellir grwpio ymagwedd bolisi’r Llywodraeth at ddiweithdra o dan dair thema:

rhoi cymorth drwy sicrhau bod y system fudd-daliadau yn helpu ac yn annog y

rhai sy’n cael budd-daliadau i ddychwelyd i weithio– tra’n cydnabod bod pobl,

efallai oherwydd cyfrifoldebau gofalu, anabledd neu iechyd, na ellir mynnu eu

bod yn chwilio am waith

sicrhau bod gwaith yn talu drwy gyflwyno isafswm cyflog a chredydau treth

lleihau rhwystrau i weithio drwy ystod o fesurau, gan gynnwys gwella sgiliau

a mynediad i ofal plant

Bydd cymorth y Llywodraeth yn canolbwyntio ar ddau grðp yn ein cymdeithas yn y

blynyddoedd sydd i ddod: sef pobl ifanc a’r henoed.

Nod hirdymor y Llywodraeth yw haneru nifer y plant mewn cartrefi ag incwm

cymharol isel rhwng 1998/99 a 2010/11, ar y ffordd i ddileu tlodi plant erbyn 2020,

nod a rennir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a Thrysorlys EM. Mae’r strategaeth

yn cynnwys:

Sicrhau incymau teuluol digonol

helpu rhieni a all weithio i ddod o hyd i waith

cynorthwyo rhieni i fagu eu plant

cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus ardderchog.

Llwyddodd y Llywodraeth i atal a gwrthdroi’r duedd hirdymor o dlodi cynyddol

ymhlith plant ac mae ar y trywydd iawn fwy neu lai i gyrraedd ei tharged i leihau

nifer y plant mewn cartrefi ag incwm cymharol isel erbyn 2004/05.

Mae’r Llywodraeth hefyd yn mynd i’r afael â thlodi drwy newidiadau mewn trethi

personol a budd-daliadau a fydd yn canolbwyntio ar y pensiynwyr tlotaf.

Elwodd pensiynwyr yn ddiweddar o’r Credyd Pensiwn, sy’n cynnig isafswm incwm

wythnosol, a chodiadau yn Mhensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth yn unol â phrisiau neu

2.5 y cant (p’un bynnag sydd uchaf). Rhagwelir y bydd gwariant ar bensiynau

cyhoeddus yn aros yn ddigyfnewid yn ystod y 50 mlynedd nesaf, ac y bydd yn

amrywio rhwng 4.9 y cant a 5.4 y cant o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth.

Rhoddir cymorth wedi’i dargedu hefyd i helpu gyda chostau byw, taliadau tanwydd

gaeaf a biliau treth gyngor. Hefyd mae gan y bobl hynny dros 60 oed yr hawl i gael

presgripsiynau am ddim, profion golwg am ddim a thocynnau teithio, tra bod y bobl

hynny dros 75 oed yn cael trwyddedau teledu am ddim. Ar gyfer y blynyddoedd sydd

i ddod, sefydlodd y DU Gomisiwn Pensiynau i ddadansoddi’r tueddiadau tebygol yn y

dyfodol o ran darpariaeth pensiynau a chynilo ar gyfer ymddeoliad yn y DU.

Mae adroddiad blynyddol y Llywodraeth, ‘Cyfle i Bawb’ 34 yn nodi strategaeth y

Llywodraeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer mynd i’r afael â thlodi ac allgáu

cymdeithasol. Mae’r strategaeth hon yn ymgorffori set o ddangosyddion sy’n mesur ei

heffeithiolrwydd ei hun.

3. Y dimensiwn byd-eang: byd tecach

Crëwyd ansawdd bywyd cymharol dda yn y wlad hon ar gyfer y rhan fwyaf ohonom

ond erbyn hyn rydym yn sylweddoli y gallwn fod wedi gwneud hynny ar draul

cymunedau mewn rhannau eraill o’r byd.

Ni all byd cyfoethog a byd tlawd gydfodoli heb ganlyniadau dramatig. Yn 2000,

roedd gwladwriaethau a oedd yn wynebu heriau o ran sefydlogrwydd yn cynnwys

ychydig dros 1.2 biliwn o bobl yn byw ar lai na doler y dydd, a 65 miliwn o’r 114

miliwn o blant oed ysgol gynradd nad oeddent yn mynychu ysgol.

Yn y gorffennol canolbwyntiodd ein hymdrechion ar ymdrin â chanlyniadau

ansefydlogrwydd ac ymateb i argyfyngau. Ond mae ymatebion rhyngwladol mwy

effeithiol i leihau risgiau yn gysylltiedig ag ansefydlogrwydd - a thrwy hynny atal

argyfyngau - yn bosibl. Mae adroddiad diweddar Uned Strategol y Prif Weinidog 35 yn

dadlau y gallai fod risg i bob gwlad yn gysylltiedig ag ansefydlogrwydd ac mae’n

nodi camau ymarferol i atal y risg honno. Yn ganolog i’n strategaeth atal mae

buddsoddi parhaol hirdymor i hybu gallu a gwytnwch gwlad i reoli risgiau ac ymdrin

â siociau mewn ffyrdd sy’n hybu cyfalaf naturiol a dynol yn hytrach na’u tanseilio.

Fel rhan o’r strategaeth atal rydym am i’r gymuned ryngwladol fynd yn fwy cyfrifol

am ei gweithredoedd ei hun. Mae patrymau tywydd sy’n newid a natur gyfnewidiol yr

hinsawdd eisoes yn cyfrannu at risgiau yn gysylltiedig ag ansefydlogrwydd mewn

nifer o wledydd diamddiffyn. Gall prinder bwyd a dðr, newidiadau yn y defnydd a

wneir o dir a thrychinebau naturiol a mudo amgylcheddol i gyd gyfrannu at gynyddu

tensiynau; a chysylltwyd pwysau amgylcheddol â thensiynau gwleidyddol a

gwrthdaro treisgar mewn nifer o achosion penodol.

Mae creu byd tecach yn hanfodol bwysig i sefydlogrwydd a ffyniant y DU ei hun. Fel

gwlad gyfoethog, gall y DU helpu gwledydd sy’n datblygu. Mae mynd i’r afael â

thlodi byd-eang yn flaenoriaeth i’r DU, ac mae’r camau gweithredu a gymerir

gennym yn seiliedig ar Nodau Datblygu’r Mileniwm (MDG) a chytundebau

34

DWP, 2004, ‘Opportunity for All’, yn www.dwp.gov.uk/ofa/index.asp

35

PMSU, 2005, ‘Investing in Prevention: An International Strategy to manage Risks of Instability and

Improve Crisis Response’.

hyngwladol cysylltiedig eraill. Yn y cyd-destun, gall y DU nodi ei nodau mewn

ffordd sy’n ceisio sicrhau hawliau dynol, democratiaeth a llywodraethu da a, phan

roddir cymorth, fod gwledydd yn cael eu grymuso i benderfynu ar eu blaenoriaethau

a’u hanghenion eu hunain.

Wrth ddarparu cymorth datblygu rhyngwladol rydym yn mabwysiadu ymagwedd

sydd wedi’i theilwra ar gyfer gwahanol gyd-destunau gwledydd unigol. Rydym yn

cyfeirio sylw at y ffactorau sylfaenol a thymor hwy sy’n effeithio ar y cyfleoedd i

ddiwygio mewn gwahanol wledydd, yn ogystal â ffactorau sy’n effeithio’n fwy

uniongyrchol ar y cymhellion a’r gallu i newid. Rydym yn ystyried rôl asiantiaid,

sefydliadau a materion strwythurol. Mae hyn yn gyfle i’r Llywodraeth feithrin

persbectif tymor hwy, a manteisio’n fwy ar gyfleoedd byrdymor a thymor canolig i

gefnogi newid strategol.

Mae gwledydd sy’n ddemocrataidd, a chanddynt lywodraethau sy’n parchu hawliau

eu pobl ac yn ymateb i’w hanghenion, ac sy’n ufuddhau i reol y gyfraith, yn fwy

tebygol o sicrhau datblygu cynaliadwy. Mae’r Llywodraeth yn ceisio hyrwyddo

hawliau dynol, democratiaeth a rheolaeth wleidyddol, amgylcheddol ac economaidd

dda drwy ei bolisi tramor.

Un o elfennau allweddol yr agenda hon yw hyrwyddo cyfranogiad cymdeithas sifil a’r

cyhoedd ehangach mewn prosesau gwneud penderfyniadau; hyrwyddo rhyddid

gwybodaeth, gan gynnwys cefnogi cyfryngau rhydd; a hyrwyddo mynediad i

gyfiawnder a rheol y gyfraith. Yn y cyd-destun hwn, mae Llywodraeth y DU yn

ymgyrchu dros ddemocratiaeth amgylcheddol, a ddiffinnir fel tri llinyn Egwyddor 10

yn Natganiad Rio (1992) sy’n ceisio mynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran

mynediad i wybodaeth, cyfranogiad y cyhoedd mewn prosesau gwneud

penderfyniadau a mynediad i gyfiawnder mewn materion amgylcheddol. Mae’r DU

yn un o bartneriaid sefydlol y Bartneriaeth ar gyfer Egwyddor 10, partneriaeth

ryngwladol sy’n agored i lywodraethau, sefydliadau rhyngwladol a grwpiau

cymdeithas sifil a sefydlwyd yn Uwchgynhadledd y Byd ar Ddatblygu Cynaliadwy

(WSSD) yn 2002, sy’n ceisio cryfhau a chyflymu Egwyddor 10 yn genedlaethol.

[picture caption]

Bisaland, Burkina Faso

© Crispin Hughes/Panos Pictures

Cyhoeddodd y DU ei hymrwymiadau i’r bartneriaeth ym mis Gorffennaf 2004. Bydd

Llywodraeth y DU yn parhau i hyrwyddo nodau’r Bartneriaeth drwy rwydwaith y

Swyddfa Dramor a Chymanwlad o swyddogion amgylcheddol tramor, a bydd yn

cyflwyno adroddiad ar y cynnydd a wnaed yn erbyn yr ymrwymiadau yng

nghyfarfodydd blynyddol y Committee of the Whole.

Ymgorfforwyd egwyddorion a safonau rhyngwladol “democratiaeth amgylcheddol”

(mynediad i wybodaeth, cyfranogiad y cyhoedd, a mynediad i gyfiawnder) a nodir

yng Nghonfensiwn Aarhus UNECE (Comisiwn Economaidd Ewrop y Cenhedloedd

Unedig) yn systemau llywodraethu’r UE a’r DU. Ar gyfer y dyfodol, ein blaenoriaeth

fydd hyrwyddo meithrin gallu a datblygu arfer da wrth gymhwyso’r egwyddorion a’r

safonau hyn mewn rhannau eraill o ranbarth UNECE, yn arbennig mewn gwledydd

yn Nwyrain Ewrop, yn y Cawcasws a Chanolbarth Asia (EECCA), yn ogystal ag ar y

llwyfan byd-eang ehangach.

Er mwyn sicrhau llywodraethu da mae angen i ni ddileu llygredd. Bydd y

Llywodraeth yn ennyn cefnogaeth o blaid cadarnhau Confensiwn y Cenhedloedd

Unedig yn erbyn Llygredd, gan gynnwys drwy atgyfnerthu gallu gwrthlygredd mewn

gwledydd sy’n datblygu.

Er mwyn ategu hyn, bydd y Llywodraeth yn parhau â’n cefnogaeth

ddwyochrog ac amlochrog o blaid atgyfnerthu gallu gwrthlygredd mewn

gwledydd sy’n datblygu

Rydym hefyd yn dal yn ymrwymedig i estyn y Fenter Tryloywder Diwydiannau

Echdynnu (EITI) sy’n ceisio gwella tryloywder taliadau a wneir gan gwmnïau

echdynnu (olew, nwy, a mwynau) i lywodraethau, yn ogystal â thryloywder y refeniw

a gaiff lywodraethau. Dylai refeniw o’r sector hwn fod yn adnodd pwysig ar gyfer

sicrhau twf economaidd a datblygiad cymdeithasol mewn gwledydd sy’n datblygu.

Fodd bynnag, gall diffyg tryloywder o ran y refeniw hwn arwain at wrthdaro,

llygredd, a thlodi. Mae’r Fenter Tryloywder Diwydiannau Echdynnu hefyd yn ceisio

sicrhau bod cymdeithas sifil yn cymryd rhan yn y gwaith o ddadansoddi ffigurau

taliadau ac mewn trafodaethau ynghylch sut y gellid eu defnyddio. Felly mae’n ceisio

gwella’r modd y rheolir yr adnoddau hynny.

Rheolir gwariant y Llywodraeth ar brosiectau datblygu tramor gan Ddeddf Datblygu

Rhyngwladol 2002, sy’n ei gwneud yn ofynnol i wario arian i leihau tlodi, naill ai

drwy ddatblygiadau cynaliadwy neu drwy wella lles poblogaeth 36 . Mae gwaith yr

Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol (DFID) yn anelu at gyflawni Nodau Datblygu’r

Mileniwm (MDG).

Fodd bynnag, ni chaiff y rhain eu cyflawni mewn llawer rhan o’r byd, oni wneir

newidiadau sylweddol i lefel yr adnoddau ariannol sydd ar gael ar gyfer gwaith

datblygu rhyngwladol, ac i’r modd y’u defnyddir.

Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i gyrraedd targed y Cenhedloedd Unedig o

0.7 y cant ar gyfer cymorth datblygu swyddogol (ODA) fel canran o incwm

cenedlaethol crynswth (GNI). O dan delerau’r Adolygiad o Wariant 2004, bydd

cyfanswm cymorth datblygu swyddogol y DU yn codi o £4.1 biliwn yn 2004/05 i

£6.5 biliwn erbyn 2007/08. Mae’r DU yn gwneud cynnydd tuag at darged y CU o 0.7

y cant ar gyfer cymorth datblygu swyddogol (ODA) fel canran o incwm cenedlaethol

crynswth. Yn seiliedig ar gynlluniau cyfredol bydd y ffigur hwn yn codi i 0.39 y cant

yn 2005/06 a 0.47 y cant yn 2007/08. Mae’r Llywodraeth am barhau i gynyddu

cymorth datblygu swyddogol y DU ar y gyfradd dwf a sicrheir yn 2007/08 yn y

gymhareb gymorth, a fyddai’n codi, yn ôl yr amserlen hon, y tu hwnt i 0.5 y cant ar ôl

2008 ac yn cyrraedd 0.7 y cant erbyn 2013.

[picture caption]

36

Gellir defnyddio arian hefyd ar gyfer cymorth dyngarol ac ar gyfer datblygiadau yn Nhiriogaethau

Tramor y DU.

Bisaland, Burkina Faso

© Crispin Hughes/Panos Pictures

Dylid mabwysiadu ymagwedd hyblyg at gynyddu meintiau cymorth, a bydd y DU yn

gweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo cytundeb rhyngwladol ar fframwaith lle y gall

pob rhoddwr gyfrannu mewn gwahanol ffyrdd. Un ffordd fyddai drwy’r Cyfleuster

Cyllid Rhyngwladol (IFF), a gynigiwyd ym mis Ionawr 2003, gan Drysorlys EM a

DFID. Y Cyfleuster Cyllid Rhyngwladol yw’r cynnig mwyaf blaengar ar gyfer

blaenlwytho cymorth a byddai’n darparu ar unwaith ffynhonnell ragfynegadwy o

adnoddau sydd eu hangen i gyflawni Nodau Datblygu’r Mileniwm cyn 2015. Byddai

hynny’n dyblu’r cymorth datblygu a ddarperir drwy godi swm ychwanegol o $50

biliwn y flwyddyn ar gyfer gwledydd tlotaf y byd yn y blynyddoedd hyd 2015.

Gallai’r Cyfleuster Cyllid Swyddogol, a gafodd gefnogaeth eang gan farchnadoedd

newydd, gwledydd sy’n datblygu, sefydliadau rhyngwladol, cymunedau ffydd,

sefydliadau anllywodraethol a byd busnes, roi’r màs critigol o arian ychwanegol a

rhagfynegadwy i wneud cynnydd parhaol ym mhob un o’r meysydd hyn, gan fynd i’r

afael ag achosion tlodi yn hytrach na’r symptomau.

Mae’r DU yn cyfrannu at y targed ar gyfer pobl sy’n byw mewn slymiau drwy

raglenni i wella slymiau a meithrin gallu llywodraethau dinesig yn India, a darparodd

£1 filiwn ar gyfer y City Community Challenge Fund yn Zambia ac Uganda, i leihau

tlodi trefol. Ar ben hynny y DU yw’r cyfrannwr unigol mwyaf at y Cities Alliance ac

mae’r Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol yn aelod o’i Grðp Ymgynghorol.

Yn ogystal â chynyddu maint y cymorth a ddarperir, mae’n rhaid darparu a

defnyddio cymorth datblygu yn y ffyrdd mwyaf effeithiol. Bydd y DU yn

gweithio i:

Gwella cysylltiadau cymorth â phartneriaid er mwyn:

sicrhau bod adnoddau ariannol yn cyd-fynd â blaenoriaethau a

nodwyd mewn Strategaethau Lleihau Tlodi a Datblygu

cenedlaethol o eiddo gwledydd unigol

cysoni rhaglenni a gweithdrefnau rhoddwyr i leihau dyblygu

ymhlith rhoddwyr a helpu i leihau’r baich ar wledydd partner

sicrhau bod adnoddau ariannol yn fwy rhagweladwy - gan alluogi

partneriaid i gynllunio at y dyfodol ac ymgymryd â rhaglenni

tymor hwy

sicrhau bod partneriaeth fwy cyfartal, yn cynnwys gweithredu a

arweinir gan wledydd lle mae rhaglenni yn adeiladu ar

flaenoriaethau datblygu partneriaid, lle y cytunir ar amodau

cymorth ar y cyd ac y maent yn seiliedig ar ganlyniadau yn

hytrach na gweithgareddau, a lle mae cydatebolrwydd rhwng y

rhoddwr a’r sawl sy’n derbyn y cymorth.

Hyrwyddo llywodraethu da i leihau gwastraff a llygredd

Cydlynu polisïau ar gyfer gwaith datblygu yn well – gan sicrhau bod

polisïau, er enghraifft, ym meysydd masnach, ymfudo a chyllid, yn

cynorthwyo gwaith datblygu yn hytrach na’i danseilio

Defnyddio cymysgedd priodol o offerynnau cymorth, gan gynnwys

cymorth cyllidebol cyffredinol a sectoraidd, cymorth technegol,

prosiectau ac arian

Ymchwilio i ffyrdd o weithredu’n fwy effeithiol mewn gwladwriaethau

bregus

Cynorthwyo gwledydd sy’n datblygu i wella’r cyfleoedd ar gyfer

integreiddio cynaliadwyedd amgylcheddol â strategaethau a rhaglenni

lleihau tlodi, ac annog rhoddwyr eraill i wneud yr un peth

Yn 2001 datglymodd y DU ei chymorth dwyochrog yn llwyr. O ganlyniad nid yw ein

cymorth yn amodol ar gontractau ar gyfer cwmnïau o’r DU. Rydym yn annog

rhoddwyr eraill i wneud yr un peth. Mae cymorth wed’i ddatglymu yn arwain at

nwyddau a gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar flaenoriaethau gwledydd sy’n

datblygu; rhydd gyfleoedd newydd ar gyfer sectorau preifat gwledydd sy’n datblygu.

[Chart]

Ein hymagwedd integredig ar gyfer creu cymunedau cynaliadwy a byd tecach

Enable – Galluogi

• Academi ar gyfer Cymunedau Cynaliadwy

• Ymchwil i anghydraddoldeb amgylcheddol

• Gwell gwybodaeth am gymdogaethau lleol

• Mapio meysydd blaenoriaeth ar gyfer gwella’r amgylchedd lleol

• Meithrin gallu ar ymgysylltu â chymunedau

Encourage – Annog

• System gynllunio

• Cronfa Cymunedau Diogelach a Chryfach

• Asesiadau Perfformiad Cynhwysfawr

• Y Gronfa Loteri Fawr

• Cymorth wedi’i dargedu ar gyfer ardaloedd difreintiedig

• Mesur Cymdogaethau Glân a’r Amgylchedd

• Cymorth Datblygu Tramor

• Cyfleuster Cyllid Rhyngwladol

Engage – Ymgysylltu

• Rhaglen “Community Action: Together We Can”

• Cyfraniad cymunedau at Strategaethau Cymunedau Cynaliadwy, Cynlluniau

Trafnidiaeth Lleol, Cynlluniau cymdogaeth a phlwyf

• Contractau cymdogaeth

• Rhwydweithiau Grymuso Cymunedau

• Datganiadau Cynnwys Cymuned

• Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd lleol ac amgylcheddol

Exemplify - Bod yn esiampl

• Gweledigaeth o Gymunedau Cynaliadwy

• Cytundebau Ardal Lleol

• Blaenoriaethau a Rennir

4. Mesur ein cynnydd

Yn gynharach yn y bennod hon, cyfeiriwyd at sut y bydd Partneriaethau Strategol

Lleol yn dewis setiau o ddangosyddion sydd fwyaf perthnasol iddynt hwy at

ddibenion mesur cynnydd. Yn genedlaethol, mae Llywodraeth y DU yn defnyddio’r

dangosyddion a restrir isod i fesur cynnydd yn Lloegr o ran y materion hyn: pan

fyddwn yn eu defnyddio i nodi’r cynnydd a wnaed, byddwn yn cymryd i ystyriaeth y

cynnydd a wnaed o ran gwahanol grwpiau cymdeithasol, a’r cynnydd a wnaed yn yr

ardaloedd mwyaf difreintiedig, o gymharu â gweddill Lloegr.

Mae hyn yn golygu y bydd gan y Llywodraeth set gryfach o

ddangosyddion datblygu cynaliadwy ar gyfer mynd i’r afael ag

anghydraddoldebau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol

Ymhlith y dangosyddion y bwriedir eu defnyddio i nodi cynnydd bydd pob

dangosydd o fewn set Fframwaith y DU sy’n berthnasol i gymunedau cynaliadwy yn

ogystal â dangosyddion eraill sy’n berthnasol i flaenoriaethau Strategaeth

Llywodraeth y DU:

Cymdeithas

Cyfranogiad cymunedol gweithredol*: gwirfoddoli anffurfiol a ffurfiol o

leiaf unwaith y mis

Troseddu*: arolwg o droseddau a throseddau a gofnodwyd ar gyfer (a)

cerbydau (b) byrgleriaeth ddomestig (c) trais

Ofn troseddu: (a) dwyn ceir (b) byrgleriaeth (c) ymosodiadau corfforol

Cyflogaeth a thlodi

Cyflogaeth*: pobl o oedran gweithio mewn gwaith

Aelwydydd di-waith*: poblogaeth yn byw mewn aelwydydd di-waith (a)

plant (b) pobl o oedran gweithio

Economaidd anweithgar: pobl o oedran gweithio sy’n anweithgar yn

economaidd

Tlodi plentyndod*: plant mewn cartrefi ag incwm cymharol isel (a) cyn

costau tai (b) ar ôl costau tai

Oedolion ifanc*: pobl 16-19 oed nad ydynt mewn gwaith, addysg na

hyfforddiant

Tlodi ymhlith pensiynwyr*: pensiynwyr mewn cartrefi ag incwm cymharol

isel (a) cyn costau tai (b) ar ôl costau tai

Darpariaeth pensiwn*: pobl o oedran gweithio sy’n cyfrannu at bensiwn

anwladwriaethol mewn tair o’r pedair blynedd diwethaf o leiaf

Addysg

Addysg*: pobl 19 oed a chanddynt gymwysterau lefel 2 ac yn uwch

Addysg datblygu cynaliadwy: (i’w datblygu i fonitro effaith dysgu ffurfiol ar

wybodaeth ac ymwybyddiaeth pobl o faes datblygu cynaliadwy)

Iechyd

Anghydraddoldeb iechyd*: (a) marwolaethau babanod (yn ôl y grðp

economaidd-gymdeithasol) (b) disgwyliad oes (yn ôl yr ardal) ar gyfer dynion

a merched

Disgwyliad oes iach: disgwyliad oes iach (a) dynion (b) merched

Cyfraddau marwolaethau: cyfraddau marwolaethau o (a) afiechydon

cylchredol a (b) canser, o dan 75 oed ac ar gyfer ardaloedd â’r dangosyddion

iechyd ac amddifadedd gwaethaf, ac (c) hunanladdiad

Ysmygu: pa mor gyffredin yw ysmygu ymhlith (a) oedolion yn gyffredinol

(b) grwpiau economaidd-gymdeithasol o weithwyr ‘cyffredin a llafuriol’

Gordewdra mewn plentyndod: pa mor gyffredin yw gordewdra ymhlith

plant 2-10 oed

Deiet: pobl sy’n bwyta pum cyfran neu ragor o ffrwythau a llysiau y dydd ac

sydd mewn cartrefi ag incwm isel

Symudedd a mynediad

Symudedd*: (a) nifer y teithiau fesul person yn ôl y dull (b) y pellter a deithir

fesul person bob blwyddyn yn ôl pwrpas y daith yn fras

Cyrraedd yr ysgol: sut y mae plant yn cyrraedd yr ysgol

Hygyrchedd: mynediad i wasanaethau allweddol

Damweiniau ar y ffordd: nifer y bobl a’r plant sy’n cael eu lladd neu eu

hanafu’n ddifrifol

Cyfiawnder cymdeithasol/Cydraddoldeb amgylcheddol

Cyfiawnder cymdeithasol*: (mesurau cymdeithasol i’w datblygul)

Cydraddoldeb amgylcheddol*: (mesurau amgylcheddol i’w datblygu)

Ansawdd yr amgylchedd lleol: (i’w datblygu gan ddefnyddio gwybodaeth o’r

Arolwg o Ansawdd yr Amgylchedd Lleol yn Lloegr)

Boddhad gyda’r ardal leol: aelwydydd sy’n fodlon ar ansawdd y lleoedd y

maent yn byw ynddynt (a) yn gyffredinol (b) mewn ardaloedd difreintiedig (c)

tai anfoddhaol

Ansawdd aer ac iechyd: (a) lefelau gronynnau ac osôn blynyddol (b)

diwrnodau pryd y bydd lefel y llygredd aer yn gymedrol neu’n uwch

Tai

Cyflwr tai: (a) tai sector cymdeithasol islaw’r safon cartrefi boddhaol (b)

aelwydydd diamddiffyn yn y sector preifat mewn cartrefi islaw’r safon cartrefi

boddhaol

Aelwydydd sy’n byw mewn tlodi tanwydd: (a) pensiynwyr (b) aelwydydd â

phlant (c) pobl anabl/cleifion hirdymor

Digartrefedd: (a) pobl sy’n cysgu ar y stryd a (b) aelwydydd mewn llety dros

dro (i) cyfanswm (ii) aelwydydd â phlant

Ailgylchu tir: (a) anheddau newydd a adeiladwyd ar dir a ddatblygwyd yn

flaenorol neu drwy waith addasu (b) pob datblygiad newydd ar dir a

ddatblygwyd yn flaenorol

Lles

Dwysedd anheddau: dwysedd cyfartalog tai newydd

Lles*: (i’w datblygu)

Rhyngwladol

Cymorth Rhyngwladol y DU: Cymorth Datblygu Swyddogol Net (a) y cant

o Incwm Cenedlaethol Crynswth (o gymharu â gwledydd dethol) (b) y pen (o

gymharu â gwledydd dethol)

Ar ben hynny, fel y nodir ym Mhennod 1, rhoddwn ddangosyddion ar gyfer

datblygu cynaliadwy rhyngwladol ar wefan datblygu cynaliadwy Llywodraeth

y DU

Dangosyddion cyd-destunol eraill

Allbwn economaidd*: Cynnyrch Mewnwladol Crynswth

Cynhyrchiant: Allbwn y DU fesul gweithiwr

Buddsoddi: (a) cyfanswm y buddsoddiadau (b) buddsoddiadau cymdeithasol

mewn perthynas â CMC

Demograffeg: y boblogaeth a’r boblogaeth oedran gweithio

Cartrefi a stoc anheddau: cartrefi, cartrefi un person a stoc anheddau

* Cynhwysir y dangosydd yn Nangosyddion Fframwaith y DU

Cyfraniadau allweddol

Nododd pob un o adrannau allweddol y Llywodraeth rai o’u cyfraniadau lefel uchel at

gyflawni’r strategaeth hon. Bydd pob adran yn llunio Cynllun Gweithredu Datblygu

Cynaliadwy erbyn diwedd 2005.

[box]

Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog

[Creating sustainable communities – Creu cymunedau cynaliadwy]

1. Creu cymunedau cynaliadwy sy’n ymgorffori egwyddorion datblygu

cynaliadwy yn lleol.

2. Sicrhau cartrefi i bawb, tra’n diogelu a gwella’r amgylchedd.

3. Gweithio i roi mwy o rym i gymunedau a sicrhau eu bod yn cymryd mwy o

ran yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt; a gweithio i wella

gweithgarwch rheoli ar bob lefel fel y gallwn weithio ar y lefel gywir i fynd

â’r maen i’r wal

4. Creu agenda lanach, ddiogelach, wyrddach: i sicrhau bod mannau cyhoeddus

yn lanach, yn ddiogelach ac yn wyrddach a gwella ansawdd yr amgylchedd

adeiledig mewn ardaloedd difreintiedig a ledled y wlad erbyn 2008.

5. Hyrwyddo cynaliadwyedd, gwaith dylunio ac adeiladau o safon, i leihau

gwastraff a gwella effeithlonrwydd adnoddau, a hyrwyddo adeiladau mwy

cynaliadwy.

6. Sicrhau bod datblygu cynaliadwy yn elfen ganolog o’r system gynllunio, fel y

nodir yn Natganiad Polisi Cynllunio 1 ‘Sicrhau Datblygu Cynaliadwy’.

[box]

Yr Adran Gwaith a Phensiynau

1. Sicrhau bod plant yn cael y cychwyn gorau mewn bywyd, a dileu tlodi plant

erbyn 2020.

2. Hyrwyddo gwaith fel y ffurf orau ar les ar gyfer pobl o oedran gweithio, tra’n

diogelu sefyllfa’r rhai mwyaf anghenus.

3. Mynd i’r afael â thlodi a hyrwyddo diogelwch ac annibyniaeth yn eu

hymddeoliad ar gyfer pensiynwyr heddiw ac yfory.

4. Gwella hawliau a chyfleoedd i bobl anabl mewn cymdeithas deg a

chynhwysol.

5. Sicrhau ein bod yn parhau i ymgorffori cynaliadwyedd ym mhob un o’n

gweithgareddau, a rhoi gwybod am y cynnydd a wnaed gennym.

[box]

Yr Adran dros Drafnidiaeth

1. Datblygu tanwydd a cherbydau glanach: Strategaeth Pweru Cerbydau’r

Dyfodol (PFV) 2002 a’r Gronfa Technoleg Cerbydau Newydd (sy’n gwario

dros £100 miliwn y flwyddyn); mae cynnig ar gyfer ecolabelu wrthi’n cael ei

ystyried gan y Bartneriaeth Cerbydau Carbon Isel.

2. Targedau uchelgeisiol yn y Strategaeth Pweru Cerbydau’r Dyfodol i gynyddu

nifer y ceir â gollyngiadau isel newydd a werthir (erbyn 2012, 10 y cant yn

gollwng 100g/cm 3 neu lai) a nifer y bysiau carbon isel (erbyn 2012, bydd 600

neu ragor o fysiau a ddaw yn weithredol bob blwyddyn yn gollwng 30 y cant

neu lai o dan ollyngiadau carbon cyfartalog 2002).

3. Lleihau gollyngiadau o awyrennau: pwyso o fewn yr UE ac yn rhyngwladol

am i ollyngiadau o awyrennau gael eu cynnwys mewn cynlluniau cyfnewid

gollyngiadau.

4. Strategaeth cludo nwyddau cynaliadwy: gan gynnwys arian ar gyfer Cronfa

Moderneiddio Cludo Nwyddau ar Ffyrdd a datblygu Partneriaethau Ansawdd

Cludo Nwyddau. Disgwylir cyflwyno taliadau ar y rhai sy’n defnyddio lorïau

ar ffyrdd y DU erbyn 2007-08.

5. Cylch newydd o gynlluniau trafnidiaeth lleol: integreiddio cynlluniau

gweithredu ansawdd aer a nodi amcanion clir ar gyfer gweithgarwch cynllunio

hygyrchedd.

6. Teithio i’r ysgol: gweithio gyda’r DfES i weithredu’r cynllun gweithredu

Teithio i’r Ysgol, gan gynnwys cyflwyno cynlluniau teithio ym mhob ysgol

erbyn 2010.

[box]

Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon

1. Drwy gyfraniad ein sectorau i’r gwaith o newid ymddygiadau: er enghraifft,

wrth gynnal a chadw ein hadeiladau, a thrwy ein cefnogaeth i arddangosfeydd

ar bynciau perthnasol mewn Amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac orielau, a

thrwy’r celfyddydau.

2. Drwy gyfraniad y Comisiwn Pensaernïaeth a’r Amgylchedd Adeiledig

(CABE) ac English Heritage i’r amgylchedd adeiledig a hanesyddol, wrth

gynllunio a gwyrddio mannau cyhoeddus (e.e. troi tir diffaith yn barciau).

3. Drwy geisio dylanwadu ar y cyfraniad a wna twristiaeth i’r economi, wrth

ymateb i’r newid yn yr hinsawdd, ac wrth hyrwyddo arfer twristiaeth

gynaliadwy, er enghraifft drwy’r Sefydliad Teithio gyda’r Swyddfa Dramor a

Chymanwlad.

4. Drwy ein cefnogaeth i fentrau i wella iechyd yn gyffredinol a lleihau

gordewdra drwy annog oedolion a phlant i gymryd rhan mewn chwaraeon a

gweithgareddau hamdden egnïol.

5. Drwy ein gwaith gyda phobl ifanc wrth ddarparu gweithgareddau ar eu cyfer

fel opsiwn arall i droseddu, a chodi ymwybyddiaeth o’u cyfranogiad yn eu

cymunedau, ac wrth roi cyfleoedd gwirfoddoli, drwy ddylanwadu ar y modd y

trefnir digwyddiadau pwysig (megis cais Llundain i gynnal y Gemau

Olympaidd yn 2012 a Proms in the Park).

[box]

Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad

1. Cyflawni amcanion datblygu cynaliadwy rhyngwladol y Llywodraeth gan

fanteisio i’r eithaf ar ein rhwydwaith o swyddogion diplomyddol tramor. Bydd

Strategaeth Datblygu Cynaliadwy’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad, sydd

i’w lansio ar 14 Mawrth, yn nodi sut y bydd y Swyddfa Dramor a

Chymanwlad yn gwneud hynny. Cyhoeddir Strategaeth Hawliau Dynol,

Democratiaeth a Llywodraethu i ategu’r Strategaeth Datblygu Cynaliadwy yn

ddiweddarach yn y flwyddyn.

2. Hyrwyddo hawliau dynol, democratiaeth a llywodraethu gwleidyddol,

amgylcheddol ac economaidd da dramor.

3. Cyflawni’r ddau ymrwymiad yn deillio o Uwchgynhadledd y Byd ar

Ddatblygu Cynaliadwy y mae’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn bennaf

cyfrifol amdanynt, sef: hyrwyddo llywodraethu amgylcheddol a hawliau

dynol; a llywodraethu datblygu cynaliadwy rhyngwladol. Ym mis Mawrth

2005 cyhoeddwn gynlluniau cyflawni (y cytunwyd arnynt ar draws

Whitehall), sy’n nodi ein camau gweithredu blaenoriaeth – ar gyfer y Swyddfa

Dramor a Chymanwlad, yr Adran Datblygu Rhyngwladol, DEFRA, a’n

swyddfeydd diplomyddol dramor – ar gyfer cyflawni’r ymrwymiadau hyn.

4. Cyfrannu at fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Helpu i sicrhau bod y

drafodaeth ryngwladol ynghylch y newid yn yr hinsawdd yn cael ei

hailsbarduno drwy lywyddiaeth y DU ar y G8 ac ar yr UE yn 2005, a bod y

ddwy yn esgor ar gamau gweithredu pendant.

5. Lansio Rhaglen Datblygu Cynaliadwy newydd o dan Gronfa Cyfleoedd Bydeang

y Swyddfa Dramor a Chymanwlad ym mis Ebrill 2005. Bydd hon yn

darparu £5 miliwn y flwyddyn ar gyfer prosiectau lleol, cenedlaethol,

rhanbarthol a rhyngwladol. Bydd themâu blaenoriaethol yn cynnwys

tryloywder, gwybodaeth, cyfranogiad a mynediad i gyfiawnder;

blaenoriaethau o ran hawliau dynol craidd (gan gynnwys gwrthsefyll arteithio,

dileu’r gosb eithaf a hyrwyddo hawliau plant); a rheoli adnoddau naturiol (gan

gynnwys rheoli coedwigoedd cynaliadwy a lleihau gweithgarwch torri coed

anghyfreithlon, bioamrywiaeth a thwristiaeth gynaliadwy).

[box]

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

1. Rhoi arweiniad rhyngwladol ar y newid yn yr hinsawdd wedi’i ategu gan

gamau gweithredu gartref – effeithlonrwydd ynni, ac adolygiadau o’r newid

yn yr hinsawdd a dileu tlodi tanwydd.

2. Rhoi datblygu cynaliadwy ar waith drwy weithredu’r Strategaeth Bwyd a

Ffermio Cynaliadwy, iechyd a lles anifeiliaid, datblygu polisi pysgodfeydd

cynaliadwy.

3. Sefydlu asiantaeth integredig newydd ac asiantaeth forol ar gyfer rheoli

adnoddau naturiol yn gynaliadwy ar y tir ac ar y môr.

4. Datblygu rhaglenni ar gyfer datgysylltu diraddiant amgylcheddol a thwf

economaidd, gan gynnwys ariannu Cronfa Busnes ac Effeithlonrwydd

Adnoddau a Gwastraff, yr adolygiad o’r strategaeth gwastraff; a’n gwaith ar

ddefnyddio a chynhyrchu mwy cynaliadwy.

5. Meithrin deialogau dwyochrog ar Ddatblygu Cynaliadwy â nifer fach o

wledydd sy’n datblygu’n gyflym (India a Tsieina i ddechrau) i adeiladu ar

weithgareddau sy’n mynd rhagddynt eisoes ar lefel y wlad, a darparu

fframwaith ar eu cyfer, yn ogystal â nodi meysydd cydweithredu newydd.

6. Canolbwyntio’n fwy ar wella’r amgylchedd lleol drwy feithrin gwell

dealltwriaeth o anghydraddoldebau amgylcheddol a mynd i’r afael â hwy a

thrwy gydweithio â’r Adran Iechyd.

7. Cydlynu’r gwaith o ddatblygu’r strategaeth hon gan gynnwys cyhoeddi

dangosyddion datblygu cynaliadwy’r DU.

[box]

Yr Adran Masnach a Diwydiant

1. Gweithio’n agos gyda Defra, yr Adran dros Drafnidiaeth a nifer fawr o gyrff

eraill i weithredu’r Papur Gwyn ar Ynni: ‘Dyfodol ein Hynni – Creu Economi

Carbon Isel’ sy’n nodi strategaeth ar gyfer sicrhau cyflenwadau ynni

cynaliadwy, dibynadwy a fforddiadwy drwy farchnadoedd cystadleuol. Mae’r

Strategaeth yn rhoi’r DU ar y trywydd i leihau gollyngiadau carbon 60 y cant

erbyn 2050, gan sicrhau cynnydd gwirioneddol 2020, yn ogystal â nodi

ymagwedd i sicrhau y bydd gennym ffynonellau ynni digonol – a digon

amrywiol – yn y dyfodol. Ar gyfer y dyfodol agos ein nodau yw:

- lleihau gollyngiadau nwyon tþ gwydr, yn unol â’n hymrwymiad o dan

Brotocol Kyoto, 12.5 y cant o lefelau 1990 yn 2008-12; a symud tuag at

leihau gollyngiadau carbon deuocsid 20 y cant o lefelau 1990 erbyn 2010

- cynyddu canran trydan y DU a gyflenwir o ffynonellau ynni

adnewyddadwy i 10 y cant yn 2010, yn gyson â’n nodau ehangach ar gyfer

cyflenwadau ynni fforddiadwy a dibynadwy.

2. Cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy ledled y byd drwy sicrhau canlyniad

llwyddiannus o ran Agenda Datblygu Doha, yn arbennig yr elfennau ohoni yn

ymwneud â masnach a’r amgylchedd a masnach a datblygu, a thrwy gynnwys

datblygu cynaliadwy yng nghytundebau masnach dwyochrog yr UE.

3. Cynyddu cyfraniad byd busnes at ddatblygu cynaliadwy a datgysylltu twf

economaidd ac effeithiau amgylcheddol drwy:

- hyrwyddo cyfrifoldeb corfforaethol ym mhob maes o weithgarwch

busnes, gan gynnwys mewn cymunedau lleol ac yn rhyngwladol

- hyrwyddo defnyddio a chynhyrchu cynaliadwy, gan gynnwys drwy

academi eco-gynllunio a her cynaliadwyedd i sectorau

- integreiddio cynaliadwyedd â meysydd polisi eraill yr Adran Masnach

a Diwydiant a chymorth busnes.

[box]

Yr Adran Iechyd

1. Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) fel Dinesydd Corfforaethol. Nodwyd

hyn fel un o bum blaenoriaeth newydd Prif Weithredwr y GIG ar gyfer y deng

mlynedd nesaf. Fel rhan o’r gwaith hwnnw byddwn yn ariannu rhaglen

Healthy Futures y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy i ddatblygu gallu

sefydliadau’r GIG i weithredu fel dinasyddion corfforaethol da.

2. Cynllun Gweithredu Bwyd ac Iechyd. Byddwn yn gweithio gyda’r

diwydiannau ffermio a bwyd i gydlynu camau gweithredu, gan gynnwys

gweithredu i ddatblygu polisïau yn y Strategaeth hon, drwy Gynllun

Gweithredu Bwyd ac Iechyd y bwriedir ei gyhoeddi ddechrau 2005 gan

gyflawni’r ymrwymiad i gynllun o’r fath yn y Strategaeth Ffermio a Bwyd

Cynaliadwy. Ategir hyn â chamau gweithredu ehangach yng Nghynllun

Strategol yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

3. Trafnidiaeth ac Iechyd. Yn dilyn proses werthuso, byddwn yn adeiladu ar y

cynlluniau peilot o dan brosiect Trefi Teithio Cynaliadwy i ddatblygu

canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol, ymddiriedolaethau gofal sylfaenol ac

eraill ar ymagweddau tref gyfan tuag at berswadio pobl i roi’r gorau i

ddefnyddio eu ceir a cherdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

4. Cymunedau Cynaliadwy Iach. Byddwn yn estyn y fenter cymunedau iach

bresennol i gynnwys cymunedau mwy difreintiedig o 2006, a byddwn yn

defnyddio technegau cydweithredol i gefnogi camau gweithredu drwy

bartneriaethau lleol. Rydym hefyd yn rhoi’r adnoddau i Ymddiriedolaethau

Gofal Sylfaenol fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a gwella iechyd.

5. Yr Effaith ar Iechyd. Bydd cynrychiolwyr yr Adran Iechyd yn y rhanbarthau

yn arwain y gwaith gyda llywodraeth ranbarthol a lleol a’r GIG i sicrhau bod

polisïau a gweithgareddau rhanbarthol yn ystyried yr effaith a gânt ar iechyd,

e.e. tai, trafnidiaeth, cynllunio, cyflogaeth, addysg a sgiliau, yr amgylchedd,

materion gwledig, troseddu a diogelwch cymunedol.

[box]

Yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol

1. Gweithio mewn gwledydd sy’n datblygu gydag amrywiaeth eang o

randdeiliaid i helpu i baratoi a gweithredu strategaethau cenedlaethol ar gyfer

lleihau tlodi.

2. Datblygu polisïau a chynlluniau sectoraidd ar gyfer cyflawni ymrwymiadau

penodol y DU yn deillio o Uwchgynhadledd y Byd ar Ddatblygu Cynaliadwy.

3. Sicrhau y caiff ein cymorth datblygu ein hunain ei werthuso i nodi effeithiau

cymdeithasol ac amgylcheddol.

4. Cefnogi sefydliadau amlochrog allweddol sy’n darparu’r wybodaeth, y

fforwm polisi, a/neu sy’n rhoi adnoddau ar waith i fynd i’r afael â materion

cynaliadwyedd byd-eang.

5. Cefnogi cyfranogiad gwledydd sy’n datblygu mewn mentrau datblygu

cynaliadwy rhyngwladol.

6. Gweithio tuag at gydlynu polisïau datblygu cenedlaethol a rhyngwladol, gan

sicrhau bod polisïau yn ymwneud â masnach, ymfudo, cyllid, ac ati, yn

cefnogi datblygu ond nad ydynt yn ei danseilio.

7. Sicrhau bod ein gweithgareddau yn gyson â blaenoriaethau gwledydd sy’n

datblygu ac yn cydweddu â gweithgareddau rhoddwyr eraill.

[box]

Y Swyddfa Gartref

1. Lleihau troseddu 15 y cant ac ymhellach mewn ardaloedd â lefelau troseddu

uchel erbyn 2007-08.

2. Tawelu meddwl y cyhoedd, gan leihau ofn troseddu ac ymddygiad

gwrthgymdeithasol a meithrin hyder yn y System Cyfiawnder Troseddol heb

danseilio tegwch.

3. Sicrhau mwy o ymwneud gwirfoddol a chymunedol, yn arbennig ymhlith y

rhai sy’n wynebu risg y cânt eu hallgáu’n gymdeithasol.

4. Lleihau anghydraddoldebau hil a gwella cydlyniant cymunedol.

5. Llunio Strategaeth Caffael Cynaliadwy Adrannol erbyn 1 Rhagfyr 2005.

[box]

Trysorlys EM

1. Adeiladu economi gryf a chynhyrchiol a chymdeithas deg lle mae cyfle a

diogelwch i bawb.

2. Fframwaith cyflawni gwariant cyhoeddus tryloyw, yn seiliedig ar gytundebau

gwasanaeth cyhoeddus (PSA) sy’n canolbwyntio ar gyflwyno gwasanaethau

cyhoeddus mewn meysydd sy’n hanfodol bwysig i gyflawni Datblygu

Cynaliadwy yn y DU, megis lleihau a dileu tlodi plant a lleihau diweithdra.

3. Defnyddio’r system ariannol, lle y bo hynny’n briodol, i fynd i’r afael â

chostau amgylcheddol nas ystyrir drwy ddatblygu ymhellach drethi

amgylcheddol sy’n bodoli eisoes, megis y codiadau diweddar yng nghyfradd y

dreth tirlenwi safonol; creu cymhellion treth ar gyfer technolegau glanach

drwy lwfansau cyfalaf uwch ac ychwanegu dimensiwn amgylcheddol i

drethiant trafnidiaeth, er enghraifft drwy dollau tanwydd gwahaniaethol i

hyrwyddo defnyddio tanwydd glanach.

4. Ymrwymiad i lywodraeth leol gref, gan gynorthwyo awdurdodau lleol i

gyflwyno gwasanaethau cyhoeddus allweddol i bob cymuned, er enghraifft

drwy gyflwyno’r setliadau refeniw a chyfalaf 3 blynedd, a fydd yn golygu bod

awdurdodau lleol mewn gwell sefyllfa i wneud cynlluniau hirdymor

cynaliadwy.

5. Parhau i gyflawni amcanion datblygu cynaliadwy perthnasol mewn prosesau

caffael cyhoeddus drwy fabwysiadu ymagwedd gynhwysfawr ac ystyriol at

werth am arian a chostau oes gyfan nwyddau a gwasanaethau a gaffaelir a

thrwy ymgorffori materion cynaliadwyedd perthnasol yn y broses gaffael mor

gynnar â phosibl.

[box]

Yr Adran Addysg a Sgiliau

1. Bydd y rhaglen Adeiladu Ysgolion i’r Dyfodol yn sicrhau y bydd pob ysgol ac

academi newydd yn fodelau ar gyfer datblygu cynaliadwy. Mae’r Adran

Addysg a Sgiliau yn datblygu dull asesu amgylcheddol penodol i ysgolion a

fydd yn berthnasol i bob adeilad ysgol newydd.

2. Mae’r Adran Addysg a Sgiliau yn bwriadu lansio yng Ngwanwyn 2005

fframwaith datblygu cynaliadwy ar gyfer ysgolion a fydd yn darparu siop un

stop ar gyfer athrawon, penaethiaid a llywodraethwyr sydd am wneud eu

hysgolion yn fwy ecogyfeillgar a chynaliadwy.

3. Cyhoeddodd y Cyngor Dysgu a Sgiliau a Chyngor Cyllido Addysg Uwch

Lloegr eu strategaethau datblygu cynaliadwy eu hunain yn ddiweddar i

hyrwyddo a chefnogi datblygu cynaliadwy o fewn y sectorau addysg bellach

ac uwch.

4. Mae’r Adran Addysg a Sgiliau am weld sgiliau cynaliadwyedd yn datblygu’n

gymhwysedd craidd ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y gweithle. Gyda

Forum for the Future a chyrff proffesiynol, sefydlodd yr Adran Grðp

Gweithredu Cynaliadwyedd i helpu colegau a phrifysgolion i godi proffil

sgiliau cynaliadwyedd ym mhob maes llafur.

5. Mae’r Adran Addysg a Sgiliau yn ariannu uwch gynghorwr sydd ar fenthyg

am gyfnod penodedig i’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy i helpu’r Adran i

gyflawni amcanion ei Chynllun Gweithredu, yn arbennig drwy gysylltu’n

effeithiol â sefydliadau anllywodraethol, adrannau eraill a sefydliadau

rhanbarthol.

Pennod 7

Sicrhau ei bod yn digwydd

1. Materion cyflawni

Mae strategaethau yn ddiwerth oni chânt eu rhoi ar waith. Nododd penodau cynharach

yr hyn y mae angen i’r Llywodraeth ei wneud. Mae’r bennod hon yn nodi sut yr ydym

yn bwriadu sicrhau ein bod yn gwneud y cynnydd sydd ei angen. Bu cryn alw am

wella’r modd y cyflwynir gwasanaethau yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad ac rydym

wedi derbyn llawer o’r syniadau a awgrymwyd.

Atebolrwydd a Chyfrifoldeb

Strategaeth ar gyfer Llywodraeth y DU gyfan yw hon. Mae’n ymdrin â phob mater yn

Lloegr a’r materion hynny yn ymwneud â’r DU nad yw’r gweinyddiaethau

datganoledig yn gyfrifol amdanynt. Y Cabinet fydd yn atebol yn y pen draw am ei

chyflawni, ac mae i’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion

Gwledig rôl arweiniol. Fodd bynnag, mae pawb yn gyfrifol am ei chyflawni. Mae

llwyddiant y strategaeth hon yn dibynnu ar ymrwymiad a gallu pob un o adrannau’r

Llywodraeth, eu hasiantaethau a chyrff cyhoeddus eraill, gan gynnwys awdurdodau

lleol a’r rhai sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yn rhanbarthol ac yn lleol,

cymunedau, busnesau ac unigolion.

“ Yr her fwyaf sy’n ein hwynebu yn y ganrif newydd hon yw cymryd syniad yr

ymddengys ei fod yn un haniaethol – sef Datblygu Cynaliadwy – a’i wireddu ar gyfer

holl bobl y byd.”

Kofi Annan, Ysgrifennydd Cyffredinol y CU

Bydd angen hefyd i Lywodraeth y DU weithio’n agos ac yn effeithiol gyda’r

gweinyddiaethau datganoledig i sicrhau y cyflawnir y strategaeth mewn meysydd lle

mae angen gweithredu ar y cyd – er enghraifft o ran y newid yn yr hinsawdd ac ynni

adnewyddadwy neu lle mae camau gweithredu Llywodraeth y DU yn dwyn

goblygiadau i weinyddiaethau Cymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon neu fel arall.

[chart]

Business and social enterprise – Menter Busnes a Chymdeithasol

Individuals – Unigolion

Government Departments and their agencies – Adrannau’r Llywodraeth a’u

hasiantaethau

Government Offices for the Regions – Swyddfeydd y Llywodraeth ar gyfer y

Rhanbarthau

Regional Development Agencies – Awdurdodau Datblygu Rhanbarthol

Regional Assemblies – Cynulliadau Rhanbarthol

Local Authorities – Awdurdodau Lleol

Local Strategic Partnerships – Partneriaethau Strategol Lleol

Voluntary and Community Organisations – Mudiadau Gwirfoddol a Chymunedol

Area and Neighbourhood Partnerships – Partneriaethau Ardal a Chymdogaeth

2. Atgyfnerthu’r broses gyflawni yn genedlaethol

Mae datblygu cynaliadwy yn flaenoriaeth a rennir gan bob un o adrannau’r

Llywodraeth, er mai Defra sydd â’r targed Cytundeb Gwasanaeth Cyhoeddus (PSA)

ar gyfer ei chyflawni. Er mwyn i’r Llywodraeth gyflawni ei hamcanion mae angen i

ni gynyddu gallu pob adran a’r sector cyhoeddus ehangach i roi datblygu cynaliadwy

ar waith a rhoi mwy o gymhellion i’w hysgogi i wneud hynny. Bydd yr ymrwymiadau

canlynol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol:

Bydd pob un o adrannau Llywodraeth ganolog a’u hasiantaethau

gweithredol yn llunio cynlluniau gweithredu datblygu cynaliadwy ac

iddynt ffocws erbyn mis Rhagfyr 2005 a byddant yn rhoi gwybod am y

camau a gymerwyd ganddynt erbyn mis Rhagfyr 2006, er enghraifft, yn

eu hadroddiadau blynyddol adrannol ac yn rheolaidd ar ôl hynny

Bydd y Llywodraeth yn atgyfnerthu gallu arweinyddiaeth o fewn

adrannau a’u hasiantaethau, er enghraifft drwy roi gwell hyfforddiant

mewn datblygu cynaliadwy ar gyfer gweision sifil

Bydd y Llywodraeth yn gosod targedau ymestynnol ar gyfer cyflawni ei

hamcanion o ran prosesau caffael cyhoeddus cynaliadwy drwy Gynllun

Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Caffael Cynaliadwy (gweler Pennod 3)

Bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod dealltwriaeth o sut i gymhwyso

egwyddorion datblygu cynaliadwy yn rhan allweddol o sgiliau polisi ar

gyfer y dyfodol ac y caiff pob polisi ei arfarnu’n briodol yn ôl yr

egwyddorion datblygu cynaliadwy newydd

Bydd y Llywodraeth yn atgyfnerthu’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy

(SDC) ac yn ymestyn ei rôl fel y bydd yn gweithredu fel “corff gwarchod”

sy’n edrych ar gynnydd y Llywodraeth o ran y strategaeth hon

Bydd y Llywodraeth yn defnyddio’r strategaeth hon fel sail ar gyfer

integreiddio datblygu cynaliadwy â’r adolygiad o wariant yn 2006 ac

adolygiadau o wariant ar ôl hynny sy’n nodi targedau Cytundebau

Gwasanaeth Cyhoeddus ac yn dyrannu adnoddau

Hyrwyddir a chydlynir datblygu cynaliadwy drwy nifer o grwpiau ar lefel

Gweinidogion a swyddogion yn gweithio ar draws Llywodraeth ganolog.

Yn 2003 sefydlodd yr Ysgrifennydd Gwlad dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion

Gwledig Dasglu Datblygu Cynaliadwy, yn cynnwys Gweinidogion a rhanddeiliaid

allweddol, i gynghori ar ymrwymiadau yn deillio o Uwchgynhadledd y Byd ar

Ddatblygu Cynaliadwy a datblygiad y strategaeth newydd hon. Gan edrych ymlaen,

bydd y Tasglu hwn yn awr yn helpu i gynghori ar weithredu’r strategaeth hon yn

hyngadrannol, gan gynnwys yr hyn y mae angen ei wneud o ran gwaith rhyngwladol

er mwyn i’w chyflawni.

Sefydlwyd y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy (SDC) yn 2000 fel Corff Cyhoeddus

Anadrannol cynghori i’r DU gyfan a chanddo 21 o Gomisiynwyr a Chadeirydd. Ei rôl

yw gweithredu fel cynghorwr annibynnol y Llywodraeth a “chyfaill beirniadol” ar

faes datblygu cynaliadwy. Datblygodd y Comisiwn ei rôl a chynyddu ei ddylanwad ar

draws y Llywodraeth ers 2000, felly mae angen i ni sicrhau bod ganddo’r adnoddau i

ymateb i heriau yn y dyfodol. Yn dilyn adolygiad o’r Comisiwn Datblygu

Cynaliadwy, rydym am atgyfnerthu ei allu i sicrhau bod polisïau adrannau’r

Llywodraeth yn cael y manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol

mwyaf posibl.

Bydd y Llywodraeth yn rhoi rôl gryfach newydd i’r Comisiwn Datblygu

Cynaliadwy, a’i gyfarwyddwr ei hun a rhagor o adnoddau

Byddwn yn ystyried a fyddai rhoi statws statudol i’r Comisiwn fel corff gweithredol

yn hytrach na chorff cynghori yn ymestyn y rôl hon ymhellach. Byddwn hefyd yn

ystyried sut orau y gall y Comisiwn gyflawni ei rôl newydd fel corff gwarchod ar y

cyd â’i rôl gynghori.

Arfarnu Polisïau ac Adolygiadau o Wariant

Mae’r Llywodraeth am roi’r sefydliadau a’r cymhellion cywir ar waith, ond mae

angen i ni sicrhau hefyd yr ymgorfforir ystyriaethau datblygu cynaliadwy mewn

camau allweddol o brosesau llunio polisi.

Roedd datblygu cynaliadwy yn thema drawsbynciol yn Adolygiad o Wariant 2004 a

bennodd adnoddau a thargedau cenedlaethol allweddol (targedau Cytundebau

Gwasanaeth Cyhoeddus) y Llywodraeth ar gyfer y blynyddoedd 2005-08.

Defnyddir y strategaeth hon fel sail ar gyfer integreiddio datblygu

cynaliadwy â’r Adolygiad o Wariant yn 2006 a chylchoedd gwario yn y

dyfodol sy’n pennu targedau Cytundebau Gwasanaeth Cyhoeddus ac yn

dyrannu adnoddau.

Ers mis Ebrill 2004 bu’n ofynnol i bob adran a’u hasiantaethau gynnwys cost a budd

amgylcheddol a chymdeithasol, yn ogystal â chost a budd economaidd, mewn

Asesiadau o’r Effaith Reoliadol (RIA) y mae’n rhaid iddynt eu llunio a’u cyhoeddi ar

gyfer pob cynnig newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y sectorau preifat neu

gyhoeddus. Mae effeithiau amgylcheddol yn cynnwys yr effaith ar y newid yn yr

hinsawdd, y mae Defra wedi darparu canllawiau arno 1 . Mae’r Swyddfa Archwilio

Genedlaethol (NAO) yn cyflwyno adroddiad ar asesiadau o’r effaith reoliadol i’r

Senedd bob blwyddyn ac o 2006 bydd yn edrych ar agweddau ar ddatblygu

cynaliadwy hefyd.

Yn ei hadroddiad cynharach, nododd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol dri phrif

ffactor a nodweddai asesiadau effeithiol o’r effaith reoliadol:

1 Gweler www.defra.gov.uk/corporate/regular/ria/envguide/ccrisk/inex.htm

dechrau’r broses yn gynnar

ymgynghori’n effeithiol â’r rhai yr effeithir arnynt gan y cynnig,

dadansoddi yn briodol gost a budd tebygol y cynnig

Mae hyn yn fwy gwir byth yn achos datblygu cynaliadwy lle mae’n hanfodol bwysig

nodi effeithiau ehangach yn gynnar wrth geisio llunio opsiynau mwy cynaliadwy, i

gael y manteision mwyaf posibl a lleihau effeithiau andwyol i’r eithaf lle nad oes

modd eu hosgoi.

Sgiliau

Bydd y Llywodraeth yn sicrhau yr atgyfnerthir y neges hon ar bob lefel

ar draws adrannau. Bydd y Llywodraeth hefyd yn sicrhau bod canllawiau

newydd yn seiliedig ar astudiaethau achos yn ymgorffori’r syniadaeth a’r

technegau diweddaraf, megis yr effaith mewn gwahanol rannau o’r wlad

ac ar gyfer gwahanol grwpiau cymdeithasol ar iechyd, yr amgylchedd,

mynediad i wasanaethau ac adnoddau naturiol fel yr eir i’r afael â

materion anghydraddoldeb amgylcheddol.

Ni all yr un canllaw gymryd lle rhoi i bobl y sgiliau y mae arnynt eu hangen i roi

datblygu cynaliadwy ar waith. Cychwynnodd y Llywodraeth ar raglen bwysig i roi i’r

gwasanaeth sifil y sgiliau y mae arno eu hangen i fynd i’r afael â heriau’r 21ain

ganrif. Bydd angen i ddealltwriaeth drylwyr o sut i gymhwyso egwyddorion datblygu

cynaliadwy fod yn rhan allweddol o sgiliau polisi ar gyfer y dyfodol yn ogystal â’r

gallu i gynnwys y cyhoedd ehangach yn y gwaith o ddatblygu a gweithredu syniadau

newydd.

Mae datblygu cynaliadwy eisoes yn cael ei integreiddio’n fwy effeithiol â ‘Canolfan

Astudiaethau Rheoli a Pholisi’ (CMPS) y Llywodraeth. Yn ddiweddar treialodd y

Ganolfan weithdy newydd ar gyfer uwch weision sifil ar sut y gall datblygu

cynaliadwy helpu i wella prosesau llunio polisi. Ymgorfforir gwaith y Ganolfan yn yr

Ysgol Lywodraethu Genedlaethol newydd, a grëwyd i helpu sefydliadau Llywodraeth

yn y DU ac yn rhyngwladol i fod yn fwy proffesiynol a chynnig gwasanaethau gwerth

uwch i Weinidogion ac i’r cyhoedd a wasanaethir ganddynt.

Bydd y Llywodraeth yn ymgorffori datblygu cynaliadwy ym maes llafur

yr Ysgol Lywodraethu Genedlaethol 2 , sydd i’w lansio yn hanner cyntaf

2005 mewn meysydd megis llunio polisi, arweinyddiaeth strategol, rheoli

rhaglenni a phrosiectau ac agweddau ymddygiadol ar ddatblygu

rheolwyr

Mae Defra yn datblygu pecynnau cymorth a deunyddiau codi ymwybyddiaeth mewn

partneriaeth â Futerra a Forum for the Future i helpu ei staff i gyflawni datblygu

cynaliadwy yn fwy effeithiol drwy bob un o’i pholisïau a’i gwasanaethau. Unwaith y

byddant wedi’u treialu o fewn Defra, trefnir bod y rhain ar gael i bob un o adrannau’r

2 Ceir gwybodaeth am yr Ysgol Lywodraethu Genedlaethol yn www.nationalschool.gov.uk

Llywodraeth a grwpiau eraill fel rhan o ganolfan adnoddau a fydd ar gael drwy’r

wefan datblygu cynaliadwy.

Gweithrediadau’r Llywodraeth

Rydym am i’r sector cyhoeddus fod yn eiriolwr blaenllaw dros ddatblygu cynaliadwy.

Dyma oedd un o’r rhesymau allweddol dros ein penderfyniad i gyflwyno’r

‘Fframwaith ar gyfer Datblygu Cynaliadwy ar Ystad y Llywodraeth’. Mae’r

fframwaith hwn yn gosod targedau i’w cyrraedd gan Adrannau’r Llywodraeth a’u

hasiantaethau gweithredol mewn nifer o feysydd gan gynnwys dðr a’r defnydd a

wneir o ynni, a chaffael.

Cyhoeddir adroddiadau ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y targedau hyn bob blwyddyn

(yn www.sustainable-development.gov.uk )

ac maent yn dangos bod perfformiad, er ei fod yn gwella, yn

dal i fod yn anghyson. Rydym am i adrannau wneud yn well a bod yn esiampl i

weddill y sector cyhoeddus a busnesau.

Mae’r Llywodraeth yn adolygu’r fframwaith, i sicrhau ein bod yn

mabwysiadu’r ymagwedd gywir ar gyfer y dyfodol, a bydd yn gwneud

cynigion yn ystod 2005 ar gyfer newid ei pherfformiad ei hun yn

sylweddol

Yn 2004, am y tro cyntaf, roedd yr adroddiad blynyddol ar Ddatblygu Cynaliadwy yn

y Llywodraeth, sy’n nodi perfformiad adrannau yn erbyn targedau yn y Fframwaith ar

gyfer Datblygu Cynaliadwy yn Ystad y Llywodraeth 3 , yn seiliedig ar ddadansoddiad

gan ymgynghorwyr annibynnol. Yn y dyfodol, bydd adroddiadau o’r fath yn gwbl

annibynnol ar y Llywodraeth.

Dyletswyddau statudol

Mae gan rai cyrff cyhoeddus ddyletswyddau statudol eisoes o ran datblygu

cynaliadwy, megis Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chynulliad Llundain Fwyaf. Mae

i’r rhain ffurfiau gwahanol. Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod ganddynt ganllawiau clir

ar oblygiadau’r dyletswyddau hynny yn seiliedig ar yr egwyddorion diwygiedig a

nodir ym Mhennod 1.

Erbyn 2006 bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi canllawiau clir ar sut y

dylai cyrff sy’n bodoli eisoes a chanddynt ddyletswydd statudol yn

gysylltiedig â datblygu cynaliadwy ystyried y strategaeth hon

Ystyriwyd hefyd a fyddai gosod dyletswydd statudol ar bob corff cyhoeddus, neu’r

rhai pwysicaf, i hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn arwain at gyfrifoldebau cliriach a

sicrhau y cyflawnir ein nodau datblygu cynaliadwy yn fwy effeithiol. Mae’n anodd

priodoli newidiadau i fodolaeth dyletswydd statudol yn unig ac mae’n rhaid i ni

ystyried effaith gronnol llawer o ddyletswyddau statudol ar gyrff cyhoeddus. Fodd

bynnag, hoffem barhau i osod dyletswyddau datblygu cynaliadwy ar gyrff newydd

wrth iddynt gael eu creu fel y bo’n briodol i’w rôl a’u cylch gwaith, ac asesu a ddylid

3 Gweler y wefan datblygu cynaliadwy yn www.sustainable-development.gov.uk

cymhwyso dyletswydd datblygu cynaliadwy benodol at gyrff allweddol sy’n bodoli

eisoes mewn meysydd blaenoriaeth. Y mater pwysig yw a fyddai dyletswydd newydd

yn helpu i gyflawni datblygu cynaliadwy yn fwy effeithiol.

3. Atgyfnerthu’r broses gyflawni yn rhanbarthol

[box]

Ymatebion i’r ymgynghoriad Ymlaen fo’r Nod

Cymeradwyodd ymatebwyr egwyddorion ‘Ymlaen fo’r Nod’, ond nodwyd nad oedd y

polisïau cenedlaethol hynny yn ddigon ymatebol i wahaniaethau rhanbarthol – megis

yr angen am atebion i boblogaeth sy’n tyfu ac yn heneiddio yn Ne-orllewin Lloegr,

gorgynhesu yn Ne-ddwyrain Lloegr, y cynnydd yn nifer y tai yn Nwyrain Lloegr a

mynd i’r afael â’r gwahanol anghenion ar gyfer cymunedau trefol a gwledig yng

Ngorllewin Canolbarth Lloegr.

Roedd ymatebwyr o’r farn nad oes gan fframweithiau datblygu cynaliadwy

rhanbarthol (rsdfs) unrhyw awdurdod ar hyn o bryd. Oherwydd hynny roedd yn anodd

cyflawni datblygu cynaliadwy – er enghraifft, mewn rhai lleoedd, nid yw

strategaethau rhanbarthol eraill yn gyson â fframweithiau datblygu cynaliadwy

rhanbarthol.

Y consensws rhanbarthol oedd nad yw dangosyddion yn canolbwyntio ddigon ar

ganlyniadau, ac nad ydynt yn ddigon cyson a hyblyg ar hyn o bryd i alluogi

rhanbarthau i asesu eu perfformiad yn erbyn y sefyllfa genedlaethol.

Un o’r newidiadau mawr ers 1999 fu datganoli cyfrifoldeb am gyfeiriad strategol yn

fwyfwy i’r lefelau rhanbarthol. Tasg allweddol fydd cryfhau arweinyddiaeth

ranbarthol.

Sefydlwyd Awdurdodau Datblygu Rhanbarthol (RDA) gan y Llywodraeth i

drawsnewid rhanbarthau Lloegr drwy ddatblygu economaidd cynaliadwy ac maent yn

chwarae rhan ddylanwadol yn y gymuned fusnes. Mae’r Awdurdodau Datblygu

Rhanbarthol, y mae ganddynt ddyletswydd statudol i gyfrannu at ddatblygu

cynaliadwy yn y DU, yn paratoi ac yn gweithredu Strategaethau Economaidd

Rhanbarthol (RES). Mae’r Fframwaith Pennu Tasgau newydd ar gyfer cynlluniau

corfforaethol asiantaethau datblygu rhanbarthol ar gyfer 2005-2008 yn cynorthwyo

asiantaethau datblygu rhanbarthol i brif ffrydio datblygu cynaliadwy ym mhob un o’u

rhaglenni.

Bydd y Llywodraeth yn diweddaru canllawiau ar baratoi Strategaethau

Economaidd Rhanbarthol yn 2005 i helpu awdurdodau datblygu

rhanbarthol i sicrhau twf economaidd a datblygu cynaliadwy

Mae Cynulliadau Rhanbarthol yn craffu ar waith eu hawdurdod datblygu

cynaliadwy ac fe’u penodwyd fel y corff cynllunio rhanbarthol â dyletswydd i

baratoi’r Strategaethau Gofodol Rhanbarthol (RSS). Maent hefyd yn chwarae rhan

flaenllaw mewn gwaith ar integreiddio strategaethau rhanbarthol a llunio

fframweithiau datblygu cynaliadwy rhanbarthol gyda chyfranogwyr allweddol ac

amrywiaeth eang o grwpiau arbenigol rhanbarthol a rhanddeiliaid. Mae’r

fframweithiau lefel uchel hyn yn nodi amcanion a blaenoriaethau ar gyfer datblygu

cynaliadwy yn y rhanbarth ac yn llywio strategaethau rhanbarthol, gan gynnwys

Strategaethau Cymunedol Cynaliadwy. Mewn nifer o ranbarthau mae fframweithiau

datblygu cynaliadwy rhanbarthol ar ffurf Strategaeth Rhanbarthol Integredig.

[box]

Ymchwil i fframweithiau datblygu cynaliadwy rhanbarthol

Dangosodd Rhwydwaith Rhanbarthau Lloegr 4 fod proses y fframweithiau datblygu

cynaliadwy rhanbarthol yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau weithio gyda’i gilydd

a thrafod safbwynt y naill a’r llall. Mae hyn yn codi materion yn ymwneud ag

arbenigedd a dealltwriaeth o ddatblygu cynaliadwy rhanbarthol ymhlith y

cyfranogwyr. Nododd rhanddeiliaid enghreifftiau o sut yr oedd eu gwaith ar

fframweithiau datblygu cynaliadwy rhanbarthol wedi dylanwadu ar strategaethau

eraill. Er na allai’r astudiaeth briodoli newidiadau penodol mewn cynlluniau a

strategaethau penodol yn bendant i fframweithiau datblygu cynaliadwy rhanbarthol,

nododd fod datblygu cynaliadwy yn cael ei gydnabod yn fwy mewn strategaethau

eraill.

Argymhellodd yr astudiaeth y dylai fframweithiau datblygu cynaliadwy rhanbarthol

yn y dyfodol gynnwys:

ymwneud mwy strwythuredig a chynrychioliadol gan randdeiliaid

amcanion a thargedau cysylltiedig mwy pendant ac wedi’u blaenoriaethu

cynlluniau gweithredu sy’n

- mynd i’r afael â gweithgarwch anghynaliadwy yn rhanbarthol

- nodi cyfrifoldebau a thasgau yn erbyn amserlenni pendant

prosesau monitro mwy effeithiol.

Cadarnhaodd ymatebion i’r ymgynghoriad ganfyddiadau ymchwil Rhwydwaith

Rhanbarthau Lloegr. Nodwyd bod angen fframwaith ar gyfer datblygu cynaliadwy ym

mhob rhanbarth gyda rhai elfennau craidd a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â

rhanddeiliaid rhanbarthol. Dylai’r fframwaith hwn nodi:

gweledigaeth a rennir ar gyfer y rhanbarth

amcanion, blaenoriaethau a thargedau ar gyfer hyrwyddo datblygu cynaliadwy

cynlluniau gweithredu sy’n dangos pa sefydliadau a fydd yn gyfrifol am

gyflawni pob un o’r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt

4 Ymchwil i fframweithiau datblygu cynaliadwy rhanbarthol. Adroddiad terfynol i Rwydwaith

Rhanbarthau Lloegr gan ymgynghorwyr CAG ac Ysgol Gynllunio Prifysgol Oxford Brookes.

ystod o ddangosyddion sy’n berthnasol i’r rhanbarth a materion rhanbarthol.

Bydd mesur perfformiad a rhoi gwybod amdano, pan fydd data ar gael, yn

rhanbarthol ar ddangosyddion sydd wedi’u cysylltu â Dangosyddion

Fframwaith y DU yn arbennig o ddefnyddiol wrth ddangos sut y gall

gweithgarwch rhanbarthol gyfrannu at ddatblygu cynaliadwy yn genedlaethol

trefniadau ar gyfer gwaith monitro ac adolygu.

Bydd y Llywodraeth yn llunio canllawiau wedi’u diweddaru ar

fframweithiau datblygu cynaliadwy rhanbarthol, a fydd yn adlewyrchu’r

Strategaeth newydd hon ar gyfer y DU ac yn egluro rôl y Cynulliadau

Rhanbarthol, tra’n aros am ganlyniad adolygiad (gweler isod)

Mae strategaethau twf rhyngranbarthol, megis y ‘Northern Way’ 5 , ‘Smart Growth:

The Midlands Way’, a ‘The Way Ahead: The South West Way’ yn ceisio hyrwyddo

mwy o gydweithredu rhwng rhanbarthau, gan bwysleisio’n benodol y Strategaeth

Economaidd Ranbarthol (RES), blaenoriaethau datblygu economaidd, defnydd tir ac

adnoddau naturiol, mewn ffyrdd sy’n fodd i drosglwyddo hyn i’r gwahanol

Strategaethau Gofodol Rhanbarthol (RSS) ar draws rhanbarthau cyffiniol. Mae’r

Llywodraeth yn ymchwilio i sut i ddarparu sail tystiolaeth a methodoleg economaidd

fwy cyson i fod yn sylfaen i’r Strategaeth Economaidd Ranbarthol a’r Strategaeth

Ofodol Ranbarthol. Mae’r Llywodraeth yn:

ystyried yr ymatebion i ymgynghoriad ynghylch cynigion i gyfuno rôl

Cynulliadau Rhanbarthol fel y corff cynllunio rhanbarthol a rôl Byrddau

Tai Rhanbarthol

edrych ar ffyrdd o integreiddio rhaglenni trafnidiaeth, datblygu

economaidd a thai rhanbarthol hyd yn oed yn fwy o fewn fframwaith o

ddyraniadau cyllid rhanbarthol hirdymor

datblygu methodoleg a fydd yn fodd i greu darlun cenedlaethol o’r

berthynas rhwng rhanbarthau o ran materion allweddol gan gynnwys

canlyniadau senarios economaidd eraill o ganlyniad i ymfudo, nifer y

cartrefi, effaith cyflenwadau tai a phrisiau tai,

gwneud ymchwil i roi cyd-destun economaidd a demograffig cliriach ar

gyfer cynllunio rhanbarthol yn ystod y 25 mlynedd nesaf. Bydd yr

ymchwil hon yn edrych ar anghydraddoldeb rhanbarthol a chysylltiadau

rhyngranbarthol a sut y mae’r rhain yn ymwneud â’i gilydd a’r economi

ehangach

Mae Swyddfeydd y Llywodraeth yn cynrychioli adrannau Llywodraeth ganolog yn y

rhanbarthau. Maent yn gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol i sicrhau y caiff

polisïau Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog, yr Adran Masnach a Diwydiant, Defra, yr

Adran Addysg a Sgiliau, y Swyddfa Gartref, yr Adran dros Drafnidiaeth, Swyddfa’r

Cabinet, yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a’r Adran Gwaith a

5 Am ragor o fanylion ewch i www.odpm.gov.uk

Phensiynau eu gweithredu’n gydgysylltiedig. Mae pob un o’r rhain yn cyfrannu at

ddatblygu cynaliadwy fel y nodir yn y strategaeth hon. Adlewyrchir hyn yng

Nghynlluniau Busnes Swyddfeydd y Llywodraeth a bydd tystiolaeth o Swyddfeydd y

Llywodraeth am berfformiad rhanbarthol yn dangos y cyfraniad a wnânt i ddatblygu

cynaliadwy. Mae Cyfarwyddwyr Iechyd Cyhoeddus Rhanbarthol a’u timau yn

gweithio gyda Swyddfa’r Llywodraeth i sicrhau y caiff agweddau iechyd cyhoeddus

ar ddatblygu cynaliadwy eu hyrwyddo a’u hystyried ar draws amrywiaeth o wahanol

feysydd polisi. Byddant hefyd yn gweithio gydag Awdurdodau Iechyd Strategol i

hyrwyddo’r cysylltiadau rhwng fframweithiau datblygu cynaliadwy rhanbarthol a’r

GIG, fel bod y Gwasanaeth Iechyd yn gweithio o fewn cyd-destun datblygu

cynaliadwy.

Mae gan gyrff megis yr Asiantaeth Integredig newydd ac Asiantaeth yr Amgylchedd

(gweler Pennod 5) bresenoldeb rhanbarthol cryf hefyd ac maent yn cyfrannu at

gyflawni datblygu cynaliadwy yn rhanbarthol.

Bydd y Llywodraeth yn parhau i gynnwys rhanddeiliaid rhanbarthol yn y gwaith o

ddatblygu polisïau yn unol â’r canllawiau ar ‘ymgorffori persbectifau rhanbarthol yn

y broses llunio polisïau’ a luniwyd gan Swyddfa’r Cabinet/Swyddfa’r Dirprwy Brif

Weinidog ar y cyd.

Bydd y Llywodraeth yn parhau i ymchwilio i ffyrdd o gael mwy o ‘weithio

cydgysylltiedig’ trawsadrannol gyda rhanddeiliaid rhanbarthol allweddol

ar ddatblygu polisi cenedlaethol a bydd yn cynnal gweithdai gyda

rhanddeiliaid allweddol

Bydd y Llywodraeth hefyd yn chwilio am ffyrdd newydd o helpu

rhanbarthau i gyfrannu’n llawn at ddatblygu cynaliadwy, fel y’i mesurir

gan Ddangosyddion Strategaeth Llywodraeth y DU ac unrhyw

ddangosyddion a ddewiswyd gan ranbarthau

Bydd y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy yn adolygu’r trefniadau

cyffredinol ar gyfer cyflawni datblygu cynaliadwy yn y rhanbarthau –

gan gynnwys fframweithiau datblygu cynaliadwy rhanbarthol,

rhwydweithiau datblygu cynaliadwy rhanbarthol, cysylltu rhwng

Llywodraeth ganolog a’r rhanbarthau, a rôl cyrff a strategaethau

rhanbarthol pwysig – a gwneud argymhellion ar gyfer gwella

effeithiolrwydd

4. Atgyfnerthu’r broses gyflawni yn lleol

Mae awdurdodau lleol a’u partneriaid, drwy Bartneriaethau Strategol Lleol, yn

hanfodol bwysig i sicrhau cymunedau cynaliadwy.

[box]

Ymatebion i’r ymgynghoriad Ymlaen fo’r Nod

Dangosodd yr ymgynghoriad ‘Ymlaen fo’r Nod’ fod y prosesau cydgysylltiedig

newydd a oedd yn cael eu datblygu ar gyfer Llywodraeth leol a darparwyr

gwasanaethau lleol mewn sefyllfa dda i gyfrannu at ddatblygu datblygu cynaliadwy,

drwy arweinyddiaeth leol gref a gweithio mwy effeithiol mewn partneriaeth, pe gallai

Llywodraeth ganolog gysylltu’r rhain â gwaith ar gymunedau cynaliadwy, cynllunio

ac adfywio.

Er mwyn gwireddu’r weledigaeth o gymunedau cynaliadwy yn lleol mae angen

cyfleu’r negeseuon cywir i Lywodraeth leol am bwysigrwydd datblygu cynaliadwy,

gan gefnogi arweinyddiaeth leol gref a datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth gywir.

Gan weithio gyda’r Gymdeithas Llywodraeth Leol, yr Asiantaeth Gwella a Datblygu,

y Comisiwn Archwilio a rhanddeiliaid eraill drwy’r Bartneriaeth Llywodraeth

Ganolog, datblygodd y Llywodraeth gynllun gweithredu a fydd yn sicrhau y caiff

datblygu cynaliadwy ei gyflawni yn lleol. Bydd y cynllun gweithredu hwn hefyd yn

helpu i weithredu ein cynigion ar gyfer grymuso gweithredu cymunedol ar ddatblygu

cynaliadwy drwy raglen Community Action – Together We Can ym Mhennod 2 a

thrwy greu cymunedau cynaliadwy ym Mhennod 6 ac mae’n gyson â’r strategaeth

ddeng mlynedd sy’n datblygu ar gyfer Llywodraeth leol.

O 2005, bydd y Bartneriaeth Ganolog Leol yn cael adroddiad blynyddol ar y cynnydd

a wnaed o ran cyflawni’r cynllun gweithredu a nodir isod.

Cyfleu’r negeseuon cywir

Yn 2005 bydd y Llywodraeth yn cynnal gweithdy trawsadrannol i

ymchwilio i ffyrdd o wella’r modd y mae’r Llywodraeth yn cyfleu

negeseuon cyson am ddatblygu cynaliadwy a chymunedau cynaliadwy i

Lywodraeth leol.

Bydd y broses Asesiadau Perfformiad Cynhwysfawr (CPA) o 2005

ymlaen, gan gynnwys y Prif Drywyddau Ymholi a Chanllawiau i

Arolygwyr, yn ceisio cydnabod a gwobrwyo perfformiad da o ran

datblygu cynaliadwy a chynnwys y gymuned. Byddwn yn gweithio gyda’r

Comisiwn Archwilio i hyfforddi Arolygwyr Asesiadau Perfformiad

Cynhwysfawr a sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth dda o faes datblygu

cynaliadwy yn gyffredinol a sut y mae’n berthnasol i’r broses Asesiadau

Perfformiad Cynhwysfawr.

Bydd y cylchoedd nesaf o Themâu Cynghorau Disglair (cylchoedd 7 ac 8)

yn cynnwys themâu yn ymwneud ag agweddau ar ddatblygu cynaliadwy

yn lleol.

Gwneud y defnydd gorau o ddulliau sy’n bodoli eisoes ar gyfer cefnogi

arweinyddiaeth leol

Yn ystod 2005 bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda’i phartneriaid i

ddatblygu pecynnau cymorth a deunyddiau eraill i gynorthwyo

Partneriaethau Strategol Lleol (LSP) i ddatblygu a chyflawni

Strategaethau Cymunedau Cynaliadwy a fydd yn helpu i gyflawni

datblygu cynaliadwy yn y DU.

Yn ystod 2005 bydd y Llywodraeth, y Gymdeithas Llywodraeth Leol ac

IDeA yn datblygu cydymrwymiad ar gyfer llywodraeth ganolog-lleol i

sicrhau datblygu cynaliadwy yng nghyd-destun y weledigaeth newydd ar

gyfer cymunedau cynaliadwy. Bydd yr ymrwymiad hwn yn harneisio

egnïon awdurdodau lleol a’u partneriaid a bydd yn rhoi rhyddid a

hyblygrwydd o ran yr ymagwedd a fabwysiedir yn lleol.

Sgiliau a gwybodaeth ar gyfer cyrff sector cyhoeddus lleol

Yn dilyn yr argymhelliad a wnaed yn Adolygiad Syr John Egan ‘Skills for

Sustainable Communities’ (2004), cyhoeddodd y Llywodraeth ei bod yn

bwriadu sefydlu Academi Cymunedau Cynaliadwy newydd. Bydd yr

Academi yn gweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo agenda newydd ar

gyfer cymunedau cynaliadwy, sicrhau bod mwy o sgiliau cyffredinol ar

gael ac ymestyn a gwella mynediad i sgiliau cymunedau cynaliadwy. Bydd

rhaglen yr Academi yn cynnwys datblygu cyfleoedd dysgu ar gyfer y

galwedigaethau craidd a nodwyd yn Adolygiad Egan, gan gynnwys y rhai

ar gyfer Partneriaethau Strategol Lleol.

Ar thema ‘cymunedau glanach, diogelach, gwyrddach’ bydd y

Llywodraeth yn lansio rhaglen ‘How To’ i hyrwyddo derbyn a defnyddio

pwerau a chanllawiau newydd a rhai sy’n bodoli eisoes i drawsnewid yr

amgylchedd lleol. Bydd y Llywodraeth hefyd yn darparu rhaglen

cymorth gydgysylltiedig ar gyfer ein partneriaid cyflawni i hyrwyddo

gwella’r amgylchedd lleol.

Bydd yr Asiantaeth Gwella a Datblygu yn cyflwyno modiwl Academi

Arweinyddiaeth ar Gymunedau Cynaliadwy sy’n datblygu

arweinyddiaeth leol ar faterion datblygu cynaliadwy. Bydd hefyd yn

cynnig dull adolygu gan gymheiriaid ar gyfer ‘Cymunedau Cynaliadwy’

Yn ogystal, bydd y Llywodraeth yn gwella sgiliau a gwybodaeth

Llywodraeth leol am gymunedau cynaliadwy drwy gynlluniau hyfforddi

ehangach megis Rhaglen Meithrin Gallu Llywodraeth Leol.

Sefydlodd y Llywodraeth naw Canolfan Ragoriaeth Ranbarthol (RCE) ar draws

Lloegr – un ym mhob rhanbarth. Mae Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog yn gyfrifol

am weithredu’r system ar gyfer mesur arbedion effeithlonrwydd a wnaed gan

awdurdodau lleol ac mae hefyd yn noddi’r Canolfannau Rhagoriaeth Rhanbarthol. Y

Canolfannau Rhagoriaeth Rhanbarthol yw’r prif gyfryngau newid ar gyfer

Llywodraeth leol, ac maent yn helpu cynghorau i ganfod a gwneud gwelliannau

effeithlonrwydd. Maent hefyd yn gyfrifol am ddatblygu camau gweithredu’r

Strategaeth Gaffael Genedlaethol ar gyfer Llywodraeth Leol a fabwysiadwyd yn 2004

gan Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gymdeithas Llywodraeth Leol.

Yn ystod 2005, byddwn yn gweithio drwy’r Canolfannau Rhagoriaeth Rhanbarthol i

hyrwyddo prosesau caffael cynaliadwy yn Llywodraeth leol drwyddi draw a gwella

hyfforddiant sgiliau.

Bydd y Llywodraeth yn:

gofyn i’r Canolfannau hyrwyddo nifer o themâu caffael cynaliadwy gan

gynnwys ynni cynaliadwy, gwastraff cynaliadwy, bwyd cynaliadwy, coed

cynaliadwy a safonau gofynnol ar gyfer cynhyrchion

lledaenu arfer da i awdurdodau lleol a Chanolfannau Rhanbarthol eraill

er mwyn cynyddu sgiliau ym maes caffael cynaliadwy a meithrin

gwybodaeth a dealltwriaeth ohono: yn arbennig, yr arfer da a

gynhyrchwyd gan ymgyrch caffael cynaliadwy Procura Plus Ewrop 6 .

5. Cyflawni’r strategaeth yn rhyngwladol

Mae angen ffyrdd mwy effeithiol o sicrhau datblygu cynaliadwy yn rhyngwladol ar y

byd. Mae’r Swyddfa Dramor, Defra, yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol, yr

Adran Masnach a Diwydiant a Thrysorlys EM yn rhannu’r cyfrifoldeb dros helpu i

sicrhau gwaith datblygu rhyngwladol sy’n fwy cynaliadwy. Cydlynir hyn gan y

Gweithgor Rhyngadrannol ar Ddatblygu Cynaliadwy Rhyngwladol a fydd yn sicrhau

ein bod yn cyflawni ein hymrwymiadau ac yn cydlynu’r broses o adrodd ar gynnydd i

Weinidogion, y Senedd, a’r cyhoedd.

Datblygodd y Swyddfa Dramor ei strategaeth datblygu cynaliadwy ei hun sydd i’w

chyhoeddi ym mis Mawrth 2005. Bydd y strategaeth hon yn nodi sut y bydd y

Swyddfa Dramor yn cyflawni blaenoriaethau rhyngwladol y DU ar ddatblygu

cynaliadwy, gan ganolbwyntio ar y meysydd hynny lle mae’r Swyddfa Dramor yn

ychwanegu gwerth i’r broses o weithredu’r strategaeth hon. Lle y bo hynny’n briodol

mewn gwaith cyflawni rhyngwladol, bydd adrannau’r Llywodraeth yn defnyddio

arbenigedd cyrff cyhoeddus eraill. Er enghraifft, mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn

darparu cyngor technegol a chymorth ymarferol ar faterion megis rheoli dwˆ r,

rheolaeth amgylcheddol, rheoleiddio a gorfodi.

Fel y noda Pennod 6, mae’r Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol (DFID) yn rheoli

Cymorth Datblygu Tramor y DU. Diffinnir gwaith yr Adran gan y Ddeddf Datblygu

Rhyngwladol (2002), sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddio arian datblygu i leihau

tlodi, naill ai drwy hyrwyddo datblygu cynaliadwy neu wella lles poblogaeth 7 . Mae

lleihau tlodi a datblygu cynaliadwy yn mynd law yn llaw â’i gilydd. Mae Nodau

Datblygu’r Mileniwm (MDG), y cytunwyd arnynt gan y gymuned ryngwladol yn

2000, yn nodi’r amcanion allweddol ar gyfer lleihau tlodi a hyrwyddo datblygu mewn

gwledydd tlawd. Nodau Datblygu’r Mileniwm yw prif ganolbwynt gwaith yr Adran

dros Ddatblygu Rhyngwladol.

Bydd rhwydwaith y DU o gynrychiolwyr diplomyddol a swyddogion datblygu, gan

gynnwys swyddogion amgylcheddol a rhwydwaith swyddogion gwyddoniaeth y

Swyddfa Dramor a staff yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol dramor, yn chwarae

rhan bwysig i gyflawni ac esbonio blaenoriaethau rhyngwladol y DU. Cefnogir y

swyddogion amgylcheddol gan epnet, gwefan ar gyfer swyddogion y Llywodraeth

sy’n gweithio ar faterion amgylcheddol sy’n darparu rhwydwaith rhyngwladol. Mae’n

ceisio hysbysu staff mewn swyddi tramor, yn arbennig y swyddogion amgylcheddol,

6

Gweler www.iclei-europe.org/index.php?procuraplus

7

Gellir defnyddio arian hefyd i gynorthwyo Tiriogaethau Tramor Prydain ac ar gyfer cymorth

dyngarol.

o’r datblygiadau polisi diweddaraf a rhoi iddynt y wybodaeth y mae arnynt ei hangen

i gyflawni blaenoriaethau’r DU.

Mae epnet yn cael ei hailddatblygu a chaiff ei lansio yn 2005 fel rhwydwaith datblygu

cynaliadwy er mwyn cynorthwyo swyddogion amgylcheddol yn fwy effeithiol i roi

arweiniad ar gyflawni datblygu cynaliadwy drwy’r strategaeth hon ac adlewyrchu’r

amrywiaeth eang o faterion y maent yn gweithio arnynt.

O fis Ebrill 2005 bydd rhaglen newydd, fel rhan o Gronfa Cyfleoedd Bydeang

y Swyddfa Dramor, a elwir yn Rhaglen Datblygu Cynaliadwy.

Bydd y rhaglen yn ariannu prosiectau mewn gwledydd â blaenoriaeth, gan

ganolbwyntio ar y themâu canlynol:

tryloywder, gwybodaeth, cyfranogiad a mynediad i gyfiawnder (gan gynnwys

rhyddid mynegiant, democratiaeth amgylcheddol a rheol y gyfraith)

blaenoriaethau hawliau dynol craidd (gan gynnwys mynd i’r afael ag arteithio,

dileu’r gosb eithaf a hyrwyddo hawliau plant)

rheoli adnoddau naturiol (gan gynnwys rheoli coedwigoedd cynaliadwy a

lleihau gweithgarwch torri coed anghyfreithlon, bioamrywiaeth a thwristiaeth

gynaliadwy)

Ategir hyn gydag arian ychwanegol gan Defra i helpu i gyflawni ymrwymiadau yn

deillio o Uwchgynhadledd y Byd ar Ddatblygu Cynaliadwy (WSSD).

Bydd adrannau yn gweithio gyda nifer o wledydd sy’n datblygu’n gyflym ar

integreiddio egwyddorion datblygu cynaliadwy â pholisïau a rhaglenni gwahanol

wledydd, a rhoi ar waith gynlluniau gweithredu i ategu’r rhain yn unol â MDG 7 a’r

targed 2005 Uwchgynhadledd y Byd ar Ddatblygu Cynaliadwy ar gyfer strategaethau

cenedlaethol.

Sefydlir Deialogau Dwyochrog ar Ddatblygu Cynaliadwy â Tsieina ac

India. Bydd y deialogau hyn y cytunwyd arnynt ar lefel y Prif Weinidog

yn adeiladu ar weithgareddau sydd eisoes yn cael eu cynnal ar lefel

gwledydd ac yn rhoi fframwaith ar eu cyfer yn ogystal â nodi meysydd

cydweithredu newydd. Rhagwelir y bydd hyn yn cynnwys y naill wlad yn

dysgu am sut y mae’r llall yn mynd i’r afael â chynllunio a chyflawni

datblygu cynaliadwy, gan edrych ar adnoddau a chydlyniant sefydliadol,

wedi’i ategu gan gyd-brosiectau penodol mewn amrywiaeth o feysydd

polisi.

Byddwn yn parhau i ddefnyddio Cronfa’r Amgylchedd Ewrop (EfE) i gefnogi

prosiectau amgylcheddol bach yn y gwledydd sy’n ymgeisio am aelodaeth o’r Undeb

Ewropeaidd a gwledydd Dwyrain Ewrop, y Cawcasws a Chanolbarth Asia (EECCA).

Ar lefel uwch, byddwn yn pwyso am i gymorth ariannol yr UE gael ei ddefnyddio’n

synhwyrol i helpu i gyflawni ymrwymiadau yn deillio o Uwchgynhadledd y Byd ar

Ddatblygu Cynaliadwy a Chronfa’r Amgylchedd Ewrop, a Nodau Datblygu’r

Mileniwm.

Bydd Rhaglen Amgylchedd y Tiriogaethau Tramor, a ariennir gan y Swyddfa Dramor

a’r Adran dros Ddatblygu Tramor ar y cyd, yn parhau i gefnogi camau gweithredu

Siarteri Amgylcheddol yn y Tiriogaethau.

Yn ogystal, mae partneriaethau rhwng y Llywodraeth a grwpiau cymdeithas sifil gan

gynnwys sefydliadau anllywodraethol a busnesau yn foddion pwysig i sicrhau bod

camau yn cael eu cymryd ar lawr gwlad, gan ddatblygu syniadau newydd ac atebion

arloesol. Blaenoriaeth y DU yw sicrhau bod gweithio mewn partneriaeth yn ddull

gweithredu pwysig drwy:

ymgorffori gweithio mewn partneriaeth yn rhaglen waith CSD y CU

sicrhau natur wirfoddol, hunandrefnol partneriaethau, tra’n meithrin

tryloywder ac atebolrwydd

hyrwyddo cyfnewid arfer da a phrofiad

darparu arian cychwyn ar gyfer partneriaethau newydd

gweithio i ddileu rhwystrau polisi i weithgarwch partneriaeth.

Lluniodd y Llywodraeth dabl yn nodi blaenoriaethau rhyngwladol y DU ar gyfer

datblygu cynaliadwy sy’n deillio yn bennaf o Uwchgynhadledd y Byd ar Ddatblygu

Cynaliadwy, Doha, Monterrey a Nodau Datblygu’r Mileniwm. Mae’r tabl hwn yn

cynnwys nodau, adrannau arweiniol, a ffynonellau gwybodaeth. Mae’r tabl ar

ddiwedd y bennod hon ac fe’i cyhoeddir hefyd ar wefan datblygu cynaliadwy’r

Llywodraeth fel dogfen fyw. Caiff ei ddatblygu a’i ddiweddaru wrth i’r Strategaeth

gael ei gweithredu ac fe’i defnyddir fel dull monitro a chofnodi.

Mae Llywodraeth y DU yn gweithio o fewn system y Cenhedloedd Unedig a chyda

sefydliadau ariannol rhyngwladol i hyrwyddo ymagwedd gydgysylltiedig at faterion

amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.

Yn Uwchgynhadledd Adolygu Mileniwm y CU yn 2005 bydd y Llywodraeth yn

ceisio hyrwyddo mwy o ymdrech ryngwladol i gyflawni Nodau Datblygu’r Mileniwm

ac ymrwymiadau cysylltiedig gan gynnwys y rhai yn deillio o Uwchgynhadledd y

Byd ar Ddatblygu Cynaliadwy gan ganolbwyntio’n arbennig ar y newid yn yr

hinsawdd, dðr a chyfleusterau glanweithdra a chynaliadwyedd amgylcheddol.

O dan ei raglen waith newydd mae Comisiwn Datblygu Cynaliadwy’r CU yn mynd

i’r afael ag ymrwymiadau datblygu cynaliadwy dros saith cylch dwy flynedd gyda

phob cylch yn canolbwyntio ar glwstwr thematig o faterion. Rhennir y cylch yn

“flwyddyn adolygu” ac yn “flwyddyn bolisi”. Ein nod yw sicrhau bod pob cylch dwy

flynedd yn cytuno ar ymatebion polisi a chamau gweithredu pendant i fynd i’r afael

â’r problemau a nodwyd yn y flwyddyn adolygu.

Rydym yn parhau i weithio gyda gwladwriaethau eraill i atgyfnerthu Rhaglen

Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig (UNEP), y mae ganddi fandad i hyrwyddo’r

dimensiwn amgylcheddol ar draws system y CU.

Yn arbennig rydym am weld:

y Rhaglen yn derbyn mwy o arian drwy broses ariannu fwy rhagweladwy

cynllun Strategol Bali ar gyfer Cymorth Technegol a Meithrin Gallu mewn

materion amgylcheddol yn cael ei weithredu’n effeithiol

gwell cydgysylltu ar draws system y CU, yn arbennig rhwng Rhaglen

Amgylchedd y CU a Rhaglen Datblygu’r CU.

Mae’r DU yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau ynghylch atgyfnerthu

llywodraethu amgylcheddol rhyngwladol, megis y cynigion ar gyfer trosglwyddo

Rhaglen Amgylchedd y CU i mewn i asiantaeth arbenigol o dan y CU.

6. Sut y byddwn yn gwybod a fu’r strategaeth hon yn llwyddiannus

Bydd adrannau Llywodraeth a’u hasiantaethau gweithredol yn llunio Cynlluniau

Gweithredu yn nodi sut y maent yn bwriadu gweithredu’r ymrwymiadau yn y

strategaeth hon a bydd yn rhoi gwybod am y cynnydd a wnaed yn erbyn y rhain, er

enghraifft yn eu hadroddiadau adrannol blynyddol.

Bydd y Llywodraeth yn monitro’r ymrwymiadau polisi a’r dangosyddion a nodir ar

ddiwedd y penodau yn y Strategaeth (sydd wedi’u crynhoi ar ddiwedd y bennod hon),

a’r targedau Cytundebau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSA) perthnasol. Byddwn yn

gweithredu os dengys tystiolaeth monitro a gwerthuso, gan gynnwys y wybodaeth

ddiweddaraf am y dangosyddion hyn, nad ydym yn debygol o gyrraedd y targedau

hyn, na chyflawni’r ymrwymiadau polisi.

Bydd Bwrdd y Rhaglen Datblygu Cynaliadwy yn defnyddio’r wybodaeth hon i

sicrhau y cyflawnir y Strategaeth a’r ymrwymiadau, gyda chymorth Uned Datblygu

Cynaliadwy Defra fel ei ysgrifenyddiaeth.

Fel rhan o’r ymrwymiad hwn i fonitro cynnydd, cyflwynir adroddiadau chwarterol i

Drysorlys EM ar gyflawni targedau Cytundebau Gwasanaeth Cyhoeddus, gan

gynnwys targed cyffredinol Defra ar ddatblygu cynaliadwy.

Bydd Swyddfeydd y Llywodraeth yn cyflwyno adroddiadau ar gynnydd yn

rhanbarthol ac yn isranbarthol drwy drefniadau monitro perfformiad newydd a bydd

Awdurdodau Datblygu Rhanbarthol yn gyfrifol am sicrhau cynnydd drwy’r

Fframwaith Pennu Tasgau newydd. Caiff awdurdodau lleol eu monitro drwy

Asesiadau Perfformiad Cynhwysfawr.

Bydd y Llywodraeth yn monitro Dangosyddion Fframwaith y DU ac yn cyflwyno

adroddiad arnynt yn flynyddol er mwyn gosod perfformiad y Llywodraeth yn ei gyddestun.

Bydd yr adroddiad hwn yn sail i adroddiadau’r DU i Gomisiwn Datblygu

Cynaliadwy’r CU sy’n monitro cynnydd yn rhyngwladol.

Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol 8 yn parhau i lunio set o is-gyfrifon cenedlaethol

yn flynyddol, sy’n cymryd i ystyriaeth amrywiaeth o ffactorau nas costiwyd, er

enghraifft effeithiau amgylcheddol.

Hyd yma, dim ond mewn adroddiadau a luniwyd gan y Llywodraeth ei hun y nodwyd

cynnydd yn erbyn ein strategaeth genedlaethol. Credwn y dylem symud yn awr at

ddull annibynnol o graffu ar gamau gweithredu o ran cyflawni datblygu cynaliadwy ar

draws y Llywodraeth i nodi a yw cynnydd gwirioneddol yn cael ei wneud. Ni fydd

modd cyflawni hynny drwy adroddiadau gan y Llywodraeth arni ei hun. Felly rydym

yn cynnig y dylai’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy a atgyfnerthwyd (SDC)

weithredu fel “corff gwarchod” ar gyfer datblygu cynaliadwy. Bydd yn rhoi

sicrwydd ac yn rhoi gwybod am hynt gweithredu Fframwaith y DU a’r ymrwymiadau

yn Strategaeth Llywodraeth y DU, gan gynnwys ar y trefniadau sefydliadol a’r

trefniadau atebolrwydd, yn ogystal â chanolbwyntio’n fanylach ar faterion penodol.

Er mwyn iddo gael yr effaith fwyaf posibl bydd angen i’r Comisiwn Datblygu

Cynaliadwy weithio gyda Phwyllgor Archwilio Amgylcheddol Tþ’r Cyffredin a’r

Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Mae gan y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol,

sy’n atebol i’r Senedd, ran bwysig i’w chwarae wrth archwilio perfformiad y

Llywodraeth ar ddatblygu cynaliadwy a chyflwyno adroddiadau arno. Mae’n gallu

galw ar Adrannau i roi tystiolaeth ar ddatblygu cynaliadwy. Cynorthwywyd y

Pwyllgor yn ddiweddar gan arbenigedd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol sydd wedi

bod yn rhoi mwy o’i hamser i’r materion hyn.

[Chart]

Ein hymagwedd integredig ar gyfer sicrhau ei bod yn digwydd

Enable – Galluogi

• Ysgol Lywodraethu Newydd

• Academi Cymunedau Cynaliadwy

• Canolfannau Rhagoriaeth Rhanbarthol

• Canllawiau diwygiedig ar gyfer cyrff â dyletswyddau DC

• Swyddogaeth cynghori ychwanegol i’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy

• Modiwl CD IDeA o fewn yr Academi Arweinyddiaeth

Encourage – Annog

• Swyddogaeth y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy fel corff gwarchod

• Cynghorau Disglair

• Systemau rheoli perfformiad, ee CPA

• Rhaglen DC ryngwladol

• Dangosyddion a thargedau

Engage – Ymgysylltu

• Bwrdd y Rhaglen DC

• Tasglu DC

• Deialogau gyda rhanddeiliaid tramor ynghylch DC

8 Ar gael yn www.sustainable.gov.uk

• Cymorth i Bartneriaethau Strategol Lleol

Exemplify – Bod yn esiampl

• Cynlluniau Gweithredu DC

• Dyletswydd DC ar gyrff newydd lle y bo hynny’n briodol

• Asesiadau Arfer Gorau o’r Effaith Reoliadol

• Fframweithiau DC Rhanbarthol

• Fframwaith ar gyfer DC yn yr adolygiad o ystad y Llywodraeth

7. Mesur ein cynnydd cyffredinol

Nodir y rhestr lawn o ddangosyddion sydd i’w defnyddio i fonitro cynnydd o ran

cyflawni Strategaeth Llywodraeth y DU isod, ynghyd â Chytundebau Gwasanaeth

Cyhoeddus ac amcanion polisi eraill a fydd yn cyfrannu yn fwyaf uniongyrchol at

sicrhau cynnydd. Cynhwysir pob un o Ddangosyddion Fframwaith y DU ac fe’u nodir

â seren.

Defnyddir nifer fawr iawn o ddangosydion ar draws y Llywodraeth i fonitro

canlyniadau polisïau. Mae mwy byth os ystyrir y dangosyddion hynny a ddefnyddir

gan sefydliadau eraill ac yn rhyngwladol. Mae’r mwyafrif llethol o’r dangosyddion

hyn yn ymdrin â materion sy’n berthnasol i ddatblygu cynaliadwy neu y gallent

ymdrin â materion o’r fath. Awgrymodd profiad o Strategaeth 1999 er bod dadl dros

gael set fawr o ddangosyddion – yn Strategaeth 1999 roedd 147 – yn ymarferol ei bod

yn anodd nodi cynnydd cyffredinol a bod y mwyafrif o ddangosyddion hefyd yn cael

eu monitro yn rhywle arall. Ar y llaw arall gwnaed defnydd helaeth o’r 15 prif

ddangosydd yn Strategaeth 1999 i roi gwybod am gynnydd, ond ni allent ond rhoi

trosolwg cyffredinol.

Yn achos Strategaeth Llywodraeth y DU, sefydlwyd set o 68 o ddangosyddion, yn

cynnwys 20 Dangosydd Fframwaith y DU a 48 o ddangosyddion eraill ar gyfer

monitro cynnydd.

Wrth geisio sefydlu set o ddangosyddion i ategu Strategaeth Llywodraeth y DU,

ceisiwyd canolbwyntio ar y prif flaenoriaethau ar gyfer datblygu cynaliadwy. Serch

hynny, gall fod materion y cred rhai pobl nad ymdrinnir â hwy yn ddigonol gan y

dangosyddion. Os bydd dadl gref o blaid rhai dangosyddion ychwanegol yn codi maes

o law, lle y bo’n ymarferol, byddwn wrth gwrs yn cyflwyno dangosyddion newydd.

Yn yr un modd, os daw’n amlwg bod angen gwella rhai dangosyddion i sicrhau bod

ein gweithgarwch monitro yn effeithiol os bydd yn ymarferol sefydlu dangosydd

diwygiedig, byddwn yn gwneud hynny. Fodd bynnag dylid nodi bod cyfyngiadau

economaidd, ystadegol, gwyddonol, ac ymarferol ar ymgymryd â chasglu data

newydd.

Dewiswyd y dangosyddion a ddetholwyd yma i ategu Strategaeth Llywodraeth y DU

fel mesurau allweddol o effeithiau neu fel ffactorau ysgogi ar gyfer blaenoriaethau o

fewn y Strategaeth. Hyd y gellid ystyriwyd sylwadau ac awgrymiadau ynghylch

dangosyddion a wnaed mewn ymateb i’r ymgynghoriad ‘Ymlaen fo’r Nod’.

Sefydlwyd rhai o’r dangosyddion cyn hyn er mwyn gosod sylfaen gadarn i

Strategaeth 1999 a’i monitro ac ystyrir ei bod yn briodol parhau â hwy, mae rhai eraill

newydd eu datblygu, megis dangosyddion ‘datgysylltu’ ar gyfer defnyddio a

chynhyrchu cynaliadwy. Ystyriwyd hefyd ddangosyddion a ddefnyddir at ddibenion

eraill ar draws y Llywodraeth, gan y Gweinyddiaethau Datganoledig, a lle y bo’n

ymarferol yn rhyngwladol. Cyfyngir arnom gan argaeledd ffynonellau data sy’n

bodoli eisoes neu ddangosyddion sefydledig, ond mae rhai materion yn ddigon

pwysig yn ein barn fel ein bod wedi nodi bod angen datblygu dangosydd newydd.

Cyhoeddir adroddiad ystadegol ar wahân yn darparu’r ffigurau sylfaen

ar gyfer ein dangosyddion ym mis Mehefin 2005

Ar yr un pryd, lle bynnag y bo modd, bydd y Llywodraeth yn nodi’r gwaith y bwriedir

ymgymryd ag ef i sefydlu’r dangosyddion nad oes gennym unrhyw ddata ar eu cyfer

ar hyn o bryd. Ar ben hynny, ar wefan datblygu cynaliadwy Llywodraeth y DU,

rydym yn bwriadu darparu cysylltiadau ag amrywiaeth eang o ddangosyddion

rhyngwladol, fel y gall pobl asesu’r cynnydd y mae’r DU wedi’i wneud yn

rhyngwladol a chael gwybodaeth am dueddiadau byd-eang.

Casgliad

Mae’r strategaeth hon yn deillio o ymgynghoriad eang, cynhwysol a chryn

gydweithredu rhwng amrywiaeth o gyrff y Llywodraeth a chyrff eraill yn y sector

cyhoeddus.

Yr her yn awr yw gweithredu’r strategaeth hon i sicrhau y cyflawnir datblygu

cynaliadwy ar lawr gwlad – gan sicrhau’r dyfodol i bob un ohonom.

[Table]

[Column 1]

Dangosyddion Strategaeth

Llywodraeth y DU

1. Gollyngiadau nwyon tþ gwydr*: Targed Kyoto a gollyngiadau CO2

2. Gollyngiadau CO2 gan y defnyddiwr olaf: diwydiant, cartrefi, trafnidiaeth (ac

eithrio’r sector hedfan rhyngwladol), eraill

3. Gollyngiadau o awyrennau a llongau: nwyon tþ gwydr o fynceri tanwydd

awyrennau a llongau wedi’u lleoli yn y DU

4. Trydan adnewyddadwy: trydan adnewyddadwy a gynhyrchir fel canran o’r holl

drydan

5. Cynhyrchu trydan: trydan a gynhyrchir, gollyngiadau CO2, NOx a SO2 yn ôl

generaduron trydan a CMC

6. Treuliant Ynni Cartrefi: gollyngiadau CO2 a gwariant cartrefi ar dreuliant

terfynol

7. Trafnidiaeth ar ffyrdd: Gollyngiadau CO2, NOx, PM10 a CMC

8. Cerbydau preifat: Gollyngiadau CO2 a gwariant ar geir fesul cilomedr a gwariant

cartrefi ar dreuliant terfynol

9. Cludo nwyddau ar ffyrdd: Gollyngiadau CO2 a thunelli fesul cilomedr, tunnelli a

CMC

10. Sector gweithgynhyrchu: Gollyngiadau CO2, NOx, SO2, PM10 a Gwerth

Ychwanegol Crynswth

11. Sector gwasanaethau: Gollyngiadau CO2, NOx a Gwerth Ychwanegol Crynswth

12. Sector cyhoeddus: Gollyngiadau CO2, NOx a Gwerth Ychwanegol Crynswth

13. Y defnydd o adnoddau*: Treuliant Deunyddiau Domestig a CMC

14. Cyflenwad ynni: cyflenwad ynni sylfaenol y DU a threuliant ynni mewndirol

crynswth

[Column 2]

Related Public … - Cytundebau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSA) Cysylltiedig a

datganiadau polisi perthnasol eraill

Defra PSA 2, DTI PSA 4, DfT PSA 8

Lleihau gollyngiadau nwyon tþ gwydr i 12.5% yn is na lefelau 1990 yn unol â’n

hymrwymiad o dan Brotocol Kyoto a symud tuag at leihau gollyngiadau carbon

deuocsid 20% yn is na lefelau 1990 erbyn 2010, drwy fesurau yn cynnwys

effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy

Papurau Gwyn DfT: ‘The Future of Air Transport’ a ‘British shipping: Charting a

new course’

Defra PSA 2, DTI PSA 4

Lleihau gollyngiadau nwyon tþ gwydr i 12.5% yn is na lefelau 1990 yn unol â’n

hymrwymiad o dan Brotocol Kyoto a symud tuag at leihau gollyngiadau carbon

deuocsid 20% yn is na lefelau 1990 erbyn 2010, drwy fesurau yn cynnwys

effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy

Papur Gwyn DTI: “Our energy future – creating a low carbon economy”

DfT PSA 6, Defra PSA 8

Gwella ansawdd aer drwy gyrraedd targedau'r Strategaeth Ansawdd Aer ar gyfer

carbon monocsid, plwm, nitrogen deuocsid, gronynnau, sylffwr deuocsid, bensen a

1,3 butadien

DfT PSA 7, Defra PSA 2, DTI PSA 4

Lleihau gollyngiadau nwyon tþ gwydr i 12.5% yn is na lefelau 1990 yn unol â’n

hymrwymiad o dan Brotocol Kyoto a symud tuag at leihau gollyngiadau carbon

deuocsid 20% yn is na lefelau 1990 erbyn 2010, drwy fesurau yn cynnwys

effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy

DTI: ‘The Government’s Manufacturing Strategy’ a ‘Competing in the Global

Economy: The Government’s Manufacturing Strategy Two Years On’

Fframwaith Datblygu Cynaliadwy wrth Lywodraethu

Defra, DTI: Changing Patterns: UK Government Framework for Sustainable

Consumption and Production

DTI PSA 4

Arwain gwaith i gyflawni nodau polisi ynni: sicrhau dibynadwyedd cyflenwadau ynni

[Page 169]

[Column 1]

Dangosyddion Strategaeth

Llywodraeth y DU

15. Y defnydd o adnoddau dðr: cyfanswm yr echdyniadau o ffynonellau dðr wyneb

anlanwol a daear a CMC

16. Treuliant dðr domestig: treuliant dðr domestig y pen

17. Pwysau dðr: (i’w datblygu i fonitro effeithiau prinder dðr)

18. Gwastraff * : croniadau yn ôl y (a) sector (b) dull gwaredu

19. Gwastraff cartrefi: (a) croniadau (b) wedi’i ailgylchu neu wedi’i gompostio

20. Poblogaethau adar*: mynegrifau poblogaethau adar (a) adar tir amaeth* (b) adar

coetir* (c) adar arfordiroedd ac aberoedd* (ch) adar gwlyptir sy’n gaeafu

21. Diogelu bioamrywiaeth: (a) statws rhywogaeth flaenoriaeth (b) statws cynefin

blaenoriaeth

22. Sector amaethyddol: cyfraniad gwrteithiau, poblogaethau adar tir amaeth a

gollyngiadau amonia a methan ac allbwn

23. Stiwardiaeth ffermio ac amgylcheddol: (i’w datblygu i fonitro cynnydd mewn

cynlluniau stiwardiaeth newydd)

24. Defnydd tir: darn o dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, coetir, dðr neu

afon, trefol (dangosydd cyd-destunol)

25. Ailgylchu tir: (a) anheddau newydd wedi’u hadeiladu ar dir a ddatblygwyd yn

flaenorol neu drwy waith addasu (b) pob datblygiad newydd ar dir a ddatblygwyd yn

flaenorol

25. Dwysedd anheddau: dwysedd cyfartalog tai newydd

26. Stociau pysgod*: stociau pysgod o amgylch y DU o fewn terfynau cynaliadwy

[Column 2]

Related Public … - Cytundebau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSA) Cysylltiedig a

datganiadau polisi perthnasol eraill

Defra ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cyfarwyddeb Fframwaith Dðr

Defra Strategaeth Dðr: ‘Directing the Flow – priorities for future water policy’

Defra PSA 6

Galluogi ailgylchu neu gompostio o leiaf 25% y cant o wastraff cartrefi erbyn 2005-

06, gyda gwelliannau pellach erbyn 2008

Defra PSA 3

Gofalu am ein treftadaeth naturiol, gwneud cefn gwlad yn ddeniadol ac yn lle pleserus

i bawb a diogelu amrywiaeth fiolegol drwy:

gwrthdroi’r gostyngiad hirdymor yn nifer yr ader tir amaeth erbyn 2020, fel

y’i mesurir yn flynyddol yn erbyn tueddiadau sylfaenol

Defra PSA 3

Gofalu am ein treftadaeth naturiol, gwneud cefn gwlad yn ddeniadol ac yn lle pleserus

i bawb a diogelu amrywiaeth fiolegol drwy:

gwrthdroi’r gostyngiad hirdymor yn nifer yr ader tir amaeth erbyn 2020, fel

y’i mesurir yn flynyddol yn erbyn tueddiadau sylfaenol

adfer 95% o’r holl safleoedd bywyd gwyllt o bwys cenedlaethol i gyflwr addas

erbyn 2010

Defra PSA 5

Sicrhau diwydiannau ffermio a bwyd cystadleuol a chynaliadwy sy’n canolbwyntio’n

fwy ar y cwsmer a sicrhau cynnydd pellach, drwy’r Polisi Amaethyddol Cyffredin

(CAP) a thrafodaethau gyda Sefydliad Masnach y Byd (WTO), o ran lleihau

cymorthdaliadau o dan y CAP sy’n ystumio masnachu

Defra: “Strategy for Sustainable Farming and Food: Facing the Future”

ODPM PSA 6

Disgwylir i’r system gynllunio sicrhau canlyniadau datblygu cynaliadwy yn

genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol drwy brosesau cynllunio a rheoli datblygu

sy’n effeithlon ac o ansawdd uchel, gan gynnwys drwy gyrraedd safonau gwerth

gorau erbyn 2008

Defra Rhaglen Pysgodfeydd Cynaliadwy

[Page 170]

[Column 1]

Dangosyddion Strategaeth

Llywodraeth y DU

28. Effeithiau ecolegol llygredd aer*: ardal o gynefin y DU sy’n sensitif i brosesau

asideiddio ac ewtroffeiddio lle y ceir gormodiannau uwchlaw’r llwyth critigol

29. Gollyngiadau llygrwyr aer: gollyngiadau SO2, NOx, NH3 a PM10 a CMC

30. Ansawdd afonydd*: afonydd o ansawdd (a) biolegol (b) cemegol da

31. Llifogydd: (i’w datblygu i fonitro dulliau cynaliadwy o reoli llifogydd yn

barhaus)

32. Allbwn economaidd*: Cynnyrch Mewnwladol Crynswth

33. Cynhyrchiant: Allbwn y DU fesul gweithiwr

[Page 170]

[Column 2]

Related Public … - Cytundebau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSA) Cysylltiedig a

datganiadau polisi perthnasol eraill

DfT PSA 6, Defra PSA 8

Gwella ansawdd aer drwy gyrraedd targedau'r Strategaeth Ansawdd Aer ar gyfer

carbon monocsid, plwm, nitrogen deuocsid, gronynnau, sylffwr deuocsid, bensen a

1,3 butadien

Defra ac Asiantaeth yr Amgylchedd

Gwella ansawdd dðr afonydd, fel y’i mesurir yn ôl cydymffurfiaeth ag Amcanion

Ansawdd Afonydd

Defra ac Asiantaeth yr Amgylchedd

Polisïau cynaliadwy ar gyfer rheoli afonydd a llifogydd arfordirol a amlygir drwy

weithredu’r strategaeth ‘Making Space for Water’ a chwblhau Cynlluniau Rheoli

Llifogydd Dalgylch a Rheoli Traethlinau strategol

HMT PSA 1

Dangos erbyn 2008 gynnydd o ran cyflawni amcan hirdymor y Llywodraeth o godi’r

gyfradd dwf duedd yn ystod y cylch economaidd drwy gyrraedd amcanestyniad

Cyllideb 2004

HMT PSA 1

Dangos erbyn 2008 gynnydd o ran cyflawni amcan hirdymor y Llywodraeth o godi’r

gyfradd dwf duedd yn ystod y cylch economaidd drwy gyrraedd amcanestyniad

Cyllideb 2004

DTI PSA 1, HMT PSA 4

Dangos rhagor o gynnydd erbyn 2008 o ran amcan hirdymor y Llywodraeth o godi

cyfradd dwf cynhyrchiant y DU yn ystod y cylch economaidd, gwella cystadleurwydd

a chau’r bwlch rhyngom ni a’n prif gystadleuwyr diwydiannol

DTI PSA 6

Creu cymdeithas fentro lle mae cwmnïau bach o bob math yn ffynnu ac yn gwireddu

eu potensial, gan wella cynhyrchiant cyffredinol cwmnïau bach

Defra PSA 4

Cau’r bwlch mewn cynhyrchiant rhwng y chwartel o ardaloedd gwledig sy’n

perfformio waethaf a’r ganolrif ar gyfer Lloegr erbyn 2006, a gwella hygyrchedd

gwasanaethau ar gyfer pobl mewn ardaloedd gwledig

DCMS PSA 4

Erbyn 2008 gwella cynhyrchiant y diwydiant twristiaeth a’r diwydiannau creadigol a

hamdden

[Page 171]

[Column 1]

Dangosyddion Strategaeth

Llywodraeth y DU

34. Buddsoddi: (a) cyfanswm y buddsoddiadau (b) buddsoddi cymdeithasol mewn

perthynas â CMC

35. Demograffeg: y boblogaeth a’r boblogaeth o oedran gweithio (dangosydd cyddestunol)

36. Cartrefi ac anheddau: cartrefi, cartrefi un person, a stoc anheddau (dangosydd

cyd-destunol)

37. Cyfranogiad cymunedol gweithredol*: gwirfoddoli anffurfiol a ffurfiol o leiaf

unwaith y mis

38. Troseddu*: arolwg o droseddau a throseddau a gofnodwyd ar gyfer (a) cerbydau

(b) byrgleriaeth ddomestig (c) trais

39. Ofn troseddu: (a) dwyn ceir (b) byrgleriaeth (c) ymosodiadau corfforol

40. Cyflogaeth*: pobl o oedran gweithio mewn gwaith

41. Aelwydydd di-waith*: poblogaeth yn byw mewn aelwydydd di-waith (a) plant

(b) pobl o oedran gweithio

[Page 171]

[Column 2]

Related Public … - Cytundebau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSA) Cysylltiedig a

datganiadau polisi perthnasol eraill

Trysorlys EM: Cyllideb 2004

ODPM: ‘Housing Policy Statement, The Way Forward for Housing’

ODPM PSA 5

Sicrhau gwell cydbwysedd rhwng argaeledd tai a’r galw am dai, gan gynnwys gwella

fforddiadwyedd, ym mhob un o ranbarthau Lloegr tra’n diogelu cefn gwlad werthfawr

o amgylch ein trefi, ein dinasoedd ac yn y llain las a chynaliadwyedd trefi a

dinasoedd.

Swyddfa Gartref PSA 6

Cynyddu cyfranogiad gwirfoddol a chymunedol, yn arbennig ymhlith y rhai sy’n

wynebu risg y cânt eu hallgáu yn gymdeithasol.

Swyddfa Gartref PSA 7

Lleihau anghydraddoldeb hil a meithrin cydlyniant cymunedol.

Swyddfa Gartref PSA 1

Lleihau lefelau troseddu 15%, ac ymhellach mewn ardaloedd lle y ceir lefelau uchel o

droseddu, erbyn 2007-08. Mae’r targed yn cyfrannu at PSA y System Cyfiawnder

Troseddol (PSA 3)

DWP PSA 4, HMT PSA 5

Fel rhan o’r amcan ehangach o sicrhau cyflogaeth lawn ym mhob rhanbarth, yn ystod

y tair blynedd hyd Wanwyn 2008, a chyn cymryd i ystyriaeth y cylch economaidd:

dangos cynnydd o ran codi’r gyfradd gyflogaeth

codi cyfraddau cyflogaeth grwpiau o dan anfantais (rhieni unigol, lleiafrifoedd

ethnig, pobl 50 oed a throsodd, y rhai â’r cymwysterau isaf a’r rhai sy’n byw

mewn wardiau awdurdod lleol sydd yn y sefyllfa gychwynnol waethaf yn y

farchnad lafur)

lleihau yn sylweddol y gwahaniaeth rhwng cyfraddau cyflogaeth grwpiau o

dan anfantais a’r gyfradd gyffredinol.

[Page 172]

[Column 1]

Dangosyddion Strategaeth

Llywodraeth y DU

42. Economaidd anweithgar: pobl o oedran gweithio sy’n anweithgar yn

economaidd

43. Tlodi plentyndod*: plant mewn cartrefi ag incwm cymharol isel (a) cyn costau

tai (b) ar ôl costau tai

44. Oedolion ifanc*: pobl 16-19 oed nad ydynt mewn gwaith, addysg na hyfforddiant

45. Tlodi ymhlith pensiynwyr*: pensiynwyr mewn cartrefi ag incwm cymharol isel

(a) cyn costau tai (b) ar ôl costau tai

46. Darpariaeth pensiwn*: pobl o oedran gweithio sy’n cyfrannu at bensiwn

anwladwriaethol mewn tair o’r pedair blynedd diwethaf o leiaf

[Page 172]

[Column 2]

Related Public … - Cytundebau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSA) Cysylltiedig a

datganiadau polisi perthnasol eraill

DWP PSA 1, HMT PSA 7

Haneru nifer y plant mewn cartrefi ag incwm cymharol isel rhwng 1998-99 a 2010-

11, ar y ffordd i ddileu tlodi plant erbyn 2020 gan gynnwys:

lleihau canran y plant sy’n byw mewn cartrefi di-waith o 5% rhwng gwanwyn

2005 a gwanwyn 2008

cynyddu canran y Rhieni â Gofal sy’n derbyn Cymhorthdal Incwm a Lwfans

Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm sy’n cael tâl cynnal ar gyfer eu plant i

65% erbyn mis Mawrth 2008. (Bydd y Llywodraeth hefyd yn gosod targed fel

rhan o’r Adolygiad o Wariant nesaf i haneru erbyn 2010-11 nifer y plant sy’n

dioddef o gyfuniad o amddifadedd materol ac incwm cymharol isel.

Cyrhaeddir y targed os sicrheir gostyngiad cymesur yn cyfateb i’r hyn sydd ei

angen o ran incwm cymharol isel rhwng 2004-05 a 2010-11.

DWP, PSA 3, DfES PSA 2

Fel cyfraniad at leihau canran y plant sy’n byw mewn cartrefi di-waith lle nad oes neb

yn gweithio, erbyn 2008:

dyblu nifer y teuluoedd ag incwm is sy’n defnyddio gofal plant ffurfiol

cyflwyno erbyn Ebrill 2005, gynllun cymeradwyo gofal plant â chyffyrddiad

ysgafn sy’n llwyddiannus

Targed yr Uned Cychwyn Cadarn

DfES PSA 12

Lleihau canran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant 2 y cant

erbyn 2010

DWP PSA 6

Erbyn 2008, talu Credyd Pensiwn i o leiaf 3.2 miliwn o gartrefi pensiynwyr, tra’n

parhau i ganolbwyntio ar y rhai sydd o dan yr anfantais fwyaf drwy sicrhau bod o

leiaf 2.2 miliwn o’r cartrefi hyn yn cael y Credyd Gwarant

DH PSA 8

Gwella ansawdd bywyd pobl hþn ddiamddiffyn a’u galluogi i fyw yn fwy annibynnol

drwy eu cynorthwyo i fyw yn eu cartrefi eu hunain os oes modd drwy:

cynyddu canran y bobl hþn sy’n cael eu cynorthwyo i fyw yn eu cartref eu

hunain 1% bob blwyddyn yn 2007 a 2008;

erbyn 2008 cynyddu canran y rhai sy’n cael cryn dipyn o gymorth i fyw

gartref i 34% o gyfanswm y rhai sy’n cael eu cynorthwyo i fyw gartref neu

mewn gofal preswyl

Defra PSA 7, DTI PSA 4

Dileu tlodi tanwydd mewn aelwydydd diamddiffyn yn Lloegr erbyn 2010 yn unol ag

amcan Strategaeth Tlodi Tanwydd y Llywodraeth

[Page 173]

[Column 1]

Dangosyddion Strategaeth

Llywodraeth y DU

47. Addysg*: pobl 19 oed a chanddynt gymwysterau lefel 2 ac yn uwch

48. Addysg datblygu cynaliadwy: (i’w datblygu i fonitro effaith dysgu ffurfiol ar

wybodaeth ac ymwybyddiaeth pobl o faes datblygu cynaliadwy)

49. Anghydraddoldeb iechyd*: (a) marwolaethau babanod (yn ôl y grðp

economaidd-gymdeithasol) (b) disgwyliad oes (yn ôl yr ardal) ar gyfer dynion a

merched

50. Disgwyliad oes iach: disgwyliad oes iach (a) dynion (b) merched

51. Cyfraddau marwolaethau: cyfraddau marwolaethau o (a) afiechydon cylchredol

a (b) canser, o dan 75 oed ac ar gyfer ardaloedd â’r dangosyddion iechyd ac

amddifadedd gwaethaf, ac (c) hunanladdiad

52. Ysmygu: pa mor gyffredin yw ysmygu ymhlith (a) oedolion yn gyffredinol (b)

grwpiau economaidd-gymdeithasol o weithwyr ‘cyffredin a llafuriol’

53. Gordewdra mewn plentyndod: pa mor gyffredin yw gordewdra ymhlith plant 2-

10 oed

54. Deiet: pobl sy’n bwyta pum cyfran neu ragor o ffrwythau a llysiau y dydd ac sydd

mewn cartrefi ag incwm isel

[Page 173]

[Column 2]

Related Public … - Cytundebau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSA) Cysylltiedig a

datganiadau polisi perthnasol eraill

DfES PSA 11

Cynyddu canran y bobl ifanc 19 oed sy’n cyrraedd lefel 2 o 3 pwynt canrannol o leiaf

rhwng 2004 a 2006, a 2 bwynt canrannol arall rhwng 2006 a 2008, a chynyddu canran

y bobl ifanc sy’n cyrraedd lefel 3

DH PSA 2

Lleihau anghydraddoldebau iechyd 10% erbyn 2010 fel y’u mesurir gan farwolaeth

babanod a disgwyliad oes adeg geni’r plentyn

DH PSA 1

Gostwng cyfraddau marwolaeth yn sylweddol erbyn 2010:

o glefyd y galon a strociau a chlefydau cysylltiedig 40% o leiaf mewn pobl o

dan 75 oed, gan leihau’r bwlch anghydraddoldebau o 40% o leiaf rhwng y

bumed ran o’r ardaloedd â’r dangosyddion iechyd ac amddifadedd gwaethaf

a’r boblogaeth yn gyffredinol;

o hunanladdiad ac anafiadau amhenodol 20% o leiaf

DH PSA 3

Mynd i’r afael â phenderfynyddion sylfaenol afiechyd ac anghydraddoldebau iechyd

drwy:

gostwng cyfraddau ysmygu ymhlith oedolion i 21% neu lai erbyn 2010 lleihau

cyfraddau ysmygu ymhlith grwpiau o weithwyr cyffredin a llafuriol i 26% neu

lai

DH PSA 3, DfES PSA 4, DCMS PSA 2

Mynd i’r afael â phenderfynyddion sylfaenol afiechyd ac anghydraddoldebau iechyd

drwy:

atal y cynnydd blwyddyn wrth flwyddyn mewn gordewdra ymhlith plant o dan

11 oed erbyn 2010 yng nghyd-destun strategaeth ehangach i fynd i’r afael â

gordewdra yn y boblogaeth yn gyffredinol

DH: ‘Cynllun Gweithredu Bwyd ac Iechyd’

[Page 174]

[Column 1]

Dangosyddion Strategaeth

Llywodraeth y DU

55. Symudedd*: (a) nifer y teithiau fesul person yn ôl y dull (b) y pellter a deithir

fesul person bob blwyddyn yn ôl pwrpas y daith yn fras

56. Cyrraedd yr ysgol: sut y mae plant yn cyrraedd yr ysgol

57. Hygyrchedd: mynediad i wasanaethau allweddol

58. Damweiniau ar y ffyrdd: nifer y bobl a’r plant sy’n cael eu lladd neu eu

hanafu’n ddifrifol

59. Cyfiawnder cymdeithasol*: (mesurau cymdeithasol i’w datblygu)

60. Cydraddoldeb amgylcheddol*: (mesurau amgylcheddol i’w datblygu)

61. Ansawdd aer ac iechyd: (a) lefelau gronynnau ac osôn blynyddol (b) diwrnodau

pryd y mae lefel y llygredd aer yn gymedrol neu’n uwch

62. Cyflwr tai: (a) tai sector cymdeithasol islaw’r safon cartrefi boddhaol (b)

aelwydydd diamddiffyn yn y sector preifat mewn cartrefi islaw’r safon cartrefi

boddhaol

63. Aelwydydd sy’n byw mewn tlodi tanwydd: (a) pensiynwyr (b) aelwydydd â

phlant (c) pobl anabl/cleifion hirdymor

[Page 174]

[Column 2]

Related Public … - Cytundebau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSA) Cysylltiedig a

datganiadau polisi perthnasol eraill

DfT PSA 3

Erbyn 2010, cynyddu’r defnydd a wneir o drafnidiaeth gyhoeddus (bysiau a

rheilffordd ysgafn) fwy na 12% yn Lloegr o gymharu â lefelau 2000, gan sicrhau twf

ym mhob rhanbarth

DfT: ‘Walking and cycling: ac action plan’

ODPM PSA 4

Erbyn 2008, gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd llywodraeth leol wrth arwain

a chyflwyno gwasanaethau ar gyfer pob cymuned

Defra PSA 4

Gwella hygyrchedd gwasanaethau ar gyfer pobl mewn ardaloedd gwledig

DfT PSA 5

Lleihau nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ym Mhrydain Fawr

mewn damweiniau ar y ffordd 40% a nifer y plant sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n

ddifrifol 50%, erbyn 2010 o gymharu â’r cyfartaledd ar gyfer 1994-98, gan fynd i’r

afael â’r nifer sylweddol uwch o bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol

mewn cymunedau o dan anfantais

ODPM PSA 1

Mynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol a chyflawni rhaglenni adnewyddu

cymdogaethau, gan weithio gydag adrannau i’w helpu i gyrraedd eu targedau

cytundebau gwasanaeth cyhoeddus sylfaen, yn arbennig i leihau’r bwlch mewn

canlyniadau iechyd, addysg, troseddu, diweithdra, tai a chyfanedd-dra rhwng yr

ardaloedd mwyaf difreintiedig a gweddill Lloegr, gan sicrhau gwelliannau mesuradwy

erbyn 2010

ODPM PSA 8

Arwain y gwaith o sicrhau mannau cyhoeddus glanach, diogelach a gwyrddach a

gwella ansawdd yr amgylchedd adeiledig mewn ardaloedd difreintiedig a ledled y

wlad, gan sicrhau gwelliannau mesuradwy erbyn 2008

DfT PSA 6, Defra PSA 8

Gwella ansawdd aer drwy gyrraedd targedau'r Strategaeth Ansawdd Aer ar gyfer

carbon monocsid, plwm, nitrogen deuocsid, gronynnau, sylffwr deuocsid, bensen a

1,3 butadien

ODPM PSA 7

Erbyn 2010, sicrhau bod pob tþ cymdeithasol mewn cyflwr boddhaol gyda’r rhan

fwyaf o’r gwelliant hwn yn digwydd mewn ardaloedd difreintiedig, ac yn achos

cartrefi diamddiffyn yn y sector preifat, gan gynnwys teuluoedd â phlant, cynyddu

canran y bobl sy’n byw mewn cartrefi sydd mewn cyflwr boddhaol

Defra PSA 7, DTI PSA 3

Dileu tlodi tanwydd mewn aelwydydd diamddiffyn yn Lloegr erbyn 2010 yn unol ag

amcan Strategaeth Tlodi Tanwydd y Llywodraeth

[Page 175]

[Column 1]

Dangosyddion Strategaeth

Llywodraeth y DU

64. Digartrefedd: (a) pobl sy’n cysgu ar y stryd a (b) aelwydydd mewn llety dros dro

(i) cyfanswm (ii) aelwydydd â phlant

65. Ansawdd yr amgylchedd lleol: (i’w datblygu gan ddefnyddio gwybodaeth o’r

Arolwg o Ansawdd yr Amgylchedd Lleol yn Lloegr)

66. Boddhad gyda’r ardal leol: cartrefi sy’n fodlon ar ansawdd y lleoedd y maent yn

byw ynddynt (a) yn gyffredinol (b) mewn ardaloedd difreintiedig (c) cartrefi

anfoddhaol

67. Cymorth Rhyngwladol y DU: Cymorth Datblygu Swyddogol Net (a) y cant o

Incwm Cenedlaethol Crynswth (o gymharu â gwledydd dethol) (b) y pen (o gymharu

â gwledydd dethol)

68. Lles*: (mesurau lles i’w datblygu)

[Page 175]

[Column 2]

Related Public … - Cytundebau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSA) Cysylltiedig a

datganiadau polisi perthnasol eraill

ODPM: “Cymunedau Cynaliadwy: Cartrefi i bawb”

ODPM PSA 1

Mynd i’r afael ag allgáu cymdeithasol a chyflawni rhaglenni adnewyddu

cymdogaethau, gan weithio gydag adrannau i’w helpu i gyrraedd eu targedau

cytundebau gwasanaeth cyhoeddus sylfaen, yn arbennig i leihau’r bwlch mewn

canlyniadau iechyd, addysg, troseddu, diweithdra, tai a chyfanedd-dra rhwng yr

ardaloedd mwyaf difreintiedig a gweddill Lloegr, gan sicrhau gwelliannau mesuradwy

erbyn 2010

ODPM PSA 4

Erbyn 2008, gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd llywodraeth leol wrth arwain

a chyflwyno gwasanaethau ar gyfer pob cymuned

ODPM PSA 5

Sicrhau gwell cydbwysedd rhwng argaeledd tai a’r galw am dai, gan gynnwys gwella

fforddiadwyedd, ym mhob un o ranbarthau Lloegr tra’n diogelu cefn gwlad werthfawr

o amgylch ein trefi, ein dinasoedd ac yn y llain las a chynaliadwyedd trefi a

dinasoedd.

ODPM PSA 8

Arwain y gwaith o sicrhau mannau cyhoeddus glanach, diogelach a gwyrddach a

gwella ansawdd yr amgylchedd adeiledig mewn ardaloedd difreintiedig a ledled y

wlad, gan sicrhau gwelliannau mesuradwy erbyn 2008

ODPM PSA 8

Arwain y gwaith o sicrhau mannau cyhoeddus glanach, diogelach a gwyrddach a

gwella ansawdd yr amgylchedd adeiledig mewn ardaloedd difreintiedig a ledled y

wlad, gan sicrhau gwelliannau mesuradwy erbyn 2008

DfID PSA 3

Gwella effeithiolrwydd y system amlochrog, fel y dangosir drwy:

rhaglenni allanol y GE yn cael mwy o effaith o ran lleihau tlodi a gweithio i

sicrhau cytundeb i gynyddu’r ganran o gymorth datblygu swyddogol y GE

(ODA) a roddir i wledydd ag incwm isel o’i ffigur sylfaen o 38% yn 2000 i

70% erbyn 2008;

sicrhau bod 90% o’r holl Wledydd Tlawd â Dyledion Mawr cymwys sydd

wedi ymrwymo i leihau tlodi ac sydd wedi cyrraedd y Pwynt Penderfynu

erbyn diwedd 2005, yn derbyn rhyddhad diwrthdro o ddyled erbyn diwedd

2008. Ar y cyd â PSA 8 Trysorlys EM

partneriaid rhyngwladol yn gweithio yn effeithiol gyda gwledydd tlawd i

wneud cynnydd tuag at gyflawni Nodau Datblygu Mileniwm y Cenhedloedd

Unedig ar gyfer 2015, ar y cyd â Thrysorlys EM;

Asiantaethau’r Cenhedloedd Unedig a’r system cymorth dyngarol yn

gweithredu’n fwy effeithiol

• Dangosydd o fewn fframwaith wedi’i rannu’r DU ar gyfer datblygu cynaliadwy

‘One Future – different paths’

Mae Cytundebau Gwasanaeth Cyhoeddus ar gyfer 2005-2008 o fewn Adolygiad o

Wariant 2004

CMC, Cynnyrch Mewnwladol Crynswth, mesur o allbwn economaidd cenedlaethol

GYC, Gwerth Ychwanegol Crynswth, mesur ac allbwn economaidd sectoraidd

CO2, Carbon deuocsid, nwy tþ gwydr a’r prif gyfrannwr at gynhesu byd-eang

NOx, Ocsidau nitrogen, sy’n cyfrannu at asideiddio a llygred aer lleol

SO2, sylffwr deuocsid, sy’n cyfrannu at asideiddio a llygredd aer lleol

PM10, Gronynnau, deunydd gronynnol yn yr awyr y gellir ei gludo i mewn i’r

ysgyfaint

[Page 176]

Blaenoriaethau Rhyngwladol y DU ar gyfer Datblygu Cynaliadwy

[Column 1]

Blaenoriaethau Rhyngwladol y DU ar gyfer Datblygu Cynaliadwy

Dileu tlodi mewn gwledydd tlawd, yn arbennig drwy gyflawni Nodau Datblygu’r

Mileniwm (Cynulliad Mileniwm y CU, 2000)

MDG1: Dileu tlodi a newyn eithafol

MDG2: Sicrhau addysg gynradd i bawb

MDG3: Hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau a grymuso merched

MDG4: Lleihau cyfraddau marwolaeth plant

MDG5: Gwella iechyd mamau

MDG6: Mynd i’r afael â HIV/AIDS, malaria a chlefydau eraill

MDG7: sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol

MDG8: datblygu partneriaeth fyd-eang ar gyfer datblygu

Masnach (WSSD a Doha)

Ymestyn system fasnachu amlochrog agored yn seiliedig ar reolau.

Gwella mynediad i farchnadoedd ar gyfer gwledydd sy’n datblygu.

Hyrwyddo natur gydategol y broses o lacio rheolau masnachu, diogelu’r

amgylchedd a datblygu cynaliadwy

Lleihau i’r eithaf unrhyw effeithiau negyddol yn deillio o lacio rheolau masnachu

ar gyfer gwledydd sy’n datblygu.

Lleihau lefel cymorthdaliadau sy’n ystumio masnachu, yn arbennig ym myd

amaethyddiaeth a physgodfeydd.

[Column 2]

Adran(nau) Arweiniol (Adrannau eraill sy’n gysylltiedig)

DFID

DTI (Defra, FCO, DFID)

[Column 3]

Targed/Nod lefel uchel

PSA DFID ar gyfer 2005-08 sy’n canolbwyntio ar gyflawni Nodau Datblygu’r

Mileniwm

Targed PSA wedi’i rannu gan y DTI, DFID

“Sicrhau bod yr UE yn llwyddo i leihau’n sylweddol rwystrau masnachu o fewn yr

UE ac yn fyd-eang erbyn 2008, gan esgor ar gyfleoedd i wledydd sy’n datblygu ac

Ewrop fwy cystadleuol.

[Column 4]

Ffynhonnell gwybodaeth am y broses gyflawni

www.dfid.gov.uk

Papur Gwyn ar Fasnachu a Buddsoddi (Gorffennaf 2004).

www.dti.gov.uk/ewt/whitepaper.htm

[Page 177]

[Column 1]

Blaenoriaethau Rhyngwladol y DU ar gyfer Datblygu Cynaliadwy

Cyllid (WSSD a Monterrey)

Ymrwymiad i Gonsensws Monterrey y Gynhadledd Ryngwladol ar Gyllid ar gyfer

Datblygu (Monterrey, Mecsico Mawrth 2002)

Dðr a Glanweithdra (WSSD a Nodau Datblygu’r Mileniwm)

Ymrwymiad i gyflawni Nod Datblygu’r Mileniwm o haneru, erbyn 2015 y ganran o

bobl heb fynediad i ddðr yfed glân

Haneru, erbyn 2015 y ganran o bobl heb fynediad i gyfleusterau glanweithdra

sylfaenol

Datblygu cynlluniau rheoli adnoddau dðr integredig

Parhau i integreiddio materion amgylcheddol â phrosesau lleihau tlodi yn seiliedig ar

wledydd (WSSD)

Targed MDG7 i integreiddio egwyddorion datblygu cynaliadwy â pholisïau a

rhaglenni gwledydd

[Column 2]

Adran(nau) Arweiniol (Adrannau eraill sy’n gysylltiedig)

DFID, HMT (FCO, Defra, ODPM)

DFID (Defra, DTI, FCO)

DFID (Defra, FCO, HMT)

[Column 3]

Nod/Targed lefel uchel

Amcan IV Targed 3 PSA DFID ar gyfer 2005-08

Gwella effeithiolrwydd y system amlochrog.

Targedau PSA DFID ar gyfer 2005-08 sy’n canolbwyntio ar gyflawni Nodau

Datblygu’r Mileniwm, gan gynnwys MDG7 ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol.

Targedau PSA DFID ar gyfer 2005-08 sy’n canolbwyntio ar gyflawni Nodau

Datblygu’r Mileniwm, gan gynnwys MDG7 ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol.

[Column 4]

Ffynhonnell gwybodaeth am y broses gyflawni

www.dfid.gov.uk gan gynnwys y Papur Gwyn: Making Globalisation Work for the

Poor 2002.

Cynllun Gweithredu Dðr

www.dfid.gov.uk

Strategaeth Fasnachu Ryngwladol ar gyfer y Sector Dðr

Defraweb/environment/water/internat/sustainable-water/pdf/trade-strategy.pdf

www.dfid.gov.uk

[Page 178]

[Column 1]

Blaenoriaethau Rhyngwladol y DU ar gyfer Datblygu Cynaliadwy

Patrymau defnyddio a chynhyrchu cynaliadwy (SCP) (WSSD)

Patrymau defnyddio a chynhyrchu mwy cynaliadwy

Datblygu fframwaith 10 mlynedd o raglenni defnyddio a chynhyrchu cynaliadwy

Gwrthdroi’r duedd o ran colli adnoddau naturiol

Ynni Adnewyddadwy; Effeithlonrwydd ynni (WSSD)

Cynyddu'n sylweddol y defnydd a wneir o ynni adnewyddadwy ledled y byd fel

mater o frys; cynyddu effeithlonrwydd ynni

[Column 2]

Adran(nau) Arweiniol (Adrannau eraill sy’n gysylltiedig)

Defra, DTI (HMT, FCO, Uned Strategaeth y Prif Weinidog), OGC (Caffael), ODPM)

DTI, Defra, FCO (Uned Strategaeth y Prif Weinidog, ODPM, DFID)

Nod/Targed lefel uchel

PSA 1 Defra a chanlyniadau strategol allweddol 9 .

“cynnydd tuag at gyflawni ymrwymiadau WSSD yn arbennig ym meysydd datblygu a

chynhyrchu cynaliadwy, cemegau, bioamrywiaeth, cefnforoedd, pysgodfeydd ac

amaethyddiaeth”

PSA 1 Defra a chanlyniadau strategol allweddol 9 .

“hyrwyddo datblygu cynaliadwy ar draws y llywodraeth ac yn y DU ac yn

rhyngwladol fel y’i mesurir gan…

� cynnydd tuag at gyflawni ymrwymiadau WSSD yn arbennig ym meysydd

datblygu a chynhyrchu cynaliadwy, cemegau, bioamrywiaeth, cefnforoedd,

pysgodfeydd ac amaethyddiaeth

� cynnydd tuag at ymrwymiadau y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol i fynd i’r afael

â’r newid yn yr hinsawdd

Ffynhonnell gwybodaeth am y broses gyflawni

Changing patterns – Fframwaith Llywodraeth y DU ar gyfer defnyddio a chynhyrchu

cynaliadwy

http:://www.defra.gov.uk/environment/business/scp/index.htm

Cynllun Gweithredu WSSD http:://www.sustainabledevelopment.gov.uk/wssd2/08.htm

Papur Gwyn ar Ynni

www.dti.gov.uk/energy/whitepaper/ourenergyfuture.pdf

Blaenoriaethau Rhyngwladol y DU:

Y Strategaeth Ynni

www.fco.gov.uk/Files/kfile/Energy_Report_281004.pdf

Cynllun Gweithredu Effeithlonrwydd Ynni

www.official-documents.co.uk/documents/cm61/6168/6168.pdf

Rhwydwaith Polisi Ynni Cynaliadwy www.dti.gov.uk/energy/sepn/index.shtml

Partneriaeth Ynni Adnewyddadwy ac Effeithlonrwydd Ynni www.reeep.org

[Page 179]

[Column 1]

Blaenoriaethau Rhyngwladol y DU ar gyfer Datblygu Cynaliadwy

9 Strategaeth 5 mlynedd Defra http://www.defra.gov.uk/corporate/5year-strategy/index.htm

Bioamrywiaeth a choedwigoedd (WSSD)

Lleihau’r gyfradd colli bioamrywiaeth yn sylweddol erbyn 2010

Rhannu’r manteision yn deillio o adnoddau genetig a mynediad iddynt

Atgyfnerthu gweithgarwch gorfodi cyfraith coedwigoedd a rheoli coedwigoedd

Pysgodfeydd (WSSD)

Adfer stociau pysgod a ddihysbyddwyd erbyn 2015

Cemegau (WSSD)

Lleihau i’r eithaf effeithiau cemegau ar iechyd pobl a’r amgylchedd erbyn 2020

Materion y môr (WSSD)

Rhwydweithiau o ardaloedd morol gwarchodedig erbyn 2012

Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (WSSD)

Hyrwyddo cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol

[Column 2]

Adran(nau) Arweiniol (Adrannau eraill sy’n gysylltiedig)

Defra, y Comisiwn Coedwigaeth (DFID, FCO, ODPM)

Defra (FCO, DFID, DTI, DfT (IMO))

Defra (DH, DTI, HPA, HSE)

Defra (FCO, DFID, DfT, DTI)

DTI 10

[Column 3]

Targed/Nod lefel uchel

PSA 1 Defra a chanlyniadau strategol allweddol.

“cynnydd tuag at gyflawni ymrwymiadau WSSD yn arbennig ym meysydd datblygu a

chynhyrchu cynaliadwy, cemegau, bioamrywiaeth, cefnforoedd, pysgodfeydd ac

amaethyddiaeth”

PSA 1 Defra a chanlyniadau strategol allweddol.

“cynnydd tuag at gyflawni ymrwymiadau WSSD yn arbennig ym meysydd datblygu a

chynhyrchu cynaliadwy, cemegau, bioamrywiaeth, cefnforoedd, pysgodfeydd ac

amaethyddiaeth”

PSA 1 Defra a chanlyniadau strategol allweddol.

“cynnydd tuag at gyflawni ymrwymiadau WSSD yn arbennig ym meysydd datblygu a

chynhyrchu cynaliadwy, cemegau, bioamrywiaeth, cefnforoedd, pysgodfeydd ac

amaethyddiaeth”

PSA 1 Defra a chanlyniadau strategol allweddol.

10

Mae’r mwyafrif o adrannau eraill y Llywodraeth ynghlwm wrth hyrwyddo cyfrifoldeb cymdeithasol

corfforaethol hefyd.

“cynnydd tuag at gyflawni ymrwymiadau WSSD yn arbennig ym meysydd datblygu a

chynhyrchu cynaliadwy, cemegau, bioamrywiaeth, cefnforoedd, pysgodfeydd ac

amaethyddiaeth”

Bydd Llywodraeth y DU yn meithrin awyrgylch galluogi ar gyfer arfer busnes cyfrifol

i gynyddu cymaint â phosibl gyfraniad cadarnhaol y gall busnesau ei wneud at

gyflawni amcanion y DU ar gyfer datblygu cynaliadwy rhyngwladol - gan gynnwys

hawliau dynol, masnach a buddsoddi, dileu tlodi, diogelu’r amgylchedd a llygredd -

wrth fynd i’r afael yn effeithiol ag effeithiau andwyol.

[Column 4]

Ffynhonnell gwybodaeth am y broses gyflawni

Cynllun Cyflawni WSSD www.sustainable-development.gov.uk/wssd2/08.htm

Cynllun Cyflawni WSSD www.sustainable-development.gov.uk/wssd2/08.htm

Cynllun Cyflawni WSSD www.sustainable-development.gov.uk/wssd2/08.htm

Cynllun Cyflawni WSSD www.sustainable-development.gov.uk/wssd2/08.htm

Mae’r Fframwaith Strategol Rhyngwladol ar gyfer Cyfrifoldeb Cymdeithasol

Corfforaethol y bwriedir ei gyhoeddi yn 2005 www.csr.gov.uk yn nodi gwaith nifer o

wahanol adrannau Llywodraeth.

[Page 180]

[Column 1]

Blaenoriaethau Rhyngwladol y DU ar gyfer Datblygu Cynaliadwy

Amaethyddiaeth

Cyflawni ymrwymiadau Agenda Datblygu Doha i leihau lefel cymorthdaliadau sy’n

ystumio masnachu

Rheoli Datblygu Cynaliadwy Rhyngwladol (WSSD)

Atgyfnerthu rheolaeth amgylcheddol ryngwladol

Prif ffrydio Datblygu Cynaliadwy yn Sefydliadau’r CU a Sefydliadau Ariannol

Rhyngwladol

Ymladd llygredd a gwella tryloywder

Atgyfnerthu ymrwymiad llywodraethau i weithredu safonau gwrthlygredd

rhyngwladol, gan gynnwys drwy gadarnhau UNCAC

Sicrhau bod rheoli’r sector echdynnu mewn gwledydd sy’n datblygu yn fwy tryloyw

Rheolaeth amgylcheddol a Hawliau dynol (WSSD)

Hyrwyddo rhyddid gwybodaeth, cyfranogiad y cyhoedd mewn prosesau gwneud

penderfyniadau a rheol y gyfraith

[Column 2]

Adran(nau) Arweiniol (Adrannau eraill sy’n gysylltiedig)

Defra (DTI)

FCO, Defra (DFID)

FCO/DFID

FCO (Defra, DFID)

[Column 3]

Targed/Nod lefel uchel

PSA 1 Defra a chanlyniadau strategol allweddol fel y nodwyd uchod.

“cynnydd tuag at gyflawni ymrwymiadau WSSD yn arbennig ym meysydd datblygu a

chynhyrchu cynaliadwy, cemegau, bioamrywiaeth, cefnforoedd, pysgodfeydd ac

amaethyddiaeth”

PSA 8 FCO

“Hyrwyddo datblygu cynaliadwy, yn seiliedig ar ddemocratiaeth, llywodraethu da a

hawliau dynol, yn arbennig drwy gyflawni rhaglenni yn y meysydd hyn a meysydd

cysylltiedig yn effeithiol”

Gwella’r modd y gweithredir safonau gwrthlygredd rhyngwladol drwy atgyfnerthu

gallu gwrthlygredd mewn gwledydd sy’n datblygu

PSA 8 FCO

“Hyrwyddo datblygu cynaliadwy, yn seiliedig ar ddemocratiaeth, llywodraethu da a

hawliau dynol, yn arbennig drwy gyflawni rhaglenni yn y meysydd hyn a meysydd

cysylltiedig yn effeithiol”

[Column 4]

Ffynhonnell gwybodaeth am y broses gyflawni

Cynllun Gweithredu WSSD www.sustainable-development.gov.uk/wssd2/08.htm

Strategaeth Datblygu Cynaliadwy FCO www.fco.gov.uk/sustainabledevelopment

Cynllun Gweithredu WSSD www.fco.gov.uk/sustainabledevelopment

EITI (Menter Tryloywder y Diwydiannau Echdynnu)

www.eitransparency.org

Strategaeth Datblygu Cynaliadwy FCO www.fco.gov.uk/sustainabledevelopment

Datblygu Cynaliadwy FCO www.fco.gov.uk/sustainabledevelopment

Cynllun Gweithredu WSSD www.fco.gov.uk/sustainabledevelopment

[Page 181]

[Column 1]

Blaenoriaethau Rhyngwladol y DU ar gyfer Datblygu Cynaliadwy

Mynediad i ynni (WSSD)

Darparu gwasanaethau ynni dibynadwy a fforddiadwy.

Partneriaethau (WSSD)

Gwella partneriaethau rhwng sefydliadau llywodraethol ac anllywodraethol sy’n

gweithredu i sicrhau datblygu cynaliadwy

Newid yn yr hinsawdd

Annog gwledydd i gadarnhau protocol Kyoto.

[Column 2]

Adran(nau) Arweiniol (Adrannau eraill sy’n gysylltiedig)

DFID (Defra, DTI, FCO)

Defra (DFID, FCO, DTI, HMT, ODPM)

Defra (DTI, DfT, FCO, DFID)

[Column 3]

Targed/Nod lefel uchel

PSA DFID ar gyfer 2005-08 sy’n canolbwyntio ar gyflawni Nodau Datblygu’r

Mileniwm

- Rhyngwladol – sicrhau gwaith dilynol yn system y CU, yn arbennig

Comisiwn Datblygu Cynaliadwy’r CU, a gwaith pellach i hyrwyddo

partneriaethau

- DU – parhau i fonitro a gweithredu ymrwymiadau partneriaeth y DU;

estyn mentrau sy’n bodoli eisoes fel y bo’n briodol

PSA 1 Defra a chanlyniad strategol allweddol:

“cynnydd tuag at ymrwymiadau y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol i fynd i’r afael â’r

newid yn yr hinsawdd”

Y Papur Gwyn ar Ynni:

“gweithio gyda gwledydd eraill i greu consensws ynghylch yr angen i newid ac

ymrwymiadau pendant i weithredu i leihau gollyngiadau carbon deuocsid ledled y

byd o fewn fframwaith yr UNFCC”

Un dull cyflawni allweddol fydd trafodaethau rhyngwladol drwy fframwaith yr

UNFCC a’r UE.

[Column 4]

Ffynhonnell gwybodaeth am y broses gyflawni

‘Energy for the Poor’ www.dfid.gov.uk

Partneriaeth Ynni Adnewyddadwy ac Effeithlonrwydd Ynni www.reeep.org

Partneriaethau yn deillio o WSSD: www.sustainable-development.gov.uk/wssd2

Strategaeth 5 mlynedd Defra

www.defra.gov.uk/corporate/5year-strategy/index.htm

Papur gwyn ar ynni: http://www.dti.gov.uk/energy/whitepapur/ourenergyfuture.pdf.

Blaenoriaethau Rhyngwladol y DU:

Y Strategaeth Ynni

www.co.gov.uk/files/kfile/Energy_Report_281004.pdf

[Page 182]

[Column 1]

Blaenoriaethau Rhyngwladol y DU ar gyfer Datblygu Cynaliadwy

Addysg (ymrwymiad cenedlaethol gwirfoddol)

Cynnydd tuag at gyflawni pob un o’r nodau a’r blaenoriaethau a nodir yn

strategaeth ryngwladol DfES:

Nod 1: ‘Galluogi ein plant, pobl ifanc ac oedolion i fyw mewn cymdeithas fyd-eang

a gweithio mewn economi fyd-eang’

Nod 2: ‘Cysylltu â’n partneriaid rhyngwladol i gyflawni eu nodau hwy a’n nodau

ni’

Nod 3: ‘Cynyddu cymaint â phosibl y cyfraniad y mae ein sector addysg a

hyfforddiant, ac ymchwil gan brifysgolion yn ei wneud at fasnach dramor a

mewnfuddsoddi

[Column 2]

Adran(nau) Arweiniol (Adrannau eraill sy’n gysylltiedig)

DfES

Targed/Nod lefel uchel

Galluogi pob ysgol yn Lloegr i sefydlu partneriaeth gynaliadwy ag ysgol ryngwladol

erbyn 2010

Gweithio gydag asiantaethau’r CU, Banc y Byd a’n partneriaid yn y G8, y

Gymanwlad a’r UE i ddatblygu a chynnig rhaglenni cymorth addysgol, gan gynnwys

arbenigwyr polisi ac arbenigwyr o ymarferwyr a chyfnewid gwybodaeth, yn arbennig

yn Affrica

Meithrin ymwybyddiaeth o faterion rhyngwladol mewn ysgolion drwy wahanol

ffyrdd gan gynnwys ymarfer hyrwyddo blynyddol wedi’i dargedu at y sector addysg a

elwir yn Wythnos Addysg Ryngwladol; a gwefan newydd a elwir yn Borth Byd-eang

sy’n darparu cyfleuster canfod partner ysgol a gwybodaeth gynhwysfawr am

agweddau rhyngwladol ar addysg

[Column 4]

Ffynhonnell gwybodaeth am y broses gyflawni

‘Putting the World into World-Class Education – An international strategy for

education, skills and children’s services’ www.globalgateway.org

‘Cynllun gweithredu datblygu cynaliadwy ar gyfer Addysg a Sgiliau’

www.teachernet.gov.uk/wholeschools/sd/actionplan

Cyhoeddir cynllun gweithredu ar gyfer y strategaeth yng Ngwanwyn 2005.

Atodiad A

Y Diffiniad o Gymunedau Cynaliadwy a’u Helfennau

Elfennau: yn llawn

Mae cymunedau cynaliadwy yn ymgorffori egwyddorion datblygu cynaliadwy.

Maent yn:

cydbwyso ac yn integreiddio elfennau cymdeithasol, economaidd ac

amgylcheddol eu cymuned

diwallu anghenion cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol

parchu anghenion cymunedau eraill yn y rhanbarth ehangach neu’n

rhyngwladol hefyd i wneud eu cymunedau yn rhai cynaliadwy

Mae cymunedau cynaliadwy yn amrywio, gan adlewyrchu eu hamgylchiadau lleol.

Nid oes unrhyw dempled safonol sy’n addas i bob un ohonynt. Ond dylent fod yn

gymunedau:

(1) GWEITHGAR, CYNHWYSOL A DIOGEL – cymunedau teg, goddefgar a

chydlynol a chanddynt ddiwylliant lleol cryf a gweithgareddau cymunedol eraill a

rennir

Mae cymunedau cynaliadwy yn cynnig:

ymdeimlad o hunaniaeth gymunedol ac o berthyn i’r gymuned

goddefgarwch, parch a chysylltu â phobl o wahanol ddiwylliannau,

cefndiroedd a chredoau

ymddygiad cyfeillgar, cydweithredol a chymwynasgar mewn cymdogaethau

cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau diwylliannol, hamdden, cymunedol,

chwaraeon a gweithgareddau eraill, gan gynnwys ar gyfer plant a phobl ifanc

lefelau isel o droseddu, cyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda

phlismona sy’n ystyriol o’r gymuned

cynhwysiant cymdeithasol a chyfleoedd bywyd da i bawb

(2) WEDI’U RHEDEG YN DDA – gyda chyfranogiad, cynrychiolaeth ac

arweinyddiaeth effeithiol a chynhwysol

Mae gan gymunedau cynaliadwy:

systemau llywodraethu cynrychioliadol, atebol sy’n hwyluso arweinyddiaeth

strategol, gweledigaethol ac yn galluogi cyfranogiad cynhwysol, gweithgar ac

effeithiol gan unigolion a sefydliadau

prosesau cysylltu effeithiol â’r gymuned ar lefel y gymdogaeth, gan gynnwys

y gallu i feithrin sgiliau, gwybodaeth a hyder y gymuned

partneriaethau cryf, hyddysg ac effeithiol sy’n arwain drwy esiampl (e.e.

llywodraeth, busnes, cymuned)

sector cymunedol a gwirfoddol cryf, cynhwysol

ymdeimlad o werthoedd, cyfrifoldeb a balchder dinesig

(3) AMGYLCHEDDOL SENSITIF – sy’n darparu lleoedd i bobl fyw ynddynt sy’n

ystyriol o’r amgylchedd

Mae cymunedau cynaliadwy yn:

ceisio lleihau’r newid yn yr hinsawdd i’r eithaf, gan gynnwys drwy

effeithlonrwydd ynni a thrwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy

diogelu’r amgylchedd, drwy leihau llygredd ar dir, mewn dðr ac yn yr awyr i’r

eithaf

defnyddio adnoddau naturiol yn effeithlon, gan hyrwyddo cynhyrchu a

defnyddio cynaliadwy

diogelu ac yn gwella bioamrywiaeth (e.e. cynefinoedd bywyd gwyllt)

galluogi ffordd o fyw sy’n lleihau effeithiau amgylcheddol negyddol i’r eithaf

ac yn cynyddu effeithiau cadarnhaol (e.e. drwy greu cyfleoedd i gerdded a

becio, a lleihau llygredd sðn a’r ddibyniaeth ar geir)

creu cymdogaethau glanach, diogelach a gwyrddach (e.e. drwy leihau ysbwriel

a graffiti, a chynnal a chadw mannau cyhoeddus dymunol

(4) WEDI’U CYNLLUNIO AC WEDI’U HADEILADU’N DDA – sy’n cynnwys

amgylchedd adeiledig a naturiol o safon

Mae cymunedau cynaliadwy yn cynnig:

ymdeimlad o le (e.e. lle sy’n ennyn ymdeimlad cadarnhaol mewn pobl a

hynodrwydd lleol

mannau cyhoeddus a gwyrdd sy’n hawdd eu defnyddio lle y ceir cyfleusterau

ar gyfer pawb gan gynnwys plant a phobl hþn

amrywiaeth digonol o dai digon fforddiadwy a hygyrch o fewn marchnad dai

gytbwys

maint, graddfa, dwysedd, cynllun a diwyg priodol, gan gynnwys datblygiadau

defnydd cymysg, sy’n ategu cymeriad lleol nodedig y gymuned

adeiladau o safon, adeiladau defnydd cymysg, adeiladau cadarn, hyblyg ac

addasadwy, gan ddefnyddio deunyddiau adeiladu cynaliadwy

adeiladau a mannau cyhoeddus sy’n hyrwyddo iechyd ac a gynlluniwyd i

leihau lefelau troseddu a gwneud i bobl deimlo’n ddiogel

cyfleoedd i gael mynediad i swyddi a gwasanaethau a chyfleusterau allweddol

ar drafnidiaeth gyhoeddus, ar droed neu ar gefn beic

(5) GYDA CHYSYLLTIADAU DA – lle y ceir gwasanaethau trafnidiaeth a

chysylltiadau da yn cysylltu pobl â swyddi, ysgolion, gwasanaethau iechyd a

gwasanaethau eraill

Mae cymunedau cynaliadwy yn cynnig:

cyfleusterau trafnidiaeth, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, sy’n helpu

pobl i deithio o fewn cymunedau a rhyngddynt a lleihau’r ddibyniaeth ar geir

cyfleusterau i hyrwyddo cerdded a seiclo diogel yn lleol

lefel briodol o gyfleusterau parcio lleol yn unol â chynlluniau lleol i reoli’r

galw o ran traffig y ffordd

systemau telathrebu effeithiol sydd ar gael yn eang a mynediad i’r Rhyngrwyd

mynediad da i rwydweithiau cyfathrebu rhanbarthol, cenedlaethol a

rhyngwladol

(6) FFYNIANNUS – a chanddynt economi ffyniannus ac amrywiol

Nodweddir cymunedau cynaliadwy gan:

amrywiaeth eang o swyddi a chyfleoedd hyfforddi

digon o dir ac adeiladau addas i gefnogi ffyniant economaidd a newid

prosesau creu swyddi a busnesau deinamig, sy’n dod â manteision i’r

gymuned leol

cymuned fusnes gref a chanddi gysylltiadau i mewn i’r economi ehangach

canol trefi atyniadol sy’n hyfyw yn economaidd

(7) GYDA GWASANAETHAU DA - a chanddynt wasanaethau cyhoeddus, preifat,

cymunedol a gwirfoddol sy’n briodol i anghenion pobl ac sydd ar gael i bawb

Mae gan gymunedau cynaliadwy:

ysgolion lleol sy’n perfformio’n dda, sefydliadau addysg bellach ac uwch, a

chyfleoedd eraill ar gyfer dysgu gydol oes

gwasanaethau gofal iechyd a gwasanaethau cymdeithasol lleol o safon, wedi’u

hintegreiddio â gwasanaethau eraill lle bynnag y bo modd

gwasanaethau o safon ar gyfer teuluoedd a phlant (gan gynnwys gofal plant yn

ystod y blynyddoedd cynnar)

amrywiaeth dda o wasanaethau cyhoeddus, cymunedol, gwirfoddol a phreifat

fforddiadwy (e.e. manwerthu, bwyd ffres, masnachol, cyfleustodau,

gwybodaeth a chyngor) sydd ar gael i’r gymuned gyfan

darparwyr gwasanaethau sy’n meddwl ac yn gweithredu am y tymor hir a’r tu

hwnt i’w ffiniau daearyddol a diddordeb eu hunain, ac sydd hefyd yn cynnwys

defnyddwyr a thrigolion lleol yn y broses o lywio eu polisi a’u harfer

(8) TEG I BAWB – gan gynnwys y bobl hynny mewn cymunedau eraill, yn awr ac yn

y dyfodol

Mae cymunedau cynaliadwy yn:

cydnabod hawliau a chyfrifoldebau unigolion

parchu hawliau a dyheadau eraill (o gymunedau cyfagos, a ledled y byd) i fod

yn gynaliadwy hefyd

yn rhoi sylw priodol i anghenion cenedlaethau’r dyfodol yn y penderfyniadau

a wnânt a’r camau a gymerant heddiw

Argraffwyd yn y DU ar gyfer y Llyfrfa Gyfyngedig

ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi

03/05, 176844

TSO

Cyhoeddwyd gan TSO (Y Llyfrfa). Mae ar gael gan:

Ar-lein

www.tso.co.uk/bookshop

Post, Ffôn, Ffacs ac E-bost

TSO

Blwch PO 29, Norwich NR3 1GN

Archebion dros y ffôn/Ymholiadau cyffredinol: 0870 600 5522

Archeb drwy’r Llinell Gymorth Seneddol Lo-call 0845 7 023474

Archebion ffacs: 0870 600 5533

E-bost: book.orders@tso.co.uk

Ffôn testun 0870 240 3701

Siopau TSO

Fax = Ffacs

18-19 Heol Fawr, Caerdydd CF10 1PT

Asiantiaid Achrededig TSO

(gweler Yellow Pages)

a thrwy lyfrwerthwyr da

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!