Employability - Swansea University
Employability - Swansea University
Employability - Swansea University
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Astudiaethau Achos

Rhianedd Rhys

MA Cyfi eithu gyda Thechnoleg Iaith

Dysgais gymaint ar y cwrs MA Cyfieithu

gyda Thechnoleg Iaith. Ar y naill law, mae’r

modiwlau iaith wedi fy helpu i loywi ambell

agwedd ar fy Nghymraeg ysgrifenedig, ac

yn sgil y modiwlau theori, y mae gen i well

syniad o’r hyn ydyw cyfieithu da. Wedyn,

wrth gwrs, mae’r ochr dechnoleg wedi agor

byd newydd i mi. Bellach gallaf ddefnyddio

meddalwedd cof cyfeithu’n hyderus, ac

mae’n sgil penodol yr wyf yn awr yn gallu ei

gynnig i gleientiaid.

Jo Edwards

BA mewn

Gwleidyddiaeth

Fe ddewisais i fy nghwrs yn Abertawe

oherwydd bod cyfle unigryw i ddilyn

modiwl interniaeth yn y Cynulliad, a oedd

yn anhygoel - ac yn brofiad diddorol dros

ben! Ces i gyfle i gael cip ‘y tu ôl i’r llenni’

yng ngwleidyddiaeth Cymru. Pan ddes i ar

ymweliad â Phrifysgol Abertawe gyntaf fe

ges i lyfryn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau

Rhyngwladol a oedd yn dweud ‘Agorwch

eich meddwl’ ar y clawr. Bedair blynedd yn

ddiweddarach, galla i ddweud fy mod yn

bendant wedi gwneud hynny. Mae astudio

Gwleidyddiaeth yn rhoi cyfle i chi ofyn

cwestiynau, cael hyd i atebion, ac yna gofyn

llwyth o gwestiynau newydd! Bellach rwy’n

addysgu Llywodraethu a Gwleidyddiaeth

mewn ysgol uwchradd.

Sut rydym ni’n datblygu cyflogadwyedd?

Cynhyrchu graddedigion â chymwysterau yn y celfyddydau a’r dyniaethau

sydd wedi eu paratoi ar gyfer ystod amrywiol o yrfaoedd cyffrous ar ôl

graddio

Mentora ein myfyrwyr - pwysleisio’r sgiliau trosglwyddadwy allweddol

maent yn eu datblygu trwy eu hastudiaethau academaidd, gan gynnwys

sgiliau iaith Gymraeg a dwyieithog

Ymrwymo i fewnosod cyfleoedd i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy ar

bob lefel wrth addysgu

Cysylltu â chyflogwyr ynghylch datblygiad y cwricwlwm er mwyn sicrhau

ein bod yn cynnig modiwlau sy’n gwella deilliannau dysgu a rhagolygon

gyrfa ein graddedigion

Sut rydym ni’n datblygu cyflogadwyedd?

Lleoliadau gwaith

Dysgu yn y Gweithle (WBL)

Cyfnewidfeydd Rhyngwladol

Gweithdai gan arweinwyr proffesiynol

Interniaethau rhanbarthol a rhyngwladol

Gwirfoddoli

Pa gefnogaeth rydym ni’n ei chynnig?

Mentora

Gwobr Gyflogadwyedd Abertawe

Modiwlau cyfrwng Cymraeg a modiwlau iaith Gymraeg i ddysgwyr

Interniaethau cyfrwng Cymraeg

Gyda phwy rydym ni’n gweithio?

Llywodraeth Genedlaethol a Lleol - Cynulliad Cenedlaethol Cymru a

Chabinet Cyngor Abertawe

Sector y Gyfraith - Llys Ynadon Llanelli

Y Sector Addysg - Gwasanaeth Effeithiolrwydd Addysg Dinas a Sir

Abertawe; Ysgolion Cynradd mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf

yn Abertawe; Prosiect Iris; Ysgol Gynradd Brynmill; Uned Polisi Iaith

Gymraeg Prifysgol Aberystwyth a Swyddfa ENTS Undeb Myfyrwyr

Prifysgol Abertawe

Y Cyfryngau a Chyhoeddwyr - ITV Wales, Cylchgrawn Waterfront, South

Wales Evening Post, Llanelli Star, Cylchgrawn Swansea Life, Gwasg

Gomer, Tinopolis a TELESGOP

Cwmnïau Cysylltiadau Cyhoeddus - MGB a Golley Slater

Sefydliadau Diwylliannol a Threftadaeth - Gardd Fotaneg Genedlaethol

Cymru, Menter Iaith Abertawe, Llên Cymru, Y Ganolfan Eifftaidd,

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg Gwent ac Amgueddfa

Abertawe

Llyfrgelloedd ac Archifau - Archifau Richard Burton, Archif Undeb

Myfyrwyr Prifysgol Abertawe

Cwmnïau Cyfieithu - Veritas Language Solutions a Wolfstone Translation

Sefydliadau Trydydd Sector - Rhwydwaith Menywod o Leiafrifoedd Ethnig,

Canolfan Ddydd Cwmbwrla a Chaerlas: Prosiect Connect

Claire Slobodian

BA yn y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg ac MA mewn

Newyddiaduraeth Gymharol

Sharon Stephens a Rachel Bryan. Rheolwr-gyfarwyddwyr

Veritas Language Solutions (Enillwyr Gwobr Start-up Stars

HSBC, 2010). Graddau BA mewn Astudiaethau Cyfieithu

Ar ôl astudio ym Mhrifysgol Abertawe roedd gen i gydbwysedd da o

wybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau newyddiaduraeth ymarferol, a oedd

yn fy ngalluogi i ysgrifennu newyddion ac erthyglau nodwedd mewn ffordd

effeithiol a datblygu portffolio cadarn o waith. Bu’r agwedd fyd-eang at

newyddiaduraeth yn fy helpu i ddatblygu golwg ehangach ar gyfryngau’r

byd a gwerthfawrogi pwysigrwydd technolegau newydd ym maes cyhoeddi.

Bu hyn yn ddefnyddiol iawn gan fy mod bellach yn gweithio yn Shanghai,

Tsieina, yn olygydd gwe ar gyfer cylchgrawn Time-Out.