Gwenynwyr Cymru The Welsh Beekeeper
Download Resource - Welsh Beekeepers' Association
Download Resource - Welsh Beekeepers' Association
- No tags were found...
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Trafferthion a threialon Gwenynwraig

newydd – pennod 3

Lilian Llewelyn

Wedi gaeaf o wersi theori a gwanwyn o wersi ymarferol yn y

wenynfa rwy’n barod i ddechrau’m gyfra fel gwenynwraig .. mae gen

i siwt, wellies a marigolds, mae gen i gwch a’r holl offer. I gyd sy

angen nawr yw’r gwenyn ac mae sawl posibilrwydd.

Mehefin 2011 - Mae’r tywydd yn hyfryd a gwenyn wedi symud i

mewn i ffrâm ffenestr ‘stafell wely ni. Ffawd neu beth? Rwy’n symud

y cwch gwenyn newydd gwag fel nad oes modd i’r gwenyn fethu’u

cartref pump seren newydd wrth hedfan nôl a mlaen o’r tŷ. Rwy’n

archebu dwy becyn o hud heidiau (swarm lure) oddiar Ebay, gan

roi un yn y cwch a’r llall mewn bocs plastig yn y rhewgell ar gyfer y

dyfodol. Ac yn eistedd nôl ac yn aros. Ac yn aros. Ac yn aros. Mae’r

tywydd yn dwym, digon twym i ni gynnau’r barbeciw a’n chiminea

newydd – sy’n cynhyrchu llawer o fwg, a dim gwres. Fod yn onest

mae gymaint o fwg fel bod rhaid i ni guddio yn y tŷ am weddill y

nos. Erbyn y bore nid yn unig ni sy wedi ffoi’r mwg – mae’r gwenyn

wedi paco lan ac wedi hedfan bant.

Dyma siawns yn dilyn gwers yn y wenynfa un bore Sul i weld un

o’m cyd-ddechreuwyr o’r dosbarth nos yn gosod ei wenyn newyddgyrraedd

yn eu cwch. Mae’r cwch wedi gosod yng nghanol adfeilion

hen feudy ar waelod yr ardd. Mae digon o haul ac eto mae’n

man cysgodlyd ac mae’n gyfleus i’r tŷ. Ryn ni’n sefyll yno yn yr

heulwen a blodau’r ddraenen yn gorchuddio’r waliau gan glywed

yn glir murmur y gwenyn yn aros yn awchus yn eu bocs cnewyllen

polystyren, wedi teithio’r diwrnod cynt o ganolbarth Cymru. Mae

John, ein athro dosbarth nos, wedi cynnig dod i gynorthwyo. A ni i

gyd yn sefyll nôl .. yn ddigon pell nôl .. yn ei wylio. Mae’n syndod

pa mor gyflym mae’r gwenyn yn llifo i mewn i’r cwch. Mae’n syndod

hefyd i glywed o fewn dyddiau eu bod nhw wedi heidio – wedi

hedfan bant, byth i’w gweld eto.

A digon ryfedd ond dyna ffawd un arall brynodd gwenyn o’r un

ffynhonell – o fewn diwrnodau y gwenyn wedi heidio ond, trwy lwc,

y tro yma, heb heidio yn ddigon pell a roedd modd eu casglu a rhoi

nôl yn y cwch.

Colled i un ond ennill i rywun arall. A dyma’r ail bosibilrwydd -

haid. Mae’n fwriad gan ein clwb, The West Glamorgan Beekeepers

Association, i roi unrhyw heidiau sy’n cael eu casglu i ddechreuwyr.

Yr unig broblem yw’r diffyg heidiau yn haf 2011. Wel, os nad oes

The Welsh Beekeeper #182 18

Autumn 2013