16.09.2015 Views

Gwenynwyr Cymru The Welsh Beekeeper

Download Resource - Welsh Beekeepers' Association

Download Resource - Welsh Beekeepers' Association

SHOW MORE
SHOW LESS
• No tags were found...

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

modd i’r clwb roi un i fi bydd rhaid i mi chwilio am fy haid fy hun.

‘Dwi dros fy hanner cant a byth wedi gweld haid ond nawr rwy’n

cerdded y ci bob dydd gan edrych i fyny i’r coed ac i mewn i’r perthi.

Rwy’n sicr fod heidiau yn cuddio ymhob man. I gyd sy angen yw

edrych yn ddigon agos a byddaf siwr o ddod o hyd i un. Mae’n wyrth

i mi beidio baglu neu golli’r ci.

Stori yn yr Evening Post am fachgen yn cael ei bigo gan wenynen

o haid mewn cae cyfagos yn Sgeti a’r ci a finnau a’r ferch (sy’n

achwyn yn ddibaid) yn mynd allan am awr i gerdded rownd pob un

cae posibl. Dim byd, tan i ni gyrraedd nôl i’r tŷ a’r ci yn cwympo i

mewn i’r afon, reit ar ben nyth gwenyn sy wedi adeiladu ar lan yr

afon. Ffawd siwr. Ond, cyn eu gasglu man a man checio’r we a na,

hwrlibymiaid ydy nhw. Ond son am le twp i adeiladu nyth a wir, o

fewn wythnosau, dyma glaw trwm yn dod a’r nyth yn cael ei golchi i

ffwrdd.

Ebost yn cyrraedd. Boi wedi cysylltu â’n clwb gwenyn gan ddweud

iddo gael adwaith gwael i bigiadau a’i fod am werthu ei holl wenyn

a’i gychod a phopeth. I mi fel dechreuwr mae’r gost tipyn bach yn

uchel ond ‘dwi’n anfon ebost .. a ddim yn cael ateb.

Ond mae’n ddigon o hwb i mi i ddechrau chwilio o ddifri am wenyn.

Rwy’n awyddus i gael gwenyn lleol ac yn cael hyd i ddwy rif ffôn am

bobl sy’n gwerthu gwenyn yn ardal Abertawe. Wedi peth drafod am

y pris dyma fi’n cytuno prynu coloni.

14 Mehefin 2011 – y diwrnod mawr – y gwenyn yn cyrraedd! Rydym

yn cwrdd gyda’r hwyr a’r gwenyn yn cael eu cyflwyno i’w cartref

newydd. Dyma’r tro cyntaf i mi gwrdd ag Ade Bowen, arolygydd

gwenyn lleol i ni, a boi sydd mor addfwyn wrth drin gwenyn. Rwy’n

amau os byddaf erioed mor ofalus a mor fedrus a thyner wrth eu

trin. A dyma ni, erbyn wyth o’r goch mae’r gwenyn yn eu cwch a

finnau yn wenynwraig go iawn o’r diwedd.

Gwenynwyr Cymru #182 19

Hydref 2013

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!