04.07.2016 Views

Cymraeg Welsh Bacc Conf Prog 2016

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

Cynhadledd Athrawon Bagloriaeth

Cymru 2016

Dydd Mawrth 5 Gorffennaf 2016

Lleoliad: Canolfan Addysgu Ôl-raddedigion Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd

Croeso i ail Gynhadledd

Athrawon Bagloriaeth Cymru

Prifysgol Caerdydd. Cefnogir

y gynhadledd gan Brosiect

Partneriaeth Ysgolion Prifysgol

Caerdydd fel rhan o fenter

Partneriaeth Ysgolion a

Phrifysgolion Cyngor Ymchwil

y DU i’r DU gyfan.

Cafodd y digwyddiad eleni, sy’n cael ei gynnal

gan Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol, ei

ddatblygu ar y cyd rhwng ymchwilwyr o bob rhan

o’r brifysgol, CBAC ac athrawon ymgynghorol.

Gyda’n gilydd rydym wedi datblygu rhaglen

o weithdai ac adnoddau ymgysylltu arloesol

dan arweiniad ymchwilwyr gyda’r nod o helpu

athrawon i gyflwyno’r CBC newydd. Bydd y

digwyddiad fforwm amser cinio hefyd yn cynnig

adnoddau a gwybodaeth ar gyfer athrawon a

gefnogir gan ein sefydliadau partner Llywodraeth

Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Amgueddfa

Cymru, Gweld Gwyddoniaeth a FirstBite.

Rhaglen

8.30am

9.00am

9.30am

Cyrraedd a Chofrestru gyda

lluniaeth ysgafn

Croeso a Chyflwyniad i’r Diwrnod

Rhys Jones, Prifysgol Caerdydd:

Caroline Morgan, CBAC

Anerchiad Agoriadol

Yr Athro Patricia Price, Dirprwy Isganghellor

Profiad Myfyrwyr a Safonau

Academaidd Prifysgol Caerdydd

9.45am Gweithdy 1

10.55am Gweithdy 2

Dyrennir dwy sesiwn i’r cynadleddwyr o

blith gweithdai’r bore a restrir gyferbyn.

Mae’r rhain ar gael yn eich rhaglen

unigol ar gyfer y diwrnod.

12 hanner Cinio a Fforwm

dydd Bydd cinio bwffe yn cael ei weini

a bydd cynrychiolwyr yn cael cyfle

i ymweld â’n digwyddiad Fforwm

Bagloriaeth Cymru lle bydd Prifysgol

Caerdydd a sefydliadau partner yn

arddangos gwahanol brosiectau ac

adnoddau sydd ar gael i athrawon.

1.00pm Gweithdy Prynhawn 3

2.00pm Gweithdy Prynhawn 4

Dyrennir dwy sesiwn i’r cynadleddwyr

o blith y rhestr o weithdai’r prynhawn

gyferbyn. Mae’r rhain ar gael yn eich

rhaglen unigol ar gyfer y diwrnod.

3.00pm

3.15pm

Sesiwn Lawn

Anerchiad i gloi gan Dr Ian Jones

Gorffen

Siaradwyr

Mae’r Athro Patricia Price yn Ddirprwy Is-Ganghellor,

Profiad Myfyriwr a Safonau Academaidd

Mae’r Athro Patricia Price yn Seicolegydd Iechyd

Siartredig ac mae wedi gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd

ers 1996. Mae hi’n gyfrifol am raglenni astudio’r

Brifysgol, ei safonau academaidd ac ansawdd profiad

y myfyrwyr. Fel Dirprwy Is-Ganghellor, mae’r Athro Price

hefyd yn aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol. Yn

ystod ei gyrfa, mae’r Athro Price wedi cyhoeddi dros

180 o erthyglau mewn cyfnodolion a phenodau llyfr a

adolygwyd gan gymheiriaid, ac mae hi’n adolygwr ar

gyfer amrywiaeth o gyrff dyfarnu ym maes iechyd. Mae

hi’n aelod o fwrdd golygyddol nifer o gyfnodolion ac yn

Ymgynghorydd Ystadegol i’r International Wound Journal.

Caroline Morgan, Rheolwr Fframwaith Sgiliau a

Bagloriaeth Cymru

Mae’n gyfrifol am ddatblygu, asesu a dyfarnu

Cymwysterau Bagloriaeth Cymru ar ran CBAC.

Rhys Jones – Arweinydd Prosiect ar gyfer

Cynhadledd Bagloriaeth Cymru 2016

Mae Rhys yn Ddarlithydd mewn Dulliau Meintiol

(addysg bellach). Mae hefyd yn aelod o dîm Q-Step

Caerdydd sy’n gyfrifol am ddatblygu cymwysterau

ym maes Dadansoddeg Gymdeithasol (http://

sites.caerdydd.ac.uk/qstep). Fel arweinydd addysg

bellach, mae Rhys yn gweithio ledled y DU gydag

ysgolion, colegau, Llywodraeth Cymru a chyrff dyfarnu

i godi proffil ystadegau cyd-destunol yng nghyfnodau

allweddol 4 a 5. Mae’n aelod o fwrdd addysg y DU

yn y Gymdeithas Ystadegol Frenhinol, yn ogystal â’r

Ymddiriedolaeth Addysgu Ystadegau sy’n datblygu

safonau achredu newydd ar hyn o bryd ar gyfer

cyrsiau gradd sydd â chynnwys ystadegol. Mae Rhys

wedi gweithio ym meysydd biocemeg ac imiwnoleg,

ac mae ganddo dros 9 mlynedd o brofiad o addysgu

gwyddoniaeth a mathemateg/ystadegau mewn

colegau addysg bellach a phrifysgolion.

Dr Ian Jones, Swyddog Ymgysylltu a Chymorth Ysgol

Gwyddorau Cymdeithasol Caerdydd (Wedi Ymddeol)

sydd bellach yn Gyfarwyddwr FirstBite

Mae Ian Jones yn gyn-arbenigwr arloesedd a sgiliau

academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae hefyd

yn gyn-Bennaeth Adran Ysgol Uwchradd. Mae bellach

yn gyfarwyddwr FirstBite, gwasanaeth cymorth blogio

ar-lein newydd ar gyfer athrawon, sy’n cael sylw yn

nigwyddiad fforwm amser cinio heddiw.

Mae’r Gynhadledd yn un o nifer o brosiectau Bagloriaeth Cymru y mae prosiect Partneriaeth Ysgolion y

Brifysgol yn eu cydlynu. I ddysgu rhagor am y cymorth cwricwlwm a gynigir ym Mhrifysgol Caerdydd ewch i:

http://sites.cardiff.ac.uk/curriculumsupport/subjects/welsh-baccalaureate

neu e-bostiwch Sue Diment, Swyddog Prosiect Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Caerdydd:

Teacher@cardiff.ac.uk

Disgrifiadau o’r Gweithdai

Gweithdai’r Bore

Adnoddau Addysgu Hyblyg ar gyfer Prosiectau

Gwyddoniaeth

Dr Sheila Amici-Dargan

Deilliant/Deilliannau Dysgu: DD3, DD4, DD5, DD6, DD7

Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn arddangos rhai

adnoddau addysgu unigryw sy’n seiliedig ar ymchwil

wyddonol rydym wedi bod yn eu cynllunio’n fwriadol ar

gyfer defnydd hyblyg mewn ysgolion uwchradd. Wedi

hynny, bydd trafodaeth agored ar sut y gallwn deilwra’r

adnoddau hyn yn fwy priodol i ddiwallu anghenion

athrawon sy’n cyflwyno CBC.

Dylunio Prosiect Ymchwil Defnyddio gwybodaeth yn

feirniadol – agweddau allweddol a pheryglon

Dr Honor Young

Deilliant/Deilliannau Dysgu: DD4, DD5, DD7

Bydd y sesiwn yn defnyddio deunydd o gyfnodolion

academaidd, adroddiadau’r llywodraeth a’r cyfryngau

poblogaidd i sbarduno trafodaeth ynghylch y defnydd

o dystiolaeth empeiraidd mewn adroddiadau ac yn

y cyfryngau, a hyrwyddo defnyddio gwybodaeth yn

feirniadol. Bydd yn canolbwyntio ar wallau cyffredin wrth

ddylunio, cyflwyno a dehongli dadansoddiad ystadegol

yn fethodolegol, yn ogystal â chynnig cyfres o gamau i’w

cymryd wrth ddefnyddio gwybodaeth yn feirniadol.

Defnydd (a Chamddefnydd) o Ddamcaniaethau –

Annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol am sut mae

damcaniaethau gwleidyddol ac economaidd yn cael

eu defnyddio

Dr Huw Williams

Deilliant/Deilliannau Dysgu: DD5, DD7

Bydd y gweithdy hwn yn canolbwyntio ar dlodi bydeang,

ac yn benodol, achosion o ‘ddiffyg datblygiad’

mewn rhai gwladwriaethau. Bydd y gweithdy’n ceisio

annog dealltwriaeth o’r gwahanol naratifau sy’n sail i

esboniadau o dlodi, a sut maent yn cael eu defnyddio

mewn dadleuon normadol neu foesol mewn perthynas

â thlodi byd-eang.

Datblygu Sgiliau Meddwl yn Feirniadol yn y Biowyddorau

Dr Henrietta J. Standley

Deilliant/Deilliannau Dysgu: DD3

Mae unrhyw brosiect ymchwiliol yn gofyn am astudio

paratoadol helaeth er mwyn deall cefndir y pwnc, i

ffurfio cwestiwn ymchwil ystyrlon, ac i fod mewn sefyllfa

i ysgrifennu cyflwyniad effeithiol ar gyfer adroddiad y

prosiect. Bydd y sesiwn hon yn cynnwys dau ymarfer,

y cyntaf am ddatblygu sgiliau meddwl yn feirniadol

gan ddefnyddio erthygl o ddiddordeb cyffredinol yn

ymwneud â’r gwyddorau biofeddygol a bywyd, a’r ail

am sut i gyfeirnodi ffynonellau o wybodaeth mewn

adroddiad ysgrifenedig ar gyfer prosiect. Gellir addasu’r

ddau ymarfer i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.

Gweithdai’r Prynhawn

Data beirniadol: Dylunio Holiaduron

Cara Jones

Deilliant/Deilliannau Dysgu: DD2

Er mwyn cwblhau eu Prosiectau unigol yn llwyddiannus,

mae angen i’r holl fyfyrwyr gasglu data sylfaenol.

Y ffordd fwyaf cyffredin o wneud hyn yw drwy arolwg

neu holiadur. Bydd y gweithdy hwn yn rhoi cyflwyniad

i ddylunio holiadur, yn ogystal ag ateb cwestiynau

ymarferol fel pa fath o holiadur y gellir ei ddylunio a

beth yw’r ffordd orau o’i ddosbarthu.

Ysbrydoli Dysgwyr a Meithrin hyder

Tracy Eastment

Deilliant/Deilliannau Dysgu: Pob DD

Bydd y sesiwn yn cynnig syniadau i athrawon ar sut

i greu cyfle i’w dysgwyr ymchwilio i bwnc penodol

yn fanwl drwy gynnal darn bach o ymchwil data

eilaidd. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ddysgwyr datblygu

eu llythrennedd ymchwil a hyrwyddo gwaith ymchwil

/ ymholiad i bwnc sydd o ddiddordeb iddynt. Mae

datblygu sgiliau ymchwil da yn hanfodol wrth fodloni

disgwyliadau’r Prosiect Unigol.

Cyflwr Ieuenctid: Sut i addysgu Sgiliau Ymchwil yn

yr Ystafell Ddosbarth

Dr Ian Jones

Deilliant/Deilliannau Dysgu: Pob DD

Drwy dechnegau hawdd i’w deall, caiff ffyrdd

llwyddiannus o ennyn diddordeb dysgwyr nad ydynt yn

gyfarwydd ag ymchwil eu cyflwyno i athrawon. Bydd

y sesiwn yn cynnwys awgrymiadau ar sut i feddwl am

gynhyrchu gwybodaeth mewn ffyrdd newydd. Dangosir

sut i wneud hyn drwy weithio drwy adnodd ar-lein

enghreifftiol. Gwahoddir pawb sydd â diddordeb i

ymuno â rhaglen arolwg ar y cyd ‘Cyflwr Ieuenctid’

– lle gall athrawon ddilyn canllaw cam wrth gam i

ddylunio ymchwil a chasglu a dehongli data.

Dod o hyd i’r dystiolaeth a’i gwerthuso

Rebecca Mogg

Deilliant/Deilliannau Dysgu: DD3

Bydd y gweithdy hwn yn canolbwyntio ar ddysgu

deilliant dysgu rhif tri elfen Prosiect Unigol Diploma

Uwch Bagloriaeth Cymru. Yn seiliedig ar dechnegau

a ddefnyddir gan lyfrgellwyr Prifysgol Caerdydd, bydd

yn awgrymu dulliau ar gyfer datblygu sgiliau dysgwyr

wrth gynnal chwiliad cynhwysfawr ac effeithiol ar gyfer

gwybodaeth eilaidd ac i benderfynu ar hygrededd y

wybodaeth a ganfyddir. Ymdrinnir rhywfaint â dulliau

addysgu ar gyfer pynciau cyfeirnodi ac osgoi llênladrad

hefyd.

Fforwm Amser Cinio

Cyfranwyr o Brifysgol Caerdydd

Canolfan PRIME Prifysgol Caerdydd a DECIPHeR

Cyfle i gymryd rhan mewn prosiect ymchwil lleoliad

blaenoriaeth i ymchwilio i’r hyn mae angen i athrawon

ei wneud er mwyn cefnogi eu myfyrwyr sy’n ymgymryd

â‘r Ymchwiliad Unigol.

Sioe Deithiol Addysg Uwch Prifysgol Caerdydd

Dysgwch ragor am Dîm Ehangu Cyfranogiad a rhaglen

Sioe Deithiol Addysg Uwch y Brifysgol - gan gynnwys

y sesiynau Bagloriaeth Cymru newydd y gellir eu

cyflwyno mewn ysgolion ledled Cymru gan staff y

Brifysgol a myfyrwyr PhD.

Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgol Prifysgol

Caerdydd DECIPHer

Gwybodaeth am Rwydwaith Iechyd Ysgol y Brifysgol a‘r

defnydd posibl o Adroddiadau Iechyd a Lles Myfyrwyr

wedi’u teilwra o fewn CBC.

Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd

Dysgwch fwy am yr adnoddau Bagloriaeth Cymru

sydd ar gael i athrawon - codwch gopïau o adnoddau

astudiaeth achos a luniwyd gydag athrawon i gefnogi

ymchwil ddaearyddol mewn addysgu ysgol uwchradd.

Mae’r pynciau’n cynnwys effeithiau amgylcheddol

digwyddiadau chwaraeon mawr ac ‘uwchraddio slymiau

yn y byd datblygol’.

Prifysgol Caerdydd – Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Sgwrsiwch â staff Ysgol Bensaernïaeth Cymru a

dysgwch fwy am eu hadnoddau Bagloriaeth Cymru

sydd ar gael i ysgolion a cholegau.

Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd

Dewch i ddysgu rhagor am raglen digwyddiadau ac

adnoddau’r Ysgol Meddygaeth a all helpu i ysbrydoli

a chefnogi myfyrwyr sy’n dilyn Prosiect Unigol y

cymhwyster Bagloriaeth Cymru newydd a llawer,

llawer mwy.

Cyfranwyr o Sefydliadau Partner

Amgueddfa Cymru

Trosolwg o adnoddau Bagloriaeth Cymru yr Amgueddfa

ar gyfer ysgolion a cholegau yn ogystal ag adnoddau

addysgol eraill.

Prosiect FirstBite

Cydweithrediad newydd, arloesol sy’n gweithio mewn

partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd ac athrawon a

darlithwyr mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru

(yn Gymraeg hefyd). Nod FirstBite yw cefnogi

datblygiad addysgeg athrawon sy’n addysgu sgiliau

sy’n gysylltiedig ag ymchwil ar gyfer disgyblion oed

cynradd, drwy Gyfnod Allweddol 3, 4 a 5 hyd at

fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol. Mae’r model

rhaeadru hwn o gefnogaeth a datblygu sgiliau yn ei

gamau peilot cychwynnol. Ymwelwch â’r stondin i gael

gwybod mwy ac i gymryd rhan. Sesiwn amser cinio am

12.30 yn y Fforwm.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru – Gwasanaeth

Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc

Dysgwch ragor am ymweliadau CBC â Bae Caerdydd, a

Gweithdy Sgiliau Allgymorth ar gyfer myfyrwyr CBC.

Gweld Gwyddoniaeth

Ymwelwch â’r stondin hon i ddysgu rhagor am sut

y mae Gweld Gwyddoniaeth yn cefnogi ymgysylltu

ag ysgolion i ysgolion a cholegau. Dysgwch ragor

am ei raglen Llysgenhadon STEM, Gwobrau CREST,

adnoddau BSA a llawer mwy.

Llywodraeth Cymru – Yr Is-adran Cwricwlwm

Gwybodaeth am adnoddau Ieithoedd Tramor Modern

newydd, a’r porth Dysgu Creadigol ar gyfer ysgolion

a cholegau.

CBAC – Tîm Bagloriaeth Cymru

Dysgwch am Fagloriaeth Cymru o 2015 - Mae

Bagloriaeth Cymru ddiwygiedig a mwy trylwyr sy’n

seiliedig ar Dystysgrif Her Sgiliau, sydd bellach

wedi’i graddio. Y nod sylfaenol yw galluogi dysgwyr i

ddatblygu a dangos dealltwriaeth a hyfedredd mewn

sgiliau hanfodol a sgiliau cyflogadwyedd: Cyfathrebu,

Rhifedd, Llythrennedd Ddigidol, Cynllunio a Threfnu,

Creadigrwydd ac Arloesi, Meddwl yn Feirniadol a

Datrys Problemau, ac Effeithiolrwydd Personol.

Mae’r pwyslais ar addysgu cymhwysol a phwrpasol

a rhoi cyfleoedd ar gyfer asesiad mewn amrywiaeth

o gyd-destunau bywyd go iawn drwy dair Brif Her a

Phrosiect Unigol.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!