Formatted speech transcript
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Nodyn Siarad – Swyddfa Archwilio Cymru,

Cyllid ar gyfer y Dyfodol

Simon Thomas AC

Speaking Note – Wales Audit Office,

Finance for the Future

Simon Thomas AM

I AGOR

Bore da,

Hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i Huw am fy

ngwahodd yma heddiw ac am ei araith ddiddorol

- roedd yn dda cael clywed am rolau'r

hyfforddeion ac rwy'n sicr y bydd rhannu

adnoddau yn y modd hwn yn eich helpu i

ddysgu, ac yn rhoi profiad gwerthfawr i chi

mewn rhannau gwahanol o’r sector cyhoeddus

yng Nghymru.

Fel y mae Huw wedi sôn, Cadeirydd y Pwyllgor

Cyllid yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ydw

i, a chefais fy ethol i'r swydd honno gan Aelodau

eraill y Cynulliad ar ddechrau'r Pumed Cynulliad.

Pwyllgor trawsbleidiol yw'r Pwyllgor Cyllid, ac fe'i

sefydlwyd yn bennaf i adrodd ar gynlluniau

gwariant Gweinidogion Cymru - Y Gyllideb.

TO OPEN

Good Morning,

I’d like to start by thanking Huw for inviting me

here today and his interesting speech – it was

fascinating to hear about the roles being

undertaken by the trainees and I am sure this

sharing of resources can only help your learning

and provide you with valuable experience across

the public sector in Wales.

As Huw mentioned, I am the Chair of the

Finance Committee at the National Assembly

for Wales, a position I was elected to by the

other Assembly Members at the start of the Fifth

Assembly. The Finance Committee is a cross

party Committee established primarily to report

on the spending plans of the Welsh Ministers -

The Budget.

CYLCH GWAITH Y PWYLLGOR

Fodd bynnag, mae ein cylch gwaith hefyd yn

cynnwys y gallu i ystyried unrhyw fater sy'n

effeithio ar wariant o Gronfa Gyfunol Cymru -

REMIT OF THE COMMITTEE

However, we also have within our remit the

ability to consider any matter which effects

expenditure out of the Welsh Consolidated
hynny yw, yr arian cyhoeddus y mae

Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei ddyrannu i

Gymru drwy Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Felly,

gall hyn gynnwys amrywiaeth o bynciau. Yn y

Cynulliad blaenorol, roedd hyn yn cynnwys

craffu ar:

gyllido addysg uwch yng Nghymru

effeithiolrwydd cyllid strwythurol Ewropeaidd

Cyllid Cymru

ardaloedd menter

Hefyd, cynhaliodd y pwyllgor hwnnw nifer o

ymchwiliadau wrth baratoi ar gyfer datganoli

cyllidol yng Nghymru, sef pwnc y byddaf yn

dychwelyd ato yn fuan.

Fund- that is the public money allocated to

Wales by the UK Government, via the Secretary

of State for Wales. So this might include a range

of topics. In the previous Assembly this

included scrutinising:

Higher Education Funding in Wales

The effectiveness of European Structural

funding

Finance Wales

Enterprise Zones

That committee also undertook a number of

inquiries in preparation for fiscal devolution in

Wales, a topic I will return to shortly.

GWEITHIO GYDA SWYDDFA

ARCHWILIO CYMRU / YR

ARCHWILYDD CYFFREDINOL

Siaradaf yn fyr am ein rôl wrth weithio gyda

Swyddfa Archwilio Cymru a'r Archwilydd

Cyffredinol. Pasiwyd Deddf Archwilio

Cyhoeddus Cymru yn 2013. Drwy'r darn hwn o

ddeddfwriaeth, fe gafodd trefniadau archwilio

yng Nghymru eu diwygio, ac fe gafodd Swyddfa

Archwilio Cymru ei throi'n gorff ar wahân. O dan

y Ddeddf mae gan y Cynulliad Cenedlaethol

nifer o ddarpariaethau, yn enwedig o ran craffu,

ac o dan Reolau Sefydlog y Cynulliad fe

ddirprwywyd y cyfrifoldebau hyn i'r Pwyllgor

Cyllid.

Yn ymarferol mae hyn yn golygu, bob blwyddyn,

fod gennym gyfrifoldeb am graffu ar gynlluniau

gwariant Swyddfa Archwilio Cymru a'r

Archwilydd Cyffredinol. Mae hefyd yn golygu

mai ni sy'n penodi archwilwyr Swyddfa Archwilio

WORKING WITH THE

WALES AUDIT OFFICE / AUDITOR

GENERAL

I will briefly talk about our role in working with

the Wales Audit Office and the Auditor General.

The Public Audit Wales Act was passed in 2013,

this piece of legislation reformed the audit

arrangements in Wales, including the creation of

the Wales Audit Office as a separate body. The

Act confers a number of provisions on the

National Assembly, particularly in terms of

scrutiny, and through the Standing Orders of

the Assembly, these responsibilities are

delegated to the Finance Committee.

In practice this means that annually we have

responsibility for scrutinising the spending plans

of the Wales Audit Office and the Auditor

General, we appoint the auditors of the Wales

Audit Office, we deal with the appointment of

the WAO Board and the Auditor General, we
Cymru, ni sy'n ymdrin â phenodi Bwrdd Swyddfa

Archwilio Cymru a'r Archwilydd Cyffredinol, ni

sy'n ystyried y cynllun ffioedd, a ni sy'n ystyried

yr adroddiad blynyddol ac unrhyw adroddiadau

interim.

Yn fyr, ni yw'r Pwyllgor sydd â chyfrifoldeb am

oruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru a'r

Archwilydd Cyffredinol, tra bo'r Pwyllgor Cyfrifon

Cyhoeddus yn gweithio'n agos gyda'r

Archwilydd Cyffredinol wrth iddo arfer ei bwerau

ef i archwilio o ran darbodusrwydd,

effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.

consider the fee scheme, we look at the annual

report and any interim reports.

In short, we are the Committee with

responsibility for oversight of Wales Audit Office

and the Auditor General, whist the Public

Accounts Committee works closely with the

Auditor General in terms of exercising his

powers to undertake economy, efficiency and

effectiveness examinations.

The two Committee have very distinct roles.

Mae gan y ddau bwyllgor swyddogaethau

penodol iawn.

CRAFFU AR GYNLLUNIAU GWARIANT

Ar hyn o bryd mae'r Pwyllgor Cyllid yng nghanol

ei gyfnod prysuraf yn craffu ar Gyllideb ddrafft

Llywodraeth Cymru. Dyrennir tua £15 biliwn y

flwyddyn i Lywodraeth Cymru, a gwaith ein

Pwyllgor yw edrych ar y cynlluniau gwariant hyn

- i benderfynu a fydd y cynlluniau ariannu, yn ein

barn ni, yn diwallu’r blaenoriaethau sydd wedi eu

datgan gan y Llywodraeth ac a ydynt yn darparu

lefelau digonol o arian ar gyfer gwasanaethau

yng Nghymru.

Yn ogystal â chraffu ar Gyllideb ddrafft

Llywodraeth Cymru, bob tymor yr hydref, mae'n

ofynnol i ni graffu ar gynlluniau gwariant:

Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio

Cymru

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus

Cymru

SCRUTINY OF SPENDING PLANS

At the moment the Finance Committee is

currently in the middle of its busiest period,

scrutinising the Welsh Government draft

Budget. The Welsh Government is allocated

around £15 billion each year and it is our job, as

a Committee to look at these spending plans –

to determine whether, in our view, the funding

plans will meet the Governments stated

priorities and whether it provides adequate

levels of funding for services in Wales.

In addition to the scrutiny of the Welsh

Government draft Budget, every Autumn term

we are required to scrutinise the spending plans

of:

The National Assembly for Wales Commission

The Auditor General and Wales Audit Office

The Public Service Ombudsman for Wales

The reason we scrutinise these bodies, and not
Rydym ni'n craffu ar waith y cyrff hyn, ond nid

cyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru, am y

rheswm eu bod yn derbyn eu cyllid yn

uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru.

Rydym yn craffu ar gynlluniau gwariant y cyrff

hyn, gan gynnwys eu cynlluniau ar gyfer staffio,

adeiladau a thechnoleg - ac rydym yn cyhoeddi

adroddiad ar gyllideb ddrafft, neu amcangyfrif,

pob sefydliad. Yn aml, mae'r adroddiadau yn

cynnwys nifer o gasgliadau ac argymhellion, ac

er ein bod ni'n gallu gwneud argymhellion i

newid y cynlluniau gwario, yn lle hynny bydd ein

hadroddiadau yn aml yn gwneud argymhellion o

ran y ffordd y mae gwybodaeth am wariant yn

cael ei chyflwyno, y flaenoriaeth a roddir i rai

meysydd, y cynllunio strategol - ein nod yw

sicrhau bod gwybodaeth ariannol yn cael ei

darparu mewn modd agored a thryloyw - rydym

ni am sicrhau eglurder ynghylch sut y mae arian

cyhoeddus yn cael ei wario.

other public bodies in Wales, is because these

bodies receive their funding directly from the

Welsh Consolidated Fund.

We scrutinise the spending plans of these

organisations, including their plans for staffing,

accommodation, technology – and we publish a

report relating to the draft budget, or estimate,

of each organisation. Often the reports include

a number of conclusions and

recommendations, whilst we can make

recommendations for changes to the spending

plans, often our reports will instead make

recommendations for the presentation of

spending information, the priority afforded to

certain areas, the strategic planning – we aim to

ensure that the provision of financial

information is open and transparent – we want

to ensure that there is clarity as to how public

money is spent.

Y CYNLLUN HYFFORDDIANT

Craffodd y Pwyllgor Cyllid blaenorol ar yr

amcangyfrif ariannol gan Swyddfa Archwilio

Cymru a'r Archwilydd Cyffredinol y llynedd - pan

ofynnwyd am £132,000 i ehangu'r cynllun ar

gyfer hyfforddeion ym maes cyllid - sef y cynllun

sydd wedi caniatáu i chi i gyd fod yma heddiw.

Nid oeddwn i'n aelod o'r Pwyllgor a

awdurdododd yr amcangyfrif ariannol hwnnw,

ond rwy'n llwyr gefnogi cynllun sy'n anelu at

gynyddu nifer y gweithwyr cyllid proffesiynol yn

y sector cyhoeddus yng Nghymru - ond mae

angen gwneud mwy na chynyddu niferoedd;

mae angen eich helpu chi i roi o'ch gorau!

Wrth i'r pwerau cyllidol sy'n cael eu datganoli i

Gymru gynyddu, mae angen inni sicrhau ein bod

THE TRAINEE SCHEME

The previous Finance Committee scrutinised

the financial estimate from the WAO and the

Auditor General last year – when £132,000 was

requested to widen the scheme for financial

trainees – the scheme which has allowed you all

to be here today.

Whilst not being part of the Committee who

authorised that financial estimate, I

wholeheartedly support a scheme which aims to

increase the number of finance professionals

working in the public sector in Wales, but it is

not just about increasing the numbers, it’s

about making you the best you can be!

We need to ensure, as fiscal devolution to Wales

increases, that we have supported and nurtured
yn meithrin, ac yn cefnogi, y dalent a geir yng

Nghymru er mwyn cefnogi ein gwasanaethau

cyhoeddus yn effeithiol.

Mae maes cyllid yn dod yn fwyfwy pwysig yng

Nghymru ac mae hyn yn gwneud rôl y Pwyllgor

yn bwysicach byth o ran sicrhau bod gwaith

craffu ariannol yn effeithiol, ac i hynny ddigwydd

mae angen bod yn hyderus bod gennym y bobl

iawn yn gweithio mewn gwasanaethau ariannol

ledled Cymru - mae angen pobl fel chi er mwyn

sicrhau gwerth am arian yng Nghymru lle mae

arian cyhoeddus yn y cwestiwn.

home grown talent to effectively support public

services in Wales.

The field of finance is becoming increasingly

important in Wales and this makes the role of

the Committee even more important in

ensuring that effective financial scrutiny takes

place and to do that we need to be confident

that the right people are working in financial

services across Wales - we need people like you

to ensure public money in Wales provides value

for money.

DATGANOLI CYLLIDOL

O ran datganoli cyllidol, ar hyn o bryd mae'r

Pwyllgor Cyllid yn craffu ar y 'Bil Treth

Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi

Datganoledig' ac rydym yn disgwyl y 'Bil Treth

Gwarediadau Tirlenwi' cyn hir. Y ddwy dreth hyn

yw'r trethi cyntaf i gael eu cyflwyno yng

Nghymru ers 800 mlynedd - ac yn sgil Bil Cymru,

sy'n destun craffu yn San Steffan ar hyn o bryd,

bydd gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb dros

gyfran o dreth incwm yng Nghymru. Mae'r tair

treth hyn yn werth tua £3 biliwn i Lywodraeth

Cymru - Y math hwn o newid ym mhwerau

cyllidol Cymru yw’r rheswm fy mod am weld y

dalent sydd yma heddiw yn cael ei meithrin.

Mae'r gallu i godi trethi am y tro cyntaf yn

golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn fwy atebol

i bobl Cymru, a hynny am fod perthynas

uniongyrchol rhwng y trethi a godir yng

Nghymru a'r arian sy'n cael ei wario yma.

FISCAL DEVOLUTION

In terms of fiscal devolution, the Finance

Committee is currently scrutinising the ‘Land

Transaction Tax and Anti Avoidance of Devolved

Taxes Bill’ and we are shortly expecting the

‘Landfill Disposal Tax Bill’. These two taxes are

the first taxes to be introduced in Wales for 800

years – and following the passage of the Wales

Bill which is currently being scrutinised in

Westminster, the Welsh Government will have

responsibility over a portion of income tax in

Wales. These three taxes equate to around £3

billion that can be raised by the Welsh

Government – It is this sort of change to fiscal

power in Wales which drives my desire to see us

nurture the talent here today.

This ability to raise taxes for the first time will

make the Welsh Government more accountable

to the people of Wales by establishing a direct

relationship between the taxes raised in Wales

and the money spent in Wales.
CRAFFU AR DDEDDFWRIAETH

Mae gan y Pwyllgor rôl bwysig i'w chwarae o ran

craffu ar ddarnau o ddeddfwriaeth a gyflwynir i'r

Cynulliad hefyd - rwyf wedi sôn eisoes am y ddau

Fil ar gyfer trethi datganoledig. Mae’r Bil rydym

ni'n craffu arno ar hyn o bryd yn ymwneud â’r

Dreth Trafodiadau Tir, a fydd yn disodli’r dreth

stamp yng Nghymru ym mis Ebrill 2018; bydd

hefyd yn cynnwys darpariaethau i fynd i'r afael

ag osgoi talu treth.

Mae'r Bil yn nodi'r trafodiadau a ddylai fod yn

destun rhyddhad rhag talu Treth Trafodiadau Tir

a'r amgylchiadau ar gyfer y rhyddhadau hynny. I

gyd-fynd â'r rhyddhadau, mae'r Bil yn cynnwys

Rheol a Dargedwyd yn erbyn Osgoi Trethi er

mwyn sicrhau na chaiff neb hawlio rhyddhad os

mai'r prif ddiben yw sicrhau mantais dreth a bod

diffyg sylwedd economaidd neu fasnachol go

iawn yn y trefniant.

Yn ogystal, mae'r Bil yn cynnwys darpariaeth ar

gyfer Rheol Gyffredinol yn erbyn Osgoi Trethi a

fyddai'n berthnasol pan fo rhywun yn gwneud

trefniant artiffisial i osgoi treth, nid yn unig

mewn perthynas â'r Dreth Trafodiadau Tir ond â

threthi datganoledig eraill hefyd.

Mae'r mathau hyn o reolau yn hynod gymhleth

ac, yn gyffredinol, yn newydd i ni fel Aelodau

etholedig. Wrth graffu ar y mathau hyn o reolau

ariannol yn y dyfodol byddwn yn dibynnu ar bobl

fel chi am gymorth - mae pob Aelod etholedig

yn aelod o sawl Pwyllgor; ni allwn arbenigo ym

mhob agwedd ar waith y Cynulliad - mae angen i

Bwyllgorau'r Cynulliad glywed eich barn a’ch

tystiolaeth chi fel arbenigwyr er mwyn bod yn

effeithiol wrth ddwyn y Llywodraeth i gyfrif.

Yn ogystal â chraffu ar ddeddfwriaeth ariannol,

fel y Biliau trethi, mae gennym rôl i'w chwarae

wrth ystyried goblygiadau ariannol pob Bil a

SCRUTINY OF LEGISLATION

The Committee also has an important role to

play in scrutinising pieces of legislation

introduced to the Assembly - I’ve already

mentioned the two devolved taxes Bills. The Bill

we’re in the process of scrutinising on Land

Transaction Tax, which will replace stamp duty

in Wales from April 2018, also includes a series

of provisions to address tax avoidance.

The Bill sets out the transactions that should be

relieved from the payment of Land Transaction

Tax and the circumstances in which those reliefs

should apply. To accompany the reliefs, the Bill

contains an overarching Targeted Anti-

Avoidance Rule with the aim of ensuring that a

person would be unable to claim a relief if the

main purpose would be to achieve a tax

advantage and if the arrangement they were

entering into lacked genuine economic or

commercial substance.

Additionally, the Bill contains provision for a

General Anti-Avoidance Rule which would apply

where a person enters into an artificial tax

avoidance arrangement, not only in relation to

Land Transaction Tax but to other devolved

taxes too.

These sorts of rules are incredibly complex and

generally, new to us as Elected Members – it’s

the scrutiny of these types of financial rules that

we will be looking to people like you for

assistance in the future – each Elected Member

sits on a number of Committees, we can’t be

experts on every aspect of every area of the

Assembly’s work – we need experts like you to

tell us your views, to provide informed evidence

to enable the Committees of the Assembly to

effectively hold the Government to account.

Aswell, as scrutinising legislation that’s financial
gyflwynir yn y Cynulliad. Mae'r rhain yn cwmpasu

ystod ehangach o feysydd polisi, gan gynnwys

iechyd, addysg a'r amgylchedd, ond

canolbwyntio ar yr agweddau ariannol yr ydym

ni'n ei wneud, tra bod ein cyd-Aelodau ar

bwyllgorau polisi yn craffu yn fanwl ar yr

egwyddorion cyffredinol.

in nature such as the tax bills, we also have a role

to play in considering the financial implications

of all other Bills introduced to the Assembly.

These cover a wider range of policy areas

including health, education and the

environment, but we focus our attention on the

financial aspects while our colleagues on policy

committees undertake detailed scrutiny of the

general principles.

Y TIRLUN SY’N NEWID YNG NGHYMRU

Mae pob rhan o waith y Pwyllgor Cyllid, sef craffu

ar gyllidebau, trethi, deddfwriaeth a datganoli

cyllidol, yn digwydd ar adeg o ansicrwydd

cynyddol yn y Gymru sydd ohoni -

mae Brexit ar y gorwel,

mae mesurau llymder ar gynnydd ym mhob

rhan o’r sector cyhoeddus,

ac mae Cymru yn newid.

Mae gan Gymru boblogaeth o tua 3 miliwn, mae

gennym nifer o bobl sy’n economaidd

anweithgar, mae gennym ardaloedd o

amddifadedd a phlant sy'n byw mewn tlodi, mae

gennym boblogaeth sy'n heneiddio - bydd nifer

gynyddol o bobl yn dibynnu ar wasanaethau

iechyd a gwasanaethau llywodraeth leol, ac, i

ryw raddau, ar wasanaethau cyhoeddus eraill

yng Nghymru.

Mae pwysau na welwyd eu tebyg ar

wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a'r

pwysau hynny a fydd yn gwneud eich rolau yn y

dyfodol yn bwysicach byth.

CHANGING LANDSCAPE OF WALES

All of the work of the Finance Committee, from

scrutinising budgets, taxes, legislation and fiscal

devolution, comes at a time of increasing

uncertainty in the wider Welsh landscape –

we have Brexit on the horizon,

we have an increased austerity measures

across all streams of the public sector,

and Wales is changing,

Wales has a population of around 3 million, we

have a number of economically inactive people,

we have areas of deprivation and children living

in poverty, we have an aging population - more

and more people will be reliant on services

provided by health and local government, and

to some extent the other public services in

Wales.

There are unprecedented pressures on public

services in Wales, and it is those pressures which

will make your future roles all the more

important.
RÔL Y PWYLLGOR YN NEWID

A hithau'n gyfnod o newid, rhaid i ni fel Pwyllgor

newid hefyd - o 2018, bydd y pwerau codi trethi

a benthyca sy'n cael eu datganoli yn golygu y

bydd angen gweithdrefn newydd ar gyfer y

gyllideb. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar

newidiadau er mwyn cyflwyno gweithdrefn

anstatudol newydd. Ond, pan ddaw y Bil Cymru

cyfredol i ben ei daith, mae'n debyg y bydd y

weithdrefn ar gyfer y Gyllideb yn dod yn rôl

statudol.

Yn ogystal, mae'r ffordd yr ydym ni'n mesur

effeithiolrwydd gwariant y Llywodraeth yn

newid. Yn y Cynulliad diwethaf, cyflwynodd

Llywodraeth Cymru 'Ddeddf Llesiant

Cenedlaethau'r Dyfodol'.

Nod y Ddeddf hon yw sicrhau bod y cyrff

cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf, fel Byrddau

Iechyd ac Awdurdodau Lleol, yn meddwl mwy

am:

gynllunio ar gyfer y tymor hir,

gweithio'n well gyda phobl a chymunedau,

atal problemau

Yn ddiddorol, o dan y Ddeddf hon, gellir cyfrif

Archwilydd Cyffredinol Cymru bellach yn un o

blith nifer fach o Archwilwyr Cyffredinol y byd

sydd â dyletswydd statudol yn ymwneud â

datblygu cynaliadwy.

Mae'r gyfraith newydd yn gosod nodau tymor hir

ar gyfer Cymru, a gafodd eu siapio gan sgwrs

genedlaethol a barhaodd flwyddyn ar 'y Gymru a

garem'. I bob pwrpas, mae'r gyfraith newydd yn

golygu bod rhaid i lawer o'r cyrff cyhoeddus sy'n

darparu gwasanaethau i bobl Cymru wneud

hynny mewn ffordd sy'n ystyried arian, pobl a'u

diwylliant, a'r blaned. Hefyd, bydd rhaid iddyn

CHANGING ROLE OF THE COMMITTEE

In this time of change we as a Committee also

need to change – from 2018 the devolution of

tax raising and borrowing powers will

necessitate a new budget procedure, we are

currently working on changes to introduce a

new non-statutory procedure. But it is likely

that following the passage of the current Wales

Bill that the Budget procedure will become a

statutory role.

Additionally, how we measure the effectiveness

of Government spending is changing. In the last

Assembly the Welsh Government introduced

the introduction of ‘the Well-being of Future

Generations Act’.

This Act aims to make the public bodies listed in

the Act, such as Health Boards and Local

Authorities, think more about:

planning for the long-term,

working better with people and communities,

looking to prevent problems

Interestingly, the Auditor General for Wales now

becomes one of just a small number of Auditor's

General across the world who have a statutory

duty relating to sustainable development, under

this Act

The new law sets long term goals for Wales

which were shaped by a year-long national

conversation on the ‘Wales we want’. In effect,

the new law means that many of the public

bodies that provide services to people across

Wales must do so in a way which takes account

of money, people and their culture, and the

planet. They will also have to think about the

impact of decisions made today, on future
nhw feddwl am effaith penderfyniadau heddiw

ar genedlaethau'r dyfodol.

Mae'r gyfraith newydd hefyd yn ei gwneud yn

ofynnol i gyrff cyhoeddus weithio gyda'i gilydd

yn well; cynnwys pobl ac adlewyrchu

amrywiaeth cymunedau; ystyried y tymor hir yn

ogystal â'r presennol, a chymryd camau i geisio

atal problemau rhag mynd yn waeth - neu eu

hatal rhag digwydd yn y lle cyntaf hyd yn oed.

Tasg yr Archwilydd Cyffredinol fydd adrodd ar y

graddau y mae cyrff cyhoeddus wedi

cymhwyso'r egwyddor datblygu cynaliadwy o

ran:

y ffordd maen nhw'n gosod eu hamcanion, a'r

camau maen nhw'n eu cymryd i fodloni'r

amcanion hynny.

Yn ei dro, mae gofyn iddo adrodd ei

ganfyddiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol o leiaf

unwaith ym mhob cylch etholiadol pum

mlynedd.

Mae hon yn rôl newydd i'r Archwilydd

Cyffredinol. Rwy'n ymwybodol bod y Swyddfa

Archwilio Genedlaethol yn cefnogi gwaith y

Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol yn San

Steffan, ond mae Cymru yn torri cwys wahanol

yma wrth osod dyletswydd ar yr Archwilydd

Cyffredinol ei hun.

Hefyd, mae cyfraith newydd arall, sef Deddf yr

Amgylchedd (Cymru) 2016, yn gosod

dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi

cyllideb garbon; y cyfnod "cyfrifo" cyntaf yw

2014-20.

Er bod y rhain yn ddau ddarn gwahanol o

ddeddfwriaeth, mae'r cysylltiad rhyngddyn

nhw'n glir. A bydd y ffordd y mae'r Cynulliad yn

dwyn y Llywodraeth i gyfrif drwy'r Pwyllgor Cyllid

generations.

The new law also requires public bodies to work

together better; involve people and reflect the

diversity of communities; look to the long term

as well as the here and now and take action to

try and stop problems getting worse - or even

stop them happening in the first place.

It is the Auditor General who is charged to report

on the extent to which public bodies have

applied the sustainable development principle

to:

the way they set their objectives, and

the steps they are taking to meet those

objectives.

And in turn, he is required to report on his

findings to the National Assembly at least once

in every five-year electoral cycle.

This is a new role for the Auditor General. I am

aware that the National Audit Office supports

the work of the Environmental Audit Committee

in Westminster, but Wales is blazing a different

path here in placing a duty on the Auditor

General himself.

In addition, another new law, the Environment

Act (Wales) 2016, places a duty on Welsh

Government to produce a carbon budget; the

first “accounting” period being 2014-20.

Though these are two separate pieces of

legislation, they are clearly interlinked. And how

the Assembly holds the government to account

through the Finance and other committees will

be reliant on expert advice and detailed work. I

suggest that many of you may well find

yourselves challenged by these Acts in Wales

over the next half a decade.
a phwyllgorau eraill yn dibynnu ar gyngor

arbenigol a gwaith manwl. Mae'n debyg gen i y

bydd y Deddfau hyn yng Nghymru yn eithaf her i

lawer ohonoch dros y pum mlynedd nesaf.

I GLOI

I gloi, hoffwn ddiolch i chi unwaith eto am roi

o'ch amser i wrando arnaf heddiw, a hoffwn

ddiolch i'r Archwilydd Cyffredinol, nid yn unig am

fy ngwahodd i yma heddiw, ond am symud y

cynllun pwysig hwn yn ei flaen.

Mae croeso i chi ofyn cwestiynau.

TO CLOSE

To conclude I’d once again like to thank you for

taking the time to listen to me today, and I’d like

to thank the Auditor General, not only for

inviting me here today, but for progressing this

important scheme.

I welcome any questions?