Maniffesto Llywodraeth Leol 2017 Local Government
Maniffesto Plaid Cymru ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2017. / Plaid Cymru's manifesto for the 2017 local government elections.
Maniffesto Plaid Cymru ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2017. / Plaid Cymru's manifesto for the 2017 local government elections.
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Cymru lanach a gwyrddach

Defnyddio adnoddau naturiol Cymru

Mae’n hawdd iawn i ni gwyno am y tywydd yng Nghymru, ond mae’r gwynt

a’r glaw yn adnoddau naturiol gwerthfawr.

Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i frwydro yn erbyn newid

hinsawdd, ac yn cydnabod fod cynhyrchu ynni adnewyddol

yn rhan hanfodol o leihau allyriadau carbon. Mae gan ein

cynghorau ran hanfodol i’w chwarae wrth gydnabod a datblygu

economi werdd Cymru.

Gall tyrbinau gwynt unigol roi i ffermwyr ffynhonnell bwysig o incwm

ychwanegol, gan roi sefydlogrwydd ariannol iddynt ar gyfnod ansicr iawn.

Yn yr un modd, mae modd defnyddio prosiectau sydd yn nwylo’r gymuned i

gynhyrchu trydan gwyrdd, ond hefyd ffrwd elw sefydlog y gellir ei fuddsoddi

mewn gwasanaethau a chyfleusterau lleol.

Ac er y gall gwynt a glaw fod yn ffynhonnell fwy dibynadwy o ynni, mae

gan Gymru ddigon o heulwen i gynnal prosiectau pŵer solar. Mae modd

gosod paneli solar ar dir amaethyddol heb darfu fawr ddim ar y ffermwr,

a gall defaid a gwartheg bori mewn caeau llawn paneli solar. Nid yn unig

y mae cynlluniau o’r fath yn cynnig lles amgylcheddol, ond hefyd incwm

ychwanegol i’n ffermwyr.

Rydym eisiau sicrhau bod cymunedau lleol yn elwa o fanteision ynni

gwyrdd. Rydym eisiau gweld datblygu cynaliadwy ar raddfa lai sydd yn

gweithio mewn cytgord â’r amgylchedd lleol. Rydym hefyd eisiau gweld

newid yn y system gynllunio sydd yn ei gwneud yn haws sefydlu prosiectau

ynni adnewyddol ar raddfa fechan sy’n eiddo i’r gymuned. Er ein bod yn

cydnabod fod angen i ni warchod ein tirwedd, credwn fod Cymru wledig

yn fwy na cherdyn post del. Dylid gwneud newidiadau i fireinio’r broses o

sefydlu prosiectau ynni gwyrdd newydd, er lles Cymru ac amgylchedd y

byd.

Cred Plaid Cymru mewn dull cynaliadwy o fyw, gan ofalu ein bod yn

trosglwyddo ein planed mewn cyflwr da i’n plant, ein hwyrion a’n hwyresau.

34