06.04.2017 Views

Maniffesto Llywodraeth Leol 2017 Local Government

Maniffesto Plaid Cymru ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2017. / Plaid Cymru's manifesto for the 2017 local government elections.

Maniffesto Plaid Cymru ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2017. / Plaid Cymru's manifesto for the 2017 local government elections.

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Diwygio cynllunio

Mae’r system gynllunio bresennol wedi ei dylunio i

wasanaethu datblygwyr mawr masnachol, yn hytrach na

phobl gyffredin. Mae cynlluniau datblygu lleol yn cael eu

cynhyrchu i gwrdd ag anghenion yr Arolygiaeth Gynllunio

yng Nghaerdydd yn hytrach nag anghenion cymunedau

lleol. Pan ddaw’n fater o geisiadau i godi tai unigol,

mae’r byd fel petai ben i waered. Gwrthodir caniatâd i

ddatblygiadau bychain cynaliadwy. Mae stadau tai enfawr

yn cael eu codi ar dir glas, yn groes i ddymuniadau’r trigolion

lleol, heb y buddsoddiad angenrheidiol mewn ysgolion,

ffyrdd a gwasanaethau lleol. Mae cynlluniau yn dweud

eu bod yn ystyried yr amgylchedd, y gymuned a’r iaith

Gymraeg - ond yn ymarferol, nid ydynt yn cyfrif am fawr

ddim. Mae’r weinyddiaeth Lafur yng Nghymru ond gwneud

y sefyllfa’n waeth, gan basio Deddf Gynllunio yn 2015 sydd

wedi dwyn grym oddi wrth gymunedau lleol.

Byddwn yn craffu ar Gynlluniau Datblygu Lleol sydd wedi

eu datblygu ac sydd wrthi’n cael eu datblygu. Bydd ein

cynghorwyr yn gweithio ynghyd i’w newid a’u gwella, gan

fonitro pob cam o’u datblygiad a’u gweithredu. Lle gwelir

eu bod nhw angen newid, byddwn yn brwydro i’w hailysgrifennu,

er mwyn gwneud yn sicr eu bod yn cwrdd â gwir

anghenion cymunedau Cymru.

Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i sicrhau fod gan bawb

gartref diogel a chyfforddus. Bydd ein cynghorau yn cymryd

camau i ofalu bod landlordiaid preifat yn cael eu hatal rhag

gosod tenantiaid mewn tai o ansawdd isel.

Bydd Plaid Cymru yn parhau i frwydro dros system gynllunio deg ar lefel genedlaethol. Ond fe all cynghorwyr

unigol wneud gwahaniaeth ar lefel leol, a dyna wnaiff cynghorwyr Plaid Cymru. Byddwn yn brwydro dros ddatblygu

cynaliadwy sydd yn fforddiadwy, ac wedi ei wreiddio yn anghenion y gymuned.

38

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!