Carers Newsletter May 2019 Welsh
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Newyddion Gofalwyr

Sir Gaerfyrddin

RHIFYN 62 - MAI 2019
Yn y

Rhifyn Hwn:

Croeso ............................................ 2

Gwasanaeth Allgymorth .......... 3

Wythnos Gofalwyr...................... 3

Teyrnged i Mrs Pam Edmunds. 3

Newydd i ofalu? – Yr hyn sydd

angen i chi wybod ....................... 4-5

Asesu Anghenion Gofalwyr

Cynghorion Gorau i Ofalwyr

Newydd

Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru

yn cyfarfod â Julie Morgan AC 6

Buddsoddwyr mewn Gofalwyr 7

Understanding Grief .................. 7

Atwrneiaeth Arhosol.................. 8

New Law........................................ 9

Neges mewn Potel...................... 10

Unforgettable .............................. 10

Gwasanaeth Cynghorydd

Teulu Sir Gâr ................................. 11

HAIPAC .......................................... 11

Neges gan y Gwasanaeth

Gwybodaeth i Ofalwyr

Croeso i’r rhifyn diweddaraf o Newyddion

Gofalwyr Sir Gâr!

Mae’r cylchgrawn wedi’i anelu’n benodol at ofalwyr, ac mae’n llawn

gwybodaeth ddefnyddiol a chynghorion i’ch helpu gyda’ch rôl gofalu,

yn ogystal â’r diweddaraf ar faterion gofalwyr pwysig.

Gobeithiwn hefyd y bydd yn helpu i’ch tywys i gyfeiriad rhai o’r

sefydliadau a all gynnig cymorth ychwanegol i chi, os bydd ei angen

arnoch.

Amdanom ni...

Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr yn cynnig gwybodaeth,

cyngor a chymorth, di-dâl a chyfrinachol, i ofalwyr ledled Sir

Gaerfyrddin. Rydym yn paratoi a dosbarthu gwybodaeth, gan gynnwys

ystod o daflenni ffeithiau ar sut a ble gall gofalwyr gael cymorth iddyn

nhw eu hunain, a’r bobl maent yn gofalu amdanynt. Mae’r Gwasanaeth

Gwybodaeth i Ofalwyr yn rhan o Ymddiriedolaeth Gofalwyr Sir Gâr, a

gellir dod o hyd i wybodaeth bellach ar ein gwefan ar:

www.carmarthenshirecarers.org.uk

Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr, Uned 3, Y Palms, 96

Heol y Frenhines Fictoria, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 2TH

0300 0200 002

info@carmarthenshirecarers.org.uk

Digwyddiadau i Ddod ................ 11

Cyflwyno’r Credyd Cynhwysol. 12

CarmsCarers

CarmsCarers

Diwrnod Hawliau Gofalwyr...... 13

Blynyddoedd Addysgol Plant... 14

Gofalwyr sy’n Oedolion Ifanc... 15

Ty Golau......................................... 16

Ffrindiau Yn Erbyn Sgamiau..... 17

Grŵp Cefnogi Gofalwyr Llanelli 18

Stori Gofalwr ................................ 19

CATCHUP ...................................... 20

Cysylltiadau Defnyddiol ............ 20

Os am dderbyn Pecyn Gwybodaeth i Ofalwyr,

cysylltwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr ar

0300 0200 002 neu e-bostiwch ni ar:

info@carmarthenshirecarers.org.uk.

Ymwadiad

Cymerwyd pob gofal wrth baratoi’r

cylchlythyr hwn, ac ni fedrwn gymryd

cyfrifoldeb am unrhyw gamau sy’n deillio

o’r tudalennau yma.

Os byddai’n well gennych dderbyn copi

electronig o’r cylchlythyr, yna rhowch

wybod i ni, trwy e-bostio

info@carmarthenshirecarers.org.uk neu

ffonio 0300 0200 002.

2

Newyddion Gofalwyr Sir Gâr
10fed – 16eg o

Fehefin 2019

Mae Wythnos Gofalwyr yn

ymgyrch flynyddol i godi

ymwybyddiaeth o ofalu, amlygu’r

sialensiau sy’n wynebu Gofalwyr,

a chydnabod y cyfraniad maent

yn ei wneud at deuluoedd a

chymunedau ledled y DU. Bydd

manylion pellach am

ddigwyddiadau a

gweithgareddau i’w gweld yn y

rhifyn nesaf o Newyddion

Gofalwyr!

Gwasanaeth Allgymorth

Gall ein tîm o Weithwyr Allgymorth Gofalwyr gynnig cymorth

unigol i chi, y gofalwr, i fwyhau eich ansawdd bywyd a’ch lles, a

pharhau i fod yn effeithiol yn eich rôl fel gofalwr am gyhyd ag y bo

hynny’n iawn i chi.

Gall Gweithwyr Allgymorth ymweld â chi yn eich cartref, i helpu

sicrhau bod popeth yn ei le i’ch cefnogi yn eich rôl gofalu. Gallwn

nodi gwasanaethau cymorth arbenigol, neu sefydliadau y gallwn

eich cyfeirio neu’ch atgyfeirio atynt, a darparu cefnogaeth ymarferol

ac emosiynol gyda materion megis:

• Cymorth i gael mynediad at ofal cymdeithasol i chi neu’r person

rydych chi’n gofalu amdano

• Mynediad at gyrsiau hyfforddi byr

• Cynghori ar, ac ymgeisio am Grantiau Gofalwyr neu gronfeydd

lles, a allai helpu i ariannu seibiant byr neu ofal amgen, ayb.

• Cymorth ymarferol a chefnogaeth emosiynol, i’ch helpu i gael

mynediad at wasanaethau perthnasol a chyngor ar sut i lywio

systemau iechyd a gofal cymdeithasol

• Darparu gwybodaeth arbenigol ar amrywiol gyflyrau iechyd

• Mynediad at gyngor cyfreithiol di-dâl neu faterion yn ymwneud

â’ch rôl gofalu, gan gynnwys ‘Talu am Ofal’, Atwrneiaeth Arhosol,

Diogelu Asedau, Ewyllysiau ac Ymddiriedolaethau, ayb.

• Gwybodaeth am hawliau gofalwyr

• Gwybodaeth a mynediad at gyfleoedd cefnogi cymheiriaid

Os am drefnu apwyntiad gyda Gweithiwr Allgymorth Gofalwyr,

ffoniwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr ar: 0300 0200

002 neu e-bostiwch info@carmarthenshirecarers.org.uk

Rhowch wybod i ni os byddai’n well gennych gael copi electronig

o’n cylchlythyr trwy e-bostio: info@carmarthenshirecarers.org.uk

Teyrnged i

Mrs Pam

Edmunds

Cawsom ein tristáu gan y

newyddion am farwolaeth Mrs Pam

Edmunds ar y 9fed o Ionawr 2019.

Bu Pam yn aelod o deulu

Ymddiriedolaeth Gofalwyr

Croesffyrdd Sir Gâr am 20 mlynedd

a mwy, a dros 10 o’r rheiny fel

Cadeirydd, ynghyd â llawer o rolau

gydag elusennau lleol a

chenedlaethol. Roedd Pam yn

wraig hyfryd, hael a hynaws, yr oedd

pawb yn falch o fod yn gysylltiedig â

hi, ac roedd yn ffrind annwyl i lawer.

Roedd Pam yn adnabyddus, ac

roedd parch mawr iddi, fel

Ymwelydd Iechyd ardderchog,

Cynghorydd Lleol a Chynghorydd

Sir, a Noddwr sawl elusen, a oedd

mor hael gyda’i hamser. Byddwn yn

cofio Pam hefyd am ei sgiliau pobi

gwych, ac roedd hi’n enwog am y

deisen Fictoria fwyaf blasus a

brofwyd erioed. Bydd ei theulu, ei

ffrindiau a’r gymuned ehangach, y

bu hi’n helpu mor anhunanol dros y

blynyddoedd, yn gweld eisiau Pam

yn fawr iawn.

Newyddion Gofalwyr Sir Gâr 3
Newydd i ofalu? – Yr hyn sydd

P’un ai eich bod yn ŵr, gwraig, mab, merch, ffrind neu gymydog, os ydych yn gofalu’n ddidâl

am ffrind neu rywun annwyl, mae angen i chi gydnabod eich bod yn Ofalwr, er mwyn

ceisio’r cymorth a’r gefnogaeth sydd angen arnoch. Dyma beth gwybodaeth a all fod o

gymorth i chi yn eich rôl gofalu newydd:

Asesu Anghenion Gofalwyr

Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant

(Cymru) 2014 i rym ar 6 Ebrill 2016.

Mae’r Ddeddf yng Nghymru yn berthnasol i bobl

mewn angen, o unrhyw oed, ac mae’n cyflwyno

hawliau cyfartal i ofalwyr â hawliau’r rhai hynny

maent yn gofalu amdanynt.

Os ydych yn gofalu’n ddi-dâl am rywun, mae

gennych hawl i gael Asesiad Anghenion Gofalwyr,

p’un ai eich bod yn byw gyda’r person rydych yn

gofalu amdano ai peidio, a gallwch gael asesiad p’un

ai bod y person rydych yn gofalu amdano wedi cael

ei asesiad ei hun, neu p’un ai bod y person rydych yn

gofalu amdano yn derbyn cefnogaeth gofal

cymdeithasol, ai peidio.

Pwrpas yr Asesiad Anghenion Gofalwyr yw canfod

eich anghenion chi fel Gofalwr, a’ch helpu i gael

mynediad at wasanaethau neu gefnogaeth y gall

fod angen arnoch, i gefnogi eich lles chi wrth

gyflawni eich rôl gofalu.

Bydd eich Cyngor lleol, Gweithiwr Cymdeithasol gan

amlaf, yn cynnal yr Asesiad Anghenion Gofalwyr, ac

mae dyletswydd gyfreithiol glir gan eich Cyngor

lleol i ystyried y canlynol:

• rhaid iddynt asesu p’un ai bod angen cefnogaeth

arnoch, neu ei bod yn debygol y bydd arnoch

angen cefnogaeth yn y dyfodol

• i ba raddau rydych yn gallu, neu’n barod i

ddarparu gofal, ac y byddwch yn parhau i allu, ac

yn barod i wneud hynny

• beth sy’n bwysig i chi, a’r canlyniadau personol

rydych am eu cyflawni

• i ba raddau gall cefnogaeth, gwasanaethau

ataliol, gwybodaeth, cyngor a chymorth eich

cynorthwyo chi i gyflawni’r canlyniadau hynny

• rhaid i’r asesiad ystyried hefyd p’un ai eich bod yn

gweithio neu’n dymuno gweithio, a ph’un ai eich

bod yn cyfranogi, neu’n dymuno cyfranogi mewn

addysg, hyfforddiant neu weithgareddau

hamdden

Rhai enghreifftiau o’r math o gymorth allai fod ar

gael i chi fel gofalwr, os ydych yn gymwys i gael

cymorth:

• help i fynd o un lle i’r llall, arian tacsi, gwersi gyrru,

costau atgyweirio ac yswiriant

• costau car, lle bo cludiant yn hanfodol

• gofal seibiant neu ofal amgen, i roi seibiant i chi

• technoleg i’ch helpu. Er enghraifft: ffôn symudol

neu gyfrifiadur, lle nad yw’n bosib cael mynediad

at wasanaethau cyfrifiadur yn eich llyfrgell leol

• Cymorth gyda gwaith tŷ neu arddio

• Cymorth i leddfu straen, gwella iechyd a hybu

lles, megis aelodaeth campfa

NODWCH: Nid yw Asesiad Anghenion Gofalwyr yn

asesu eich gallu i ofalu am y person rydych yn

gofalu amdano.

I ofyn am daflen ffeithiau sy’n esbonio’r Asesiad

Anghenion Gofalwyr, a’r hyn sy’n digwydd yn

ystod Asesiad Anghenion Gofalwyr,

cysylltwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i

Ofalwyr ar: 0300 0200 002

Gallwch ofyn am Asesiad Anghenion

Gofalwyr trwy gysylltu â Llesiant Delta ar:

0300 333 2222

4

Newyddion Gofalwyr Sir Gâr
angen i chi wybod

Cofrestrwch eich hun fel Gofalwr gyda’ch MT

Rhowch wybod i’ch MT eich bod yn darparu swm sylweddol

o ofal.

Byddant yn gofyn i chi lenwi ffurflen fer, a bydd nodyn yn cael

ei osod ar eich cofnod, i ddweud eich bod yn Ofalwr. Gall hyn

helpu gydag apwyntiadau hyblyg, archwiliadau iechyd a

rhannu gwybodaeth am y person rydych yn gofal amdano,

ayb. – gall y cymorth amrywio, ond gallwch ddod o hyd i fwy

o wybodaeth ar yr hysbysfwrdd yn eich meddygfa.

Pam nad yw mwy o bobl sy’n gofalu am rywun

yn cymryd seibiant o bryd i’w gilydd?

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Carers UK eu hadroddiad ‘State of

Caring 2018’. Roedd yn datgan fod 4 o bob 10 Gofalwr wedi

llwyddo i gymryd seibiant o ofalu yn y flwyddyn ddiwethaf.

Mae hynny’n awgrymu bod y 6 arall o bob 10 heb gael

seibiant. Pam mae hyn, a pham mae’n ymddangos bod hyn

yn dderbyniol? Ni fyddai’n dderbyniol ym mwyafrif y

‘weithleoedd’.

Yn anffodus, mae’n bosib nad oes gan rai Gofalwyr unrhyw

ddewis. Nid yw hynny’n golygu y dylid derbyn hyn.

Efallai bod modd i eraill gymryd seibiant, ond eu bod yn

dewis peidio, neu nad ydynt yn gwybod y gallent gael

seibiant. Beth bynnag fo’r rheswm, nid yw Gofalwyr blinedig,

wedi difa, yn gwneud lles i unrhyw un, y Gofalwr ei hun, y

person mae’n gofalu amdano, na gweddill cymdeithas.

Mae ystod o ffyrdd gall pobl gael gwybodaeth a chyngor ar

eu hopsiynau ond, oni bai eu bod yn gwybod amdanynt, nid

ydynt yn debygol o gael gwybod.

Ydych chi wedi cofrestru fel Gofalwr yn eich

Meddygfa?

Mae’r cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr yn gweithio

gyda Meddygfeydd a lleoedd eraill, i helpu mwy o Ofalwyr

gydnabod eu bod yn Ofalwyr, a chael gwybod am yr

wybodaeth a’r cymorth sydd ar gael gan ystod eang o

sefydliadau yn Sir Gaerfyrddin. Gofynnwch yn nerbynfa yn

eich Meddygfa am wybodaeth ynghylch cofrestru fel Gofalwr

a chael gwybod mwy.

Efallai eich bod yn adnabod perthynas, ffrind neu gymydog

mewn sefyllfa debyg, a gallech chi eu helpu trwy basio’r

wybodaeth ymlaen.

Gofalwyr yn rhannu eu

cynghorion a’u syniadau ar

gyfer Gofalwyr newydd

Cynghorion Gorau:

1. Cyfaddefwch eich bod yn

Ofalwr - os credwch eich bod

yn Ofalwr, yna rydych chi yn

Ofalwr!

2. Cadwch restr o enwau a

rhifau cyswllt defnyddiol

3. Cofrestrwch fel Gofalwr yn

eich Meddygfa

4. Gofynnwch i’r Gwasanaethau

Cymdeithasol am Asesiad

Gofalwyr i chi’ch hun

5. Gofynnwch i’r Gwasanaethau

Cymdeithasol am Asesiad

Anghenion i’r person rydych

yn gofalu amdano

6. Gofalwch eich bod yn hawlio

unrhyw gymorth ariannol a

budd-daliadau perthnasol

7. Gofalwch bod gan y person

rydych yn gofalu amdano

unrhyw gymhorthion priodol

i wneud bywyd yn haws

8. Defnyddiwch wasanaethau

fferyllfa, megis paciau

pothell, archebu

presgripsiwn a

gwasanaethau danfon

9. Ewch ati i ganfod pa grwpiau

cefnogi allai eich helpu chi

10. Peidiwch â dioddef yn

ddistaw, a gofynnwch

gwestiynau bob amser

11. Cadwch ddyddiadur o

symptomau, triniaethau,

manylion cyswllt, cyngor ayb.

12. Cyfaddefwch pan fo angen

cymorth allanol. Nid yw’n

arwydd o wendid

13. Os ydych yn talu am gymorth

allanol, a’i fod yn annerbyniol,

newidiwch ef!

14. Gofalwch eich bod yn treulio

peth amser i ffwrdd oddi

wrth y person rydych yn

gofalu amdano

Henrietta, Carers UK Forum

Newyddion Gofalwyr Sir Gâr

5
Fforwm Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn cyfarfod â Julie

Morgan AC, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau

Cymdeithasol yng Nghymru

Yn gynharach yn y mis,

rhoddodd Julie Morgan AC,

Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal

Cymdeithasol, ei thystiolaeth i

Bwyllgor Iechyd, Gofal

Cymdeithasol a Chwaraeon

Cynulliad Cenedlaethol Cymru,

fel rhan o’u hymchwiliad i’r

cymorth sydd ar gael i ofalwyr.

Roedd hyn wedi iddi fynychu

Fforwm Ymddiriedolaeth

Gofalwyr Cymru, a roddodd gyfle

i Rwydwaith Partneriaid

Ymddiriedolaeth Gofalwyr

Cymru i gwrdd â’r Dirprwy

Weinidog a benodwyd o’r

newydd. Yn ystod y digwyddiad

hwn, rhannodd y Dirprwy

Weinidog flaenoriaethau

Llywodraeth Cymru ar gyfer

gofalwyr, gan amlygu

pwysigrwydd mudiadau trydydd

sector wrth ddarparu cymorth i

ofalwyr.

Trwy drafodaeth wedi’i hwyluso,

rhoddodd y Partneriaid

Rhwydwaith enghreifftiau a

mewnwelediad i’r realiti i ofalwyr

yng Nghymru, a’r gwasanaethau

hynny sy’n eu cefnogi.

6 Newyddion Gofalwyr Sir Gâr

Rhai o’r materion a amlygwyd

oedd:

• Pwysigrwydd bod gofal

seibiant ar gael i roi cyfle i

ofalwyr gael seibiant byr

mawr ei angen

• Effaith gofalu o ran lles

corfforol ac emosiynol

gofalwyr

• Unigrwydd ac arwahanrwydd,

sy’n gallu effeithio ar bob

gofalwr, ond yn enwedig

gofalwyr sy’n byw mewn

ardaloedd gwledig

• Cydnabod pwysigrwydd

gofalwyr a’r cyfraniadau

hanfodol maent yn eu

gwneud

• Pwysigrwydd buddsoddi’n

barhaus a chyllid ar gyfer

gwasanaethau i gefnogi

gofalwyr

Rhoddodd y sesiwn lwyfan

cenedlaethol i wasanaethau

gofalwyr, gan roi cyfle

uniongyrchol i ddylanwadu ar

Lywodraeth Cymru, ar y lefel

uchaf.

Yn ddymunol, dywedodd y

Gweinidog ei bod wedi mynychu

ein Fforwm Partneriaid

Rhwydwaith, a nododd

bwysigrwydd y trydydd sector

wrth gyflawni Deddf

Gwasanaethau Cymdeithasol a

Llesiant (Cymru), pan roddodd

dystiolaeth ffurfiol i Bwyllgor

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a

Chwaraeon Cynulliad

Cenedlaethol Cymru.

Gallwch weld y sesiwn

dystiolaeth lawn ar-lein, lle

cyfeirir droeon at waith

Ymddiriedolaeth Gofalwyr

Cymru, a phwysigrwydd

gwasanaethau gofalwyr.

Bydd Ymddiriedolaeth Gofalwyr

Cymru yn rhoi tystiolaeth

ysgrifenedig ychwanegol i’r

pwyllgor, a fydd yn eu helpu i

graffu tystiolaeth Llywodraeth

Cymru yn effeithiol. Dyma fydd

ein cyfle olaf i oleuo’r pwyllgor,

cyn iddynt ddechrau drafftio eu

hargymhellion i’r Llywodraeth,

sy’n debygol o gael eu cyhoeddi

ym mis Mai.
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Taith undydd am ddim i Ofalwyr, a fydd yn ymweld â’r

amgueddfa awyr agored yng Nghaerdydd, sy’n

croniclo ffordd o fyw, diwylliant a phensaernïaeth

hanesyddol y Cymry. Archwiliwch y castell, y gerddi,

y bythynnod hanesyddol a’r gweithdai, lle mae

crefftwyr yn dal i arddangos eu sgiliau traddodiadol.

Darperir cludiant a chinio. Dyddiad i’w gadarnhau

(diwedd y gwanwyn / dechrau’r haf), ond mae

lleoedd yn gyfyngedig. Os am gofrestru diddordeb,

yna cysylltwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr

ar: 0300 0200 002

Buddsoddwyr mewn Gofalwyr

Oeddech chi’n gwybod fod Arweinydd Gofalwyr

enwebedig gan bob Meddygfa yn Sir Gaerfyrddin, a all

eich helpu i lenwi’r ffurflen gofrestru / atgyfeirio, a

hefyd gall roi gwybodaeth ychwanegol i chi, gan

gynnwys y daflen newydd ‘Ydych chi’n gofalu am

rywun?’.

Mae llesiant Buddsoddwyr mewn Gofalwyr yn parhau

i gael ei ymgorffori yng ngwaith nifer cynyddol o

gyfranogwyr y Cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr

yn Sir Gâr, gyda nifer o leoliadau wedi ennill eu gwobr

lefel Efydd yn ddiweddar. Mae hyn yn cynnwys Ysgol

y Strade School (ein cyflwyniad Cymraeg cyntaf), tri Thîm Cynhwysiant

Cymunedol Cyngor Sir Gâr, Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol

Caerfyrddin (CMHT), Uned Gofal Dwys Seiciatrig (PICU) / wardiau Cwm

Seren a Bryngofal. Mae pob un o’r lleoliadau’n anelu at adnabod,

hysbysu a chefnogi Gofalwyr o bob oed, a’u hannog nhw, yn enwedig,

i gofrestru fel Gofalwyr yn eu Meddygfa.

Mae ganddynt fynediad hefyd

at gyflenwad o adnoddau

Neges mewn Potel – gweler

tudalen 10. Felly, os ydych chi,

neu berthynas, ffrind neu

gymydog, yn gofalu am rywun,

efallai gallwch eu helpu trwy

basio’r wybodaeth hon ymlaen.

Nodyn Atgoffa: Os ydych

eisoes wedi cofrestru fel

Gofalwr yn eu Meddygfa, a bod

eich amgylchiadau’n newid, yna

byddai o gymorth pe byddech

yn rhoi gwybod i’ch Meddygfa,

fel y gallant gadw eu cofnodion yn gyfredol.

Os am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

debbie@carmarthenshirecarers.org.uk

Ydych chi’n gofalu

am rywun?

Mae Gofalwr yn rhywun sy’n darparu

cymorth a chefnogaeth ddi-dâl i berthynas,

ffrind neu gymydog na fyddai’n gallu ymdopi

ar ei ben ei hun o ganlyniad i salwch,

anabledd, eiddilwch, nam corfforol, salwch

meddwl neu gamddefnyddio sylweddau.

Yn y llun; Gareth Morgans (Cyfarwyddwr Addysg), Pennie

Muir (Arweinydd BmG), Adam Powell (Arweinydd

Gofalwyr Ysgol y Strade), Cat Hooten (Gwasanaeth

Gofalwyr Ifanc), Debbie Bence (Swyddog Datblygu BmG).

Deall Galar a

Cholled Cwrs

Hunangymorth 4

Wythnos

Cwrs 4 wythnos, byr ac anffurfiol,

wedi’i anelu at Ofalwyr mewn

galar, sy’n 60 oed a mwy.

Bydd y cwrs yn helpu pobl i

ddeall amrywiol gamau galar, a’r

ymatebion emosiynol i alar.

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno

gan ymarferydd profiadol, i grŵp

bach o bobl, mewn amgylchedd

diogel, sensitif a chyfrinachol, a

bydd yn archwilio’r canlynol:

• Beth yw galar?

• Digwyddiadau mewn bywyd

sy’n gallu arwain at alar, gan

gynnwys galar disgwylgar (e.e.

diagnosis o salwch terfynol,

profedigaeth, newid sylweddol

mewn iechyd / symudedd, colli

swydd, tor-perthynas, ayb.)

• Ymatebion emosiynol i alar

• Symptomau corfforol sy’n

gysylltiedig â galar

• Gofalu amdanoch chi’ch hun

• Strategaethau ymarferol i

helpu gyda galar ac unigrwydd

• 5 Ffordd at Les

Os am gofrestru diddordeb yn y

cwrs hwn, yna cysylltwch â’r

Gwasanaeth Gwybodaeth i

Ofalwyr ar: 0300 0200 002

Newyddion Gofalwyr Sir Gâr 7
Ydych chi’n gofalu am rywun sy’n

colli ei gof?

Os felly, efallai byddant am ystyried Atwrneiaeth Arhosol

Beth yw Atwrneiaeth Arhosol (LPA)?

Mae LPA yn ddogfen gyfreithiol, sy’n galluogi

person dros 18 oed i ddewis rhywun i fod yn

atwrnai (cynrychiolydd), ac yn rhywun mae eisiau i

wneud penderfyniadau ar ei ran, pan nad oes

modd iddo / iddi, oherwydd analluedd corfforol

a/neu feddyliol, i wneud penderfyniadau ei hun.

Gall hyn fod oherwydd gwendid, dementia,

anabledd dysgu, problemau iechyd meddwl, strôc

neu anaf i’r pen.

Mae LPA yn cael ei greu cyn i berson golli galluedd

meddyliol, a rhaid ei gofrestru gyda Swyddfa’r

Gwarcheidwad Cyhoeddus, cyn y gellir ei

ddefnyddio.

Ceir dau fath o LPA:

• Eiddo a materion ariannol (caniatáu i atwrnai

wneud penderfyniadau ynghylch talu biliau,

delio â’r banc, casglu budd-daliadau, gwerthu

eich tŷ ayb.)

• Iechyd a lles (caniatáu i atwrnai wneud

penderfyniadau ynghylch triniaeth, gofal,

meddyginiaeth, ble rydych yn byw ayb.)

Os nad ydych wedi cwblhau LPA, mae’n bosib bydd

angen i bobl eraill wneud cais i’r Llys Gwarchod, er

mwyn gwneud unrhyw benderfyniad ar eich rhan.

Gall hyn fod yn gostus, yn heriol ac yn straen i

berthnasau a Gofalwyr.

Trwy wneud y penderfyniad pwysig i greu LPA,

byddwch yn cael tawelwch meddwl ac yn atal eich

anwyliaid rhag dioddef caledi ariannol a gofid yn y

dyfodol.

Os byddech chi neu’r person rydych yn gofalu

amdano yn hoffi cael ymgynghoriad, am ddim,

gyda chyfreithiwr New Law, yna cysylltwch â’r

Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr ar: 0300

0200 002.

Nodwch fod New Law yn codi ffi am baratoi a

chofrestru LPA.

Manteision gwneud Atwrneiaeth Arhosol

Mae LPA yn galluogi i chi drefnu ymlaen llaw:

• y penderfyniadau rydych eisiau iddynt gael eu

gwneud ar eich rhan os, neu pan fyddwch yn

colli galluedd i’w gwneud nhw eich hun

• y bobl rydych eisiau i fod yn atwrnai i wneud y

penderfyniadau yma

• sut rydych eisiau i’r atwrnai wneud y

penderfyniadau yma

Hefyd, gallwch wneud cais am Atwrneiaeth

Arhosol ar-lein ar

www.lastingpowerofattorney.service.gov.uk/home

8

Newyddion Gofalwyr Sir Gâr
Sesiwn Cyngor Cyfreithiol

Am Ddim i Ofalwyr

Mae Cyfreithwyr New Law yn falch i fod yn gweithio mewn

partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Sir Gâr.

Gallwn gynnig ymgynghoriad a sesiwn gyngor di-dâl a

chyfrinachol i Ofalwyr yn Sir Gaerfyrddin.

Mae New Law yn cydnabod fod llawer o Ofalwyr, yn aml, yn wynebu

pentwr enfawr o wybodaeth gan weithwyr cymdeithasol, meddygon teulu

a gweithwyr proffesiynol eraill am atwrneiaeth, dirprwyaeth a materion

cyfreithiol eraill.

Gallwn gynnig cyngor ar:

• Ewyllysiau (gan gynnwys ewyllysiau

statudol i bobl heb alluedd)

• Ymddiriedolaethau i bobl fregus

• Cyllid ar gyfer Gofal

• Galluedd

• Atwrneiaeth Arhosol

• Cynllunio Ystadau / Trethi

• Diogelu Asedau

• Y Llys Gwarchod a Dirprwyaeth

• Gweinyddu Ystadau

Mae apwyntiadau ar

gael ar y trydydd Dydd

Mawrth ym mhob mis

yng Nghaerfyrddin

(bore) a Llanelli

(prynhawn). Os am

drefnu apwyntiad neu

gael gwybodaeth

bellach, cysylltwch â’r

Gwasanaeth

Gwybodaeth i Ofalwyr,

os gwelwch yn dda.

Rydym eisiau helpu Gofalwyr trwy ddarparu sesiwn cyngor

cychwynnol am ddim, heb orfod poeni am ffioedd anhysbys a

chostus. Os byddwch yn penderfynu ein cyfarwyddo, fe fyddwn yn

gweithio am ffi sefydlog.

Ffôn: 0300 0200 002 neu e-bostiwch info@carmarthenshirecarers.org.uk

Nodwch fod trefnu apwyntiad yn hanfodol.

Newyddion Gofalwyr Sir Gâr 9
Beth yw Neges

mewn Potel?

Datblygwyd y cynllun gan

Lions International, ac mae’n

syniad syml a gynlluniwyd i

annog pobl i gadw eu

manylion personol a meddygol

hanfodol ar ffurf safonol, ac

mewn lleoliad cyffredin, lle

gellir dod o hyd iddynt yn

hawdd mewn argyfwng - yr

oergell!

Gall pob potel ymddwyn fel

achubwr bywyd i’w

pherchennog, gan y bydd yn

cynnwys gwybodaeth

bersonol, megis alergeddau a

chyflyrau sy’n bygwth bywyd,

anableddau, meddyginiaethau

cyfredol, MT, anifail anwes y

teulu, perthynas agosaf ayb.

Mae Criwiau Ambiwlans wedi’u

hyfforddi i chwilio am sticeri

gwyrdd ar ddrws yr oergell a

thu mewn i’r drws ffrynt, er

mwyn dod o hyd i’r Neges

mewn Potel wrth ymateb i

argyfwng yng nghartref y claf.

Mae’r cynllun yn RHAD AC AM

DDIM ac mae’n agored i

unrhyw un, ond mae’n

arbennig o bwysig i’r rheiny

mewn sefyllfa fregus, efallai na

fyddant yn gallu cyfleu eu

manylion meddygol mewn

argyfwng, a gallwch gael

gwybod mwy am Gynllun Lions

yma:

http://lionsclubs.co/MemberA

rea/message-in-a-bottleorder-form-and-posters/

Mae Unforgettable yn gwmni ar-lein, sy’n anelu at wella bywydau

pawb a effeithir gan ddementia, a helpu pobl i wneud y pethau

rydym i gyd yn eu cymryd yn ganiataol.

Sefydlwyd y cwmni gan Ofalwr, a oedd wedi cael profiad personol o

sialensiau dyddiol dementia a cholli cof wrth ofalu am ei fam.

Mae’r wefan www.unforgettable.org yn darparu’r canlynol:

• Cymuned gyfeillgar – lle gallwch rannu eich profiadau a dod o hyd

i dawelwch meddwl.

• Gwybodaeth – erthyglau defnyddiol a chyngor arbenigol.

• Cynnyrch arbenigol – dewch o hyd i gynnyrch nad oeddech yn

gwybod eu bod yn bodoli, sy’n gallu gwneud bywyd yn haws.

• Blog – sy’n cynnwys y newyddion diweddaraf am ddementia a

cholli cof.

• Grŵp cefnogi ar Facebook – grŵp cefnogi caeedig i Ofalwyr a’r

rheiny sy’n byw gyda dementia, rhywle i siarad â phobl sy’n deall.

• E-arweinlyfrau am ddim.

Mae’r siop yn cynnig amrywiaeth eang o gynnyrch i helpu, o fwyta ac

yfed, cysgu a thawelu, gweithgareddau, cerddoriaeth a theledu, i

declynnau tracio a chanfyddwyr gwrthrychau. Gallwch chwilio hefyd

am gynnyrch yn ôl anghenion a sialensiau, megis newid yn

ymddygiad person, cyfathrebu, hylendid personol, lleihau

cwympiadau a chysgu’n dda.

Mae’r ganolfan cyngor ymarferol yn cynnig ystod

fawr o erthyglau ar ddementia a cholli cof, eu

hachosion a thriniaethau, a chyngor i’ch helpu i

ymdopi gyda’r sialensiau. Gall Gofalwyr rannu

cynghorion defnyddiol, storiâu a syniadau, a holi

cwestiynau i’r gymuned ehangach.

Os na allwch gael mynediad i’r wefan, gallwch ofyn am

gatalog o’r cynnyrch, am ddim, trwy ffonio

0203 322 9070

10

Newyddion Gofalwyr Sir Gâr
DIGWYDDIAD

AU I DDOD

Gwasanaeth Cynghorydd Teulu

Sir Gâr

Gall Gwasanaeth Cynghorydd Teulu

Sir Gâr helpu gyda gwybodaeth,

cyngor a chefnogaeth i unigolion

ag Anabledd Dysgu, Rhiant-ofalwyr

a gweithwyr proffesiynol yn

gyffelyb.

Rydym yn cynnal

Grwpiau Cefnogi i Rieni

a Gofalwyr hefyd, felly …

Os hoffech gwrdd â phobl eraill,

rhannu profiadau neu fod yn rhan

o’n Grwpiau Cefnogi i rieni a

gofalwyr, yna dewch i un o’n boreau

coffi misol.

Rydym wedi symud i’n swyddfeydd newydd ac, erbyn hyn,

rydym yn rhan o: Canolfan Coleshill, Teras Coleshill, Llanelli

SA15 3BT. Os hoffech wybod mwy am leoliadau, dyddiadau ac

amserau, neu sut allwn eich cynorthwyo chi, yna ffoniwch ni ar

07532405979

Edrychwn ymlaen at glywed gennych!

HAIPAC –

Cymorth a Gwybodaeth i

Rieni a Gofalwyr

Gwefan a gynlluniwyd gan ac i rieni

a gofalwyr

Os hoffech gyfranogi wrth helpu i gefnogi, neu os ydych eisiau i ni

ychwanegu rhywbeth a fyddai o fudd i unigolion a’u teuluoedd,

yna cysylltwch â ni trwy ein tudalen Facebook, neu trwy e-bostio

admin@haipac.org.uk

Croeso i’n haelodau diweddaraf o Brosiect Gofalwyr Ifanc

Croesffyrdd Sir Gâr.

Sesiynau Blasu

Gofalu Amdanaf i -

Dyddiadau i’w

cadarnhau

Mae EPP Cymru yn cynnig cwrs

yn arbennig ar gyfer y bobl hynny

sy’n gofalu am rywun arall â

chyflwr iechyd hirdymor. Teitl y

cwrs yw 'Gofalu Amdanaf i’ ac

mae’n helpu Gofalwyr ddysgu

ffyrdd y gallant ofalu am eu

hanghenion iechyd eu hunain, tra

eu bod yn gofalu am rywun arall,

ac ymdopi â’r sefyllfa ofalu honno.

Mae’n eu helpu hefyd i fagu hyder

i gael mwy o reolaeth dros eu

bywyd, ac mae’n rhoi cyfle iddynt

gwrdd â phobl eraill sy’n rhannu

profiadau tebyg.

• technegau ymlacio,

• delio â blinder,

• ymarfer corff,

• bwyta’n iach,

• ymdopi ag iselder,

• cyfathrebu gydag aelodau o’r

teulu, ffrindiau a gweithwyr

proffesiynol,

• cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Os am gofrestru diddordeb

yn y sesiwn blasu hanner

diwrnod hon, yna

cysylltwch â’r Gwasanaeth

Gwybodaeth i Ofalwyr ar:

0300 0200 002

Newyddion Gofalwyr Sir Gâr 11
Cyflwyno

yn Sir Gâr

Beth yw Credyd Cynhwysol?

Mae Credyd Cynhwysol yn daliad misol newydd i bobl

sydd naill ai’n ddi-waith neu’n gweithio, ond eu bod ar

incwm isel.

Yn y pen draw, fe fydd yn disodli pob un o’r budddaliadau

a chredydau treth canlynol:

• Cymhorthdal Incwm

• Credyd Treth Plant

• Budd-dal Tai

• Credyd Treth Gwaith

• Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm

• Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm

Sut fydd yn effeithio arnaf i?

Os ydych yn derbyn un o’r budd-daliadau uchod, a

bod eich amgylchiadau cymwys yn newid, fe fydd

angen i chi wneud hawliad am Gredyd Cynhwysol.

Yn hytrach na hawlio pob un o’r budd-daliadau

uchod yn unigol, fe fyddwch yn gwneud un

hawliad am Gredyd Cynhwysol.

Bydd Credyd Cynhwysol yn cynnwys cymorth

ariannol ar gyfer salwch, anabledd, tai, plant,

diweithdra neu gyflogaeth incwm isel.

Bydd hawliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu

diweddaru’n awtomatig gan Gyllid a Thollau Ei

Mawrhydi (HMRC), os byddwch i mewn ac allan o

waith, ni fydd yn rhaid i chi gyflwyno hawliad

newydd os byddwch yn ddiwaith, os bydd eich

oriau gwaith yn cynyddu, neu os byddwch yn

newid eich swydd.

Nid yw Credyd Cynhwysol yn cynnwys y budddaliadau

lles canlynol, ac fe fyddwch yn parhau i

hawlio’r rhain ar wahân:

• Gostyngiad y Dreth Gyngor

• Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) / Taliad

Annibyniaeth Personol (PIP)

• Budd-dal Plant

• Pensiynau

Cyflwynwyd Credyd Cynhwysol yn Sir Gaerfyrddin

ym mis Rhagfyr 2018, ac mae’n cael ei gyflwyno

fesul cam. Nid oes yn rhaid i chi weithredu

ynghylch symud i Gredyd Cynhwysol nes i chi

glywed gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP),

oni bai fod eich amgylchiadau cymwys yn newid,

a’ch bod yn hawlio un o’r chwe budd-dal a restrir

uchod.

Sut mae gwneud hawliad?

Bydd angen i chi wneud eich hawliad

Credyd Cynhwysol ar-lein ar

www.gov.uk/apply-universal-credit

Yna, cewch apwyntiad gyda

Hyfforddwr Gwaith, i drafod eich

hawliad.

Galwch y llinell gymorth i gael

cymorth i wneud eich hawliad ar-lein.

Ffôn: 0800 328 5644

12
Myfyrdodau’r dydd…

Gyda’r diwrnod

newydd daw

cryfder a

myfyrdodau newydd.

Eleanor Roosevelt

Ni allwn wneud pethau

mawr yn y bywyd hwn.

Ond gallwn wneud

pethau bach gyda

chariad mawr.

Anon

Bydd dirion wrthat

ti dy hun yn gyntaf.

Lama Yeshe

Diwrnod Hawliau Gofalwyr

Bydd y mwyafrif ohonom yn

darparu gofal rywbryd yn ystod

ein bywyd, i anwyliaid sy’n sâl

neu’n anabl. P’un ai bod gofalu’n

effeithio ar eich teulu’n raddol

neu’n sydyn, mae’n gyffredin

teimlo nad ydych yn barod. Mae’r

rheolau ar fudd-daliadau a’r

system gofal cymdeithasol yn

gallu teimlo fel dryswch mawr.

Heb y cyngor a’r wybodaeth

gywir, mae’n hawdd colli allan ar y

cymorth ariannol ac ymarferol y

mae gennych hawl iddo. Dyna

pam mae sefydliadau ar hyd a lled

y wlad yn cyfranogi yn y Diwrnod

Hawliau Gofalwr, er mwyn estyn

allan a chynnig gwybodaeth,

cyngor a chymorth i’r 6.5 miliwn o

Ofalwyr yn y DU.

Mae cael yr wybodaeth gywir, ar

yr amser cywir, yn gallu gwneud

gwahaniaeth enfawr pan eich

bod yn gofalu am rywun.

Pob blwyddyn, mae Rhwydwaith

Gwasanaethau Cymorth i Ofalwyr

(CSSN) Sir Gâr yn trefnu

digwyddiad i ddathlu Diwrnod

Hawliau Gofalwyr, gyda chyllid

sydd ar gael trwy Gyngor Sir Gâr.

Llynedd, cynhaliwyd y

digwyddiad yn Mansion House,

Llansteffan, ar ddydd Gwener y

30ain o Dachwedd 2018.

Roedd mwy na 50 o Ofalwyr yn

bresennol yn y digwyddiad, a

bu’n llwyddiant enfawr. Cafodd y

Gofalwyr eu gwahodd i gyfranogi

mewn gweithdai, gan gynnwys

cymorth cyntaf, ymwybyddiaeth

ofalgar trwy gelf, yn ogystal â

magu hyder trwy sgiliau syrcas.

Rhoddwyd cyfle i’r Gofalwyr i

ymweld ag ystod o stondinau

gwybodaeth

gan sefydliadau yn

cynnwys Eiriol, y Gymdeithas

Strôc a Gwasanaeth Cynghorydd

Teulu Mencap.

Yn ogystal, cyflwynwyd ‘Gwobr Tu

Hwnt i’r Galw Liz Evans MBE’

gyntaf erioed, i Jonathan Rees,

cyn Swyddog Datblygu Gofalwyr,

wedi iddo ymddeol o’r awdurdod

lleol. Rhoddir y wobr i unigolion

sy’n gweithio’n ddiflino i hybu

hawliau Gofalwyr ac sy’n cyfrannu

at ddatblygu cymorth i Ofalwyr.

Enwyd y wobr er cof am y

diweddar Liz Evans MBE, a fu’n

hyrwyddo hawliau Gofalwyr yn

Llanelli, ei thref enedigol, ac mae’r

wobr yn deyrnged barhaol i un o

hoelion wyth y gymuned

Gofalwyr.

13
Prosiect Blynyddoedd Addysgol Plant (CEY)

Mae Prosiect CEY yn flwydd oed yn barod, ac am flwyddyn mae wedi

bod! Mae dros 150 o blant a phobl ifanc wedi cael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth

yn barod, ac mae cymaint o Ofalwyr ifanc yn ein sir nad sydd wedi cael mynediad at

gymorth eto. Mae llawer o bethau wedi bod yn digwydd yn ddiweddar, felly dyma

rai o’r uchafbwyntiau...

Clybiau Gofalwyr Ifanc

Dim ond pedair pherson fynychodd ein Clwb Gofalwyr Ifanc

cyntaf ac, erbyn hyn, mae 25 a mwy yn mynychu’r grwpiau

dan 11 a 12+ yn rheolaidd. Yn wir, mae’r grwpiau mor llawn

fel na allwn ffitio neb arall i mewn, felly, o fis Mawrth 2019

ymlaen, byddwn yn rhannu’r ddau Glwb Gofalwyr Ifanc yn

bedwar. I’r arddegwyr sy’n byw yn ardaloedd Llanelli,

Cydweli a Chaerfyrddin, byddant yn mynychu clwb

Caerfyrddin, a bydd y rheiny sy’n byw yn ardaloedd

Crosshands, Rhydaman, Llandeilo a Llanymddyfri yn

mynychu clwb newydd sbon yn Llandybie. I’r plant iau,

byddwn yn cadw clwb Llanelli i fynd fel arfer, a bydd ail

glwb yn dechrau yn Llandybie hefyd. Tra nad ydym yn hoffi

rhannu gormod ar y Gofalwyr ifanc, bydd

hyn yn galluogi’r prosiect i dyfu, a

bydd y Gofalwyr ifanc yn dal i weld

ei gilydd mewn gweithdai ac ar

wibdeithiau.

Gwibdeithiau Dydd

Rydym wedi cael cymaint o hwyl gyda’r Gofalwyr ifanc ar ein

gwibdeithiau. I lawer ohonynt, nid ydynt yn cael cyfle i fynd ar

deithiau gyda’u teulu fel eu cyfoedion, a rhan fawr o’r hyn a

wnawn yw rhoi cyfle iddynt wneud y pethau maent yn colli allan

arnynt, bydded hynny’n ymweld â Fferm Folly, dysgu i ddringo

creigiau, neu fynd i’r parc lleol i fwydo’r hwyaid hyd yn oed.

I’r plant iau, roedd y pantomeim a chyfarfod â Siôn Corn mewn

groto anferth adeg y Nadolig yn hudolus, a chafodd yr

arddegwyr amser digrif iawn yn dysgu canŵio (ac yn gwthio’i

gilydd yn y dŵr).

Mae’r ddau grŵp oedran wrth eu bodd yn

marchogaeth ceffylau ac, yn ddiweddar,

aethom â’r arddegwyr ar eu gwibdaith

dros nos gyntaf, a bu’n llwyddiant

mawr, gyda’r Gofalwyr ifanc yn

cael eu gwthio allan o’u parth

cysur, ac yn gwthio eu hunain

trwy dwneli bach yn ein her

ogofa hyd yn oed.

Cefnogaeth Un i Un

a Sesiynau Grŵp

Codi Ymwybyddiaeth a

Rhannu eu Storiâu

Yn ogystal â rhoi cyfle iddynt fwynhau eu plentyndod,

rydym eisiau cyfarparu’r bobl ifanc hefyd, fel eu bod yn

gallu delio â’u sefyllfaoedd personol gorau gallant. Rydym

yn treulio llawer o’n hamser yn gweithio gyda Gofalwyr

ifanc unigol, yn eu cynorthwyo nhw i ddiogelu eu lles eu

hunain, yn ogystal â’r person maent yn gofalu amdano.

Cawsom sesiwn bwerus iawn hefyd, ar berthnasau iach,

gyda’r merched yn eu harddegau, a rhoesom sgiliau

ymarferol gwych iddynt lywio’u ffordd drwy’r sialensiau yn

eu harddegau.

Felly, beth nesaf?

Yn gyson, rydym yn annog ein Gofalwyr ifanc i aros ar eu traed

ac adrodd eu storiâu - rydym eisiau iddynt wybod ein bod yn

eu clywed a’u bod nhw’n bwysig. Felly, rydym yn chwilio, bob

amser, am gyfleoedd i’n Gofalwyr ifanc gael siarad.

Yn y flwyddyn ddiwethaf, ymddangosodd dau o’n Gofalwyr

ifanc ar raglen genedlaethol Plant mewn Angen y BBC, un ar

sioe frecwast Chris Evans, a’r llall ar un o’r ffilmiau apêl.

Buom yn gweithio gydag awdur sgriptiau’r BBC/S4C, a fydd yn

ceisio cynnwys y storiâu a glywodd mewn sgriptiau yn y

dyfodol ac, ychydig wythnosau yn ôl, aeth grŵp o’n Gofalwyr

ifanc i’r Senedd, i gwrdd ag Aelodau Cynulliad, i helpu

sbarduno newid, a chafodd rhai ohonynt eu cyfweld ar y

teledu hyd yn oed!

Mae gennym raglen lawn o’n blaenau ni yn y flwyddyn nesaf...

Mae ein gwibdeithiau’n tyfu a gwella, gan gynnwys

ymweliadau i Disney on Ice, cerdded ceunentydd ac Annie the

Musical ar lwyfan. Byddwn yn cynnal ein pedwar clwb misol,

ac mae gennym rai gweithdai ymarferol ar y gweill, gan

gynnwys sgiliau syrcas, sesiynau coginio a gweithdai lles.

Byddwn yn gweithio’n agosach gydag ysgolion, i sicrhau bod

Gofalwyr ifanc yn cael cymaint o gefnogaeth ac sy’n bosib, ac

rydym mewn trafodaethau gyda’r tîm Ymgyrraedd yn

Ehangach ym Mhrifysgol Abertawe, i weld sut allwn annog

Gofalwyr ifanc i ddilyn addysg bellach.

Wrth gwrs, rydym yn gweithio’n agos, yn wastadol, gyda

Phlant mewn Angen y BBC, i roi mwy o gyfleoedd i Ofalwyr

ifanc rannu eu storiau eu hunain. Rydym mor gyffrous i weld

beth sydd gan 2019 i’w gynnig!

14
Prosiect Gofalwyr sy’n Oedolion Ifanc (YAC)

Mae’r prosiect Gofalwyr sy’n Oedolion Ifanc (YAC)

yn parhau i fod yn brysur iawn, gyda llawer o

Ofalwyr newydd, rhwng 16-25 oed, yn cael eu

hatgyfeirio am gymorth.

Er mwyn ymdopi gyda’r cynnydd yn y galw am

wasanaethau, fe wnaethom gyflogi Tracey Jones, aelod

arall o staff llawn amser, yn 2018 ac, o fis Mawrth 2019

ymlaen, fe fydd Lucy Griffiths yn ymuno â’r Tîm Gofalwyr

sy’n Blant a Phobl Ifanc hefyd.

Rydym yn darparu Gweithiwr Allweddol sy’n cynnal

asesiadau, cynllunio gofal a chefnogaeth 1:1, ac mae’n

cyflwyno gweithdai rheolaidd, sy’n anelu at fagu hyder,

lleihau straen a meithrin sgiliau cydnerthedd, perthnasau

iach, addysg a chyflogaeth. Mae rhai o’r gweithdai’n llawer

o hwyl, ac rydym wedi cynnal gweithdai sgiliau graffiti a

syrcas hefyd, sy’n boblogaidd iawn.

Yn boblogaidd iawn hefyd mae ein clybiau ieuenctid bob

pythefnos, a’n gwibdeithiau bob deufis i wneud pethau fel

gwylio dolffiniaid, cwest laser, pledu paent, beicio cwad,

Gŵyl y Gaeaf, parciau saffari a’r theatr ymhlith pethau

eraill. Hefyd, fe wnaethom hwyluso wythnos gyda

phrosiect Down To Earth ar Y Gŵyr, lle bu grŵp o YAC yn

dysgu sgiliau gwaith coed ac yn helpu ar Brosiect Eco, yn

ogystal â mwynhau diwrnod yn gwneud arforgampau.

Rydym wedi bod yn ffodus iawn i

gael cyllid gan ymddiriedolaethau

lleol, sy’n galluogi’r gwasanaeth i

barhau, gan ein bod ni’n gwbl

ddibynnol ar arian cymunedol i

gadw’r prosiect i fynd.

Hoffem ddiolch yn arbennig i’r

canlynol am eu rhoddion hael:

Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol;

Ymddiriedolaeth Dewi Davies; CWYVS;

Ymddiriedolaeth POBL; Fferm Wynt

Brechfa; Sea-Changers;

Ymddiriedolaeth Gwendoline a

Margaret Davies; Sefydliad Waterloo;

Sefydliad Sobell; Sefydliad Garfield

Weston; Sefydliad Moondance;

Santander a Statkraft Alltwalis.

Diolch yn fawr!

15
Ty-Golau

(House of Light)

Mae Tŷ-Golau yn grŵp o bobl sydd â pheth

problemau â’u cof, afiechydon tebyg i

Alzheimer’s / dementia.

Rydym yn cwrdd yn Neuadd Mynydd-y-Garreg

bob bore dydd Mercher (10.30-12.00), ac yng

Nghanolfan Antioch, Heol Copperworks, Llanelli

(10.30-12.00 a 2.00-3.30) hefyd.

Mae’r grŵp yn dathlu ei 10fed pen-blwydd ym mis

Mehefin, ac mae wedi mynd o nerth i nerth, gan

dderbyn niferus ac amrywiol wobrau am y gwaith

a wneir yn y gymuned.

Nid dim ond grŵp cymdeithasol yw Tŷ-Golau, er

bod cymdeithasu’n digwydd yn naturiol yn ystod y

sesiynau. Caiff pob un o’r sesiynau eu hanelu’n

benodol at ysgogi gwybyddol, a’u cyflwyno mewn

ffordd anfygythiol a hwylus.

Mae’r gweithgareddau’n cynnwys; therapi

atgofion, ymgyfarwyddo â realiti, cydganu,

trafodaethau, cerddoriaeth a symud, a llawer mwy.

Mae defnyddwyr gwasanaethau’n mynychu o

gartrefi nyrsio lleol, yn ogystal â phobl sy’n byw’n

annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, neu gyda

Gofalwyr.

Mae’r bore’n cychwyn gyda the / coffi a chacennau.

Ceir Cwis Cof o ryw fath, cyn i ni symud ymlaen at

brif bwnc y bore, sy’n ymwneud â hel atgofion gan

amlaf (e.e. dyddiau ysgol, gemau a chwaraewyd

pan yn blant, blynyddoedd y Rhyfel, Dygwyliau

ayb.). Mae gwirfoddolwyr yn gwisgo i fyny ar

gyfer llawer o’r sesiynau, ac maent yn cynnwys

cyflwyniadau PowerPoint (i atgyfnerthu’r geiriau

llafar).

Mae croeso cynnes i Ofalwyr fynychu’r

sesiynau, neu gallant adael y person maent yn

gofalu amdano gyda’r grŵp, a chymryd amser i

ymlacio, gan wybod y byddant yn cael gofal ac

amser da. Caiff y grŵp ei hwyluso gan

weithwyr proffesiynol (Therapydd

Galwedigaethol wedi ymddeol a nifer o gyn

staff nyrsio).

Ceir llawer iawn o chwerthin yn ystod y

sesiynau, a gwyddwn ein bod yn darparu

gwasanaeth gwych.

Dyma dri o fy hoff ddyfyniadau gan ddefnyddwyr

gwasanaethau yn dilyn sesiwn:

“Diolch am roi fy atgofion yn ôl i fi.”

“Nid wy’n ffwdanu codi yn y bore, does dim

pwrpas gen i godi, ond ar ddiwrnod Tŷ-

Golau, fi sy’n codi gyntaf.”

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at hyn drwy’r

wythnos. Dyma uchafbwynt ein hwythnos

ni.”

Mae'n werth yr holl ymdrech a pharatoi sy’n

gysylltiedig wrth drefnu’r grŵp pan ein bod ni’n

derbyn atborth fel hyn!

Gall pobl gael eu hatgyfeirio gan weithwyr iechyd

proffesiynol, y Gymdeithas Alzheimer’s,

Gwasanaethau Cymdeithasol, aelod o’r teulu neu

gallwch atgyfeirio eich hun. Dewch i weld yr hyn

yr ydym yn ei wneud. Ni chewch eich siomi.

Os am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Jan Lewis

(Rheolwr) Ffôn: 01554 890 896

E-bost: info@tygolau.org.uk

Janet Lewis DipCThG (Rheolwr)

16

Newyddion Gofalwyr Sir Gâr
Sut i osgoi cael eich sgamio

Fis diwethaf, fe wnaeth y Grŵp Cefnogi Gofalwyr

yn Llanelli groesawu Kirsty Phillips, Bancer

Cymunedol gyda NatWest, a roddodd sgwrs

addysgiadol iawn ar sgamiau a thwyll – ac yn

bwysicaf oll, sut i osgoi cael eich sgamio.

Mae sgamiau’n effeithio ar fywydau miloedd o

bobl ledled y DU. Yn aml, mae pobl sy’n cael eu

sgamio’n teimlo cywilydd ac yn ynysu eu hunain

yn gymdeithasol o ganlyniad.

Mae Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau yn fenter Tîm

Sgamiau Safonau Masnach Cenedlaethol (NTS),

sy’n anelu at ddiogelu pobl a’u rhwystro rhag dod

yn ddioddefwyr sgamiau, trwy rymuso

cymunedau i “Sefyll yn Erbyn Sgamiau”.

Ein 10 Cyngor Gorau ar sut i ddiogelu’ch hun rhag twyll a sgamiau yw:

1. Peidiwch byth â rhoi eich manylion personol, neu fanylion banc, i unrhyw un nad ydych yn ei

adnabod neu’n ymddiried ynddo

2. Ni fydd eich Banc byth yn gofyn i chi drosglwyddo arian i fanc arall, neu godi arian a’i roddi i

negesydd

3. Peidiwch byth â rhoi eich rhif cwsmer, PIN llawn, cyfrinair neu gôd darllenydd cardiau i unrhyw un

4. Ni fydd eich Banc byth yn gofyn i chi am eich PIN llawn, neu gyfrinair, mewn neges destun neu e-

bost, neu wrth i chi fancio ar-lein

5. Byddwch yn ofalus pa wybodaeth fyddwch yn ei rhannu ar y Cyfryngau Cymdeithasol – gall

twyllwyr ddefnyddio’r wybodaeth honno i’ch dynwared chi

6. Ffoniwch eich Banc ar rif sy’n dod o ffynhonnell annibynnol bob tro – hyd yn oed os byddwch yn

derbyn neges gan eich Banc, gyda rhif ffôn cyswllt i ddychwelyd yr alwad

7. Rhwygwch ddogfennau sy’n cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol bob amser

8. Dilewch negeseuon testun amheus bob amser, yn aml, byddant yn ceisio’ch twyllo chi i ddatgelu

gwybodaeth bersonol a gwybodaeth ddiogelwch

9. Bydd sgamwyr yn ceisio cyfathrebu â chi bob amser – yn enwedig ar-lein – er mwyn ceisio cael

gwybodaeth bersonol gennych, ond yn anaml iawn fyddan nhw’n datgelu llawer amdanyn nhw eu

hunain

10. Byddwch yn ofalus gydag unrhyw berthynas ar-lein – yn aml, bydd twyllwyr yn targedu eich

emosiynau, er mwyn eich cael chi i anfon arian iddyn nhw

Os am wybod mwy, ewch i wefan Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau ar: www.friendsagainstscams.org.uk neu

chwiliwch am ‘Nat West Security’ ar-lein; neu siaradwch â’r staff yn eich cangen leol.

Newyddion Gofalwyr Sir Gâr 17
GRŴP CEFNOGI GOFALWYR LLANELLI

Ydych chi’n gofalu am rywun?

Dewch i gwrdd â phobl eraill, gwneud ffrindiau newydd a dod

o hyd i wybodaeth mewn grŵp cyfeillgar braf.

1.00yh – 3.00yh

3ydd dydd Mercher y mis yn Swyddfa Croesffyrdd, Uned 3,

Y Palms, 96 Heol y Frenhines Fictoria, Llanelli SA15 2TH

DYDDIADAU’R GRŴP YN 2019

Jan 23rd, Feb 20th, Mar 20th, Apr 17th, May 15th,

Jun 19th, Jul 17th, Aug 21st, Sept 18th, Oct 16th,

Nov 20th & Dec 18th

Os am wybod mwy, cysylltwch â Bethan Morgan

Ffôn: 0300 0200 002

E-bost: info@carmarthenshirecarers.org.uk

Wefan: www.carmarthenshirecarers.org.uk

Ychydig o amser i chi!

CATCHUP

Mae Gweithredu Cydweithredol i

Newid a Chyflymu Cynnydd

(CATCHUP) yn darparu canolfan

wybodaeth a chyngor, sy’n

arbenigo mewn cyngor ar fudddaliadau

lles, yng Nghanolfan

Gymdeithasol Coleshill yn Llanelli.

Mae ein Tîm Budd-daliadau Lles

arbenigol yn gallu ymdrin ag

ymholiadau ynghylch ystod o

faterion sy’n ymwneud â phobl ag

anableddau a’u Gofalwyr. Mae

mwyafrif eu gwaith yn ymwneud

â chynghori pobl anabl ac

oedrannus ar eu hawliau i fudddaliadau

lles. Gellir cynnig

cymorth hefyd gyda llenwi

ffurflenni, adolygiadau ac

apeliadau ar gyfer mwyafrif y

budd-daliadau y gellir eu hawlio.

Yn ystod chwarter olaf y flwyddyn

ddiwethaf, fe wnaeth tîm

CATCHUP gwblhau 412 o

geisiadau am fudd-daliadau, gan

gynnwys ceisiadau ar gyfer: Taliad

Annibyniaeth Personol, Lwfans

Cyflogaeth a Chymorth, Lwfans

Byw i’r Anabl, Lwfans Gweini a

Lwfans Gofalwyr.

Bu’r tîm yn cynrychioli unigolion

mewn Tribiwnlysoedd Apêl ar 19

achlysur, gydag 13 apêl

lwyddiannus / budd-dal yn cael

eu dyfarnu, a 2 apêl

aflwyddiannus. Cafodd 5 apêl eu

gohirio. Mae’r gyfradd llwyddiant

mewn Gwrandawiadau Tribiwnlys

Apêl yn parhau’n uchel, gydag

87% o apeliadau’n cael canlyniad

llwyddiannus, lle mae budd-dal

yn cael ei ddyfarnu.

Ariennir CATCHUP gan Gyngor Sir

Gâr, ac mae’r tîm yn gwasanaethu

Sir Gaerfyrddin i gyd; o

Gastellnewydd Emlyn i Lanelli,

Hendy-gwyn ar Daf i

Lanymddyfri.

Os ydych yn byw yn Sir Gaerfyrddin, a’ch bod angen cymorth gydag unrhyw fater sy’n ymwneud â budddaliadau,

yna mae croeso i chi gysylltu â nhw ar 01554 776850.

Mae’r Ganolfan Gwybodaeth a Chyngor ar agor 5-diwrnod yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener,

rhwng 9:30yb a 2:30yh. Apwyntiadau’n unig – Cysylltwch â CATCHUP i gael cyngor, gwybodaeth a

chymorth cyfrinachol, AM DDIM, a thrafod eich hawl unigol chi i fudd-daliadau.

18

Newyddion Gofalwyr Sir Gâr
Stori Gofalwr gan Bethan Morgan - Gweithiwr

Allgymorth Gofalwyr, Ymddiriedolaeth Gofalwyr

Sir Gâr

Cysylltodd Gofalwr 56 oed, Mr X, â’r

Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr, i

ddweud ei fod ‘braidd yn ymdopi’ gyda’i

rôl gofalu, a bod arno angen peth help.

Roedd Mr X wedi bod yn gofalu am ei fam 93

oed, Mrs A, am 5-6 blynedd, oherwydd ei

breuder a Pholymyalgia. Roedd Mr X wedi

dioddef o Syndrom Blinder Cronig ME yn y

gorffennol, ac nid oedd yn gallu gweithio

oherwydd ei ymrwymiad gofalu llawn amser.

Nid oedd yn ddiogel gadael Mrs A ar ei phen ei

hun am gyfnodau hir o amser, oherwydd ei

chyflyrau, fodd bynnag, roedd hi eisiau cadw ei

hurddas a cheisio aros yn annibynnol gyda’i gofal

personol. Roedd yn amharod i dderbyn cymorth

o unrhyw fath, ac yn mynnu mai dim ond ei mab

oedd hi eisiau i ofalu amdani.

Mae’r teulu’n agos iawn, gydag ymdeimlad cryf o

gyfrifoldeb teuluol, ac ychydig iawn o gymorth

maent yn ei gael gan aelodau estynedig y teulu

neu ffrindiau. Yr unig dro fyddai Mrs A yn gadael

ei chartref fyddai i fynd i siopa gyda’i mab.

Roedd campfa fach gan Mr X yn y tŷ, fel na fyddai

angen iddo adael ei fam. Roedd e’n mwynhau

chwarae’r gitâr a’r ffidil iddi, ac roedd y ddau

ohonynt yn mwynhau’r profiad. Soniodd Mr X

gymaint "byddai’n hoffi canu’r delyn Geltaidd."

Roedd Mr X yn mynd yn fwy ynysig yn

gymdeithasol, roedd eisiau parhau i ofalu am ei

fam, ond roedd yn gorfod rhoi’r gorau i’w

ddiddordebau ei hun, gan na allai adael ei fam

am gyfnodau hir, oherwydd ei bod yn gwrthod

mynychu canolfan ddydd. Roedd Mr X yn ei

chael yn anodd yn ariannol, ac ni allai fforddio

gwireddu ei freuddwyd o fedru canu’r delyn.

Roedd wedi ei ddal ym magl budd-daliadau, yn

methu fforddio prynu’r delyn, na mynychu

gwersi.

Cyfeiriais Mr X at Men’s Sheds, cynllun cyfeillio’r

Groes Goch Brydeinig, ein grŵp cefnogi gofalwyr

generig (a fynychodd), digwyddiad Diwrnod

Hawliau Gofalwyr (a fynychodd) a’n cinio Nadolig

ni (a fynychodd).

Atgyfeiriais ef at CATCHUP, er mwyn adolygu

hawl Mr X i fudd-daliadau lles, ac anogais a

chefnogais Mr X i gael Asesiad Anghenion

Gofalwyr, trwy Dîm Adnoddau Cymunedol

Llanelli.

O ganlyniad i fy nghymorth i, mae sefyllfa

ariannol Mr X wedi gwella, o £62.70 yr wythnos i

£108.05 yr wythnos.

Wedi i fi wneud cais llwyddiannus am grant ar ei

ran, dyfarnwyd iddo £600, a’i galluogodd i

brynu’r delyn Geltaidd.

Trwy’r Asesiad Anghenion Gofalwyr, llwyddodd i

gael mynediad at daliad uniongyrchol

amgylchiadau eithriadol gofalwyr ‘unigryw’ o

£200. Arweiniodd yr asesiad hwn hefyd at

asesiad therapydd galwedigaethol, a

thrawsnewidiwyd ystafell lawr stâr yn ystafell

wlyb, gyda’r addasiadau a’r offer angenrheidiol

(canllawiau, stôl nos, ayb.), a wnaeth ysgafnhau’r

dasg o ofal personol i Mrs A. Gwrthododd Mrs A

dderbyn gofal amgen.

Mae’r cymorth yr wyf wedi’i ddarparu wedi

gwella sefyllfa ariannol Mr X yn sylweddol, yn

ogystal â’r gwelliannau ymarferol yn y cartref, i’w

gynorthwyo yn ei rôl gofalu, sydd wedi gwella ei

les emosiynol yn gyffredinol.

Mae’r ddau ohonynt yn cael cymaint o bleser

allan o’r delyn, mae Mr X yn teimlo dan lai o

straen, mae’n gallu ymlacio mwy ac mae’n

ymdopi â’i rôl gofalu yn fwy positif, gan ei fod

wedi ailgydio yn un o’i ddiddordebau tra ei fod

gartref i ofalu am anghenion ei fam.

Newyddion Gofalwyr Sir Gâr

19
RHIFAU DEFNYDDIOL

Darparu cymorth ymarferol i Ofalwyr trwy

ofal amgen a gwasanaethau dydd

01267 220046

Cymorth unigol a chymorth cyfoedion i

Ofalwyr sy’n Oedolion Ifanc rhwng 16-25 oed

0300 0200 002

Cymorth unigol, grŵp a chymorth cyfoedion i

Ofalwyr Ifanc rhwng 5-18 oed

0300 0200 002

Gwasanaeth Gwybodaeth

ac Allgymorth i Ofalwyr

0300 0200 002

Cyfarfodydd rheolaeth i Ofalwyr, i drafod

materion perthynol i Ofalwyr

07989 897010

Information, advice & support for people with

learning disability and their parent carers

01267 232256

Gwybodaeth a chymorth i bobl sy’n cael

diagnosis o ddementia a’u teuluoedd

01269 597411

Gwybodaeth a chymorth i bobl a

effeithiwyd gan Strôc a’u Gofalwyr

07799 436050

Gwybodaeth, cyngor a chymorth i bobl ag

anabledd dysgu a’u rhiant-ofalwyr

01554 776850

Cymorth i Ofalwyr Iechyd Meddwl, gan

gynnwys grwpiau Gofalwyr rheolaidd

07966 876108

Cymorth gyda chludiant,

pryd ar glud, clybiau cymdeithasol

01269 843819

I bobl hŷn 50+, gan gynnwys cynllun tasgmon

a budd-daliadau lles

01554 784080

Eiriolaeth Iechyd Meddwl -

Cymorth i leisio’ch barn

01267 231122

Gwybodaeth a chymorth i bobl

sy’n dioddef o salwch meddwl

01267 245572

Gwybodaeth a chymorth i bobl â

chanser a’u Gofalwyr

01267 227904

Gwybodaeth a chymorth gyda

chymhorthion ac addasiadau

01554 744300

Gall Gofalwyr sy’n darparu, neu’n bwriadu

darparu, gofal am rywun ofyn i’r adran gofal

cymdeithasol am Asesiad Anghenion

Gofalwyr 0300 333 2222

Cymorth i Ofalwyr Ifanc dan 18 oed

01554 742630

Os oes gennych unrhyw eitemau newyddion, gwybodaeth am

grwpiau Gofalwyr neu wasanaethau cymorth yr hoffech eu cynnwys

yn y rhifyn nesaf o Newyddion Gofalwyr, neu os ydych yn Ofalwr a

hoffech rannu eich storiâu, cerddi ayb., gyda ni, yna anfonwch

e-bost at info@carmarthenshirecarers.org.uk

The simple act of caring is

HEROIC

Edward Albert, Actor