Cymru'n Llwyddo - mewn Gwyddoniaeth ... - Business Wales
Cymru'n Llwyddo - mewn Gwyddoniaeth ... - Business Wales
Cymru'n Llwyddo - mewn Gwyddoniaeth ... - Business Wales
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
CYMRU’N

LLWYDDo

[ MEWN GWYDDoNIAETH, TECHNoLEG A PHEIRIANNEG ]
Mae’r wybodaeth hon hefyd ar gael mewn fformat print bras,

Braille, Moon a sain. I gael mwy o wybodaeth ar y cyhoeddiad

hwn e-bostiwch: arloesedd@cymru.gsi.gov.uk

ISBN 978 0 7504 5146 8

WAG10-10868

G/MH/3890

Rhagfyr

Cysodwyd mewn 12pt

© Hawlfraint y Goron 2010
CYNNWYS

02 Rhagair

04 Biowyddoniaeth a Iechyd

12 Yr Amgylchedd Adeiledig

18 Telathrebu a Thechnoleg

Gwybodaeth a Chyfathrebu

24 Diwydiannau Creadigol

30 Ynni

36 Peirianneg

40 Gwyddorau’r Amgylchedd

46 Deunyddiau

52 Trafnidiaeth

60 Pobl

68 Cerrig Milltir

78 Diweddglo
Yn fwy a mwy, mae’r eitemau, y delweddau a’r

seiniau sydd o’n cwmpas ym mhobman yn ganlyniad

dulliau o gymhwyso gwyddoniaeth, technoleg a

pheirianneg. Yr hyn a olygir wrth ddefnyddio’r gair

‘cymhwyso’ yw bod y rhai sy’n ymwneud â meysydd

gwyddoniaeth, technoleg a pheirianneg wedi

dyfeisio, wedi datblygu ac wedi cwblhau rhywbeth

y gellid ei gymhwyso; maent wedi arloesi.

Mae pawb yn gallu arloesi.

Mae’r teithi meddwl sy’n

arwain at syniad ‘newydd’

yn bresennol ym mhob un

ohonom ac er bod diwydiant

ac academia’n ceisio trefnu

gwaith ymchwil a datblygu

fel y bydd yn arwain yn

rhesymegol at brosesau

a chynhyrchion arloesol,

nid yw’r eiliad ‘Eureka’ o

reidrwydd yn digwydd fel

canlyniad uniongyrchol i

raglen gwaith gynlluniedig.

Mae ysbrydoliaeth ac

arloesi’n mynd law yn

llaw yn aml ac, os gellir

creu amgylchedd sy’n

RHAGAIR

symbylu, yn hybu ac yn

cydnabod syniadau da,

mae hynny’n sicr o ddod â

manteision economaidd.

Mae Llywodraeth Cynulliad

Cymru yn rhoi pwys mawr

ar werth arloesi fel modd i

gynnal a hyrwyddo ffyniant

cwmnïau yng Nghymru.

Cynhelir amryw o gynlluniau

a chystadlaethau o ysgolion

cynradd hyd at addysg

uwchradd, addysg brifysgol

ac mewn diwydiant i hybu

arloesi ac mae’r llawer o’r

syniadau a gafwyd eisoes

wedi’u trosi yn brosiectau

economaidd hyfyw.
Mae’r rhan fwyaf o syniadau arloesol yn peri newidiadau

graddol i broses neu gynnyrch sy’n bod eisoes. Cymharol brin

yw’r newidiadau sylweddol a geir ond, pan yw hynny’n digwydd,

gallant weddnewid ein safonau byw a’n hansawdd bywyd. Nid

pawb ohonom sy’n gallu darganfod

pethau fel helics dwbl DNA neu

ddod â datblygiadau technoleg

fel technoleg microdon i’r cartref,

ond mae gan bob un ohonom ein

syniadau, a gall rhai ohonynt fod yn

syml dros ben, fel dylunio gwell blwch

llythyrau neu ddull o ddal binocwlars

cryf yn llonydd.

Fel y dengys y cyhoeddiad hwn, mae gan Gymru hanes rhagorol o

lwyddiant am greu newidiadau graddol a sylweddol o ganlyniad

i gymhwyso syniadau arloesol. Mae mentrau ar waith ar bob lefel

i gymell unigolion a sefydliadau i feddwl yn ochrol a datblygu a

masnacholi eu syniadau. Mae pobl yn naturiol chwilfrydig o ran

eu natur a thrwy greu amgylchedd sy’n meithrin y chwilfrydedd

hwnnw, mae Cymru eisoes ar ei hennill yn economaidd.

Mae’r tudalennau dilynol yn cynnwys llwyddiannau o’r

gorffennol a’r presennol a rhai hefyd y medrid dweud

eu bod ‘ar y gorwel’ yn nhermau gwireddiad.

Cadwch olwg...

Mae gan

Gymru hanes

rhagorol o

lwyddiant.

3
4

BIoWYDDoNIAETH

A IECHYD

Arloeswyd retinopathi

mewn teleiechyd drwy

waith ar y cyd rhwng

diwydiant a phrifysgol yn

ne Cymru ac mae rhaglenni

sgrinio retinopathi ar

gyfer diabetes.
Sefydlodd Morvus Technology

eu pencadlys yn y Ganolfan

Wyddoniaeth yng Ngardd

Fotaneg Genedlaethol

Cymru yn Llanarthne er

mwyn datblygu cyffuriau

gwrth-ganser newydd.

Mae’r sector Biowyddoniaeth a Iechyd yn un pwysig

yng Nghymru. Mae Cymru’n gartref i un o glystyrau

biowyddoniaeth mwyaf adnabyddus y Deyrnas Unedig

gydag enw da am ragoriaeth wyddonol ac academaidd,

gyda dros 250 o gwmnïau’n dewis Cymru fel lleoliad.

Gan fod galwadau a disgwyliadau cynyddol am

welliannau pellach mewn gofal iechyd, mae cyfleoedd

yn y farchnad wedi rhoi hwb i sawl busnes a ddeilliodd

o’r sector prifysgolion lle mae cysylltiadau agosach

rhwng gwahanol ddisgyblaethau megis meddygaeth,

biowyddoniaeth, electroneg, cemeg a chyfrifiadureg

yn arwain at ddatblygiadau o’r safon orau.

Mae Alzeim Cyf o Bowys yn alldynnu cemegyn

naturiol o’r enw galantamin o gennin Pedr,

sy’n arafu cynnydd clefyd Alzheimer.

5
6

Mae’r gallu i ganfod

anhwylderau

niweidiol wedi cael

hwb mawr drwy gydgyfeirio

gwahanol ddisgyblaethau

gwyddonol. Gan fod offer

profi yn mynd a llai a llai

o ran maint, mae modd

bellach defnyddio pecynnau

hunanbrofi a systemau

telemetrig i roi’r canlyniadau

i’r feddygfa a’r ysbyty

heb i’r claf orfod mynd

yno ei hun. Mae llawer o

brofion diagnostig yn cael

eu datblygu a’u cynhyrchu

yng Nghymru i ddarganfod

diabetes, osteoporosis,

anhwylderau thyroidaidd,

anemia a chlefydau heintus,

ymysg pethau eraill.

Cafodd llwyddiant parhaol

y sector ei adeiladu ar

y cysylltiadau rhwng

sefydliadau academaidd o fri

megis Prifysgol Caerdydd (yn

cynnwys Coleg Meddygaeth

Prifysgol Cymru) a chwmnïau

o Gymru yn y sector. Mae gan

Gymru hefyd sylfaen sgiliau

cryf a sefydlog, seilwaith

pwrpasol ac ymrwymiad

cadarn i’r sector gan

Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae’r gwaith o ddatblygu

cyffuriau newydd, y modd

i’w trosglwyddo i’r mannau

actif yn y corff a’u dull o

weithredu’n feysydd ymchwil

o bwys yn Ysgol Fferylliaeth

Cymru. Mae molecylau bach

a molecylau llawer mwy sy’n

seiliedig ar bolymerau yn cael

eu dyfeisio a’u gwerthuso er

mwyn trin clefydau fel

canser, heintiau firol a

bacteriol a chlefydau

trofannol.

Mae’r Uned Ymchwil Trin

Briwiau ym Mhrifysgol

Caerdydd yn enwog drwy’r

byd am ei gwaith ar drin ac

atal briwiau, yn enwedig

wlserau, ac mae pump o

Ysgolion y Brifysgol yn dod

at ei gilydd yn y Sefydliad

Peirianneg ac Atgyweirio

Meinwe i hyrwyddo’r

defnydd cynnar o

ganlyniadau ymchwil mewn

ymarfer clinigol. Ar lefel mwy

sylfaenol, mae’r Sefydliad

Geneteg Feddygol wedi

cyfrannu at y Gronfa Ddata

o Fwtadiadau Genynnau

Dynol yn gysylltiedig â

chlefydau etifeddol.
Defnyddir samplau gwallt i ganfod pa gyffuriau y

bu pobl yn agored iddynt dros gyfnod hir mewn

gwasanaeth dadansoddi a ddatblygwyd gan Trichotech.

Mae cynrhon pryfed

gwyrdd a fagir gan ysbyty

yn ne Cymru yn cael eu

defnyddio’n llwyddiannus

iawn yn y DU ac Ewrop

i drin wlserau, briwiau

gwasgu a heintiau. Mae

lle mawr i obeithio y bydd

modd eu defnyddio i drin

briwiau sydd wedi’u

heintio gan MRSA.

7
Sefydlir canolfan

ymchwil fyd-eang

ar gyfer NanoIechyd

ym Mhrifysgol

Abertawe.

8

• Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol

Caerdydd wedi datblygu erfyn

dadansoddol yn defnyddio

cemoleuedd a ddefnyddir mewn

100 miliwn o brofion clinigol bob

blwyddyn ym mhob rhan o’r byd.

• Mae protocol yr Athro Archie

Cochrane, Caerdydd ar gyfer

treialu cyffuriau dan reolaeth yn

weithdrefn safonol fyd-eang ar

gyfer gwerthuso cyffuriau.

• Mae Canolfan Delweddu Ymchwil yr Ymennydd (CUBRIC)

ym Mhrifysgol Caerdydd yn un o’r cyntaf ym Mhrydain i

gyfuno’r technolegau sganio ymennydd diweddaraf er

mwyn arloesi gyda thechnegau a all fapio strwythur a

swyddogaeth ymennydd iach ac ymennydd diffygiol.

• Llwyddwyd i ddarganfod bacteria gwenwyn bwyd mewn

modd cyflym a dibynadwy drwy ddefnyddio technoleg

gleiniau magnetig a ddatblygwyd yn labordai Picosorb yng

ngogledd Cymru.

• Cynhaliwyd mwy na 25,000 o archwiliadau post mortem

gan Sir Bernard Knight, a anwyd ym Mro G ^ wyr ac sy’n un

o’r patholegwyr fforensig mwyaf blaenllaw yn y byd.
Mae gwrthweynwynau

ar gyfer brathiadau

nadredd a sgorpionau

ymysg gwrthsera a

gynhyrchir o ddefaid,

geifr, asynnod ac ieir

gan MicroPharm o

Gastellnewydd Emlyn.

9
10

Mae profion cyffuriau tra

sensitif a ddyfeisiwyd ym

Mhrifysgol Cymru Abertawe,

sy’n defnyddio sbectrometreg

màs a chromatograffeg gyda’i

gilydd, yn gymorth mawr

i weinyddwyr chwaraeon

wrth ymladd yn erbyn y

camddefnydd o gyffuriau.
• Gwelir gwyddor bywyd fel ffynhonnell dda ar gyfer

trosglwyddo technoleg a sefydlwyd safle ymchwil gyda’r

gorau yn y byd ar gyfer hyn ym Mhrifysgol Abertawe.

Yma mae cynllun cydweithio unigryw gyda IBM yn y

Sefydliad Gwyddorau Bywyd hefyd yn rhoi llwyfan

unigryw ar gyfer bioleg gyfrifiannol yn defnyddio un o’r

ychydig o uwchgyfrifiaduron yn y byd ar gyfer ymchwil

gwyddor bywyd.

• Mae ailadeiladu strwythur wyneb yn dilyn llawdriniaeth

helaeth wedi manteisio’n fawr o ddefnyddio technegau

prototeipio cyflym gan Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd

i adeiladu model 3D yn seiliedig ar wybodaeth sgan CT

a MR.

• Mae gan Ysgol Cemeg Prifysgol

Caerdydd rôl flaenllaw wrth

geisio atal TB, gan fod y cyntaf

i baratoi set o foleciwlau

allweddol sy’n bresennol mewn

celloedd TB.

Mae’r asesu ar glefyd

cardiofasgwlaidd a monitro

calonnau ffoetysau wedi

gwella’n aruthrol drwy

ddefnyddio offer uwchsain

Doppler a gafodd eu datblygu

a’u gweithgynhyrchu

gan Huntleigh Diagnostics yng

Nghaerdydd, sy’n arwain yn y

maes hwn drwy’r byd.

11
12

YR AMGYLCHEDD

ADEILEDIG Cynlluniwyd y t ^ y

gwydr un bwa mwyaf

yn y byd gan yr

Arglwydd Norman

Foster a phartneriaid

ar gyfer Gardd Fotaneg

Genedlaethol Cymru

yn Llanarthne.
Mae canrifoedd o weithgarwch dynol mewn gwlad

sydd â’r môr ar dair ochr iddi, a thopograffeg sy’n

llawn mynyddoedd, bryniau a dyffrynnoedd sydd

i gyd yn profi glawiad trwm, wedi creu’r angen i

godi llawer o bontydd ar gyfer ffyrdd, rheilffyrdd

a chamlesi. Cyfunwch hyn gyda daeareg gymhleth,

sy’n cynnwys llawer o wahanol fathau o graig sy’n

addas i’w defnyddio ar gyfer adeiladu ac mae rysáit

ar gyfer amrywiaeth rhyfeddol o strwythurau yn yr

amgylchedd adeiledig.

Cwblhawyd yr argae

uchaf yn y DU yn

Llyn Brianne yn

1974 i gyflenwi

Abertawe â d ^ wr.

13
Bu’r dasg o groesi

afonydd ac aberoedd

ym mlaen meddwl

peirianwyr yng Nghymru ers

canrifoedd ac mae rhai o’r

syniadau newydd pwysicaf

ar gyfer dylunio a defnyddio

deunyddiau wedi’u

cynnwys mewn pontydd.

oddi ar y defnydd cynnar

o garreg a haearn bwrw

hyd at adeiladwaith cain

strwythurau a gynhelir gan

geblau, bu Cymru ar y blaen

o ran adeiladu pontydd.

Yn neilltuol bu’r tywydd

gwael yn Aber Hafren

yn her o ran dylunio a’r

deunyddiau adeiladu a oedd

i’w defnyddio, ac atebwyd yr

heriau hyn yn llwyddiannus

drwy godi’r ddwy bont

ffordd hardd sydd mor

bwysig i ffyniant economaidd

Cymru.

Gan fod digonedd o gerrig

adeiladu naturiol, mae’r

tirlun gwneuthuredig

yng Nghymru’n amrywiol

iawn. Mae’r defnydd o

garreg nadd leol wedi rhoi

cymeriad unigryw i lawer o’r

cymunedau o dai rhes yn y

cymoedd glofaol ac mae’r

14

doreth o lechi rhagorol a

gafwyd o chwareli’r gogledd

orllewin yn harddu adeiladau

lleol a llawer o rai eraill

ledled y byd. Parhawyd â’r

traddodiad hwn o adeiladu

â deunyddiau cartref mewn

strwythurau a godwyd yn

ddiweddar fel Canolfan y

Mileniwm yng Nghaerdydd

a llawer o adeiladau

Canolfannau Croeso. Mae’r

gwaith o adfywio Bae

Caerdydd a dociau Abertawe

yn cynnig llawer o gyfleoedd

i benseiri gael mynegi

syniadau newydd ar gyfer

yr amgylchedd adeiledig, a

chaiff hynny ei ddangos gan

adeilad y Senedd ym Mae

Caerdydd ac Amgueddfa

Genedlaethol y Glannau yn

Abertawe.

Cwblhawyd un o’r

strwythurau ffabrig

tynnol mwyaf yn Ewrop

gan Landrell Fabric

Engineering Cyf o

Gas-gwent, sy’n arwain

y byd yn y maes hwn.
Yr enghraifft gynharaf yn y DU o bont

ffordd a gynhelir gan geblau yw honno

sy’n croesi afon Wysg yn Stryd George

yng Nghasnewydd.

Cwblhawyd y bont

grog haearn fawr

gyntaf yn y byd yn

1826 gan Thomas

Telford i fynd â’r

A5 dros Afon Menai.

Yn iard Fairfield-Mabey Cyf yng Nghas-gwent y

gwnaed y trawstiau blwch syml ac arloesol ar

gyfer llawr y bont grog gyntaf dros Afon Hafren.

15
16

• Mae cynllun arloesol Richard Rogers ar gyfer ffatri

Inmos a godwyd yng Nghasnewydd yn 1982 yn amlygu’r

gwasanaethau a’r darnau saernïol ar y tu allan gan

adael y gofod mewnol heb fanylder.

• Y garreg filltir bwysicaf yn hanes oes y camlesi yw

traphont ddwˆ r Thomas Telford a godwyd yn 1805 ar

draws Dyffryn Dyfrdwy ym Mhont-Cysyllte. Mae’r gamlas

yn croesi drwy gafn o haearn bwrw 300 metr o hyd sydd

heb lifddorau, ar ben colofnau cerrig sy’n codi 40 metr

uwchlaw’r afon.

Agorwyd adeilad

aml-lawr cyntaf o

goncrid cyfnerthedig

Ewrop yn Abertawe yn

1897 ar gyfer melinau

blawd a storfeydd.

• Cwblhawyd y twnnel

rheilffordd hwyaf yn y DU

am dros 100 mlynedd,

dan Aber Hafren yn 1885.

Mae’n 7.2km o hyd ac roedd

yn ‘gamp eithaf ym mrwydr

y peiriannydd yn erbyn

helbulon’.

• Mewn cysylltiad ag eraill,

datblygodd Robert Stephenson

y cysyniad o drawstiau blwch

ar gyfer cario ei reilffordd dros

Afon Menai. Cafodd y bont

diwb haearn bwrw cyntaf o’r

dyluniad hwn ei chodi yng

Nghonwy yn 1848 ac mae yno

hyd heddiw.
Mae Canolfan Mileniwm

Cymru yng Nghaerdydd yn

cynnwys llechi, coed, gwydr

a dur di-staen gan

adlewyrchu adnoddau

naturiol a gwneuthuredig

Cymru mewn strwythur a

enillodd wobrau.

17
18

TELATHREBU A THECHNoLEG

GWYBoDAETH

A CHYFATHREBU

Gwnaed yr arbrawf

cyntaf ar drosglwyddo

signalau teledu microdon

gan Swyddfa’r Post ar

draws Môr Hafren o

Gasnewydd yn 1946.
Ers dyddiau cynnar dyfeisio’r meicroffon a’r telegraff

gan David Hughes, bu cysylltiad agos rhwng Cymru

â’r chwyldro cyfathrebu. Rhwng trosglwyddo

signalau ar hyd gwifren gopr ar y dechrau a’r gallu

wedyn i anfon signal drwy’r awyr a dyfodiad oes

electroneg a datblygiad opteg ffibr ar ôl hynny,

mae Cymru wedi cyfrannu’n helaeth at allu pobl

i gyfathrebu.

Datblygwyd peiriannau

chwilio rhyngrwyd

Google a Yahoo! gyda

chyllid gan Michael

Moritz, a anwyd yng

Nghymru.

19
Bu Cymru â rhan

mewn datblygu sawl

technoleg cyfathrebu

sylfaenol gan gynnwys

y microffon, y telegraff,

trosglwyddo signalau

radio, radar yn yr awyr,

trosglwyddo signalau teledu

microdon a throsglwyddo

data drwy eu rhannu’n

becynnau, sef yr hyn a

ragflaenodd y Rhyngrwyd.

Drwy fuddsoddiadau

gan ddiwydiant a chyrff

academaidd, mae Cymru’n

cadw ei lle blaenllaw mewn

technoleg cyfathrebu.

20

Fel rhan o’r fenter i

hyrwyddo statws Cymru er

mwyn denu busnesau sy’n

arloesi ym maes gwybodaeth,

datblygwyd naw Technium

i gynnig cyfleusterau addas

mewn sawl sector. Mae

dwy ohonynt yn neilltuol ar

gyfer y sector cyfathrebu.

Mae’r Technium Digidol yn

Abertawe yn darparu ar gyfer

cyfathrebu, technolegau

amlgyfrwng, animeiddio,

telathrebu, e-ddysgu a

thechnoleg gwybodaeth.

Mae Technium opTIC yn

Llanelwy yn gofalu am bob

agwedd ar optroneg er

mwyn manteisio ar y sgiliau

a’r arbenigedd sydd ar

gael eisoes yng nghlwstwr

gogledd Cymru.

Datblygwyd radar

i’w ddefnyddio yn

yr awyr gan Edward

Bowen o Abertawe

yn 1940 i greu system

ymarferol ddibynadwy

a ddefnyddiwyd yn

yr Ail Ryfel Byd.
Datblygwyd y

Rhyngrwyd yn sgil

gwaith arloesol

ar gyfathrebu

drwy rannu data’n

becynnau gan Donald

Davies o Dreorci yn

y Labordy Ffisegol

Cenedlaethol yn y

1960au.

Bydd BT yn agor un o’r amgylcheddau canolfan

ddata mwyaf datblygedig yn Ewrop ym Mae

Caerdydd gyda buddsoddiad o £90 miliwn.

21
22

Agorwyd y cymhlyg

adeiladau stiwdio

teledu pwrpasol

mwyaf yn y byd

yn 1982 gan

HTV yng Nghroes

Cwrlwys, Caerdydd.

• Gwnaed y trosglwyddiad

ffôn radio cyntaf o’r

awyr, yr ‘Aerophone’, gan

Harry Grindell Matthews i

gyfathrebu o’r ddaear i’r awyr

gyda’r peilot B.C. Hucks yn

hedfan o Gwrs Rasio Trelái

yng Nghaerdydd yn 1911.

• Yn dilyn buddsoddiad

diweddar gan BT, bydd

Next Generation Data yn

buddsoddi hyd at £200 miliwn

yng Nghymru i greu un o’r

canolfannau data ‘gwyrdd’

mwyaf datblygedig yng

Nghasnewydd.

• Mae DeepStream Technologies ym Mharc Menai yn arwain

y ffordd wrth ddatblygu synwyryddion miniatur 3D i wella

gallu llu o ddyfeisiau cartref a diwydiannol.

Dyfeisiwyd telegraff teipio gan David Hughes

o’r Bala yn 1855 a chafodd ei ddefnyddio ledled

yr Unol Daleithiau. Dyfeisiodd hefyd feicroffon

gronynnau carbon a dangos trosglwyddiad tonnau

electromagnetig am y tro cyntaf yn 1879.
Trosglwyddwyd tonnau

radio dros ddwˆ r am y

tro cyntaf gan Gugliemo

Marconi rhwng Larnog

ac Ynys Echni ym Môr

Hafren yn 1897.

Sefydlwyd y Mitel Corporation gan Syr Terry

Matthews yn 1972 i gynhyrchu a chyflenwi

cyfnewidfeydd preifat (PABx) i gyrff ledled y byd.

23
24

DIWYDIANNAU

CREADIGoL

Bu BBC Wales yn

cynhyrchu Doctor Who

ers 2005, gan ddefnyddio

llawer o leoliadau yng

Nghaerdydd a de Cymru

ac ennill llawer o

wobrau BAFTA Cymru.
• Mae mwy na 500 o

raddedigion ac israddedigion yn

Ysgol Ffilm Ryngwladol Cymru

yn Ysgol Gelf, Cyfryngau a

Dylunio Casnewydd.

Agorodd Laura Ashley,

a anwyd ym Merthyr,

ei siop gyntaf yn 1968

gyda phencadlys y

cwmni yng Ngharno,

ger y Drenewydd.

Yn y gorffennol, bu’r diwydiannau creadigol

yng Nghymru’n ymwneud â chreu eitemau fel

crochenwaith porslen, gemwaith, darluniau,

brethynnau a dodrefn. Bu crochenwaith o weithfeydd

Abertawe a Nantgarw yn addurn ar fyrddau llawer o

blastai yng nghyfnod y Rhaglywiaeth. Fodd bynnag,

gyda dyfodiad ffotograffiaeth a’r gallu i gofnodi

seiniau a digwyddiadau gweledol yn electronig,

mae’r diwydiannau creadigol wedi ehangu i gynnwys

gwneud ffilmiau, animeiddio, recordio sain a

chynhyrchu ar gyfer y teledu.

25
Ar hyn o bryd, mae mwy

na 200 o gwmnïau

yng Nghymru sy’n

gysylltiedig â sectorau sain

a gweledol y diwydiannau

creadigol ac yn ymgymryd

â gweithgareddau sy’n

amrywio o gynhyrchu ffilmiau

animeiddio, i gerddoriaeth,

gemau cyfrifiadurol a

chynyrchiadau teledu. Mae’r

ffaith bod y Gymraeg a’r

Saesneg yn bodoli ochr yn

ochr â’i gilydd wedi rhoi hwb

mawr i’r gwaith o gynhyrchu

rhaglenni ar gyfer sianeli

radio a theledu yn y ddwy

iaith. Mae’r pedair sianel yng

Nghymru, sef BBC Cymru

Wales, ITV Wales, S4C ac

S4C Rhyngwladol wedi creu

cyfleoedd pellach ar gyfer

ffyniant y diwydiannau

creadigol. Yn 2007/08

cofnododd Comisiwn Sgrin

Cymru £31.8 miliwn o wariant

uniongyrchol o gynyrchiadau

ffilm a theledu ledled Cymru.

Rhoddwyd cymorth ariannol

tuag at greu clystyrau o

gwmnïau creadigol sydd

â’u prif ganolfannau yng

nghyffiniau Caerdydd,

Caernarfon a’r Canolbarth lle

mae’r croesffrwythloni rhwng

26

syniadau’n fanteisiol i bawb.

Mae llawer o gynyrchiadau

teledu mawr bellach yn

seiliedig yng Nghymru, yn

neilltuol Doctor Who ac yn

2009 bydd ymchwilwyr ym

Mhrifysgol Morgannwg yn

cynnal ymchwil i ‘effaith

Doctor Who’ a’r fantais bosibl

Bu’r tîm sy’n gyfrifol am

Dr Who, a enillodd Wobrau

Teledu yr Academi Brydeinig,

hefyd yn llwyddiannus gyda’r

gyfres Torchwood. Caiff

Caerdydd ei phortreadu yn

y rhaglen ffuglen wyddonol

ac enillodd nifer o Wobrau

BAFTA Cymru.

i Gymru. Bydd y prosiect hefyd

yn cynnwys Torchwood a’r

cynnyrch diweddaraf, The

Sarah Jane Adventures. Bu’r

gomedi ramantus Gavin &

Stacey, sy’n seiliedig yn y

Barri, yn llwyddiannus yng

Ngwobrau Comedi Prydeinig

2007 a 2008 ac ennill y

gwobrau Perfformiad Comedi

orau a gwobrau Cynulleidfa

Sky+ yng Ngwobrau Teledu

yr Academi Brydeinig 2008.
Mae maes animeiddio’n

parhau’n gryf yng Nghymru

gyda ffurfio cwmnïau newydd

megis Dinamo Animation a

Calon TV, a ffurfiwyd gan

reolwyr Siriol Productions.

Cymerodd Cynyrchiadau

Ceidiog Creations ran yn

y cyd-gynhyrchiad cyntaf

erioed ym Mhrydain gyda

sianel Arabaidd al-Jazeera a

lofnodwyd gyda S4C ym mis

Ebrill 2008. Y canlyniad yw

sioe gweithredu byw Baaas i

blant dan oedran ysgol. Mae

cwmnïau newydd yn cynnwys

Indus Films, sy’n gweithio

mewn sector creadigol egniol

sy’n cynnwys cwmnïau fel

opus TF, Green Bay Media

a Boomerang.

Bu’r celfyddydau, a

cherddoriaeth yn enwedig,

yn rhan o ddiwylliant Cymru

ers canrifoedd. Er bod y

defnydd o dechnolegau

electronig newydd i greu

seiniau a delweddau’n elfen

o’r economi sy’n tyfu’n

gyflym, mae’r ffurfiau mwy

traddodiadol a welir yn noniau

Katherine Jenkins, Bryn Terfel

a Chwmni opera Cenedlaethol

Cymru yn ffynnu hefyd.

Mae’r gwaith o greu

gwrthrychau’n agwedd

bwysig ar economi Cymru o

hyd ac mae profiad maith o

ddylunio a thrin deunyddiau’n

fodd i gynnal busnesau

ffyniannus yn y sectorau

gemwaith, dillad, dodrefn,

crochenwaith a phaentio.

27
28

Gellir gweld un o’r

casgliadau gorau

o ddarluniadau

argraffiadol ac

ôl-argraffiadol

gan gynnwys

‘La Parisienne’ gan

Renoir yn Amgueddfa

Genedlaethol Cymru.

• Daeth Alfred Sisley (1839–

1899), un o arlunwyr tirlun

mwyaf y 19eg ganrif a

ffigur amlwg yn y mudiad

Argraffiadol, i dde Cymru yn

1897 a bu’n byw ym Mhenarth

ac wedyn ym Mae Langland

ger Abertawe. Roedd tirlun ac

arfordir Cymru yn ysbrydoliaeth

i rai o weithiau mwyaf rhydd ac

arbrofol Sisley.

• Enillodd y gantores/awdur

caneuon Duffy ddim llai na

thair gwobr BRIT yn 2009.

• Mae dwy o Ysgolion Cerdd mwyaf y DU ym Mhrifysgol

Cymru Bangor a Phrifysgol Caerdydd.

• Dechreuwyd cwrs diploma mewn ffotograffiaeth

ddogfennol gan David Hurn o Magnum yng Ngholeg

Celf Casnewydd yn 1973.

• Mae Canolfan e-Wyddoniaeth Cymru sydd â’i chartref ym

Mhrifysgol Caerdydd yn galluogi busnesau i gael delweddu

o’r safon orau.

• Mae Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol

Caerdydd yn ATRiuM, Caerdydd yn dod ynghyd â’r

disgyblaethau creadigol o fewn Prifysgol Morgannwg.

• Daeth Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru yn

All-Steinway Conservatoire cyntaf y DU yn 2009.
Mae arbenigedd mewn gwydr

lliw tua 25 o artistiaid yn

Abertawe a’r cylch, a gefnogir

gan gyrsiau academaidd

ym Mhrifysgol

Fetropolitan

Abertawe, yn

un o’r clystyrau

mwyaf o’i fath.

Enillodd cwmni

Cynyrchiadau Siriol

o Gaerdydd wobr

BAFTA yn 1987 am

yr Animeiddio Gorau

am gyfres cartwˆ n

animeiddiedig

Superted.

Caiff aur o Gymru, y

cloddiwyd amdano

ar gyfer penaethiaid

llwythi Celtaidd dros

2,000 o fl ynedd yn ôl,

ei ddefnyddio o hyd

ar gyfer gemwaith ar

gyfer y teulu Brenhinol.

29
30

YNNI

Mae 28 o ffermydd

gwynt ar y tir yng

Nghymru ar hyn

o bryd ac arnynt

495 o dyrbinau.
Mae Cymru yn gyfoethog o ran dulliau naturiol ac

adnewyddadwy o ynni. Cafodd ei bendithio â llawer

o danwyddau ffosil yn cynnwys haenau amrywiol

o lo a nwy dan y môr ac mae mewn lleoliad da ar

gyfer ynni gwynt a llanw. Gan wynebu gwyntoedd

de-orllewinol o Fôr yr Iwerydd, mae ar ochr ‘llawn

ynni’ Prydain, gan dderbyn glawiad cymharol uchel

ar ei thopograffi bryniog. Mae Aber a Môr Hafren

yn crynhoi’r llanw i roi’r llanw a thrai ail fwyaf yn y

byd o tua 15 metr, a fedrai, os datblygir y mwyaf o

gynlluniau pwˆ er llanw’r Hafren sy’n cael ei ystyried

ar hyn o bryd, gynhyrchu tua 5% o drydan y DU.

Mae Cymru’n symud at fod yn arweinydd y DU ym

maes ynni adnewyddadwy a gyda’r caniatâd wedi’i

roi i fferm wynt 750MW Gwynt y Môr ger arfordir y

gogledd, bydd yr ail fwyaf yn y byd ar ôl ei gorffen

yn 2014. Yn y gorffennol bu Cymru yn enwog am ei

glo, a gwnaeth safon y glo hi’n bosibl i longau stêm

groesi’r Iwerydd, a dewis cyntaf y Llynges Frenhinol.

Mae’r hinsawdd yn hybu twf coed a phlanhigion

eraill a cheir cnydau da.

Cafodd melin lanw ar gyfer malu yˆd ei hadeiladu

yn ystod y 16 canrif yn ymyl y castell o’r 13eg ganrif

yng Nghaeriw yn ne orllewin Cymru.

31
Am bron 150 o

flynyddoedd

defnyddiwyd

glo Cymru fel ynni ar

gyfer llongau, trenau,

gorsafoedd trydan a thai.

Rhoddir pwyslais yn awr ar

ystyried ffynonellau ynni

adnewyddadwy a mwy

cynaliadwy.

Credai’r Arglwydd Nelson bod

Aberdaugleddau yn un o’r

porthladdoedd naturiol gorau

yn y byd a heddiw mae’n un

o’r ychydig rai yn Ewrop sydd

â digon o le i danceri mawr

sy’n cyflenwi’r diwydiant puro

olew ac erbyn hyn mewnforir

LNG (nwy naturiol hylifedig,

y tanwydd ffosil glanaf )

drwy’r porthladd. Codwyd

argae ar draws sawl cwm yng

Nghymru i storio a chyflenwi

dwˆ r a cheir eraill sy’n darparu

trydan dwˆ r. Ar diroedd uwch,

mae Cymru’n cynhyrchu dros

380 megawat drwy ffermydd

gwynt ac mae bwriad i

gynhyrchu 800 megawat erbyn

2010 drwy osodiadau ar y tir;

mae lleoliadau ar y môr yn

ychwanegu at hynny eisoes.

32

Mae’r Ganolfan Dechnoleg

Amgen ger Machynlleth

wedi darparu arbenigedd ac

enghreifftiau ymarferol ym

maes cynhyrchu a defnyddio

ynni ers 30 mlynedd. Mae

nifer o fentrau diwydiannol

wedi codi’n uniongyrchol o’i

gweithgareddau ac yn cael

eu rhoi ar waith ledled y byd.

Mae arbenigedd yn y sector

academaidd yn arwain at

greu deunyddiau ffotofoltaïg

a dyfeisiau thermodrydanol

mwy effeithiol ac mae

sawl cwmni sy’n cynhyrchu

offer ffotofoltaïg a

systemau gorffenedig drwy

ddefnyddio’r dechnoleg

hon. Un datblygiad sydd

ar y gorwel yw cynhyrchu

a defnyddio hydrogen fel

ffynhonnell ynni ac mae

Cymru’n buddsoddi mewn

technoleg i gynhyrchu’r nwy

drwy ffynonellau’r gwynt

ac ynni’r haul yn ogystal â

thrwy facteria.

Defnyddir y rhan fwyaf

o’r technolegau sydd ar

gael i gynhyrchu ynni yng

Nghymru, gan gynnwys

rhai niwclear, glo, nwy, dwˆ r

biomas a gwynt. Beth fydd

ar y rhestr hon ymhen deng

mlynedd?
Mae cwmni Enfis o

Abertawe yn datblygu

injans ac araeau golau sy’n

trosglwyddo golau pwˆ er

uchel iawn – yn cynnwys

pecyn LED disgleiriaf y byd.

Bu’r Arglwydd Walter

Marshall o Rymni yn

Gyfarwyddwr ar y Sefydliad

Ymchwil Ynni Atomig yn

Harwell ac yn ddiweddarach yn

Gadeirydd y Bwrdd Cynhyrchu

Trydan Canolog.

Mae gan Sharp Solar, gweithgynhyrchydd ffotofoltaïg mwyaf

y byd, un o’r safleoedd mwyaf datblygedig yn dechnegol

yn Wrecsam lle mae’n cynnull modiwlau monocrisialog a

pholycrisialog i’w defnyddio mewn cartrefi a safleoedd

masnachol.

33
34

Cafodd y batri nwy,

rhagflaenydd y

gell danwydd,

ei datblygu gan

William Grove o

Abertawe, ganol

y 19eg ganrif.

• Gorsaf bwˆ er Dinorwig yw’r

cynllun storio a phwmpio dwˆ r

mwyaf o’i fath yn Ewrop, yn yr

ogof fwyaf erioed i’w gwneud

gan ddyn yn Ewrop.

• Mae canolfan ymchwil ynni

hydrogen newydd, a agorodd

ym Maglan ym mis Hydref 2008,

yn safle ymchwil o safon fydeang

a’r ganolfan newydd yng

Nghymru ar gyfer ymchwil i

ynni hydrogen a phrosiectau

cydweithio ac arddangos.

• Cafodd y sail ar gyfer dosbarthu

ffosil fforaminiffera, elfen hanfodol o ymchwilio ei olew,

ei osod gan yr Athro Alan Wood ym Mhrifysgol Cymru

Aberystwyth.

• Bwriedir agor y gwaith trydan glân mwyaf yn y byd ym

Mhort Talbot, fydd yn defnyddio sglodion pren adnewyddadwy.

• Mae mewnforio ac ailnwyeiddio LNG (Nwy Naturiol

Hylifedig) yn Aberdaugleddau yn un o’r prosiectau

hydrocarbon mwyaf o’i fath yn Ewrop.

• Agorwyd y burfa olew fawr gyntaf ym Mhrydain yn

Llandarcy yn 1921.

• Dyfeisiwyd y dosbarthiad cemegol cyntaf o lo gan Clarence

Seymour yn gweithio yn Abertawe.

• Bydd y safle dal a storio carbon deuocsid cyntaf yn y DU

yng ngorsaf bwˆ er Aberddawan yn fan profi hollbwysig ar

gyfer potensial technoleg a storio Co 2 i gynhyrchu ynni isel

mewn carbon.
• Unodd y Sefydliad Gwyddorau Gwledig a Gwyddorau

Biolegol a’r Sefydliad Ymchwil Tir Glas ac Amgylchedd i ffurfio

canolfan ymchwil newydd o safon fyd-eang a elwir y Sefydliad

Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym

Mhrifysgol Aberystwyth.

• Mae G24 Innovations o Gaerdydd yn arloesi amrediad

newydd o baneli solar tenau llifyn-sensitieiddiedig sy’n

cynhyrchu mwy o drydan na’r celloedd solar confensiynol

mwyaf effeithiol.

Mae Technium opTIC

a Phrifysgol Glyndwˆ r

wedi ymuno i greu

safle ymchwil ynni

heulol newydd.

35
36

PEIRIANNEG

Cafodd llenwi ffwrneisi

chwyth ei wella gan

George Parry yng Nglyn

Ebwy yn 1850 gan ei

drefniant cloch a hopran

oedd yn gostwng llawer

ar faint o nwyon poeth

a gollid.
Gan fod dulliau sylfaenol o gynhyrchu metelau,

yn enwedig haearn a dur, wedi’u defnyddio yma

ers canrifoedd, roedd yn naturiol bod sector

peirianneg ffyniannus wedi codi yng Nghymru.

Mae gennym draddodiad o gynhyrchu castiadau

mawr ac eitemau gyredig trwm, o rolio cledrau ar

gyfer rheilffyrdd y byd, cynhyrchu tunplat, caenau

ac aloeon arbenigol, i waith dur strwythurol a dur

ar gyfer y diwydiannt moduron. Y tueddiad yn awr

yw gweithgynhyrchu eitemau a chydrannau llai a

mwy cymhleth ac, yn y pen draw, at dechnoleg

sy’n addas at weithgynhyrchu peiriannau ar raddfa

fach iawn.

Cafodd y cadwynau ar

gyfer holl longau’r Llynges

Frenhinol rhwng yr 1820au

a’r rhyfel byd cyntaf eu

gwneud gan Brown Lenox

o Bontypridd. Hwy hefyd

wnaeth y cadwyni ar gyfer

llong ager Brunel y Great

Eastern a llong Cunard QE2.

37
Gofannu, castio a

stampio oedd y

gweithgareddau

peirianegol traddodiadol

yn ystod y chwyldro

diwydiannol, ac mae’r

rhain wedi profi chwyldro

eu hunain gyda dyfodiad

deunyddiau newydd,

systemau rheoli a thechnegau

elfen feidraidd. Mae nifer

fawr o gwmnïau yn cynhyrchu

castiadau aloi alwminiwm

ac aloi magnesiwm ac mae’r

technegau diweddaraf ar

gyfer torri â laser a chwistrelli

dwˆ r gwasgedd uchel yn

cymryd lle’r gweisg stampio.

Mae’r sector cydrannau ceir

yn dal i fod yn gyflogydd

pwysig ond mae mwyfwy

o gwmnïau’n cynhyrchu

eitemau saernïedig ar gyfer

y sectorau biofeddygol,

electroneg ac amgylchedd

sydd â goddefiant uchel iawn.

38

Mae’r gallu i wneud

prototeipiau’n gyflym wedi

trawsnewid peirianneg

gan fod modd symud

ymlaen yn sydyn o’r syniad

cychwynnol i greu eitem dri

dimensiwn, a hynny heb fawr

o gost. Mae’r ddwy uned

academaidd ym Mhrifysgol

Caerdydd ac Athrofa

Prifysgol Cymru Caerdydd

wedi buddsoddi’n helaeth

yn yr offer diweddaraf ac

maent yn cynnig gwasanaeth

teilwredig i ddiwydiannau

lleol ac i rai ledled y DU.

Drwy wneud defnydd o’i

brofiad o ddatblygu lledddargludyddion,

mae’r

sector academaidd yng

Nghymru’n arloesi mewn

technoleg labordy ar

sglodyn a hefyd yn datblygu

dyfeisiau microtechnolegol a

nanotechnolegol. Gall pethau

bach iawn ddod â budd mawr!

• Cafodd y peiriant cloddio cyntaf i’w weithredu’n llwyr

gan bwˆ er hydrolig ei gynhyrchu gan Hymac Cyf yn Rhymni

yn 1962.

• Dyfeisiwyd a rhoddwyd patent ar system i gadw pwysau

cyson ar felinau rholio gan Statimeter Cyf o Rydymwyn yn

1948 a chafodd ei defnyddio’n eang.
Mae system gwbl newydd ar gyfer cydio cydrannau llenni

metel, sy’n dileu’r angen am foltiau ar y tu allan drwy ffurfio

helics unigryw sy’n codi edau yn y llen bellaf i weithio fel

nyten, wedi cael ei datblygu gan High Torque Fastener

Systems Cyf yn Abertawe.

• Gwnaed y peiriant turio tra chywir cyntaf ar gyfer cynhyrchu

silindrau magnelau a silindrau ager gan John Wilkinson yn y

Bers yn 1776.

• Cafodd y gyriant rheoli cyflymdra cyffredinol, sy’n addas

i bob math o fotor trydan, ei ddylunio a’i gynhyrchu gan

Control Techniques Cyf yn y Drenewydd.

• Mae’r Ganolfan Technoleg Sefydliad Weldio yn y Ganolfan

Gweithgynhyrchu a Deunyddiau (ECM 2 ) ym Mhort Talbot

yn darparu ystod eang o gefnogaeth i gwmnïau Cymru yn

cynnwys dulliau profi anninistriol (NDT).

39
40

GWYDDoRAU’R

AMGYLCHEDD

Mae’r Athro Tavi Murray

o Brifysgol Abertawe yn

fforiwr pegynol ac yn

awdurdod ar yr astudiaeth

o rewlifoedd tymherus

a modelu eu hymateb i

newid yn yr hinsawdd.

DELWEDD GAN BRIFYSGoL ABERTAWE
o gofio am ei hanes hir o gloddio am lo a mwynau

metel, mwyndoddi metel a metel anfferrus a chwareli

llechi, nid yw’n syndod bod Cymru wedi etifeddu

tiroedd halogedig a heriau i’r amgylchedd. Drwy

gyfuniad o ymchwil academaidd, peirianneg sifil

oleuedig a chyllid gan lywodraeth ganolog, mae’r

heriau hyn wedi’u hateb gan ail-greu tirluniau

hardd a diogel ledled Cymru. Yn sgil hynny,

cafwyd arbenigedd cynyddol ym maes datblygu

synwyryddion a dulliau o drin deunyddiau gwastraff.

• Arloeswyd y defnydd o gromatograffeg nwy i ddadansoddi

cemegau gan yr Athro Howard Purnell ym Mhrifysgol Cymru

Abertawe.

• Mae canghennau helyg yn cael eu hasesu i’w defnyddio fel

dewis cynaliadwy yn lle concrid a dur i sefydlogi llethrau gan

Richards Moorhead and Laing yn Rhuthun.

41
Mae’r arbenigedd

toreithiog a

chynyddol yng

ngwyddorau’r amgylchedd

yng Nghymru’n helpu

sefydliadau ym mhedwar

ban byd i ddelio â materion

amgylcheddol. Mae’r profiad

a gafwyd gartref wrth ddelio

ag ôl-effeithiau’r cloddio a’r

prosesu ar lo, dur, metelau

anfferrus a llechi wedi bod o

gymorth i grwpiau o Gymru

wrth iddynt ateb llawer o’r

heriau a geir mewn

gwledydd tramor.

Mae tuedd gynyddol at

fonitro ar y safle, gan ddod

â’r offer at y sampl yn

hytrach na dod â’r sampl

at yr offer. Mae nifer o

42

synwyryddion a dyfeisiau

dadansoddi ar gael yn awr

oddi wrth weithgynhyrchwyr

yng Nghymru sydd, oherwydd

y manteision a gafwyd o

leihau elfennau electroneg,

yn gludadwy a hefyd yn

cynnig dadansoddiadau

cynt a manylach. Mae

dyfeisiau ar gael i fonitro

micro-organeddau mewn

pridd, lefelau hybrin o

gyfansoddion gwenwynig a

drewllyd yn yr awyr, halogi

bacteriol ar arwynebau a

methan a gynhyrchir mewn

safleoedd gwastraff.

Yng Nghymru rydym wedi

adfer ‘y glendid a fu’ drwy

ein sgiliau a’n hymroddiad

ein hunain.

• Mae gwastraff llechi o’r Gogledd wedi cael ei droelli i

wneud ffibrau y gellir ei ddefnyddio i insiwleiddio.

• Gellir mesur fformaldehyd o ddeunyddiau insiwleiddio a

ffynonellau eraill mewn eiliadau drwy ddefnyddio mesurydd

a ddalir yn y llaw a ddatblygwyd gan PPM, Bangor.
Mae cwmnïau ym maes awyrennau yn defnyddio

mesurydd cludadwy a ddatblygwyd gan ECHA

Microbiology i fesur halogiad gan ficrobau mewn

tanwyddau awyren.

Cafodd synwyryddion

cludadwy yn mesur

lefelau tystiolaethol

alcohol mewn gyrwyr ac a

ddefnyddir ym mhob rhan

o’r byd eu datblygu gan

Tom Parry Jones o Lion

Laboratories yn y Barri.

43
44

Cafodd technoleg

seiliedig ar DNA ar

gyfer darganfod

a dynodi llygredd

sy’n effeithio ar

ein dyfrffyrdd a’n

traethau eu harloesi

gan EnviroGene Cyf

o Ystrad Mynach.

• Mae gwyddonwyr o Gymru

yn gwneud cyfraniad pwysig

i’r frwydr yn erbyn newid yn

yr hinsawdd yn cynnwys Syr

John Houghton, oedd yn

gyd-enillydd Gwobr

Heddwch Nobel yn 2007.

• Syr Oliver Sutton o

Gwm-carn a ddechreuodd

ddefnyddio cyfrifiaduron i

ddarogan y tywydd

yn ystod ei dymor yn

Gyfarwyddwr ar y Swyddfa

Feteoroleg rhwng 1953

a 1965.

• Gosodwyd y safonau ar gyfer adfer tir halogedig yn yr

Adroddiad ar Gwm Tawe Isaf a gyhoeddwyd yn 1966 ar ôl

rhaglen lwyddiannus i adfer y safle halogedig o 450 hectar.

Dr Lyn Evans , brodor o Aberdâr, sy’n arwain y

prosiect ar gyfer yr ymgais fwyaf a wnaed hyd yma

i ddatgelu dirgelwch y bydysawd, gan y Sefydliad

Ymchwil Niwclear Ewropeaidd (CERN) yn Genefa

yn defnyddio’r Gwrthdrawydd Hadron Mawr.
46

DEUNYDDIAU

Cynhyrchwyd haenau

lled-ddargludol

6” yn unol â gofynion

cwsmer am y tro

cyntaf gan IQE cc yn

ei waith yn Llaneirwg

ger Caerdydd.
oherwydd y digonedd o fwynhau haearn, mwynau

metel anfferrus, coed a glo, roedd yn anorfod y

byddai’r gwaith o dorri a thrin metelau’n arwain at

ddarganfyddiadau ac at greu diwydiannau mawr.

Drwy gyfnod diwydiannoli, Cymru oedd yn gosod

pris y byd mewn nwyddau megis glo yng

Nghaerdydd, copr yn Abertawe a thunplat

yn Llanelli. Mae ymchwil i ddeunyddiau a’u

datblygu a’u cynhyrchu, wedi bod yn nodwedd

bwysig wedyn mewn datblygiadau academaidd

a diwydiannol am flynyddoedd lawer. Maent

wedi’u defnyddio i gloddio ac i drin deunyddiau

a geir yng Nghymru, i drin deunyddiau newydd,

i gyfuno deunyddiau mewn modd newydd ac i

ailddefnyddio ‘gwastraff’.

Mae un o’r gweithfeydd

mwyaf modern yn y

byd ar gyfer cynhyrchu

deunyddiau sy’n seiliedig ar

silicon yn cael ei redeg gan

Dow Corning yn y Barri.

47
Er mai gwlad fach

yw Cymru, mae’n

dal i gyfrannu’n

helaeth at gynhyrchu a

phrosesu deunyddiau.

Drwy gynhyrchu a rholio

dur a thoddi alwminiwm

sylfaenol a chynhyrchu

nicel pur, gweithgynhyrchu

tunplatiau a phrosesu

titaniwm, mae Cymru’n

cyflenwi marchnadoedd

drwy’r byd â deunyddiau

sy’n angenrheidiol i unrhyw

gymdeithas ddiwydiannol.

Drwy gyfres o fuddsoddiadau,

sefydlwyd un o’r gweithfeydd

polymerau silicon mwyaf

yn y byd yn ogystal â

gweithfeydd sy’n cynhyrchu

lled ddargludyddion a’r

proseswyr ar eu cyfer.

Mae arbenigwyr mewn

prifysgolion yn helpu i

syntheseiddio a gwerthuso

48

deunyddiau lled-ddargludol

newydd ac i ganfod pa

arwynebau ar ddeunyddiau

a allai sicrhau cynnydd

mawr o ran y defnydd o

ddeunyddiau.

Yng ngolwg y pwyslais

cynyddol ar gynaliadwyedd,

mae Cymru’n buddsoddi

mewn datblygiadau i gael

deunyddiau o ffynonellau

adnewyddadwy, ac o

blanhigion yn enwedig. Mae

priodweddau polymerau

a geir o blanhigion ar eu

pennau eu hunain ac ar y cyd

â deunyddiau eraill yn cael

eu hastudio yn y Ganolfan

Biogyfansoddau ym Mangor

ac mae deunyddiau newydd

ar gyfer polysacaridau sy’n

digwydd yn naturiol yn cael

eu gwerthuso ym Mhrifysgol

Glyndwˆ r yn Wrecsam.

Llwyddwyd i arbed 25% o’r costau ynni drwy

ddefnyddio gwahanol ddeunyddiau gwastraff swmpus

yn lle sment gan gwmni Richards Moorhead and Laing

o’r Gogledd drwy gydweithio â Phrifysgol Caerdydd.
• Cafodd Blaenafon a’r tirlun

o’i gwmpas ei gyhoeddi’n un

o Safleoedd Treftadaeth y

Byd yn 2000. `Mae’r ardal o

gwmpas Blaenafon yn cynnig

tystiolaeth huawdl ac eithriadol

i oruchafiaeth De Cymru fel y

man pwysicaf ar gyfer cynhyrchu

haearn a glo yn y byd

yn y 19eg ganrif.’

Dechreuwyd rhoi

cwrw mewn caniau

dur tunplat am y tro

cyntaf yn Ewrop ym

Mragdy Felinfoel yn

Llanelli yn 1935.

• Gwaith Dowlais oedd y cyntaf i gael trwydded i weithredu

proses gwneud dur Bessemer yn 1856 ac yn 1869 agorodd

William Siemens Waith Glandwˆ r ger Abertawe i hyrwyddo

rhagoriaeth gwneud dur drwy ddull aelwyd agored

Siemens-Martin.

• Arloeswyd y defnydd o dechnoleg metelau powdwr

gan osprey Metals yng Nghastell-nedd yn dilyn ymchwil

gymwysedig ym Mhrifysgol Cymru Abertawe.

Caiff Lliain Concrit

ei dreialu gan gwmni

newydd a sefydlwyd

ym Mhontypridd,

ar gyfer llety argyfwng

mewn mannau lle mae

trafferthion ym mhob

rhan o’r byd.

49
Dyfeisiwyd y dull o

adnabod wynebau

grisial drwy ddefnyddio

‘Mynegeion Miller’

gan William Miller

o Lanymddyfri yng

nghanol y 19eg ganrif.

50

• Tyfodd Gwaith Copr Hafod,

a sefydlwyd gan Henry Hussey

Vivian, yng Nghwm Tawe isaf i

fod y gwaith fwyaf o’i fath yn y

19eg ganrif.

• Mae Sims Recycling Solutions

yng Nghasnewydd yn un o’r

canolfannau carpio ac ailgylchu

cynnyrch electronig mwyaf

ym Mhrydain.

• Mae system ynysu Waterwall ®

gan Cintec International Cyf

yn defnyddio dwˆ r i ostwng y

potensial ar gyfer niwed mewn

sefyllfaoedd lle medrid cael

ffrwydriad.

• Cynhyrchir nicel gan INCO yn yr unig burfa yn y DU yng

Nghlydach ar y safle a sefydlwyd yn wreiddiol gan Ludwig

Mond yn 1902.

• Dyfeisiwyd y broses i’w gwneud yn bosibl i doddi haearn

o fwynau haearn ffosffatig a’i defnyddio i wneud dur gan

Gilchrist Thomas a Percy Gilchrist ym Mlaenafon yn 1879.
Arloesodd John

Hanbury gyda rholio

haearn llen ar ddiwedd

y 17eg ganrif gan

arwain at sefydlu

Pont-y-pwˆ l fel prif

gynhyrchydd tunplat

a lacr yn yr 1800au.

51
52

TRAFNIDIAETH

Mae rhai o’r awtoclafau

ac ystafelloedd glân mwyaf

datblygedig yn Ewrop yn

cael eu rhedeg gan GE

Aircraft Engine Services Cyf

yn ei waith yn Nantgarw

er mwyn gwasanaethu

peiriannau awyren General

Electric a Rolls Royce.
Yn sgil y Chwyldro Diwydiannol, roedd arloeswyr dan

bwysau i ddatblygu systemau trafnidiaeth a allai gludo

llwythi trwm a swmpus. Roedd Cymru ar y blaen o

ran adeiladu camlesi ac o fewn ychydig ddegawdau

cofnodwyd hanes y siwrnai gyntaf yn y byd gan injan

trên Trevethick.

Roedd trafnidiaeth ar ffyrdd ac yn yr awyr wedi

elwa’n fawr yn ei dyddiau cynnar o weithgareddau’r

Anrhydeddus C S Rolls o Drefynwy ac mae ei

weledigaethau wedi’u gwireddu bellach drwy’r nifer

fawr o weithfeydd yng Nghymru sy’n ymwneud â’r

sectorau awyrofod a cherbydau. Gan mai yma y mae

dau o’r gweithfeydd injans cerbydau mwyaf yn y byd

a gweithfeydd lle y cafwyd budsoddiadau anferth

mewn adeiladu awyrennau, peiriannau awyrennau

a gwasanaethu awyrennau, mae’n amlwg bod Cymru

ar ei ffordd!

Cychwynnwyd y

gwasanaeth rheolaidd

cyntaf yn y byd mewn

hofrennydd rhwng

Caerdydd, Wrecsam

a Lerpwl yn 1950.

53
Mae’r sector awyrofod

wedi bod yn

amlwg ym myd

diwydiannol Cymru ers

blynyddoedd lawer drwy

bresenoldeb sefydliadau’r

Weinyddiaeth Amddiffyn

a gynigiai gyfleusterau ar

gyfer awyrennau milwrol

a meysydd prawf ar gyfer

awyrennau di-griw. Wrth

i’r sector awyrofod preifat

ehangu, daeth Cymru i’r brig

ym maes cynnal awyrennau

a gwasanaethu peiriannau

awyrennau ar gyfer cwmnïau

teithio mawr. Gan fod galw

cynyddol am gydrannau

sy’n perfformio’n well,

mae Prifysgolion Cymru’n

dyrannu adnoddau sylweddol

at ddatblygu a phrofi

deunyddiau a dyluniadau

newydd i’w defnyddio yn y

sector awyrofod.

54

Mae’r sector cerbydau

yng Nghymru’n cynnwys

gweithfeydd injan Ford

a Toyota a busnesau sy’n

cynhyrchu cydrannau sy’n

amrywio o offer llywio,

unedau oeri a thymheru hyd

at systemau gwagio nwyon

ac offerwaith i gerbydau.

Mae arbenigedd yn y byd

academaidd sy’n ategu

gwaith y sector hwn

ym meysydd economeg

cynhyrchu cerbydau a

defnyddio a gwerthuso

deunyddiau newydd ar

gyfer adeiladu cerbydau.

Bu arbenigedd academaidd

Cymru ar y blaen yn

llythrennol drwy ddatblygu’r

dyluniad erodeinamig ar

gyfer Thrust, y car uwchsonig,

a bu’r arbenigedd hwnnw’n

gysylltiedig hefyd ag

agweddau o’r dyluniadau

ar gyfer Airbus.

Cychod pleser a all deithio ar yr wyneb a

dan ddwˆ r yw potensial y Scubacraft sy’n

cael ei ddatblygu gan gwmni Creative

Worldwide Cyf o Ynys Môn.

Mae’r holl adenydd ar gyfer pob un o

awyrennau Airbus wedi’u cynhyrchu

yn ffatri Airbus UK ym Mrychdyn yn y

Gogledd-ddwyrain. Yn 2002 dechreuodd

gynhyrchu adenydd yr A380.
Bydd ymgais newydd i dorri cyflymder y byd yn

dechrau yn 2009 gyda char uwchsonig Bloodhound

gyda mewnbwn gan Brifysgol Abertawe.

DELWEDD GAN BRIFYSGoL ABERTAWE

55
56

Cychwynnwyd

y gwasanaeth

rheolaidd cyntaf yn

y byd ar long hofran

rhwng y Rhyl a

Wallasey yn 1962.

DELWEDD GAN BRIFYSGoL ABERTAWE
Datblygwyd y dyluniad erodeinamig

ar gyfer Car Uwchsonig Thrust gan

yr Adran Peirianneg Sifil ym

Mhrifysgol Cymru Abertawe drwy

ddefnyddio uwch gyfrifiadur

Cray a rhoddwyd prawf arno ar y

safle profi rocedi ym Mhentywyn

gerllaw. Cyrhaeddodd y car

gyflymder o 763 mya yn 1997.

• Mae unig

faes awyr sifil

trwyddedig

Ewrop ar gyfer

gweithgareddau

awyrol di-griw ym

MharcAberporth

yng ngorllewin

Cymru.

• Cynhyrchwyd injans diesel am y tro cyntaf yn y DU gan Toyota

yn ei waith yng Nglannau Dyfrdwy yn 2003.

• Lansiwyd y Zecar ym mis Mawrth 2008 gan Stevens Vehicles

Cyf ym Mhort Talbot, gwneuthurwyr moduron newyddaf

Prydain.

• John Dillwyn Llewelyn a lywiodd y cwch cyntaf i’w yrru gan

drydan ar y llyn ger Tyˆ Penllergaer yn 1850 gan ddefnyddio

celloedd Grove i’w bweru.

• Mae’r bws tribrid di-allyriad yn fws mini di-garbon a gaiff

ei bweru gan dair technoleg werdd wahanol, yn defnyddio’r

system cell tanwydd ar gyfer pwˆ er cyson pen-isaf, batri asid

plwm ar gyfer pwˆ er cyson canolig ac yn olaf uwch-gynwyserau

i roi’r pwˆ er ar unwaith sydd ei angen ar gyfer cyflymu llwyth

uchel. Cafodd ei ddatblygu fel canlyniad cywaith cynllun

rhyngwladol a gafodd ei arwain a’i gydlynu yng Nghymru

gan Brifysgol Morgannwg.

57
58

Gosodwyd

record y byd am

gyflymder teithio

ar dir o 172.33 mya

ar draeth Pentywyn

yn 1926 gan J G

Parry Thomas yn

ei gar Babs.

• Agorwyd twnnel traffordd

cyntaf Prydain ar yr M4 ym

Mryn-glas, Casnewydd yn 1967.

• Gwnaed y siwrnai gyntaf

yn y byd ar injan trên gan

Richard Trevithick ym Merthyr

Tudful yn 1804.

• Mae datblygiadau newydd

mewn defnyddio generaduron

thermodrydanol gan

wneuthurwyr car yn cael

eu harloesi ym Mhrifysgol

Caerdydd.

• Cafodd y Comet, yr awyren jet cyntaf i deithwyr yn y byd,

ei chynhyrchu yn ffatri cwmni De Haviland Aircraft yn y

Gogledd-ddwyrain o 1957 ymlaen.

• Ganed yr Anrhydeddus Charles Stewart Rolls yn Nhrefynwy

yn 1877 a meithrinodd ei sgiliau peirianegol fel un o’r

awyrenwyr cyntaf ym Mhrydain a chyd-sefydlydd cwmni

Rolls-Royce.

• Richard Parry Jones, brodor o Fangor, yw Prif Swyddog

Technegol cwmni moduron Ford.
Mae un o awyrendai mwyaf

y byd yn gartref i British

Airways Maintenance Cardiff

sy’n cynnal ac yn atgyweirio

awyrennau Boeing 747, 767

a 777 mewn pedair cilfach

ym Maes Awyr Rhyngwladol

Caerdydd.

59
60

PoBL

Charles Rolls

Modurwr ac

awyrennwr a

chyd-sefydlydd

Rolls-Royce
Rhwng gwaith Robert Recorde yn y 16eg ganrif, y

cafodd ei arwydd ‘hafalnod’ ei fabwysiadu’n eang

fel y symbol a ddefnyddiwn heddiw, a’r ehangiad

parhaus yn y chwyldro electronig, mae Cymru wedi

chwarae ei rhan wrth feithrin doniau creadigol ac

arloesedd fel modd i gyflawni dyheadau cymdeithas.

Mae’r gweithgareddau cynhyrfus a gafwyd yn ystod

y chwyldro diwydiannol a‘r llonyddwch unig a geir

yn aml yng nghefn gwlad wedi bod yn fodd, fel ei

gilydd, i symbylu Cymry cynhenid a’r rhai sy’n dewis

byw a gweithio yma i feithrin eu syniadau a’u

doniau. Mae’r angen i ennyn chwilfrydedd a’i droi’n

fanteision economaidd yn flaenoriaeth bwysig

yng Nghymru fel y gwelir yng ngweithgareddau

Rhwydwaith Arloeswyr Cymru sydd wedi’u hanelu at

ddyfeiswyr sy’n gweithio ar eu pennau eu hunain. Ie,

ceir syniadau gan ... bobl!

61
1965 –

Yr Athro Tavi Murray.

g. Mwmbwls.

Fforwr pegynol ac awdurdod

ar astudiaeth rhewlifoedd a

newid yn yr hinsawdd.

1957 –

Syr Chris Evans.

g. Port Talbot.

Entrepreneur ym maes

biotechnoleg a sefydlydd

cwmnïau ym meysydd

genynnau, ensymau a

micro-organeddau.

1955 –

Michael Moritz.

g. Caerdydd.

Datblygwyd y peiriannau

chwilio rhyngrwyd Google

a Yahoo! gyda chyllid gan

Michael Moritz a anwyd

yng Nghymru.

1951 –

Richard Parry-Jones.

g. Bangor.

Is-lywydd Grwˆ p, Datblygu

Cynhyrchion Rhyngwladol

a Phrif Swyddog Technegol

cwmni moduron Ford.

62

1945 –

Yr Athro Anthony Campbell.

g. Bangor.

Athro mewn Biocemeg

Feddygol ym Mhrifysgol

Caerdydd ac awdurdod

rhyngwladol ar signalu

mewngellog a chemoleuedd

a bio-oleuedd. Yn 1994

sefydlodd Ganolfan Darwin

ar gyfer Bioleg a Meddygaeth

yn Sir Benfro.

1943 –

Syr Terry Matthews.

g. Trecelyn.

Entrepreneur ym maes

telathrebu a sylfaenydd

Mitel.

1942 –

Howard Stringer.

g. Caerdydd.

Cadeirydd a Phrif Swyddog

Gweithredol Sony

Corporation.

1939 –

Brian Josephson.

g. Caerdydd.

Enillodd wobr Nobel am ei

astudiaeth o ffenomenâu

ffiseg tymheredd isel, yn

enwedig cyfuniadau o

dra-dargludyddion ac

ynyswyr.
1935 –

Dr Tom Parry Jones.

g. Ynys Môn.

Dyfeisydd yr ‘Anadliedydd’

a’r fersiwn electronig

diweddarach, yr

‘Alcoholmedr’. Fe’i

mabwysiadwyd mewn

80 o wledydd drwy’r byd.

1932 – 1995

Yr Arglwydd Walter Marshall.

g. Rhymni.

Cyfarwyddwr y Sefydliad

Ymchwil Ynni Atomig yn

Harwell ac, yn ddiweddarach,

Cadeirydd y Bwrdd

Cynhyrchu Trydan Canolig

(CEGB).

1931 –

Syr John Houghton.

g. Dyserth.

Cyfarwyddwr y Swyddfa

Feteorolegol 1983-1991,

ac awdurdod ar gynhesu

byd-eang.

1931 –

Syr Bernard Knight.

g. Bro Gwˆ yr.

Cynhaliodd fwy na 25,000

o archwiliadau postmortem

a daeth yn un o brif

batholegwyr fforensig y byd.

1926 – 2005

Yr Athro John Vaughan.

g. Merthyr Tudfull.

Athro microsgopeg bwyd,

King’s College, Llundain. Un

a arloesodd mewn astudio

priodweddau had olew a’r

defnydd ohonynt mewn

diwydiant.

1925 – 1996

Yr Athro Howard Purnell.

g. Rhondda.

Athro Cemeg, Prifysgol

Cymru, Abertawe. Arloesodd

mewn ymchwil i’r defnydd

o gromatograffeg nwy ar

gyfer dadansoddi cemegion.

1924 – 2000

Donald Davies.

g. Treorci.

Pan oedd yn gweithio

yn y Labordy Ffisegol

Cenedlaethol, gosododd y

sylfeini ar gyfer y Rhyngrwyd

drwy ei waith ar rannu data’n

becynnau i’w trosglwyddo.

1911 – 2002

Yr Athro Ewart Jones.

g. Wrecsam.

Waynflete Athro Cemeg ym

Mhrifysgol Rhydychen. Ymchwil

i gemeg cynhrychion naturiol

gan gynnwys steroidau,

terpenau a fitaminau.

63
1910 – 1992

Yr Athro Alan Wood.

Athro Daeareg ym Mhrifysgol

Cymru Aberystwyth.

Gosododd sylfeini ar gyfer

dosbarthu fforaminiffera

ffosilau, sy’n hollbwysig wrth

chwilio am olew.

1909 – 1988

Yr Athro Archibald Cochrane.

Athro twbercolosis a

chlefydau’r frest yn Ysgol

Feddygaeth Genedlaethol

Cymru. Datblygodd brotocol

ar gyfer treialu cyffuriau

dan reolaeth a ddaeth yn

weithdrefn safonol drwy’r byd

ar gyfer gwerthuso cyffuriau.

1906 – 1994

Yr Athro Gwendolen

Rees FRS.

Y Gymraes gyntaf i gael

ei hethol yn Gymrawd y

Gymdeithas Frenhinol.

Cyflwynodd ei bywyd i

helmintholeg, astudiaeth o

lyngyr parasitig.

1903 – 1989

Yr Athro Syr Brynmor Jones.

Daeth ei adran ym Mhrifysgol

Hull yn enwog am ddatblygu

technoleg arddangosiad

grisial hylifol.

64

1903 – 1945

Evan James ‘Desin’ Williams.

g. Cwmsychpant.

Daeth Desin Williams yn

ffisegydd a fu’n gweithio

gyda chewri ffiseg

rhyngwladol ei ddydd a

rhagwelodd fodolaeth

gronyn atomig newydd,

y meson.

1903 – 1977

Syr oliver Sutton.

g. Cwmcarn.

Cyfarwyddwr y Swyddfa

Feteorolegol rhwng 1953

– 1965 lle pwysleisiodd

ddefnydd cyfrifiaduron ar

gyfer darogan y tywydd.

1903 – 1963

Syr Horace Evans.

g. Merthyr Tydfil.

Meddyg i’r Frenhines Mary,

y Brenin George V a’r

Frenhines Elizabeth.

1902 – 1977

Hugh Iorys Hughes.

g. Bangor.

Peiriannydd sifil a luniodd

y cynlluniau dechreuol ac

adeiladu prototeip ar gyfer

harbwr symudol Mulberry ar

gyfer glaniadau Normandy

yn 1944.
1896 – 1926

Ernest Thompson Willows.

g. Caerdydd.

Cynlluniodd ei long awyr ei

hunan pan oedd yn bedair

ar bymtheg oed, aeth ar ei

daith hedfan gyntaf yn 1905

a daeth y cyntaf i hedfan ar

draws y Sianel o Lundain i

Baris, yn 1910.

1893 – 1973

Syr Clement Price-Thomas.

g. Abercarn.

Arloesodd y gwaith o drin

anhwylderau’r frest â

radiwm.

1888 – 1962

Dr Ezer Griffiths.

g. Aberdar.

Awdurdod blaenllaw

ar astudiaeth gwres a

rheweiddiad.

1877 – 1910

Yr Anrhydeddus Charles

Stewart Rolls. g. Trefynwy.

Modurwr ac awyrennwr a

chydsefydlydd cwmni Rolls

Royce.

1872 – 1970

Yr Iarll Bertrand Russell.

g. Trelech, Mynwy.

Arloeswr wrth astudio

rhesymeg fathemategol.

1866 – 1959

Clarence Seyler.

Awdurdod blaenllaw ar

ddadansoddi glo, gan wneud

ei ddosbarthiadau cemegol

yn Abertawe.

1857 – 1932

Dr Martha Maria Cannon.

g. Llandudno.

Arloesydd ym maes mesurau

iechyd a hawliau menywod

yn yr Unol Daleithiau, i lle’r

ymfudodd gyda’i rhieni yn

1858, gan ddod yn un o’r

menywod cyntaf yn Utah

i dderbyn gradd M.D. a’r

fenyw gyntaf i ddod yn

seneddwr talaith yn yr UDA.

1850 – 1885

Sidney Gilchrist Thomas.

A’i gefnder Percy Carlisle

Gilchrist. Datblygasant

leininau i ffwrneisi ym

Mlaenafon fel y gellid

defnyddio mwynau haearn

ffosffatig i gynhyrchu dur.

Daeth y ‘basic’ slag

o’r mwyndoddi yn wrtaith

ffosfad gwerthfawr.

65
1834 – 1913

Syr William Henry Preece.

g. Caernarfon.

Peiriannydd trydanol a

dyfeisydd a ddatbygodd

ei system ei hunan o

delegraffeg a theleffoneg

diwifr yn 1892 ond a fyddai’n

ddiweddarach yn cefnogi

system Guiglielmo Marconi

a’i gynorthwyo gyda’i

arbrofion yn ymarferol

a sicrhau cyllid.

1823 –1913

Alfred Russel Wallace.

Ganwyd ym Mrynbuga,

hyfforddodd fel syrfewr

a bu’n gweitho i Brunel

ond caiff ei gofio orau fel

anthropolegydd a biolegydd

a gynigiodd ddamcaniaeth

o ddetholiad naturiol, gan

ysgogi Charles Darwin i

gyhoeddi ei ddamcaniaeth

ei hun.

1821 – 1894

Henry Hussey Vivian.

g. Abertawe.

Sefydlodd waith copr Hafod

yng Nghwm Tawe isaf, safle

mwyaf y byd ar gyfer puro

a chynhyrchu copr a

metelau eraill.

66

1811 – 1896

William Robert Grove.

g. Abertawe.

Gwellhaodd y gell foltaig

a datblygodd y batri nwy,

rhagflaenydd y gell danwydd.

1801 – 1880

William Miller.

g. Llanymddyfri.

Cymhwysodd fathemateg

at yr astudiaeth o risialau a

dyfeisiodd Fynegeion Miller

ar gyfer adnabod wynebau

grisial.

1789 – 1864

Richard Roberts.

g. Llanymynech.

Peiriannydd a dyfeisydd

sydd fwyaf adnabyddus

am ei waith wrth nyddu a

gwehyddu brethyn a gwneud

locomotifau. Dyfeisiodd

beiriant i dorri tyllau’n fanwl

gywir yn y platiau haearn

ar gyfer pont diwbiwlaidd

Conwy yn defnyddio cardiau

Jacquard.

1785 – 1852

Syr Josiah John Guest.

Meistr haearn yn Nowlais

y cafodd ei gynhyrchion

haearn, yn enwedig cledrau,

eu hallforio ledled y byd.
1781 – 1847

Lucy Thomas.

g. Llansamlet.

Mam masnach glo ager

Cymru.

1774 – 1851

Capten Syr Samuel Brown RN.

Cyflwynodd geblau

cadwynog ar gyfer llongau a

wnaed yng ngwaith Brown

Lenox ym Mhontypridd.

1675 – 1749

William Jones.

Mathemategydd a’r cyntaf

i ddefnyddio’r symbol π

i gynrychioli cymhareb y

cylchedd i’r diamedr yn 1706.

1664 – 1734

John Hanbury.

Ailddyluniodd y felin rholio a

sefydlodd Pont-y-pwl fel prif

gynhyrchydd tunplat a lacr

yn y 1800au.

1560 – 1631

Sir Hugh Myddelton.

Dyn busnes, peiriannydd

ac eurych a fu’n gyfrifol

am brosiect y ‘New River’ a

ddaeth â dwˆ r glân i Ddinas

Llundain.

1510 – 1558

Robert Recorde.

g. Dinbych-y-pysgod.

Yn ogystal â bod yn feddyg

i Edward VI ac i Mari Tudur

ac yn Archwilydd y

Bathdy, yr oedd hefyd yn

fathemategydd a gyflwynodd

y cysyniad o’r hafalnod.

67
68

CERRIG MILLTIR

2005 Cwblhau adeilad

newydd y Senedd ym

Mae Caerdydd ar gyfer

Cynulliad Cenedlaethol

Cymru.
Mae digwyddiadau pwysig sy’n arwydd o gynnydd

yng ngwybodaeth dynol-ryw yn frith drwy hanes.

Mae’r manteision o ddatblygiadau arloesol mewn

gwyddoniaeth, peirianneg a meddygaeth yn cael

eu taenu drwy’r gymdeithas ac mae Cymru wedi

profi llawer o’r rhain yn uniongyrchol. Byddai’r

siwrnai gyntaf a gofnodwyd erioed gan injan trên

ar Dramffordd Merthyr Tudful yn trawsnewid y

byd a masnach mewn byr o dro a byddai’r defnydd

o leininau newydd mewn ffwrnais chwyth ym

Mlaenafon yn 1878 yn chwyldroi’r dulliau o wneud

dur. Er bod llawer o’r cerrig milltir wedi’u gosod wrth

ochr ffordd hanes rai blynyddoedd yn ôl, maent yn

dal i fod yn bwysig, fel y bydd y rhai diweddarach sy’n

cofnodi camau yn y chwyldro electroneg yn bwysig yn

y blynyddoedd sydd i ddod…

1999 Cwblhau Stadiwm

y Mileniwm yng

Nghaerdydd a’i 75,000

o seddau, mewn pryd

ar gyfer Cwpan Rygbi’r

Byd. Dyma arena mwyaf

y byd gyda tho symudol.

69
70

2009 Rhoi’r ‘golau gwyrdd’ ar gyfer adeiladu Canolfan

NanoIechyd ym Mhrifysgol Abertawe. Credir mai dyma

fydd y safle NanoIechyd cyntaf o’r maes diweddaraf un

yn Ewrop.

2008 Agor canolfan ymwelwyr distyllfa Penderyn, yn defnyddio

dyluniad unigryw o ddistyllbair. Dyma’r unig ddistyllfa

yng Nghymru ac aeth ei chynnyrch ar werth yn 2004.

2007 Cyhoeddodd y Llywodraeth yr adeiledir academi

hyfforddiant amddiffyn newydd yn Sain Tathan.

Y buddsoddiad, yr amcangyfrifir y fydd yn £16bn,

yw’r un mwyaf erioed yng Nghymru.

2005 Agor Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe

yn cyfuno pensaernïaeth hen a newydd mewn dyluniad

a gydnabyddir gan Wobrau Adfywio’r DU fel y prosiect

adfywio gorau o ran dyluniad.

2005 Agor stadiwm Liberty, lleoliad chwaraeon aml-ddefnydd

gwych, yn Abertawe.

2005 Cwblhau adeilad newydd y Senedd ym Mae Caerdydd ar

gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

2005 Taith gyntaf Airbus A380.

2004 Agor Canolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd gyda

theatr â 1,900 o seddau.

2004 Cwblhau’r bont ffordd newydd dros afon Wysg yng

Nghasnewydd, a’i dyluniad llinyn bwa yn adlais o bont

reilffordd Brunel yn 1850, a oedd hefyd yn croesi afon

Wysg yng Nghasnewydd (codwyd un yn ei lle ers hynny).

2003 Cynhyrchu injans diesel am y tro cyntaf yn y DU gan

Toyota yn ei waith yng Nglannau Dyfrdwy.
2002 Dechrau cynhyrchu adenydd Airbus A380 yng ngwaith

Brychdyn.

2000 Techniquest yng Nghaerdydd yn dod y ganolfan fwyaf

yn y DU sy’n cynnig profiad ymarferol o wyddoniaeth.

1999 Cwblhau Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd a’i

75,000 o seddau, mewn pryd ar gyfer Cwpan Rygbi’r

Byd. Dyma arena mwyaf y byd gyda tho symudol.

1997 Car uwchsonig Thrust yn torri’r gwahanfur sain ar

gyflymder o 763 mya; ei ddyluniad erodeinamig wedi’i

greu ym Mhrifysgol Cymru Abertawe.

1996 Sefydlu Merlin Ventures gan Dr Chris Evans i helpu

sefydlu cwmnïau newydd ym maes gwyddorau bywyd

gan gynnwys Cyclacel a Vecture.

1996 Agor yr ail bont sy’n 16,800 (5,100 metr) o hyd dros

afon Hafren.

1986 Agor un o’r tai ‘berm’ cyntaf dan ei orchudd o bridd

yng Nghanolfan Astudiaethau Caer Llan, Trefynwy. Mae

adeiladwaith yr ystafell gysgu, a gynlluniwyd fel na

fyddai unrhyw gostau gwresogi, yn cael ei gydnabod fel

un o’r tai â’r gofynion ynni lleiaf yn Ewrop ac enillodd

wobr Eurosolar yn 1995.

1986 Sefydlu Newbridge Networks, Casnewydd i

weithgynhyrchu a chyflenwi offer modd trosglwyddo

ansyncronaidd (ATM).

1984 Agor cynllun storio a phwmpio dwˆ r Dinorwig, y mwyaf

yn Ewrop, sy’n cynhyrchu 1800 megawat.

1982 Ar adeg agor cymhlyg stiwdios teledu HTV yng Nghroes

Cwrlwys, Caerdydd, hon oedd y stiwdio deledu bwrpasol

fwyaf yn y byd.

71

15
72

1979 Y bont dros afon Wysg ar ffordd osgoi Aberhonddu ar

yr A470 yw’r bont gyntaf yn y DU i’w gwneud drwy ludo

cylchrannau concrid.

1972 Syr Terry Matthews yn sefydlu’r Mitel Corporation, ac yn

codi ffatri yng Nghaldicot i weithgynhyrchu a chyflenwi

cyfnewidfeydd preifat (PABXs) i gyrff ledled y byd.

1973 Cwblhau’r argae uchaf yn y DU wrth Lyn Brianne a

hwnnw’n 300 tr. (91 metr) o uchder.

1971 Agor gorsaf drydan niwclear Magnox 1180 megawat yn

yr Wylfa, y fwyaf yn y byd ar adeg ei chwblhau.

1967 Agor twnnel cyntaf ar draffordd ym Mhrydain ar yr M4

ym Mryn-glas, Casnewydd.

1966 Agor y bont gyntaf dros afon Hafren/Gwy gan EM y

Frenhines. Roedd y bont yn cynnwys unedau llawr a

weithgynhyrchwyd yn iard Fairfield-Mabey yng

Nghas-gwent.

1964 Agor pont George Street, Casnewydd, sef yr enghraifft

gyntaf yn y DU o bont gantilifrog a ddelir gan geblau.

1963 Comisiynu gorsaf drydan pwmpio a storio fawr gyntaf

y DU yn Ffestinog a chanddi’r gallu i gynhyrchu 360

megawat.

1962 Cychwyn y gwasanaeth rheolaidd cyntaf ar long hofran

rhwng y Rhyl a Wallasey.

1962 Hymac yn cynhyrchu’r peiriant cloddio cyntaf yn y DU

sy’n cael ei weithio’n gyfan gwbl gan bwˆ er hydrolig.

1960 Gwaith Dur Llanwern yw’r gwaith dur cyntaf yn y DU

sy’n dibynnu’n llwyr ar y broses ocsigen sylfaenol.
1957 Cwmni DeHaviland Aircraft ym Mrychdyn yn cynhyrchu’r

awyren jet gyntaf i deithwyr yn y byd, y Comet.

1950 Cychwyn y gwasanaeth rheolaidd cyntaf mewn

hofrennydd rhwng Caerdydd, Wrecsam a Lerpwl.

1948 Cwmni Statimeter Cyf., Rhyd-y-mwyn, yn dyfeisio ac

yn rhoi patent ar system i ddal pwysau cyson ar rolion

mewn melinau rholio a honno’n cael ei mabwysiadu’n

gyffredinol.

1946 Trosglwyddo signalau teledu meicrodon am y tro cyntaf

mewn arbrawf gan Swyddfa’r Post ar draws Môr Hafren

o Gasnewydd.

1940 Datblygu radar i’w ddefnyddio yn yr awyr gan Edward

Bowen o Abertawe er mwyn creu’r system ymarferol a

dibynadwy a ddefnyddiwyd yn yr Ail Ryfel Byd.

1935 Bragdy Felinfoel yn Llanelli yw’r cwmni cyntaf yn Ewrop

i farchnata cwrw mewn caniau dur tunplat.

1926 J G Parry Thomas yn torri record y byd am deithio ar

dir ar draeth Pentywyn, Sir Gaerfyrddin, ar gyflymder

o 171.02 mya.

1921 Agor purfa olew fawr gyntaf Prydain yn Llandarcy.

1920au Cwblhau pentref Portmeirion gan Syr Clough Williams-

Ellis fel gorchestwaith pensaernïol sy’n cynnwys llawer

o arddulliau gwahanol.

1913 Dociau’r Barri, lle agorodd y basin doc cyntaf yn 1889,

yn dod y doc allforio glo mwyaf yn y byd. Yn yr un

flwyddyn dywedir i’r dêl busnes gyntaf erioed mewn

hanes am filiwn o bunnoedd gael ei tharo ar lawr y

Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd.

73

15
74

1911 Trosglwyddo signalau o ffôn radio o’r awyr am y tro

cyntaf, drwy ddefnyddio’r ‘Aerophone’ a wnaed gan

Harry Grindell Matthews i gyfathrebu rhwng y llawr

a’r awyr gyda’r peilot B.C. Hucks a oedd yn hedfan o

Gae Rasio Trelai yng Nghaerdydd. Yn yr un flwyddyn

anfonodd y neges ddi-wifr gyntaf i’r wasg o Gasnewydd

i Gaerdydd.

1907 Agor doc y Frenhines Alexandra, y doc gwaith maen

mwyaf yn y byd.

1906 Afor Pont Lwyfan Casnewydd fel y gall y ffordd groesi

afon Wysg heb rwystro mynediad gan longau.

1906 Sefydlu cwmni Rolls Royce i gynhyrchu ceir ac injans

awyrennau.

1902 Ludwig Mond yn agor gwaith mwyndoddi Clydach

Nickel yn defnyddio’r broses carbonyl nicel.

1899 Agor yr orsaf drydan dwˆ r gyntaf yng Nghymru yn

Nhrefynwy.

1897 Cwblhau Adeilad Weavers, Abertawe, yr adeilad amllawr

cyntaf yn Ewrop a wnaed o goncrid cyfnerthedig.

1897 Gugliemo Marconi yn trosglwyddo tonnau radio am y

tro cyntaf dros ddwˆ r rhwng Larnog ac Ynys Echni ym

Môr Hafren.

1886 Agor Twnnell Rheilffordd Hafren; yn 7.2km, hwn oedd y

twnnel rheilffordd hiraf i’w adeiladu yn y DU am ymhell

dros ganrif.

1879 Yr ystafell ddawnsio yng Ngwesty’r Arglwydd Nelson,

Aberdaugleddau oedd y gyntaf ym Mhrydain i’w goleuo

gan drydan.
1869 Adeiladu Gwaith Glandwˆ r ger Abertawe i hyrwyddo

gwneud dur gan dull aelwyd agored Siemens-Martin.

1863 Sefydlu cwmni Robert Wynn a’i Feibion Cyf yng

Nghasnewydd. Ar ôl hynny, y cwmni hwn a symudodd y

llwyth trymaf erioed ar ffyrdd Prydain, sef un o 300 tunnell.

1857 Agor traphont dalaf Prydain yng Nghrymlyn.

1857 Gwaith haearn Dowlais yn agor melin rowlio fwyaf grymus

y byd.

1857 Cafodd y cledrau dur cyntaf yn y byd eu rhowlio yng

Nglyn Ebwy.

1856 Gwaith haearn Dowlais yn dod y cyntaf i gymryd

trwydded i ddefnyddio proses ddur Bessemer.

1855 Dyfeisio’r telegraff teipio gan David Hughes o’r Bala a

ddefnyddiwyd ledled yr Unol Daleithiau yn ei chyfnod

o ehangu gan y Western Unon Telegraph Cof. Yn

ddiweddarach, dyfeisiodd y meicroffon gronynnau

carbon, y mae’r fersiynau gwreiddiol ohono i’w

gweld yn yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn Llundain,

a rhoddodd yr arddangosiad cyntaf o drosglwyddo

tonnau electromagnetig yn 1879.

1852 Cwblhau pont diwbiwlaidd grog Brunel ar draws afon

Gwy yng Nghas-gwent er mwyn cysylltu Caerdydd

a Chaerloyw fel bod cysylltiad uniongyrchol rhwng

Abertawe a Llundain.

1852 Ar adeg marwolaeth Syr John Guest, gwaith haearn

Dowlais yw’r safle gweithgynhyrchu mwyaf o unrhyw

fath yn y byd.

75

15
76

1850 Rhedeg y cwch cyntaf i’w yrru gan drydan gan John

Dilwyn Llewelyn, arloesydd ym myd ffotograffiaeth, ar

lyn ger Tyˆ Penllergaer gan ddefnyddio celloedd Grove

i’w bweru.

1850 George Parry’n gwella’r dull o lenwi ffwrneisi chwyth

gyda’i drefniant cloch a hopran.

1842 Agor Doc Tref Casnewydd gyda chlwydi doc 64 tr o led,

y mwyaf yn y byd ar y pryd.

1839 Agor doc Bute yng Nghaerdydd fel y doc gwaith maen

mwyaf yn y byd.

1838 Rhoi patent ar fetel Muntz yng Ngwaith Copr Upper

Bank, Abertawe. Fe’i defnyddid i orchuddio cyrff llongau.

1826 Agor Pont Menai gan Telford, y bont grog haearn fawr

gyntaf yn y byd.

1822 Gwaith haearn Dowlais yn disodli gwaith haearn

Cyfarthfa fel y mwyaf yn y byd.

1821 Abertawe yw’r dref gyntaf yng Nghymru i gael

goleuadau nwy ar ei strydoedd.

1820 Agor y bont grog haearn gyntaf â llawr ffordd gwastad

ar draws afon Tweed, lle mae’n dal i gysylltu Lloegr a’r

Alban. Fe’i gwnaed â haearn o Gymru a gynhyrchwyd

yng ngwaith Brown Lenox ym Mhontypridd.

1807 Rheilffordd Ystumllwynarth, Abertawe yw’r rheilffordd

gyntaf yn y byd i godi tâl ar deithwyr.

1806 Gwaith haearn Cyfarthfa yw’r mwyaf yn y byd nes bod

Dowlais yn ei ddisodli yn 1822.
1805 Agor traphont ddwˆ r Pontcysyllte, strwythur haearn

bwrw Thomas Telford, a honno’n 1007 troedfedd (307

metr) o hyd ac yn 126 troedfedd (38 metr) uwchlaw’r

Ddyfrdwy. Ar y pryd dyma’r draphont uchaf yn y byd ac

mae’n dal i fod y draphont ddwˆ r uchaf ym Mhrydain.

1804 Locomotif stêm a wnaed gan Richard Trevithick yn

gwneud y siwrnai gyntaf ar reilffordd o Ferthyr Tudful

i Abercynon.

1793 Pontydd rheilffordd haearn cyntaf y byd, ym

Mhontycafnau a Chyfarthfa.

1774 John Wilkinson yn dyfeisio peiriant turio trachywir ar

gyfer cynhyrchu magnelau a silindrau ager yn y Bers.

1762 Twnel rheilffordd cyntaf y byd, Glandwˆ r.

1755 Cwblhau pont gerrig Pontypridd gan y saer maen lleol

William Edwards. A hithau’n 140 troedfedd (42 metr

o hyd), hon oedd y bont gerrig hwyaf yng ngorllewin

Ewrop.

1697 Agor melin rowlio haearn cyntaf y byd ym Mhont-y-pwˆ l.

1672 Cwblhau Plas Tredegar, Casnewydd, un o’r tai gorau ym

Mhrydain yn y 17eg ganrif.

16eg ganrif

Codi melin sy’n troi gyda’r llanw yng Nghaeriw, ger

castell o’r 13eg ganrif, i falu yˆd.

77

15
CASGLIAD

Pa mor aml y dywedwyd wrthym yn ystod ein gyrfa

nad oes dim byd cystal â phrofiad? Mae profiad yn

tueddu i ddylanwadu ar y modd yr ydym yn meddwl,

yn gweithredu ac yn cynllunio ac, ar gyfer hynny,

manteisiwn ar ein profiadau ein hunain a rhai ein

hynafiaid hefyd. Ar un ystyr, mae trosglwyddo profiad

yn troi’n rhywbeth genetig, yn rhyw ymdeimlad

greddfol o’r modd y dylid ymateb i ryw her neu’i gilydd.

78
Mae’r profiadau

a enillwyd gan

genedlaethau o

weithwyr yn niwydiannau

traddodiadol Cymru, wrth

drin glo, dir, brethyn a

cherrig adeiladu, wedi’i

sianelu bellach, drwy

newidiadau economaidd,

i sectorau mwy newydd ac

amrywiol fel electroneg,

biowyddoniaeth, awyrofod,

telathrebu a thechnoleg

deunyddiau. Mae gallu

enwog gweithwyr Cymru i

ymaddasu i’r her o weithio

mewn technoleg newydd yn

ganlyniad uniongyrchol i’r

ffaith eu bod wedi manteisio

ar y cyfoeth profiad hwn a’i

gymhwyso at sefyllfaoedd

newydd. Mae’r gwaith tîm

sydd mor bwysig er mwyn

diogelwch ac effeithlonrwydd

wrth weithio mewn glofa

neu waith dur wedi profi’n

addas dros ben i’r gwaith

yn y sectorau mwy newydd

hyn ac mae gallu’r tîm a’r

unigolyn i ddyfeisio atebion

arloesol wedi blodeuo

gyda dyfodiad deunyddiau

newydd, systemau rheoli a

synwyryddion, ymysg pethau

eraill.

Mae’r chwyldro mewn

electroneg wedi amlygu’r

manteision a geir mewn

systemau ynni isel ac wedi ein

galluogi i wneud eitemau llai

a mwy cymhleth mewn modd

cywirach. Peth arferol bellach

yw cael offer synhwyro a

dadansoddi sy’n gludadwy ac

mae’r ymgais i gael systemau

electronig a mecanyddol llai

byth ym maes nanotechnoleg

yn creu cyfleoedd aruthrol

ym myd gofal iechyd,

diogelu’r amgylchedd a

gweithgynhyrchu.

o gael anogaeth, gall arloesi

drwy brofiad fod yn ysgogiad

cryf i sicrhau newidiadau

cadarnhaol mewn

cymdeithas. Yng Nghymru,

mae’r profiad gennym, mae’r

anogaeth ar gael ac mae’r

syniadau’n llifo.

79
DELWEDD GAN BRIFYSGoL ABERTAWE