Cymru'n Llwyddo - mewn Gwyddoniaeth ... - Business Wales
Cymru'n Llwyddo - mewn Gwyddoniaeth ... - Business Wales
Cymru'n Llwyddo - mewn Gwyddoniaeth ... - Business Wales
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
6

Mae’r gallu i ganfod

anhwylderau

niweidiol wedi cael

hwb mawr drwy gydgyfeirio

gwahanol ddisgyblaethau

gwyddonol. Gan fod offer

profi yn mynd a llai a llai

o ran maint, mae modd

bellach defnyddio pecynnau

hunanbrofi a systemau

telemetrig i roi’r canlyniadau

i’r feddygfa a’r ysbyty

heb i’r claf orfod mynd

yno ei hun. Mae llawer o

brofion diagnostig yn cael

eu datblygu a’u cynhyrchu

yng Nghymru i ddarganfod

diabetes, osteoporosis,

anhwylderau thyroidaidd,

anemia a chlefydau heintus,

ymysg pethau eraill.

Cafodd llwyddiant parhaol

y sector ei adeiladu ar

y cysylltiadau rhwng

sefydliadau academaidd o fri

megis Prifysgol Caerdydd (yn

cynnwys Coleg Meddygaeth

Prifysgol Cymru) a chwmnïau

o Gymru yn y sector. Mae gan

Gymru hefyd sylfaen sgiliau

cryf a sefydlog, seilwaith

pwrpasol ac ymrwymiad

cadarn i’r sector gan

Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae’r gwaith o ddatblygu

cyffuriau newydd, y modd

i’w trosglwyddo i’r mannau

actif yn y corff a’u dull o

weithredu’n feysydd ymchwil

o bwys yn Ysgol Fferylliaeth

Cymru. Mae molecylau bach

a molecylau llawer mwy sy’n

seiliedig ar bolymerau yn cael

eu dyfeisio a’u gwerthuso er

mwyn trin clefydau fel

canser, heintiau firol a

bacteriol a chlefydau

trofannol.

Mae’r Uned Ymchwil Trin

Briwiau ym Mhrifysgol

Caerdydd yn enwog drwy’r

byd am ei gwaith ar drin ac

atal briwiau, yn enwedig

wlserau, ac mae pump o

Ysgolion y Brifysgol yn dod

at ei gilydd yn y Sefydliad

Peirianneg ac Atgyweirio

Meinwe i hyrwyddo’r

defnydd cynnar o

ganlyniadau ymchwil mewn

ymarfer clinigol. Ar lefel mwy

sylfaenol, mae’r Sefydliad

Geneteg Feddygol wedi

cyfrannu at y Gronfa Ddata

o Fwtadiadau Genynnau

Dynol yn gysylltiedig â

chlefydau etifeddol.