Cymru'n Llwyddo - mewn Gwyddoniaeth ... - Business Wales
Cymru'n Llwyddo - mewn Gwyddoniaeth ... - Business Wales
Cymru'n Llwyddo - mewn Gwyddoniaeth ... - Business Wales
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Mae’r rhan fwyaf o syniadau arloesol yn peri newidiadau

graddol i broses neu gynnyrch sy’n bod eisoes. Cymharol brin

yw’r newidiadau sylweddol a geir ond, pan yw hynny’n digwydd,

gallant weddnewid ein safonau byw a’n hansawdd bywyd. Nid

pawb ohonom sy’n gallu darganfod

pethau fel helics dwbl DNA neu

ddod â datblygiadau technoleg

fel technoleg microdon i’r cartref,

ond mae gan bob un ohonom ein

syniadau, a gall rhai ohonynt fod yn

syml dros ben, fel dylunio gwell blwch

llythyrau neu ddull o ddal binocwlars

cryf yn llonydd.

Fel y dengys y cyhoeddiad hwn, mae gan Gymru hanes rhagorol o

lwyddiant am greu newidiadau graddol a sylweddol o ganlyniad

i gymhwyso syniadau arloesol. Mae mentrau ar waith ar bob lefel

i gymell unigolion a sefydliadau i feddwl yn ochrol a datblygu a

masnacholi eu syniadau. Mae pobl yn naturiol chwilfrydig o ran

eu natur a thrwy greu amgylchedd sy’n meithrin y chwilfrydedd

hwnnw, mae Cymru eisoes ar ei hennill yn economaidd.

Mae’r tudalennau dilynol yn cynnwys llwyddiannau o’r

gorffennol a’r presennol a rhai hefyd y medrid dweud

eu bod ‘ar y gorwel’ yn nhermau gwireddiad.

Cadwch olwg...

Mae gan

Gymru hanes

rhagorol o

lwyddiant.

3