Cymru'n Llwyddo - mewn Gwyddoniaeth ... - Business Wales
Cymru'n Llwyddo - mewn Gwyddoniaeth ... - Business Wales
Cymru'n Llwyddo - mewn Gwyddoniaeth ... - Business Wales
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Yn fwy a mwy, mae’r eitemau, y delweddau a’r

seiniau sydd o’n cwmpas ym mhobman yn ganlyniad

dulliau o gymhwyso gwyddoniaeth, technoleg a

pheirianneg. Yr hyn a olygir wrth ddefnyddio’r gair

‘cymhwyso’ yw bod y rhai sy’n ymwneud â meysydd

gwyddoniaeth, technoleg a pheirianneg wedi

dyfeisio, wedi datblygu ac wedi cwblhau rhywbeth

y gellid ei gymhwyso; maent wedi arloesi.

Mae pawb yn gallu arloesi.

Mae’r teithi meddwl sy’n

arwain at syniad ‘newydd’

yn bresennol ym mhob un

ohonom ac er bod diwydiant

ac academia’n ceisio trefnu

gwaith ymchwil a datblygu

fel y bydd yn arwain yn

rhesymegol at brosesau

a chynhyrchion arloesol,

nid yw’r eiliad ‘Eureka’ o

reidrwydd yn digwydd fel

canlyniad uniongyrchol i

raglen gwaith gynlluniedig.

Mae ysbrydoliaeth ac

arloesi’n mynd law yn

llaw yn aml ac, os gellir

creu amgylchedd sy’n

RHAGAIR

symbylu, yn hybu ac yn

cydnabod syniadau da,

mae hynny’n sicr o ddod â

manteision economaidd.

Mae Llywodraeth Cynulliad

Cymru yn rhoi pwys mawr

ar werth arloesi fel modd i

gynnal a hyrwyddo ffyniant

cwmnïau yng Nghymru.

Cynhelir amryw o gynlluniau

a chystadlaethau o ysgolion

cynradd hyd at addysg

uwchradd, addysg brifysgol

ac mewn diwydiant i hybu

arloesi ac mae’r llawer o’r

syniadau a gafwyd eisoes

wedi’u trosi yn brosiectau

economaidd hyfyw.