Darllena gyda Fi - [PDF - 4.32 Mb] - Arsyllfa Dysgu a Sgiliau Cymru
Darllena gyda Fi - [PDF - 4.32 Mb] - Arsyllfa Dysgu a Sgiliau Cymru
Darllena gyda Fi - [PDF - 4.32 Mb] - Arsyllfa Dysgu a Sgiliau Cymru
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Darllen cynnar

Darllen gyda phlant 5-6 oed

Dyma’r cam pan fydd plant yn gallu dweud wrthych am eu hoff

stori a phan fyddan nhw’n dechrau dewis geiriau neu gymalau

adnabyddus, e.e. ‘Un tro’, ‘Mewn coedwig fawr ddu’.

• Cymerwch dro i ddarllen darnau o hoff stori. Mae stori gyfan yn

ormod i ddarllenydd newydd. Peidiwch â phoeni os bydd eich

plentyn wedi cofio geiriau neu gymalau. Mae hyn yn rhan bwysig

o ddysgu darllen. Mae’n rhoi synnwyr boddhâd – nid twyllo yw

hyn. Bydd adnabod geiriau’n dilyn yn fuan pan fydd y stori’n

gyfarwydd.

• Siaradwch am luniau a manylion sy’n dal llygad eich plentyn.

Bydd hyn yn helpu i ddeall y stori ac i ddyfalu geiriau newydd.

Mae dyfalu’n bwysig pan fydd y plentyn yn deall yr hyn y mae’r

stori’n debygol o ddweud ac mae’n dewis geiriau sy’n gwneud

synnwyr.

• Symudwch eich bys o dan y geiriau wrth ddarllen gyda’ch gilydd.

Fel hyn, gwelir a chlywir geiriau gyda’i gilydd.

• Peidiwch â gwneud ffys os na fydd eich

plentyn yn gallu darllen gair. Naill ai

dywedwch y gair eich hun neu anogwch

eich plentyn i feddwl beth allai fod yn ei

ddweud. Tynnwch sylw at y swn ˆ ar

ddechrau gair. Peidiwch â gwylltio. Yr

adeg hyn, mae’n fwy pwysig bod eich

plentyn yn mwynhau rhannu storiau na

chael pob gair yn gywir.

• Chwaraewch gêmau’r wyddor a seiniau fel

‘Gwelaf gyda fy llygad bach i’. Mae plant

yn dysgu llawer am eiriau, llythrennau a

seiniau drwy’r gêmau syml hyn.

• Daliwch i ddarllen i’ch plentyn bob dydd.

• Ysgrifennwch nodiadau neu negeseuon

testun i’ch plentyn – mae’n ddull gwych

i’w cael i ganolbwyntio ar eiriau.

8 Darllena gyda Fi