Darllena gyda Fi - [PDF - 4.32 Mb] - Arsyllfa Dysgu a Sgiliau Cymru
Darllena gyda Fi - [PDF - 4.32 Mb] - Arsyllfa Dysgu a Sgiliau Cymru
Darllena gyda Fi - [PDF - 4.32 Mb] - Arsyllfa Dysgu a Sgiliau Cymru
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Darllena

gyda Fi
©Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol,

Commonwealth House, 1-19 New Oxford Street, Llundain, WC1A 1NU.

DEG YN Y GWELY © 1988 Penny Dale. Atgynhyrchwyd gyda chaniatâd Walker Books Cyf., Llundain.

Troswyd i’r Gymraeg gan Gwynne Williams.

BLE MAE TEDI © 1992 Jez Alborough. Atgynhyrchwyd gyda chaniatâd Walker Books Cyf., Llundain.

Troswyd i’r Gymraeg gan Gwynne Williams.

‘S.O.S! Draciwla’n Galw’ o MAKING FRIENDS WITH FRANKENSTEIN © 1993 Colin McNaughton.

Atgynhyrchwyd gyda chaniatâd Walker Books Cyf., Llundain.

Troswyd i’r Gymraeg gan Gwynne Williams.

Cedwir pob hawl. Ni ellir llungopïo, recordio nac atgynhyrchu, storio ar system adfer na throsglwyddo

mewn unrhyw fodd naill ai drwy ddulliau electronig neu fecanyddol unrhyw ddarn o’r cyhoeddiad hwn

heb ganiatâd perchennog yr hawlfraint ymlaen llaw.

ISBN: 1 85990 229 4

Cyhoeddwyd Hydref 2002

Cynllun: Studio 21
Darllena gyda Fi
Rhagair

DYMA lyfr i rieni sy’n dymuno darllen gyda’u plant.

Rydym wedi’i gynhyrchu fel rhan o’r ymgyrch i sicrhau bod pob plentyn yn barod iawn i ddysgu pan fyddan nhw’n

dechrau yn yr ysgol. Dyma un o gôlau pwysicaf Strategaeth Genedlaethol Sgiliau Sylfaenol Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae gan rieni ac oedolion gofalgar eraill ran hanfodol i’w chwarae wrth roi cariad at ddarllen a diddordeb mewn llyfrau

i blant. Bydd hyn yn rhoi sylfaen gadarn iddyn nhw ar gyfer eu haddysg. Gobeithio y bydd y cyngor yn y llyfr hwn yn rhoi

hyder a brwdfrydedd i chi ddarllen yn rheolaidd gyda’r plant dan eich gofal a’u dechrau ar oes o bleser wrth ddarllen.

Mae’r llyfr yn cynnwys tair stori hyfryd gan awduron y mae plant ac oedolion ar draws y byd yn eu mwynhau. Hoffwn

ddiolch i Penny Dale, Jez Alborough, Colin McNaughton a’u cyhoeddwyr Walker Books am roi caniatâd i ni ddefnyddio

eu storiau. Rwy’n sicr y byddwch yn eu mwynhau. Hoffwn hefyd ddiolch i Anne Fine, Bardd Llawryfog y Plant am eu

geiriau caredig o anogaeth a welir ar dudalen 3.

Hoffem glywed eich barn am y llyfr. Rydym wedi cynnwys cerdyn post gan obeithio y byddwch chi’n ei ddychwelyd atom

gyda’ch sylwadau. Edrychaf ymlaen at glywed gennych.

Yn gywir,

Alan Wells

Cyfarwyddwr, Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol

2 Darllena gyda Fi
Anne Fine, Bardd Llawryfog y Plant

Annwyl Alan,

Rydw i mor falch o allu llongyfarch pob un sy’n rhan o’r ymdrech werthfawr hon i

atgoffa rhieni o’r pleser mawr sydd i’w gael wrth ddarllen gyda’u plant. Mae’r

agosatrwydd corfforol yn rhywbeth y mae’r teulu’n dod i’w werthfawrogi’n fuan.

Mae rhannu llyfrau’n cynnig agoriadau diogel: ‘Nid yw f’ysgol i yn debyg i honna’;

‘Rydw i’n poeni’n union fel y mae e’n gwneud’; ‘Roeddwn i’n gwneud hynny

unwaith’. Mae plant y mae rhywun arall yn darllen iddyn nhw bob dydd, yn gwneud

yn llawer gwell yn yr ysgol.

Ond yn fwy pwysig na dim, mae’n bechod colli’r pleser mawr wrth ddarllen stori.

Mae llyfrgelloedd am ddim ac ni allaf gyfri’r nifer o weithiau y mae fy mhlant a fi

wedi anghofio’r glaw trwm, y gwyntoedd cryf neu’r min nosau tywyll ac oer ac wedi

mynd i’r gwely dwbl gyda hambwrdd o de a phentwr o lyfrau.

Dyma rai o’m hatgofion hapusaf. Felly, beth am rannu’r rhain.

Dymuniadau gorau,

Anne

Darllena gyda Fi 3
Anne Fine, Bardd Llawryfog y Plant

Anne Fine yw Bardd Llawryfog y Plant – rôl a roddir unwaith bob

dwy flynedd i awdur neu ddarlunydd llyfrau plant enwog. Mae

Anne yn awdur enwog i blant o bob oed gyda dros 40 llyfr i’w

henw. Mae wedi ennill medal Carnegie, gwobr llenyddiaeth blant

y mae pawb yn ei chwennych, ynghyd â gwobr Llenyddiaeth Blant

y Guardian, gwobr Nofel Blant Whitbread (ddwy waith) a Gwobr

Smarties. Ym 1990, enillodd Gwobr Awdur Publishing News y

Flwyddyn i Blant ac eto ym 1993. Mae ei llyfrau i blant hŷn yn

cynnwys The Tulip Touch and Goggle Eyes. Enillodd wobr am hon

ac addaswyd hi ar gyfer y teledu. Ffilmiwyd ei nofel Madame

Doubtfire fel Mrs Doubtfire, gyda Robin Williams. Mae ei llyfrau ar

gyfer plant iau’n cynnwys Bill’s New Frock a How to Write Really

Badly. Troswyd ei gwaith i 25 iaith. Mae Anne hefyd yn ysgrifennu

ar gyfer oedolion a chafodd eu llyfrau a gyhoeddwyd lawer o

gyhoeddusrwydd llenyddol. Rydym yn hynod falch o gael ei

chefnogaeth ar gyfer ein hymgyrch.

4 Darllena gyda Fi
Cyflwyniad

CROESO i Darllena gyda Fi.

Mwynhau llyfrau yw’r ffactor pwysicaf wrth ddysgu darllen.

Mae rhannu llyfrau gydag oedolion yn helpu plant i ddysgu darllen.

Mae’r llyfr hwn yn llawn o syniadau i helpu eich plentyn ddarllen a mwynhau llyfrau. Mae’n lyfr ar gyfer rhieni ac oedolion eraill

sy’n barod i dreulio amser i rannu llyfrau a storiau gyda’u plant ifanc.

Rydyn ni i gyd yn awyddus i helpu ein plant i ddarllen ond mae’n bosibl nad ydym yn sicr sut i wneud hyn. Mae’n bosibl y byddwn

ni’n meddwl mai’r athrawon yw’r bobl orau i helpu plentyn i ddarllen ac na ddylai rhieni ymyrryd. Ond gall rhieni roi hoffter at

ddarllen i blentyn ymhell cyn iddo/iddi fynd i’r ysgol a dyfnhau’r hoffter hwnnw wrth i’r plentyn dyfu i fyny.

Nid sôn am ddysgu eich plentyn i ddarllen mae’r llyfr hwn. Mae’n creu sefyllfaoedd lle mae llyfrau a darllen yn cael eu cysylltu

âg adegau hapus. Mae plant sy’n gwybod bod darllen yn rhoi pleser yn fwy tebygol o fod yn ddarllenwyr trwy eu hoes. Yn y llyfr

hwn, mae storiau gan awduron y mae nifer o blant Cymru’n eu mwynhau – Penny Dale, Jez Alborough a Colin McNaughton.

Mae arweiniad i bob stori a fydd yn eich helpu i wneud y stori’n fwy pleserus i’ch plentyn. Edrychwch ar yr awgrymiadau a

phenderfynwch pa rai yr hoffech eu defnyddio. Nid rhestr o gyfarwyddiadau yw’r rhain ond syniadau i arbrofi gyda hwy.

Mae nifer o bethau yn y storiau y mae plant yn eu hoffi – rhythm, odl, ailadrodd ac elfen o syrpreis. Maen nhw’n defnyddio

cyfuniad o hiwmor a sefyllfaoedd brawychus ac, fel nifer o straeon gwerin traddodiadol, maen nhw’n cyflwyno unigrwydd, colled

ac ansicrwydd i blant – yn niogelwch breichiau eu rhieni. Mae thema amser gwely yn y dair stori – un o’r adegau gorau i ddarllen

gyda’ch gilydd ac i siarad am ddigwyddiadau yn y storiau ac yn y byd o’n cwmpas sydd o ddiddordeb i blant neu sy’n achosi

dryswch iddyn nhw. Mae’r storiau’n rhoi cyfle i’r plant fynegi eu hofnau a’u pryderon ac yn rhoi cyfle gwych i rieni roi sicrwydd

drwy ateb eu cwestiynau ac egluro pethau.

Darllenwch a mwynhewch!

Darllena gyda Fi 5
Cyflwyniad

Y rheolau aur

• Gwnewch amser darllen yn bleser i chi a’r plentyn.

• Dechreuwch rannu llyfrau hyd yn oed cyn i’ch plentyn wybod sut i ddal llyfr.

• Dysgwch ganmol ymdrechion eich plentyn.

• Darllenwch lyfrau y mae eich plentyn yn eu hoffi a pheidiwch â gosod ‘sefyllfa o

brawf’.

• Canolbwyntiwch ar yr hyn sy’n gywir ac nid ar gamgymeriadau.

• Daliwch i ddarllen hyd yn oed ar ôl iddyn nhw ddysgu darllen yn annibynnol.

• Stopiwch pan fyddan nhw wedi cael digon – nid cosb yw hyn i fod!

I rai plant, bydd dysgu darllen yn digwydd yn hawdd ac yn sydyn. I eraill, bydd angen

mwy o amser a chefnogaeth. Pa un bynnag, bydd eich help yn ddylanwad cryf ar

ddatblygiad eich plentyn fel darllenydd. Canmoliaeth, anogaeth, sicrwydd a phleser

yw’r ffactorau pwysig i bob plentyn wrth iddyn nhw ddatblygu’n ddarllenwyr hyderus.

6 Darllena gyda Fi
Dechrau darllen

Darllen gyda phlant 3-5 oed

Erbyn y cam hwn, dylai plant ddysgu bod llyfrau’n rhoi pleser.

Mae’n rhaid iddyn nhw fyseddu llyfrau, mwynhau’r lluniau a

chlywed llawer o storiau a rhigymau. Nid hwn yw’r amser i bryderu

am eu profi ar y geiriau neu seinio geiriau. Mwynhewch yr amser

gyda’ch gilydd yn rhannu llyfrau. Bydd hyn yn rhoi’r sylfaen gorau

i blant ddysgu darllen a hoffi llyfrau. Gall nain a taid a brodyr a

chwiorydd hyn ˆ fod yn rhan o hyn hefyd.

• Darllenwch i’ch plentyn mor aml ag sy’n bosibl – unrhyw amser,

unrhyw le – yn y gwely, yn y car, yn y bath. Hefyd, ceisiwch gadw

amser arbennig i ddarllen pan fydddwch chi’n gallu closio at eich

gilydd.

• Gwnewch y storiau’n fyw gyda llawer o fynegiant a lleisiau gwirion.

• Siaradwch am y storiau a’r lluniau a gallwch chwarae ‘Dyfalwch

beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf’.

• Darllenwch hoff lyfrau drosodd a throsodd. Mae’n bosibl y byddwch

wedi cael digon o ddarllen Tri Mochyn Bach neu Chicken Licken ond

mae plant yn hoffi pethau cyfarwydd.

• Dywedwch y pethau cofiadwy gyda’ch gilydd, e.e. ‘rhedwch,

rhedwch mor gyflym â phosibl’; ‘roedd yn chwythu a chwythu a

chwythodd y ty ˆ i lawr!’

• Dysgwch rigymau a chaneuon gyda’ch gilydd ar eich cof a gallwch

bwyntio at y geiriau wrth i chi eu hadrodd gyda’ch gilydd.

• Anogwch eich plentyn i ddod â llyfrau adref o’r feithrinfa neu’r

ysgol a gwnewch amser i’w darllen gyda’ch gilydd.

• Prynwch lyfrau os gallwch. Mae arwerthiannau cist car yn lle da i

gael bargeinion. Rhowch hwy mewn basgedi a bocsys o gwmpas y

ty ˆ – fel twb lwcus iddyn nhw ddewis llyfr ohono.

• Ewch i’r llyfrgell – maen nhw am ddim ac mae dewis o lyfrau i blant

yno. Mae llyfrgellwyr yn hoffi babanod a phlant sy’n hoffi llyfrau.

• Chwaraewch gêm o ‘beth yw’r gair’ ar arwyddion a labeli – yn y

stryd ac yn eich cypyrddau.

• Gwnewch yn siwr ˆ bod eich plentyn yn eich gweld yn darllen

papurau newydd, llyfrau a chylchgronau – dangoswch ei bod yn

beth ffasiynol i ddarllen.

Darllena gyda Fi 7
Darllen cynnar

Darllen gyda phlant 5-6 oed

Dyma’r cam pan fydd plant yn gallu dweud wrthych am eu hoff

stori a phan fyddan nhw’n dechrau dewis geiriau neu gymalau

adnabyddus, e.e. ‘Un tro’, ‘Mewn coedwig fawr ddu’.

• Cymerwch dro i ddarllen darnau o hoff stori. Mae stori gyfan yn

ormod i ddarllenydd newydd. Peidiwch â phoeni os bydd eich

plentyn wedi cofio geiriau neu gymalau. Mae hyn yn rhan bwysig

o ddysgu darllen. Mae’n rhoi synnwyr boddhâd – nid twyllo yw

hyn. Bydd adnabod geiriau’n dilyn yn fuan pan fydd y stori’n

gyfarwydd.

• Siaradwch am luniau a manylion sy’n dal llygad eich plentyn.

Bydd hyn yn helpu i ddeall y stori ac i ddyfalu geiriau newydd.

Mae dyfalu’n bwysig pan fydd y plentyn yn deall yr hyn y mae’r

stori’n debygol o ddweud ac mae’n dewis geiriau sy’n gwneud

synnwyr.

• Symudwch eich bys o dan y geiriau wrth ddarllen gyda’ch gilydd.

Fel hyn, gwelir a chlywir geiriau gyda’i gilydd.

• Peidiwch â gwneud ffys os na fydd eich

plentyn yn gallu darllen gair. Naill ai

dywedwch y gair eich hun neu anogwch

eich plentyn i feddwl beth allai fod yn ei

ddweud. Tynnwch sylw at y swn ˆ ar

ddechrau gair. Peidiwch â gwylltio. Yr

adeg hyn, mae’n fwy pwysig bod eich

plentyn yn mwynhau rhannu storiau na

chael pob gair yn gywir.

• Chwaraewch gêmau’r wyddor a seiniau fel

‘Gwelaf gyda fy llygad bach i’. Mae plant

yn dysgu llawer am eiriau, llythrennau a

seiniau drwy’r gêmau syml hyn.

• Daliwch i ddarllen i’ch plentyn bob dydd.

• Ysgrifennwch nodiadau neu negeseuon

testun i’ch plentyn – mae’n ddull gwych

i’w cael i ganolbwyntio ar eiriau.

8 Darllena gyda Fi
Bod yn annibynnnol

Darllen gyda phlant 6-7 oed

Erbyn y cam hwn, mae nifer o blant angen rhywfaint o

annibyniaeth i ddarllen ar eu pen eu hunain. Ond maen nhw’n dal

eisiau amser tawel gyda chi i rannu eu hoff lyfrau neu i wrando

arnoch chi’n darllen llyfrau anoddach.

• Daliwch i ddarllen gyda’ch gilydd – bob dydd os yn bosibl.

Cymerwch eich tro i ddarllen i’ch gilydd.

• Dangoswch bod gennych chi ddiddordeb i wybod beth sy’n

digwydd yn y stori. Siaradwch am ddechreuadau a diweddebau; y

cymeriadau a sut maen nhw’n ymddwyn; y darnau sy’n drist, yn

ddigrif neu’n gyffrous i chi; y geiriau a’r lluniau sy’n ddiddorol.

• Anogwch ddiddordeb mewn amrywiaeth eang o ddeunyddiau

drwy ddarllen yn uchel o bapurau newydd neu gylchgronau a

thrwy dynnu sylw at ddarnau yr hoffai’r plant eu darllen efallai.

Helpwch eich plentyn i ddewis amrywiaeth o lyfrau o’r llyfrgell.

• Soniwch wrth eich gilydd am eich hoff lyfrau a chytunwch ei bod

yn bosibl bod gennych wahanol syniadau am yr hyn rydych chi’n

hoffi ei ddarllen. Parchwch ddymuniadau a dewisiadau eich gilydd.

Darllena gyda Fi 9
Darllen gyda’ch plentyn

Deg yn y Gwely

gan Penny Dale

Trosiad gan Gwynne Williams

Mae Deg yn y Gwely yn fersiwn o rigwm cyfrif traddodiadol

wedi’i seilio ar syrthio allan o’r gwely. Yn yr achos hwn, mae’r

teganau meddal yn syrthio ar y llawr gan wneud y plentyn

bach yn oer ac yn unig. Mae rythm cryf yn y stori wedi’i seilio

ar odl ac ailadrodd sy’n gwahodd y plant i ymuno.

Canllawiau

Darllenwch drwy’r awgrymiadau a dewiswch y rhai yr

hoffech eu gwneud gyda’ch plentyn. Gellir gwneud y

gweithgareddau hyn nifer o weithiau.

• Gwnewch amser i glosio at eich gilydd.

• Daliwch y llyfr gyda’ch gilydd a siaradwch

am y lluniau.

• Enwch y teganau.

10 Darllena gyda Fi
Darllen gyda’ch plentyn

• Darllenwch y stori’n uchel.

• Pwysleisiwch y geiriau sy’n cyfleu syrthio

allan o’r gwely – BYMP! THYMP! THYD!

• Pwyntiwch at y teganau a siaradwch am sut

maen nhw’n ymateb – sioc, syrpreis.

• Ail ddarllenwch y stori a phwysleisiwch y

rhythm.

• Pwyntiwch at y geiriau gwneud – BYMP!

CRASH! – ac anogwch eich plentyn i

weiddi’r geiriau hyn yn uchel.

• Sgwrsiwch am deimlo fel petaech chi angen

mwy o le yn y gwely, syrthio allan neu’r

pleser o glosio i fyny gyda theganau

meddal.

Darllena gyda Fi 11
Darllen gyda’ch plentyn

• Ail ddarllenwch y rhigwm y noson wedyn.

Pwyntiwch at linellau fel “Trowch drosodd,

trowch drosodd!” ym mhob pennill a

gofynnwch i’ch plentyn ddarllen yn uchel.

• Ail ddarllenwch a gofynnwch i’ch plentyn

chwilio am “trowch drosodd” ym mhob

pennill.

• Casglwch rai teganau meddal a

chwaraewch gêm o syrthio allan o’r gwely.

• Rhifwch y teganau wrth iddyn nhw gael eu

rhoi yn ôl yn y gwely.

• Rhywbryd arall, darllenwch y stori a

phwyntiwch at y geiriau fel bod eich plentyn

yn cysylltu’r gair llafar a’r gair ysgrifenedig.

Roedd UN yn y gwely un tro

ac meddai y bychan “O!

dwi’n oer! Dewch yn ôl!”

12 Darllena gyda Fi
Darllen gyda’ch plentyn

• Wrth i’ch plant ddysgu rhai rhannau o’r

stori ar gof, gofynnwch iddyn nhw bwyntio

at y geiriau ysgrifenedig.

Felly daethon nhw yn ôl a neidio i’r gwely –

Draenog, Llygoden, Neli, Sebra,

Ted, yr un bach, Cwningen, Croc, Arthur ac Oen.

• Soniwch wrth eich gilydd am y rhan orau o’r

stori neu’r lluniau.

• Gofynnwch i’ch plentyn ‘Sut mae’r bychan

yn teimlo pan fydd yr holl deganau wedi

syrthio allan o’r gwely Ydy’r bychan yn

drist, yn unig, yn ofnus, yn anhapus neu’n

hapus i gael mwy o le’

Deg yn y gwely,

yn cysgu’n ddi-boen.

© Walker Books Cyf.

• Gofynnwch ‘Beth ydych chi’n feddwl y

dylai’r bychan ei wneud yn awr’

• Rhifwch y teganau yn y gwely a’r rhai ar y

llawr.

• Gofynnwch i’ch plentyn ‘Sut mae’r bychan

yn teimlo erbyn hyn’

Darllena gyda Fi 13
Darllen gyda’ch plentyn

Ble mae Tedi

gan Jez Alborough

Trosiad gan Gwynne Williams

Dyma stori am golli a chael hyd i degan arbennig a’r

antur sy’n digwydd rhwng y ddau. Mae’n sôn am

deimlo’n ofnus, yn drist ac yn ddiwerth hyd yn oed os

ydych yn ymddangos yn fawr a chryf.

Canllawiau

Darllenwch drwy’r awgrymiadau a dewiswch y rhai yr

hoffech eu gwneud gyda’ch plentyn. Gellir gwneud y

gweithgareddau hyn nifer o weithiau.

• Gwnewch amser i’r stori sy’n addas i

chi’ch dau.

• Chwiliwch am le cyfforddus a thawel.

14 Darllena gyda Fi
Darllen gyda’ch plentyn

• Siaradwch am y teitl a’r llun.

• Edrychwch drwy’r lluniau gyda’ch gilydd

a soniwch am yr hyn sy’n digwydd.

• Darllenwch y stori’n uchel – byddwch yn

actor/actores i ddod â’r stori’n fyw.

© Walker Books Cyf.

Darllena gyda Fi 15
Darllen gyda’ch plentyn

ˆ

• Siaradwch gyda’ch gilydd am eich hoff

ddarn yn y stori neu eich hoff ddarluniau.

• Anogwch eich plentyn i ddarllen rhai

llinellau i chi, e.e. y teitl, neu rai o eiriau Jo.

“Ew!” meddai Jo.

“Mae pobman yn ddu!

Fe hoffwn fynd adre

at mam yn y ty ˆ !”

16 Darllena gyda Fi
Darllen gyda’ch plentyn

• Pwyntiwch at “EDI!”, “ARTH!”,

“BACHGEN!”, “FFREDI!” a gofynnwch

i’ch plentyn ochneidio, sgrechian, gweiddi,

bloeddio a chrio. Dangoswch a siaradwch

am y gwahaniaeth yn yr ymatebion.

• Cymerwch eich tro i ddarllen a’i wneud yn

hwyl. Gwaeddwch linellau’r arth.

“Sut aethost ti, Edi,

mor fychan â hyn

“Alla i ddim dy fagu,

dw i’n dweud wrthyt ti!”

• Siaradwch am adeg pan oedd eich plentyn

ar goll. Sut oeddech chi’ch dau yn deimlo

Siaradwch am eiriau trist fel crio, beichio,

bloeddio a geiriau hapus fel chwerthin a

gwenu.

© Walker Books Cyf.

Darllena gyda Fi 17
Darllen gyda’ch plentyn

• Gofynnwch ‘Sut aeth Ffredi, y tedi, ar goll

yn y coed i ddechrau’

• Os bydd eich plentyn yn methu,

dywedwch y gair a chario ymlaen – y peth

pwysig yw gwneud ymgais.

18 Darllena gyda Fi
Darllen gyda’ch plentyn

• Gofynnwch i’ch plentyn ‘ydy’r arth fawr

yn edrych yn hapus gan ei fod wedi

cael hyd i’w dedi’ ‘I ble maen nhw’n

mynd’

• Siaradwch am eiriau sy’n odli – Edi,

tedi, Ffredi.

• Gofynnwch i’ch plentyn feddwl am

eiriau sy’n odli, ar gyfer y teganau, e.e.

Garth yr Arth, Miranda y Panda.

• Gofynnwch i’ch plentyn pa stori fyddai

Jo’n ei hoffi pan fydd yn ôl yn ddiogel

yn ei wely

• Sgwrsiwch am deimlo’n ofnus ac yn

ddiogel.

© Walker Books Cyf.

Darllena gyda Fi 19
Darllen gyda’ch plentyn

S.O.S! Draciwla’n Galw

gan Colin McNaughton

Trosiad gan Gwynne Williams

Mae S.O.S! Draciwla’n Galw yn dweud stori frawychus arall

drwy ailadrodd, odl a llun dramatig. Mae’r stori hon ar ffurf

barddoniaeth. Mae’r diwedd yn rhoi sioc pan fydd mam y

plentyn yn ei bryfocio am ei freuddwyd. Mae drama a

hiwmor y darn yn cynnal diddordeb y plant ac yn rhoi cyfle i

ymchwilio i ffantasi a realaeth tra’n closio at mam neu dad.

• Chwiliwch am rywle diogel iawn i

ddarllen y darn hwn.

• Siaradwch am y teitl a storiau brawychus

eraill rydych wedi’u darllen neu eu gwylio

gyda’ch gilydd yn y gorffennol.

• Penderfynwch pwy sy’n mynd i ddarllen

y darn yn uchel.

Ynghanol y nos

Yn dy wely yn saff

A’r drws wedi cloi

A’r ci ar ei raff

A’r lleuad yn llawn

Ac mae rhywbeth yn bod

Ac rwyt ti’n galw mam

A dyw mam ddim yn dod

Ac rwyt ti’n clywed swn ˆ

Yn rhywle o’th flaen

Ac rwyt ti’n gweld ystlum

Neu ddyn yn y paen

Ac rwyt ti’n tynnu’r dillad

Yn dynn dros dy ben

Ac rwyt ti’n dweud dy bader

Amen ac Amen

Ac rwyt ti yn addo

Y byddi di’n dda

Ac rwyt ti mor oer

lolipop iâ

Ac rwyt ti yn croesi

Dy fysedd i gyd

Ac rwyt ti’n gobeithio

Daw mam draw mewn pryd

Ac rwyt ti’n ei weld o

Yn codi ei law

Ac rwyt ti’n llewygu

Tan fory mewn braw . . .

Ac rwyt ti yn deffro

Ac mae’r haul yn y nen

Ac rwyt ti yn chwerthin

Nerth esgyrn dy ben

Ac rwyt ti yn canu

“Breuddwyd ‘na i gyd!”

Ac rwyt ti yn meddwl

Ti yw’r dewra’n y byd

Ac rwyt ti’n gweld mam

Yn dod mewn a dweud: “Wel!

Be ydi’r ddau dwll bach na

Yn dy wddw di, del”

20 Darllena gyda Fi
Darllen gyda’ch plentyn

• Os mai chi sydd gyntaf, ceisiwch greu

rhythm cryf.

• Daliwch y diddordeb tan i chi gyrraedd yr

uchafbwynt a gweiddi ‘Dim ond breuddwyd

oedd hyn!’

• Sgwrsiwch am freuddwydion a hunllefau a

pham ein bod weithiau’n mwynhau storiau

a ffilmiau ysbryd.

• Gofynnwch i’ch plentyn ddarllen y darn yn

uchel. Os bydd yn methu ar air, gofynnwch

beth fyddai’n addas. Neu, gofynnwch i’ch

plentyn seinio’r llythyren (llythrennau) cyntaf

a cheisio eto.

© Walker Books Cyf.

• Os bydd eich plentyn yn gwneud

camgymeriad wrth ddarllen yn uchel,

peidiwch ag ymyrryd – rhowch amser iddyn

nhw gywiro ei hun.

Darllena gyda Fi 21
Cwestiynau y mae rhieni yn eu gofyn yn aml

Pryd ddylwn i ddechrau darllen gyda fy

mhlentyn

Nid yw byth yn rhy gynnar i ddarllen i’ch plentyn nac i ganu

caneuon a rhigymau. Mae babanod a phlant bach yn mwynhau

edrych ar lyfrau lluniau a chlywed storiau’n cael eu darllen yn

uchel. Maen nhw wrth eu bodd gyda rhythmau a phatrymau

storiau a rhigymau cyfarwydd a chael pleser o glosio at rieni neu

daid a nain.

Pa fath o destun ddylwn i ei ddarllen i’m

plentyn

Unrhyw beth rydych chi’n hapus i’w ddarllen – rhigymau, llyfrau

lluniau, straeon gwerin, llyfrau gwybodaeth, comic, arwyddion,

labeli neu adroddiadau chwaraeon o’r papur newydd. Mae plant yn

hoffi’r profiad o eistedd yn agos atoch a chlywed eich llais, ac os

byddwch chi’n mwynhau’r hyn rydych yn ei ddarllen, maen nhw’n

dysgu bod darllen yn bleser.

Beth os byddan nhw’n gofyn am yr un llyfr

dro ar ôl tro

Gadewch iddyn nhw ei gael. Mae plant yn mwynhau hoff storiau.

Drwy ail ddarllen, maen nhw’n dysgu patrymau iaith ysgrifenedig a

bod darllen yn brofiad pleserus. Gwnewch yn siwr ˆ eich bod hefyd

yn cyflwyno storiau newydd i roi blas am rywbeth gwahanol iddyn

nhw.

Pryd ddylwn i ofyn i’m plentyn gymryd rhan

yn y darllen

Mae gan y rhan fwyaf o blant hoff stori. Wrth ddarllen stori sy’n

gyfarwydd i’ch plentyn, methwch ambell i air a bydd y plentyn fel

arfer yn gorffen diwedd y frawddeg neu’n ymuno mewn cymalau

ailadroddus, e.e. ‘Trowch drosodd, trowch drosodd’. Dyma

ddechrau darllen er bod eich plentyn yn ‘darllen’ o’r cof. Pan fydd

plentyn yn gyfarwydd â’r stori, gallan nhw wedyn ddechrau

adnabod y geiriau ysgrifenedig. Yn ystod y cam hwn, gall plant

ddewis cymryd y llyfr a ‘dweud’ y stori yn eu geiriau eu hunain.

22 Darllena gyda Fi
Cwestiynau y mae rhieni yn eu gofyn yn aml

Beth am y wyddor

Anogwch eich plentyn i ddysgu enwau

llythrennau a synau llythrennau. Mae

plant angen bod yn gyfarwydd â

llythrennau i adnabod eu siâp a’u

trafod wrth eu henwau. Mae

cyfresluniau o’r wyddor a llythrennau

plastig yn helpu plant i ddysgu enwau

llythrennau. Mae gêmau fel ‘Gwelaf

â’m llygad bach i’ neu frawddegau gwirion, gêmau a chaneuon

odli’n helpu plant i glywed synau llythrennau neu batrymau geiriau.

Beth os bydd fy mhlentyn yn gwneud

camgymeriad

Os bydd y ‘camgymeriad’ yn gwneud synnwyr, gadewch i’ch plentyn

gario ymlaen. Y camgymeriadau pwysig yw’r rhai nad sy’n gwneud

synnwyr. Byddai wedyn yn ddefnyddiol i chi ailadrodd y frawddeg neu

ddwy gynt gan gynnwys y camgymeriad, trafod a yw’n gwneud synnwyr

a dweud y gair cywir wrth y plentyn. Y peth pwysig wrth ddarllen yw bod

yr ystyr yn glir.

Beth ddylwn i ei wneud os na fydd fy mhlentyn

yn adnabod gair

Yn y cyfnod cynnar, dywedwch y gair i gadw ystyr y stori neu dywedwch

y swn ˆ cyntaf i weld a fydd eich plentyn yn gallu rhagweld beth yw’r gair.

Peidiwch â gofyn i’ch plentyn swnio gair anadnabyddus. Nid yw hyn fel

arfer yn gweithio yn arbennig gyda geiriau cyffredin, bach fel ‘y’, ‘hwn’,

‘chi’. Os byddwch chi’n amheus, cofiwch ddweud y gair wrth eich

plentyn.

A ddylwn i guddio’r lluniau

Na, mae lluniau’n llawn diddordeb i blant ac maen nhw’n rhoi syniad

beth sy’n digwydd yn y stori. Anogwch eich plentyn i edrych yn ofalus ar

y lluniau er mwyn eu helpu gyda’u rhagfynegiadau.

Pa mor aml ddylai fy mhlentyn ddarllen i mi

Anogwch eich plentyn i ddarllen i chi ddwy neu dair gwaith yr wythnos

ar adeg sy’n gyfleus i chi’ch dau. Mae’n bosibl y byddan nhw hefyd am

ddarllen i frawd neu chwaer iau neu i nain a thaid. Os bydd eich plentyn

yn dechrau blino, cofiwch orffen y stori a’i thrafod wedyn.

Darllena gyda Fi 23
Cwestiynau y mae rhieni yn eu gofyn yn aml

Sut alla i helpu pan fydd fy mhlentyn am

ddarllen yn dawel

Os bydd eich plant am ddarllen yn dawel, yn arbennig wrth iddyn nhw

ddarllen storiau hwy, siaradwch am eu barn ar y stori neu arddull yr

awdur/arlunydd. Daliwch i ddangos bod gennych ddiddordeb yn eu

dewis ond parchwch eu hannibyniaeth gynyddol fel darllenwyr. Mae’n

bwysig, fodd bynnag, parhau i ddarllen yn uchel i’ch plant ar ba gam

bynnag maen nhw yn eu datblygiad darllen.

Gofynnwch i’ch plentyn ddweud y gair Cymraeg wrthych am rai pethau

yn y stori neu’r llyfr lluniau. Bydd hyn yn rhoi llawer o hyder i’ch plentyn.

Mae plant ifanc yn dysgu trosglwyddo o un iaith i’r llall – yn llawer haws

nag oedolion.

Gofynnwch i’ch plentyn ddweud yn y Saesneg am stori maen nhw

wedi’i darllen yn y Gymraeg. Mae storiau traddodiadol yn lle da i

ddechrau neu lyfr lluniau rhagorol. Fel mewn pob sefyllfa o ddarllen ar

y cyd, y peth pwysicaf y gallwch ei wneud yw annog a dangos

diddordeb. Rhannu pleser yw’r ffactor pwysicaf.

Rydw i’n siarad Saesneg. Sut alla i helpu fy

mhlentyn i ddarllen yn y Gymraeg

Y peth pwysicaf i chi ei wneud yw dangos agwedd gefnogol o’r dechrau

un. Bydd hyn yn creu hyder yn eich plentyn. Mae digon o storiau,

caneuon a rhigymau yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd eich plentyn yn

cael y gorau o’r ddau fyd.

Anogwch eich plentyn i ddarllen yn uchel yn y ddwy iaith mor aml ag

sy’n bosibl – pan fyddwch chi’n siopa, yn y car neu ar y bws. Gallwch

chi ddarllen yr arwyddion yn y Saesneg a gall eich plentyn eu darllen

yn y Gymraeg.

Edrychwch ar y lluniau mewn llyfr stori Cymraeg a siaradwch amdanyn

nhw yn y Saesneg. Bydd llawer o’r ystyr yn dod yn glir drwy’r lluniau.

24 Darllena gyda Fi
Beth nesaf

Mae helpu eich plant i ddysgu darllen a sicrhau bod darllen yn rhan

barhaus o’u bywyd yn broses hir. Mae llawer o bobl a mudiadau i’ch

helpu gyda gwybodaeth a syniadau.

Cysyllwch â meithrinfa neu ysgol eich plentyn – gofynnwch am amser

i drafod gydag athro/athrawes eich plentyn.

Ymunwch â’r llyfrgell leol – mae nhw am ddim ac yn ffynhonnell dda

i gael llyfrau, tapiau, fideos a chryno ddisgiau.

Cyfeiriad: yn eich cyfeiriadur ffôn lleol neu gallwch gysylltu â

chymdeithas llyfrgelloedd cenedlaethol, CILIP, Ffôn: 01970 622174.

www.dil.aber.ac.uk/holi

Cyngor Llyfrau Cymru – mae’n rhoi gwybodaeth am ddeunyddiau

darllen sydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Cyfeiriad: Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2JB.

Ffôn: 01970 624151. www.gwales.com

Booktrust – mae’n cynnig cyngor ar rannu llyfrau ac ystod eang o

restrau llyfrau ar gyfer plant o bob oedran.

Cyfeiriad: Book House, 45 East Hill, Llundain, SW18 2QZ.

Ffôn: 020 8516 2995. www.booktrust.org.uk

Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol – mae’n cynnig cyswllt

i’r Ymgyrch Ddarllen Genedlaethol a chyngor i rieni i helpu eu plant

cyn ysgol i ddarllen. www.literacytrust.org.uk

Ffederasiwn Grwpiau Llyfrau Plant – gall roi rhestrau llyfrau am ddim

i chi.

Cyfeiriad: Drwsgobaith, Ty ˆ Ddewi, Sir Benfro, SA62 6DA.

Ffôn: 01437 720230. www.fcbg.org.uk

Cymdeithas Brydeinig Dyslecsia – gall roi cyngor os bydd gan eich

plentyn anawsterau darllen penodol.

Cyfeiriad: 98 London Road, Reading, Berkshire, RG1 5AU.

Ffôn: 0118 966 2677. www.bda-dyslexia.org.uk

Bwrdd yr Iaith Gymraeg – mae ganddo wybodaeth i deuluoedd ar

bob agwedd o ddwyieithrwydd.

Cyfeiriad: Siambrau’r Farchnad, 5-7 Heol Eglwys Fair, Caerdydd,

CF10 1AT. Ffôn: 02920 87 8000. www.bwrdd-yr-iaith.org.uk

Mudiad Ysgolion Meithrin – mudiad o grwpiau cyn ysgol cyfrwng

Cymraeg a grwpiau rhieni/gwarchodwyr a phlant sy’n hybu

dwyieithrwydd a llythrennedd cynnar.

Cyfeiriad: 145 Albany Road, Caerdydd, CF24 3NT.

Ffôn: 02920 436800. www.mym.co.uk

Cymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol Cymru – mae’n annog

rhieni i ddeall a chyflawni gofynion eu plant, drwy grwpiau cyn

ysgol o safon uchel a thrwy stori a rhigwm.

Cyfeiriad: Ty ˆ Ladywell, Y Drenewydd, Powys, SY16 1JB.

Ffôn: 01686 624 573. www.walesppa.org

Cymdeithas Genedlaethol Gwarchod – mae’n hybu gwarchod

cofrestredig, safonol er mwyn i blant gael gofal ac addysg yn eu

cartrefi eu hunain.

Cyfeiriad: NCMA, 4 Ffordd y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9LJ.

Ffôn: 02920 342336. www.ncma.org.uk

Darllena gyda Fi 25
Cysylltwch â ni

Cyhoeddir y llyfr hwn gan yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol fel rhan o

Strategaeth Genedlaethol Sgiliau Sylfaenol Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Gall yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol cynnig gwybodaeth am help i

oedolion gyda’u darllen a’u hysgrifennu eu hunain. Gall roi

gwybodaeth am gyrsiau Llythrennedd Teuluoedd. Os oes gennych

blant oed cyn ysgol, gall yr Asiantaeth ddweud wrthych am y rhaglen

Chwarae a Iaith newydd.

I gael mwy o wybodaeth, gallwch gysylltu âg:

Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol,

Commonwealth House, 1-19 New Oxford Street,

Llundain WC1A 1NU

Ffôn: 020 7405 4017 • Ffacs: 020 7440 7770

e-bost: walesenquiries@basic-skills.co.uk

www.sgiliau-sylfaenol-cymru.org

I gael mwy o gopïau o’r llyfr hwn, gallwch gysylltu âg:

Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol, Admail 524

Llundain WC1A 1BR

Ffacs: 0870 600 2401

e-bost: walesenquiries@basic-skills.co.uk

A1346

26 Darllena gyda Fi