Darllena gyda Fi - [PDF - 4.32 Mb] - Arsyllfa Dysgu a Sgiliau Cymru
Darllena gyda Fi - [PDF - 4.32 Mb] - Arsyllfa Dysgu a Sgiliau Cymru
Darllena gyda Fi - [PDF - 4.32 Mb] - Arsyllfa Dysgu a Sgiliau Cymru
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Cyflwyniad

Y rheolau aur

• Gwnewch amser darllen yn bleser i chi a’r plentyn.

• Dechreuwch rannu llyfrau hyd yn oed cyn i’ch plentyn wybod sut i ddal llyfr.

• Dysgwch ganmol ymdrechion eich plentyn.

• Darllenwch lyfrau y mae eich plentyn yn eu hoffi a pheidiwch â gosod ‘sefyllfa o

brawf’.

• Canolbwyntiwch ar yr hyn sy’n gywir ac nid ar gamgymeriadau.

• Daliwch i ddarllen hyd yn oed ar ôl iddyn nhw ddysgu darllen yn annibynnol.

• Stopiwch pan fyddan nhw wedi cael digon – nid cosb yw hyn i fod!

I rai plant, bydd dysgu darllen yn digwydd yn hawdd ac yn sydyn. I eraill, bydd angen

mwy o amser a chefnogaeth. Pa un bynnag, bydd eich help yn ddylanwad cryf ar

ddatblygiad eich plentyn fel darllenydd. Canmoliaeth, anogaeth, sicrwydd a phleser

yw’r ffactorau pwysig i bob plentyn wrth iddyn nhw ddatblygu’n ddarllenwyr hyderus.

6 Darllena gyda Fi