Darllena gyda Fi - [PDF - 4.32 Mb] - Arsyllfa Dysgu a Sgiliau Cymru
Darllena gyda Fi - [PDF - 4.32 Mb] - Arsyllfa Dysgu a Sgiliau Cymru
Darllena gyda Fi - [PDF - 4.32 Mb] - Arsyllfa Dysgu a Sgiliau Cymru
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Darllen gyda’ch plentyn

S.O.S! Draciwla’n Galw

gan Colin McNaughton

Trosiad gan Gwynne Williams

Mae S.O.S! Draciwla’n Galw yn dweud stori frawychus arall

drwy ailadrodd, odl a llun dramatig. Mae’r stori hon ar ffurf

barddoniaeth. Mae’r diwedd yn rhoi sioc pan fydd mam y

plentyn yn ei bryfocio am ei freuddwyd. Mae drama a

hiwmor y darn yn cynnal diddordeb y plant ac yn rhoi cyfle i

ymchwilio i ffantasi a realaeth tra’n closio at mam neu dad.

• Chwiliwch am rywle diogel iawn i

ddarllen y darn hwn.

• Siaradwch am y teitl a storiau brawychus

eraill rydych wedi’u darllen neu eu gwylio

gyda’ch gilydd yn y gorffennol.

• Penderfynwch pwy sy’n mynd i ddarllen

y darn yn uchel.

Ynghanol y nos

Yn dy wely yn saff

A’r drws wedi cloi

A’r ci ar ei raff

A’r lleuad yn llawn

Ac mae rhywbeth yn bod

Ac rwyt ti’n galw mam

A dyw mam ddim yn dod

Ac rwyt ti’n clywed swn ˆ

Yn rhywle o’th flaen

Ac rwyt ti’n gweld ystlum

Neu ddyn yn y paen

Ac rwyt ti’n tynnu’r dillad

Yn dynn dros dy ben

Ac rwyt ti’n dweud dy bader

Amen ac Amen

Ac rwyt ti yn addo

Y byddi di’n dda

Ac rwyt ti mor oer

lolipop iâ

Ac rwyt ti yn croesi

Dy fysedd i gyd

Ac rwyt ti’n gobeithio

Daw mam draw mewn pryd

Ac rwyt ti’n ei weld o

Yn codi ei law

Ac rwyt ti’n llewygu

Tan fory mewn braw . . .

Ac rwyt ti yn deffro

Ac mae’r haul yn y nen

Ac rwyt ti yn chwerthin

Nerth esgyrn dy ben

Ac rwyt ti yn canu

“Breuddwyd ‘na i gyd!”

Ac rwyt ti yn meddwl

Ti yw’r dewra’n y byd

Ac rwyt ti’n gweld mam

Yn dod mewn a dweud: “Wel!

Be ydi’r ddau dwll bach na

Yn dy wddw di, del”

20 Darllena gyda Fi