Gorffennaf - Tafod Elai
Gorffennaf - Tafod Elai
Gorffennaf - Tafod Elai
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
FFYNNON TAF NANTGARW

A GWAELOD Y GARTH

Gohebydd Lleol: Martin Huws

029 20 811413 neu martin@huws1.fsnet.co.uk

DWYLO DROS Y MÔR

Llongyfarchiadau i Scott McKenzie o

Ffynnon Taf sy wedi codi £3,000 ar

gyfer achos arbennig.

Ar Fehefin 25 hedfanodd Scott,

arweinydd criw o Goleg yr Iwerydd, i

Kenya, i Nairobi cyn cyrraedd Kiberia,

un o’r slymiau mwya ar gyrion y ddinas.

Maen nhw wedi bod yn gweithio

mewn cartre plant amddifaid, yn dysgu

drama, cerdd, mathemateg a Saesneg

iddyn nhw a mynd â nhw ar deithiau.

Diodde y mae rhai o’r plant o AIDS.

Dywedodd Scott, arweinydd y project,

y byddai’r arian gafodd ei godi’n talu

nid yn unig gostau llety a bwyd ond

hefyd yn helpu talu am lyfrau, papur

ysgrifennu ac offer chwaraeon.

“Mae’r ymateb wedi bod yn

anhygoel,” meddai. Roedd yn

ddiolchgar, meddai, i unigolion,

ysgolion, capeli a chwmni Asda am

adael i’r criw bacio bagiau siopa.

Y cam nesa, meddai, fyddai teithio i

Dar es Salaam yn Tanzania, i gartre

plant amddifaid arall. Nid dysgu bydd yr

unig her ond helpu codi ysgol ar bwys y

cartre. Pob lwc iddyn nhw.

Y PARATOAD GORAU

Oedd, roedd yr amser wedi dod ar gyfer

y bererindod flynyddol. Y tro hwn i Faes

y Tair Sir yn Nantyci ger Caerfyrddin.

Ar y bore Sadwrn ces i awgrym cynnil

yn fy nghlust fod eisie cyrraedd Maes

Eisteddfod yr Urdd yn gynnar ar gyfer y

rhagbrofion. Rhaid ‘mod i wedi gyrru

ychydig yn glou. Aethon ni heibio

ambiwlans ddwywaith ar yr hewl rhwng

Pont Abraham a Chaerfyrddin.

Ond och a gwae. Doedd y rhagbrofion

ddim yn dechre tan 10.15. Yn Stiwdio 3

wedyn clywon ni’r canlyniad wyth yn

wreiddiol yn cystadlu yn y Ddrama

Gerdd ond dim ond pump wedi cyrraedd

y Maes (sabotage?). Tri’n cyrraedd y

llwyfan, gan gynnwys Plasmawr.

Whare teg, y pafiliwn bron yn llawn

yn y prynhawn. Codes i ‘nghalon pan

weles i’r beirniad, cynactor opera

sebon, gwallt hir a helmed beic modur o

dan ei gesel. Gobeth, y byddai rhywbeth

modern yn apelio.

Dim gobeth caneri. Aelwyd yr Ynys

â’u perfformiad traddodiadol oedd yn

gynta a Plasmawr (Chicago) yn ail.

Coleg y Drindod yn perfformio

Guernica’n drydydd.

I fi, roedd Plasmawr yn fwy aeddfed

14

Rhai o blant Kiberia

nag y byddai rhywun yn ei ddisgwyl a’u

perfformiad yn fwy o gyfanwaith. Ond

wy’n unochrog. Walle bod mwy o

amrywiaeth yng ngwaith yr enillwyr,

comedi a thrasiedi.

Ta beth, mae un cysur. Fel y

dywedodd ffrind, Albanwr oedd ddim yn

deall yr iaith i gyd ond yn deall pwynt

pwysig, mae’r Urdd yn baratoad da ar

gyfer bywyd. Mae’n dysgu’n pobol ifanc

ni shwd i golli’n raslon. Amen.

BABI: DIHANGFA WYRTHIOL

Mae teulu o Waelodygarth yn lwcus

am fod babi 10 mis oed wedi cael

dihangfa wyrthiol.

Un bore cwympodd tanc dŵr drwy’r

nenfwd a phwnio corlan chwarae Amy

Devonish. Yn wyrthiol, doedd hi ddim

yno am fod ei mam Roshan wedi ei

dihuno’n hwyr.

Mewn gwesty mae’r teulu wrth i

arbenigwyr ymchwilio i achos y

ddamwain yn y tŷ lle gynt oedd capel

Salem. “Pan glywais i’r sŵn o’n i’n

gwybod fod rhywbeth mawr yn bod,”

meddai’r fam. “Yr arwydd cynta oedd

llwch yn cwympo o’r nenfwd. Cydiais i

yn Amy a rhedeg mas o’r tŷ.

“’Se Amy wedi bod yn ei lle arferol, fe

fyddai wedi bod yn hunlle.”

Dywedodd y tad, Stan, sy’n rhedeg

cwmni gwerthu gwin, y byddai’r tŷ’n

cael ei atgyweirio o fewn chwe mis.

“Mae pawb yn falch na chafodd neb ei

anafu. Fyddai dim gobaith wedi bod ‘da

hi.”

HWB I GLWB IEUENCTID

Mae clwb ieuenctid ar ei ennill am fod

ymgyrchydd wedi ennill gwobr

Brydeinig.

Cafodd y Cynghorydd Cynthia Dyke

£1,000 am ymgyrchu yn erbyn troseddu

ac am wella’r amgylchedd yn ardal Tŷ

Rhiw. “Gyda’r arian fe fyddwn ni’n

prynu offer ar gyfer y clwb ieuenctid,”

meddai.

Dywedodd Cydlynydd Golwg ar

Droseddau Carl Butler: “Mae’r wobr yn

cydnabod ei gwaith caled hi a’r grŵp ers

18 mlynedd. Er gwaetha popeth, maen

nhw wedi taclo troseddu ac anhrefn yn

yr ardal ...”

Y GAMP O HYBU’R IFANC

Mae cynllun ar droed i feithrin

chwaraewyr rygbi ifanc y cylch. Ers

wythnosau mae swyddogion datblygu

Gleision Caerdydd, Ben Rose ac Adrian

Evans, wedi bod i’r ysgolion cynradd yn

rhoi cyfle i blant ymarfer.

Ar Orffennaf 8 mae sesiwn arbennig o

10am ymlaen ar gyfer plant o dan saith

ac wyth oed yng Nghlwb Rygbi Ffynnon

Taf. Y rheswm am hyn yw penderfyniad

y clwb i ailffurfio tîm plant. Ym Medi y

bydd y tymor yn dechrau a Rob Mota

fydd yn hyfforddi. Pob lwc iddo.

TROI SIOP YN SWYDDFA

Yn rhifyn Ebrill sonion ni am y diwrnod

pan fu raid i Neil o hen siop Spar gau am

y tro ola. Am wythnos roedd arwydd

wedi bod yn ffenest ei siop: “Wy’n

diolch i bawb sy wedi ‘nghefnogi i ers

10 mlynedd.”

Ar y pryd doedd neb yn siŵr beth

fyddai’n digwydd. Mae’r dyfalu ar ben

y cyngor wedi cymeradwyo cais

cynllunio cwmni marchnata Smarter

Splash fydd yn troi’r siop yn swyddfa.

GWREIDDYN Y MATER

Syniad y prifathro Jonathan Davies oedd

gofyn i wyth o blant Ysgol Gynradd

Ffynnon Taf helpu Josie Thomas, David

a Molly Mullins i blannu blodau ar y

lawnt o flaen neuadd y pentre.

Felly diolch i Joshua Phillips, Lewis

Edwards, Kallum Rossiter, Jack Jones,

Jessica Knight, Bethan Hurndall,

Cameron Rennie a Lottie Wigg am

helpu.

DIGWYDDIADAU

CAPEL BETHLEHEM, Gwaelodygarth,

10.30am. Gorffennaf 1: Parchedig

Gar eth Re ynolds, C ymundeb ;

Gorffennaf 8: Parchedig Jill Hayley

Harris; Gorffennaf 15: Gwasanaeth

Ardal: Gorllewin Caerdydd; Gorffennaf

22: Parchedig Denzil John; Gorffennaf

29: Parchedig R Alun Evans.

CYLCH MEITHRIN Ffynnon Taf, 9.30

12, ddydd Llun tan ddydd Gwener.

Taliadau: £4.75 y sesiwn. Ti a Fi, 1.15

2.30 bob dydd Mawrth. Taliadau: £1.50

y sesiwn.

CYMDEITHAS ARDDWROL Ffynnon

Taf a’r Cylch: ddydd Mawrth cynta’r

mis, Clwb CynAelodau’r Lluoedd

Arfog, Glanyllyn. Manylion oddi wrth

Mrs Toghill, 029 20 810241.